{"id":1205,"date":"2021-03-21T09:42:48","date_gmt":"2021-03-21T09:42:48","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1205"},"modified":"2021-03-21T10:53:12","modified_gmt":"2021-03-21T10:53:12","slug":"anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/","title":{"rendered":"Anufudd-dod sifil awdurdodau lleol"},"content":{"rendered":"<p>Sut mae rhywun i fod i deimlo pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gohirio ymgynghoriad megis y gwnaeth Cyngor Sir G\u00e2r yn ddiweddar yn achos ysgolion Blaenau a Mynydd y Garreg fel ei gilydd?\u00a0 Ymdeimlad o ryddhad fod yna elfen o drugaredd ar waith?\u00a0 Gobaith na fydd yr ymgynghoriad yn digwydd o gwbwl?\u00a0 Ynte ymwybyddiaeth anghyfforddus mai ysbaid dros dro yng nghanol storm yw hyn yn ei hanfod?\u00a0 Yn sgil yr ymwybyddiaeth honno daw ofnusrwydd ac yn wir bryder gwirioneddol ymhlith rhieni, staff, disgyblion a thrigolion am yr hyn a dd\u00eal.\u00a0 Rhyw arswyd sylfaenol mai dim ond mater o amser ydyw cyn y bydd yr awdurdod lleol yn cael ei ffordd.<\/p>\n<p>Tybed?<\/p>\n<p>Mae awdurdodau lleol Cymru oll wedi eu rhwymo gan Fesur y Gymraeg 2011 i brofi eu hachos dros gau ysgol ar sail effaith penderfyniad o\u2019r fath ar y Gymraeg fel iaith gymunedol.\u00a0 Mae hynny oherwydd mai penderfyniad polisi yw penderfyniad o\u2019r fath. Mae dyletswyddau penodol yn rhwymo awdurdodau lleol drwy\u2019r Hysbysiadau Cydymffurfio a osodwyd arnynt gan Gomisiynydd y Gymraeg i ystyried yr effaith ar y Gymraeg wrth ymgynghori am benderfyniad polisi, a chyn gwneud penderfyniad o\u2019r fath.<\/p>\n<p>Er mor ddiffygiol y broses bresennol, pe bai awdurdodau lleol yn dilyn y deddfau sydd eisoes yn bodoli yn briodol, a phe buasent yn gweithredu yn gwbl ddiragfarn ac yn hollol wrthrychol, a phe bai yna reoleiddio cadarn yn digwydd yn y cyswllt hwn, ni fuasai cyhoeddi ymgynghoriad yn arwain yn anochel at gau ysgol.\u00a0 Mae\u2019r trefniadau dan Fesur y Gymraeg 2011 yn golygu bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud y gwaith caib a rhaw o ran ystyried beth y maent ar fin ei golli o ran y Gymraeg fel iaith gymunedol cyn penderfynu a ydynt am fwrw mlaen \u00e2\u2019r cam di-droi\u2019n-\u00f4l arfaethedig ai peidio.\u00a0 Mae hefyd yn golygu bod dyletswydd arnynt fod \u00e2 chynllun pendant i lenwi\u2019r gwagle os ydynt wedyn yn parhau ar yr un trywydd. Dro ar \u00f4l tro, fodd bynnag, gwelwyd awdurdodau lleol yn esgeuluso ystyriaeth o\u2019r fath, gan gyfyngu eu sylwadau a\u2019u pendroni i\u2019r effaith ar addysg Gymraeg yn unig, heb grybwyll o gwbl yr effaith ar hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol yn sgil cau ysgol bentref.<\/p>\n<p>Fel y crybwyllais, mae angen gwaith caib a rhaw manwl, ond nid ymddengys fod awdurdodau lleol yn credu mai drwy chwys dy wyneb y bwytei fara o ran dyfodol y Gymraeg yn ein cymunedau. Yn eironig ddigon, aeth parhad y Gymraeg fel iaith gymunedol yn dipyn o boendod i\u2019r rhai sy\u2019n ystyried mai canoli\u2019r ddarpariaeth mewn adeiladau ysgol newydd yw\u2019r unig lwybr gwerth chweil ar gyfer addysg Gymraeg.\u00a0 Eironi pellach yw nad yw\u2019r adeiladau newydd, er gwaetha\u2019r miliynau o bunnoedd o wariant, yn aml yn creu mwy na chynnydd pitw yn y ddarpariaeth ychwanegol i ddiwallu\u2019r cynnydd yn y galw.<\/p>\n<p>Nid yw hynny o eiriau a ddarperir gan awdurdodau addysg mewn ymgynghoriadau ysgolion yn aml yn ateb gofynion Mesur y Gymraeg. Nid oes ond raid cael cip sydyn ar esgyrn sychion o astudiaethau effaith ar y Gymraeg yn ymgynghoriadau ysgolion Abersoch, Mynydd y Garreg a Blaenau, Rhydaman i weld nad ydynt yn dod yn agos at gydymffurfio.\u00a0 Nid yw Cynghorau Plaid Cymru Gwynedd a Sir G\u00e2r ysywaeth yn eithriad yn hyn o beth. Mae\u2019n arswydus meddwl nad ydynt fel pe baent wedi troi eu meddyliau am funud at yr effaith bosibl y byddai cau ysgol bentref yn ei chael ar y Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae\u2019n deg gofyn yn wir a oes unrhyw awdurdod lleol ar hyd a lled Cymru wedi cymryd y ddyletswydd hon o ddifri?