{"id":1133,"date":"2021-02-07T13:36:58","date_gmt":"2021-02-07T13:36:58","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1133"},"modified":"2021-05-26T21:49:44","modified_gmt":"2021-05-26T20:49:44","slug":"incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/","title":{"rendered":"Cyflog cymdeithasol i rieni a gofalwyr, pensiwn gofalwyr cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru"},"content":{"rendered":"<p>Os oes un cyfnod mewn hanes sydd wedi amlygu pwysigrwydd gofal plant, a gwaith gofal yn gyffredinol, yna\u2019r pandemig cyfredol yw hwnnw.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 gorfod ymateb i ysgolion yn cau funud olaf o ganlyniad i\u2019r coranfeirws, mae nifer o deuluoedd wedi gorfod ymdopi \u00e2\u2019r her o ofalu am eu plant anhwylus neu blant sy\u2019n hunanynysu tra bod yn rhaid i\u2019r rhieni barhau i weithio. Dywed Sefydliad Bevan bod y sefyllfa\u2019n golygu bod \u201cperyg y bydd rhieni, yn y pendraw, mewn sefyllfa o galedu ariannol o ganlyniad i orfod colli gwaith am resymau gofal-plant ac mewn peryg o achosi\u2019r feirws i ledaenu o ganlyniad i rieni yn penderfynu mynd i\u2019r gwaith neu o ganlyniad i aelodau eraill o\u2019r teulu a ffrindiau yn dod i\u2019r t\u0177 er mwyn gofalu am y plentyn\u201d.<\/p>\n<p>Collodd nifer o rieni eu swyddi dros y flwyddyn ddiwethaf er bod ganddynt blant i\u2019w gofalu amdanynt. Mae\u2019r galw am ymestyn argaeledd ciniawau ysgol i\u2019r gwyliau ysgol, wedi cael llawer o sylw yn y wasg tra <a href=\"https:\/\/www.trusselltrust.org\/2020\/09\/14\/new-report-reveals-how-coronavirus-has-affected-food-bank-use\/\">bod y nifer o bobl sy\u2019n dibynnu ar fanciau bwyd wedi cynyddu yn ystod y pandemig.<\/a><\/p>\n<p>Cyhoeddodd y Rowntree Foundation ei drydedd astudiaeth yn y gyfres <a href=\"https:\/\/www.jrf.org.uk\/report\/destitution-uk-2020\">Destitution UK<\/a> &#8211; dengys bod amddifadrwydd wedi bod yn cynyddu yn y Deyrnas Unedig hyd yn oed cyn dyfodiad y coronafeirws. Dim ond dwys\u00e1u\u2019r broblem a wnaeth y pandemig gan wthio teuluoedd a oedd yn llwyddo i ddal dau ben llinyn ynghyd, dros y dibyn.<\/p>\n<p>Mae <i>Plant yng Nghymru<\/i> \u2013 y corff cenedlaethol dros sefydliadau ac unigolion sy\u2019n gweithio gyda phlant, pobl ifainc a\u2019u teuluoedd yng Nghymru \u2013 wedi pwysleisio natur dorcalonnus y sefyllfa yn ein gwlad ni.<\/p>\n<p>O ran cymorth gyda gofal plant, mewn ardaloedd o Gymru sy\u2019n cael eu hystyried yn ddifreintiedig, mae\u2019n bosib derbyn 30 awr o ofal plant am ddim, unwaith bod y plentyn yn ddwy flwydd oed drwy\u2019r cynllun Dechrau\u2019n Deg. Mewn ardaloedd nad ydynt yn cael eu hystyried yn ddifreintiedig mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno\u2019r cynllun Cynnig Gofal Plant Cymru sef 30 awr o ofal am ddim i blant tair a phedair mlwydd oed. Noda\u2019r canllawiau bod y cynnig ar gael i <b><i>rieni sy\u2019n gweithio yn unig<\/i><\/b>.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019r cynnig, felly, yn helpu rhieni nad ydynt yn gweithio ond a hoffent ddychwelyd i\u2019r byd gwaith. Nid yw\u2019n helpu, ychwaith, y sawl nad ydynt eisiau dychwelyd i\u2019r byd gwaith am eu bod eisiau gofalu am eu plant eu hunain ond o ganlyniad i hynny yn byw mewn aelwydydd incwm-isel neu di-incwm. Hyd yn oed o fewn teuluoedd lle mae dau riant yn llwyddo i weithio drwy gyfuniad o waith llawn-amser a rhan-amser, a drwy ddibynnu ar aelodau o\u2019r teulu ehangach am ofal plant, mae incwm nifer o\u2019r teuluoedd hyn yn dal i fod yn rhy isel i allu eu codi allan o dlodi. Rhain yw\u2019r tlodion cyflogedig sy\u2019n ddibynnol ar gynlluniau\u2019r llywodraeth megis Credyd Treth Plant a Chredyd Cynhwysol er mwyn goroesi. Mae cyfyngderau\u2019r cynlluniau hyn yn ei gwneud hi bron yn amhosib i deuluoedd lewyrchu ac i blant ffynnu ar gyn lleied o arian. Am ragor o wybodaeth gweler y bennod \u2018Effaith Newidiadau i Fudd-dal\u2019 yn yr adroddiad <i>Tlodi Plant a Theuluoedd yng Nghymru<\/i> a gyhoeddwyd yn 2019 ag a ddiweddarwyd yng Ngorffennaf 2020 gan Plant yng Nghymru.