{"id":1240,"date":"2021-04-18T07:53:08","date_gmt":"2021-04-18T06:53:08","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1240"},"modified":"2021-04-25T13:37:06","modified_gmt":"2021-04-25T12:37:06","slug":"cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/","title":{"rendered":"Cam Nesaf Y Rhondda gan Leanne Wood \u2013 adolygiad"},"content":{"rendered":"<p><b>\u201cThe Welsh make and remake Wales day by day and year after year.\u00a0 If they want to.\u201d \u2013 Gwyn Alf Williams<\/b><\/p>\n<p>Beth yw sefyllfa sosialaeth yn y Gymru dymhestlog gyfoes?<\/p>\n<p>Cwestiwn amserol a ninnau ar drothwy etholiadau\u2019r Senedd.\u00a0 Oes yna, erbyn hyn, wleidyddion sy\u2019n ddiedifar sosialaidd?\u00a0 Os oes yna, sut fath o lwyfan sydd ganddyn nhw bellach?\u00a0 Ac os nad oes yna lwyfan cadarn, sut mae creu un o\u2019r newydd?<\/p>\n<p>Cyhoeddi dogfen Leanne Wood, sef <b>\u201cCam Nesaf y Rhondda\u201d<\/b> [1] sy\u2019n ysgogi meddwl am y cwestiynau hyn.\u00a0 Mae yn ei gosod ei hun yn ddiamwys yn\u00a0 nhraddodiad sosialaidd ei chymdogaeth ei hun, gan gyfeirio at \u201cThe Miner\u2019s Next Steps\u201d [2], pamffled a ysgrifennwyd yn y Rhondda yn 1912 yn dilyn helbul yn y meysydd glo.\u00a0 Ac yn yr un modd ag y gellir dweud fod y bamffled honno wedi cynnig datrysiadau lleol wedi ei seilio ar egwyddorion oedd yn berthnasol ymhobman tebyg, felly y gallwn ddehongli\u2019r ddogfen gyfoes.\u00a0 Mae\u2019n cynnig esiamplau o sut i fynd i\u2019r afael \u00e2 phroblemau lleol drwy ymarfer egwyddorion y mae modd eu gweithredu drwy Gymru gyfan.\u00a0 Egwyddorion sy\u2019n seiliedig ar gymuned, ar barch at bobl ac amgylchedd.\u00a0 O dan yr wyneb gallwn ddirnad cri o\u2019r galon am newid y drefn ormesol gyfoes lle mae penderfyniadau oddi uchod yn sigo cymunedau ar lawr gwlad.<\/p>\n<blockquote><p><b>\u201c&#8230;there is wealth only in people and in their land and seas\u201d \u2013 Raymond Williams<\/b><\/p><\/blockquote>\n<p>Gan mai dogfen i gydfynd \u00e2\u2019r etholiad i\u2019r Senedd ym mis Mai eleni yw hon, mae\u2019r ymadrodd\u00a0 <i>\u201cdyma fydd llywodraeth Plaid Cymru yn wneud\u201d<\/i> yn ymddangos yn gyson.\u00a0 Eto i gyd, gweledigaeth Leanne y sosialydd sydd yma, yn lifrai y Blaid a welodd yn dda i\u2019w disodli fel arweinydd.<\/p>\n<p>Cawn gynigion am yr hyn sydd ei angen i adfer y Rhondda yn dilyn Cofid, a hynny yng nghyd-destun degawdau o ddirywiad economaidd; llymder o du Llywodraeth San Steffan; llifogydd niferus y bu eu heffaith yn drychinebus oherwydd gwaddol y diwydiant glo (a sy\u2019n rhagflas o effeithiau newid hinsawdd); tan-fuddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd; ac anghyfartaledd sy\u2019n gwaethygu.<\/p>\n<p>Mae synnwyr cyffredin yn britho\u2019r ddogfen, gan ganolbwyntio yn benodol ar <i>\u201ciechyd a gofal cymdeithasol; ymdrin \u00e2\u2019n gwendid economaidd tymor\u2010hir; paratoi ein cymunedau ar gyfer newid hinsawdd a rhoi i\u2019n pobl y sgiliau sydd eu hangen\u201d.