{"id":102,"date":"2019-03-13T20:20:11","date_gmt":"2019-03-13T20:20:11","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=102"},"modified":"2019-03-13T20:32:07","modified_gmt":"2019-03-13T20:32:07","slug":"ail-hanner-bywyd-silyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/","title":{"rendered":"Ail hanner bywyd Silyn"},"content":{"rendered":"<p><em>Dyma Ail hanner bywyd Silyn. <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/\">Darllenwch ran 1.<\/a><\/em><\/p>\n<p>Ac yntau a&#8217;i wraig wedi bod mor hapus yn Nhanygrisiau, dyfalais sawl gwaith beth barodd iddynt adael y lle a mudo i&#8217;r Barri. Rhesymau economaidd oedd yn gyfrifol. Yr oedd y dirwasgiad yn y fasnach adeiladu wedi cychwyn ers 1902, ac wedi taro&#8217;r diwydiant llechi yn 1903. Parhau i ddirywio yn gyson a wnaeth tan 1913. Gyda cyflogau yn isel, diweithdra yn rhemp, dioddefodd llefydd fel Tanygrisiau yn enbyd. Mudodd y rhai a fedrai i&#8217;r maes glo yn Ne Cymru, a lleihaodd aelodau Eglwys Tanygrisiau yn flynddol. &#8220;Y mae yma dlodi enbyd, a minnau yn ei ganol yn ddigon drwg fy hwyl&#8221; meddai Silyn mewn llythyr at fy nhaid ym 1909. Effeithodd ar ei iechyd, a dioddefodd o&#8217;r clefyd melyn. Teimlai fod criw yr ILP yn llaesu ei dwylo a falle mai dyma pam y collodd flas ar wleidyddiaeth, er na phylodd ei s\u00eal dros Sosialaeth. Meddai mewn llythyr at gyfaill,<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Y mae&#8217;n wir yn amhosibl i&#8217;r eglwys hon yn ei chyflwr presennol gynnal gweinidog, ac y mae meddwl am fod yn faich ar y gymdeithas yn annioddefol i mi.&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<p>Roedd yn dal i deimlo fel hyn yn 1912, ac yn chwilio am swydd arall. Daeth gwaredigaeth am dymor byr, wrth i David Davies, Llandinam gychwyn mudiad i fod yn Gofeb Genedlaethol i Edward VII, a&#8217;r gofeb fyddai cronfa i ymladd TB yng Nghymru. Tom Jones oedd Ysgrifennydd a Threfnydd y mudiad. Gofynnodd David Davies a fyddai Silyn yn fodlon mynd ar daith i&#8217;r America efo C\u00f4r Meibion y Moelwyn i gasglu arian i&#8217;r gronfa, a theithiodd Silyn i Ganada ac America a bu&#8217;r daith yn llwyddiant. Hwyliodd yn \u00f4l o Efrog Newydd ar Ebrill 7ed, 1912 gan groesi&#8217;r darn o&#8217;r m\u00f4r lle byddai&#8217;r Titanic yn suddo wythnos yn ddiweddarach. Pan ddaeth adref, roedd wedi gwella o&#8217;r clefyd melyn. Roedd David Davies wedi talu ei gyflog am chwe mis, a rhoddodd ganpunt ar ben hynny iddo am ei wasanaeth.<\/p>\n<p>Agorodd drws arall iddo. Roedd Prifysgol Cymru wedi sefydlu Bwrdd Penodiadau i gynorthwyo myfyrwyr i gael gwaith wedi iddynt adael y coleg. Silyn a benodwyd i&#8217;r swydd o ysgrifennydd y Bwrdd. Roedd wedi bod yn gwneud y gwaith yn Nhanygrisiau yn wirfoddol. Fe&#8217;i dewiswyd allan o gant o ymgeiswyr. Daeth yn amser ymadael \u00e2 Thanygrisiau a setlo yn Y Barri.<\/p>\n<p>Yng Nghaerdydd yr oedd Cofrestrfa&#8217;r Brifysgol, ond cafodd Silyn gartref yn agos at d\u0177 Tom Jones yn Ionawr 1913. (Gyda llaw, Silyn oedd yn gyfrifol am ddenu R. Williams Parry o Gefnddwysarn i&#8217;r Barri) O fewn llai na blwyddyn wedi iddo gyrraedd, digwyddodd tamchwa Senghennydd lle collodd 439 o ddynion eu bywydau. Gwyddai Silyn fod pobl o Ffestiniog yn gweithio yn y pwll ac aeth yno ar ei union. Cyfarfu hen gyfaill o chwarelwr oedd yn chwilio am ei fab, ond er i Silyn fynd yno bob dydd am ddiwrnodau, ni ddaethpwyd o hyd i&#8217;r mab.