{"id":1127,"date":"2021-02-06T13:04:09","date_gmt":"2021-02-06T13:04:09","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1127"},"modified":"2021-08-11T11:50:04","modified_gmt":"2021-08-11T10:50:04","slug":"yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/","title":{"rendered":"Yr Amgueddfa: Stori Arswyd Arall Llafur\u00a0"},"content":{"rendered":"<p><b><i>Ar \u00f4l osgoi penderfyniad trychinebus o drwch blewyn yr wythnos hon, gyda&#8217;u cynlluniau i ddegymu\u2019r Llyfrgell Genedlaethol, mae&#8217;r gr\u0175p <\/i><\/b><b>Reclaim Cardiff<\/b><b><i> yn archwilio penderfyniad pendew arall gan Lafur Cymru mewn perthynas \u00e2 chynllun chwerthinllyd i osod Amgueddfa Meddygaeth Filwrol ar lawnt y Senedd.<\/i><\/b><\/p>\n<p>A chithau\u2019n tybio na allai Cyngor Caerdydd gyflawni dim mwy, cyn y Nadolig dyma nhw\u2019n coroni eu gwaith yn 2020 drwy gyrraedd tudalen tri o&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/uk-news\/2020\/dec\/15\/military-museum-dumped-people-cardiff-aldershot\">Guardian<\/a>. Y stori? Beth arall ond ei gynlluniau i werthu Parc Britannia i\u2019r Amgueddfa Meddygaeth Filwrol. Er mwyn i awdurdod lleol neu gynghorydd yng Nghymru dwyn sylw\u2019r wasg Brydeinig, mae yna wir gofyn rhywbeth neilltuol (awgrymu fandaliaeth achlysurol gyda <a href=\"https:\/\/www.dailymail.co.uk\/news\/article-3034764\/Labour-parliamentary-candidate-called-people-displaying-England-flags-simpletons-racists-urged-throw-Tippex-cars-carrying-them.html\">botel o dipecs<\/a>, er enghraifft).<\/p>\n<p>Penderfynodd Huw Thomas nad oedd am i\u2019w sir enedigol cael y gorau ohono wedi iddi gyrraedd y penawdau yn sgil ei hymateb clodwiw i\u2019r Coronafeirws, a bod unrhyw fath o sylw yn well na dim sylw o gwbl, gan yrru ymlaen gyda phrosiect mor amhoblogaidd, nas welwyd ei debyg ers y chwedlonol <a href=\"https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/replacement-flint-castle-anus-north-17198151\">Anws y Gogledd<\/a>.<\/p>\n<p>Dyma gynnig bydd yn derbyn croeso cystal \u00e2 cachu ci mewn parc; nes bod y linell <i>Shitting on the Dock of the Bay <\/i>yn eiriau lledneis, addas iawn \u2013 ac er gwaethaf ymdrechion gorau ein harweinydd i gaboli rhywfaint ar y cais, rydym oll yn gwybod does na ddim rhoi sglein ar sholen.<\/p>\n<p>Gadewch inni atgoffa ein hunain o&#8217;r union resymau pam bod hwn yn <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/cardiff-military-museum-petition-bay-19477211\">gynnig mor amhoblogaidd i Barc Britannia<\/a> (i lawer mae&#8217;n gynnig cwbl ddiffygiol beth bynnag, ond gadewch i ni ganolbwyntio ar y rhesymau pam ei fod yn gynnig mor wael yn ei ffurf bresennol, ac i\u2019r parc ei hun).<\/p>\n<p>1) Effaith Amgylcheddol: mae&#8217;n cau mewn man gwyrdd agored gwerthfawr mewn ardal lle nad oes dewis arall o fewn pellter cerdded i breswylwyr, mewn dinas lle mae&#8217;r math yma o fangre yn cynrychioli dim ond 8% o gyfanswm arwynebedd y ddinas (o&#8217;i gymharu ag 16% yn Birmingham);<\/p>\n<p>2) Cyfleusterau plant: yn ogystal \u00e2 chau mewn man agored sydd wedi&#8217;i goleddu gan blant, mae&#8217;n dwyn eu parc chwarae heb unrhyw sicrwydd o rywbeth tebyg yn ei le, o fewn y cyffiniau;<\/p>\n<p>3) <a href=\"https:\/\/diwylliantblog.files.wordpress.com\/2020\/05\/britannia-park-objections.pdf\">Methiant Anochel<\/a>: mae cynllun ariannol yr amgueddfa fel y mae, wedi&#8217;i seilio ar ffigurau ffantasiol a\u2019r honiad y gall ddenu 225,000 o gwsmeriaid bob blwyddyn \u2013 mae hynny 70,000 yn fwy na Techniquest, 150,000 yn fwy nag amgueddfa filwrol arall Caerdydd yn y Castell, a thros draean o&#8217;r nifer sy&#8217;n ymweld \u00e2 Sain Ffagan sy&#8217;n safle neilltuol ac yn rhad ac am ddim.<\/p>\n<p>4) Camsyniad \u2013 &#8220;gweledigaeth i ddigaloni rhywun&#8221;: mae\u2019r dyluniad, diben a\u2019r effaith ar yr ardal oll yn destun beirniadaeth gan wneuthurwyr ym meysydd pensaern\u00efaeth a threftadaeth. Mae&#8217;r bobl yn galw am <a href=\"https:\/\/petitions.senedd.wales\/petitions\/200107\">Amgueddfa Hanes Pobl Dduon<\/a> i Tiger Bay a&#8217;r Dociau, ac yn ei le maen nhw&#8217;n cael amgueddfa i fyddin a wladychodd traean o&#8217;r byd!