{"id":120,"date":"2019-03-18T12:17:51","date_gmt":"2019-03-18T12:17:51","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=120"},"modified":"2019-03-18T19:41:22","modified_gmt":"2019-03-18T19:41:22","slug":"cymru-brexit","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/","title":{"rendered":"Dihangfa Cymru o Brecsut?"},"content":{"rendered":"<p>Ychydig wythnosau yn \u00f4l fe ddigwyddodd rhywbeth tra anarferol. Cyhoeddwyd <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/commentisfree\/2019\/jan\/17\/semi-brexit-england-wales-leaving-eu-solution\">darn<\/a> gan Y Guardian oedd yn rhoi sylw i Gymru. Ymhellach &#8211; er gwaethaf y ffocws ar Brecsut &#8211; llwyddwyd osgoi hanesyn arall ar ffurf antur mewn i&#8217;r <em>Heart of Darkness<\/em> a&#8217;r ymgais diweddaraf i esbonio pam bod y brodorion wedi hunan-niweidio yn y fath modd sadomasochistaidd, trwy gyfrwng y ddefod o wallgofrwydd a alwyd yn &#8216;Refferendwm&#8217;.<\/p>\n<p>Yr oedd, yn hytrach, yn fyfyrdod rhesymegol ar y pos cyfansoddiadol sy&#8217;n wynebu&#8217;r Deyrnas Gyfunol gyfan. Nid syndod, efallai, bod cyfraniad o&#8217;r fath wedi ymddangos trwy law Athro&#8217;r Gyfraith, a oedd yn eistedd mewn sefyllfa gymharol saff ochr draw&#8217;r Iwerydd, yn &#8216;nhwr ifori&#8217; Prifysgol Princeton. Mae sicrhau bod yna gefnfor rhyngoch chi a&#8217;r <em>basket of deplorables<\/em>\u00a0yn y DU yn un ffordd o sicrhau&#8217;r pellter gofynnol i allu sylwebu ar y sefyllfa gyda phen weddol o glir.<\/p>\n<p>Ac eto, sathrwyd y gobaith o fyfyrdod gwerthfawr ar sefyllfa Cymru arni&#8217;n syth bin gan y pennawd: &#8216;A Semi-Brexit, with just England and Wales leaving the EU, is the solution&#8217;.<\/p>\n<p>Yn wir, dyma oedd y senario gwaethaf i Gymru (wedi&#8217;i awgrymu eisoes gan rai o&#8217;r Alban ac Iwerddon fel yr ateb amlwg), yn cael ei weu i mewn i ddarlun digon real o ddyfodol posib, wedi&#8217;i gyflwyno mewn modd synhwyrol a meddylgar gan Academydd Americanaidd.<\/p>\n<h2>Undeb ranedig<\/h2>\n<p>Yn wir, afaelgar iawn oedd ateb Kim Lane Scheppele yn ei symlrwydd. Dylai&#8217;r DG dilyn enghraifft pobloedd eraill lle &#8211; o fewn yr un wladwriaeth &#8211; mae rhai rhannau o fewn yr UE ac eraill ar y tu allan. Y fantais a ddaw i&#8217;r rhannau tu allan i&#8217;r UE yw&#8217;r hyblygrwydd cymharol sydd ganddynt wrth ddewis eu trefniadau, o gymharu gyda&#8217;r gwladwriaethau sofran sydd ar y tu allan (mae&#8217;r Ynys Las yn un enghraifft).<\/p>\n<p>O safbwynt yr UE byddai hyn yn gymharol syml; yn wir mae&#8217;r cymhlethdod mwyaf yn codi i Gyfansoddiad Prydain, gan gynnwys dosbarthu&#8217;r pwerau angenrheidiol er mwyn galluogi cytundebau rhyngwladol byddai&#8217;n caniat\u00e1u Cymru a Lloegr i adael, tra&#8217;n caniat\u00e1u Gogledd Iwerddon a&#8217;r Alban i aros &#8211; gan ddatganoli&#8217;r holl gyfreithiau a gwmpesir gan yr UE fel bod modd i&#8217;r gwahanol wledydd saern\u00efo&#8217;r perthynas gofynnol gyda&#8217;r corff hwnnw o gyfraith.<\/p>\n<p>Roeddwn wedi gweld troeon y sawl rwyf yn edmygu &#8211; Adam Ramsey a Gerry Hassan yn eu plith &#8211; yn aberthu dyfodol Cymru ar allor y freuddwyd hon o&#8217;r <em>rapproachment <\/em>Gaeleg-Undeb Ewropeaidd. B\u00fbm yn fawr fy llid.<\/p>\n<p>Roedd tystio i&#8217;r ddadl hon gan academydd o Princeton &#8211; nad oedd gan y cyfiawnhad o hunan-ddiddordeb &#8211; yn ormod o lawer imi.<\/p>\n<h2>Twitt<\/h2>\n<p>Yn fy nghynddaredd, es ati i gyfansoddi edefyn estynedig ar Twitter yn crynhoi fy mhryderon ynghylch y senario hwn.