<\/p>\n<p>Llwyddodd Silyn yn ei swydd ond yna daeth y Rhyfel Mawr. Er yn credu mewn heddwch rhwng gwerinoedd byd, ac er iddo gael ei siomi fod gweithwyr gwledydd yn ymladd ei gilydd, bu ei ramantiaeth yn drech nag o. &#8220;Twrnameint ydoedd brwydrau bywyd i Silyn drwy ei oes a thrwy bob oes&#8221; meddai R. Alun Roberts. Cynigiodd ymuno \u00e2&#8217;r Fyddin er ei fod yn 43 oed, ond nid oedd ei iechyd yn ddigon da. Bu&#8217;n annerch cyfarfodydd recriwtio gyda Owen Thomas i gael dynion i ymuno \u00e2&#8217;r Gatrawd Gymreig, a helpodd i ffurfio Adran Gymreig o&#8217;r OTC (<em>Officer&#8217;s Training Corps<\/em>) gan gael myfyrwyr i ddod yn swyddogion. Pan gasglodd Cymry America bum mil o bunnau i Lloyd George i helpu&#8217;r Cymry, gofynnodd Lloyd George i Silyn fod ar y pwyllgor i weinyddu&#8217;r arian. Sefydlwyd ffatrioedd i weu sannau Blaenau Ffestiniog, Talysarn a Bethesda.<\/p>\n<p>Roedd criw o Gymry diwylliedig yn byw yn Y Barri, ac o&#8217;r criw hwn y deilliodd y cylchgrawn, <em>Welsh Outlook<\/em> yn Ionawr 1914 wedi syniad gan Tom Jones y dylid cael cylchgrawn am fywyd Cymru i&#8217;r di-Gymraeg. David Davies oedd yn ei ariannu, ac roedd Silyn ar y Bwrdd Golygyddol.<\/p>\n<p>Erbyn 1917, roedd y rhyfel wedi rhygnu &#8216;mlaen ers tair blynedd pan laddwyd Hedd Wyn, bardd a adwaenai Silyn yn dda ers dyddiau Tanygrisiau. Cyhoeddwyd pedwar englyn o waith Silyn yn <em>Welsh Outlook<\/em> am Hedd Wyn, ac roedd Silyn yn awyddus i gael cerflun ohono yn ei bentref genedigol. Roedd wedi ymweld \u00e2&#8217;i fedd yn Fflandrys fwy nac unwaith ac wedi cael y Comisiwn Beddau i ychwanegu&#8217;r geiriau &#8216;Y Prifardd Hedd Wyn&#8217; ar y garreg. Cyhoeddodd &#8216;Cerddi&#8217;r Bugail&#8217; sef gwaith Hedd Wyn yn 1918, llyfr a aeth i ail argraffiad. Silyn oedd ysgrifennydd y Pwyllgor Coffa Cenedlaethol i Hedd Wyn, ac i&#8217;r gronfa hon aeth elw Cerddi&#8217;r Bugail. Erbyn 1923 yr oedd cerflun o Hedd Wyn, o waith Merrifield, wedi ei osod ganllath o fan geni Hedd Wyn yn Traws.<\/p>\n<p>Wedi&#8217;r Rhyfel, ail-drefnwyd y Bwrdd Penodiadau gan mai&#8217;r pwyslais oedd cael swyddogion o&#8217;r lluoedd arfog yn \u00f4l mewn gwaith. Silyn oedd y swyddog dros Gymru, ac nid swydd hawdd mohoni. Gweithiodd Silyn yn galed yn y gwaith tan 1922 gan sefydlu gweithdai mewn hanner dwsin o lefydd ar draws Cymru i&#8217;r cyn filwyr ddysgu pob math o wahanol grefftau gyda pedwar mil a hanner wedi cael hyfforddiant mewn rhyw grefft neu&#8217;i gilydd. Tristwch pethau oedd prinder swyddi yn ystod y 20au.<\/p>\n<figure id=\"attachment_105\" aria-describedby=\"caption-attachment-105\" style=\"width: 768px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-105 size-full\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/mary-silyn.jpg\" alt=\"\" width=\"768\" height=\"1024\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/mary-silyn.jpg 768w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/mary-silyn-225x300.jpg 225w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-105\" class=\"wp-caption-text\">Mis Mai 1927. Mary Silyn sydd wrth y delyn a&#8217;r dyn ydi J F Rees, darlithydd cyntaf i gynnal dosbarth i chwarelwyr ym Mlaenau Ffestiniog ar Hanes Diwydiannol.<\/figcaption><\/figure>\n<p>Yn ystod y Rhyfel, roedd Mary Silyn wedi ei phenodi yn Drefnydd y Land Army i ferched yng Nghymru. Symudodd i&#8217;w hen gartref yn Llanrhychwyn, a phrynodd Silyn y fferm. Yma bu Mary&#8217;n byw gyda&#8217;r plant a dod i&#8217;r Barri pan fyddai angen iddi. Roedd Silyn wrth ei fodd efo&#8217;r bywyd gwledig,<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Nis gwn pa ryw falltod ddaeth arnaf erioed i awyddu am goleg a galwedigaeth sy&#8217;n rhoi cur yn fy mhen, a minnau wedi&#8217;m galw i drin y ddaear a bwyta fy mara trwy chwys fy wyneb.