<\/i><\/p>\n<p>Gallwch ddarllen y manylion yn y drosoch <a href=\"https:\/\/d3n8a8pro7vhmx.cloudfront.net\/plaidrhondda\/pages\/1095\/attachments\/original\/1617027361\/Plaid_Cymru_Booklet-compressed.pdf?1617027361\">eich hunain<\/a>, ond efallai mai buddiol yma yw ystyried y teithi meddwl sy\u2019n sylfaen iddi.<\/p>\n<p>Yn y b\u00f4n, dadleuir mai hwyluso ac atgyfnerthu\u2019r lleol ddylai fod prif waith llywodraeth ganolog.\u00a0 Nid yn unig gwella isadeiledd materol (gan gynnwys tai, band eang, trafnidiaeth, ynni), ond hefyd yr isadeiledd cymdeithasol \u2013 addysg, incwm sylfaenol, celf, caffael lleol, cefnogaeth i rieni a gofalwyr.\u00a0 Drwy hyn, grymusir cymunedau lleol ar sawl lefel, a nid yr economaidd yn unig.<\/p>\n<p>Dadlennol yw\u2019r adran ar <i>\u201cSwyddi Cydweithredol \u2013 Rhondda Gyda\u2019n Gilydd\u201d<\/i>.\u00a0 Cyfeirir at enghreifftiau lle mae cydweithrediad lleol yn gweithio, a\u2019r awgrym clir yw y gall hyn fod yn fodel i\u2019w atgynhyrchu ledled Cymru<i>.\u00a0 \u201c Byddwn yn sefydlu cysylltiadau ffurfiol i ddysgu o fudiadau cydweithredol eraill seiliedig ar lefydd fel mudiad cydweithredol Mondragon <\/i><b><i>[3]<\/i><\/b><i> yng Ngwlad y Basg a Bro Ffestiniog <\/i><b><i>[4]<\/i><\/b><i> yng ngogledd Cymru, sy\u2019n cychwyn \u2019Mudiad Cymunedol Cymru\u2019 (MCC). Nod MCC yw dwyn ynghyd bobl a grwpiau cymunedol i ffurfio rhwydwaith o gymunedau diddordeb cydweithredol a chilyddol i rannu gwybodaeth, sgiliau ac adnoddau. Yn eu geiriau hwy, \u201cgweledigaeth MCC yw o Gymru sy\u2019n gymuned o gymunedau ffyniannus a chynaliadwy: datblygu yn integredig amgylchedd, economi, cymdeithas a diwylliant ein cymunedau\u201d. (Cwmni Bro Ffestiniog, 2020)\u201d<\/i><\/p>\n<p>Diweddariad o <b>\u201cCynllun Gwyrdd i\u2019r Cymoedd\u201d<\/b> [5] a gyhoeddwyd gan Leanne yn 2011 yw \u201cCam nesaf y Rhondda\u201d, heb gymaint o fanylder o reidrwydd gan mai dogfen ar gyfer etholiad ydyw.\u00a0 Yr adeg honno, \u2018roedd ar ei phrifiant ym Mhlaid Cymru, a hi oedd ymgeisydd llwyddiannus y Chwith am yr arweinyddiaeth yn 2012.\u00a0 A hithau, gellid tybio, mewn sefyllfa gref wrth i\u2019w phroffil godi yn dilyn ei pherfformiad yn ystod Etholiad Cyffredinol 2015, ac yna ennill sedd y Rhondda yn Etholiad y Cynulliad yn 2016,\u00a0 cyhoeddodd bamffled\u00a0 <b>\u201cY newid sydd ei angen\u201d<\/b> [6] yn 2017, sy\u2019n cynnig dadansoddiad ar lefel Cymru gyfan, a syniadau ar gyfer y dyfodol.\u00a0 Yr un egwyddor o ddatganoli grym a welwn yma hefyd: <i>\u201cDylai sosialaeth datganoledig fod yn ymarferiad democrataidd mewn tynnu grym gwleidyddol ac economaidd oddi wrth y corfforaethau rhyngwladol a\u2019r wladwriaeth ganoledig, gan ddod \u00e2 rheolaeth yn \u00f4l i\u2019r gymuned trwy ranberchnogaeth a democratiaeth leol.\u201d\u00a0 <\/i>Gwyddom mai ofer fu ei hymdrech i ddarbwyllo ei phlaid ei hun i gefnogi\u2019r weledigaeth yn y bamffled hon, a buan y dychwelodd y Blaid i\u2019r sefyllfa fwy cysurus o gael ei harwain gan ddyn mewn siwt.<\/p>\n<p>Dyma lle y dylwn ddatgan nad ydw i\u2019n ddiduedd \u2013 wedi cyfnod o ddadrithiad llwyr pan gefnogwyd Wylfa B gan Ieuan Wyn Jones, yr arweinydd ar y pryd, gadewais y Blaid, gan ail-ymuno pan ddaeth Leanne Wood yn arweinydd.