<\/p>\n<p>Er i asesiad effaith ar y Gymraeg Cyngor M\u00f4n yn yr ymgynghoriad ar ysgolion Bodffordd a Chorn Hir esgus bach fynd drwy\u2019r mosiwns o gynnwys ieithwedd roddai\u2019r argraff eu bod wedi ystyried yr hyn oedd yn ddisgwyliedig ganddynt (e.e. y sylw agoriadol sy\u2019n dynwared union eiriad Mesur y Gymraeg \u2018Mae Cyngor Sir Ynys Mo\u0302n wedi mabwysiadu\u2019r egwyddor na ddylai\u2019r iaith Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na\u2019r Saesneg, ac y dylai trigolion yr ynys allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os dymunant wneud hynny\u2019), mae ffurf cwestiwn ac ateb llawer o\u2019r cyfryw asesiad yn ymagweddu mwy fel plant ysgol gynradd yn rhoi\u2019r atebion\u00a0 yr oedd yr awdurdod am eu clywed yn hytrach na bod yn ddadansoddiad treiddgar a diduedd a chanddo rithyn o ymchwil trwyadl a gwybodaeth arbenigol yn perthyn iddo (.\u00a0 Yn bwysicach, mae hefyd yn dilyn y ffasiwn cenedlaethol o gyfystyru \u2018cymuned\u2019 a &#8216;chymuned addysgol\u2019 wrth ystyried yr effaith ar y Gymraeg.\u00a0 Nid oes argol fod Gwynedd na Sir G\u00e2r hwythau wedi teimlo pwysau o fath yn y byd i hyd yn oed roi\u2019r argraff eu bod ag awydd ufuddhau i unrhyw drefn statudol.<\/p>\n<p>Mae felly yn deg gofyn a yw awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru yn gweithredu fel cyrff democrataidd mewn perthynas \u00e2 chau ysgolion Cymraeg?\u00a0 Lle mae\u2019r enghreifftiau o ymarfer da o ran astudiaethau effaith ar y Gymraeg ar lefel gymunedol?\u00a0 Cyhoeddwch hwy yn groch os ydych yn digwydd gwybod os gwelwch yn dda.\u00a0 Yn achos yr ymgynghoriadau cyfredol ar ddyfodol Abersoch, Mynydd y Garreg a Blaenau, nid oes tamaid o dystiolaeth o ymgynghori gyda\u2019r cymunedau lleol ar effaith debygol cau eu hysgolion pentref ar y Gymraeg fel iaith yn y gymdeithas y tu hwnt i furiau\u2019r ysgol, nac arwydd o fath yn y byd fod y naill gyngor na\u2019r llall wedi ysytyried hyn o gwbl.\u00a0 Nid wyf yn gweld sut y gall unrhyw gynghorydd wneud penderfyniad ar fater mor greiddiol ac arwyddocaol \u00e2 chau ysgol Gymraeg mewn pentref Cymraeg heb ystyried y cwestiwn hwn, hyd yn oed pe na bai\u2019r gyfraith yn mynnu ei fod yn cael ei ystyried.<\/p>\n<p>Amlygir yr agwedd ysgafala hon tuag at y Gymraeg fel iaith gymunedol ar ran y Cynghorau er gwaetha\u2019r ffaith fod Comisiynydd y Gymraeg wedi canfod fod Cyngor Llafur Dinas a Sir Abertawe wedi torri safonau iaith wrth gau Ysgol Gymraeg Felindre am yr union reswm hwn. Yn benodol, dyfarnodd y Comisiynydd na fu ystyriaeth ddigonol o\u2019r effaith ar y Gymraeg gan fod hynny o ystyriaeth wedi ei chyfyngu i\u2019r effaith ar y gymuned addysgol: nid oedd y Cyngor wedi dadansoddi unrhyw effeithiau negyddol na chadarnhaol tebygol yn y gymuned ehangach o gau; nid oedd chwaith yn cynnwys dadansoddiad o ddemograffeg yr ardal na chanrannau na niferoedd siaradwyr na defnyddwyr. Nododd y Comisiynydd y gallasai astudiaeth drylwyr ddadansoddol fod wedi arwain Cyngor Abertawe i gredu mai cam gwag oedd cau ysgol Felindre &#8211; yr ysgol bentref olaf yn y pentref Cymreiciaf yn Sir Abertawe oll.<\/p>\n<p>Wrth drafod ei ddyfarniad gyda Bethan Rhys Roberts ar raglen Newyddion fe ddywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, nad oedd ganddo rym i atal na gwyrdroi\u2019r penderfyniad i gau ond y buasai methiant Cyngor Abertawe i gydymffurfio \u00e2\u2019r safonau yn wers i awdurdodau lleol eraill yn y dyfodol i beidio \u00e2 syrthio\u2019n fyr o\u2019r nod oedd wedi ei osod ganddo &#8211; gan awgrymu mai dyna mewn gwirionedd oedd gwerth pennaf y canfyddiad.\u00a0 Er iddo fodd bynnag osod sancsiwn ar Gyngor Abertawe i gyhoeddi\u2019r methiant ar eu gwefan, dal i aros yr ydys dros flwyddyn yn ddiweddarach i weld hynny ac amryw o sancsiynau eraill yn cael eu gwireddu.<\/p>\n<p>Nid yw Cyngor Abertawe wedi cydymffurfio \u00e2 gorchymyn y Comisiynydd i roi cyhoeddusrwydd i\u2019w fethiant.