{"id":1100,"date":"2021-01-21T13:13:15","date_gmt":"2021-01-21T13:13:15","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1100"},"modified":"2021-06-11T20:20:41","modified_gmt":"2021-06-11T19:20:41","slug":"cymunedau-o-dan-warchae","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/","title":{"rendered":"Tai haf ac ysgolion pentre: deuoliaeth y mudiad cenedlaethol"},"content":{"rendered":"<p><em>Angharad Dafis<\/em><\/p>\n<p>Mae cymunedau gwledig Cymru o dan warchae.\u00a0 Mae tai haf ar y naill law a diddymu canolfannau cymdeithasol o bob math ar y llall yn cael effaith andwyol ar hyfywedd yr iaith Gymraeg heb s\u00f4n am ansawdd a safon bywyd trigolion y cymunedau hynny.\u00a0 Ond nid yw\u2019r naratif cenedlaetholgar prif ffrwd swyddogol fel pe bai am gydnabod niwed y ddwy elfen hon.\u00a0 Ac er y g\u0175yr pobl y de-orllewin fod tai haf wedi bod yn nychu ein pentrefi arfordirol yn neilltuol ers degawdau lawer, dim ond yn awr a hithau bron yn rhy hwyr y mae\u2019r rhai sy\u2019n dal awenau grym fel pe baent yn dechrau cydnabod hynny.<\/p>\n<p>Rwyf newydd ddathlu fy mhen-blwydd yn drigain.\u00a0 Gallaf ddweud gyda\u2019m llaw ar fy nghalon fod y mewnlifiad o bobl nad oedd ganddynt unrhyw fwriad nac awydd dysgu\u2019r Gymraeg a\u2019r modd yr oedd hynny mewn perygl o nychu Cymreictod pentrefi a threfi gorllewin Cymru, yn rhywbeth yr oeddwn yn ymwybodol ohono yn blentyn ifanc.\u00a0 Gan mwyaf, roedd y Gymraeg yn dioddef oddi wrth ddifaterwch tuag ati\/anwybodaeth ohoni neu yn rhy fynych o lawer, elyniaeth ronc.\u00a0 Nid dim ond y pentrefi arfordirol wrth reswm, ac nid dim ond yng nghyd-destun tai haf.\u00a0 Roeddwn hefyd yn ymwybodol ein bod fel pobl yn gwbwl ddiymadferth wrth geisio wynebu effeithiau\u2019r mewnlifiad a dygymod yn feunyddiol \u00e2 hwy.<\/p>\n<p>Gydol yr hanner canrif diwethaf rwyf wedi bod yn disgwyl ateb gwleidyddol i\u2019r pos.\u00a0 Gydol yr amser yn ogystal rwyf wedi teimlo mai mater o \u2018tawed y calla s\u00f4n\u2019 yw hi wedi bod.\u00a0 Roedd, ac y mae disgwyl i ni ddiodde\u2019n dawel a dirwgnach rhag tanseilio ymdrechion Plaid Cymru i ennill yr etholiad nesa, neu\u2019n waeth rhag cael ein cyhuddo o hiliaeth. A rhai da ydym ni\u2019r Cymry am gilio i\u2019n cragen pan gawn ein bwlio.\u00a0 Boed hynny oblegid y Welsh Not neu\u2019r Welsh Mirror mae\u2019r effeithiau yn medru bod yn rhai hynod hirhoedlog.\u00a0 Mae\u2019r mudiad cenedlaetholgar yn dal i ddiodde o glwyfau\u2019r difenwi gwag abswrd hwnnw pan grochlefwyd \u2018hiliaeth\u2019 gan bobl wynion freintiedig gyfoethocach oedd yn barod iawn i defnyddio\u2019u braint a\u2019u cyfoeth i gyflawni gormes ieithyddol, diwylliannol ac economaidd.\u00a0 Llwyddasant er hynny drwy yngan yr un gair hwnnw i ladd unrhyw drafodaeth ystyrlon am yr anghyfartaledd economaidd oedd wedi arwain at yr argyfwng y tro diwetha i rywrai mwy eofn na\u2019i gilydd fentro ei grybwyll.<\/p>\n<p>Eilbeth yn hyn oll yw lles meddyliol siaradwyr Cymraeg.\u00a0 Dyna yw\u2019r realiti y disgwylir i ni ddygymod ag ef, pa mor annaturiol bynnag yr ymddengys.\u00a0 Felly y buasai digwyddiadau cymdeithasol yn neuadd yr eglwys Llanybydder dyweder yn aml yn cael eu britho \u00e2\u2019r ymadrodd \u2018And now for the benefit of our English friends.