{"id":1060,"date":"2020-12-23T15:49:11","date_gmt":"2020-12-23T15:49:11","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1060"},"modified":"2020-12-23T16:06:14","modified_gmt":"2020-12-23T16:06:14","slug":"nadolig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/","title":{"rendered":"Gwir ystyr y Nadolig"},"content":{"rendered":"<p>Nid ydym yn gwybod pryd y cafodd Iesu o Nasareth ei eni. Mae&#8217;r Cristnogion cynharaf yn s\u00f4n am ddyddiau ym misoedd Mawrth, Ebrill, Mai a Thachwedd. Mabwysiadwyd Rhagfyr 25ain yn y bedwaredd ganrif yn rhan o&#8217;r broses o wneud y Gristnogaeth yn grefydd swyddogol yr ymerodraeth. Lan hyd deyrnasiad Cystennin ddechrau&#8217;r bedwaredd ganrif yr oedd bod yn ddisgybl i Iesu yn weithred anghyfreithlon. Gwnaeth tr\u00f6edigaeth honedig Cystennin drawsnewid y sefyllfa&#8217;n llwyr. Credai nifer o&#8217;r arweinwyr Cristnogol fod buddugoliaeth wedi ennill &#8216;y byd&#8217; i Grist ac ystyriwyd yr ymerawdwr fel rhyw fath o gynrychiolydd Crist \u2013 ficer i Grist \u2013 a blygwyd i&#8217;w ewyllys yn llawer rhy hawdd gan ddechrau&#8217;r berthynas wasaidd rhwng yr Eglwys a&#8217;r wladwriaeth sy&#8217;n dal mewn bod mewn llawer man hyd heddiw.<\/p>\n<p>Yr oedd Cystennin yn addolwr yr haul, y <i>Sol Invictus<\/i> (yr haul anorchfygol), cyn ei dr\u00f6edigaeth. Erbyn y 4edd ganrif yr oedd <i>Mithras<\/i>, un o dduwiau Soroastraeth, wedi dod yn bwysig ymhlith milwyr Rhufain. Rhyw esblygiad o <i>Zoroaster<\/i>, neu <i>Zarathustra<\/i>, prif broffwyd Soroastraeth oedd <i>Mithras<\/i>. Yr oedd hwnnw wedi ei eni ar Ragfyr 25ain! Tuedd y Rhufeiniaid drwy eu hanes oedd cyfuno elfennau o&#8217;r gwahanol grefyddau \u2013 syncretiaeth \u2013 ac ym meddwl Cystennin yr oedd Iesu a Mithras yn fynegiannau o&#8217;r unig wir Dduw oedd yn cael ei addoli fel y Creawdwr gan y Cristnogion a <i>Sol Invictus<\/i> gan y Mithraid. Mynnodd Cystennin fod yr Eglwys yn addoli ar ddydd yr Haul (<i>Sol<\/i> \u2013 Sul) a bod genedigaeth Iesu i&#8217;w ddathlu ar yr un dydd a genedigaeth <i>Mithras<\/i>.<\/p>\n<p>Newidiodd tr\u00f6edigaeth honedig Cystennin natur yr Eglwys Gristnogol, fe ddaeth honno&#8217;n llawforwyn i&#8217;r wladwriaeth. Yr enghraifft fwyaf trawiadol o&#8217;r trawsnewid hwn yw&#8217;r ffaith i&#8217;r Eglwys a ystyriai militariaeth a rhyfeloedd fel gweithredoedd gwrth-Gristnogol newid ei daliadau. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif daeth yn anghyfreithlon i wrthod ymuno \u00e2&#8217;r fyddin!<\/p>\n<p>Newidiwyd holl bwyslais y Nadolig \u2013 daeth genedigaeth Iesu i fod yn \u0175yl o rialtwch a chyfeddach fel yr hen \u0175yl Rufeinig a ddathlwyd ar yr un adeg i ddathlu genedigaeth yr haul sef y Saturnalia. Aeth y pwyslais ar ddathlu genedigaeth y baban Iesu, un sydd yn mynd i roi cyfle i bobol i fynd i Baradwys wedi ymadael \u00e2&#8217;r byd hwn \u2013 os ydynt wedi bod yn dawel ac yn ufudd i&#8217;r gyfundrefn o dan awdurdod y brenin a&#8217;r eglwys drwy eu bywydau.<\/p>\n<p>Aethpwyd ati i newid y stori yn yr efengylau hyd yn oed! Daeth y &#8216;doethion&#8217; yn frenhinoedd. <i>Magoi<\/i> yw&#8217;r gair yn Efengyl Mathew, ac aelodau o gwlt crefyddol a astudiai&#8217;r s\u00ear yn ymerodraeth Persia oedd y rheiny. Rhaid cofio bod astroleg yn cael ei ystyried yn wyddoniaeth barchus yn y cyfnod hwnnw. Yn wir, yr hen astrolegwyr a osododd y sylfeini i ddatblygiadau gwyddonol mewn oesoedd diweddarach. I Iddewon y ganrif gyntaf yr oedd y Magoi yn perthyn i grefydd wahanol, gwareiddiad gwahanol, diwylliant gwahanol ac ymerodraeth wahanol. Daeth cynrychiolwyr y gwahanol egsotig yma i gydnabod Iesu&#8217;n Arglwydd. Ond fe drowyd y rhain yn frenhinoedd gan y sefydliad er mwyn parchuso&#8217;r gyfundrefn. &#8216;Edrychwch,&#8217; meddent, &#8216;brenhinoedd oedd ymhlith y cyntaf i gydnabod Iesu, ac wedi gwneud hynny fe aethant yn \u00f4l i&#8217;w gwledydd i deyrnasu unwaith yn rhagor&#8217;.<\/p>\n<p>Wrth adrodd hanesion y geni bwriad Mathew a Luc yw datgan bod rhywbeth rhyfeddol wedi digwydd gyda genedigaeth Iesu ym Methlehem. Rhywbeth sydd wedi trawsnewid hanes y byd. Mae un wedi dod i&#8217;r byd sydd drwy ei fywyd yn mynd i ddangos cymeriad a phersonoliaeth y Creawdwr i&#8217;r ddynoliaeth, a gwneud hynny mewn ffordd y bydd pobol gyffredin, fel ni, yn ei ddeall ac yn gallu uniaethu ag ef. Daeth i&#8217;r byd fel bod dynol, un sydd wedi ei eni fel pob bod dynol arall.