{"id":1069,"date":"2020-12-31T10:43:12","date_gmt":"2020-12-31T10:43:12","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1069"},"modified":"2021-01-01T21:56:38","modified_gmt":"2021-01-01T21:56:38","slug":"sustem-ddrwgweithredol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/","title":{"rendered":"Sustem ddrwgweithredol"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2>Y diwydiant ar dwf<\/h2>\n<p>Os ydych chi am ddeall y Gymru gyfoes \u2013 sut y mae\u2019n cael ei llywodraethu, ei diwylliant gwleidyddol,\u00a0 y lefel o barch a roddir i iawnderau dynol sylfaenol \u2013 dechreuwch\u00a0 \u00e2&#8217;r ffeithiau am garcharu.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l pob mesur, mae diwydiant carchardai Cymru yn ehangu. Ceir pum carchar yng Nghymru bellach: Brynbuga (a Prescoed), Caerdydd, Parc, Abertawe, ac, ers 2017, y Berwyn \u2013 y carchar mwyaf ym Mhrydain a&#8217;r ail fwyaf yng ngorllewin Ewrop. Yn ystod y degawd diwethaf mae poblogaeth carchardai yng Nghymru wedi dyblu o tua 2,800 i dros 5,000 ynghynt eleni.<\/p>\n<p>Mae llawer o&#8217;r twf o ganlyniad i agor Berwyn, ond hyd yn oed cyn i Berwyn agor fe dyfodd poblogaeth carchardai yng Nghymru <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0003\/1287210\/WGC-Report-Imprisonment-FinalPDF.pdf\">25%<\/a> rhwng 2010 a 2016, yn groes i\u2019r duedd ehangach yn y DG. Roedd cynllun i godi carchar enfawr ym Mhort Talbot, tan i wrthwynebiad lleol roi terfyn arno. Er hyn, mae ehangu\u2019r ystad garchardai yng Nghymru yn parhau i fod yn rhan o <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-51148051\">bolisi <\/a>llywodraeth y DG.<\/p>\n<p>Rhwng carchar y Parc a gaiff ei redeg yn breifat, i\u2019r cyflenwad lleol o garcharorion sydd mwy neu lai yn llafurwyr di-dal, mae carcharu yng Nghymru wedi darparu cyfleoedd proffidiol i rai. Croesawyd carchar y Berwyn gan bron \u00e2 bod pob lefel o lywodraeth oherwydd yr addewid y byddai\u2019n arwain at lewyrch economaidd lleol. Roedd <a href=\"http:\/\/old.wrexham.gov.uk\/MinutesData\/Council\/Reports\/lr0613.pdf\">Cyngor Wrecsam<\/a> yn gyflym i nodi na fyddai \u2018dim costau llafur neu rhai llawer is\u2019 i fusnesau lleol, ac y byddai manteision hir dymor carchar newydd yn rhagori ar \u2018amgylchiadau marchnad arferol, a\u2019r cylchdro \u201cboom and bust\u201d sy\u2019n bresennol ym myd busnes\u2019.<\/p>\n<p>Mae\u2019r meddylfryd hwn yn adlewyrchu arferiad dyfnach a amlygwyd dros y degawdau diwethaf, lle ceisia llywodraethau Prydeinig briodi neoryddfrydiaeth \u00e2 pholisiau sy\u2019n gynyddol gosbol. Ers 1990, mae poblogaeth carchardai Cymru a Lloegr wedi dyblu, er mawr fudd i\u2019r cwmniau preifat megis G4S, Serco a Sodexo sy\u2019n eu rhedeg, ynghyd \u00e2 chwmniau adeiladu megis Landlease a Kier. Ar \u00f4l treulio\u2019r ddegawd diwethaf yn gwanychu gwasanaethau cyhoeddus, mae\u2019r Ceidwadwyr nawr yn addo creu <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/news\/prisons-courts-and-victim-services-will-benefit-from-spending-review-funding\">18,000<\/a> o lefydd mewn carchardai ar draws Cymru a Lloegr, rhoi dedfrydau hirach a lleihau\u2019r nifer sy\u2019n cael eu rhyddhau\u2019n gynnar. Mae disgwyl i boblogaeth carchardai\u2019r wladwriaeth Brydeinig gynyddu y tu hwnt i 100,000 yn y blynyddoedd i ddod.