{"id":116,"date":"2019-03-15T12:15:17","date_gmt":"2019-03-15T12:15:17","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=116"},"modified":"2019-03-15T12:17:58","modified_gmt":"2019-03-15T12:17:58","slug":"ceffyl-pren-troea","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/","title":{"rendered":"Y cyfryngau amgen: ceffyl pren Troea?"},"content":{"rendered":"<p><em>Dyma addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn <a href=\"https:\/\/pedwargwynt.cymru\">O&#8217;r Pedwar Gwynt<\/a>. Diolch yn fawr i&#8217;r awdur a&#8217;r cylchgrawn am roi caniat\u00e2d i Undod ei ailgyhoeddi.<\/em><\/p>\n<p>Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth \u00e2 chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y sefyllfa hon a&#8217;i goblygiadau ar ein cyfer yng Nghymru <a href=\"https:\/\/www.iwa.wales\/click\/2017\/01\/bbc-wales-information-deficit\/\">eisoes wedi cael eu trafod a&#8217;u dadansoddi&#8217;n huawdl<\/a> a hynny droeon erbyn hyn, ond i grynhoi: mae&#8217;r dinesydd Cymreig cyffredin yn byw o ddydd i ddydd heddiw heb ddysgu nemor ddim am y cynllunio gwleidyddol sydd yn dylanwadu cymaint ar ei fywyd, boed hynny trwy gyfrwng y cyngor lleol, y Senedd yng Nghaerdydd neu lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn San Steffan. Mae hon yn sefyllfa ddifrifol ar gyfer y gweddillion democrataidd a adwaenwn fel y wladwriaeth Gymreig.<\/p>\n<p>Diolch i&#8217;r drefn, cydnabuwyd goblygiadau enbyd y sefyllfa hon gan nifer yng Nghymru. Gwelwyd ymgais gan rai i ysgogi cyhoeddfan ar lawr gwlad trwy eu hymdrechion newyddiadurol eu hunain, sy&#8217;n gweithredu ar y cyfan tu hwnt i&#8217;r cyfryngau &#8216;prif ffrwd&#8217;. Dyma gyfle gwirioneddol i greu gwasanaeth amgen go iawn, i greu Cymru lle grymusir ei dinasyddion i gynrychioli eu hunain, i arwain eu materion eu hunain, ac i reoli eu disgyrsiau cynhenid.<\/p>\n<p>O ystyried diffygion ein cyfryngau prif ffrwd cyfredol, mae&#8217;n ddealladwy mai consyrn cyntaf rhai o&#8217;r cyfryngau \u2018amgen\u2019 newydd hyn yw ceisio creu cyhoeddfan sydd yn rhoi sylw teilwng i faterion Cymreig a hynny ar raddfa genedlaethol.<\/p>\n<p>Ond er gwaetha&#8217;r amcanion hyderus, nobl, mae peryg i&#8217;r ymdrech hon i atgyfnerthu&#8217;r syniad o genedl arwain at unffurfio cyn pryd yr hyn sydd, er gwell neu er gwaeth, yn gysyniad pytiog a digon annelwig ar y gorau; cam bychan sydd rhwng hyn a dileu grwpiau ymylol a&#8217;r ymdrechion i frwydro&#8217;n erbyn braint dosbarth &#8211; \u00e2&#8217;r lleisiau sydd eisoes yn dominyddu fwy na heb yn cadw&#8217;u gafael ar y breintiau, y llwyfan a&#8217;r grym a fwynheir ganddynt yn y gyhoeddfan Brydeinig.<\/p>\n<p>Felly, er bod cyhoeddfan &#8216;amgen&#8217; y &#8216;Gymru Newydd&#8217; fel petai&#8217;n datblygu ar hyn o bryd, yr un yw&#8217;r cwestiynau sydd yn angenrheidiol eu gofyn i&#8217;n sefydliadau hirdymor. Pwy sydd \u00e2 llais yn y cyfryngau Cymreig? A yw&#8217;r lleisiau hyn yn estyn yr egwyddor o gyfartaledd? Pa wirioneddau pwysig, heriol sy&#8217;n cael eu mynegi? Ac yn bwysicach na dim efallai, rhaid gofyn: a yw&#8217;r llwyfannau cyfryngol newydd hyn yn adeiladu persbectif positif o safbwynt dyfodol ein cymdeithas, yn abl i gadw tueddiadau ethnogenedlaethol, rhagfarnllyd ac adain dde eithafol hyd braich &#8211; tueddiadau sydd, dylid nodi, yn aml yn cael hwb trwy amryfusedd mewn cyfnodau tanbaid, toredig fel y rhain.<\/p>\n<p>Er mwyn ail-ddychmygu cymdeithas Gymreig mewn modd radical, cymdeithas Gymreig sydd yn gwasanaethu&#8217;n well bob un ohonom sy&#8217;n byw yn ei libart, rhaid i ni hefyd ailfeddwl mewn modd radical y ffordd y mae ein cyfryngau a&#8217;n cyhoeddfan yn gweithredu; rhaid sicrhau bod y platfformau newydd hyn yn ein cynorthwyo yn ein tasg. Cam cyntaf cwbl sylfaenol yw rhoi sylw, wrth roi llais, i anghydbwysedd grym, ac ystyried yn ofalus pa syniadau yr ydym yn rhoi llwyfan iddynt yn ein cymdeithas.