<\/p>\n<p>5) Gwrthwynebiadau lleol: o ystyried ymrwymiad dwfn ac amlwg y Cabinet i gynddeiriogi trigolion y ddinas, gwyddom na allent becso dim am y bobl leol. Fodd bynnag, mae Reclaim Cardiff <i>yn <\/i>poeni, ac am atgoffa pawb mai pobl y ddinas, nid datblygwyr, ddylai ddod yn gyntaf. Mae gwrthwynebiad lleol yn sylweddol: maent eisoes wedi brwydro yn erbyn<a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-south-east-wales-40681931\"> un datblygiad<\/a>, gan argyhoeddi&#8217;r Cyngor i&#8217;w brynu er mwyn ei ddiogelu. Pa mor eironig (neu efallai&#8217;n rhagweladwy) bod yr un Cyngor am ei werthu.<\/p>\n<p>Er gwaethaf y gwyrthwynebiad gwleidyddol eang (gan gynnwys <a href=\"https:\/\/twitter.com\/SDoughtyMP\/status\/1355947913671749640?s=20\">yr AS Llafur lleol<\/a>) aethpwyd \u00e2&#8217;r cynigion ger bron i&#8217;r Pwyllgor Cynllunio ar gyfer perfformiad ddemocrataidd nas welwyd ei debyg ym myd dychan gwleidyddol ers dyddiau <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=G0ZZJXw4MTA\"><i>Yes Minister<\/i><\/a>.\u00a0 Ac ymddengys yn ogystal bod swyddog y Cyngor wedi anghofio ei fod mewn rol di-duedd, ac yn hytrach dyma fe\u2019n cymryd ymlaen y swydd o werthwr ail-law, er gwaethaf diffygion helaeth y prosiect sydd wedi mynd o ddinas i ddinas yn edrych am gartref (er chwarae teg iddo, aeth ddim mor bell a dathlu ei fuddugoliaeth, <a href=\"https:\/\/twitter.com\/FOECardiff\/status\/1354738236996911108?s=20\">yn wahanol i\u2019w gydweithiw<\/a>r). Wrth i&#8217;r ornest rhwng gwrthwynebwyr a datblygwyr mynd rhagddi, nid oedd yr un amheuaeth ynghylch y canlyniad, gan godi\u2019r cwestiwn a oedd y Pwyllgor a&#8217;i arweinyddiaeth Lafur erioed wedi ymhel \u00e2&#8217;r syniad o chwarae teg.\u00a0 Wedi dweud hynny, efallai na ddylai fod yn syndod bod cysyniad o\u2019r fath yn absennol o bwyllgor o dan gadeiryddiaeth rhywun sydd wedi bod a\u2019i broblemau cynt wrth adnabod yr hyn sy\u2019n <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/councillor-suspended-after-labour-finds-9378913\">ymddygiad priodol<\/a> (a chofiwch chi, dyma gadeirydd \u00e2 phleidlais fwrw, ychwanegol, sydd \u00e2\u2019r pwrpas traddodiadol o sicrhau trafodaeth bellach lle mae anghydweld, ond sydd yn achos y pwyllgor yma\u2019n cael ei ddefnyddio i droi\u2019r fantol o blaid y datblygwyr &#8211; wele <a href=\"https:\/\/twitter.com\/ReclaimCardiff\/status\/1354575435254919174?s=20\">ffawd y Paddle Steamer<\/a> yr wythnos ddiwethaf).<\/p>\n<p>Felly ble mae hyn yn ein gadael ni? Wel, er gwaethaf ymdrechion y Cabinet i awgrymu bod y prosiect cyfan rywsut yn nwylo&#8217;r Pwyllgor Cynllunio (hen dric da er mwyn gwadu cyfrifoldeb), y ffaith sylfaenol yw bod y parc yn parhau (hyd y gwyddom) yn eiddo&#8217;r cyngor, ac felly mater i&#8217;r Cabinet yw gwerthu\u2019r man gwyrdd agored gwerthfawr hwn.<\/p>\n<p>Ac felly pery hwn yn benderfyniad gwleidyddol y gellir ei atal am yr holl resymau pwysig sydd eisoes wedi&#8217;u hamlygu &#8211;<\/p>\n<p>ac yn anad dim y ffaith bod yr achos ariannol dros yr amgueddfa yn fwy o j\u00f4c na rhai o&#8217;i eitemau yn y <a href=\"https:\/\/twitter.com\/owainrhyslewis\/status\/1337401363454701571?s=20\">siop anrhegion<\/a>. Nid bod cynlluniau ariannol amheus erioed wedi atal <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-51228054\">y Cabinet hwn rhag cefnogi unrhyw un<\/a>, wrth gwrs.<\/p>\n<p>Ond er bod digon o arian ym mhoced \u00f4l y Cyngor i daflu \u00a32miliwn at gwmni yr oedd gan yr AS lleol &#8216;bryderon difrifol&#8217; amdano, ac yn wir digon wrth gefn i fentro hi ar arena dan-do newydd enfawr (y tocyn euraid yn oes Covid, wrth gwrs) ac <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/cardiff-bay-arena-red-dragon-17418691\">adeiladu pencadlys arall iddyn nhw eu hunain<\/a>, mae Huw Thomas a&#8217;i aelod dros ddatblygid Russell Goodway &#8211; pen bandit Llafur Caerdydd &#8211; yn taeru bod rhaid gwerthu Parc Britannia i ddod ag arian sydd mawr ei angen i\u2019r coffrau.