\u2019\u00a0 Efallai y dylasem fod wedi bod yn ddiolchgar gan fod aml i noson mewn neuaddau pentre erbyn hyn yn cynnwys dim ond deunydd \u2018for the benefit of our English friends.\u2019 Ac felly mae siaradwyr Cymraeg wedi eu cyflyru i feddwl mai eu problem nhw yw eu\u00a0 Cymreictod \u2013 nid problem y sawl sy\u2019n dod i fyw yn eu plith.\u00a0 Yn yr un modd, problem brodorion llefydd megis Trefdraeth yw eu bod ers blynyddoedd bellach yn ddieithriaid yn eu bro eu hunain ac wedi teimlo rheidrwydd yn sgil hynny i symud oddi yno. Gall rhywun ond dychmygu sut y mae\u2019r un person sy\u2019n weddill gydol y flwyddyn yng Nghwm yr Eglwys yn teimlo.<\/p>\n<p>Rwyf wedi hen flino bellach ar ddisgwyl ateb i\u2019r pos. Taten boeth yw\u2019r mewnlifiad o hyd.\u00a0 Does neb sydd \u00e2 mymryn o rym wedi llwyddo mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r peth.\u00a0 Aeth degawdau gwerthfawr heibio ers dyfodiad Cynulliad ac yna Senedd ym mae Caerdydd pan allasai\u2019r pleidiau gwleidyddol o bob plaid, ond yn enwedig wrth reswm Blaid Cymru, fod wedi torchi llewys a cheisio lliniaru argyfwng sydd wedi ei ddwys\u00e1u gan ddyfodiad Covid-19 a dymuniad naturiol pobol i ffoi o\u2019r dinasoedd a\u2019r mannau poblog i lefydd lle ceir mwy o awyr iach a daear i\u2019w chrwydro ar ddwy droed.<\/p>\n<p>Hyd yn oed wedi i ddegau onid cannoedd yn wir o dai Ceredigion er enghraifft gael eu traflyncu gan bobl o bant ag arian parod yn llosgi yn eu pocedi yn ystod haf 2020, prin yw\u2019r disgwrs cyhoeddus am y mewnlifiad.\u00a0 Dim ond i\u2019r graddau fod modd neilltuo hynny i bwnc tai haf a gallu pobl leol i gyfranogi o\u2019r stoc dai y mentrir ei grybwyll.\u00a0 Yn ddiweddar, bu llawer o s\u0175n a swae yn hwyr iawn yn y dydd am effaith andwyol tai haf ar gymunedau gwledig.\u00a0 Er bod creu fframwaith i atal rhywfaint ar erydu pellach i\u2019w groesawu wrth reswm, mae aml i bentre mor llawn o dai haf nes bod s\u00f4n am gwota mor hwyr yn y dydd yn hollol ddiystyr.\u00a0 Mae lle i amau i ba raddau y bydd dyblu Treth Gyngor hefyd yn cael effaith bellgyrhaeddol ar y sefyllfa pan fo perchnogion tai haf yn medru codi miloedd o arian poced pwysfawr yr wythnos am logi eu heiddo hudol.<\/p>\n<p>Ac os mai arian cyhoeddus yw\u2019r broblem honedig o ran cynnal ysgolion gwledig, pam na ellid codi treth ysgolion bychain ar berchnogion tai haf?\u00a0 Mae\u2019n siwr y buasai hynny yn llawer rhy chwyldroadol i\u2019n gwlad gysglyd.\u00a0 Mae rhywun wedyn yn rhwym o ofyn y cwestiwn: buddiannau pwy yn union y mae gwleidyddion ein Senedd yn eu gwasanaethu drwy ganiat\u00e1u i\u2019r fath siarabang ein ffriwhilo\u2019n ddilyffethair i\u2019n hebargofiant?<\/p>\n<p>Wrth gwrs roedd raid i\u2019r argyfwng daro Gwynedd yn wael cyn bod gwleidyddion, fawr a m\u00e2n, yn dechrau ymystwyrian.\u00a0 Bron na ellid dweud bod elfen boblyddol hyd yn oed yn perthyn i\u2019r don sydd wedi dygyfor yn sgil Covid yn erbyn tai haf. A phoblyddiaeth yw\u2019r hyn sy\u2019n gyrru gwleidyddion o bob plaid y dwthwn \u00f4l-Frecsitaidd hwn.