{"id":1043,"date":"2020-12-19T08:01:53","date_gmt":"2020-12-19T08:01:53","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1043"},"modified":"2020-12-18T17:03:00","modified_gmt":"2020-12-18T17:03:00","slug":"gwaith-work","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/","title":{"rendered":"Rhoi gwaith yn ei le"},"content":{"rendered":"<p>Bydd gan bob un ei farn am y graddau y bydd pandemig Covid-19 yn parhau i fygwth ein trefn economaidd, ein ffordd o fyw, ein dyheadau a&#8217;n cyfleoedd, ond un peth sydd wedi ceisio annog yr ymdeimlad bod &#8216;normalrwydd&#8217; am ddychwelyd yw&#8217;r neges &#8216;Dychwelwn i&#8217;r gwaith.&#8217;<\/p>\n<p>Mae&#8217;n dangos pa mor ganolog yw gwaith yn ein bywydau pan fo dychwelyd iddo yn un o&#8217;r prif nodweddion wrth feddwl am &#8216;normalrwydd&#8217;. Meddyliwch, gallem fod yn dweud &#8216;Dychwelwn i addysgu&#8217;, &#8216;Dychwelwn i&#8217;r rhandir&#8217;, neu &#8216;Awn i&#8217;r parc i chwarae gyda&#8217;r plant&#8217;. Ond na, y neges yw bod rhaid dychwelyd i&#8217;r gwaith, i&#8217;r swyddfa, i&#8217;r cymudo&#8230;<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae mwyfwy o bobl yn cydnabod nad yw dychwelyd i&#8217;r gwaith o reidrwydd yn gyfystyr \u00e2 dychwelyd i&#8217;r swyddfa. Mae hyn yn rhannol oherwydd y risgiau y mae swyddfeydd yn eu hachosi i iechyd y cyhoedd, drwy ledaenu&#8217;r firws, yn ogystal \u00e2&#8217;n trenau sy&#8217;n debycach i loris defaid. Ond mae hefyd yn dangos bod y cyfuniad o orfod gweithio gartref, y cyfnod clo a ffyrlo wedi rhoi cipolwg i bobl o wahanol drefniadau gweithio. Bydd yn anodd dychwelyd i&#8217;r hen ffordd o weithio (mewn gwirionedd, rydw i o&#8217;r farn ei fod wedi rhoi cipolwg inni o ddyfodol \u00f4l-waith lle mae awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial wedi disodli rhywfaint o&#8217;r hyn yr arferem ei wneud am gyflog. Ond mae honno&#8217;n ddadl ar gyfer diwrnod arall ac un, yn anffodus, a fydd yn dlotach o lawer heb ddoethineb rhyfeddol David Graeber, cwsg mewn hedd).<\/p>\n<h2>Y cartref neu&#8217;r swyddfa?<\/h2>\n<p>Er y gellid dadlau bod canolbwyntio ar leoliad y gwaith yn nodwedd fympwyol &#8211; yn hytrach na chanolbwyntio ar ei werth economaidd a chynhenid, ei swyddogaeth gymdeithasol neu ei allanoldebau niweidiol \u2013 mae tuedd bryderus yn y drafodaeth ar sut rydyn ni&#8217;n dychwelyd i&#8217;r gwaith yn y tymor byr, sydd wedi ysgogi&#8217;r darn hwn ac <a href=\"https:\/\/twitter.com\/llannerch\/status\/1305194043496955905\">edefyn y cyhoeddais ar Twitter yn ddiweddar<\/a>.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n rhaid i mi ddatgan diddordeb fan hyn: rwy&#8217;n ymwneud ag Indycube ac yn hyrwyddo ei nod o wneud gwaith yn decach. Rwyf hefyd yn ddiweddar wedi helpu Insole Court yn Llandaf i agor ei ofod cydweithio annibynnol (Desgiau&#8217;r Modurdy | Motor House Desks). Er nad oes gen i gyfran ariannol yn y fenter, mae&#8217;n haeddu llwyddo.<\/p>\n<p>Yn syml, mae&#8217;n bosib bod yr opsiwn o naill ai gweithio gartref neu yn y swyddfa yn addas i gyflogwyr, ond i nifer fawr iawn o bobl, nid yw&#8217;n bosib ac\/neu yn addas i weithio gartref, hyd yn oed yn achlysurol. Ni ddylid gadael i&#8217;r safbwynt cymharol freintiedig y sawl sydd yn berchen ar gartref gydag ystafell sb\u00e2r neu swyddfa bwrpasol, sydd heb blant yn byw gartref, neu sy&#8217;n medru rhannu gofal plant gyda phartner \u00e2 phatrymau gweithio hyblyg, ac yn y blaen, reoli&#8217;r drafodaeth am leoliadau gweithio.