&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<p>Cawsant gi gan dad Hedd Wyn, ac roedd y teulu yn gyflawn wedi dyfodiad Mot.<\/p>\n<p>Ddechrau 1919, mae Welsh Outlook yn rhoi sylw i fater Ymreolaeth i Gymru gan gyhoeddi copi o Fesur Ymreolaeth E T John. Meddai Silyn mewn llythyr at Tom Jones,<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Yr wyf am ymuno \u00e2&#8217;r Undeb Cymru Rydd newydd a gwneud popeth a allaf i gael Ymreolaeth i Gymru&#8230;. Cyhyd ag y bo tynelau rhwng Caerdydd a Llundain, bydd y <em>damned moles<\/em> yn symud yn \u00f4l ac ymlaen o hyd&#8230;. Os caf fy nghicio allan o&#8217;r Weinyddiaeth Lafur am gymryd rhan ry amlwg, rhaid ei ddioddef, dyna&#8217;r cwbl.&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<p>Yn Y Barri y cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 1920 a gwnaed Silyn yn Gadeirydd y Pwyllgor Ll\u00ean. A&#8217;r rhyfel ar ben, nid trechu&#8217;r Almaenwyr oedd y nod mwyach ond &#8216;gwneud y wlad yn un gymwys i arwyr fyw ynddi&#8217;. Addysg a diwygiadau cymdeithasol oedd y cyweirnod bellach a dechreuodd y Sosialydd a&#8217;r gwerinwr ymddeffro yn Silyn unwaith eto. Roedd tuedd ynddo i fwynhau bod yn \u0175r mawr yng nghwmni gw\u0177r mawr ac yr oedd ei waith fel Swyddog Gwladol yn rhoi digon o gyfle iddo, megis ei ddau weithdy i Dywysog Cymru yn 1921. Ond nid yma oedd ei galon. Meddai wrth Tom Jones, wrth s\u00f4n am Lafur yn paratoi i lywodraethu, a&#8217;r <em>Miner&#8217;s Federation<\/em> yn dewis un graddedig yn asiant iddynt,<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;y mae&#8217;n iechyd i galon dyn siarad \u00e2 hwy [y dynion ifanc] ar \u00f4l rhagrith a pharchusrwydd felltith yn y cylchoedd swyddogol yr wyf yn troi ynddynt yn awr&#8230;.&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<p>Soniodd fod y tir wedi ei fraenaru a daeth amser bwrw&#8217;r had i mewn,<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Petaswn bymtheg mlynedd yn ieuengach, ni phetruswn. Yr wyf yn gwneud fy ngorau i wthio&#8217;r dynion ieuanc yn eu blaenau.&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<p>Daeth swydd Cofrestrydd y Brifysgol yn wag ac yr oedd gan Silyn awydd ei chael gan y gallai fod yn gyswllt byw rhwng y Brifysgol a phobl Cymru. Yn anffodus, yr oedd John Rowlands yn \u0175r pur ddylanwadol ar y pryd, ac roedd Silyn wedi pechu yn ei erbyn. Heb wybod pwy oedd, roedd gwr dieithr yn siarad efo Silyn dros bryd mewn gwesty. Roedd o ar ei ffordd i&#8217;r Llys i bleidleisio am Gofrestrydd am iddo gael cais personol gan John Rowlands i fwrw ei bleidlais yn erbyn &#8216;y dyn ofnadwy &#8216;na, Silyn Roberts \u2013 ei fod yn Sosialydd ac yn Folshefydd nad oedd yn byw gyda&#8217;i wraig&#8217;! Afraid deud, ni chafodd Silyn mo&#8217;r swydd.<\/p>\n<p>Gyda llai o filwyr clwyfedig yn chwilio am waith, lleihaodd cylch gwaith Silyn, ac ym 1922, daeth llythyr o Fangor i ddweud iddo gael ei benodi yn Athro Dosbarthiadau Tu Allan i Goleg y Brifysgol. Cychwynnodd ar y swydd honno ar Hydref y cyntaf. Yn ystod y Gaeaf cyntaf, roedd ganddo bedwar dosbarth tiwtorial yn astudio Economeg \u2013 ym Mrynrefail, Edern, Dolwyddelan a Thrawsfynydd. Yn Llanrhychwyn y bu&#8217;n byw ar y cychwyn, ond aeth y teithio yn ormod, yn enwedig dringo&#8217;r llechwedd o Drefriw i T\u0177 Newydd ymhob tywydd. Roedd dros ei hanner cant bellach. Prynodd d\u0177 yn Ffordd y Coleg a&#8217;i alw yn &#8216;Rhoslas&#8217; ar \u00f4l y darn o dir lle roedd ei gartref yn blentyn. Wedi ei farw, prynodd y WEA y t\u0177, dyna lle bu ei swyddfa am weddill y ganrif.