<\/p>\n<p>Nid ymddengys fod y don boblyddol hon wedi ymestyn i gefnogi ysgolion gwledig chwaith. Buasai rhywun yn tybio y buasai hollbresenoldeb y pla byd-eang wedi ysgogi pobol i ailfeddwl ac i ailystyried polis\u00efau dinistriol megis mynd ati bron yn systematig i gau ysgolion Cymraeg gwledig;\u00a0 ac y buasai hi\u2019n rhesymol i weledigaeth glir y rhai oedd yn dymuno dianc o lefydd poblog yn Lloegr gael ei hadleisio yn nymuniad Cymry cenedlaetholgar i warchod ysgolion gwledig lle buasai modd i blant ymbellh\u00e1u yn gymdeithasol a mwynhau digonedd o awyr iach ar yr un pryd.<\/p>\n<p>Onid yw rhesymeg yn dweud na ellir gwrthwynebu tai haf heb hefyd wrthwynebu cau ysgolion bychain?\u00a0 Os ydych o blaid cymunedau Cymraeg, does bosib eich bod hefyd o blaid ysgolion pentrefol Cymraeg eu hiaith?\u00a0 Yn wir onid yw cau ysgol yn ffordd sicr o newid natur unrhyw bentre i fod yn bentref cymudwyr \u2013 pobl sy\u2019n teithio oddi yno ben bore i gael eu hysgolia\/i weithio dim ond i ddychwelyd erbyn nos.\u00a0 Lle a ddefnyddir i gysgu ynddo yn unig.\u00a0 Mangre lle nad yw cymdogion yn adnabod ei gilydd.\u00a0 Na phlant yn cyd-chwarae.\u00a0 Cam ceiliog o\u2019r gwactod a greir gan hynny yw troi\u2019r pentref yn bentre o dai haf.\u00a0 Nid yw cau ysgol bentre yn ffordd sicr o ddenu pobl ifanc i fyw yno chwaith. Ac mewn pobl ifanc y mae parhad.<\/p>\n<p>Rhyfedd felly yw gweld Plaid Cymru wedi degawdau o hepian wrth y t\u00e2n yn dewis deffro a dechrau taranu yn groch o\u2019r diwedd yn erbyn y farchnad dai haf.\u00a0 Anodd ar y naw yw dirnad afresymeg ymwrthod \u00e2\u2019r farchnad dai haf ar y naill law (marchnad yr ymddengys i\u2019r blaid ei hanwybyddu\u2019n gyfleus am ddegawdau lawer), ac ymwrthod yn ogystal ag ysgolion bychain gwledig ar y llall.\u00a0 Yn hytrach na gweld y pla fel cyfle i wneud tro pedol drwyddi draw, a dathlu gwerth unedau bychain drwy ddatgan cefnogaeth ddiamwys i ysgolion Cymraeg o bob maint, yr hyn wnaeth Plaid Cymru yng Ngwynedd oedd fe ymddengys ceisio cynghreirio gyda\u2019r gweinidog addysg yn y llywodraeth Lafur er mwyn prysuro cau ysgol Abersoch.<\/p>\n<p>Yn wir onid yw ein plaid genedlaethol wedi bod yn ymddwyn yn hynod ddeublyg dros fisoedd celyd y gaeaf wrth gyhoeddi\u2019n llafar ar y naill law na ellir diodde rhagor mewn perthynas \u00e2 thai haf, gan osod y bai yn sgw\u00e2r wrth draed y Blaid Lafur, tra ar yr un pryd yn llawiau gyda\u2019r union blaid honno wrth brysuro i geisio cau ysgolion bychain ar adeg pan fo\u2019r ysgolion hynny ar gau yn sgil Covid-19?<\/p>\n<p>Dyna Gyngor Sir Plaid Cymru Caerfyrddin hithau er cyhoeddi cyfres o fesurau clodwiw munud ola i fynd i\u2019r afael \u00e2 phroblem tai haf, yn mynd ati gyda\u2019r un s\u00eal \u00e2 Chyngor Gwynedd i gyhoeddi ymgynghoriad ar gau ysgol gyfrwng Cymraeg Mynydd y Garreg, hithau hefyd ar gau yn y cyfnod clo, y pentre o le yr hanai ac y trigai Ray Gravell, a ymgyrchodd o blaid cadw ysgol y pentref ar agor.<\/p>\n<p>Nid gormodiaith yw dweud bod yr ymosodiadau didrugaredd ar y cymunedau Cymraeg o bob tu yn gyflafan.\u00a0 Mae derbyn ergydion gan rai y buasai rhywun yn meddwl eu bod yn garedigion yr iaith yn anodd iawn ei amgyffred.