<\/p>\n<p>Yn sicr, mae manteision i weithio gartref i rai, yn achlysurol. Byddai&#8217;n rhagrithiol i mi beidio \u00e2 chydnabod fy mod i wedi elwa ohono ar sawl achlysur dros y blynyddoedd. Ond fel y drefn arferol? Na, ddim o gwbl.<\/p>\n<h2>Cysuron cartref?<\/h2>\n<p>Ar y cyfan, mae pobl wedi bod yn wydn, yn hyblyg ac yn amyneddgar gyda threfniadau gweithio gartref dros y cyfnod clo. Ond mae ymateb o&#8217;r fath yn haws pan fydd rhywbeth yn newydd. Tybed a yw fy hyblygrwydd i wedi ei hogi mewn gwaith cymunedol lle rydw i wedi gweithio mewn pob math o leoliadau: neuadd yr eglwys, y swyddfa dai, caffis, y tr\u00ean, swyddfa&#8217;r cyngor, y ganolfan gymunedol, y Stiwt, y clwb, fy nghar. Mae &#8216;fy swyddfa&#8217; i wedi bod yn strydoedd ac ystadau. A, do, mae fy nghartref wedi bod yn swyddfa i mi hefyd. Dim ond canran fach o fy ngyrfa sydd wedi ei threulio wrth ddesg swyddfa bwrpasol, a&#8217;r rhan fwyaf ohono yn rhywle arall.<\/p>\n<p>Os gallaf i ddod i arfer ag e, oni all pawb arall? Efallai, ond rydw i ar y cyfan wedi cael y rhyddid i ddewis o ble rwy&#8217;n gweithio. A dyma&#8217;r peth allweddol sydd ar goll o&#8217;r opsiwn cyfyng, un-neu&#8217;r-llall, o weithio gartref neu o&#8217;r swyddfa. Yn ogystal, nid yw pobl o reidrwydd yn wynebu dewis rhesymegol.<\/p>\n<p>Beth yw&#8217;r dewis i&#8217;r gweithiwr sydd mewn perthynas gamdriniol yn y cartref os nad yw&#8217;r swyddfa ar gael iddynt?<\/p>\n<p>Beth yw&#8217;r dewis i&#8217;r person ifanc sy&#8217;n dal i fyw gartref neu mewn llety a rennir?<\/p>\n<p>Beth yw&#8217;r dewis i&#8217;r person sy&#8217;n dioddef aflonyddwch neu wahaniaethu gan gymydog?<\/p>\n<p>Beth yw&#8217;r dewis i&#8217;r person sydd \u00e2 phartner sy&#8217;n gweithio shifftiau ac yn cysgu yn ystod y dydd?<\/p>\n<p>Beth yw&#8217;r dewis i&#8217;r person sy&#8217;n byw mewn llety rhent o safon isel?<\/p>\n<p>Beth yw&#8217;r dewis i&#8217;r p\u00e2r y mae eu perthynas yn fregus ond sydd nawr yn gorfod gweithio o&#8217;r un bwrdd bwyta?<\/p>\n<h2>Costau&#8217;r cartref<\/h2>\n<p>Rhaid inni rymuso&#8217;r bobl hyn i allu gwthio yn \u00f4l yn erbyn y dewis un-neu&#8217;r-llall y gallai rhai cyflogwyr ei gynnig. Ond mae gwaith eisoes yn ansicr iawn i nifer o bobl, a gyda disgwyl diswyddiadau wedi-ffyrlo, bydd gweithlu ofnus yn dod yn un sy&#8217;n cydymffurfio. Yn hynny o beth, gobeithir bod undebau llafur eisoes yn barod i weithredu. Yn ogystal \u00e2 bod yn ansicr, i lawer mae gwaith yn afiach, yn ecsbloetiol ac yn cadw&#8217;r gweithwyr a&#8217;u teuluoedd mewn tlodi. Ond o ystyried aneffeithiolrwydd, cydsyniad neu ymoddefiad y mudiad llafur gyda&#8217;r tueddiadau modern hyn, efallai na allwn ddisgwyl y bydd yr undebau llafur yn camu i&#8217;r adwy wedi&#8217;r cyfan.<\/p>\n<p>Er gwaethaf costau, aneffeithlonrwydd a niwed amgylcheddol cymudo, o leiaf roedd yn darparu ffin glir rhwng bywyd gartref a bywyd gwaith (er gwaethaf y demtasiwn i wirio negeseuon e-bost ar y ffordd i mewn). Pan fyddwch chi&#8217;n gweithio wrth y bwrdd bwyta gyferbyn \u00e2&#8217;ch partner am hyd at bum diwrnod yr wythnos, daw&#8217;r ffin honno yn llawer llai amlwg.<\/p>\n<p>Rydym yn gynyddol ymwybodol o&#8217;r allanolion y mae ein system gyfalafol yn eu hachosi \u2013 llygredd a chostau amgylcheddol, risg systemig \u2013 ond gallem hefyd ychwanegu&#8217;r effaith emosiynol niweidiol ar berthnasau a theuluoedd. Oes modd hawlio ffioedd cwnsela priodasol ar dreuliau?