<\/p>\n<p>Yn y Barri ym 1906 y sefydlwyd y gangen Gymreig gyntaf, ac yn Wrecsam yn 1908 y cafwyd y dosbarth cyntaf yn y Gogledd, ond roeddent yn dal i gael eu gweinyddu o Loegr. Rhoddodd Silyn dystiolaeth ym 1916 i Ddirprwaeth Frenhinol oedd yn chwilio i waith Prifysgol Cymru, a chofiai am ei ddosbarthiadau cynnar ym Mlaenau Ffestiniog.<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Y mae mudiad addysg fel hwn [WEA] yn datblygu cymeriad cenedl, peth pwysicach hyd yn oed na datblygu ei deall&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<p>meddai Silyn. Hoffai&#8217;r adnod yn Ioan 8, 38 a phregethai arni yn aml, &#8216;A chwi a gewch wybod y gwirionedd, a&#8217;r gwirionedd a&#8217;ch rhyddha chwi.&#8217;<\/p>\n<p>Chwarelwyr a gweithwyr tir oedd y rhan fwyaf o aelodau y dosbarthiadau cyntaf. Yn Gymraeg y darlithiau Silyn i&#8217;w ddosbarthiadau, gan roi tystiolaeth ym 1925 i&#8217;r Pwyllgor ar Le&#8217;r Gymraeg yn Addysg Cymru, gan nodi prinder gwerslyfrau Cymraeg. Ar Economeg y byddai&#8217;n darlithio amlaf, ond roedd ganddo ddosbarthiadau mewn Llenyddiaeth Saesneg hefyd, ac yr oedd fwy yn ei elfen yn trin llenyddiaeth. Meddai David Thomas,<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Weithiau, byddai awr o drafodaeth ar economeg yn arwain i adrodd darnau helaeth o Shelley, ei gerddi mwyaf chwyldroadol, a Silyn yn llwyddo i roddi t\u00e2n mewn pwnc a allai fod yn ddigon sych.&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<p>Aeth Silyn ati i sefydlu Rhanbarth Gogledd Cymru o&#8217;r WEA, gan ysgrifennu ysgrifau i&#8217;r Dinesydd a&#8217;r Undeb Addysg y Gweithwyr. Daeth i fod yn 1924 gyda Thomas Rees, Prifathro Bala Bangor yn Gadeirydd a Silyn yn ysgrifennydd. Cafwyd stafell yn y Brifysgol ac aeth Silyn i brynu st\u00f4l i&#8217;r teipist am swllt, cwpwrdd a chrac ynddo am chwe swllt a chafwyd bargen wrth gael teipiadur. Dyna gychwyn y WEA yng Ngogledd Cymru. Bu raid canfod arian i dalu cyflogau yr athrawon, gan i&#8217;r Bwrdd Addysg newid ei bolisi ym 1924. Llwyddodd Silyn i gael cefnogaeth gan Undebau Llafur, undebau athrawon, cymdeithasau cydweithredol a chyfeillion ymhob man.<\/p>\n<p>Rhwng 1925 a 1930, sefydlodd Silyn 14 cangen newydd. Erbyn 1930, roedd y WEA yn gyfrifol am 63 dosbarth. Roedd y Cyngor Cerdd yn gyfrifol am 7 a cholegau Bangor ac Aberystwyth yn gyfrifol am 42 yng Ngogledd Cymru, ond dosbarthiadua WEA oeddent i gyd yn yr ystyr mai&#8217;r WEA oedd tu cefn iddynt megis o&#8217;r dechrau. Tyfodd y myfyrwyr o 450 i 2,300 \u2013 y cyfartaledd uchaf yn \u00f4l y boblogaeth yn yr holl deyrnas. Roedd Rali yn cael ei chynnal bob blwyddyn, Ysgolion Bwrw Sul ac Ysgolion Undydd ym Mangor. Aent ar daith feic i fannau diddorol, heb s\u00f4n am Ysgolion Haf Coleg Harlech. Silyn a Williams Parry oedd yr athrawon am y pythefnos.<\/p>\n<p>Wedi dod i fyw i Fangor, ail afaelodd Silyn yn ei waith llenyddol, gan sgwennu bywgraffiad i daid David Davies Llandinam, trosi drama gan J O Francis, Gwyntoedd Croesion. Bu&#8217;n barddoni hefyd.