{"id":1055,"date":"2020-12-19T16:53:25","date_gmt":"2020-12-19T16:53:25","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1055"},"modified":"2020-12-20T20:23:02","modified_gmt":"2020-12-20T20:23:02","slug":"maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/","title":{"rendered":"Mae&#8217;r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau"},"content":{"rendered":"<p>Ar y 16ed o Ragfyr, caniataodd Pwyllgor Cynllunio Caerdydd adeiladu Amgueddfa Feddygaeth Filwrol ar Barc Britannia ym Mae Caerdydd, yng ngwyneb gwrthwynebiad lleol a chenedlaethol. Cr\u00ebwyd yr amgueddfa yn 1952 i \u201cadrodd hanes meddygaeth a gofal iechyd y fyddin, i bobl ac anifeiliaid, o gyfnod Rhyfel Cartref Lloegr hyd at y presennol\u201d. Ei safle presennol yw Baracs Keogh yn Aldershot.<\/p>\n<p>Nid y caniatad cynllunio yw diwedd y stori. Bydd yr ymgyrch yn erbyn yr amgueddfa yn parhau. Ond, sut wnaethon ni gyrraedd yma, a beth mae hyn yn ei ddweud wrthyn ni am lle mae grym yn gorffwys o fewn ein dinas a sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud?<\/p>\n<p>Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Dor\u00efaidd newydd y DG adolygiadau o gyrff cyhoeddus fel rhan o\u2019i hymgyrch llymder. Yn dilyn hyn, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod yn torri arian eu hamgueddfeydd. Penderfynodd yr Amgueddfa Feddygaeth Filwrol i ganfod lleoliad newydd a fyddai\u2019n gallu denu mwy o ymwelwyr na fyddai safle baracs yn ei ganiat\u00e1u. Gwrthodwyd y cynnig gan ddinasoedd eraill. Ond roedd gan Gaerdydd ddiddordeb, ac yn 2016 rhoddodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi ar y pryd, s\u00eal bendith Llywodraeth Cymru i\u2019r prosiect.<\/p>\n<p>Pam bod Caerdydd eisiau\u2019r amgueddfa hon pan nad oedd eraill \u00e2 chysylltiadau cryfach \u00e2 meddygaeth filwrol ag unrhyw awydd amdani? I arweinwyr y ddinas, roedd yn edrych fel prosiect urddasol a fyddai o fudd i\u2019w huchelgais, a rennir \u00e2 Llywodraeth Cymru, i ddod yn \u201cddinas Ewropeaidd o safon rhyngwladol\u201d. Byddent yn honni bod ei leoli ym Mae Caerdydd o help i\u2019w adfywio.<\/p>\n<p>Nid oedd adfail yr orsaf drenau ar Heol Bute a gynigwyd i ddechrau yn cydfynd ag uchelgais yr Amgueddfa. Dyluniwyd adeilad newydd ar gyfer safle cyfagos ar Heol Hemingway a gafodd ganiat\u00e2d cynllunio yn 2017. Ond mae \u2018Uchelgais Prifddinas\u2019 Caerdydd yn parhau i dyfu. Mae cynlluniau ar gyfer Arena \u00e2 15,000 o seddi wrth galon datblygiad \u00a3500 miliwn Atlantic Wharf wedi hawlio\u2019r safle hwnnw bellach, felly roedd rhaid canfod safle arall.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, roedd ymgyrchwyr wedi llwyddo i atal datblygiad bloc o fflatiau moethus 24 llawr rhag cael eu hadeiladu ar Barc Britannia. Mae\u2019r parc yn agos i\u2019r Eglwys Norwyaidd ar lan y d\u0175r yn y Bae a gaiff ei werthfawrogi\u2019n fawr gan y trigolion lleol gan fod y mwyafrif ohonynt yn byw mewn fflatiau. Ym mis Tachwedd 2018, cytunodd Cabinet Caerdydd i brynu\u2019r parc gan yr Associated British Ports. Cafodd gobeithion y gymuned leol y byddai hyn yn sicrhau dyfodol y parc ei chwalu yn haf 2019, pan gyhoeddwyd cynlluniau i adeiladu\u2019r Amgueddfa.<\/p>\n<p>Awgrymodd papur y Cabinet y byddai darn o dir yn cael ei werthu, ond soniwyd am yr ardal caregog, lle safodd Tiwb Canolfan Ymwelwyr y Bae o\u2019r blaen, yn unig. Roedd union ardal y datblygiad wedi\u2019i guddio o dan hawl i \u2018gyfrinachedd\u2019 sy\u2019n gwarchod y Cyngor rhag gorfod cyhoeddi eu gweithgarwch a\u2019u busnesau preifat. Byddai ymgyrchwyr yn darganfod yn hwyrach bod y\u00a0 Cyngor wedi cynnig y tir i\u2019r amgueddfa saith mis cyn i\u2019r Cabinet ei drafod. Mae parc Britannia am gael ei aberthu i sicrhau\u2019r gofod sydd ei angen ar y Cyngor i\u2019w gynnig i fuddsoddwyr i wireddu Arena eu breuddwydion.