<\/p>\n<p>Er mwyn creu rhywbeth gwirioneddol newydd, er mwyn troedio llwybr newydd, mae&#8217;n hanfodol ein bod yn creu cyhoeddfan sydd yn fwy nag opsiwn amgen ar gyfer y drefn gyfredol a&#8217;i hanghyfartaledd strwythurol; rhaid creu cyhoeddfan sy&#8217;n gwrthwynebu mewn modd radical yr elfennau niweidiol hynny sy&#8217;n nodweddu&#8217;r status quo, boed hynny&#8217;n gyfalafiaeth, imperialaeth Brydeinig, partriarchaeth, goruchafiaeth y dyn gwyn, ac ati. Mae&#8217;r hegemoni gyfredol hon, sydd wedi treiddio i galon synnwyr cyffredin pob perthynas gymdeithasol ac economaidd, yn gyfangorff, fel y mynegodd Raymond Williams:<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;which is not merely secondary or superstructural, like the weak sense of ideology, but which is lived at such a depth, which saturates the society to such an extent, and which \u2026 even constitutes the substance and limit of common sense for most people under its sway&#8217;.<sup>1<\/sup><\/p><\/blockquote>\n<p>Dyma&#8217;r anhawster mawr sydd yn wynebu ymdrechion i sefydlu cyhoeddfan gynhenid Gymreig. Ac os hynny, cwbl annigonol yw atgynhyrchu strwythurau a moesgarwch ffals cyfryngau Prydeinig hegemonaidd a lapio baner Cymru dros y cyfan. Nid yw ychwaith yn fater o sicrhau bod pobl Cymru yn cael mynediad i wybodaeth Gymreig, oherwydd, yng ngeiriau Raymond Williams eto:<\/p>\n<blockquote><p>\u2018hegemony has the advantage over general notions of totality, that it at the same time emphasizes the facts of domination.<sup>2<\/sup><\/p><\/blockquote>\n<p>Yn yr ystyr hwn, grym hegemoni yw bod ei gyfanrwydd yn ei ganiat\u00e1u i amsugno&#8217;n rhwydd unrhyw wrthwynebiad a gyflwynir fel cyfryngwr amgen i&#8217;r un hen synnwyr cyffredin. Ac felly, i raddau, nid yw&#8217;r cyfryngau Cymreig cyfredol &#8211; prif ffrwd ac &#8216;amgen&#8217; fel ei gilydd &#8211; yn fwy na chyfalafiaeth Brydeinig yn adennill ei nerth.<\/p>\n<p>Dadleuodd Raymond Williams mai&#8217;r hyn sydd ei angen arnom yw cyfryngau gwrthbleidiol, nid cyfryngau amgen:<\/p>\n<blockquote><p>There is a simple theoretical distinction between alternative and oppositional, that is to say between someone who simply finds a different way to live and wishes to be left alone with it, and someone who finds a different way to live and wants to change the society in its light. This is usually the difference between individual and small-group solutions to social crisis and those solutions which properly belong to political and ultimately revolutionary practice.<sup>3<\/sup><\/p><\/blockquote>\n<p>Oherwydd, creu alternatif i beth yn union mae ein cyfryngau &#8216;amgen&#8217;, mewn gwirionedd? Ai gwared arwyddwyr Prydeinig o&#8217;n diwylliant &#8216;cenedlaethol&#8217; y maent ond gan gadw&#8217;r gweddill, gan gynnwys yr elfennau hynny sydd yn gwneud y diwylliant yn un dinistriol?<\/p>\n<figure id=\"attachment_117\" aria-describedby=\"caption-attachment-117\" style=\"width: 1500px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-117\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/The_Procession_of_the_Trojan_Horse_in_Troy_by_Giovanni_Domenico_Tiepolo_cropped.jpg\" alt=\"\" width=\"1500\" height=\"1154\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/The_Procession_of_the_Trojan_Horse_in_Troy_by_Giovanni_Domenico_Tiepolo_cropped.jpg 1500w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/The_Procession_of_the_Trojan_Horse_in_Troy_by_Giovanni_Domenico_Tiepolo_cropped-300x231.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/The_Procession_of_the_Trojan_Horse_in_Troy_by_Giovanni_Domenico_Tiepolo_cropped-768x591.jpg 768w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/The_Procession_of_the_Trojan_Horse_in_Troy_by_Giovanni_Domenico_Tiepolo_cropped-1024x788.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 1500px) 100vw, 1500px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-117\" class=\"wp-caption-text\">Gorymdaith y Ceffyl Pren Troea, gan Giovanni Domenico Tiepolo<\/figcaption><\/figure>\n<p>Mae diberfeddu Prydeindod er budd goruchafiaeth ddeisyfedig Cymreictod yn aml yn cael ei gyflwyno oddi mewn i geffyl pren Troea democrateiddio, ond yn y b\u00f4n, dim ond rhith yw hwn. Dylai democrateiddio gwirioneddol adlewyrchu cysyniad Williams o drawsffurfiad cymdeithas yn yr ystyr ehangach, yn ddemocratiaeth ddilys:<\/p>\n<blockquote><p>in which the human needs of all the people in the society are taken as the central purpose of all social activity, so that politics is not a system of government but of self-government, and the systems of production and communication are rooted in the satisfaction of human needs and the development of human capacity.