\u00a0 Wedi iddi gael ei disodli, gadewais eto, gan na welwn unrhyw obaith i\u2019r agenda sosialaidd gael y llaw uchaf.\u00a0 Onid dyma\u2019r union sefyllfa sy\u2019n bodoli yn y Blaid Lafur yn dilyn dyrchafiad, tanseilio ac yna cael gwared o Corbyn fel arweinydd?\u00a0 Onid y dadrithiad am y rheswm hwn gyda\u2019r ddwy blaid sydd yn rhannol gyfrifol fod yna angen amlwg am fudiad fel Undod ar gyfer caredigion y chwith?\u00a0 Onid dyna pam mae yna gymaint o gwestiynu y dull sydd gennym o drefnu ein democratiaeth un-ochrog?<\/p>\n<p>Nid oes yna gartref cysurus i sosialydd o argyhoeddiad oddi fewn i Blaid Cymru na Llafur Cymru pan edrychwn ar gyfanrwydd eu gweithredoedd.<\/p>\n<p>Lle, felly, yn y Gymru gyfoes, mae hyn yn gosod Leanne Wood fel sosialydd mwyaf adnabyddus Cymru?<\/p>\n<p>Mae ei gyrfa hi yn y Cynulliad a\u2019r Senedd dros gyfnod di-dor ers 2003 yn dangos posibiliadau a chyfyngiadau sosialaeth yn y t\u0177 ar y tywod a roddwyd i Gymru yn dilyn pleidlais 1997 pan gafwyd trwch adain gwybedyn o fwyafrif yn cefnogi datganoli.<\/p>\n<blockquote><p><b>\u201cAeth cawell i chwilio am aderyn\u201d \u2013 Franz Kafka<\/b><\/p><\/blockquote>\n<p>Meddai Leanne yn y cyflwyniad i \u201cCam nesaf y Rhondda\u201d:<\/p>\n<p><i>\u201cMae\u2019n bryd unwaith eto i symud ymlaen o\u2019r arweinwyr blaenorol, i ddod o hyd i ffyrdd newydd o drefnu a rhedeg y cymunedau lle\u2019r ydym yn byw a\u2019r economi lleol sy\u2019n ein cynnal. Gallwn ein harwain ein hunain.\u201d<\/i><\/p>\n<p>A dyma sy\u2019n cloi\u2019r ddogfen:<\/p>\n<p><i>\u201cMae llawer o\u2019r mesurau a amlinellir yng \u2018Ngham Nesaf y Rhondda\u2019 yn galw am gefnogaeth gan lywodraeth leol a chenedlaethol. Hyd yn oed heb hynny, mae\u2019n rhoi patrwm o\u2019r hyn sydd angen ei wneud, gan adeiladu ar ein cryfderau a chynllunio at y dyfodol ar yr un pryd. Mae llawer y gallwn wneud drosom ein hunain, yn annibynnol. Gadewch i ni wneud hynny, gyda\u2019n gilydd.\u201d<\/i><\/p>\n<p>Onid y geiriau \u201chyd yn oed heb hynny\u201d sydd yn greiddiol?\u00a0 Y sylweddoliad mai ofer, dan ein trefn fiwrocrataidd, ferfaidd, farwaidd yw disgwyl gwelliannau gwirioneddol drawsnewidiol.\u00a0 Mai fframwaith sydd yn ei hanfod yn agored i lygredigaeth wleidyddol, foesol, ariannol ac amgylcheddol sydd gennym.\u00a0 Fframwaith sy\u2019n hawdd ei llywio i gyfeiriad neo-ryddfrydol a chyfalafol.\u00a0 Fframwaith sy\u2019n cuddio y tu \u00f4l i rethreg a geirfa gamarweiniol, sy\u2019n cyflwyno llymder fel polisi anorfod, sy\u2019n analluog i ymaflyd codwm yn effeithiol ag annhegwch cymdeithasol, iechyd, cartrefi, amgylchfyd ac yn creu bwgan o\u2019r arall.\u00a0 Fframwaith sy\u2019n ceisio cyflwyno cynlluniau mewn modd sy\u2019n awgrymu nad oes yna ddim dewis arall yn bosib \u2013 mewn meysydd mor wahanol a chau ysgolion gwledig a chefnogi\u2019r diwydiant arfau.<\/p>\n<p>Cyflyrwyd ein pobl i fod yn wleidyddol anllythrennog.\u00a0 Eu hymborth dyddiol yw gau gyfryngau sydd dan gesail yr elit rhyngwladol.\u00a0 Byd-olwg lle mae elw\u2019n frenin, a chenfigen a chasineb yn cael eu hyrwyddo i greu gelynion ffug.