<\/p>\n<p>Mae amgylchiadau&#8217;r enedigaeth yn dangos i&#8217;r byd ar ochr pwy mae Duw. Ganed Iesu i deulu tlawd mewn amgylchiadau o dlodi. Dywed Luc taw tlodion cymdeithas, y bugeiliaid, oedd y cyntaf i gael gwybod am yr enedigaeth. Dywed Mathew taw estroniaid oedd ymhlith y cyntaf i&#8217;w gydnabod. Dywed y ddau efengylydd mai ym mhentref di-nod Bethlehem y ganed Iesu, pentref nad oedd nepell o Jerwsalem, y brifddinas, cartref y pwerus a&#8217;r cyfoethog. Anwybyddwyd y brenin Herod a&#8217;i lys a&#8217;r sefydliad crefyddol yn y deml yn Jerwsalem pan aned Iesu. Mae Duw ar ochr y tlodion a phobol y cyrion, y rhai a ormeswyd, y rhai sy&#8217;n dioddef.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwirionedd hwn yn cael ei bwysleisio gan Mair yn ei ch\u00e2n sy&#8217;n cael ei adnabod fel y Magnifficat; ynddi mynega Mair ei dealltwriaeth o&#8217;r modd y mae Duw yn gweithredu, a&#8217;r hyn y mae&#8217;n ei ddymuno:<\/p>\n<blockquote><p>Gwnaeth rymuster \u00e2&#8217;i fraich,<\/p>\n<p>gwasgarodd y rhai balch eu calon;<\/p>\n<p>tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau,<\/p>\n<p>a dyrchafodd y rhai distadl;<\/p>\n<p>llwythodd y newynog \u00e2 rhoddion,<\/p>\n<p>ac anfonodd y cyfoethogion ymaith yn waglaw. (Luc 1:51-53)<\/p><\/blockquote>\n<p>Wrth iddo gyflwyno hanes y bugeiliaid mae Luc yn defnyddio teitlau arbennig fel &#8216;Gwaredwr&#8217; ac &#8216;Arglwydd&#8217; wrth i&#8217;r negesydd (angel) ddisgrifio&#8217;r baban newydd-anedig, ac fe bwysleisiodd c\u00e2n yr angylion taw hon oedd ffordd heddwch. Teitlau a berthynai i Cesar oedd y rhain yn y diwylliant Groegaidd (mi roedd Luc yn anelu ei sylwadau at y Groegiaid), ac ymffrostiai Awgwstws Cesar taw ei ffordd ef oedd yn creu heddwch. Mae Luc yn fwriadol yn herio&#8217;r meddylfryd hwnnw, ac mae Mathew&#8217;n pwysleisio yn yr hanesyn am Herod yn lladd y plant ym Methlehem, taw ofn, casineb a thrais creulon yw ymateb y pwerus cyfoethog. Honno mewn gwirionedd yw ffordd y grymus. Nid y ffordd honno yw ffordd gwaredigaeth a gobaith.<\/p>\n<p>Nid ffordd Cesar sy&#8217;n mynd i ddwyn cyfiawnder a heddwch i&#8217;r byd ond ffordd Iesu.<\/p>\n<p>Brwydr fawr ein hoes a chyfrifoldeb ein cenhedlaeth ni yw argyhoeddi&#8217;n hunain a&#8217;n cyfeillion sy&#8217;n dal i gredu taw ffordd Cystennin ac Awgwstws, y pwerus cyfoethog, sy&#8217;n mynd i ateb problemau&#8217;r byd \u2013 yn mynd i achub y byd &#8211; nad yw hynny&#8217;n wir. Ffordd y Creawdwr sy&#8217;n cael ei &#8216;ymgnawdoli&#8217; yn Iesu sy&#8217;n mynd i wneud hynny.<\/p>\n<p>A dyna wir ystyr y Nadolig.<\/p>\n<p><em>Delwedd: &#8220;Ffenestr Cymru&#8221;, Birmingham, Alabama gan John Petts<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Nid ydym yn gwybod pryd y cafodd Iesu o Nasareth ei eni. Mae&#8217;r Cristnogion cynharaf yn s\u00f4n am ddyddiau ym misoedd Mawrth, Ebrill, Mai a Thachwedd. Mabwysiadwyd Rhagfyr 25ain yn &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Gwir ystyr y Nadolig&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":39,"featured_media":1064,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[144],"class_list":["post-1060","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-nadolig","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Gwir ystyr y Nadolig - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Gwir ystyr y Nadolig - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Nid ydym yn gwybod pryd y cafodd Iesu o Nasareth ei eni. Mae&#8217;r Cristnogion cynharaf yn s\u00f4n am ddyddiau ym misoedd Mawrth, Ebrill, Mai a Thachwedd. Mabwysiadwyd Rhagfyr 25ain yn &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Gwir ystyr y Nadolig&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-12-23T15:49:11+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-12-23T16:06:14+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/iesu-alabama.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"785\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"550\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Guto Prys ap Gwynfor\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Guto Prys ap Gwynfor\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"10 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/\"},\"author\":{\"name\":\"Guto Prys ap Gwynfor\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/4531903427f3644cc88f3a321a721f5b\"},\"headline\":\"Gwir ystyr y Nadolig\",\"datePublished\":\"2020-12-23T15:49:11+00:00\",\"dateModified\":\"2020-12-23T16:06:14+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/\"},\"wordCount\":2144,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/iesu-alabama.jpg\",\"keywords\":[\"Nadolig\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/\",\"name\":\"Gwir ystyr y Nadolig - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/iesu-alabama.jpg\",\"datePublished\":\"2020-12-23T15:49:11+00:00\",\"dateModified\":\"2020-12-23T16:06:14+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/iesu-alabama.