<\/p>\n<p>Dylid hefyd ystyried y gost o ddefnyddio mwy o gyfleustodau. Gellir tybio y bydd cyfran o&#8217;r gorbenion y mae sefydliadau ym mhob sector yn eu cynnwys mewn cytundebau a cheisiadau am grantiau a chyllid yn cael eu trosglwyddo i weithwyr mewn modd cost lawn sy&#8217;n effeithlon o ran treth. Eto, rwy&#8217;n gobeithio bod arbenigwyr cyfraith cyfrifyddiaeth a chyflogaeth undebau llafur eisoes yn gweithio ar hyn \u2013 bydd angen i&#8217;w therapyddion iechyd galwedigaethol fod yn effro i&#8217;r cynnydd anochel mewn poen gwddf, cefn ac arddyrnau yn sgil sefyllfa gweithio gartref anaddas.<\/p>\n<figure id=\"attachment_1046\" aria-describedby=\"caption-attachment-1046\" style=\"width: 897px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1046 size-full\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/sefydliad_y_glowyr_Coed_Duon.jpg\" alt=\"\" width=\"897\" height=\"897\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/sefydliad_y_glowyr_Coed_Duon.jpg 897w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/sefydliad_y_glowyr_Coed_Duon-300x300.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/sefydliad_y_glowyr_Coed_Duon-150x150.jpg 150w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/sefydliad_y_glowyr_Coed_Duon-768x768.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 897px) 100vw, 897px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1046\" class=\"wp-caption-text\">Sefydliad y Glowyr, Coed Duon<\/figcaption><\/figure>\n<h2>&#8216;Trydydd llefydd&#8217;<\/h2>\n<p>Mae&#8217;r cymdeithasegydd adnabyddus Ray Oldenburg wedi ymchwilio i&#8217;r hyn a elwir yn &#8216;drydydd llefydd&#8217;: y mannau hynny lle mae gwahanol bobl yn dod ynghyd i gymdeithasu, i drafod, i fwyta, i chwarae, i wedd\u00efo, i drefnu, ac yn y blaen. Maent yn wahanol i&#8217;r cartref a&#8217;r aelwyd (llefydd cyntaf) a&#8217;r gweithle (ail lefydd). Daw ystod eang o ofodau i&#8217;r gr\u0175p hwn o lefydd. Mannau cymunedol fel capeli, sefydliadau a chanolfannau cymunedol. Nid yw&#8217;r trydydd lle yn eiddo cyhoeddus, cymunedol neu nid-er-elw yn unig. Ystyrier, er enghraifft, werth cymdeithasol mentrau preifat fel salonau a barbwyr i gymunedau Affro-Carib\u00efaidd; amlygrwydd <i>die Kaffeeh\u00e4user <\/i>yn niwylliant Fiennaidd yr 20G; y dafarn Brydeinig; neu gaffi Eidalaidd Idomeneo Faracci y &#8216;Dark Philosophers&#8217; enwog yn\u00a0 y clasur o nofel gan Gwyn Thomas, a pholisi Idomeneo o groesawu pawb i&#8217;r caffi p&#8217;un ai ydyn nhw&#8217;n prynu rhywbeth neu beidio, gan resymu mai pobl dlawd yn unig sy&#8217;n mynd drwy eu bywydau heb brynu dim byd.<\/p>\n<p>Y bobl ifanc hynny sy&#8217;n casglu tu allan i siopau? Dyna drydydd lle arall.<\/p>\n<p>Gyda&#8217;r pandemig yn debygol o bylu&#8217;r ffin rhwng ail lefydd a llefydd cyntaf gweithwyr, gallai persbectif &#8216;gweithiwr&#8217; traddodiadol geisio gwthio yn erbyn y gofynion i weithio gartref. Fersiwn modern y perchnogion o gloi allan fyddai gwerthu&#8217;r swyddfa neu adael i&#8217;r brydles ddod i&#8217;w therfyn ar eu lleoliad presennol. Rwyf i o&#8217;r farn na ddylid dadlau ble mae&#8217;r perygl i&#8217;r llefydd cyntaf (y cartref) a&#8217;r ail lefydd (y gwaith) orgyffwrdd, ond yn hytrach dylem fod yn rhoi cyfle i ail a thrydydd llefydd asio o ran yr maent yn cynnig; o leiaf yn y tymor byr tra bo sgileffeithiau&#8217;r pandemig i&#8217;w teimlo.