<\/p>\n<p>Ac eto, tra bod y diwydiant carchardai yn cael ei ehangu\u2019n ddiderfyn, mae\u2019r cyfrifoldeb gwleidyddol ar gyfer yr amodau mewn carchardai yng Nghymru yn or-gymhleth ac ar chw\u00e2l &#8211; mwy felly nag yn unrhyw ran arall o\u2019r DG. Mae Cymru fel ffurflywodraeth mewn cyflwr o <a href=\"https:\/\/journals.sagepub.com\/doi\/abs\/10.1177\/0309816817742343\"><i>interregnum<\/i><\/a>. Mae\u2019r carfannau cyferbyniol o undebaeth o fewn y Blaid Lafur a\u2019r wladwriaeth Brydeinig ehangach wedi cynhyrchu senedd etholedig cenedlaethol sy\u2019n wahanol i\u2019r mwyafrif, gan ei bod wedi\u2019i chyfyngu rhag deddfu ar ystod o bynciau eang sy\u2019n ddirgelwch llwyr. Y Senedd sy\u2019n gyfrifol am iechyd carcharorion, eu haddysg a\u2019u lletya ymysg sawl cyfrifoldeb arall ond mae\u2019r rhan helaeth o beirianwaith cyfiawnder troseddol &#8211; y llysoedd, yr ystad garchardai a\u2019r rhan fwyaf o\u2019r gyfraith droseddol &#8211; o dan orchwyl San Steffan. Mae atebolrwydd ar chw\u00e2l; ni ellir dwyn unrhyw ran penodol i gyfrif.<\/p>\n<p>Yn waeth na hyn, byddai nifer o\u2019r ffeithiau am garcharu yng Nghymru yn anhysbys heblaw am ymdrechion yr academydd, Dr. Robert Jones. Mawr yw ein dyled i\u2019w ymdrechion yn y blynyddoedd diwethaf o ddadorchuddio gwybodaeth y byddai llawer iawn gwell gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder beidio \u00e2\u2019i datgelu. Mae\u2019i <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/wales-governance-centre\/publications\/justice\">adroddiadau<\/a> ar weithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru yn ddarllen hanfodol. Maent yn dangos system mewn argyfwng, lle mae maint y niwed a\u2019r anghyfiawnder a ddatgelir ond yn cael ei ateb \u00e2 dihidrwydd llwyr y rhan helaeth o\u2019r dosbarth llywodraethol yn San Steffan.<\/p>\n<p>Wrth i ddosbarthiad brechlyn Cofid-19 arwyddo dychwelyd yn araf tuag at \u2018normalrwydd\u2019, dylem fyfyfrio ar yr hyn y mae\u2019r normalrwydd hyn yn ei olygu i\u2019r rheiny sydd ym magl y system.<\/p>\n<h2>Methiant cyson<\/h2>\n<p>Mae nifer sy\u2019n byw o fewn egin-wladwriaeth Cymru, drwy hap a damwain eu geni, yn llawer mwy tebygol o gael eu carcharu ar ryw bwynt yn eu bywydau. Cymru, yn aml, sy\u2019n cofnodi\u2019r <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/uk-news\/2019\/jan\/16\/wales-has-highest-incarceration-rate-in-western-europe-prison-population-england\">cyfraddau garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop<\/a>. O ystyried y cysylltiadau sy\u2019n bodoli rhwng amddifadedd a throsedd, efallai na ddylem synnu gan fod un o bob pump oedolyn yn <a href=\"https:\/\/www.jrf.org.uk\/report\/poverty-wales-2020#:~:text=Even%20before%20coronavirus%2C%20almost%20a,the%20rest%20of%20the%20UK.\">byw mewn tlodi<\/a> yma.<\/p>\n<p>Mae\u2019r anghyfartaledd mewn carcharu o ran dosbarth a hil, serch hynny, yn gwbl amlwg. Os ydych yn dod o un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, rydych tua <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0004\/1535656\/Davies-and-Jones-May-2019-Supplementary-evidence-on-Deprivation-and-Imprisonment.pdf\">tair gwaith<\/a> yn fwy tebygol o gael eich carcharu na\u2019r rheiny sy\u2019n dod o\u2019r ardaloedd cyfoethocaf. Mae pobl o gefndiroedd Du, Asaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0010\/2446129\/Prison,-Probation-and-Sentencing-in-Wales-2019-Factfile.pdf\">gorgynrychioli<\/a>\u2019n anferthol o fewn poblogaeth y carchardai.