{"id":1028,"date":"2020-12-09T09:47:36","date_gmt":"2020-12-09T09:47:36","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1028"},"modified":"2021-06-04T12:24:11","modified_gmt":"2021-06-04T11:24:11","slug":"llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/","title":{"rendered":"Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli!"},"content":{"rendered":"<p>Gan mai Cymru erbyn hyn yw&#8217;r unig ran o&#8217;r DU lle mae achosion COVID-19 yn parhau i gynyddu, mae&#8217;n ymddangos bod penderfyniad hunan-ymwybodol wedi&#8217;i wneud ar ran Llywodraeth Cymru i geisio symud y bai oddi arnyn nhw, ac i&#8217;r cyhoedd.<\/p>\n<p>Ddydd Mawrth, ymddangosodd Vaughan Gething ar wahanol orsafoedd radio a honnodd fod clo bach Cymru (a feirniadwyd gan feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill am fod yn rhy fyr) wedi gweithio, mewn gwirionedd. Yr hyn oedd wedi digwydd yn lle hynny, yn \u00f4l Gething, oedd bod y Cymry wedi methu newid eu hymddygiad &#8211; ein bod ni&#8217;n treulio gormod o amser gyda&#8217;n gilydd ac yn cymdeithasu gormod.<\/p>\n<p>Ar <a href=\"https:\/\/twitter.com\/TimesRadio\/status\/1336241409494495232?s=20\">Times Radio<\/a> dywedodd &#8220;gall y Llywodraeth osod rheolau, gall roi arweiniad a darparu negeseuon clir&#8230; rydym wedi bod yn glir drwy gydol hyn, ond yn y pen draw mae angen i bobl wneud eu dewisiadau eu hunain, ac os byddant yn gwneud y math anghywir o ddewisiadau ac yn parhau i ymweld \u00e2 phobl yn eu cartrefi ac mewn lleoliadau eraill, mae arnaf ofn y bydd hynny&#8217;n cael canlyniad uniongyrchol iawn&#8221;. Ar <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/sounds\/play\/m000q3k4\">BBC Radio 4<\/a> dywedodd: &#8220;Yn anffodus ers i&#8217;r clo bach ddod i ben, er gwaethaf yr holl negeseuon ac anogaeth i fwy o bobl wneud y peth iawn, nid ydym wedi gweld y newid sylweddol a pharhaus yn ein patrwm ymddygiad&#8230;&#8221;<\/p>\n<p>Roedd y neges yn glir: roedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud eu gwaith, ond nid oedd dinasyddion Cymru wedi gwrando. Ein bai ni yw hyn i gyd, nid eu bai nhw.<\/p>\n<p>Dechreuodd newid yn y naratif wrth i achosion yr ail don ddechrau clystyru yn ne Cymru. Ddiwedd mis Hydref, mewn cyfweliad <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/politics\/mark-drakeford-interview-rules-after-19182907\">\u00e2 WalesOnline<\/a>, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai&#8217;r rheswm pam roedd achosion yng Nghymru mor uchel oedd oherwydd nad oedd gennym &#8216;ddiwylliant&#8217; o ufuddhau i&#8217;r llywodraeth. Yr oedd y llywodraeth wedi gwneud y peth iawn, ond mae&#8217;n debyg nad oeddem yn gallu gwrando. Dyna ein &#8216;diwylliant&#8217;, mae&#8217;n debyg.<\/p>\n<p>Tua diwedd mis Tachwedd, honnodd y &#8216;<a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/technology\/2019\/jul\/26\/how-baseless-fears-over-5g-rollout-created-a-health-scare\">5G Truther<\/a>&#8216; Tonia Antoniazzi <a href=\"https:\/\/twitter.com\/ToniaAntoniazzi\/status\/1330644622520053765?s=20\">ar Twitter<\/a> fod COVID-19 yn lledaenu mewn ysgolion yng Nghymru oherwydd bod rhieni anghyfrifol yn caniat\u00e1u i&#8217;w plant gwahodd cyfeillion draw dros nos, yn hytrach na&#8217;r rheswm mwy amlwg eu bod yn treulio 8 awr y dydd gyda&#8217;i gilydd tu fewn i ysgolion.<\/p>\n<p>Yn yr un modd, honnwyd bod ymbellhau cymdeithasol yn y cymoedd &#8216;<a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-54828434\">wedi mynd yn groes i DNA pobl<\/a>&#8216; &#8211; mae&#8217;n debyg bod pobl dosbarth gweithiol yn methu gwrthsefyll y temtasiwn i ymweld \u00e2 thai ei gilydd am ddiodydd, neu gynnal part\u00efon. Nid oes a wnelo dim \u00e2&#8217;r ffaith bod ardaloedd dosbarth gweithiol mewn perygl anghymesur o COVID-19 oherwydd bod amodau byw gorlawn yn ei gwneud yn amhosibl hunanynysu; bod pobl dosbarth gweithiol yn gweithio&#8217;n bennaf mewn swyddi fel gofal a manwerthu lle na allwch weithio gartref; bod gan lawer o bobl gyda chyflyrau iechyd sy&#8217;n bodoli eisoes, ac yn y blaen. Na: mae&#8217;n ganlyniad i diffyg cyfrifoldeb, a diffyg disgyblaeth.<\/p>\n<h2>Dywed Undod fod y naratif hwn yn un ffug a bod yn rhaid ei wrthsefyll ar bob cyfrif.