{"id":1082,"date":"2021-01-02T21:05:18","date_gmt":"2021-01-02T21:05:18","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1082"},"modified":"2021-01-03T11:16:28","modified_gmt":"2021-01-03T11:16:28","slug":"1082","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/01\/02\/1082\/","title":{"rendered":"Yn Gyntaf, Na Wna Niwed"},"content":{"rendered":"<p><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Bydd llwyfannu \u2018adroddiant adferiad\u2019 (\u2018recovery narrative\u2019) \u00f4l-bandemig yng Nghymru &#8211; trwy ddathliad a esgorwyd arni gan \u2018ryfel diwylliant\u2019 Brexit &#8211; yn wrthddywediad llwyr, <i>meddai Frances Williams.<\/i><\/strong><\/p>\n<p>Yn hytrach na chydweithrediad rhyngwladol, ysgogi adroddiannau cenedlaetholgar ymosodol a wnaeth 2020, blwyddyn y pandemig.\u00a0 Roedd disgrifiad o&#8217;r firws fel corff estron wedi arwain at gyfres o ddigwyddiadau yn y Deyrnas Gyfunol (DG) oedd yn atgyfodi buddugoliaethau milwrol dros hen elynion o Ewrop a&#8217;r Dwyrain Pell. Fe\u2019u llwyfannwyd gyda\u2019r pwrpas honedig o godi hwyliau pobl,\u00a0 ac roedd dathliadau coffa&#8217;r Ail Ryfel Byd, diwrnodau <i>VE<\/i> a <i>VJ<\/i> fel ei gilydd, yn fwy nag erioed &#8211; er gwaetha\u2019r cyfyngiadau cloi a mesurau pellhau cymdeithasol a oedd ar waith ar y pryd.\u00a0 \u2018Cawn gwrdd unwaith eto\u2019 oedd sylw parod y Frenhines.<\/p>\n<p>Annhebyg y bydd digwyddiadau o\u2019r fath yn diflannu yn 2021 ond &#8211; fel y firws ei hun &#8211;\u00a0 gallant newid eu ffurf.\u00a0 Fel rhan o ymateb di-droi-n\u00f4l Llywodraeth \u2018Prydeinllyd\u2019 a \u2018Mawr\u2019 i\u2019r pandemig, ymddengys y bydd \u2018Cymreictod\u2019 am gael ei ail-bwrpasi er budd gwleidyddol, gan ddefnyddio \u2018p\u0175er meddal\u2019 perswadiol, diwylliannol.<\/p>\n<p>Isod, rwy\u2019n mapio rhai o\u2019r strategaethau a\u2019r tactegau sydd ar waith er mwyn siapio\u2019r hyn y mae\u2019n ei olygu i fod yn Gymro neu Gymraes yng nghyd-destun cyfredol \u2018cenedlaetholdeb Covid\u2019 &#8211; wedi\u2019i gynhyrfu o\u2019r newydd gan anghydraddoldebau cymdeithasol, iechyd ac economaidd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r dull cymhellol a fabwysiadwyd gan lywodraeth Johnson, un sy\u2019n benderfynol o gynnal rheolaeth ganolog, wedi ei gymeradwyo gyda chydsyniad tawel Lywodraeth \u2018cyfeillgar\u2019 Lafur Cymru. Dadleuaf bod ffurfiau tebyg (yn hytrach na gwahanol) o economi wleidyddol a llywodraethu yn cynhyrchu sgil-effeithiau tebyg, niweidiol.\u00a0 Mae\u2019r Llywodraethau yn ymorol? am gymorth sefydliadau diwylliannol yng Nghymru a Lloegr er mwyn chwarae eu rhan mewn \u2018rhyfel diwylliant\u2019 cynhennus.<\/p>\n<p><b>Ail-bwrpasu hanes Cymru<\/b><\/p>\n<p>Rhoddwyd sylw neilltuol yn 2020 i arwyr ac arwresau Cymru, er enghraifft, gan yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol. Dewisodd dynnu sylw, trwy drydariad animeiddiedig, at fywyd Betsi Cadwaladr.\u00a0 Caiff ei disgrifio\u2019n aml fel y \u2018Welsh Florence Nightingale\u2019, ac mae ei henw yn gyfarwydd i\u2019r mwyafrif o bobl oherwydd ei ddefnydd gan Fwrdd Iechyd Gogledd Cymru.\u00a0 Tra gall yr epithed ymddangos fel anrhydedd, mae&#8217;r gymhariaeth yn fwy amwys.\u00a0 Yn ystod Rhyfel y Crimea, bu ffrae rhwng Cadwaladr, y ferch ddosbarth gweithiol, a&#8217;r pendefig Nightingale yr oedd yn anghytuno \u00e2 hi, ac nid oedd hi\u2019n ufuddhau i\u2019w gorchmynion.<\/p>\n<p>Er gwaethaf y gwahaniaethau hyn, mae\u2019r amgueddfa wedi mabwysiadu Cadwaladr fel un o\u2019i harwyr: menyw ddigon \u2018gwych\u2019 i haeddu ei lle yn \u2018hanes meddygol milwrol\u2019.\u00a0 Mae&#8217;r term hybrid hwn ynddo&#8217;i hun yn enghraifft o efeillio bwriadol &#8211; plethiad sy&#8217;n cynnig gwybodaeth feddygol fel atodiad eilaidd i\u2019r mater o gynnal cyfreithlondeb rhyfel.\u00a0 Dyma feddygaeth megis balm moesegol, ei grym yn ymestyn y tu hwnt i atgyweirio corfforol, gan ryddhau\u2019r gydwybod gythryblus.<\/p>\n<p>Ysgogwyd dewis yr Amgueddfa i dynnu sylw at ffigurau hanesyddol Cymru &#8211; yn cynnwys Cadwaladr &#8211; gan y bwriad i ehangu ac ail-leoli o Aldershot yn Surrey i Fae Caerdydd yn 2022. Fel y nodwyd mewn llawer i hysbys blaenorol gan Undod, mae&#8217;r datblygiad hwn wedi&#8217;i wrthwynebu gan lawer ym mhrifddinas Cymru, am amryw resymau.