<\/p>\n<p>Mae pobl du <i>chwe<\/i> gwaith yn fwy tebygol o gael eu carcharu, tra bod grwpiau ethnig gwyn yn cael eu tangynrychioli ac yn derbyn dedfrydau llai ar gyfartaledd. Mae profiadau plentyndod andwyol yn ffactor <a href=\"https:\/\/phw.nhs.wales\/files\/aces\/the-prisoner-ace-survey\/\">cyffredin<\/a>; mae nifer o garcharorion hefyd yn debygol o fod wedi bod mewn gofal tra\u2019n blant, yn ddiwaith ac yn gaeth i gyffuriau a phroblemau iechyd meddwl ar amser eu dedfrydu.<\/p>\n<p>Rhywbeth sy\u2019n gwaethygu hyn oll, yw bod y system yn diystyrru teulu, tarddle, iaith ac hunaniaeth yn llwyr. Yn 2019, roedd mwy na thraean o\u2019r 4,700 o garcharorion Cymru wedi\u2019u lleoli yn Lloegr, wedi\u2019u gwasgaru ar draws 100 o garchardai, tra bod carcharorion o Loegr yn llenwi bron i chwarter o boblogaeth y carchardai yng Nghymru. Yn y cyfamser, mae holl fenywod o Gymru sy\u2019n garcharorion mewn carchardai yn Lloegr yn unig. Mae\u2019r ddarpariaeth Gymraeg yn aml yn <a href=\"https:\/\/business.senedd.wales\/documents\/s102638\/MJW%2010%20Welsh%20Language%20Commissioner.pdf\">annigonol<\/a>; ac ar ben hynny, ceir adroddiadau ar hyd a <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-54324232\">lled<\/a> yr ystad garchardai o <a href=\"https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/how-welsh-prisoners-feel-afraid-15490643\">ymyrraeth<\/a> ar gyfathrebu teuluol a chosbau am siarad Cymraeg.<\/p>\n<p>Yna mae\u2019r mater o ddiogelwch, neu\u2019r diffyg diogelwch. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn y nifer sy\u2019n camddefnyddio cyffuriau ac yn hunan-niweidio, a chynnydd mewn ymosodiadau a hunan-laddiadau.<\/p>\n<p>Er i Berwyn gael ei groesawu fel un o\u2019r carchardai mwyaf blaengar, mae\u2019n un sydd \u00e2\u2019r <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-54165492\">lefelau gwaethaf o drais<\/a> ymysg y carchardai yng Nghymru. Yn rhannau o\u2019r ystad garchardai Saesnig lle mae menywod Cymru yn cael eu dal, mae menywod beichiog wedi cael eu gadael ar esgor <a href=\"https:\/\/www.independent.co.uk\/voices\/styal-prison-stillborn-baby-female-inmates-healthcare-pregnancy-birth-a9578861.html\">heb sylw meddygol<\/a>, sydd wedi arwain at ganlyniadau trychinebus. Hyd yn oed yn dilyn marwolaeth, yn aml fe anwybyddir unrhyw argymhellion ar gyfer <a href=\"https:\/\/ccseljmu.wordpress.com\/2018\/06\/25\/nottingham-and-exeter-prisons-death-danger-and-dehumanisation\/\">gwella diogelwch carchardai<\/a>.<\/p>\n<p>Mae dyfodiad Cofid-19 wedi gwaethygu\u2019r amodau ymhellach. Mae carchardai Cymru wedi wynebu rhai o\u2019r <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0010\/2446129\/Prison,-Probation-and-Sentencing-in-Wales-2019-Factfile.pdf\">lefelau uchaf<\/a> o\u2019r feirws; ym mis Mehefin, roedd un pumed o\u2019r holl achosion ar draws Cymru a Lloegr yng ngharchardai Cymru, er mai dim ond 6% o boblogaeth y carchardai cyfan sydd yng Nghymru.<\/p>\n<p>Er bod y feirws wedi amlygu peryglon amlwg carchardai gorlawn, nid yw llywodraeth y DG wedi rhyddhau dim ond ffracsiwn o boblogaeth \u2018risg isel\u2019 y carchardai. Mae carchardai Cymru yn parhau i fod yn orlawn ac mae nifer o\u2019r carcharorion wedi\u2019u cyfyngu i\u2019w cell am 23 awr y diwrnod &#8211; sydd o bosibl yn torri <a href=\"https:\/\/ukhumanrightsblog.com\/2020\/07\/06\/are-squalid-prison-conditions-and-the-response-to-the-covid-19-pandemic-breaching-human-rights\/\">rhwymedigaethau iawnderau