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r dull hwn yn caniat\u00e1u i&#8217;r chwith archwilio&#8217;r potensial cyfoethog &#8216;ail-trydydd&#8217; llefydd newydd, hybrid a berchnogir gan y gymuned, sydd nid yn unig o fudd i&#8217;r gweithwyr, ond i&#8217;r gymuned ehangach y mae&#8217;r gofodau hynny ynddi, gan gynnwys y sector breifat.<\/p>\n<p>Rwyf wedi colli cyfrif o&#8217;r nifer o weithiau rydw i a gweithwyr cymunedol eraill wedi cwyno am yr anhawster i ymgysylltu \u00e2 phobl sy&#8217;n gweithio. Mae cymunedau difreintiedig, cymunedau ar gyrion trefi, ac ardaloedd gwledig yn diboblogi&#8217;n ddifrifol bob dydd. Mae hyn nid yn unig yn amddifadu&#8217;r cymunedau hynny o gyfalaf cymdeithasol gwerthfawr dyddiol, ond mae hefyd yn cyfyngu&#8217;r ffenestr aur sy&#8217;n agor rhwng tua 5.30-9pm o ddydd Llun i ddydd Iau (prin iawn ar ddydd Gwener i fod yn onest) i weithwyr cymunedol daro ar bobl sy&#8217;n gweithio i ofyn am eu sylw, eu syniadau, eu cyfraniadau, eu mewnbwn, eu cydsyniad neu eu llofnod.<\/p>\n<p>Mae hyn hefyd yn cystadlu \u00e2 chyfleoedd pobl sy&#8217;n gweithio i fynd i ymarfer c\u00f4r, i ymarfer p\u00eal-droed, i&#8217;r rhandir, i&#8217;r cartref gofal i weld mam neu dad, i&#8217;r gampfa, i wedd\u00efo, i ddosbarthiadau nos, i helpu&#8217;r plant gyda&#8217;u gwaith cartref, i noson rieni&#8230;<\/p>\n<p>Fel y dangosodd Sendhil Mullainathan ac Eldar Shafir yn eu llyfr <i>Scarcity: Why having so little means so much, <\/i>mae gallu meddyliol pobl wedi ei raglennu&#8217;n ddieithriad i ganolbwyntio ar yr hyn sy&#8217;n orfodol neu yn frys yn unig. Mae trydydd llefydd yn cynnig cyfle nid yn unig i osgoi cymudo ond hefyd i ymgorffori gwaith yn arlliw bywyd cymunedol a chadw, buddsoddi a harneisio cyfalaf cymdeithasol at ddibenion y cymunedau eu hunain, yn hytrach nag er budd cyrchfan yr allyrwyr dyddiol.<\/p>\n<h2>Cefnogi&#8217;r <i>precariat<\/i><\/h2>\n<p>Mae ail-trydydd ofodau hybrid yn llefydd perffaith i hwyluso gwreiddio strwythurau a chysylltiadau cydweithredol sy&#8217;n helpu lleihau&#8217;r risg o weithio&#8217;n annibynnol \u2013 y math o weithio y rhagwelwyd y byddai&#8217;n cynyddu yng Nghymru cyn y pandemig \u2013 ac y mae&#8217;r mudiad Cydweithredol eisoes wedi ei adnabod fel rhywbeth eithriadol o ansicr. Er enghraifft, nododd adroddiad <a href=\"https:\/\/www.uk.coop\/NotAlone\">Not Alone<\/a> nad yw enillion cynifer \u00e2 77% weithwyr hunangyflogedig yn eu codi uwchben y llinell dlodi, felly maent yn dibynnu ar gynilon, credyd (ffurfiol ac anffurfiol) ac enillion pobl eraill i oroesi. Mae eu hwyneb &#8216;rwy&#8217;n iawn&#8217; maent wedi hen arfer ag ef yn cuddio&#8217;r simsanrwydd hyn.<\/p>\n<p>Yn yr un modd ag y mae diffyg trwydded yrru a mynediad i gar wedi rhwystro pobl rhag cael gwaith, tybed a fydd diffyg amgylchedd addas i weithio ynddo y tu allan i&#8217;r swyddfa yn dod yn rhwystr \u00f4l-pandemig i gyflogaeth a chynnydd gyrfaol? Os ydych chi&#8217;n ei chael hi&#8217;n anodd aros mewn gwaith, mae&#8217;r neges bod gweithio gartref yn rhyw fath o newid radical yn y farchnad waith \u2013 fel y mae rhai rheolwyr yn ei awgrymu \u2013 yn wirion. Nid yw&#8217;n cynnig dihangfa o, ac mae&#8217;n cynyddu ecsploetiaeth gan, mwy-o&#8217;r-un-fath, i&#8217;r bobl hyn y mae David Harrey yn eu galw yn &#8220;precariat&#8221;.