\u00a0 Pan fo rhywun yn teimlo o dan fygythiad, yr ymateb greddfol yw rhoi pen i lawr a gobeithio mai ar ryw druan arall y bydd y fwyell yn syrthio. Dyna a ddigwyddodd pan gaewyd Ysgol Gynradd Garnswllt, yr ochr draw i\u2019r mynydd o ysgol Felindre.\u00a0 Yr oeddem ninnau rieni ac athrawon Ysgol Felindre yn hynod ymwybodol ar y pryd fod Garnswllt yn gweithredu fel rhyw fath ar aberthged ddigon afiach i\u2019n cadw ni rhag dioddef yr un dynged.\u00a0 Roedd ofn gwrioneddol yn ein calonnau pe baem yn bod yn rhy llafar ac yn tynnu gormod o sylw atom ein hunain \u2013 mai ni fuasai nesaf.\u00a0 Mae\u2019r peth yn dal i ddwysbigo fy nghydwybod.\u00a0 Wrth gwrs, fe wireddwyd ein hofnau gwaethaf ymhen hir a hwyr ac er na ddaeth y fwyell yn ystod cyfnod ein plant ni yn yr ysgol, mater o amser ydoedd cyn bod yr hunlle yn dod yn fyw a Felindre yn cau.<\/p>\n<p>Dyna hefyd wnaeth gymell RHAG i ganiat\u00e1u i\u2019r ddwy ysgol gau \u2013 aberthu ysgol fach fan hyn er mwyn annog y Cyngor Sir i greu mwy o lefydd mewn ysgol mwy o faint fan \u2019co.\u00a0 Dylai beth sydd yn ei hanfod yn grebachu ar ein diwylliant fod yn rhybudd i bawb sy\u2019n gwirioneddol ymboeni am ddyfodol y Gymraeg ac yn rhybudd hefyd i Blaid Cymru.\u00a0 Wedi\u2019r cyfan mae rhywun yn gallu deall yn iawn fod ymlyniad at iaith yn gallu bod yn dipyn o boendod i drefn ddigyfnewid- rwy\u2019n-iawn-fel-wdw-i-diolch-yn-fowr y blaid Lafur yng Nghymru.\u00a0 Ond yn achos Plaid Cymru?\u00a0 Onid ydynt drwy gau ysgolion gwledig yn mynd ati yn sicr ac yn ddidroi\u2019n \u00f4l i omedd eu dyfodol eu hunain?<\/p>\n<p>Tybed nad rhyw ymdeimlad dan warchae Owain Glyndwraidd felly sydd ar waith wrth i rai o genedlaetholwyr Gwynedd ddewis ymddieithrio oddi wrth ac aralleiddio cymuned Abersoch, cymuned sydd yn dal i ymladd am ei hanadl, yn dal i geisio\u2019i gorau glas i wirfoddol ddal gafael ar linynnau ei Chymreictod?\u00a0 Ai ofn wynebu\u2019r caswir fu\u2019n gyfrifol, yn yr ystyr fod Cyngor Gwynedd wedi goddefol adael i\u2019r hyn a ddelweddir ar y cyfryngau cymdeithasol fel \u2018Abersock\u2019 gael ei wireddu?\u00a0 Ynte ai\u2019r ymdeimlad \u2018ni fydd nesaf\u2019 a\u2019u cymhellodd i gynghreirio gyda\u2019r Blaid Lafur ym mherson y Gweinidog Addysg i brysuro i geisio cau\u2019r ysgol?\u00a0 Anodd ar y naw i mi wneud synnwyr o\u2019r awydd digon ysgeler i geisio defnyddio\u2019r cod trefniadaeth ysgolion \u2013 cod yr oeddwn innau yn fy niniweidrwydd ff\u00f4l wedi tybio iddo gael ei lunio er mwyn gwarchod buddiannau ysgolion bychain \u2013 er mwyn cyflawni rhywbeth oedd yn gwbl groes i ysbryd tybiedig y cod yn y lle cyntaf.<\/p>\n<p>Mae rhywbeth mawr o\u2019i le arnom fel Cymry nad ydym yn cydsefyll i wrthwynebu\u2019r ymosodiadau hyn yn gadarn.\u00a0 Ac mae rhywbeth mwy o\u2019i le ar Blaid Cymru gan fod ganddi hithau rym mewn llefydd fel Gwynedd a Chaerfyrddin i ddewis y ffordd arall.<\/p>\n<p>A ninnau heb unrhyw ddewis etholiadol arall o sylwedd, cyndyn yw caredigion yr iaith \u2013 minnau yn eu plith \u2013 i gollfarnu Plaid Cymru am mai hi sydd i fod cyflawni\u2019r r\u00f4l o warchod buddiannau\u2019r Gymraeg.\u00a0 Ond mae ei record wan mewn perthynas \u00e2\u2019r Gymraeg yn aml yn dangos na allwn ddibynnu arni i gyflawni odid ddim yn y cyswllt hwnnw.