<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Gymaint ag y mae&#8217;n ddiddorol clywed persbectif o Princeton ar Brexit,&#8221; doethinebais, &#8220;mae&#8217;r darn hwn gan Kim Lane Scheppele yn broblemus tu hwnt.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Es ymlaen,<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Yn gyntaf o beth, gofynnwyd i bobl Cymru a oeddem yn cefnogi ymadawiad y Deyrnas Gyfunol o&#8217;r Undeb Ewropeaidd, <em>nid<\/em> a oeddem am i Gymru gadael gyda Lloegr yn unig. Os cyflwynir unrhyw gynnig o&#8217;r fath yma, mi fydd yn ofynnol trefnu Refferendwm ar wah\u00e2n i Gymru gan ei fod yn gynnig cwbl wahanol, ac un lle y bydd ewyllys y Cymry yn gorfod cael eu parchu, yn hytrach na&#8217;u bod yn cael ei danseilio neu draflyncu gan fudd y Saeson.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Camais wedyn ar fy mlwch sebon:<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Ymhellach, mae&#8217;n anwybodus o&#8217;r materion yna sy&#8217;n ganolog wrth esbonio <em>Wexit<\/em> a&#8217;r modd y roedd yn bleidlais annemocrataidd &#8211; a gynhaliwyd wedi etholiadau blinderus y Cynulliad &#8211; wedi&#8217;i ymladd ar sail diddordebau Saesneg, oherwydd gwendidau ein cyhoeddfa, a&#8217;r ffaith i&#8217;r drafodaeth cael ei boddi gan y Wasg Lundeinig.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Ac ymlaen i&#8217;r <em>Coup de Grace<\/em> &#8230;<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Mae hefyd yn dangos diffyg dealltwriaeth neu gydymdeimlad gyda chanlyniadau&#8217;r hyn a gynigir o safbwynt Cymru fel gwlad, lle byddai&#8217;r cytundebau a fyddai&#8217;n dilyn unwaith eto yn seiliedig yn gyfan gwbl ar ddiddordebau Saesneg, yn niweidiol i&#8217;n heconomi, ein cymunedau a&#8217;n hiaith. Dyma Gymru megis yr &#8220;oen aberthol&#8221;.<\/p><\/blockquote>\n<p>Wrth gwblhau&#8217;r edefyn roeddwn wedi fy nghynddeiriogi i&#8217;r pwynt roeddwn yn ystyried mai peth da byddai rhannu fy meddyliau gyda&#8217;r awdur. Cyn imi gael cyfle i ailystyried es ymlaen i ddanfon nodyn eglurhaol iddi a chopi o&#8217;r edefyn anghymedrol &#8211; neu, o fod ychydig yn garedicach i fi fy hun, angerddol.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n falch imi wneud.<\/p>\n<h2>Gwrth-naratif<\/h2>\n<p>Roedd ymateb yr Athro Scheppele yr hyn mae rhywun yn dod i ddisgwyl o academyddion Americanaidd: yn agored a hawddgar ei natur, gydag elfen dda o hiwmor a phwyllogrwydd (o gymharu \u00e2\u00a0natur <em>austere <\/em>ambell un\u00a0o&#8217;i thebyg ym Mhrydain). Ymhellach, aeth ymlaen i ddarparu&#8217;r manylion o fersiwn wreiddiol ei herthygl:<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;dywedais yn y darn [gwreiddiol] hwnnw bod Cymru erbyn hyn wedi newid ei meddwl i &#8216;aros&#8217; fel y dengys y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydlynu&#8217;n strategol gyda Llywodraeth yr Alban am beth amser ac felly a siarad yn ymarferol, dim ond Lloegr byddai&#8217;n debyg o adael.&#8221;<\/p>\n<p>&#8220;&#8216;Does dim yn yr hyn y dywedais yn atal proses ddemocrataidd o fewn Llywodraeth ddatganoledig sydd yn dod i gasgliad gwahanol na&#8217;r Refferendwm gwreiddiol. Gwn y byddai Llywodraeth Cymru yn aros i mewn petai&#8217;n cael y dewis hwnnw, ac yn \u00f4l pob tebyg byddai ail Refferendwm, wedi&#8217;i ymladd y tu allan i&#8217;r s\u0175n o Loegr, yn dod i&#8217;r un casgliad hefyd. Roedd y darn &#8211; i ddechrau &#8211; yn dweud fy mod yn meddwl y byddai &#8211; ac y dylid &#8211; Cymru aros.