\u00a0 Yn anffodus, nid yw Comisiynydd y Gymraeg chwaith wedi cymryd unrhyw gamau gorfodi pellach yn sgil y methiant hwnnw.\u00a0 Efallai fod hyn yn esbonio\u2019n rhannol agwedd ryfedd yr awdurdodau lleol eraill: os yw Abertawe\u2019n gallu anwybyddu\u2019r Comisiynydd, pam nad nhw?\u00a0 Beth bynnag fo\u2019r rheswm, mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi dewis llwyr anwybyddu\u2019r gofyniad cyfreithiol i ystyried a chynnal astudiaeth drylwyr o\u2019r effaith ar y Gymraeg fel iaith gymunedol wrth gynnal ymgynghoriadau ar ddyfodol ysgolion.\u00a0 Mae pa mor effro yw awdurdodau lleol i wers Felindre yn codi cwestiynau pellgyrhaeddol hefyd am ba mor deg a thryloyw a chytbwys yw\u2019r gyfundrefn bresennol sydd yn amlach na pheidio \u00e2\u2019i bryd ar fynd ynghyd \u00e2 chau ysgolion Cymraeg yn ddirwystr yn enw cynnydd.\u00a0 Yn \u00f4l tystiolaeth yr ymgynghoriadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd, dilyn Cyngor Abertawe yn bur slafaidd y mae awdurdodau lleol eraill hyd yn oed yn yr ardaloedd a ystyrid yn draddodiadol yn gadarnleoedd y Gymraeg megis Sir G\u00e2r a Gwynedd lle mae Plaid Cymru bellach yn mwynhau bod mewn grym.\u00a0 Dylai Cyngor Sir Gwynedd a Chyngor Sir G\u00e2r a phob awdurdod lleol arall perthnasol fod yn mynd i\u2019r afael \u00e2 hyn yn awr cyn mynd gam ymhellach ag unrhyw ymgynghoriad gan y buasai&#8217;n anffodus, a dweud y lleia, pe baent yn syrthio i&#8217;r un fagl \u00e2 Chyngor Dinas a Sir Abertawe a&#8217;r rhybudd eisoes wedi ei seinio gan Aled Roberts.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, buaswn yn annog cyfranogwyr o ymgynghoriadau ysgolion Cymraeg o dan fygythiad lle bynnag y b\u00f4nt gan gynnwys ysgolion Cymraeg Mynydd y Garreg, Blaenau ac Abersoch i gyflwyno eu cwynion i\u2019r awdurdod perthnasol ar fyrder ac yna i Gomisiynydd y Gymraeg, oni ch\u00e2nt eu llwyr fodloni i\u2019r asudiaeth o\u2019r effaith ar y Gymraeg yn y gymuned y tu hwnt i ffiniau\u2019r ysgolion dan sylw gael ei chyflawni yn bwrpasol ac yn ystyrlon.<\/p>\n<p>Wedi\u2019r cyfan, nid yr ysgolion sydd ar brawf yn y fan hon yn gymaint \u00e2\u2019r awdurdodau lleol, Comisiynydd y Gymraeg heb s\u00f4n am gyfiawnder a democratiaeth y gyfundrefn gyfan.<\/p>\n<p>****************************************************<\/p>\n<p><b>Atodiad<\/b><\/p>\n<p>Gan nad yw gwefan Comisiynydd y Gymraeg yn weithredol ar hyn o bryd, wele isod y darnau mwyaf perthnasol o adroddiad y Comisiynydd dros flwyddyn yn \u00f4l ar y penderfyniad cibddall i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre.\u00a0 Cysyllter \u00e2 swyddfa Comisiynydd y Gymraeg am gopi cyflawn.\u00a0 Defnyddiwyd <b>print trwm<\/b> gennyf i bwysleisio\u2019r egwyddorion creiddiol:<\/p>\n<p>2.32 <b>Mae safonau 88, 89 a 90 yn ei gwneud yn ofynnol ar y Cyngor i ystyried pa effeithiau, os o gwbl, y byddai penderfyniad polisi yn eu cael ar y cyfleoedd i bersonau ddefnyddio\u2019r Gymraeg ac ar beidio \u00e2 thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na\u2019r Saesneg, pa un ai yw\u2019r rheiny\u2019n effeithiau positif neu\u2019n andwyol.<\/b><\/p>\n<p>2.33 <b>Golyga hyn bod angen i\u2019r Cyngor ystyried a nodi\u2019r holl effeithiau perthnasol y gall penderfyniad polisi eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio&#8217;r Gymraeg neu ar beidio \u00e2 thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na&#8217;r Saesneg.\u00a0<\/b><\/p>\n<p>2.34 Mae\u2019r rhestr isod yn cynnig rhai ffactorau y credaf y gallai\u2019r Cyngor fod wedi eu hystyried wrth asesu effaith y cynnig i gau YGG Felindre er mwyn sicrhau bod yr asesiad yn un priodol ac ystyrlon.<\/p>\n<p>\u00a2\u00a0 A fydd yn cynnig yn cael effaith ar <b>nifer neu\u2019r ganran<\/b> o bobl sy\u2019n gallu <b>siarad Cymraeg<\/b> (neu unrhyw sgil arall)?<\/p>\n<p>\u00a2\u00a0 A fydd yn cynnig yn cael effaith ar <b>nifer neu\u2019r ganran<\/b> o bobl sy\u2019n <b>defnyddio\u2019r Gymraeg<\/b>?<\/p>\n<p>\u00a2\u00a0 <b>A fydd y cynnig yn gwarchod, yn hybu ac yn cyfoethogi treftadaeth a diwylliant yr ardal dan sylw mewn perthynas \u00e2\u2019r Gymraeg?