<\/p>\n<p>Rwyf wedi nodi o\u2019r blaen sut y mae pob ysgol yn gorfod ymladd ei chornel ei hun ac felly yn sylfaenol ddi-rym.\u00a0 Felly y mae\u2019r egwyddor \u2018divide and rule\u2019 yn gweithio ac yn sicr yn parhau i weithio yng nghyd-destun ysgolion gwledig.\u00a0 Mae\u2019r awdurdodau wrth gwrs yn llwyr ymwybodol o hynny ac felly y pair y pladurio pendifaddau.\u00a0 Ac wrth i ni rieni, athrawon a chefnogwyr ysgolion bychain gael ein cyflyru i ymgyfranogi o\u2019r siam o broses ymgynghorol sy\u2019n bwdwr rhacs o\u2019i chorun i\u2019w sawdl, onid y cyfan a wnawn yw cynnal y drefn sydd ohoni a rhoi rhwydd hynt i\u2019r pladurio?\u00a0 Wath prin ar y naw yw\u2019r ymgynghoriadau hyd y gwelaf i sydd wedi esgor ar gadw drysau yr un ysgol ar agor yn barhaol, pa mor gadarn bynnag y dystiolaeth o\u2019i phlaid na pha mor unfryd y gefnogaeth iddi ar lawr gwlad.<\/p>\n<p>Ac nid yw hyn yn neilltuol i gymunedau gwledig chwaith fel y gwelwyd yn ystod y dyddiau diwethaf gyda\u2019r penderfyniad gwaradwyddus i gau y Paddle Steamer yn ardal Bute Caerdydd a chodi bloc arall eto fyth o fflatiau yn lle\u2019r ganolfan gymdeithasol yno, yn gwbl groes i ddymuniad aelodau\u2019r gymuned.<\/p>\n<p>Nid yw Plaid Cymru, na\u2019r llywodraeth Lafur, na\u2019r Cod Trefniadaeth Ysgolion, nac ymgynghoriadau gan awdurdodau addysg ar ddyfodol ysgolion bychain yn unigryw wrth gwrs yn eu hamwysedd lle bo\u2019r iaith yn y cwestiwn.\u00a0 Atgyfnerthir yr amwysedd gan ddeddfwriaeth sydd i fod cynnal y Gymraeg.\u00a0 Daeth y newyddiadurwr Richard Youle, (yn wahanol i amryfal ddeiliaid y bladur), cyn ysgrifennu ei adroddiad i\u2019r <em>Evening Post,<\/em> i ymweld \u00e2\u2019r ysgol ac \u00e2\u2019r pentre er mwyn ein cyfarfod ni ymgyrchwyr yn dilyn y penderfyniad twp i gau ysgol Felindre.\u00a0 Yn ystod yr ymgyrch i gadw drysau\u2019r ysgol ar agor rwy\u2019n cofio iddo fy ffonio ac iddo ofyn y cwestiwn canlynol \u2018Is the system broken?\u2019 mewn perthynas \u00e2 grym Comisiynydd y Gymraeg.\u00a0 Efallai fod angen Sais i ddweud y caswir wrthym.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019r broses ymgynghorol honedig bresennol yn addas i bwrpas ac er ein bod yn cael ein gorfodi i gyfranogi ohoni, y cyfan a wnawn wrth wneud hynny yw parhau \u00e2\u2019r drefn ddiffygiol sy\u2019n bodoli.\u00a0 Rwyf wedi nodi o\u2019r blaen yr angen am unigolyn\/sefydliad \u00e2\u2019r swyddogaeth unswydd o warantu cyfiawnder i ysgolion bychain.\u00a0 Hyd nes y bo\u2019r gyfundrefn honno yn ei lle rwy\u2019n grediniol y dylid rhoi moratoriwm ar gau ysgolion Cymraeg.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser mae angen i bawb sy\u2019n poeni am ddyfodol y Gymraeg, gan gynnwys y rhai mwyaf cydwybodol o\u2019n gwleidyddion, alw am gryfhau\u2019r ddeddfwriaeth addysg er mwyn sicrhau bod awdurdodau addysg o dan orfodaeth i ystyried ac ymgynghori\u2019n drwyadl ar yr effaith ar y Gymraeg o fewn y gymuned ac ar ansawdd bywyd aelodau\u2019r gymuned honno yn ogystal \u00e2\u2019r effeithiau economaidd cyn cael yr hawl i gyhoeddi na chynnal ymygynghoriad ar ddyfodol ysgol.\u00a0 Hyd yma mae\u2019r alwad honno wedi syrthio ar glustiau byddar ysywaeth.