dynol<\/a> y wladwriaeth. Ymhellach, mae ymweliadau teuluol wedi eu gohirio. O ganlyniad, mae trais a hunan-niweidio yn <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-55333413\">cynyddu<\/a> hyd yn oed yn fwy, ac mae <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/society\/2020\/oct\/20\/covid-prisoner-mental-health-at-risk-of-irreparable-damage\">rhybuddion<\/a> clir o \u2018niwed anadferadwy\u2019 i iechyd meddwl carcharorion. Mae Donna Wall, sydd \u00e2\u2019i mab wedi\u2019i garcharu ar ddedfryd canolradd yn Swydd Caerlyr, wedi <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/kiya-smith-cardiff-jailed-ipp-18691275\">lleisio ei phryderon<\/a>:<\/p>\n<p>Dwi heb gael ei weld ers cyfnod clo\u2019r coronafeirws, a\u2019r tro diwethaf i mi ei weld oedd wyth mis yn \u00f4l. Mae o yn ei gell am y mwyafrif o\u2019r dydd a dyw e ddim hyd yn oed yn mynd mas i wneud ymarfer corff felly beth mae hynny yn ei wneud iddo? Ac mae o dal yn ei gell. Dydyn nhw ddim yn addysgu na dim, felly mae\u2019n rhaid ei fod e\u2019n artaith iddo.<\/p>\n<p>Mae\u2019r system yn gweithio law yn llaw ag <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/03\/tai-housing\/\">argyfwng tai difrifol<\/a> yng Nghymru, sy\u2019n tywys pobl ar hyd y llwybr o\u2019r carchar i\u2019r strydoedd ac yn amlach na pheidio yn \u00f4l i\u2019r carchar. Datgelodd <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0010\/2446129\/Prison,-Probation-and-Sentencing-in-Wales-2019-Factfile.pdf\">ymchwil<\/a> Dr. Jones sut mae cannoedd o bobl yn cael eu rhyddhau er nad oes ganddynt gyfeiriad pendant i fynd iddo: mae hyn yn digwydd i tua 6 person yr wythnos yng Nghaerdydd. Dilyna hyn benderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared \u00e2\u2019r flaenoriaeth o sicrhau llety i\u2019r rhai sy\u2019n gadael carchar o dan y Ddeddf Dai (Cymru) 2014. Fel y <a href=\"https:\/\/www.itv.com\/news\/wales\/2019-08-27\/released-from-prison-to-become-homeless-ex-offender-calls-for-more-support\">dywed<\/a> un cyn-garcharor, mae\u2019r rhai sy\u2019n gadael y carchar yn cael eu \u2018taflu allan o\u2019r drws\u2019 i bob pwrpas. Mae\u2019r mwyafrif yn parhau i fod yn ddiwaith ar \u00f4l cael eu rhyddhau ac yn gorfod delio \u00e2\u2019r stigma a\u2019r rhagfarn barhaol yn eu herbyn oherwydd eu statws.<\/p>\n<p>Mae cyffredinolrwydd ymddangosiadol yr hyn a wneir i garcharion tra maent yng ngofal y wladwriaeth yn adlewyrchu eu safle gwbl ymylol fel dosbarth o fewn cymdeithas Cymru a Phrydain. Mae hefyd yn tanlinellu absenoldeb enbyd atebolrwydd sydd wedi\u2019i ysgogi gan system lle mae ymraniad cyfrifoldebau gwleidyddol yn hollol ddisynnwyr. Mae carcharorion wedi cael eu <a href=\"https:\/\/www.legislation.gov.uk\/ukpga\/1983\/2\/section\/3\">difreinio<\/a>, ac mae\u2019r pleidiau gwleidyddol pennaf yn ceisio <a href=\"https:\/\/www.independent.co.uk\/news\/uk\/politics\/priti-patel-statues-jail-labour-memorial-protests-colston-churchill-a9565066.html\">dawnsio i alaw<\/a> ddialgar a hunanol cyfryngau sy\u2019n eiddo i filiwnyddion &#8211; bob un yn helpu i gynnal ac ehangu yr ystad garchardai fel yr ydym yn ei hadnabod.<\/p>\n<h2>Tu hwnt i\u2019r carcharu<\/h2>\n<p>Nid oes dim yn anochel am yr hyn sy\u2019n digwydd. Fel y <a href=\"https:\/\/loicwacquantorg.files.wordpress.com\/2019\/03\/lw-2001-the-penalisation-of-poverty-and-the-rise-of-neo-liberalism.pdf\">dadleua<\/a> Loic Wacquant:<\/p>\n<p>Nid yw troi am gymorth i beirianwaith carchardai mewn cymunedau blaengar yn anochel, ond yn fater o ddewisiadau gwleidyddol, a dylai\u2019r dewisiadau hyn gael eu gwneud gyda gwybodaeth llawn o\u2019r ffeithiau a\u2019u canlyniadau.