\u00a0 Yn rhy aml o lawer, caiff pobl dlawd eu perswadio mai pobl dlotach neu wahanol yw\u2019r gelyn, nid y cyfoethog.\u00a0 Dyna pam mai talcen caled yw hi i sosialwyr mewn unrhyw blaid seneddol, yn enwedig i arweinyddion \u2013 mae\u2019r pwysau arnynt i fod yn dawedog neu i fod yn \u2018gymedrol\u2019 ar faterion sy\u2019n groes i\u2019w daliadau yn aruthrol.\u00a0 Wrth gwrs eu daliadau hwy sydd yn gymedrol, o\u2019u cymharu \u00e2\u2019r bytheirio anghymedrol o\u2019r dde.\u00a0 Felly mae plaid yn gweld mai\u2019r gobaith gorau am lwyddiant mewn etholiad yw peidio ag ymddangos ormod i\u2019r chwith \u2013 er mwyn ceisio apelio at bobl nad ydynt yn gefnogwyr naturiol, gan obeithio ar yr un pryd y bydd y cefnogwyr naturiol yn fodlon derbyn y dacteg fel realpolitik anorfod.<\/p>\n<p>Cannwyll a ddiffoddwyd am y rhesymau hyn oedd arweinyddiaeth Leanne Wood.\u00a0 Eithr erys ei fflam sosialaidd i losgi \u2013 y cwestiwn iddi hi ei ystyried ydi ymhle mae\u2019r tanwydd i gynnau\u2019r t\u00e2n i gynhesu\u2019r t\u0177 a elwir Cymru?<\/p>\n<p>Ai cawell yw ei plaid iddi hi bellach?<\/p>\n<blockquote><p><b>\u201cRage, rage against the dying of the light\u201d \u2013 Dylan Thomas<\/b><\/p><\/blockquote>\n<p>Symud ar garlam tua\u2019r dde mae\u2019r Deyrnas Gyfunol, a Chymru yn cael ei hysgubo gan y cerrynt peryglus sy\u2019n bygwth ein hawliau sylfaenol, ein diogelwch, ein Gwasanaeth Iechyd, ein gallu i aros oddi fewn i\u2019n cymunedau, ac yn y pendraw ein hunaniaeth fel Cymru.<\/p>\n<p>Cysgod o gysgod gwan a welwn ni bellach o egwyddorion sosialaeth ym mholis\u00efau a gweithredoedd y prif bleidiau sy\u2019n ceisio ein darbwyllo eu bod ar y chwith yma.\u00a0 Neo-ryddfrydiaeth yw ffr\u00e2m wleidyddol Cymru, a mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru ill dau yn gweithredu mewn modd sy\u2019n dangos yn eglur eu bod yn gaeth i gyffur y bydolwg hwnnw lle mae nhw mewn grym \u2013 waeth sut mae eu rhethreg yn ceisio ein darbwyllo yn wahanol.\u00a0 Sut arall mae egluro y diffygion amlwg i amddiffyn ein pobl rhag rhaib cyfalafiaeth?\u00a0 A\u2019r croeso a roddwyd i rai o\u2019r enghreifftiau gwaethaf o\u2019r bwystfil?<\/p>\n<p>Gwlad sy\u2019n dal dan warchae gan haint, gwlad yn gwegian gan argyfwng cartrefi gwledig a threfol, gwlad sy\u2019n rhemp gan dlodi plant a gwlad sy\u2019n siglo wrth geisio deall sut i ymdrin \u00e2 hiliaeth a lleiafrifoedd o sawl math.<\/p>\n<p>Gwlad sy\u2019n llawn cymhlethdodau.<\/p>\n<p>Ac eto gwlad rhyfeddol ei photensial.\u00a0 Mae\u2019n gyforiog o adnoddau naturiol y gellir eu defnyddio i greu swyddi a gwella ansawdd bywyd heb ddifetha\u2019r amgylchfyd.\u00a0 Mae\u2019n gyforiog hefyd o adnoddau a thalentau dynol \u2013 a dagrau pethau ydi nad ydi\u2019r rhain ddim yn cael eu defnyddio i gyflawni mwy na bwydo y peiriant sy\u2019n eu llyncu, eu treulio, ac yna eu carthu i\u2019r domen.<\/p>\n<p>A hyn yn cael ei sgwennu yn ystod ymgyrch etholiadol ffyrnig yn y Rhondda lle mae Llafur Cymru bron a thorri ei bol eisiau adennill y sedd, a lle nad oes gan Leanne y sicrwydd o sedd ranbarthol wrth gefn, beth am geisio ateb fy nghwestiynau fy hun ar ddechrau hyn o lith?!