<\/p>\n<p>Ac mae&#8217;r gris y mae&#8217;r <i>precariat<\/i> arni ar fin gweld nifer o draed eraill yn glanio arni.<\/p>\n<p>Bydd gwaith mewn system gyfalafol yn parhau i ailstrwythuro a bydd yn addasu i amddiffyn breintiau penodol ymysg grwpiau penodol, fel y mae wedi ei wneud erioed. Felly, mae angen i&#8217;r gweithwyr eu hunain a grwpiau sy&#8217;n cynrychioli&#8217;r <i>precariat<\/i>, fel Undod, anelu&#8217;n chwyrn at y tir canol &#8211; rhywbeth y mae&#8217;r chwith radical yn aml yn amharod i wneud! &#8211; ond yn hyn o beth mae&#8217;r tir canol wedi ei ddiffinio fel gofodau cymunedau, fforddiadwy i gydweithio, sy&#8217;n agos i&#8217;r cartref a&#8217;r aelwyd. Mae&#8217;r gofodau hyn yn eithaf rhad i&#8217;w sefydlu ac ar y cyfan yn seiliedig ar asedau yn eu hanfod h.y., yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod pa gryfderau sydd eisoes o fewn y gymuned (cysylltiadau, rhwydweithiau, cyfleusterau); yn hytrach nag yn canolbwyntio ar yr hyn <i>nad <\/i>oes ganddi. Maent yn wrthgyferbyniad llwyr \u00e2 llawer o&#8217;r modelau trefol o gydweithio sy&#8217;n gaeth i fodelau twf blinedig, echdynnol a phentyrrol, a cholledau&#8217;n wedi gwaranti yn eu herbyn gan y cyhoedd (rydych chi&#8217;n gwybod pwy ydyn nhw&#8230;).<\/p>\n<h2>Ymladd am yr hawl<\/h2>\n<p>Ond, mae nifer o heriau.<\/p>\n<p>Nid yw&#8217;r gofodau hyn yn rhinweddol yn eu hanfod ac mae&#8217;n rhaid i&#8217;r sawl sy&#8217;n mynd drwyddynt barhau i fod yn ymwybodol o&#8217;r angen i fod yn gynhwysol ac yn oddefol. Mae&#8217;n rhaid iddynt hefyd fod yn <i>wrth<\/i>-foneddigeiddio yn ogystal ag yn ddi-foneddigeiddio.<\/p>\n<figure id=\"attachment_1049\" aria-describedby=\"caption-attachment-1049\" style=\"width: 899px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1049 size-full\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/Tafarn_Cymunedol_a_hwb_Cymraeg.jpg\" alt=\"\" width=\"899\" height=\"1599\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/Tafarn_Cymunedol_a_hwb_Cymraeg.jpg 899w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/Tafarn_Cymunedol_a_hwb_Cymraeg-169x300.jpg 169w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/Tafarn_Cymunedol_a_hwb_Cymraeg-576x1024.jpg 576w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/Tafarn_Cymunedol_a_hwb_Cymraeg-768x1366.jpg 768w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/Tafarn_Cymunedol_a_hwb_Cymraeg-864x1536.jpg 864w\" sizes=\"auto, (max-width: 899px) 100vw, 899px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1049\" class=\"wp-caption-text\">Saith Seren, Wrecsam &#8211; tafarn gymunedol a hwb i&#8217;r Gymraeg<\/figcaption><\/figure>\n<p>Fel y <a href=\"https:\/\/deisebau.senedd.cymru\/deisebau\/200199\">mae Undod wedi ymgyrchu<\/a> am y diffyg deddfwriaeth hawl-i-brynu fel cymuned yng Nghymru, yn wahanol i Loegr a&#8217;r agenda diwygio tir yn yr Alban, mae&#8217;n golygu bod gallu cymunedau i hunan-drefnu i baratoi i gaffael perchnogaeth o asedau cymunedol mewn cystadleuaeth fwy agored \u00e2 buddiannau preifat a chorfforaethol. Yng Nghymru, mae dull mwy amlreiriog a hwylus wedi ei ffafrio lle trosglwyddir asedau i berchnogaeth gymunedol, ond yn bwysig iawn, dim ond o berchnogaeth gyhoeddus yn unig &#8211; enghraifft arall o &#8216;Gwnaed yng Nghymru&#8217;, a&#8217;r dwr croyw, coch. Mae&#8217;n gwrthod ieithwedd ymosodol y farchnad o blaid iaith y rheolwyr ac adeiladu partneriaeth. Er hynny, onid yw buddiannau preifat wedi parhau i brynu popeth mewn modd rheibus?