<\/p>\n<p>Tra bod olyniaeth llywodraethau\u2019r DG wedi dewis poblyddiaeth cosbol, difaterwch, torri costau a chreu elw &#8211; gan hyrwyddo carcharu\u2019n bwrpasol fel nodwedd barhaus o\u2019r system economaidd a chymdeithasol &#8211; mae llefydd o gwmpas y byd wedi llwyddo i leihau eu cyfraddau carcharu gydag amryw o gamau<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/__data\/assets\/pdf_file\/0015\/1701402\/International-Evidence-on-Driving-Down-Imprisonment-Rates.pdf\"> amgen<\/a>. Mae\u2019r Ffindir yn benodol wedi mynd o gael un o\u2019r cyfraddau uchaf yn Ewrop i un o\u2019r rhai isaf drwy gydosod dulliau\u2019n seiliedig ar dystiolaeth \u00e2 pholisi cymdeithasol ehangach sy\u2019n canolbwyntio ar leihau annhegwch a chryfhau gwasanaethau cymdeithasol.<\/p>\n<p>I Gymru, gyda chyn lleied o\u2019r cyfarpar anghenrheidiol ar gael, mae\u2019n rhaid i\u2019r dasg gyntaf fod yn un amddiffynnol: atal unrhyw ymestyniad pellach o\u2019r diwydiant dinistriol hwn. Nid yw Llywodraeth Cymru yn hollol ddi-rym yma. Dylid sicrhau ei bod yn <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/datganiad-ysgrifenedig-polisi-cyfiawnder-yng-nghymru\">cadw at eu<\/a> haddewid i beidio hwyluso mwy o garchardai. Dylai ail gyflwyno blaenoriaethau llety i\u2019r rheiny sy\u2019n gadael y carchar er mwyn atal y cylchdro o garcharu a digartrefedd. Gellid mynd ymhellach a rhoi\u2019r bleidlais i garcharorion mewn etholiadau yng Nghymru, gan roi llais angenrheidiol iddynt, a gwneud yr hawl i lety yn hawl hanfodol.<\/p>\n<p>Os yw Cymru am symud y <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/18\/tu-hwnt-ir-carcharu\/\">tu hwnt i\u2019r carcharu<\/a>, fodd bynnag, fel y mae Undod yn ei ddadlau, byddai\u2019n rhaid i strwythurau gwladwriaethol newid yn ddramatig. Byddai datganoli cyfiawnder neu wladwriaeth Gymraeg newydd, yn darparu\u2019r cyfleoedd angenrheidiol i gael gwared ar fethiannau\u2019r system bresennol.<\/p>\n<p>Ni fydd Cymreictod newydd anedig o reidrwydd yn gwneud yr ystad garchardai yn llai annioddefol, serch hyn. Yn wir, un risg yw y byddai mwy o reolaeth wleidyddol yng Nghymru o fewn y wladwriaeth bresennol yn helpu i ddilysu\u2019r diwydiant carchardai yma, gydag ychydig iawn yn cael ei wneud i\u2019w herio. Dylem hefyd gwestiynu pa mor wahanol y gall system o\u2019r fath weithredu o gymharu \u00e2\u2019r un presennol, yn enwedig os yw\u2019r lifrau economaidd mawr yn cael eu hatal a bod Cymru yn parhau o dan hegemoni plaid wleidyddol a oruchwyliodd cynnydd fwyfwy mewn carcharu, carcharu heb brawf, <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/law\/2020\/nov\/30\/uk-government-pays-out-to-family-of-ipp-prisoner-who-killed-himself-tommy-nicol\">carcharu er diogelwch cyhoeddus<\/a>, ac yn fwy diweddar, a hwylusodd greu carchar y Berwyn.<\/p>\n<p>Yn gryno, nid yw newid cyfansoddiadol yn ddigon. Fel y nododd Gareth Leaman yn ddiweddar mewn <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/14\/feirws-prydeinig-british-virus\/\">traethawd <\/a>grymus, os oes newid diwyllianol gwerth chweil am ymddangos o\u2019r pandemig \u2018&#8230;rhaid iddo gymryd ffurf sydd yn mynd y tu hwnt i ymwrthodiad syml o Brydeindod er mwyn creu \u2018Cymreictod\u2019 sydd yn wleidyddol arwyddocaol.