\u00a0<\/b><\/p>\n<p>2.35 Gallai asesiad o effaith ieithyddol hefyd gynnwys y canlynol er mwyn rhoi sylw priodol i ofynion y safonau:<\/p>\n<p>\u00a2\u00a0 Nodi unrhyw <b>effeithiau positif<\/b> ar y Gymraeg;<\/p>\n<p>\u00a2\u00a0 Nodi unrhyw <b>effeithiau andwy<\/b>ol ar y Gymraeg;<\/p>\n<p>\u00a2\u00a0 Ystyried sut y gallai\u2019r polisi neu\u2019r ymarfer hyrwyddo\u2019r cyfleoedd i bersonau ddefnyddio\u2019r Gymraeg yn ehangach;<\/p>\n<p>\u00a2\u00a0 Ystyried a fydd y polisi yn effeithio ar drin y Gymraeg yn llai ffafriol na\u2019r<\/p>\n<p>Saesneg;<\/p>\n<p>2.36 \u00a0 Ar \u00f4l ystyried yr holl effeithiau mae\u2019n ofynnol rhoi ystyriaeth ddyledus i ganlyniadau effaith o\u2019r fath. Mae safon 89 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ystyried sut y gellir <b>llunio polisi (neu newid polisi sydd eisoes yn bodoli) <\/b>fel y byddai\u2019r penderfyniad polisi\u2019n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif ar y cyfleoedd i bersonau ddefnyddio\u2019r Gymraeg ac ar beidio \u00e2 thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na\u2019r Saesneg.\u00a0 Mae safon 90 yn ei gwneud yn ofynnol ar y Cyngor ystyried sut y gellir llunio polisi (neu newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel na fyddai\u2019r penderfyniad polisi\u2019n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai\u2019n cael effeithiau llai andwyol ar y cyfleoedd i bersonau ddefnyddio\u2019r Gymraeg ac ar beidio \u00e2 thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na\u2019r Saesneg.<\/p>\n<p>Golyga hyn bod yn rhaid i\u2019r Cyngor <b>ystyried unrhyw opsiynau i liniaru neu atal effeithiau andwyol y gall y penderfyniad polisi ei gael ar yr iaith Gymraeg. Rhaid hefyd ystyried yr opsiynau o ran sut i sicrhau effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif ar y cyfleoedd i bersonau ddefnyddio\u2019r Gymraeg ac ar beidio \u00e2 thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na\u2019r Saesneg<\/b><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>2.42 Nodaf fodd bynnag, <b>tra bo\u2019r adroddiad yn trafod effeithiau cadarnhaol y cynnig ar ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg o fewn y sir, nid oes tystiolaeth i\u2019r Cyngor ystyried ac asesu effaith y cynnig ar y Gymraeg y tu hwnt i addysg.\u00a0<\/b><\/p>\n<h4>Adroddiad Ymgynghori: Cynnig i Gau YGG Felindre<\/h4>\n<p>2.45 Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o\u2019r ymatebion a dderbyniwyd mewn ymateb i\u2019r ymgynghoriad, ac ymateb y Cyngor i\u2019r materion a godwyd. Mae pwyntiau 40 i 49 yr adroddiad yn rhestru materion a godwyd oedd yn ymwneud yn benodol \u00e2\u2019r Gymraeg.<\/p>\n<p><b>Mae un sylw yn cyfeirio at ddemograffeg ieithyddol ward Mawr. Nid yw\u2019r Cyngor wedi cynnig ymateb i\u2019r sylw hwn.<\/b><\/p>\n<h4>Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg<\/h4>\n<p>2.46 Cyhoeddwyd dwy ddogfen oedd \u00e2\u2019r teitl hwn. Roedd y ddogfen gyntaf yn asesiad cyn-ymgynghori, a\u2019r ail yn fersiwn diweddarach sy\u2019n cynnwys adran ar y sylwadau a dderbyniwyd ac ymateb y Cyngor i\u2019r sylwadau hynny.<\/p>\n<p>2.49 Y ddau baragraff olaf yn unig felly sy\u2019n ystyried yr effaith ar y Gymraeg yn benodol.\u00a0 <i>17. O ystyried y cefndir yma ac yn unol gyda\u2019r buddion a restrir uchod credwn bydd y cynnig yn arwain at effaith bositif ar ddatblygiad yr Iaith Gymraeg yn Abertawe.<\/i><\/p>\n<ol start=\"18\">\n<li><i> O ganlyniad, mae\u2019r Cyngor yn fodlon y bydd y ddarpariaeth Iaith Gymraeg yn gwella yn Abertawe.\u00a0<\/i><\/li>\n<\/ol>\n<p>2.51 <b>Nid oedd y ddogfen wedi ystyried a oedd unrhyw elfennau negyddol i\u2019r cynnig, nac wedi ceisio canfod beth fyddai effaith y penderfyniad ar faterion nad oeddynt yn ymwneud yn uniongyrchol ag addysg yr ardal, materion megis effaith symud yr ysgol o\u2019r gymuned ar ddiwylliant yr ardal, cyswllt trigolion yr ardal \u00e2\u2019r Gymraeg yn sgil hynny ayb. Nid oedd yn ymdrechu i ganfod a oedd y buddion yr honnir y byddai\u2019n dod i addysg Gymraeg yn yr ardal gymaint nes ei fod yn gorbwyso unrhyw effeithiau andwyol eraill posibl.