<\/h2>\n<p>Mae pobl dosbarth gweithiol wedi aberthu&#8217;n aruthrol drwy gydol y pandemig hwn. Rydym wedi parhau i weithio mewn amodau peryglus mewn ysbytai, siopau, cartrefi gofal ac ysgolion wrth i eraill aros adref.\u00a0 Mae pobl dosbarth gweithiol wedi cynnal y wlad, ac eto erbyn hyn mae&#8217;r dosbarth gweithiol yn cael ei ymosod a&#8217;i bardduo, yn fwch dihangol i&#8217;r ail don o COVID-19.<\/p>\n<p>Y ffaith yw mai Llywodraeth Cymru a&#8217;u meistri yn San Steffan sy&#8217;n gyfrifol am y pandemig. Mae achosion yn pentyrru oherwydd methiannau systemig yn y ffordd y caiff cymdeithas ei gweinyddu, nid am fod lleiafrif bach iawn o bobl wedi cynnal part\u00efon yn eu tai. Fel y mae <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/tag\/covid-19\/\">erthyglau<\/a> ac ymgyrchu Undod wedi tynnu sylw ato, mae eu ffordd o ymdrin \u00e2&#8217;r argyfwng wedi bod yn drychinebus ac yn anfaddeuol, o&#8217;r don gyntaf hyd at yr ail don.<\/p>\n<p>Mae argyfwng COVID wedi amlygu Llywodraeth sy&#8217;n anghymwys, sy&#8217;n cael ei dallu gan Undebaeth, sy&#8217;n gwbl gaeth i fuddiannau cyfalafol megis landlordiaeth.<\/p>\n<p>Beth am inni fyfyrio ar y dystiolaeth am eiliad:<\/p>\n<ul>\n<li>Pwy anwybyddodd rybuddion am ddiffyg parodrwydd Cymru ar gyfer pandemig, fel yr amlinellwyd yn <a href=\"https:\/\/www.communistparty.org.uk\/ignore\/\">Ymgyrch Cygnus<\/a> yn 2016?<\/li>\n<li>Pwy a ganiataodd i Gymru gael y <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/inline-documents\/2018-11\/written-statement-provision-of-critical-care-services-in-wales-annex.pdf\">capasiti gwelyau critigol isaf yn ysbytai Ewrop<\/a>?<\/li>\n<li>Pwy <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/15\/iechyd\/\">wrthododd atal digwyddiadau mawr<\/a> am wythnosau ar \u00f4l cael rhybudd?<\/li>\n<li>Pwy <a href=\"https:\/\/www.voice.wales\/1000-welsh-nhs-workers-tell-vaughan-gething-take-urgent-action-now-to-tackle-covid-19\">fethodd \u00e2 rhoi cyfarpar diogelu personol digonol<\/a> i weithwyr gofal iechyd ac yna awgrymu eu bod yn eu gor-dreulio?<\/li>\n<li>Pwy <a href=\"https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/welsh-government-referred-human-rights-18289051\">breifateiddiodd cartrefi gofal yng Nghymru<\/a> a chaniat\u00e1u i&#8217;r feirws gael ei drosglwyddo iddynt ar raddfa ddiwydiannol, gan gael ei gyfeirio at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am dorri hawliau dynol yr henoed?<\/li>\n<li>Pwy wnaeth <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-52283236#:~:text=Wales'%20health%20minister%20Vaughan%20Gething,get%20a%20%22shielding%20letter%22.&amp;text=Plaid%20Cymru%20said%20it%20was%20a%20%22potentially%20disastrous%20mistake%22.\">golli&#8217;r llythyrau gwarchod<\/a> i bobl fregus?<\/li>\n<li>Pwy ganiataodd i Loegr <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2020\/mar\/31\/wales-left-short-of-coronavirus-testing-kits-after-firm-pulls-out\">ddwyn 5000 o brofion<\/a>?<\/li>\n<li>Pwy <a href=\"https:\/\/www.bma.org.uk\/news-and-opinion\/outsourced-and-undermined-the-covid-19-windfall-for-private-providers\">ddilynodd y Tor\u00efaid<\/a> gan weinyddu system brofi a logisteg wedi&#8217;i phreifateiddio?<\/li>\n<li>Pwy <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-52163957\">wrthododd y cynigion o gymorth gan labordai prifysgolion Cymru<\/a> i gynyddu capasiti profi?<\/li>\n<li>Pwy <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-52697923\">roddodd arian cyhoeddus a data&#8217;r GIG i Amazon<\/a> i drefnu profion a adawyd yn ddiweddarach?<\/li>\n<li>Pwy ddywedodd yn gyson <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-52646398\">na ddylem wisgo mygydau<\/a>?<\/li>\n<\/ul>\n<p>A oedd hyn oll yn gyfrifoldeb y dinesydd cyffredin Cymreig? Dim peryg. <i>Bai Llywodraeth Cymru a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, a hwy yn unig, ydyw.