<\/p>\n<p>Mae angen deddfwriaeth newydd mwy hirdymor, ond yn y tymor byr mae&#8217;r aflonyddwch economaidd enfawr yn sgil y pandemig yn si\u0175r o amlygu rhai gofodau y gellid eu defnyddio.<\/p>\n<p>Mae hefyd yn hynod o na\u00eff i feddwl na fydd y gwac\u00e1u torfol o ganol o ddinas a blociau swyddfeydd tu allan i&#8217;r dref yn effeithio ar werth ein cronfeydd pensiwn. Bydd unrhyw un sy&#8217;n gwybod beth mae perchnogion y siambrau swyddfa yng nghanol dinas Caerdydd fel arfer yn ei fynnu mewn rhenti blynyddol (am lefel druenus o waith cynnal a chadw, er gwybodaeth), yn gwybod sut mae&#8217;r buddiannau masnachol hyn yn gweithio. Maen nhw&#8217;n gwybod sut i ymladd yn fudr ac mae ganddynt y coffrau rhyfel yn barod i&#8217;r sgarmesau.<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei strategaeth ar gyfer ailadeiladu \u00f4l-Covid yn ddiweddar sy&#8217;n cynnwys ymrwymiad i ddatblygu canolfannau gweithio o bell sy&#8217;n agosaf i&#8217;r cartref. Ar bapur, mae hyn i&#8217;w groesawu, ond ni fydd mwy o&#8217;r un haeloni rheolaethol, gwladwriaethol drwy awdurdodau lleol neu&#8217;r cyrff arferol a noddir gan y Llywodraeth, yn creu gofodau gwirioneddol gymunedol a\/neu sy&#8217;n eiddo i weithwyr. Yn y brys i wneud rhywbeth ym misoedd olaf tymor y Senedd hwn mae perygl bydd y wladwriaeth yn meddiannu gofod a allai, gyda meithrin gofalgar, addas, helpu cefnogi&#8217;r gwaith o adeiladu cymunedau cryf a rhwydweithiau o weithwyr yn gweithio ar draws pob sector.<\/p>\n<p>Dylai hyn gynnwys datblygu gwaith sy&#8217;n cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Rhyddhau cyllidebau ar gyfer gwariant i&#8217;r hyn sy&#8217;n bwysig i weithwyr; os gellid rhoi o \u00a310,000 yn ddi-gwestiwn i berchnogion cyfeiriadau busnes cofrestredig mewn cyfnod o argyfwng, fel y digwyddodd yn gynharach yn y pandemig, yna mae hyn yn bosib gyda&#8217;r ewyllys gwleidyddol.<\/li>\n<li>Gwerthuso sympathetig a hybu cynllunio gofodau newydd.<\/li>\n<li>Drwy weithio&#8217;n driw i egwyddorion datblygu a threfnu cymunedol gyda chymunedau hunan-dewisol, yn cynnwys cymundebau diddordeb, a pheidio \u00e2 chael eu sodro i ddaearyddiaeth a ddiffiniwyd yn weinyddol.<\/li>\n<li>Gweithio drwy sefydliadau\/rhwydweithiau cymunedau lleol i frocera rhwng y wladwriaeth a chymunedau.<\/li>\n<li>Digolledu&#8217;r costau sy&#8217;n ymwneud \u00e2 hyfforddiant ar ddefnyddio cwmwl TG, diogelu data, a.y.b. i sicrhau nad yw gweithwyr yn torri rhwymedigaeth gyfreithiol yn anfwriadol mewn amgylchiadau cydweithio o&#8217;r fath.<\/li>\n<li>Digolledu cyngorau ynghylch trethi i ofodau a&#8217;u cydweithwyr i fod yn effeithlon o ran treth i bawb.<\/li>\n<li>Comisiynu gofodau cydweithio presennol i gynghori rhai newydd er mwyn annog cysylltiadau cyfoedion.<\/li>\n<li>Blaenoriaethu&#8217;r rhai a weithredir mewn\/gan fentrau nid-er-elw a chydweithredol dros y rhai a fydd yn llenwi pocedi datblygwyr eiddo a landlordiaid.<\/li>\n<li>Darparu benthyciadau di-log cost isel i ofodau i brynu polis\u00efau yswiriant a chynnyrch ariannol eraill mewn swmp i weithwyr.<\/li>\n<li>Drwy ymrwymo i drosglwyddo gofodau i grwpiau o weithwyr os nad yw&#8217;n bosib iddynt eu cynnal o&#8217;r cychwyn.