<\/p>\n<p>Os oes gennym fymryn o hunan-barch, siawns nad ydym yn haeddu gwell na\u2019r galanastra presennol.\u00a0 Ond os na fynegwn ein hanfodlonrwydd, bydd y galanastra yn sicr o barhau.\u00a0 A dim ond Abersocks fydd yn weddill i ni.\u00a0 Ni fyddwn yn gallu beio neb ond ni ein hunain am hynny.<\/p>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Angharad Dafis Mae cymunedau gwledig Cymru o dan warchae.\u00a0 Mae tai haf ar y naill law a diddymu canolfannau cymdeithasol o bob math ar y llall yn cael effaith andwyol &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Tai haf ac ysgolion pentre: deuoliaeth y mudiad cenedlaethol&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":20,"featured_media":1102,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6,160],"tags":[],"class_list":["post-1100","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","category-tai-housing","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Tai haf ac ysgolion pentre: deuoliaeth y mudiad cenedlaethol - undod<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae cymunedau gwledig Cymru o dan warchae. Cymru\u2019s rural communities are under siege.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Tai haf ac ysgolion pentre: deuoliaeth y mudiad cenedlaethol - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"{:cy}Mae cymunedau gwledig Cymru o dan warchae. Cymru\u2019s rural communities are under siege.{:}\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-01-21T13:13:15+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-06-11T19:20:41+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/0_Abersoch.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"630\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Angharad Dafis\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Angharad Dafis\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"12 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/\"},\"author\":{\"name\":\"Angharad Dafis\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9f76923ccbc42eba4a81dc6fa789ac2a\"},\"headline\":\"Tai haf ac ysgolion pentre: deuoliaeth y mudiad cenedlaethol\",\"datePublished\":\"2021-01-21T13:13:15+00:00\",\"dateModified\":\"2021-06-11T19:20:41+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/\"},\"wordCount\":5392,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/0_Abersoch.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\",\"Tai\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/\",\"name\":\"Tai haf ac ysgolion pentre: deuoliaeth y mudiad cenedlaethol - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/0_Abersoch.jpg\",\"datePublished\":\"2021-01-21T13:13:15+00:00\",\"dateModified\":\"2021-06-11T19:20:41+00:00\",\"description\":\"{:cy}Mae cymunedau gwledig Cymru o dan warchae. Cymru\u2019s rural communities are under siege.{:}\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/0_Abersoch.