\u00a0 Ymysg y corws o wrthwynebiad roedd cwynion gan bobl sy&#8217;n byw yn Nhrebiwt, sy&#8217;n gartref i rai o&#8217;r cymunedau diaspora hynaf yng Nghymru. Trydarodd un cerddor awgrym amgen: gallai \u2018Canolfan Hanes a Chelfyddydau Trebiwt\u2019 ddathlu \u2018bywydau a gwaith pobl yr ardal, yn hytrach na mawrygu marwolaeth a dinistr.\u2019<\/p>\n<p>Llwyddodd yr ymgyrch gyhoeddus yn erbyn yr Amgueddfa ar y safle newydd hwn orfodi newid yn y negeseuon cyhoeddus. Bellach mae\u2019r sawl sydd wrth y llyw yn honni y bydd arddangosfeydd yn \u2018adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol Bae Caerdydd fel porthladd.\u2019 Awgrymwyd addasu pellach gyda\u2019r syniad o Amgueddfa Cerddoriaeth y Fyddin fel modd o leddfu ar nodau cras yr anghydweld.\u00a0 Mae&#8217;r Amgueddfa wedi cyflogi\u2019r asiantaeth hysbysebu, Isobel, i helpu gyda brandio a chodi arian yn y dyfodol.\u00a0 Aneglur ydyw faint o arian sydd wedi&#8217;i wario ar y gwaith cysylltiadau cyhoeddus yma, ond o gymryd cipolwg ar wefan Isobel, debyg y bydd y costau yn cyrraedd y degau o filoedd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><b>Ymgyrch ehangach<\/b><\/p>\n<p>Mae modd ystyried yr anghydfod lleol hwn am hanesion dosbarth, hil, hawl a pherthyn fel rhan o ymgyrch ehangach sy\u2019n cael ei hwyluso gan y Blaid Lafur yng Nghymru. Er bod Whitehall yn helpu ariannu &#8211; gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi yn cyfrannu hyd at ddwy filiwn o bunnoedd ar gyfer cartref newydd &#8211; cefnogir yr Amgueddfa arfaethedig gan Gyngor Dinas Caerdydd, sy\u2019n awyddus i \u2018ddenu buddsoddiad\u2019. Mae&#8217;r Cyngor wedi pwysleisio effaith lleddfol Amgueddfa sy&#8217;n rhoi blaenoriaeth i hanes meddygol, dros yr elfen filwrol.\u00a0 Ysgrifennodd Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas, mewn llythrennau bras i bwysleisio\u2019r pwynt hwn: \u2018Gadewch imi fod yn eglur, Amgueddfa MEDDYGAETH Milwrol ydyw.\u00a0 Gallaf ddeall pam y gallai pobl wrthwynebu amgueddfa sy\u2019n mawrygu rhyfel, ond nid wyf yn si\u0175r bod amgueddfa sydd ag arddangosfeydd megis cerbyd Florence Nightingale, offer deintyddol a milfeddygol, a mintai diweddar i frwydro Ebola yn gwneud hynny.\u2019<\/p>\n<p>Mae\u2019r cyferbyniad hwn hefyd wedi\u2019i derbyn yn ddi-gwestiwn gan sylwebyddion eraill sy\u2019n mynnu nad \u2018Nid yw\u2019r prif bwrpas yw ymwneud \u00e2 chymryd bywydau, ond yn hytrach eu hachub\u2019.<\/p>\n<p>Digwyddiad diwylliannol arall sy&#8217;n edrych yn debyg o gyfrannu at strategaeth o ddrysni twyllodrus yw &#8216;Festival UK&#8217;, wedi\u2019i glustnodi ar gyfer 2022, gyda chynigion cychwynnol yn cael eu datblygu yn 2021. Dyrannwyd y swm o 120 miliwn gan Theresa May yn 2018, ac yn fuan fe gafodd ei fedyddio&#8217;n &#8216;\u0174yl Brexit&#8217; gan y beirniaid.\u00a0 Cafodd y syniad ei awgrymu yn y flwyddyn yr oedd May yn gobeithio sicrhau cytundeb Brexit, a hithau\u2019n llai na chynnil yn ei gobaith y byddai\u2019r \u0175yl yn \u2018cryfhau ein hundeb werthfawr\u2019.\u00a0 Penodwyd cyn Meistr y Seremon\u00efau ar gyfer y Gemau Olympaidd, Martin Green, i guradu\u2019r \u0174yl yn 2019. Yna cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Nicky Morgan, ei fod yn \u2018Gyfle gwych i hyrwyddo pob dim sy\u2019n arbennig am y DG\u2019.\u00a0 Byddai \u2018nid yn unig yn dathlu ein gwerthoedd a\u2019n hunaniaethau,\u2019 meddai ond \u2018yn helpu i ddenu busnes a buddsoddiad newydd.\u2019 Mae rhesymeg economaidd, gyda defnydd o eiriad penodol, yn cael eu cyflwyno i gefnogi\u2019r Amgueddfa Meddygaeth Filwrol a G\u0175yl y DG fel ei gilydd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r dull hwn yn fath newydd o undebaeth gymhellol a rheolaethol sydd yn cael ei amlygu gan yr ymdrechion i wrthwynebu mudiadau annibyniaeth ymledol yr Alban a Chymru (a rheiny yng ngogledd Iwerddon sy&#8217;n cefnogi Iwerddon unedig).\u00a0 Mae&#8217;r pandemig wedi ysgogi&#8217;r mudiadau hyn ymhellach.\u00a0 Mae \u2018uned i\u2019r undeb\u2019 o fewn rhif 10 Downing Street bellach wedi\u2019i neilltuo i\u2019w tanseilio, gan ofyn am stamp Jac yr Undeb fel dyfais frandio ar frechlyn Rhydychen (yn \u00f4l adroddiadau\u2019r papurau newydd fis Tachwedd diwethaf.)<\/p>\n<p>Mae \u201cUndebaeth 2.0\u201d yn coleddu gorffennol trefedigaethol Prydain fel etifeddiaeth gadarnhaol, gyda gwirioneddau anghyfleus yn cael eu gwadu.\u00a0 Unwaith eto, mae \u2018Prydain Fawr\u2019 yn cael ei byddino fel brand mewn marchnad fyd-eang, fel rhan o\u2019r hyn y mae rhai\u2019n awgrymu yw ymgais wirioneddol &#8211; os lledrithiol &#8211; i lansio yn ogystal \u201cYmerodraeth 2.0\u201d.