<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd, nid yw\u2019r ardal garegog ond hanner y tir y mae\u2019r Amgueddfa ei hangen. Bydd coed a gwair er mwyn eistedd a chwarae arno, yn cael eu colli. Bydd rhaid symud darnau o gelf cyhoeddus a bwthyn y lockkeeper. Bydd yr Eglwys Norwyeg a\u2019r parc yn byw o dan gysgod datblygiad pum llawr wedi\u2019i ffurfio o wydr a dur rhydlyd. Mae Caerdydd yn honni ei bod yn ddinas Sy\u2019n Dda i Blant, ond bydd rhaid symud y maes chwarae, a does neb yn gwybod i ble eto.<\/p>\n<p>Maent yn dweud y bydd adnoddau cyhoeddus newydd yn cyfiawnhau colli\u2019r man agored hwn. Ar rai adegau yn ystod y Pwyllgor Cynllunio, roedd yn teimlo fel bod y prosiect cyfan yn cael ei gyfiawnhau ar sail cael mynediad i ambell d\u0177 bach. Mae Parc Britannia yn ardal bach gwyrdd a werthfawrogir yn fawr. Nid oes lle i\u2019r Amgueddfa yma.<\/p>\n<p>Gwrthwynebodd Ffrindiau Britannia Park y bygythiad newydd hwn i ofod agored gan ymchwilio i ffeithiau, trefnu gwrthwynebiadau a rhedeg deiseb sydd bellach wedi ennill bron i 5,000 o lofnodau. Mae\u2019n abswrd i adeiladu ar barc gwyrdd sy\u2019n sefyll reit drws nesaf i ddiffeithwch concrit sy\u2019n eiddo i Lywodraeth Cymru. Ar un adeg, cafodd yr ardal hon ei dynodi ar gyfer prosiect Porth Teigr aflwyddiannus sydd erbyn hyn yn sefyll yn wag, fel y mae\u2019r safle lle\u2019r oedd y Dr Who Experience yn sefyll yn wag. Prosiect arall a fethodd ac a gostiodd dros filiwn i\u2019r Cyngor.<\/p>\n<p>Yn haf 2020, tyfodd ymgyrch Cymdeithas Sifig Caerdydd ar ffurf trydaru a blogio cyson. Roedd elfen filwrol yr amgueddfa yn rhywbeth a oedd wedi ysgogi gofid eang. Cwestiynodd ymgyrchwyr heddwch ei phwrpas. Gofynnodd cefnogwyr YesCymru pam bod sefydliad sydd \u00e2 chysylltiadau \u00e2\u2019r Fyddin Brydeinig yn dod i Gymru. Gyda mudiad Bywydau Du o Bwys yn tynnu sylw at hanes caethwasiaeth a choncwest yr ymerodraeth, roedd dewis safle yng Nghaerdydd yn agos i un o gymunedau amrywiol hynaf Prydain yn Tiger Bay, yn hollol wrthyn i nifer.<\/p>\n<p>Mae amddiffynwyr prin yr Amgueddfa wedi bod yn awyddus i bwysleisio ei helfennau meddygol yn hytrach na milwrol. Mae Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a chefnogwr brwd y prosiect gwagymffrost hwn wedi gwneud hynny\u2019n gyson. Ond mae gan yr Amgueddfa gyswllt agos \u00e2 Chorfflu Meddygol, Milfeddygol, Deintyddol a Gofal Brenhinol y Fyddin<\/p>\n<p>Yn 2017, ffurfiwyd Ymddiriedolaeth ar ffurf elusen gofrestredig gan na fyddai\u2019r Amgueddfa yn cael ei gweinyddu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn bellach. Mae ei hamcanion yn rhoi pwyslais canolog ar nodau milwrol: \u201cI addysgu\u2019r cyhoedd ac aelodau o wasanaethau meddygol y Fyddin: yn hanes, llwyddiannau milwrol, gorchestau gwyddonol ac ymroddiad y Corffluoedd; ac yn hanes a datblygiad meddygaeth filwrol; ac hefyd i hyrwyddo effeithlonrwydd milwrol ac annog recriwtio drwy ddull arddangosfa gyhoeddus o\u2019r casgliad mewn amgueddfa.\u201d<\/p>\n<p>Nid yw dathlu llwyddiannau milwrol, hyrwyddo effeithlonrwydd milwrol ac annog recriwtio i\u2019r fyddin yn amcanion iechyd cyhoeddus. Ni fydd hon yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer arweinyddiaeth feddygol fel y mae ei chefnogwyr yn ei honni.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019r frwydr i gadw Parc Britannia ar ben. Mae\u2019r Cabinet dal angen cadarnhau gwerthiant y tir fel bod modd adeiladu\u2019r amgueddfa yno. Bydd hynny\u2019n benderfyniad gwleidyddol diamwys, heb le i guddio tu \u00f4l i ddeddfwriaeth gynllunio. Rhaid ei herio.