<\/p>\n<p>Yn ei swydd efo&#8217;r Bwrdd Penodiadau, ni allai ymwneud llawer \u00e2 gwleidyddiaeth, ond bwriodd iddi eto wedi dod i fyw i Fangor. Ef oedd Trysorydd Ffederasiwn Pleidiau Llafur Gogledd Cymru ac ef oedd ymgeisydd Llafur am y Cyngor Sir yn un o wardiau Bangor, er na fu&#8217;n llwyddiannus. Bu&#8217;n annerch sawl cyfarfod a gweithiodd ar bapur Llafur, Y Dinesydd Cymreig, e.e. cyfres o 16 o ysgrifau ar &#8216;Fethiant Cyfalafiaeth&#8217; a dwy ysgrif yn 1929 ar &#8216;Bywyd yn Rwsia&#8217;.<\/p>\n<p>Pan glywodd am y Chwyldro yn Rwsia ym 1917, teimlodd fod chwyldro debyg i&#8217;r Chwyldro Ffrengig wedi digwydd, un mwy bendithiol gan ei fod yn un economaidd yn ogystal ag yn un boliticaidd. O&#8217;r diwedd, roedd Sosialaeth wedi ei sefydlu yn un o wledydd mawr y byd.<\/p>\n<p>A dyma ni&#8217;n \u00f4l i <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/\">gychwyn yr erthygl hon<\/a>, yn Ystafell Ddarllen yr Amgueddfa Brydeinig efo Silyn un ochr i fwrdd, a Lenin yr ochr arall ar ddechrau&#8217;r ugeinfed ganrif.<\/p>\n<p>Un dydd, trodd Lenin at Silyn a dweud yn gynhyrfus, &#8220;Karl Marx has been reading this book!&#8221; Vladimir Ilyich Ulyanov oedd enw&#8217;r tramorwr ifanc, a phan ddigwyddodd Chwyldro Rwsia, sylwodd Silyn mai dyma briod enw Lenin. Ysgrifennodd at Lysgennad Rwsia yn Llundain i gadarnhau hyn.<\/p>\n<p>Cofiwn hefyd be ddywedwyd am y Silyn ifanc, os oedd cynnwrf, roedd rhaid iddo gael bod yn rhan ohono. Ysai Silyn am gael gweld y wlad Sosialaidd, a daeth y cyfle yn 1930 pan oedd yn nesau at ei 60 oed. Dan Undeb Cymdeithasau Cydweithredol Rwsia, trefnodd dyn o Gonwy, T A Leonard, daith i&#8217;r wlad, ac ymunodd Silyn \u00e2 hwy. Pan aeth Leonard yn wael yn Leningrad a gorfod mynd adref, dewiswyd Silyn fel arweinydd y parti. Sgwennodd beth am y profiad i&#8217;r Goleuad wrth hwylio o Lundain,<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Soviet y morwyr sy&#8217;n llywodraethu&#8217;r llong ac yn rhoi ei orchmynion i&#8217;r capten!&#8230;. Ar y llong, y mae&#8217;r morwyr yn ethol soviet y llong, a&#8217;r soviet sy&#8217;n setlo&#8217;r polisi yngl\u0177n \u00e2&#8217;r fordaith, ond gadewir y manylion i&#8217;r swyddogion.&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<p>Cyrhaeddodd Leningrad ar Fehefin 11, mynd i Moscow, Kiev, Rostof, Karkof i Moscow, a chyrraedd Hull ar Orffennaf 8 ar y llong Siberia. Dyma sut y sgwennodd i Nanw ei ferch o Leningrad, &#8216;Rwy&#8217;n ysgrifennu&#8217;r p\/c hwn ym Mhlas y Tsar&#8230; Cefais hwyl fawr efo rhai o filwyr y Fyddin Goch y bore &#8216;ma&#8230; mi wnes i chwerthin dros y lle.&#8217;<\/p>\n<p>Yna o Moscow, ysgrifennodd,<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Yr ydym yn byw mewn gwlad lle y mae popeth yn newydd, lle y mae pob wyneb wedi ei oleuo \u00e2 gobaith, ac yn eiddgar am droi&#8217;r breuddwyd yn sylwedd.&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<p>Pryder iddo oedd absenoldeb gw\u0177r busnes o Brydain yn y wlad. Gwelodd gannoedd o Americainiaid ac Ellmyn, ond neb o Brydain er fod nifer y di-waith ym Mhrydain yn tynnu at ddwy filiwn. Ond bu&#8217;r cyfnod yn Rwsia yn adnewyddiad iddo. Dywedodd mewn llythyr o Kiev ei fod &#8216;yn iach fel ceffyl, ac yn teimlo ugain mlynedd yn ieuengach.&#8217; Dychwelodd yn llawn brwdfrydedd a s\u00eal cenhadol ac edrychai ymlaen i siarad am y gwyrthiau a welodd yn digwydd yn Rwsia.