&#8221;<\/p>\n<p>&#8220;Y cymhlethdod gyda Chymru, wrth gwrs, yw bod y sustemau cyfreithiol Cymreig a Seisnig yn llawer iawn mwy integredig nag yw&#8217;r sustem Seisnig gyda naill ai Gogledd Iwerddon neu&#8217;r Alban. Fy nghynnig &#8211; os fydd Cymru am aros yn yr UE gyda&#8217;r Alban a Gogledd Iwerddon &#8211; yw y byddai&#8217;n cryfhau hunaniaeth gyfansoddiadol Cymru o fewn cyfraith gyfansoddiadol y DU.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Ceir yma stori wahanol i&#8217;r un a adroddwyd yn y papur &#8211; a gweud y lleia. Yn hytrach na chymhathu Cymru o fewn Lloegr er mwyn sicrhau lled-brexit &#8216;gl\u00e2n&#8217; er lles y DU, yr hyn a awgrymir dylai ddigwydd yw bod Cymru yn gallu pleidleisio eto ar ei haelodaeth o&#8217;r UE &#8211; ac mewn amgylchiadau o&#8217;r fath yr hyn sy&#8217;n debygol o ddilyn yw ein bod yn pleidleisio i aros. Dyma baratoi&#8217;r ffordd ar gyfer creu Cymru gyda sustem gyfreithiol annibynnol a DG ffederal, lle byddai Cymru&#8217;n parhau i fod yn yr UE fel rhan o&#8217;r hyn y byddai rhai am ei alw, mae&#8217;n si\u0175r, yn Undeb Celtaidd.<\/p>\n<p>Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn yn disgwyl ymateb o&#8217;r fath. Teimlwn braidd fel y cymydog crac yn cnocio ar ddrws ffrynt y t\u0177 drws nesaf i gwyno am y parti, dim ond imi gael fy ngwahodd i mewn ac eistedd i lawr gyda chwrw, a chael mwynhau sgwrs bleserus.<\/p>\n<h2>Yr anghenfil unllygeidiog<\/h2>\n<p>Gyda dyfodol Cymru bellach yn edrych yn llawer mwy llewyrchus(!), erys dim ond un cwestiwn, sef beth a ddigwyddodd yn y broses golygu?<\/p>\n<p>O edrych eilwaith ar yr erthygl wreiddiol mae&#8217;n bosib gweld awgrym o&#8217;r naratif arall yma, yn gryno iawn mewn cromfachau yn yr ail baragraff o&#8217;r darn, lle nodwyd byddai modd i Lywodraeth Prydain anrhydeddu&#8217;r Refferendwm trwy &#8216;permitting England and Wales (<em>if it still wants to<\/em>) to exit&#8217;. Yn fy rhwystredigaeth, rhaid imi gyfaddef imi ddarllen hwn fel sarhad pellach oedd yn awgrymu y gallasai&#8217;r un endid o <em>GymruaLloegr<\/em> meddwl eilwaith &#8211; ond wrth edrych yn \u00f4l wedi esboniad yr awdur, mae&#8217;n bosib gweld hwn fel yr unig gyfeiriad byr i&#8217;r dyfodol amgen a awgrymwyd gan Scheppele.<\/p>\n<p>Ni ddaw cyfeiriad arall i&#8217;r dyfodol hwn, wrth i Gymru a Lloegr ddod yn un endid at ddibenion y ddadl. Mae hyn yn nodweddiadol o&#8217;r modd y mae&#8217;r wasg Lundeinig ehangach yn trin Cymru (yr eithriad amlwg yw gwaith gwych <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/profile\/adityachakrabortty\">Aditya Chakrabortty<\/a>): mae&#8217;n arddangos mewn modd cwbl enbyd sut y mae Cymru yn cael ei hesgeuluso&#8217;n llwyr gan ohebiaeth y brif ffrwd Brydeinig, <em>a sut mae ein lle ni yn y byd a&#8217;n dyfodol yn cael eu hysgrifennu ar ein rhan.<\/em><\/p>\n<p>Wrth gwrs, realiti&#8217;r naratif yma sy&#8217;n cael ei lyncu gan y rhan fwyaf o&#8217;r cyhoedd a nifer o wleidyddion yng Nghymru. Dyma Gymru heb ewyllys ei hun, heb arwyddoc\u00e2d, sydd yn gweithredu fel atodiad i Loegr, i&#8217;w trin yn y fath modd y mae&#8217;n creu cyn lleied o drafferth a phosib. A dyma&#8217;r naratif sy&#8217;n cael ei atgynhyrchu yn ein meddyliau, myfyrdodau a gweithredoedd. Pa syndod yr ydym yn gweld ein hunain fel gwlad sydd yn &#8220;rhy fach, yn rhy dlawd, ac yn rhy ddibynnol ar Loegr&#8221;.