\u00a0 Mae\u2019r hen gyfeillgarwch \u00e2 chyn-drefedigaethau (gwyn) Prydain yn cael eu hadfywio gyda\u2019r gobaith o gytundebau masnach newydd, trwy gynghreiriau megis \u2018anzuk\u2019 (Canada, Awstralia, Seland Newydd).\u00a0 Yn y cyfamser, n\u00f4l yn y DG, mae bil y farchnad fewnol yn clymu pedair gwlad mewn un economi wleidyddol, gan adael y setliad datganoledig yn deilchion (ymddengys nad oedd wedi \u2018setlo\u2019 wedi\u2019r cyfan, ac yn bellach yn cael ei ystyried gan Johnson yn \u2018drychineb\u2019).<\/p>\n<p>Ymhellach, ceisiodd Johnson achub y blaen ar unrhyw archwiliad o orffennol imperialaidd Prydain yn ystod blwyddyn a welodd ffrwydrad o brotestiadau Black Lives Matter ar lefel byd-eang.\u00a0 Yn y modd yma gellir darlledu&#8217;r g\u00e2n werin Gymraeg, Ar Lan y M\u00f4r o Ddinbych-y-pysgod fel rhan o noson olaf y Proms, ochr yn ochr \u00e2 pherfformwyr dan bwysau (gan y BBC, sydd ei hunan dan warchae) i ganu geiriau Rule Britannia.\u00a0 \u2018Rwy\u2019n credu ei bod hi\u2019n hen bryd inni roi\u2019r gorau i unrhyw embaras ymgreiniol am ein hanes, ein traddodiadau, a\u2019n diwylliant,\u2019 barnodd Johnson wrth iddo gamu mewn i\u2019r gyflafan yn y cyfryngau.\u00a0 Condemniodd unrhyw fyfyrio ar hanesion trefedigaethol y gorffennol fel gweithred niweidiol &#8211; math ar \u2018hunan-edliw\u2019 diangen.\u00a0 Yn wir, roedd ailasesiad hanesyddol yn arwydd o wendid a \u2018<i>wetness<\/i>\u2019 (gan ail-bwrpasu term Thatcher ar gyfer y rhai yn ei chabinet nad oedd yn rhannu ei phendantrwydd Monetaraidd).<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><b>Niwed nid Iach\u00e2d<\/b><\/p>\n<p>Wedi ymhel gyda\u2019r sawl sy\u2019n gweithio yn y sector diwylliannol yng Nghymru &#8211; yn enwedig y rhai sy\u2019n gwrthod y dull atchweliadol (<i>regressive<\/i>) hwn &#8211; nid mater ymylol yw diwylliant, o safbwynt y g\u00eam galed o wleidyddiaeth \u2018go iawn\u2019.\u00a0 Yn hytrach mae&#8217;n eistedd wrth galon ymgyrch propaganda sydd wedi&#8217;i chynllunio&#8217;n benodol i gyflyru\u2019r farn gyhoeddus (er yn gudd a heb ei gydnabod fel y cyfryw).\u00a0 Y tu hwnt i ganiat\u00e1u ailstrwythuro cyllid celfyddydau yng Nghymru gyda gogwydd penodol, mae strategaethau o&#8217;r fath yn mynd at galon y cwestiwn o bwy sy&#8217;n berchen &#8216;gemau&#8217;r goron&#8217; &#8211; term dadlennol yr Ysgrifennydd Diwylliant, Oliver Dowden ar gyfer y sefydliadau hynny sydd werth eu hachub: &#8216;Wyddoch chi, y Royal Albert Halls ac ati.&#8217;<\/p>\n<p>Mae gwefan ddwyieithog Festival UK yn ymfalch\u00efo mewn gwerthoedd Prydeinig: \u2018agored, gwreiddiol, optimistaidd\u2019.<\/p>\n<p>Ceir croeso cynnes i ddiwylliant Cymreig, gan gynnwys y Gymraeg, o fewn Undebaeth 2.0, sy&#8217;n defnyddio pwysau economaidd &#8211; a llwgrwobrwyo amlwg &#8211; er mwyn sicrhau bod artistiaid tlawd a sefydliadau celfyddydol yn parhau mewn cardod yn hytrach na chael gafael ar eu ffawd.\u00a0 Gellir ei ystyried yn gynllun bwriadol i ddistewi lleisiau trafferthus a fyddai fel arall yn ceisio hwyluso myfyrio beirniadol neu foesegol ar anghyfiawnderau&#8217;r gorffennol, a thywyllu unrhyw oleuni maent yn ei daflu ar anghyfiawnderau sy\u2019n parhau yn y presennol. Cyplysir ansicrwydd ariannol \u00e2 bygythiad uniongyrchol &#8211; tacteg y moron a\u2019r ffyn.\u00a0 Mae\u2019r pwysau hyn yn \u2018rhaeadru\u2019 trwy haenau llywodraeth &#8211; ac yn ymledu ar draws teyrngarwch gwleidyddol plaid &#8211; i drwytho normau cymdeithasol.<\/p>\n<p>Roedd Green ei hun yn ddigon hirben i gyfaddef mewn cyfweliad \u00e2\u2019r Guardian ym mis Ionawr 2020 y bydd yn \u2018her fawr ennill cefnogaeth y sawl sydd yn amheus yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru\u2019 (y sawl a gyfeiriwyd ati\u2019n ddiweddarach fel \u2018killjoys\u2019 a \u2018snarks\u2019 gan feirniaid).\u00a0 Parhaodd Boris Johnson gyda\u2019r bwriad o glustnodi&#8217;r arian ar gyfer yr \u0174yl arfaethedig hon, er gwaethaf y<\/p>\n<p>pwysau cyllidol a achoswyd gan y pandemig, a thrwy wneud hynny, cynnal ei adroddiant optimistaidd o\u2019r \u2018ucheldir heulog\u2019.\u00a0 Bellach talfyrrwyd enw\u2019r \u0175yl i\u2019r acronym, F UK * 2022, sef \u2018teitl arfaethedig\u2019 eto i\u2019w gadarnhau (i\u2019w newid, yn ddi-os, yn \u00f4l yr hyn y mae digwyddiadau yn ei bennu).<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><b>Gyda\u2019n Gilydd?