<\/p>\n<p>Dywed yr adroddiad bod:<\/p>\n<p>\u201c\u2026tlodi\u2019n digwydd pan fydd adnoddau teuluoedd yn syrthio o dan eu hanghenion, gan gynnwys cymryd rhan yn eu cymuned leol neu\u2019r gymdeithas yn fwy cyffredinol. Dyma ddiffiniad Llywodraeth Cymru o dlodi:<\/p>\n<p><i>\u201cCyflwr hirdymor o fod heb adnoddau digonol i fforddio bwyd, amodau byw rhesymol neu amwynderau, neu i gyfranogi mewn gweithgareddau (fel mynediad at gymdogaethau deniadol a mannau agored) sy\u2019n cael eu cymryd yn ganiataol gan eraill yn eu cymdeithas.\u201d<\/i><\/p>\n<p>Yn yr adran Cyflogau Isel o\u2019r adroddiod hwnnw dywed mai:<\/p>\n<p>Cyflogau isel yw un o brif achosion tlodi plant yng Nghymru. Soniodd llawer o\u2019r ymatebwyr i\u2019r arolwg, yn ogystal a\u0302 chyfranogwyr mewn digwyddiadau tlodi plant rhanbarthol ledled Cymru, am y prinder gwaith am da\u0302l gweddus mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.\u201d[1]<\/p>\n<p>Ymateb blaengar, radical i\u2019r broblem fyddai i dalu cyflog da i rieni am ofalu am eu plant eu hunain: byddai hynny yn ei dro yn tynnu plant, a\u2019u teuluoedd, allan o dlodi<\/p>\n<p>Ynghyd \u00e2 chyfnodau mamolaeth a thadolaeth llawer hirach, byddai talu cyflog da i rieni am fagu eu plant yn gam tuag at roi gwir ddewis i fenywod o ran dychwelyd i\u2019r gwaith wedi cael babi neu aros adref i ofalu am eu plant. Byddai hefyd yn ffordd o leihau\u2019r problemau sy\u2019n codi pan fod angen cymeryd amser i ffwrdd o\u2019r gwaith oherwydd bod eich plant yn s\u00e2l neu\u2019n hunan-ynysu \u2013 rhywbeth sy\u2019n achosi adfyd ariannol i nifer o deuluoedd.<\/p>\n<p>Mae gofalu am eraill, glanhau, coginio \u2013 mewn gair yr holl waith t\u0177 a\u2019r gwaith gofal sy\u2019n cael ei wneud yn rhad ac am ddim yn y cartref \u2013 hefyd yn cael ei alw\u2019n lafur atgynhyrchiol. Mae Ffeminyddion Marcsaidd megis Silvia Federici a Mariarosa Dalla Costa o\u2019r Eidal yn mynnu bod llafur atgynhyrchiol yn rhan allweddol o waith cyflogedig: dyma sydd yn cynhyrchu gweithwyr y dyfodol, dyma sy\u2019n gofalu am blant y sawl sydd mewn gwaith cyflogedig yn ogystal \u00e2 gofalu am y gweithiwyr cyflogedig eu hunain drwy ofalu am y gwaith t\u0177 ayyb. Mae gofalu am weithwyr y dyfodol a rhoi\u2019r amser i weithwyr y presennol allu mynd i\u2019r gwaith yn elfennau hollbwysig o gymdeithas gyfalafol. Ac eto nid yw\u2019r gwaith yn cael ei ystyried fel gwaith o gwbl. Ac yn sicr nid fel gwaith sy\u2019n haeddu cyflog.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r arwyddoc\u00e2d gwleidyddol o dalu cyflog i famau \/ rhieni am ofalu am eu plant yn chwyldroadol. Petai llafur atgynhyrchiol mamau yn cael ei ystyried o ddifrif, byddai\u2019r sgil-effeithiau yn golygu bod pob math o waith gofal yn gorfod cael ei ystyried o ddifrif. Byddai\u2019n gynsail i weithiwyr meithrynfeydd ennill cyflog gwell, yn ogystal \u00e2\u2019r sawl sy\u2019n gweithio mewn cartrefi gofal, a glanhawyr.\u00a0 Yn y b\u00f4n byddai nifer o\u2019r tlodion cyflogedig a\u2019r tlodion di-gyflog yn cael eu tynnu allan o dlodi petaent yn derbyn cydnabyddiaeth lawn am eu llafur a phetai eu cyflog yn adlewyrchu natur hanfodol y llafur hwwnw.