<\/p>\n<p>Gall y ddadl uchod, wedi ei chyflwyno&#8217;n llawn, cynrychioli cyfle gwirioneddol i Gymru ail feddwl ei sefyllfa a chynnig cyfiawnhad er mwyn dianc rhag y trobwll dieflig rydym wedi cwympo mewn iddi. Adroddiant rhyddfreiniol, hyd yn oed, lle&#8217;r ydym yn rheoli ein ffawd ac yn penderfynu ar ein dyfodol a&#8217;n perthynas \u00e2&#8217;r UE ar delerau ein hunain. I academydd Americanaidd, heb ragdybiaethau neu ragfarnau hanesyddol yn pwyso arni, ymddengys yr agwedd yma&#8217;n un rhesymol a rhesymegol at y sefyllfa.<\/p>\n<p>Yn yr un modd ag yr ydym erioed wedi pleidleisio i adael gyda Lloegr yn unig, nid ydym erioed wedi pleidleisio i adael gyda &#8216;no-deal&#8217;, ac felly rydym yn deilwng o ddewis arall ar y mater &#8211; yn enwedig o ystyried y modd y mae Llywodraeth Prydain wedi ein hanwybyddu yn ystod y broses. Hyd yn oed pe byddem yn pleidleisio i adael unwaith eto, byddai pob achos i ddadlau &#8211; ar hyd y llinellau y Deyrnas Gyfunol ymwahanedig mae Scheppele yn dychmygu &#8211; bod gennym yr un hawl i awdurdod dros ein cytundebau rhyngwladol a&#8217;n trefniadau gyda&#8217;r UE.<\/p>\n<p>Yn fwy cyffredinol, wrth gwrs, y mae&#8217;r stori hon yn dyst i bwysigrwydd cyfryngau Cymreig sy&#8217;n ffocysu ar stori Cymru&#8217;n gyntaf &#8211; tra hefyd yn awgrymu mai&#8217;r hyn sydd angen ar gyfryngau o&#8217;r fath yw trem ar Gymru nid o safbwynt y DG, a phwysau&#8217;r rhagdybiaethau hanesyddol a&#8217;r (diffyg) disgwyliadau sydd ynghlwm a hynny. Yn hytrach, mae angen i ni weld Cymru o safbwynt y byd sy&#8217;n bodoli tu hwnt.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ychydig wythnosau yn \u00f4l fe ddigwyddodd rhywbeth tra anarferol. Cyhoeddwyd darn gan Y Guardian oedd yn rhoi sylw i Gymru. Ymhellach &#8211; er gwaethaf y ffocws ar Brecsut &#8211; llwyddwyd &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Dihangfa Cymru o Brecsut?&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":125,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[36,37,38],"class_list":["post-120","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-brexit","tag-kim-lane-scheppele","tag-ue","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Dihangfa Cymru o Brecsut? - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Dihangfa Cymru o Brecsut? - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Ychydig wythnosau yn \u00f4l fe ddigwyddodd rhywbeth tra anarferol. Cyhoeddwyd darn gan Y Guardian oedd yn rhoi sylw i Gymru. Ymhellach &#8211; er gwaethaf y ffocws ar Brecsut &#8211; llwyddwyd &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Dihangfa Cymru o Brecsut?&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2019-03-18T12:17:51+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2019-03-18T19:41:22+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/cymru-ewrop2.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2045\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1720\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Huw Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Huw Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"16 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/\"},\"author\":{\"name\":\"Huw Williams\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\"},\"headline\":\"Dihangfa Cymru o Brecsut?