<\/b><\/p>\n<p>Ers dyfodiad y pandemig, mae Green wedi gweld cyfle addasu\u2019r ffocws tuag at \u2018fframio adroddiant iachaol\u2019 trwy F UK * 2022, gan \u2018ddod \u00e2 phobl ynghyd\u2019 trwy ddiwylliant.\u00a0 Heb os, y mae\u2019r gr\u0175p o bobl yr awgrymir sydd angen eu dwyn ynghyd yn un sylweddol &#8211;\u00a0 \u2018cynhwysol\u2019 mewn ystyr absoliwt.\u00a0 Yn \u00f4l ei ganfyddiad ef, mae Green eisiau i\u2019r \u0175yl gyffwrdd \u00e2 bywydau \u201866 miliwn o bobl \u2019(h.y. pawb sy\u2019n byw yn y DU).<\/p>\n<p>\u2018Ni fydd yn dwyn pobl ynghyd\u2019 meddai\u2019r artist Stephen Pritchard gan wfftio honiad Green.\u00a0 Mae Pritchard, ymchwilydd ac ymgyrchydd sy&#8217;n byw yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, yn ffigwr blaenllaw yn y mudiad dros ddemocratiaeth ddiwylliannol.\u00a0 Mae&#8217;r mudiad hwn &#8216;yn cydnabod bod 2020 yn drobwynt yn y modd y mae diwylliant yn ei ystyr ehangaf yn cael ei ddeall, ei gefnogi a&#8217;i lywodraethu, ledled y DG.&#8217;<\/p>\n<p>Fel Green, mae Pritchard yn ymhel \u00e2 gwyliau diwylliant ar sail profiad yn y maes, ond bod hynny wedi ymwneud \u00e2 gwrthwynebiad, yn hytrach na chefnogaeth.<\/p>\n<p>Pan roddodd George Osbourne bum miliwn o bunnoedd tuag at Arddangosfa Fawr o&#8217;r Gogledd, bu Pritchard yn gwrthwynebu oherwydd nawdd BAE Systems.\u00a0 Byddai hyn wedi golygu defnyddio elw a enillwyd trwy werthiant arfau proffidiol i Saudi Arabia i ariannu&#8217;r digwyddiad diwylliannol \u2018p\u0175er meddal\u2019 hwn.\u00a0 Cynhaliodd boicot llwyddiannus, a arweiniodd at BAE yn ildio eu lle fel noddwr\u00a0 oherwydd y pwysau cyhoeddus.\u00a0 Ystyrir F UK * 22 gan Pritchard fel y diweddaraf mewn cyfres o fentrau rhanbarthol a gr\u00ebwyd er mwyn dwyn i gof \u2018gogoniant\u2019 Ymerodrol y gorffennol &#8211; gyda&#8217;r bwriad o hyrwyddo masnach y dyfodol, yn seiliedig ar gytundebau anfoesol.\u00a0 Ar \u00f4l clywed am F UK * 2022, seiniodd Pritchard rybudd cynnar ynghylch bwriad y prosiect, i rheiny yn y cenhedloedd datganoledig: &#8216;Oni all y cenhedloedd datganoledig weld bod hwn yn brosiect Tor\u00efaidd cynhennus sy&#8217;n ceisio adfywio undebaeth yn sgil #Brexit?&#8217;<\/p>\n<p>Ond mae F UK * 2022 yn derbyn cefnogaeth lawn gan Lywodraeth Cymru.\u00a0 Mae Gerwyn Evans wedi\u2019i benodi i weithio o dan y teitl Pennaeth Rhaglenni i \u2018Creative Wales\u2019.\u00a0 Derbyniodd cymeradwyaeth yn ogystal gan yr Arglwydd Elis-Thomas yn ei r\u00f4l fel Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.\u00a0 &#8216;Rwyf wedi cyffroi\u2019n lan gan gyfle arall i godi proffil rhyngwladol Cymru fel cenedl fach greadigol, yn llawn dop gyda\u00a0phobl dalentog a chyfeillgar, ar lwyfan y byd\u2019.<\/p>\n<p>Pery Elis-Thomas yn y modd gwenieithus hwn, gan adnabod dim ond &#8216;pobl gyfeillgar&#8217; yn hytrach na gelyn estron, firaol neu fel arall: &#8216;Mae Coronavirus wedi gosod heriau enfawr a digynsail ar wead ein bywyd cyffredin yng Nghymru, yn yr un modd a&#8217;n ffrindiau ledled y DU, ac rydym yn cymeradwyo\u2019r gwytnwch a&#8217;r creadigrwydd sydd wedi eu harddangos hyd yn hyn.\u00a0 Mae\u2019r \u0175yl hon yn gyfle euraidd i\u2019n meddyliau creadigol sy\u2019n brysur flodeuo i ffynnu ymhellach wedi\u2019r pandemig, ac arddangos ein talent i\u2019r byd unwaith eto.\u2019<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><b>Y Faneg Felfed<\/b><\/p>\n<p>Awgrymwyd y ddeinameg p\u0175er sydd ar waith rhwng Cymru a Lloegr mewn perthynas \u00e2 pholisi diwylliannol, trwy adroddiad yn manylu ar ymyrraeth gyhoeddus fygythiol gan yr Ysgrifennydd Diwylliant, mis diwethaf. Cymerodd Oliver Dowden y cam o wrthwynebu\u2019n n bersonol i ddatblygiad o fewn Amgueddfa&#8217;r Cartref, yn Hackney (fel Trebiwt, ardal sydd \u00e2 phoblogaeth ethnig amrywiol).\u00a0 Pan benderfynodd yr Amgueddfa cael gwared ar gerflun o\u2019r perchennog caethweision Robert Geffre o\u2019u hadeilad, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, dywedwyd wrthynt yn ddi-flewyn ar dafod mai nad \u2018gwaredu cerfluniau, gwaith celf a gwrthrychau hanesyddol eraill mo\u2019r ateb cywir.&#8217;\u00a0 Teimlai Cyfarwyddwr yr Amgueddfa ei bod \u2018dan fygythiad\u2019 gan y gwaharddiad hwn.\u00a0 Roedd y \u2018dethol\u2019 cyhoeddus yma wedi arwain at gamdriniaeth o\u2019r staff yr amgueddfa ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ystod yr hyn a gyfaddefodd oedd yn bennod \u2018trawmatig\u2019.\u00a0 Hyd yn hyn, erys y cerflun.