<\/p>\n<p>R\u0175an, bu dwy fordaith dyngedfennol ym mywyd Silyn. Ar y cyntaf, yn dychwelyd o&#8217;r Unol Daleithiau i Brydain, bu&#8217;n hynod o ffodus, gan osgoi y rhew a ddinistriodd y Titanic wythnos yn ddiweddarach. Ar yr ail, ni chafodd yr un lwc. Cafodd fordaith hyfryd o Leningrad a mynediad i Gamlas Kiel, ond cyn dod o&#8217;r gamlas, aeth y llong drwy gwmwl o fosg\u00eetos. Pigwyd Silyn deirgwaith ar ei wyneb ac o fewn 24 awr, roedd ei wres yn 102\u00b0F. Bu meddyg y llong efo fo drwy&#8217;r nos ac erbyn cyrraedd Llundain, roedd yn well. Pwysodd y meddyg arno i aros ar y llong am ddiwrnod neu ddau, ond dal y tr\u00ean i Fangor wnaeth Silyn, a bu yn ei wely am rai dyddiau.<\/p>\n<p>Wedi iddo wella, trodd ati i sgwennu a darlithio am hanes Rwsia. Erbyn Awst 9ed, roedd wedi mynd i Goleg Harlech i ddarlithio yn yr Ysgol Haf. Ond dychwelodd yr hen dwymyn yn ystod yr wythnos, bu raid iddo ddod adref yn sydyn, a bu farw ar Nos Wener, Awst 13 yn 59 oed. Y daith i Rwsia oedd uchafbwynt ei fywyd, ac roedd yn dda iddo gael ei gwneud. Fel hyn yr ysgrifennodd mewn llythyr o Fangor,<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Am rhyw dair wythnos, bum yn byw mewn byd newydd, ac yno y carwn aros. Petawn 30 mlynedd yn iau, yr wyf yn sicr yr awn i Rwsia i fwrw fy nghoelbren gyda&#8217;r chwyldroadwyr, ond yn awr nid oes gennyf ond fy hen esgyrn i&#8217;w cynnig iddynt. Pobl ifanc sy&#8217;n llywodraethu yng Nghymru heddiw&#8230;. O na chawn fyw am ddeugain mlynedd arall i weld ffrwyth yr arbraw aruthrol yma yn Rwsia. Ond er na chaf fyw i&#8217;w weld, gallaf ddymuno i&#8217;m cyfeillion \u00e2&#8217;m holl galon y llwyddiant y maent yn ei haeddu gymaint.&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<p>Mewn llythyr at Mary Silyn o Rostov, soniodd am orymdaith o ugain mil o Folshefics Rostof yn canu a dawnsio dan fyrdd o faneri coch, a channoedd o fandiau.<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Torf yn moli am waredigaeth&#8217; mewn gwirionedd. Yr oedd pawb yn edrych wrth ei bodd, y merched i gyd yn eu sannau sidan, miloedd ar filoedd ohonynt, merched a meibion yn cerdded weithiau fraich ym mraich. Yr oedd yn olygfa y peth mwyaf ardderchog a welais erioed.&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<p>Ac fel dywedodd fy nhaid, &#8216;Yn s\u0175n oratorio y daith fawr hon, a&#8217;r gobeithion gloywon &#8230;.yr aeth Silyn o&#8217;r byd yma, gan adael ffrwyth ei athrylith a&#8217;i lafur a&#8217;i gariad a&#8217;i ffydd yn gynhysgaeth i ninnau ar ei \u00f4l.<\/p>\n<figure id=\"attachment_96\" aria-describedby=\"caption-attachment-96\" style=\"width: 729px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-96 size-full\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/cofiant-silyn-david-thomas.jpg\" alt=\"\" width=\"729\" height=\"1022\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/cofiant-silyn-david-thomas.jpg 729w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/cofiant-silyn-david-thomas-214x300.jpg 214w\" sizes=\"auto, (max-width: 729px) 100vw, 729px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-96\" class=\"wp-caption-text\">Cofiant Silyn gan David Thomas (Gwasg y Brython, 1956)<\/figcaption><\/figure>\n<p>Gweddus fyddai gorffen gyda phennill olaf ei hen gyfaill, R. Williams Parry, o&#8217;i gerdd, &#8216;Yn Angladd Silyn&#8217;. Mae&#8217;r bedd mewn mynwent ym Mangor.<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;O na bai marw&#8217;n ddechrau taith<br \/>\nTrosodd i&#8217;r paith diwethaf,<br \/>\nLle cilia&#8217;r teithwyr tua&#8217;r ffin<br \/>\nFel pererin araf,<br \/>\nCyn codi ar y gorwel draw<br \/>\nEi law mewn ffarwel olaf.