<\/i><\/p>\n<p>Ar ben y methiannau uchod (ac mae mwy o enghreifftiau di-rif) mae&#8217;r negeseuon iechyd cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn warthus drwy gydol y pandemig &#8211; maent wedi bod yn anghyson ac yn amwys, gan ddweud wrthym nad oes diben gwisgo mygydau, yna&#8217;n gosod mandad i&#8217;w gwisgo ychydig wythnosau ar \u00f4l hynny; annog pobl i fwyta allan i helpu, yna dweud bod tafarndai a bwytai yn ffynhonnell haint. Yn anad dim, roeddent yn awgrymu&#8217;n gryf y gallai pobl ddychwelyd i <a href=\"https:\/\/www.southwalesargus.co.uk\/news\/18804147.coronavirus-news-wales-two-week-circuit-break-lockdown\/\">fywyd pob dydd<\/a> ar \u00f4l y clo bach o bythefnos! Os yw pobl wedi cymysgu&#8217;n gymdeithasol yn ystod yr wythnosau diwethaf, yr union reswm, yn y bon, yw eu bod wedi cael yr argraff y gallent wneud hynny gan Lywodraeth Cymru. Fel yn <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2020\/oct\/01\/england-covid-cases-have-doubled-under-most-local-lockdowns\">achosion lleol yn Lloegr<\/a>, gellir priodoli y cynnydd diweddar i gyfathrebu gwael: yn hytrach na glynu wrth negeseuon syml a dibynadwy, mae Llywodraeth Cymru yn hytrach wedi llethu pobl \u00e2 rheolau dryslyd, anghyson a chyfnewidiol.<\/p>\n<p>Mae llywodraeth Cymru, yn union fel y llywodraeth Dor\u00efaidd yn San Steffan y maent yn cynffona iddi, yn ceisio tynnu sylw oddi ar eu methiannau enfawr drwy feithrin y dacteg o rannu a rheoli, drwy feio&#8217;n sinigaidd y bobl sydd wedi aberthu fwyaf yn ystod y pandemig hwn.<\/p>\n<h2>Mewn Undod Mae Nerth &#8211; Gyda&#8217;n Gilydd, yn Gryfach<\/h2>\n<p>Drwy gydol y pandemig, mewn ymateb i fethiannau&#8217;r llywodraeth, mae pobl dosbarth gweithiol ledled Cymru a gweddill y DU wedi cyfrannu at fynegiant digymell o undod a chyd-gymorth, gan fynd allan i weithio mewn cartrefi gofal, y GIG a mannau eraill ar y reng flaen, oherwydd ein bod ni&#8217;n hidio am ein gilydd am ofalu am ein gilydd. Yr ydym wedi dysgu mai ni yw&#8217;r rhai sy&#8217;n cadw cymdeithas i fynd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r grymuso hwn yn codi ofn ar lywodraeth Lafur Cymru, y mae ei hegemoni bregus yn dibynnu ar bobl yn parhau mewn cyflwr oddefol, lle nad ydynt yn pleidleisio. Y mae&#8217;n hysbys bod pobl Cymru wedi cael eu gwleidyddoli yn ystod y pandemig, yn aml wedi edrych ar ein Llywodraeth a&#8217;n Prif Weinidog yng Nghaerdydd am y tro cyntaf, ac nad ydynt yn aml wedi hoffi&#8217;r hyn y maent wedi&#8217;i weld. Gan sylweddoli bod eu gafael ar Gymru mewn peryg, mae Llafur Cymru bellach yn ymdrechu&#8217;n daer i ddargyfeirio&#8217;r bai am eu methiannau, ond y cyfan y maent wedi&#8217;i gyflawni gyda&#8217;r ymgyrch ddiweddaraf yma i fardduo&#8217;r bobl yw ei gwneud yn berffaith glir y graddau y mae nhw&#8217;n dal dig yn erbyn pobl gyffredin Cymru.<\/p>\n<p>Maent yn ofni gwrsefyll trefnedig, a dyna pam y maent yn ceisio ein troi ni yn erbyn ein gilydd, i droi cymydog yn erbyn cymydog, gogledd Cymru yn erbyn de Cymru, i danseilio&#8217;r undod sydd wedi&#8217;i adeiladu yn ystod y flwyddyn dywyll hon. Ni feiddiwn ganiat\u00e1u i&#8217;r naratif hwn gael gafael arnom, a chyfrifoldeb pob sosialydd yng Nghymru yw ei wrthsefyll.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/ymuno-join\/\"><em>Ymunwch ag Undod heddiw<\/em><\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gan mai Cymru erbyn hyn yw&#8217;r unig ran o&#8217;r DU lle mae achosion COVID-19 yn parhau i gynyddu, mae&#8217;n ymddangos bod penderfyniad hunan-ymwybodol wedi&#8217;i wneud ar ran Llywodraeth Cymru i &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli!&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":513,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[86,83,55,85],"class_list":["post-1028","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-coronafirws","tag-covid-19","tag-llywodraeth-cymru","tag-vaughan-gething","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli! - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli! - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Gan mai Cymru erbyn hyn yw&#8217;r unig ran o&#8217;r DU lle mae achosion COVID-19 yn parhau i gynyddu, mae&#8217;n ymddangos bod penderfyniad hunan-ymwybodol wedi&#8217;i wneud ar ran Llywodraeth Cymru i &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli!&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-12-09T09:47:36+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-06-04T11:24:11+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/gething-drakeford1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"900\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Gohebydd\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Gohebydd\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"13 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/\"},\"author\":{\"name\":\"Gohebydd\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\"},\"headline\":\"Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli!\",\"datePublished\":\"2020-12-09T09:47:36+00:00\",\"dateModified\":\"2021-06-04T11:24:11+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/\"},\"wordCount\":2688,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/gething-drakeford1.jpg\",\"keywords\":[\"coronafirws\",\"COVID-19\",\"Llywodraeth Cymru\",\"Vaughan Gething\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/\",\"name\":\"Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli! - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/gething-drakeford1.jpg\",\"datePublished\":\"2020-12-09T09:47:36+00:00\",\"dateModified\":\"2021-06-04T11:24:11+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/gething-drakeford1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/gething-drakeford1.jpg\",\"width\":1200,\"height\":900},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli!\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\",\"name\":\"Gohebydd\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Gohebydd\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli! - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli! - undod","og_description":"Gan mai Cymru erbyn hyn yw&#8217;r unig ran o&#8217;r DU lle mae achosion COVID-19 yn parhau i gynyddu, mae&#8217;n ymddangos bod penderfyniad hunan-ymwybodol wedi&#8217;i wneud ar ran Llywodraeth Cymru i &hellip; Parhau i ddarllen \"Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli!\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-12-09T09:47:36+00:00","article_modified_time":"2021-06-04T11:24:11+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":900,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/gething-drakeford1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Gohebydd","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Gohebydd","Est. reading time":"13 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/"},"author":{"name":"Gohebydd","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538"},"headline":"Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli!","datePublished":"2020-12-09T09:47:36+00:00","dateModified":"2021-06-04T11:24:11+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/"},"wordCount":2688,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/gething-drakeford1.jpg","keywords":["coronafirws","COVID-19","Llywodraeth Cymru","Vaughan Gething"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/","name":"Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli! - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/gething-drakeford1.jpg","datePublished":"2020-12-09T09:47:36+00:00","dateModified":"2021-06-04T11:24:11+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/gething-drakeford1.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/gething-drakeford1.jpg","width":1200,"height":900},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli!"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538","name":"Gohebydd","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","caption":"Gohebydd"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1028","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1028"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1028\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1300,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1028\/revisions\/1300"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/513"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1028"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1028"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1028"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}