<\/p>\n<p>Hyd yn oed os c\u00e2nt y tir, ni fydd yr Ymddiriedolaeth \u00e2\u2019r arian i adeiladu\u2019r Amgueddfa. Mae eu datganiad ariannol yn dangos asedau o \u00a39 miliwn, ond mae \u00a37 miliwn o\u2019r ffigwr hwnnw yn deillio o werthusiad o\u2019u casgliad. Daeth y \u00a32 filiwn arall ar ffurf rhodd o\u2019r Trysorlys i helpu \u00e2\u2019r symud, ond bydd angen llawer mwy o arian arnynt. Gyda chynlluniau ymffrostgar i gael cyfleusterau technolegol trochol \u2018Deep Space\u2019, mae\u2019r Ymddiriedolaeth wedi amcangyfrif cost o \u00a330 miliwn. O ble daw yr arian hwn?<\/p>\n<p>Unwaith yr adeiladir yr Amgueddfa, bydd rhaid ei gweinyddu. Yn ei safle presennol llai yn Aldershot, lle mae\u2019r baracs yn helpu i dalu llawer o\u2019r gost, mae\u2019n gwneud colled. Mae\u2019r Amgueddfa yn darogan y bydd 225,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, ond ni fydd defnyddwyr y toiledau\u2019n talu\u2019r biliau. Mae\u2019r sefydliad gyfatebol Americanaidd yn Washington dim ond yn denu 50,000 y flwyddyn, a hynny gyda mynediad a pharcio am ddim. Faint y bydd yr amgueddfa yn ei godi? Ni fydd pris isel yn codi\u2019r arian angenrheidiol i\u2019w rhedeg; bydd pris uchel yn cadw\u2019r ymwelwyr draw, fel a ddigwyddod i\u2019r Dr Who Experience.<\/p>\n<p>Mae\u2019n amlwg nad oedd hyfywedd yn ofid i\u2019r Pwyllgor Cynllunio, ond derbyniodd y Swyddog Cynllunio na fyddai lles y cyhoedd yn cael ei wasanaethu pe bai\u2019r gwaith yn cael ei atal yn ystod ei adeiladu neu pe bai\u2019n dod yn wag yn hwyrach ymlaen. Mae nifer o amgueddfeydd wedi methu yn ddiweddar.<\/p>\n<p>Mae\u2019n anodd gweld sut y gall hyn weithio heb gyfraniadau preifat mawr neu ariannu cyhoeddus helaeth. Mae\u2019r cyngor yn mynnu na fydd yn darparu\u2019r rhain, ond sut y gallwn ni fod yn sicr o hyn? Byddai cytuno i werthu\u2019r tir heb dderbyn cynllun busnes trwyadl a chredadwy gan yr ymddiriedolaeth yn rhoi arian cyhoeddus yn y fantol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r modd yr ymdriniwyd \u00e2 chais yr Amgueddfa wedi dangos sut y mae datblygiadau yn digwydd yng Nghaerdydd. Mae Huw Thomas yn honni <a href=\"https:\/\/cardiffcivicsociety.blog\/2020\/12\/16\/huwthomas_wales-dismisses-concerns-about-childrens-rights-and-threatened-loss-of-britannia-park-playground\/\">nad yw aelodau\u2019r Cabinet yn dyst i drafodaethau ynghylch ceisiadau cynllunio gan ddatblygwyr preifat<\/a>. Ond Russell Goodway, yr Aelod sydd \u00e2 chyfrifoldeb dros Fuddsoddi a Datblygu, sydd tu \u00f4l i hyn. Gwahoddodd ef Ymddiriedolaeth yr Amgueddfa i adeiladu ar Barc Britannia, ac mae\u2019r prosiect yn ddibynnol ar barodrwydd y Cyngor i werthu neu i osod y tir y maent yn eiddo arno. Mae\u2019r Cabinet yn atebol ac ni allent guddio tu \u00f4l i\u2019r Pwyllgor Cynllunio.<\/p>\n<p><strong>Mae\u2019r penderfyniad ynghylch yr Amgueddfa yn un o gyfres o fethiannau yn ward Butetown ac ar draws y ddinas.<\/strong><\/p>\n<p>Mae datblygiadau enfawr yn cael eu caniat\u00e1u yn gyson heb i\u2019r Pwyllgor Cynllunio sicrhau\u2019r amod bod angen i 20% o\u2019r unedau fod yn fforddiadwy, gan y byddai gwneud hynny\u2019n lleihau elw\u2019r datblygwr neu werth y tir. Mae gan nifer o fflatiau\u2019n y Bae ddiffygion strwythurol o ganlyniad i ddatblygwyr yn ceisio torri costau, a hynny o dan oruchwyliaeth gwael y Cyngor. Mae tyrrau hyll i letya myfyrwyr sy\u2019n talu rhentiau rheibus yn creithio\u2019r awyr.<\/p>\n<p>Gwariodd y Cyngor \u00a31 miliwn i achub y Gyfnewidfa Lo, ac wedyn ei roi i fuddsoddwr amheus i\u2019w addasu yn westy. Mae darnau helaeth o\u2019r to dal heb eu trwsio, ac o ganlyniad mae\u2019r adeilad yn pydru\u2019n araf. Dim ond oherwydd methdaliadau aruthrol yr achuwbyd y Cyngor rhag gorfod talu \u00a32 filiwn yn ychwanegol. Mae\u2019r gwesty bellach yn cael ei rhedeg gan gyn-aelod o\u2019r cabinet. Mae\u2019r Cyngor eisiau prynu Merchant Place ac Adeiladau Cory ar Stryd Biwt, ond pwy all ymddiried ynddynt i\u2019w hadnewyddu?