&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<p><em>Crynhowyd y wybodaeth o fywgraffiad fy nhaid i Silyn &#8216;Silyn&#8217; gan David Thomas, Gwasg y Brython, Lerpwl, 1956. Mae gennyf gopiau os oes rhywun yn dymuno cael un.<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma Ail hanner bywyd Silyn. Darllenwch ran 1. Ac yntau a&#8217;i wraig wedi bod mor hapus yn Nhanygrisiau, dyfalais sawl gwaith beth barodd iddynt adael y lle a mudo i&#8217;r &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Ail hanner bywyd Silyn&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":113,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[31,27,22,28,29,32,34,30,33,21,25,23,26],"class_list":["post-102","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-bangor","tag-david-davies-llandinam","tag-dyffryn-nantlle","tag-hedd-wyn","tag-john-rowlands","tag-llundain","tag-mary-silyn","tag-percy-bysshe-shelley","tag-r-williams-parry","tag-silyn","tag-tanygrisiau","tag-vladimir-lenin","tag-y-barri","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Ail hanner bywyd Silyn - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ail hanner bywyd Silyn - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dyma Ail hanner bywyd Silyn. Darllenwch ran 1. Ac yntau a&#8217;i wraig wedi bod mor hapus yn Nhanygrisiau, dyfalais sawl gwaith beth barodd iddynt adael y lle a mudo i&#8217;r &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Ail hanner bywyd Silyn&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2019-03-13T20:20:11+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2019-03-13T20:32:07+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/robert-silyn-roberts-agosach.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"281\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"419\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Angharad Tomos\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Angharad Tomos\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"15 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/\"},\"author\":{\"name\":\"Angharad Tomos\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9c759962b0be54e31626a546e681812e\"},\"headline\":\"Ail hanner bywyd Silyn\",\"datePublished\":\"2019-03-13T20:20:11+00:00\",\"dateModified\":\"2019-03-13T20:32:07+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/\"},\"wordCount\":2989,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/robert-silyn-roberts-agosach.jpg\",\"keywords\":[\"Bangor\",\"David Davies Llandinam\",\"Dyffryn Nantlle\",\"Hedd Wyn\",\"John Rowlands\",\"Llundain\",\"Mary Silyn\",\"Percy Bysshe Shelley\",\"R. Williams Parry\",\"Silyn\",\"Tanygrisiau\",\"Vladimir Lenin\",\"Y Barri\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/\",\"name\":\"Ail hanner bywyd Silyn - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/robert-silyn-roberts-agosach.jpg\",\"datePublished\":\"2019-03-13T20:20:11+00:00\",\"dateModified\":\"2019-03-13T20:32:07+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/robert-silyn-roberts-agosach.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/robert-silyn-roberts-agosach.jpg\",\"width\":281,\"height\":419},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Ail hanner bywyd Silyn\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9c759962b0be54e31626a546e681812e\",\"name\":\"Angharad Tomos\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/e567fc92524cc06ad82c856e93251ef3406e3213bfd7080c662ff8e4ec998075?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/e567fc92524cc06ad82c856e93251ef3406e3213bfd7080c662ff8e4ec998075?