\u2019 I\u2019r perwyl hwnnw, dylid herio normaleiddio carcharu ynghyd \u00e2\u2019r uniongrededd neoryddfrydol y ffynna ynddo. Fel y dywedodd Angela Davies, y dasg yw i \u2018ddychmygu clwstwr o strategaethau a sefydliadau amgen \u00e2\u2019r nod pennaf o waredu\u2019r carchar o dirlun cymdeithasol ac ideolegol ein cymdeithas\u2019.<\/p>\n<p>Yr uchelgais a ddylai fod yw sicrhau mai Berwyn yw\u2019r olaf o\u2019i fath yng Nghymru. Os na ellir ei ailbwrpasu ar gyfer dibenion cymdeithasol gwell neu ei ddinistrio\u2019n llwyr, dylem obeithio y bydd unrhyw adfeilion sy\u2019n weddill o sefydliadau o\u2019r fath fodoli fel cofeb yn unig i\u2019n rhybuddio o greulondeb yr oes a fu.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Y diwydiant ar dwf Os ydych chi am ddeall y Gymru gyfoes \u2013 sut y mae\u2019n cael ei llywodraethu, ei diwylliant gwleidyddol,\u00a0 y lefel o barch a roddir i iawnderau &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Sustem ddrwgweithredol&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":40,"featured_media":1070,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[145,95],"class_list":["post-1069","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-carchardai","tag-carcharu","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Sustem ddrwgweithredol - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Sustem ddrwgweithredol - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Y diwydiant ar dwf Os ydych chi am ddeall y Gymru gyfoes \u2013 sut y mae\u2019n cael ei llywodraethu, ei diwylliant gwleidyddol,\u00a0 y lefel o barch a roddir i iawnderau &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Sustem ddrwgweithredol&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-12-31T10:43:12+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-01-01T21:56:38+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/190920540.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2400\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Greg Davies\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Greg Davies\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"20 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/\"},\"author\":{\"name\":\"Greg Davies\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/f24cc1cf840e70d7bb06872c0aa4c809\"},\"headline\":\"Sustem ddrwgweithredol\",\"datePublished\":\"2020-12-31T10:43:12+00:00\",\"dateModified\":\"2021-01-01T21:56:38+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/\"},\"wordCount\":3966,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/190920540.jpg\",\"keywords\":[\"carchardai\",\"carcharu\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/\",\"name\":\"Sustem ddrwgweithredol - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/190920540.jpg\",\"datePublished\":\"2020-12-31T10:43:12+00:00\",\"dateModified\":\"2021-01-01T21:56:38+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/190920540.