<\/p>\n<p>Beth yw sefyllfa sosialaeth yn y Gymru dymhestlog gyfoes?\u00a0 Oddi fewn i\u2019n sustem wleidyddol ffurfiol ac yn wyneb y diffyg amlwg yn drafodaeth gyhoeddus ar y cyfryngau arferol\u2013 gwan.\u00a0 Y tu allan \u2013 yn fyw ac yn iach ond angen cyfeiriad eglur.<\/p>\n<p>Oes yna, erbyn hyn, wleidyddion sy\u2019n ddiedifar sosialaidd?\u00a0 Oes, a nid Leanne Wood yw\u2019r unig un.<\/p>\n<p>Sut fath o lwyfan sydd ganddyn nhw bellach?\u00a0 Cyfyngedig oddi fewn i\u2019r pleidiau blaenllaw.<\/p>\n<p>Ac os nad oes yna lwyfan cadarn, sut mae creu un o\u2019r newydd?\u00a0 Dyna, gyfeillion annwyl, eich tasg chi a minnau!\u00a0 Gallai datblygiad llwyddiannus Mudiad Cymunedol Cymru (un arall o syniadau Sel Wilias sy\u2019n aelod o Undod) fod yn un posibilrwydd.<\/p>\n<p>Un sylw pryfoclyd i gloi \u2013 a fyddai sosialaeth Cymru ar ei hennill gyda Leanne yn rhydd o lyffetheiriau cynrychioli plaid os caiff ei threchu yn y Rhondda?\u00a0 Gallai ei hawr dywyllaf droi yn wawr goch!!!\u00a0 Mae gwleidyddiaeth yn llawer mwy na\u2019r broses seneddol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>[1]<a href=\"https:\/\/d3n8a8pro7vhmx.cloudfront.net\/plaidrhondda\/pages\/1096\/attachments\/original\/1617029284\/Plaid_Cymru_Booklet_%28Welsh%29_%282%29-compressed.pdf?1617029284\"> https:\/\/d3n8a8pro7vhmx.cloudfront.net\/plaidrhondda\/pages\/1096\/attachments\/original\/1617029284\/Plaid_Cymru_Booklet_%28Welsh%29_%282%29-compressed.pdf?1617029284<\/a><\/p>\n<p>[2]<a href=\"https:\/\/www.library.wales\/digital-exhibitions-space\/digital-exhibitions\/europeana-rise-of-literacy\/political-and-radical-publications\/the-miners-next-step-being-a-suggested-scheme-for-the-reorganization-of-the-federation#?c=&amp;m=&amp;s=&amp;cv=&amp;xywh=-644%2C0%2C3473%2C2953\"> https:\/\/www.library.wales\/digital-exhibitions-space\/digital-exhibitions\/europeana-rise-of-literacy\/political-and-radical-publications\/the-miners-next-step-being-a-suggested-scheme-for-the-reorganization-of-the-federation#?c=&amp;m=&amp;s=&amp;cv=&amp;xywh=-644%2C0%2C3473%2C2953<\/a><\/p>\n<p>[3]<a href=\"https:\/\/www.mondragon-corporation.com\/en\/history\/\"> https:\/\/www.mondragon-corporation.com\/en\/history\/<\/a><\/p>\n<p>[4]<a href=\"http:\/\/cwmnibro.cymru\/\"> http:\/\/cwmnibro.cymru\/<\/a><\/p>\n<p>[5]<a href=\"https:\/\/d3n8a8pro7vhmx.cloudfront.net\/plaid2016\/pages\/1253\/attachments\/original\/1490103127\/Greenprint_PDF_final.pdf?1490103127\"> https:\/\/d3n8a8pro7vhmx.cloudfront.net\/plaid2016\/pages\/1253\/attachments\/original\/1490103127\/Greenprint_PDF_final.pdf?1490103127<\/a><\/p>\n<p>[6]<a href=\"https:\/\/d3n8a8pro7vhmx.cloudfront.net\/plaid2016\/pages\/7060\/attachments\/original\/1516013093\/NewidSyddAngen%28Cym%29_%282%29.pdf?1516013093\"> https:\/\/d3n8a8pro7vhmx.cloudfront.net\/plaid2016\/pages\/7060\/attachments\/original\/1516013093\/NewidSyddAngen%28Cym%29_%282%29.pdf?1516013093<\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cThe Welsh make and remake Wales day by day and year after year.\u00a0 If they want to.