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwestiwn o ofal plant yn annatod yn arwain at gwestiynau am y gofal rydym yn debygol o\u2019i angen ar ddiwedd ein hoes.\u00a0 Oherwydd pan fod menyw yn gofalu am blant heb iddi ennill cyflog, mae hi mewn peryg o fod mewn sefyllfa bregus ei hunan, yn ei henaint. Yng Nghymru, fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig, os ydych yn derbyn budd-daliadau nid ydych yn talu Yswiriant Cenedlaethol yn awtomatig, ac nid ydych o reidrwydd yn cael eich hatgoffa i wneud hynny chwaith. Mae nifer o\u2019r menywod hynny (oherwydd menywod yw\u2019r rhan helaeth o\u2019r bobl hyn) a ofalodd am eu plant heb gyflog yn aml, yn hwyrach yn eu bywydau, hefyd yn gofalu am eu rhieni yn eu henaint neu eu gw\u0177r o ganlyniad i salwch neu henaint.\u00a0 Nid yw nifer helaeth o\u2019r menywod hyn yn derbyn hyd yn oed pensiwn cyflawn o\u2019r wladwriaeth am yr holl waith gofal a wnaed ganddynt, dros eu bywydau.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l y ddihareb Affricanaidd \u201cmae angen pentref i fagu plentyn\u201d ond wrth orfodi pawb posib i weithio am gyflog, chwalwyd y gymuned gan gyfalafiaeth. Does braidd neb ar \u00f4l i\u2019n helpu ni i ofalu am ein plant na\u2019r aelodau hynny\u2019n o\u2019n cymuned sydd arnynt angen ein cwmni a\u2019n cefnogaeth.\u00a0 Cyhoeddwyd adroddiad yn ddiweddar gan y Women\u2019s Budget Group (sefydliad annibynnol, nid-er-elw sydd yn arolygu effaith polisiau\u2019r llywodraeth ar fenywod a dynion):<a href=\"https:\/\/wbg.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/10\/WBG-Report-v10.pdf\"> <i>Creating a Caring Economy: A Call to Action<\/i><\/a> ac mae\u2019n un enghraifft o sut allwn greu economi ofalgar. Amlinella \u201cwyth cam i greu economi ofalgar fyddai\u2019n seiliedig ar gydraddoldeb rhyw, ll\u00eas a chynaladwyaeth\u201d. Gallwn newid y ffordd rydym yn trefnu ein hunain fel cymdeithas. Mae hyd yn oed patrymluniau i ni eu dilyn neu i fenthyg syniadau oddi-wrthynt ac mae yna fudiadau sydd wrthi\u2019n barod yn chwilio am ffyrdd o wireddi\u2019r syniadau hyn. Mae modd i ni drefnu ein cymdeithas ar amcanion gwell, mwy ystyrlon nag elw ariannol.<\/p>\n<p><strong>Galwn am y canlynol:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Cyflog Cymdeithasol i Rieni a Gofalwyr i bob riant neu ofalwr nes bod eu plant yn 18 mlwydd oed neu nes bod eu plant wedi gorffen eu haddysg llawn-amser \u2013 pa bynnag un sydd hirach.<\/li>\n<li>Pensiwn Goflawyr Cenedlaethol i bob riant neu ofalwr sydd wedi gadael gwaith cyflogedig am gyfnod er mwyn gofalu am eu plant, aelodau o\u2019r teulu neu aelodau o\u2019r gymuned, yn ddi-dal.<\/li>\n<li>\u00a0Cyfnodau mamolaeth a thadolaeth o leiafswm o 5 mlynedd: cadwch swyddi yn agored i bob rhiant nes bod pob un o\u2019u plant wedi cyrraedd oedran ysgol statudol.<\/li>\n<li>Gofal plant am ddim o enedigaeth eu plentyn i\u2019r rhieni hynny sydd eisiau dychwelyd i\u2019r byd gwaith ar \u00f4l genedigaeth eu plant.<\/li>\n<li>Absenoldeb Rhiant cyflogedig.<\/li>\n<li>Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol cadarn, wedi ei ariannu\u2019n hael. Byddai\u2019n cynnig gwsanaethau gofal yn yr un ffordd ag y gall Gwasanaeth Iechyd Cenedlaeth cadarn, wedi ei ariannu\u2019n hael, gynnig gwasanaethau ar gyfer iechyd.<\/li>\n<li>Ad-drefniant o\u2019n cymdeithas yn \u00f4l gofal. Felly pan fyddwn yn gofalu am ein plant \/ rhieni \/ partneriaid neu aelodau bregus o\u2019n cymunedau bydd pobl eraill yno i\u2019n helpu ni yn ogystal \u00e2 rhwydweithiau fyddai\u2019n galluogi\u2019r amser i ni ddad-flino yn emosiynol ac yn gorfforol a\u2019r sefydlogrwydd ariannol i ni allu gwneud y gwaith hwn yn hapus ac yn ddi-bryder.