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/190920540.jpg\",\"width\":2400,\"height\":1600},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Sustem ddrwgweithredol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/f24cc1cf840e70d7bb06872c0aa4c809\",\"name\":\"Greg Davies\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5b9799f75bbc69ad14ae16fd5994a939629728d21f2881e14bac7cc770a53b2c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5b9799f75bbc69ad14ae16fd5994a939629728d21f2881e14bac7cc770a53b2c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5b9799f75bbc69ad14ae16fd5994a939629728d21f2881e14bac7cc770a53b2c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Greg Davies\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gregdavies\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Sustem ddrwgweithredol - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Sustem ddrwgweithredol - undod","og_description":"Y diwydiant ar dwf Os ydych chi am ddeall y Gymru gyfoes \u2013 sut y mae\u2019n cael ei llywodraethu, ei diwylliant gwleidyddol,\u00a0 y lefel o barch a roddir i iawnderau &hellip; Parhau i ddarllen \"Sustem ddrwgweithredol\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-12-31T10:43:12+00:00","article_modified_time":"2021-01-01T21:56:38+00:00","og_image":[{"width":2400,"height":1600,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/190920540.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Greg Davies","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Greg Davies","Est. reading time":"20 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/"},"author":{"name":"Greg Davies","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/f24cc1cf840e70d7bb06872c0aa4c809"},"headline":"Sustem ddrwgweithredol","datePublished":"2020-12-31T10:43:12+00:00","dateModified":"2021-01-01T21:56:38+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/"},"wordCount":3966,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/190920540.jpg","keywords":["carchardai","carcharu"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/","name":"Sustem ddrwgweithredol - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/190920540.jpg","datePublished":"2020-12-31T10:43:12+00:00","dateModified":"2021-01-01T21:56:38+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/190920540.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/190920540.jpg","width":2400,"height":1600},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/12\/31\/sustem-ddrwgweithredol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Sustem ddrwgweithredol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/f24cc1cf840e70d7bb06872c0aa4c809","name":"Greg Davies","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5b9799f75bbc69ad14ae16fd5994a939629728d21f2881e14bac7cc770a53b2c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5b9799f75bbc69ad14ae16fd5994a939629728d21f2881e14bac7cc770a53b2c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5b9799f75bbc69ad14ae16fd5994a939629728d21f2881e14bac7cc770a53b2c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Greg Davies"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gregdavies\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1069","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/40"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1069"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1069\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1079,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1069\/revisions\/1079"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1070"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1069"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1069"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1069"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}