<\/p>\n<p>Wrth ysgrifennu am y digwyddiad hwn mewn papur newydd cenedlaethol, disgrifiodd un Athro Prifysgol yr ymreolaeth sydd yn eiddo i\u2019r Cyngor Celfyddydau Lloegr trwy addasiad o drosiad enwog \u2018hyd fraich\u2019 Maynard Keynes. Yn yr achos hwn, fe gasglodd bod y pellter hwnnw\u2019n agosach at \u2018hyd figwrn\u2019 (<i>knuckle length<\/i>).\u00a0 Aeth yn ei flaen i amlygu\u2019r \u2018cyferbyniad\u2019 yn agwedd y cenhedloedd datganoledig, sydd wedi cyhoeddi eu bwriad i fynd i\u2019r afael ag enghreifftiau o fynegiant trefedigaethol y gorffennol.<\/p>\n<p>Do, fe gyhoeddodd Mark Drakeford adolygiad o gerfluniau trefedigaethol yng Nghymru (a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd).\u00a0 Ond mae gafael Llywodraeth Cymru ar gyllid cyhoeddus i\u2019w teimlo y tu \u00f4l i ddatganiadau cyhoeddus o&#8217;r math o fwriad (da) yn y celfyddydau.\u00a0 Ceir awgrym bod y \u2018migwrn\u2019 yn cael ei deimlo yng Nghymru hefyd, er efallai ei fod wedi&#8217;i wisgo mewn melfed.\u00a0 Cafodd Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor st\u0175r, er enghraifft, gan yr Is-Ganghellor am wrthwynebu codi cerflun i anrhydeddu HM Stanley yn Ninbych yn 2011 &#8211; ac eto yn 2020, pan wnaed galwadau pellach i&#8217;w symud.\u00a0 Mae Selwyn Williams yn tybio bod \u2018rheolau buddion masnachol cul\u2019 \u200b\u200bymhlyg yn y cerydd a dderbyniodd am fod yn rhy \u2018wleidyddol\u2019.\u00a0 Mae artistiaid, curaduron ac ymchwilwyr eraill yn son am atal tebyg, ond maent yn \u2018amharod i fynd ar goedd\u2019 &#8211; awgrym ynddo\u2019i hun o \u2018shifft\u2019 yn \u2018niwylliant diwylliant\u2019.<\/p>\n<p>Hyrwyddwyd F UK * 2022 gan un aelod o\u2019r Cyngor Celfyddydau (CCC)\u00a0 fel \u2018cyfle diddorol\u2019 i sefydliadau celfyddydol Cymru.\u00a0 Wrth siarad mewn fforwm caeedig, fe gydnabuwyd ganddynt fod yr enw G\u0175yl Brexit yn un sy\u2019n debygol o fod yn \u2018gusan angau\u2019 i unrhyw ddathliad a gynhelir gan sefydliadau celfyddydol yng Nghymru.\u00a0 Fodd bynnag, ceisiwyd tawelu meddyliau\u2019r sawl a oedd yn bresennol mewn fforwm zoom, bod y prosiect bellach yn \u2018wirioneddol annibynnol\u2019 er gwaethaf ei darddiad.\u00a0 Anogwyd sefydliadau celfyddydol yng Nghymru i geisio am arian ymchwil a datblygu sylweddoli ar y sail y ffaith bydd \u2018o leiaf un o\u2019r deg prosiect olaf yn sicr o ddod o Gymru\u2019.\u00a0 Fe wnaethant ychwanegu, heb fawr o eironi: \u2018Yn \u200b\u200bsicr nid mater i\u2019r Cyngor i\u2019w drefnu na saern\u00efo mohoni.\u00a0 Mae angen i ni gadw draw&#8230; \u2019<\/p>\n<p>Mae amnaid ac amrantiad o&#8217;r fath yn nodwedd gyffredin o fywyd yng Nghymru lle mae rhwydweithiau proffesiynol a rhwydweithiau o gyfeillgarwch yn aml yn fwy agos atoch na&#8217;r rhai yn Lloegr.\u00a0 Ond ni ddylai trefn gysurus o\u2019r fath ein dallu rhag gweld y modd y mae p\u0175er yn symud trwy haenau llywodraeth, trwy werthoedd normadol neoryddfrydol, i lawr i gyrff anllywodraethol &#8216;annibynnol&#8217;, i bocedi sefydliadau celfyddydol a chodau unigolion (lle mae\u2019r wobr ariannol yn cyrraedd, os cyrraedd o gwbl, fel arian man).<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><b>Y \u2018Art Wash\u2019 mwyaf erioed<\/b><\/p>\n<p>Nid pob artist na sefydliad celfyddydol yng Nghymru sy\u2019n fud ar bwyntiau o\u2019r fath, nac yn cael eu perswadio gan frolio\u2019r Arglwydd Elis-Thomas.\u00a0 Mae Rhiannon White, Cyfarwyddwr Theatr Common Wealth, sydd yn uchel ei pharch, yn gwreiddio ei harfer diwylliannol yng nghyd-destun ei chefndir dosbarth gweithiol Cymreig a&#8217;i gwerthoedd sosialaidd.\u00a0 Yn gefnogwr i Pritchard, mae hi hefyd yn angerddol dros ddemocratiaeth ddiwylliannol.\u00a0 Y gred hon sydd wedi ei harwain i ffwrdd o\u2019r llwyfan i greu dram\u00e2u &#8211; yn hytrach na dim ond eu \u2018gosod\u2019 &#8211; ymhlith profiad byw cymunedau dosbarth gweithiol Cymru.\u00a0 Wrth siarad yn uniongyrchol ag Undod, disgrifiodd F UK * 2022 fel \u2018digwyddiad <i>Art Wash <\/i>mwyaf a allai ddigwydd erioed!\u2019<\/p>\n<p>Pan ddaeth un sefydliad cenedlaethol at White i wneud cais am gyllid F UK * 2022 gwrthododd gan ei fod yn \u2018mynd yn groes i\u2019m gwerthoedd\u2019.\u00a0 Ei chred hithau yw bod rhaid i sefydliadau celfyddydol gofyn eu hunain mewn modd mwy ystyrlon: \u2018Ar gyfer pwy rydych chi&#8217;n gwneud y gwaith?\u2019 gan dynnu sylw at y ffaith bod rhai lleisiau radical wedi cael eu corlannu trwy gyfaredd arian fawr.