<\/li>\n<li>Cartrefi o safon da i bawb, a&#8217;r cyfle i allu byw yn eich cymuned eich hun heb gael eich gorfodi i adael oherwydd diffyg tai cyngor neu brisiau tai uchel.<\/li>\n<li>Mannau agored gwyrdd i bawb gydag aer gl\u00e2n, heb lygredd.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>[1] Tud 18 Child and Family Poverty Survey gan Plant yng Nghymru, Gorffennaf 2020<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Os oes un cyfnod mewn hanes sydd wedi amlygu pwysigrwydd gofal plant, a gwaith gofal yn gyffredinol, yna\u2019r pandemig cyfredol yw hwnnw. Yn ogystal \u00e2 gorfod ymateb i ysgolion yn &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Cyflog cymdeithasol i rieni a gofalwyr, pensiwn gofalwyr cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":42,"featured_media":1081,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[156,155],"class_list":["post-1133","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-mariarosa-dalla-costa","tag-silvia-federici","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cyflog cymdeithasol i rieni a gofalwyr, pensiwn gofalwyr cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cyflog cymdeithasol i rieni a gofalwyr, pensiwn gofalwyr cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Os oes un cyfnod mewn hanes sydd wedi amlygu pwysigrwydd gofal plant, a gwaith gofal yn gyffredinol, yna\u2019r pandemig cyfredol yw hwnnw. Yn ogystal \u00e2 gorfod ymateb i ysgolion yn &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Cyflog cymdeithasol i rieni a gofalwyr, pensiwn gofalwyr cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-02-07T13:36:58+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-05-26T20:49:44+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/undod-sticer3.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"774\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"383\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Catrin Ashton\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Catrin Ashton\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/\"},\"author\":{\"name\":\"Catrin Ashton\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/4dd7378a29b6c86cb33c969147c06190\"},\"headline\":\"Cyflog cymdeithasol i rieni a gofalwyr, pensiwn gofalwyr cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru\",\"datePublished\":\"2021-02-07T13:36:58+00:00\",\"dateModified\":\"2021-05-26T20:49:44+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/\"},\"wordCount\":3274,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/undod-sticer3.jpg\",\"keywords\":[\"Mariarosa Dalla Costa\",\"Silvia Federici\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/\",\"name\":\"Cyflog cymdeithasol i rieni a gofalwyr, pensiwn gofalwyr cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/undod-sticer3.jpg\",\"datePublished\":\"2021-02-07T13:36:58+00:00\",\"dateModified\":\"2021-05-26T20:49:44+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/undod-sticer3.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/undod-sticer3.jpg\",\"width\":774,\"height\":383},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cyflog cymdeithasol i rieni a gofalwyr, pensiwn gofalwyr cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/4dd7378a29b6c86cb33c969147c06190\",\"name\":\"Catrin Ashton\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/51fc74b8adbb44b01d4b948229e33a3c08e8faa1b0872a68c0dae3ab3ff7707e?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/51fc74b8adbb44b01d4b948229e33a3c08e8faa1b0872a68c0dae3ab3ff7707e?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/51fc74b8adbb44b01d4b948229e33a3c08e8faa1b0872a68c0dae3ab3ff7707e?