\u00a0\u00a0<\/b><\/p>\n<h4>Asesiad Effaith Cymunedol<\/h4>\n<p>2.53 Ni ellir gweld o\u2019r ddogfen bod unrhyw asesiad pellach wedi ei gynnal a oedd yn edrych ymhellach ar effaith y cynnig ar y Gymraeg o fewn y gymuned.<\/p>\n<h4>Asesiad Effaith Cydraddoldeb<\/h4>\n<p>2.55 Roedd y ddogfen wedi adnabod bod y cynnig yn berthnasol i\u2019r Gymraeg. Mae Isadran 3: <i>Yr Effaith ar Nodweddion Gwarchodedig<\/i> wedi dynodi\u2019r effaith ar y Gymraeg fel un \u2018Niwtral\u2019. Mae hyn, o edrych ar y ddogfen, gyfystyr \u00e2 dim effaith cadarnhaol na negyddol. Eir ymlaen i ddatgan:<\/p>\n<p><i>Mae YGG Felindre yn ysgol gynradd Gymraeg ac er bod y cynnig yn un i gau ysgol gynradd Gymraeg mae\u2019r cynnig yn rhan o\u2019r Cynllun Strategol ehangach y Gymraeg mewn Addysg sy\u2019n ceisio cynnydd nifer y lleoedd sydd ar gael yn ysgolion Cymraeg Abertawe. . .\u00a0\u00a0<\/i><\/p>\n<p><i>Mae\u2019r Cynllun Strategol ehangach y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor yn ceisio cynyddu\u2019n sylweddol nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg yn Abertawe. O ganlyniad i gynigion i gyflawni ein targedau credwn y byddai hyn yn cynyddu cyfleoedd i fwy o bobl ddefnyddio\u2019r Gymraeg a sicrhau nad yw\u2019r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na\u2019r Saesneg.\u00a0<\/i><\/p>\n<p>Gwelir o\u2019r ddogfen nad oes unrhyw gamau gweithredu wedi eu nodi ar gyfer ymateb i unrhyw fylchau a nodwyd. Dywed:<\/p>\n<p><i>Ar \u00f4l yr ymgynghoriad mae swyddogion yn parhau i gredu mai dyma\u2019r penderfyniad cywir.<\/i><\/p>\n<h4>Tystiolaeth y Cyngor i\u2019r ymchwiliad<\/h4>\n<h4><b>Canfyddiadau<\/b><\/h4>\n<p>2.60 Yn dilyn ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd i mi gan yr achwynydd a\u2019r Cyngor, mae\u2019n ymddangos i mi fod y Cyngor wedi ystyried effaith y cynnig i gau YGG Felindre ar addysg cyfrwng Cymraeg. Mae\u2019r Cyngor wedi cyfeirio sawl tro ac mewn sawl dogfen bod y cynnig yn rhan o\u2019r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg sydd yn cynllunio ar gyfer cynyddu nifer y disgyblion sydd yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sir.<\/p>\n<p>2.61 <b>Fodd bynnag, nid yw\u2019r dystiolaeth a gefais fel rhan o\u2019r ymchwiliad wedi fy narbwyllo bod yr un sylw a\u2019r un ystyriaeth wedi ei roi i effaith y penderfyniad ar y Gymraeg mewn cyd-destun ehangach.<\/b> Mae\u2019n glir fod y Cyngor wedi cynnal asesiad effaith ar y Gymraeg cyn y broses ymgynghori, a\u2019u bod wedi ailymweld \u00e2\u2019r ddogfen honno i\u2019w diwygio yn sgil ymgynghori ar y cynnig. Mae\u2019n glir hefyd fod ystyriaeth wedi ei roi i\u2019r effaith ar y Gymraeg mewn dogfennau eraill, megis yr asesiad effaith cydraddoldeb a\u2019r asesiad effaith cymunedol.\u00a0 Fodd bynnag, mae\u2019n rhaid i mi ystyried i ba raddau yr oedd yr asesiadau hynny, gyda\u2019i gilydd, yn ystyrlon ac yn ddigonol i sicrhau bod y Cyngor wedi gweithredu yn unol \u00e2 gofynion ac amcanion y safonau llunio polisi.<\/p>\n<p>2.62 Mae\u2019r achwynydd yn honni bod gan yr ysgol r\u00f4l allweddol mwyn cynnal y Gymraeg yn yr ardal ac wrth gynnig cyfleoedd i bobl ddefnyddio\u2019r Gymraeg. O edrych ar ofynion y safonau, <b>mae dyletswydd ar y Cyngor i ystyried i ba raddau y mae\u2019r cynnig yn gwarchod, yn hybu ac yn cyfoethogi treftadaeth a diwylliant yr ardal mewn perthynas \u00e2\u2019r Gymraeg.\u00a0<\/b><\/p>\n<p>2.63 Yr wyf eisoes wedi trafod cynnwys y ddogfen <b>Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg<\/b> ym mharagraffau 2.33\u00a0 i 2.37. Tynnais sylw at y ffaith mai <b>dim ond 2 baragraff allan o\u2019r 19 oedd yn trafod effaith ar y Gymraeg.