<sup>4<\/sup><\/p><\/blockquote>\n<p>Rhaid meddwl yn ddwfn ynghylch pwy sydd \u00e2 llais, ynghylch pwy sy&#8217;n perchnogi moddion cynhyrchu disgwrs. Oherwydd nid yw democrateiddio yn debyg o ddigwydd dim ond trwy unioni&#8217;r materion sy&#8217;n werth eu trafod (y materion <a href=\"http:\/\/www.plaidifanc.org\/en\/2018\/09\/15\/in-the-niche\/\">niche bondigrybwyll<\/a>).<\/p>\n<p>Er mwyn hyn y dylai&#8217;r cyfryngau &#8216;amgen&#8217; Cymreig fodoli yn y pen draw: er mwyn rhoi llwyfan i leisiau sy&#8217;n abl i adnabod ein hargyfwng cyfredol, yn abl i gyfrannu at ddatblygu&#8217;r fframweithiau sydd eu hangen arnom er mwyn goresgyn ein cyflwr. Tan i ni lwyddo i wneud hyn, rydym yn rhwym o gynyddu maint y dasg ac ailadrodd yr un camgymeriadau ag erioed &#8211; dim ond y gallwn bellach eu galw&#8217;n broblemau Cymreig, yn gamgymeriadau Cymreig. Er y gall hynny fod yn dderbyniol ar gyfer lleisiau adweithiol sydd eisoes \u00e2 gafael ar rym, nid yw&#8217;n gwneud dim ar gyfer y dinasyddion Cymreig hynny y mae eu lleisiau angen cael eu clywed a&#8217;u grymuso&#8217;n fwy na neb. Rhaid casglu, felly, nad yw&#8217;n cyfryngau &#8216;amgen&#8217; eto&#8217;n barod at y dasg.<\/p>\n<p>[1] Raymond Williams, \u2018Base and Superstructure in Marxist Cultural Theory\u2019 mewn Culture and Materialism (Llundain: Verso, 2005), tud. 31\u201349 (tud. 37).<\/p>\n<p>[2] Ibid, tud. 37.<\/p>\n<p>[3] Ibid, tud. 41\u201342.<\/p>\n<p>[4] Williams, \u2018Advertising: The Magic System\u2019 mewn Culture and Materialism, tud. 170\u2013195 (tud. 187).<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn O&#8217;r Pedwar Gwynt. Diolch yn fawr i&#8217;r awdur a&#8217;r cylchgrawn am roi caniat\u00e2d i Undod ei ailgyhoeddi. Waeth i ni gydnabod &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Y cyfryngau amgen: ceffyl pren Troea?&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":10,"featured_media":117,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[35],"class_list":["post-116","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-raymond-williams","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Y cyfryngau amgen: ceffyl pren Troea? - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Y cyfryngau amgen: ceffyl pren Troea? - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dyma addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn O&#8217;r Pedwar Gwynt. Diolch yn fawr i&#8217;r awdur a&#8217;r cylchgrawn am roi caniat\u00e2d i Undod ei ailgyhoeddi. Waeth i ni gydnabod &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Y cyfryngau amgen: ceffyl pren Troea?&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2019-03-15T12:15:17+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2019-03-15T12:17:58+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/The_Procession_of_the_Trojan_Horse_in_Troy_by_Giovanni_Domenico_Tiepolo_cropped.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1500\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1154\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Gareth Leaman\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Gareth Leaman\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"12 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/\"},\"author\":{\"name\":\"Gareth Leaman\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/31e0997c167a83676386bd50477db11d\"},\"headline\":\"Y cyfryngau amgen: ceffyl pren Troea?\",\"datePublished\":\"2019-03-15T12:15:17+00:00\",\"dateModified\":\"2019-03-15T12:17:58+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/\"},\"wordCount\":2511,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/The_Procession_of_the_Trojan_Horse_in_Troy_by_Giovanni_Domenico_Tiepolo_cropped.jpg\",\"keywords\":[\"Raymond Williams\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/\",\"name\":\"Y cyfryngau amgen: ceffyl pren Troea? - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/The_Procession_of_the_Trojan_Horse_in_Troy_by_Giovanni_Domenico_Tiepolo_cropped.jpg\",\"datePublished\":\"2019-03-15T12:15:17+00:00\",\"dateModified\":\"2019-03-15T12:17:58+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/The_Procession_of_the_Trojan_Horse_in_Troy_by_Giovanni_Domenico_Tiepolo_cropped.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/The_Procession_of_the_Trojan_Horse_in_Troy_by_Giovanni_Domenico_Tiepolo_cropped.jpg\",\"width\":1500,\"height\":1154,\"caption\":\"The Procession of the Trojan Horse in Troy by Giovanni Domenico Tiepolo\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Y cyfryngau amgen: ceffyl pren Troea?