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Fel y nododd y cymdeithasegwr Robert Putman, yn dilyn 9\/11, parhaodd y galwadau llafar ar draws cymdeithas America &#8211; i ganolbwyntiai ar newid y &#8216;fi&#8217; i roi mwy o bwyslais ar y &#8216;ni&#8217; &#8211; am ryw chwe mis yn unig. Ar yr adeg hon, roedd hen werthoedd polisi tir llosg o elw tymor byr, cystadleurwydd a&#8217;r enillydd-yn-cymryd-popeth i gyd wedi ailategu eu hunain. Gellid dadlau bod y pandemig hefyd yn drawma tebyg o ran effaith i 9\/11, ac er mwyn cael y &#8216;normal newydd&#8217;, mae arsylwadau Putnam yn awgrymu bod rhaid cynnal yr awydd i&#8217;w greu, ac nad yw&#8217;n anochel. Ystyriwch, pa mor bwysig y gallai&#8217;r gofodau newydd hyn fod, o ran ffurfio gofodau newydd o&#8217;r gwaelod i fyny a berchnogir gan y gymuned, er mwyn atgynhyrchu cyfalaf cymdeithasol mewn cyfnod sydd ei daer angen.<\/p>\n<p><em>Prif lun: Dusty Forge, Trelai gan yr awdur<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd gan bob un ei farn am y graddau y bydd pandemig Covid-19 yn parhau i fygwth ein trefn economaidd, ein ffordd o fyw, ein dyheadau a&#8217;n cyfleoedd, ond un &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Rhoi gwaith yn ei le&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":37,"featured_media":1050,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[83,143],"class_list":["post-1043","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-covid-19","tag-gwaith","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Rhoi gwaith yn ei le - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Rhoi gwaith yn ei le - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Bydd gan bob un ei farn am y graddau y bydd pandemig Covid-19 yn parhau i fygwth ein trefn economaidd, ein ffordd o fyw, ein dyheadau a&#8217;n cyfleoedd, ond un &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Rhoi gwaith yn ei le&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-12-19T08:01:53+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/dusty-forge-trelai.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1080\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1440\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Russell Todd\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Russell Todd\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"27 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/\"},\"author\":{\"name\":\"Russell Todd\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/5ea6ec1812a759ae3db037afe91cd609\"},\"headline\":\"Rhoi gwaith yn ei le\",\"datePublished\":\"2020-12-19T08:01:53+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/\"},\"wordCount\":5494,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/dusty-forge-trelai.jpg\",\"keywords\":[\"COVID-19\",\"gwaith\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/\",\"name\":\"Rhoi gwaith yn ei le - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/dusty-forge-trelai.jpg\",\"datePublished\":\"2020-12-19T08:01:53+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/dusty-forge-trelai.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/dusty-forge-trelai.jpg\",\"width\":1080,\"height\":1440},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Rhoi gwaith yn ei le\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/5ea6ec1812a759ae3db037afe91cd609\",\"name\":\"Russell Todd\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/972bc5670c648f4fc2c7936e940f18971e8721b1cf9e5901b5265502d18de26b?