\u00a0 Mae White yn gwrthod cymeradwyo cyfranogaeth o\u2019r fath ar sail rhyw syniad amhenodol o \u2018ddiniweidrwydd\u2019.\u00a0 Mae hi&#8217;n mynnu ei bod hi\u2019n bosibl cynnal safiadau moesol.\u00a0 Ond mae hi\u2019n ystyried sefydliadau yn fwy atebol nag unigolion llwglyd, gan fod y cyntaf yn barod i dorri ymgysylltu cymunedol o blaid cadw rhaglenni artistig \u2018craidd\u2019.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r sefydliad, <i>Migrants in Culture<\/i>, yn datgan yn yr un modd, &#8216;Nid ydym yn galw am gywilyddio unigolion a sefydliadau, a fydd yn gorfod derbyn yr arian hwn i oroesi.&#8217; Mewn gwrth-naratif hir <a href=\"http:\/\/migrantsinculture.com\/f-uk-2022\/\">a gyhoeddwyd mewn ymateb i F UK * 2022<\/a>, mae&#8217;r gr\u0175p yn datgan sut y maent &#8216;fel ymfudwyr sy&#8217;n gweithio yn y celfyddydau yn gwybod nad yw ein creadigrwydd yn meddu ar genedligrwydd&#8217;. Mae eu gweledigaeth yn un amserol, wedi&#8217;i gosod ymhlith y ffiniau newydd sy&#8217;n cael eu taflu i fyny gan ennyd presennol y pandemig.\u00a0 &#8216;Credwn y buasai Martin Green &#8211; Prif Swyddog Creadigol F UK * 2022 &#8211; mewn \u201cecoleg\u201d celfyddydol atebol a moesegol, yn ailddyrannu cyllideb \u00a3120 miliwn yr \u0175yl gyda\u2019r bwriad o adferiad teg i&#8217;r sector celfyddydau a diwylliannol &#8230; lle nad yw ein gallu i oroesi\u2019r pandemig yn ddibynnol ar ddosbarth, hil na chenedlaethol. &#8216;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-1083\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/400x400_brexit-festival-social-media51-300x300.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/400x400_brexit-festival-social-media51-300x300.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/400x400_brexit-festival-social-media51-150x150.jpg 150w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/400x400_brexit-festival-social-media51.jpg 400w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/> <img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-1084\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/400x400_brexit-festival-social-media1-300x300.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/400x400_brexit-festival-social-media1-300x300.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/400x400_brexit-festival-social-media1-150x150.jpg 150w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/400x400_brexit-festival-social-media1.jpg 400w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p><i>Graffig wedi&#8217;i gynhyrchu gan <\/i>Migrants in Culture<i> mewn ymateb i Festival UK 2022<\/i><\/p>\n<p>Daw eu datganiad fel her i\u2019w chroesawu i\u2019r rhai sy\u2019n cymryd safbwynt hanfodol o \u2018Gymreictod\u2019 yn seiliedig ar gred mewn Cymreictod \u2018go iawn\u2019, neu\u2019n fwy niweidiol fyth, purdeb ethnig.\u00a0 \u2018Nid oes y fath beth \u00e2 chreadigrwydd y DG\u2019 y mae <i>Migrants in Culture<\/i> yn ategu.\u00a0 Felly hefyd gallwn ddod i\u2019r un casgliad am greadigrwydd Cymreig.\u00a0 Yr hyn sydd yn parhau heb os yw cyfundrefn \u200b\u200bo gyllid celfyddydol ar sail cymhorthdal, un sydd wedi&#8217;i lleoli&#8217;n gadarn o fewn strwythur p\u0175er datganoledig sy&#8217;n llunio cynhyrchiad diwylliannol mewn modd rhagweithiol &#8211; trwy fodelau ail-law o frandio corfforaethol, cenedlaetholgar.<\/p>\n<p>Nawr ein bod yn wynebu&#8217;r addewid llwm o sefydliadau celfyddydol Cymru yn wynebu dinistr heb arian y wladwriaeth, mae&#8217;r egwyddorion a&#8217;r rhagdybiaethau y dyrennir cyllid o&#8217;r fath arnynt &#8211; &#8216;amrywiaeth&#8217;, &#8216;cymuned&#8217; a &#8216;chydraddoldeb&#8217; &#8211; yn cael eu hamlygu fel sloganau (hunan)marchnata.\u00a0 Mae\u2019r Cyngor Celfyddydau yn gweithredu fel gweinyddwr statws eilradd, ar gyfer system o nawdd gwladwriaethol, pen-i\u2019r-gwaelod.\u00a0 Mae cymunedau dosbarth gweithiol a duon yng Nghymru wedi cael eu hecsbloetio am eu gwerth \u2018offerynnol\u2019 yn hyn o beth, gan gynnwys cael eu hymrestru yn fwyaf diweddar fel yr \u2018art washers\u2019 ar gyfer F UK * 2022.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><b>Casgliad<\/b><\/p>\n<p>Wrth leoli hunaniaeth Gymreig yng nghyswllt rhyngwladoliaeth yn hytrach na Phrydeindod, mae Undod yn darparu fforwm gwerthfawr i rannu, cysylltu a thrafod strategaethau ar gyfer y dyfodol nad ydynt yn efelychu modelau trefedigaethol y gorffennol.\u00a0 Mae angen i ni ddarganfod ffyrdd o greu undod sy&#8217;n gwneud y mwyaf o\u2019n gwahaniaethau, yn hytrach na chaniat\u00e1u iddynt achosi rhaniadau pellach neu ddolur.