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/31e0997c167a83676386bd50477db11d\",\"name\":\"Gareth Leaman\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a613bbbb58c6573e4b7ac569aa3070fa0cad47912923b28adb6e10dfdc3d8604?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a613bbbb58c6573e4b7ac569aa3070fa0cad47912923b28adb6e10dfdc3d8604?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a613bbbb58c6573e4b7ac569aa3070fa0cad47912923b28adb6e10dfdc3d8604?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Gareth Leaman\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/garethleaman\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Y cyfryngau amgen: ceffyl pren Troea? - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Y cyfryngau amgen: ceffyl pren Troea? - undod","og_description":"Dyma addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn O&#8217;r Pedwar Gwynt. Diolch yn fawr i&#8217;r awdur a&#8217;r cylchgrawn am roi caniat\u00e2d i Undod ei ailgyhoeddi. Waeth i ni gydnabod &hellip; Parhau i ddarllen \"Y cyfryngau amgen: ceffyl pren Troea?\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2019-03-15T12:15:17+00:00","article_modified_time":"2019-03-15T12:17:58+00:00","og_image":[{"width":1500,"height":1154,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/The_Procession_of_the_Trojan_Horse_in_Troy_by_Giovanni_Domenico_Tiepolo_cropped.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Gareth Leaman","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Gareth Leaman","Est. reading time":"12 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/"},"author":{"name":"Gareth Leaman","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/31e0997c167a83676386bd50477db11d"},"headline":"Y cyfryngau amgen: ceffyl pren Troea?","datePublished":"2019-03-15T12:15:17+00:00","dateModified":"2019-03-15T12:17:58+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/"},"wordCount":2511,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/The_Procession_of_the_Trojan_Horse_in_Troy_by_Giovanni_Domenico_Tiepolo_cropped.jpg","keywords":["Raymond Williams"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/","name":"Y cyfryngau amgen: ceffyl pren Troea? - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/The_Procession_of_the_Trojan_Horse_in_Troy_by_Giovanni_Domenico_Tiepolo_cropped.jpg","datePublished":"2019-03-15T12:15:17+00:00","dateModified":"2019-03-15T12:17:58+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/The_Procession_of_the_Trojan_Horse_in_Troy_by_Giovanni_Domenico_Tiepolo_cropped.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/The_Procession_of_the_Trojan_Horse_in_Troy_by_Giovanni_Domenico_Tiepolo_cropped.jpg","width":1500,"height":1154,"caption":"The Procession of the Trojan Horse in Troy by Giovanni Domenico Tiepolo"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/03\/15\/ceffyl-pren-troea\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Y cyfryngau amgen: ceffyl pren Troea?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/31e0997c167a83676386bd50477db11d","name":"Gareth Leaman","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a613bbbb58c6573e4b7ac569aa3070fa0cad47912923b28adb6e10dfdc3d8604?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a613bbbb58c6573e4b7ac569aa3070fa0cad47912923b28adb6e10dfdc3d8604?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a613bbbb58c6573e4b7ac569aa3070fa0cad47912923b28adb6e10dfdc3d8604?s=96&d=mm&r=g","caption":"Gareth Leaman"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/garethleaman\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/116","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/10"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=116"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/116\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":119,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/116\/revisions\/119"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/117"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=116"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=116"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=116"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}