\",\"datePublished\":\"2019-03-18T12:17:51+00:00\",\"dateModified\":\"2019-03-18T19:41:22+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/\"},\"wordCount\":3358,\"commentCount\":3,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/cymru-ewrop2.png\",\"keywords\":[\"Brexit\",\"Kim Lane Scheppele\",\"Undeb Ewropeaidd\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/\",\"name\":\"Dihangfa Cymru o Brecsut? - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/cymru-ewrop2.png\",\"datePublished\":\"2019-03-18T12:17:51+00:00\",\"dateModified\":\"2019-03-18T19:41:22+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/cymru-ewrop2.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/cymru-ewrop2.png\",\"width\":2045,\"height\":1720},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Dihangfa Cymru o Brecsut?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\",\"name\":\"Huw Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Huw Williams\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Dihangfa Cymru o Brecsut? - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Dihangfa Cymru o Brecsut? - undod","og_description":"Ychydig wythnosau yn \u00f4l fe ddigwyddodd rhywbeth tra anarferol. Cyhoeddwyd darn gan Y Guardian oedd yn rhoi sylw i Gymru. Ymhellach &#8211; er gwaethaf y ffocws ar Brecsut &#8211; llwyddwyd &hellip; Parhau i ddarllen \"Dihangfa Cymru o Brecsut?\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2019-03-18T12:17:51+00:00","article_modified_time":"2019-03-18T19:41:22+00:00","og_image":[{"width":2045,"height":1720,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/cymru-ewrop2.png","type":"image\/png"}],"author":"Huw Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Huw Williams","Est. reading time":"16 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/"},"author":{"name":"Huw Williams","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b"},"headline":"Dihangfa Cymru o Brecsut?","datePublished":"2019-03-18T12:17:51+00:00","dateModified":"2019-03-18T19:41:22+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/"},"wordCount":3358,"commentCount":3,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/cymru-ewrop2.png","keywords":["Brexit","Kim Lane Scheppele","Undeb Ewropeaidd"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/","name":"Dihangfa Cymru o Brecsut? - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/cymru-ewrop2.png","datePublished":"2019-03-18T12:17:51+00:00","dateModified":"2019-03-18T19:41:22+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/cymru-ewrop2.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/cymru-ewrop2.png","width":2045,"height":1720},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/18\/cymru-brexit\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Dihangfa Cymru o Brecsut?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b","name":"Huw Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Huw Williams"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/120","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=120"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/120\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":130,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/120\/revisions\/130"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/125"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=120"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=120"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=120"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}