<\/b> Casglaf bod paragraffau 1 i 16 yn trafod y rhesymau a arweiniodd at y penderfyniad i gynnig cau YGG Felindre, yn hytrach na\u2019u bod yn cynnig asesiad trylwyr o effaith y penderfyniad. Mae\u2019r paragraffau clo yn casglu bod <b>y Cyngor yn credu y byddai\u2019r cynnig yn arwain at effaith gadarnhaol ar ddatblygu\u2019r Gymraeg yn ardal Abertawe<\/b>, <b>er nad oes unrhyw dystiolaeth gadarn yn cael ei gyflwyno i gefnogi hynny.\u00a0\u00a0<\/b><\/p>\n<p>2.64 <b>Nid yw\u2019r asesiad yn ystyried effaith posibl ar y Gymraeg o fewn y gymuned nac yn ystyried unrhyw effeithiau y tu hwnt i\u2019r ddarpariaeth addysgol. Nid yw\u2019r asesiad yn ystyried y defnydd o\u2019r Gymraeg yn y gymuned a chyfraniad yr ysgol at hynny.<\/b><\/p>\n<p><b>Byddwn wedi disgwyl gweld data neu wybodaeth fyddai\u2019n dystiolaeth bod y Cyngor wedi ystyried demograffeg ieithyddol yr ardal a\u2019u bod wedi craffu a phwyso a mesur effaith cau\u2019r ysgol ar arferion ieithyddol y bobol.\u00a0 Nid yw\u2019n ddigonol bod y Cyngor yn casglu bod yr effaith yn \u201cniwtral\u201d heb hefyd gyflwyno dadleuon neu dystiolaeth i gefnogi hynny.<\/b><\/p>\n<p>2.65 Nid oes ychwaith unrhyw dystiolaeth o\u2019r ddogfen Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg, na\u2019r dogfennau a\u2019r asesiadau eraill a gynhaliwyd, fod y Cyngor wedi ystyried sut gellir llunio\u2019r polisi neu\u2019r cynnig fel ei bod yn cael effaith cadarnhaol neu llai andwyol ar y Gymraeg. Er bod y Cyngor wedi nodi bod y cynnig yn cael effaith \u201cniwtral\u201d ar y Gymraeg, mae gofynion safon 89 a 90 yn parhau\u2019n berthnasol ac yn weithredol.<\/p>\n<p>2.66 Wrth gyflwyno ei ch\u0175yn i mi, mae\u2019r achwynydd wedi cyfeirio at y ffyrdd y mae\u2019r ysgol yn cyfrannu at ffactorau cymunedol ehangach sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r Gymraeg. Eglura fod yr ysgol yn cyfrannu at gynnal yr iaith Gymraeg yn y pentref drwy roi\u2019r cyfle i drigolion<\/p>\n<p>y pentref, disgyblion a\u2019u rhieni ddod ynghyd i drefnu a chymryd rhan mewn gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.<\/p>\n<p>2.67 Mae\u2019r enghreifftiau hynny\u2019n cynnwys y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon, eisteddfod y pentref,\u00a0 digwyddiad Cawl a Thwmpath dydd G\u0175yl Dewi, cwrdd y cynhaeaf yn y capel, a\u2019r ddrama Nadolig sy\u2019n cael ei gynnal yn y pentref.<\/p>\n<p>2.68 Eglura\u2019r achwynydd hefyd fod aelodau\u2019r gymuned wedi bod yn weithgar wrth wirfoddoli i godi arian i\u2019r ysgol ar gyfer adnoddau. Trefnwyd yn ogystal brosiectau gan aelodau\u2019r gymuned ar gyfer galluogi plant y pentref i gystadlu yn eisteddfodau\u2019r Urdd&#8230;<\/p>\n<p>2.69 Pe bai asesiad priodol o effaith y penderfyniad i gau\u2019r ysgol ar y Gymraeg yn y gymuned wedi ei chynnal, fe fyddai\u2019r Cyngor yn debygol o fod wedi dod yn ymwybodol o ddigwyddiadau megis rhain, ac wedi gallu gwneud asesiad o\u2019r berthynas rhwng yr ysgol a\u2019r gweithgareddau, a dadansoddi\u2019r effaith y byddai\u2019r cau\u2019r ysgol yn debygol o\u2019i gael ar allu\u2019r gymuned i barhau i\u2019w cynnal yn sgil cau\u2019r ysgol, neu i gynnal gweithgareddau cyffelyb fyddai\u2019n eu galluogi i barhau i ddefnyddio\u2019r Gymraeg.<\/p>\n<p>2.70 Yna, ar sail yr asesiad, fe fyddai wedi bod mewn sefyllfa i ystyried pa gamau y gallai eu cymryd yn sgil gwneud asesiad o\u2019r fath. <b>Mae\u2019r safonau yn ei gwneud yn agored i\u2019r Cyngor i barhau gyda\u2019r penderfyniad doed a dd\u00eal neu, gall gasglu bod yr effeithiau andwyol mor sylweddol fel nad oes modd parhau gyda\u2019r penderfyniad. Mae modd iddo hefyd barhau i wneud y\u00a0 penderfyniad mewn ffordd a fyddai\u2019n cael effeithiau positif neu fwy positif ar y Gymraeg na\u2019r hyn yr arfaethwyd yn y lle cyntaf, neu wneud y penderfyniad gan gyflwyno mesurau lleddfu gyda\u2019r bwriad o atal neu leihau effaith andwyol y penderfyniad.