<\/p>\n<p>Yn wir ychydig wythnosau&#8217;n \u00f4l, roedd y Cyngor yn gofyn <a href=\"https:\/\/twitter.com\/cardiffcouncil\/status\/1349461299634302979?s=20\">beth fyddai ein hoff wasanaethu i&#8217;w torri <\/a>er mwyn cwrdd \u00e2 phrinder yn y gyllideb. Nid rhywbeth y byddai rhywun yn tybio bod angen llawer o gymorth arnynt (yn enwedig o ystyried profiad Goodway o <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/local-news\/cardiff-councils-russell-goodway-under-3863977\">rwygo pethau\u2019n ddarnau<\/a>).<\/p>\n<p>Mae&#8217;r saga druenus hon yn ddameg o\u2019r hanes ehangach, lle mae\u2019r Cyngor yn fflachio&#8217;r arian i fuddsoddwyr ac yn seboni datblygwyr, tra&#8217;n manteisio&#8217;n ddidrugaredd ar breswylwyr a&#8217;u cyfleusterau. Y sg\u00eam ddiweddaraf yw <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/politics\/woodland-cardiff-back-disposal-list-19479332\">gorfodi trigolion i brynu&#8217;r coed<\/a> sy&#8217;n gwahanu trigolion ger Flaxland Woods o&#8217;r ffordd ddeuol gyfagos.<\/p>\n<p>Beth ddaw nesaf i Gaerdydd &#8211; <a href=\"https:\/\/youtu.be\/zW3GuuIAi4s\">Thneed-Ville<\/a> Dr Seuss, lle mae hyd yn oed yr aer yn nwydd?<\/p>\n<p>O ran Parc Britannia, digon posib bod rhyw fargen eisoes ar y cardiau, a\u2019u bod yn trefnu\u2019r gwerthiant wrth inni ysgrifennu. Os felly, awgrymwn yn garedig fod Huw yn rhoi ei beiro i gadw cyn i\u2019r inc sychu, ac estyn am yr hen dipecs yn lle &#8211; neu bydd hwn yn gymal arall ar ei daith wleidyddol y bydd yn siwr o ddifaru.<\/p>\n<p><b><i>Am fynegi eich rhwystredigaethau, a phwyntio Huw a Russell i&#8217;r cyfeiriad iawn? <a href=\"https:\/\/actionnetwork.org\/letters\/dont-sell-britannia-park\">Anfonwch y llythyr hwn<\/a> yn uniongyrchol iddyn nhw a\u2019r aelod dros berci; dim ond munud o&#8217;ch amser bydd ei angen!<\/i><\/b><\/p>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar \u00f4l osgoi penderfyniad trychinebus o drwch blewyn yr wythnos hon, gyda&#8217;u cynlluniau i ddegymu\u2019r Llyfrgell Genedlaethol, mae&#8217;r gr\u0175p Reclaim Cardiff yn archwilio penderfyniad pendew arall gan Lafur Cymru mewn &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Yr Amgueddfa: Stori Arswyd Arall Llafur\u00a0&#8220;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":41,"featured_media":751,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1127","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Yr Amgueddfa: Stori Arswyd Arall Llafur\u00a0 - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Yr Amgueddfa: Stori Arswyd Arall Llafur\u00a0 - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Ar \u00f4l osgoi penderfyniad trychinebus o drwch blewyn yr wythnos hon, gyda&#8217;u cynlluniau i ddegymu\u2019r Llyfrgell Genedlaethol, mae&#8217;r gr\u0175p Reclaim Cardiff yn archwilio penderfyniad pendew arall gan Lafur Cymru mewn &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Yr Amgueddfa: Stori Arswyd Arall Llafur\u00a0&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-02-06T13:04:09+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-08-11T10:50:04+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/parc-brittania-park.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"450\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Reclaim Cardiff\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Reclaim Cardiff\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"11 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/\"},\"author\":{\"name\":\"Reclaim Cardiff\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/f49b2d08d93d78dfded0298fe1b96127\"},\"headline\":\"Yr Amgueddfa: Stori Arswyd Arall Llafur\u00a0\",\"datePublished\":\"2021-02-06T13:04:09+00:00\",\"dateModified\":\"2021-08-11T10:50:04+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/\"},\"wordCount\":2396,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/parc-brittania-park.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/\",\"name\":\"Yr Amgueddfa: Stori Arswyd Arall Llafur\u00a0 - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/parc-brittania-park.jpg\",\"datePublished\":\"2021-02-06T13:04:09+00:00\",\"dateModified\":\"2021-08-11T10:50:04+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/parc-brittania-park.