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/e567fc92524cc06ad82c856e93251ef3406e3213bfd7080c662ff8e4ec998075?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Angharad Tomos\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/angharadtomos\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ail hanner bywyd Silyn - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Ail hanner bywyd Silyn - undod","og_description":"Dyma Ail hanner bywyd Silyn. Darllenwch ran 1. Ac yntau a&#8217;i wraig wedi bod mor hapus yn Nhanygrisiau, dyfalais sawl gwaith beth barodd iddynt adael y lle a mudo i&#8217;r &hellip; Parhau i ddarllen \"Ail hanner bywyd Silyn\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2019-03-13T20:20:11+00:00","article_modified_time":"2019-03-13T20:32:07+00:00","og_image":[{"width":281,"height":419,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/robert-silyn-roberts-agosach.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Angharad Tomos","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Angharad Tomos","Est. reading time":"15 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/"},"author":{"name":"Angharad Tomos","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9c759962b0be54e31626a546e681812e"},"headline":"Ail hanner bywyd Silyn","datePublished":"2019-03-13T20:20:11+00:00","dateModified":"2019-03-13T20:32:07+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/"},"wordCount":2989,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/robert-silyn-roberts-agosach.jpg","keywords":["Bangor","David Davies Llandinam","Dyffryn Nantlle","Hedd Wyn","John Rowlands","Llundain","Mary Silyn","Percy Bysshe Shelley","R. Williams Parry","Silyn","Tanygrisiau","Vladimir Lenin","Y Barri"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/","name":"Ail hanner bywyd Silyn - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/robert-silyn-roberts-agosach.jpg","datePublished":"2019-03-13T20:20:11+00:00","dateModified":"2019-03-13T20:32:07+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/robert-silyn-roberts-agosach.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/robert-silyn-roberts-agosach.jpg","width":281,"height":419},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Ail hanner bywyd Silyn"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9c759962b0be54e31626a546e681812e","name":"Angharad Tomos","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/e567fc92524cc06ad82c856e93251ef3406e3213bfd7080c662ff8e4ec998075?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/e567fc92524cc06ad82c856e93251ef3406e3213bfd7080c662ff8e4ec998075?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/e567fc92524cc06ad82c856e93251ef3406e3213bfd7080c662ff8e4ec998075?s=96&d=mm&r=g","caption":"Angharad Tomos"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/angharadtomos\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/102","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=102"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/102\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":114,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/102\/revisions\/114"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/113"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=102"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=102"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=102"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}