\u00a0 Mae angen llunio cyffredineddau\u2019n ofalus er mwyn i ffurfiau newydd o solidariaeth cyniwair.\u00a0 Dichon y gellir creu cysylltiadau rhwng academyddion sydd \u00e2 diddordeb ynghylch sut y gall cynghreirio gweithio\u2019n ymarferol, cymaint \u00e2 mewn theori, mewn cyd-destun Cymreig.\u00a0 Dyma le mae potensial ar gyfer \u2018croesdoriadaeth\u2019 yn gorwedd ar draws ffiniau hil a dosbarth.\u00a0 Gall y rhain danseilio\u2019r naratifau gwyrdro\u00ebdig sy\u2019n cael eu cynnig mewn modd mor dwyllodrus &#8211; ac mor effeithiol &#8211; gan y Dde.<\/p>\n<p>Mae Pritchard wedi dangos bod ymgyrchoedd cyhoeddus llwyddiannus yn bosibl, a rhwydweithiau&#8217;n cael eu diriaethu pan wneir lle i amheuon preifat gael eu mynegi\u2019n gyhoeddus.\u00a0 Fel yr awgryma White, rwyf wedi ceisio bod yn ofalus yma i bwy yr wyf yn siarad, gan gyfyngu ar y niwed y gallaf ei achosi i eraill.\u00a0 Yn ddiau, mae staff CCC yn destun diwylliannau sefydliadol trahaus sy\u2019n rhaeadru i lawr o Lywodraeth Cymru trwy linellau rheolaeth hierarchaidd.\u00a0 Ond o fewn y diwylliannau (gweithiol) hyn, mae yna daer angen cadw lle am atebolrwydd personol.\u00a0 Mae angen i ni ddatgelu a gwasgaru \u2018rhyfeloedd diwylliant\u2019 heb inni o reidrwydd dod yn rhan ohonynt.<\/p>\n<p>Mae\u2019r llw hipocrataidd yn gwahodd meddygon \u2018yn gyntaf, na wna niwed\u2019. Trwy\u2019r prosiectau diwylliannol a ddisgrifir uchod, mae\u2019r rhagosodiad hwn wedi cael ei droi ben-i-waered: gellir lliniaru niwed trwy falm \u2018diwylliannol\u2019, i\u2019w dodi ar \u00f4l y digwyddiad.\u00a0 Mae&#8217;n wrthdroad niweidiol, gan ei fod yn gwahodd dolur yn y dyfodol, tra\u2019n esgeuluso\u2019r niwed sydd eisoes wedi&#8217;u cyflawni.\u00a0 Yn hytrach na dathlu gorfodol, mae yna bellach angen galar ar y cyd: nid yn unig am y rhai sydd wedi marw yn y pandemig, ond am y sefyllfa druenus a ganiataodd i&#8217;r firws ecsbloetio anghydraddoldeb i&#8217;r fath graddau marwol.<\/p>\n<p>Bydd niwed yn cael ei achosi i artistiaid yng Nghymru, wrth iddynt weithio mewn sector sydd wedi&#8217;i chrebachu yn y tymor hwy, gan wariant enfawr un-tro a dros-dro.\u00a0 Bydd y mecanweithiau sy&#8217;n galluogi craffu democrataidd ac atebolrwydd hefyd yn cael eu llurgunio a&#8217;u hosgoi yn y broses.\u00a0 Ceir eironi na ddylid ei hanwybyddu yn y ffaith mai Llywodraeth Gymru (Llafur) sy&#8217;n tanseilio pwerau datganoledig nhw eu hunain trwy&#8217;r cymeradwyaeth hwn o Undebaeth 2.0.\u00a0 Wrth i&#8217;n cyfeillion a&#8217;n teuluoedd ddarparu&#8217;r data ar gyfer mapiau marwolaethau, i&#8217;w hail-lunio gan y pandemig, mae ein bywydau a&#8217;r ffiniau yr ydym yn byw oddi fewn iddynt yn y fantol, fel erioed o&#8217;r blaen.\u00a0 Ymhell o fod y \u2018tonic sydd ei angen arnom\u2019 yng Nghymru, diod gyda dos dinistriol yw F UK * 2022: gwenwyn ar ffurf meddyginiaeth.<\/p>\n<p><em>\u00a0Cwblhaodd Dr Frances Williams ei PhD ar bwnc y Celfyddydau mewn Iechyd mewn perthynas \u00e2 datganoli ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion yn 2019. Mae hi&#8217;n byw ac yn gweithio rhwng Gogledd Cymru a De Llundain.<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>&nbsp; Bydd llwyfannu \u2018adroddiant adferiad\u2019 (\u2018recovery narrative\u2019) \u00f4l-bandemig yng Nghymru &#8211; trwy ddathliad a esgorwyd arni gan \u2018ryfel diwylliant\u2019 Brexit &#8211; yn wrthddywediad llwyr, meddai Frances Williams. Yn hytrach na &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/01\/02\/1082\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Yn Gyntaf, Na Wna Niwed&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1085,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-1082","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Yn Gyntaf, Na Wna Niwed - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Yn Gyntaf, Na Wna Niwed - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"&nbsp; Bydd llwyfannu \u2018adroddiant adferiad\u2019 (\u2018recovery narrative\u2019) \u00f4l-bandemig yng Nghymru &#8211; trwy ddathliad a esgorwyd arni gan \u2018ryfel diwylliant\u2019 Brexit &#8211; yn wrthddywediad llwyr, meddai Frances Williams. Yn hytrach na &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Yn Gyntaf, Na Wna Niwed&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/01\/02\/1082\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-01-02T21:05:18+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-01-03T11:16:28+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/Screen-Shot-2020-10-18-at-20.28.23.