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/972bc5670c648f4fc2c7936e940f18971e8721b1cf9e5901b5265502d18de26b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/972bc5670c648f4fc2c7936e940f18971e8721b1cf9e5901b5265502d18de26b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Russell Todd\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/russelltodd\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Rhoi gwaith yn ei le - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Rhoi gwaith yn ei le - undod","og_description":"Bydd gan bob un ei farn am y graddau y bydd pandemig Covid-19 yn parhau i fygwth ein trefn economaidd, ein ffordd o fyw, ein dyheadau a&#8217;n cyfleoedd, ond un &hellip; Parhau i ddarllen \"Rhoi gwaith yn ei le\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-12-19T08:01:53+00:00","og_image":[{"width":1080,"height":1440,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/dusty-forge-trelai.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Russell Todd","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Russell Todd","Est. reading time":"27 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/"},"author":{"name":"Russell Todd","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/5ea6ec1812a759ae3db037afe91cd609"},"headline":"Rhoi gwaith yn ei le","datePublished":"2020-12-19T08:01:53+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/"},"wordCount":5494,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/dusty-forge-trelai.jpg","keywords":["COVID-19","gwaith"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/","name":"Rhoi gwaith yn ei le - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/dusty-forge-trelai.jpg","datePublished":"2020-12-19T08:01:53+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/dusty-forge-trelai.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/dusty-forge-trelai.jpg","width":1080,"height":1440},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/gwaith-work\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Rhoi gwaith yn ei le"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/5ea6ec1812a759ae3db037afe91cd609","name":"Russell Todd","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/972bc5670c648f4fc2c7936e940f18971e8721b1cf9e5901b5265502d18de26b?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/972bc5670c648f4fc2c7936e940f18971e8721b1cf9e5901b5265502d18de26b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/972bc5670c648f4fc2c7936e940f18971e8721b1cf9e5901b5265502d18de26b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Russell Todd"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/russelltodd\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1043","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/37"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1043"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1043\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1052,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1043\/revisions\/1052"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1050"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1043"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1043"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1043"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}