<\/p>\n<p>Nid oes prin ddim wedi\u2019i adeiladu yn y ddinas yn ddiweddar sydd werth ei gadw ar gyfer cenedlaethau\u2019r dyfodol. Bydd adeiladu\u2019r Arena yn golygu dymchwel Neuadd y Sir a agorwyd yn 1988, ond pwy fydd yn ei golli? Ai adfywiad methiedig arall fydd hyn?<\/p>\n<p>Ar draws Caerdydd, mae mwy a mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o\u2019r modd y mae proses cynllunio\u2019r ddinas yn methu ei dinasyddion. Daw ymgyrchoedd lleol i\u2019r fei i helpu amddiffyn llefydd fel Parc Britannia neu\u2019r Dolydd Gogleddol. Mae grwpiau megis Cymdeithas Sifig Caerdydd ac <a href=\"http:\/\/reclaimcardiff.cymru\/\">Ein Dinas Ni<\/a> yn herio\u2019r flaenoriaeth sy\u2019n cael ei roi i fuddiannau\u2019r datblygwyr.<\/p>\n<p>Mae Caerdydd wedi dechrau diwygio ei Chynllun Datblygu Lleol. Bydd hyn yn penderfynu sut y bydd y ddinas yn tyfu o nawr hyd nes 2035. Mae angen Cynllun arnom sy\u2019n rhoi budd a lles pobl y ddinas yn gyntaf, un sy\u2019n darparu cartrefi a gwasanaethau hanfodol, ond un sydd hefyd yn amddiffyn ein hamgylchedd ac sydd wirioneddol yn darparu\u2019r ddinas ddi-garbon y mae\u2019r strategaeth Un Blaned yn honni ei chynrychioli. Mae gwerth ymladd dros hynny.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar y 16ed o Ragfyr, caniataodd Pwyllgor Cynllunio Caerdydd adeiladu Amgueddfa Feddygaeth Filwrol ar Barc Britannia ym Mae Caerdydd, yng ngwyneb gwrthwynebiad lleol a chenedlaethol. Cr\u00ebwyd yr amgueddfa yn 1952 &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Mae&#8217;r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":38,"featured_media":1057,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[112],"class_list":["post-1055","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-reclaim-cardiff-ein-dinas-ni","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Mae&#039;r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Mae&#039;r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Ar y 16ed o Ragfyr, caniataodd Pwyllgor Cynllunio Caerdydd adeiladu Amgueddfa Feddygaeth Filwrol ar Barc Britannia ym Mae Caerdydd, yng ngwyneb gwrthwynebiad lleol a chenedlaethol. Cr\u00ebwyd yr amgueddfa yn 1952 &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Mae&#8217;r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-12-19T16:53:25+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-12-20T20:23:02+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/brit.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"450\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Lyn Eynon\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Lyn Eynon\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"17 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/\"},\"author\":{\"name\":\"Lyn Eynon\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/e82d16898168530e637367ad2981240c\"},\"headline\":\"Mae&#8217;r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau\",\"datePublished\":\"2020-12-19T16:53:25+00:00\",\"dateModified\":\"2020-12-20T20:23:02+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/\"},\"wordCount\":3483,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/brit.jpg\",\"keywords\":[\"Ein Dinas Ni\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/\",\"name\":\"Mae'r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/brit.jpg\",\"datePublished\":\"2020-12-19T16:53:25+00:00\",\"dateModified\":\"2020-12-20T20:23:02+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/brit.