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1280\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"570\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Undod\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Undod\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"38 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/\"},\"author\":{\"name\":\"Undod\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e\"},\"headline\":\"Yn Gyntaf, Na Wna Niwed\",\"datePublished\":\"2021-01-02T21:05:18+00:00\",\"dateModified\":\"2021-01-03T11:16:28+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/\"},\"wordCount\":7618,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/Screen-Shot-2020-10-18-at-20.28.23.png\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/\",\"name\":\"Yn Gyntaf, Na Wna Niwed - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/Screen-Shot-2020-10-18-at-20.28.23.png\",\"datePublished\":\"2021-01-02T21:05:18+00:00\",\"dateModified\":\"2021-01-03T11:16:28+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/Screen-Shot-2020-10-18-at-20.28.23.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/Screen-Shot-2020-10-18-at-20.28.23.png\",\"width\":1280,\"height\":570},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Yn Gyntaf, Na Wna Niwed\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e\",\"name\":\"Undod\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Undod\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/undod\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Yn Gyntaf, Na Wna Niwed - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Yn Gyntaf, Na Wna Niwed - undod","og_description":"&nbsp; Bydd llwyfannu \u2018adroddiant adferiad\u2019 (\u2018recovery narrative\u2019) \u00f4l-bandemig yng Nghymru &#8211; trwy ddathliad a esgorwyd arni gan \u2018ryfel diwylliant\u2019 Brexit &#8211; yn wrthddywediad llwyr, meddai Frances Williams. Yn hytrach na &hellip; Parhau i ddarllen \"Yn Gyntaf, Na Wna Niwed\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/01\/02\/1082\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2021-01-02T21:05:18+00:00","article_modified_time":"2021-01-03T11:16:28+00:00","og_image":[{"width":1280,"height":570,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/Screen-Shot-2020-10-18-at-20.28.23.png","type":"image\/png"}],"author":"Undod","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Undod","Est. reading time":"38 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/"},"author":{"name":"Undod","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e"},"headline":"Yn Gyntaf, Na Wna Niwed","datePublished":"2021-01-02T21:05:18+00:00","dateModified":"2021-01-03T11:16:28+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/"},"wordCount":7618,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/Screen-Shot-2020-10-18-at-20.28.23.png","articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/","name":"Yn Gyntaf, Na Wna Niwed - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/Screen-Shot-2020-10-18-at-20.28.23.png","datePublished":"2021-01-02T21:05:18+00:00","dateModified":"2021-01-03T11:16:28+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/Screen-Shot-2020-10-18-at-20.28.23.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/Screen-Shot-2020-10-18-at-20.28.23.png","width":1280,"height":570},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/01\/02\/1082\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Yn Gyntaf, Na Wna Niwed"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e","name":"Undod","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g","caption":"Undod"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/undod\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1082","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1082"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1082\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1088,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1082\/revisions\/1088"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1085"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1082"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1082"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1082"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}