\u201d \u2013 Gwyn Alf Williams Beth yw sefyllfa sosialaeth yn y Gymru dymhestlog gyfoes? &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Cam Nesaf Y Rhondda gan Leanne Wood \u2013 adolygiad&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":14,"featured_media":1241,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[153,151,76,152],"class_list":["post-1240","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-cymoedd-y-de","tag-leanne-wood","tag-plaid-cymru","tag-south-wales-valleys","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cam Nesaf Y Rhondda gan Leanne Wood \u2013 adolygiad - undod<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Are there still politicians who are unrepentant socialists? Yes, and Leanne Wood is not the only one.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cam Nesaf Y Rhondda gan Leanne Wood \u2013 adolygiad - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"{:cy}Are there still politicians who are unrepentant socialists? Yes, and Leanne Wood is not the only one.{:}\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-04-18T06:53:08+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-04-25T12:37:06+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Screenshot-2021-04-18-at-07.39.32.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1191\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"691\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Robat Idris\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Robat Idris\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"17 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/\"},\"author\":{\"name\":\"Robat Idris\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\"},\"headline\":\"Cam Nesaf Y Rhondda gan Leanne Wood \u2013 adolygiad\",\"datePublished\":\"2021-04-18T06:53:08+00:00\",\"dateModified\":\"2021-04-25T12:37:06+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/\"},\"wordCount\":4084,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Screenshot-2021-04-18-at-07.39.32.png\",\"keywords\":[\"cymoedd y de\",\"Leanne Wood\",\"Plaid Cymru\",\"south Wales valleys\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/\",\"name\":\"Cam Nesaf Y Rhondda gan Leanne Wood \u2013 adolygiad - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Screenshot-2021-04-18-at-07.39.32.png\",\"datePublished\":\"2021-04-18T06:53:08+00:00\",\"dateModified\":\"2021-04-25T12:37:06+00:00\",\"description\":\"{:cy}Are there still politicians who are unrepentant socialists? Yes, and Leanne Wood is not the only one.{:}\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Screenshot-2021-04-18-at-07.39.32.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Screenshot-2021-04-18-at-07.39.32.png\",\"width\":1191,\"height\":691,\"caption\":\"Y Rhondda uchod \/ View of the the Rhondda from above\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cam Nesaf Y Rhondda gan Leanne Wood \u2013 adolygiad\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\",\"name\":\"Robat Idris\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Robat Idris\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cam Nesaf Y Rhondda gan Leanne Wood \u2013 adolygiad - undod","description":"Are there still politicians who are unrepentant socialists? Yes, and Leanne Wood is not the only one.