\u00a0<\/b><\/p>\n<p>2.71 Y Cyngor ddylai ddod fyny \u00e2 chynigion ar sut mae gwneud hynny. <b>Heb asesiad, ymchwil a chanfyddiadau priodol, nid oes modd rhagweld beth allai cynigion o\u2019r fath fod<\/b>, <b>ond fe allai\u2019r enghreifftiau isod fod y mathau o bethau y gellir fod wedi eu hystyried mewn cymuned ble mae\u2019r Gymraeg yn parhau i fod yn rhan o wead y gymdeithas:\u00a0<\/b><\/p>\n<ul>\n<li>\u00a0 <b>Ariannu mentrau neu weithgareddau<\/b> dan arweiniad y fenter iaith<\/li>\n<li>\u00a0 Sicrhau fod <b>cyfleusterau ac adnoddau\u2019r ysgol yn parhau i fod ar gael i\u2019r gymuned<\/b> er mwyn, er enghraifft, fod yn fan cyfarfod neu\u2019n ganolfan ar gyfer derbyn gwasanaethau lleol megis gwasanaeth llyfrgelloedd, mynediad i dechnoleg gwybodaeth ayb<\/li>\n<li>\u00a0 Arweiniad neu gefnogaeth y Cyngor i\u2019r gymuned er mwyn eu galluogi i <b>sefydlu mentrau cymdeithasol er budd y gymuned<\/b><\/li>\n<\/ul>\n<p>2.72 Gan ystyried paragraff 2.66 nid yw\u2019n bosibl i Gomisiynydd y Gymraeg wybod <b>beth allasai penderfyniad y Cyngor fod wedi bod pe bai wedi gweithredu yn unol a safonau\u2019r Gymraeg. Yr unig gasgliad y gellir dod iddo yw y gallasai\u2019r penderfyniad fod wedi bod yn wahanol i\u2019r un a wnaed.<\/b><\/p>\n<p>2.73 Yn sgil yr uchod, <b>yr wyf o\u2019r farn nad oedd yr Asesiad Effaith ar y Gymraeg yn ddigonol i gyflawni gofynion safonau 88, 89 a 90. Casglaf felly nad yw\u2019r Cyngor wedi gweithredu gofynion safonau 88, 89 a 90 wrth wneud ei benderfyniad polisi i gau<\/b><\/p>\n<p><b>YGG Felindre.<\/b> Nid yw\u2019r Cyngor wedi ystyried a nodi pa effeithiau y gall ei benderfyniad gael ar gyfleoedd i bersonau defnyddio\u2019r Gymraeg nag i beidio \u00e2 thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na\u2019r Saesneg. Nid ydynt ychwaith wedi ystyried sut y gallant wneud y penderfyniad fel ei fod yn cael effeithiau mwy positif, neu llai andwyol, ar gyfleoedd i bersonau defnyddio\u2019r Gymraeg, neu i beidio \u00e2 thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na\u2019r Saesneg.<\/p>\n<h4><b>Dyfarniad a fu methiant i gydymffurfio \u00e2 safon 88, 89 a 90 a\u2019i peidio<\/b><\/h4>\n<p>2.<b>74 Fy nyfarniad yw bod Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi methu \u00e2 chydymffurfio \u00e2 safonau 88, 89 a 90 yn yr achos yma ar y sail nad yw wedi gallu dangos ei fod wedi ystyried yn llawn yr effeithiau y byddai\u2019r penderfyniad i gau YGG Felindre yn eu cael ar gyfleoedd i bersonau ddefnyddio\u2019r Gymraeg, a pheidio \u00e2 thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na\u2019r Saesneg.\u00a0<\/b><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Sut mae rhywun i fod i deimlo pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gohirio ymgynghoriad megis y gwnaeth Cyngor Sir G\u00e2r yn ddiweddar yn achos ysgolion Blaenau a Mynydd y &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Anufudd-dod sifil awdurdodau lleol&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":20,"featured_media":1206,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1205","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Anufudd-dod sifil awdurdodau lleol - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Anufudd-dod sifil awdurdodau lleol - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Sut mae rhywun i fod i deimlo pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gohirio ymgynghoriad megis y gwnaeth Cyngor Sir G\u00e2r yn ddiweddar yn achos ysgolion Blaenau a Mynydd y &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Anufudd-dod sifil awdurdodau lleol&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-03-21T09:42:48+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-03-21T10:53:12+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/WhatsApp-Image-2021-03-20-at-15.39.19.jpeg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Angharad Dafis\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Angharad Dafis\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"18 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/\"},\"author\":{\"name\":\"Angharad Dafis\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9f76923ccbc42eba4a81dc6fa789ac2a\"},\"headline\":\"Anufudd-dod sifil awdurdodau