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/iesu-alabama.jpg\",\"width\":785,\"height\":550},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Gwir ystyr y Nadolig\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/4531903427f3644cc88f3a321a721f5b\",\"name\":\"Guto Prys ap Gwynfor\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2ac3300aafbaf08ad1707bf1725e398689d6847f166cab2e0de53c420f9e3950?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2ac3300aafbaf08ad1707bf1725e398689d6847f166cab2e0de53c420f9e3950?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2ac3300aafbaf08ad1707bf1725e398689d6847f166cab2e0de53c420f9e3950?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Guto Prys ap Gwynfor\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gutoprysapgwynfor\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Gwir ystyr y Nadolig - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Gwir ystyr y Nadolig - undod","og_description":"Nid ydym yn gwybod pryd y cafodd Iesu o Nasareth ei eni. Mae&#8217;r Cristnogion cynharaf yn s\u00f4n am ddyddiau ym misoedd Mawrth, Ebrill, Mai a Thachwedd. Mabwysiadwyd Rhagfyr 25ain yn &hellip; Parhau i ddarllen \"Gwir ystyr y Nadolig\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-12-23T15:49:11+00:00","article_modified_time":"2020-12-23T16:06:14+00:00","og_image":[{"width":785,"height":550,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/iesu-alabama.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Guto Prys ap Gwynfor","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Guto Prys ap Gwynfor","Est. reading time":"10 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/"},"author":{"name":"Guto Prys ap Gwynfor","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/4531903427f3644cc88f3a321a721f5b"},"headline":"Gwir ystyr y Nadolig","datePublished":"2020-12-23T15:49:11+00:00","dateModified":"2020-12-23T16:06:14+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/"},"wordCount":2144,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/iesu-alabama.jpg","keywords":["Nadolig"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/","name":"Gwir ystyr y Nadolig - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/iesu-alabama.jpg","datePublished":"2020-12-23T15:49:11+00:00","dateModified":"2020-12-23T16:06:14+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/iesu-alabama.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/iesu-alabama.jpg","width":785,"height":550},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/23\/nadolig\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Gwir ystyr y Nadolig"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/4531903427f3644cc88f3a321a721f5b","name":"Guto Prys ap Gwynfor","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2ac3300aafbaf08ad1707bf1725e398689d6847f166cab2e0de53c420f9e3950?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2ac3300aafbaf08ad1707bf1725e398689d6847f166cab2e0de53c420f9e3950?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/2ac3300aafbaf08ad1707bf1725e398689d6847f166cab2e0de53c420f9e3950?s=96&d=mm&r=g","caption":"Guto Prys ap Gwynfor"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gutoprysapgwynfor\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1060","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/39"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1060"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1060\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1067,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1060\/revisions\/1067"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1064"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1060"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1060"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1060"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}