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Cam Nesaf Y Rhondda gan Leanne Wood \u2013 adolygiad - undod","og_description":"{:cy}Are there still politicians who are unrepentant socialists? Yes, and Leanne Wood is not the only one.{:}","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2021-04-18T06:53:08+00:00","article_modified_time":"2021-04-25T12:37:06+00:00","og_image":[{"width":1191,"height":691,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Screenshot-2021-04-18-at-07.39.32.png","type":"image\/png"}],"author":"Robat Idris","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Robat Idris","Est. reading time":"17 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/"},"author":{"name":"Robat Idris","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91"},"headline":"Cam Nesaf Y Rhondda gan Leanne Wood \u2013 adolygiad","datePublished":"2021-04-18T06:53:08+00:00","dateModified":"2021-04-25T12:37:06+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/"},"wordCount":4084,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Screenshot-2021-04-18-at-07.39.32.png","keywords":["cymoedd y de","Leanne Wood","Plaid Cymru","south Wales valleys"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/","name":"Cam Nesaf Y Rhondda gan Leanne Wood \u2013 adolygiad - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Screenshot-2021-04-18-at-07.39.32.png","datePublished":"2021-04-18T06:53:08+00:00","dateModified":"2021-04-25T12:37:06+00:00","description":"{:cy}Are there still politicians who are unrepentant socialists? Yes, and Leanne Wood is not the only one.{:}","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Screenshot-2021-04-18-at-07.39.32.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Screenshot-2021-04-18-at-07.39.32.png","width":1191,"height":691,"caption":"Y Rhondda uchod \/ View of the the Rhondda from above"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/18\/cam-nesaf-y-rhondda-gan-leanne-wood-adolygiad\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cam Nesaf Y Rhondda gan Leanne Wood \u2013 adolygiad"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91","name":"Robat Idris","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","caption":"Robat Idris"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1240","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/14"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1240"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1240\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1247,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1240\/revisions\/1247"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1241"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1240"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1240"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1240"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}