lleol\",\"datePublished\":\"2021-03-21T09:42:48+00:00\",\"dateModified\":\"2021-03-21T10:53:12+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/\"},\"wordCount\":7901,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/WhatsApp-Image-2021-03-20-at-15.39.19.jpeg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/\",\"name\":\"Anufudd-dod sifil awdurdodau lleol - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/WhatsApp-Image-2021-03-20-at-15.39.19.jpeg\",\"datePublished\":\"2021-03-21T09:42:48+00:00\",\"dateModified\":\"2021-03-21T10:53:12+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/WhatsApp-Image-2021-03-20-at-15.39.19.jpeg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/WhatsApp-Image-2021-03-20-at-15.39.19.jpeg\",\"width\":1600,\"height\":1200},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Anufudd-dod sifil awdurdodau lleol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9f76923ccbc42eba4a81dc6fa789ac2a\",\"name\":\"Angharad Dafis\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Angharad Dafis\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/angharaddafis\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Anufudd-dod sifil awdurdodau lleol - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Anufudd-dod sifil awdurdodau lleol - undod","og_description":"Sut mae rhywun i fod i deimlo pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gohirio ymgynghoriad megis y gwnaeth Cyngor Sir G\u00e2r yn ddiweddar yn achos ysgolion Blaenau a Mynydd y &hellip; Parhau i ddarllen \"Anufudd-dod sifil awdurdodau lleol\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2021-03-21T09:42:48+00:00","article_modified_time":"2021-03-21T10:53:12+00:00","og_image":[{"width":1600,"height":1200,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/WhatsApp-Image-2021-03-20-at-15.39.19.jpeg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Angharad Dafis","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Angharad Dafis","Est. reading time":"18 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/"},"author":{"name":"Angharad Dafis","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9f76923ccbc42eba4a81dc6fa789ac2a"},"headline":"Anufudd-dod sifil awdurdodau lleol","datePublished":"2021-03-21T09:42:48+00:00","dateModified":"2021-03-21T10:53:12+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/"},"wordCount":7901,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/WhatsApp-Image-2021-03-20-at-15.39.19.jpeg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/","name":"Anufudd-dod sifil awdurdodau lleol - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/WhatsApp-Image-2021-03-20-at-15.39.19.jpeg","datePublished":"2021-03-21T09:42:48+00:00","dateModified":"2021-03-21T10:53:12+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/WhatsApp-Image-2021-03-20-at-15.39.19.jpeg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/WhatsApp-Image-2021-03-20-at-15.39.19.jpeg","width":1600,"height":1200},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/03\/21\/anufudd-dod-sifil-awdurdodau-lleol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Anufudd-dod sifil awdurdodau lleol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9f76923ccbc42eba4a81dc6fa789ac2a","name":"Angharad Dafis","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g","caption":"Angharad Dafis"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/angharaddafis\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1205","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/20"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1205"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1205\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1207,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1205\/revisions\/1207"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1206"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1205"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1205"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1205"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}