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/0_Abersoch.jpg\",\"width\":1200,\"height\":630},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Tai haf ac ysgolion pentre: deuoliaeth y mudiad cenedlaethol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9f76923ccbc42eba4a81dc6fa789ac2a\",\"name\":\"Angharad Dafis\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Angharad Dafis\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/angharaddafis\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Tai haf ac ysgolion pentre: deuoliaeth y mudiad cenedlaethol - undod","description":"Mae cymunedau gwledig Cymru o dan warchae. Cymru\u2019s rural communities are under siege.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Tai haf ac ysgolion pentre: deuoliaeth y mudiad cenedlaethol - undod","og_description":"{:cy}Mae cymunedau gwledig Cymru o dan warchae. Cymru\u2019s rural communities are under siege.{:}","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2021-01-21T13:13:15+00:00","article_modified_time":"2021-06-11T19:20:41+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":630,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/0_Abersoch.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Angharad Dafis","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Angharad Dafis","Est. reading time":"12 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/"},"author":{"name":"Angharad Dafis","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9f76923ccbc42eba4a81dc6fa789ac2a"},"headline":"Tai haf ac ysgolion pentre: deuoliaeth y mudiad cenedlaethol","datePublished":"2021-01-21T13:13:15+00:00","dateModified":"2021-06-11T19:20:41+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/"},"wordCount":5392,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/0_Abersoch.jpg","articleSection":["Erthyglau","Tai"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/","name":"Tai haf ac ysgolion pentre: deuoliaeth y mudiad cenedlaethol - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/0_Abersoch.jpg","datePublished":"2021-01-21T13:13:15+00:00","dateModified":"2021-06-11T19:20:41+00:00","description":"{:cy}Mae cymunedau gwledig Cymru o dan warchae. Cymru\u2019s rural communities are under siege.{:}","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/0_Abersoch.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/0_Abersoch.jpg","width":1200,"height":630},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/01\/21\/cymunedau-o-dan-warchae\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Tai haf ac ysgolion pentre: deuoliaeth y mudiad cenedlaethol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9f76923ccbc42eba4a81dc6fa789ac2a","name":"Angharad Dafis","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g","caption":"Angharad Dafis"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/angharaddafis\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1100","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/20"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1100"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1100\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1105,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1100\/revisions\/1105"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1102"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1100"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1100"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1100"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}