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/brit.jpg\",\"width\":800,\"height\":450},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Mae&#8217;r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/e82d16898168530e637367ad2981240c\",\"name\":\"Lyn Eynon\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8c070c0f9f87a33ef6d8eb1659c1ec35f0f22ba7daee5c1e1301f2703fdbc05b?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8c070c0f9f87a33ef6d8eb1659c1ec35f0f22ba7daee5c1e1301f2703fdbc05b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8c070c0f9f87a33ef6d8eb1659c1ec35f0f22ba7daee5c1e1301f2703fdbc05b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Lyn Eynon\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/lyneynon\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Mae'r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Mae'r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau - undod","og_description":"Ar y 16ed o Ragfyr, caniataodd Pwyllgor Cynllunio Caerdydd adeiladu Amgueddfa Feddygaeth Filwrol ar Barc Britannia ym Mae Caerdydd, yng ngwyneb gwrthwynebiad lleol a chenedlaethol. Cr\u00ebwyd yr amgueddfa yn 1952 &hellip; Parhau i ddarllen \"Mae&#8217;r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-12-19T16:53:25+00:00","article_modified_time":"2020-12-20T20:23:02+00:00","og_image":[{"width":800,"height":450,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/brit.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Lyn Eynon","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Lyn Eynon","Est. reading time":"17 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/"},"author":{"name":"Lyn Eynon","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/e82d16898168530e637367ad2981240c"},"headline":"Mae&#8217;r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau","datePublished":"2020-12-19T16:53:25+00:00","dateModified":"2020-12-20T20:23:02+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/"},"wordCount":3483,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/brit.jpg","keywords":["Ein Dinas Ni"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/","name":"Mae'r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/brit.jpg","datePublished":"2020-12-19T16:53:25+00:00","dateModified":"2020-12-20T20:23:02+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/brit.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/brit.jpg","width":800,"height":450},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/19\/maer-frwydr-yn-erbyn-yr-amgueddfa-meddygaeth-filwrol-yn-parhau\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Mae&#8217;r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/e82d16898168530e637367ad2981240c","name":"Lyn Eynon","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8c070c0f9f87a33ef6d8eb1659c1ec35f0f22ba7daee5c1e1301f2703fdbc05b?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8c070c0f9f87a33ef6d8eb1659c1ec35f0f22ba7daee5c1e1301f2703fdbc05b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8c070c0f9f87a33ef6d8eb1659c1ec35f0f22ba7daee5c1e1301f2703fdbc05b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Lyn Eynon"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/lyneynon\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1055","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/38"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1055"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1055\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1058,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1055\/revisions\/1058"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1057"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1055"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1055"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1055"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}