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Catrin Ashton\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/catrin-ashton\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cyflog cymdeithasol i rieni a gofalwyr, pensiwn gofalwyr cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Cyflog cymdeithasol i rieni a gofalwyr, pensiwn gofalwyr cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru - undod","og_description":"Os oes un cyfnod mewn hanes sydd wedi amlygu pwysigrwydd gofal plant, a gwaith gofal yn gyffredinol, yna\u2019r pandemig cyfredol yw hwnnw. Yn ogystal \u00e2 gorfod ymateb i ysgolion yn &hellip; Parhau i ddarllen \"Cyflog cymdeithasol i rieni a gofalwyr, pensiwn gofalwyr cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2021-02-07T13:36:58+00:00","article_modified_time":"2021-05-26T20:49:44+00:00","og_image":[{"width":774,"height":383,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/undod-sticer3.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Catrin Ashton","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Catrin Ashton","Est. reading time":"7 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/"},"author":{"name":"Catrin Ashton","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/4dd7378a29b6c86cb33c969147c06190"},"headline":"Cyflog cymdeithasol i rieni a gofalwyr, pensiwn gofalwyr cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru","datePublished":"2021-02-07T13:36:58+00:00","dateModified":"2021-05-26T20:49:44+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/"},"wordCount":3274,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/undod-sticer3.jpg","keywords":["Mariarosa Dalla Costa","Silvia Federici"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/","name":"Cyflog cymdeithasol i rieni a gofalwyr, pensiwn gofalwyr cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/undod-sticer3.jpg","datePublished":"2021-02-07T13:36:58+00:00","dateModified":"2021-05-26T20:49:44+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/undod-sticer3.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/undod-sticer3.jpg","width":774,"height":383},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/07\/incwm-magu-plant-cyffredinol-incwm-gofalwyr-cyffredinol-a-gwasanaeth-gofal-cenedlaethol-i-gymru\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cyflog cymdeithasol i rieni a gofalwyr, pensiwn gofalwyr cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/4dd7378a29b6c86cb33c969147c06190","name":"Catrin Ashton","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/51fc74b8adbb44b01d4b948229e33a3c08e8faa1b0872a68c0dae3ab3ff7707e?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/51fc74b8adbb44b01d4b948229e33a3c08e8faa1b0872a68c0dae3ab3ff7707e?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/51fc74b8adbb44b01d4b948229e33a3c08e8faa1b0872a68c0dae3ab3ff7707e?s=96&d=mm&r=g","caption":"Catrin Ashton"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/catrin-ashton\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1133","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/42"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1133"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1133\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1298,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1133\/revisions\/1298"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1081"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1133"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1133"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1133"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}