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/parc-brittania-park.jpg\",\"width\":800,\"height\":450},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Yr Amgueddfa: Stori Arswyd Arall Llafur\u00a0\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/f49b2d08d93d78dfded0298fe1b96127\",\"name\":\"Reclaim Cardiff\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cfa6a06518d91cfc9fe628e7e9483484971c72c08b7bb5c952075efe8f40b9f7?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cfa6a06518d91cfc9fe628e7e9483484971c72c08b7bb5c952075efe8f40b9f7?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cfa6a06518d91cfc9fe628e7e9483484971c72c08b7bb5c952075efe8f40b9f7?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Reclaim Cardiff\"},\"sameAs\":[\"http:\/\/reclaimcardiff.cymru\"],\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/reclaim-cardiff\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Yr Amgueddfa: Stori Arswyd Arall Llafur\u00a0 - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Yr Amgueddfa: Stori Arswyd Arall Llafur\u00a0 - undod","og_description":"Ar \u00f4l osgoi penderfyniad trychinebus o drwch blewyn yr wythnos hon, gyda&#8217;u cynlluniau i ddegymu\u2019r Llyfrgell Genedlaethol, mae&#8217;r gr\u0175p Reclaim Cardiff yn archwilio penderfyniad pendew arall gan Lafur Cymru mewn &hellip; Parhau i ddarllen \"Yr Amgueddfa: Stori Arswyd Arall Llafur\u00a0\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2021-02-06T13:04:09+00:00","article_modified_time":"2021-08-11T10:50:04+00:00","og_image":[{"width":800,"height":450,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/parc-brittania-park.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Reclaim Cardiff","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Reclaim Cardiff","Est. reading time":"11 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/"},"author":{"name":"Reclaim Cardiff","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/f49b2d08d93d78dfded0298fe1b96127"},"headline":"Yr Amgueddfa: Stori Arswyd Arall Llafur\u00a0","datePublished":"2021-02-06T13:04:09+00:00","dateModified":"2021-08-11T10:50:04+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/"},"wordCount":2396,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/parc-brittania-park.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/","name":"Yr Amgueddfa: Stori Arswyd Arall Llafur\u00a0 - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/parc-brittania-park.jpg","datePublished":"2021-02-06T13:04:09+00:00","dateModified":"2021-08-11T10:50:04+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/parc-brittania-park.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/parc-brittania-park.jpg","width":800,"height":450},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/02\/06\/yr-amgueddfa-stori-arswyd-arall-llafur\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Yr Amgueddfa: Stori Arswyd Arall Llafur\u00a0"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/f49b2d08d93d78dfded0298fe1b96127","name":"Reclaim Cardiff","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cfa6a06518d91cfc9fe628e7e9483484971c72c08b7bb5c952075efe8f40b9f7?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cfa6a06518d91cfc9fe628e7e9483484971c72c08b7bb5c952075efe8f40b9f7?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cfa6a06518d91cfc9fe628e7e9483484971c72c08b7bb5c952075efe8f40b9f7?s=96&d=mm&r=g","caption":"Reclaim Cardiff"},"sameAs":["http:\/\/reclaimcardiff.cymru"],"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/reclaim-cardiff\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1127","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/41"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1127"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1127\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1132,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1127\/revisions\/1132"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/751"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1127"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1127"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1127"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}