{"id":1253,"date":"2021-05-03T16:10:03","date_gmt":"2021-05-03T15:10:03","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1253"},"modified":"2021-05-03T16:37:19","modified_gmt":"2021-05-03T15:37:19","slug":"sioned-williams","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/","title":{"rendered":"Sgwrs gyda Sioned Williams &#8211; &#8220;Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi&#8217;n dod o deulu gwleidyddol.&#8221;"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<blockquote><p>\u201cMae\u2019n allweddol bod y Chwith yn esbonio i\u2019w chefnogwyr fod pleidlais i Lafur i bob pwrpas yn wastraff pan ddaw at yr ail bleidlais.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Gyda\u2019r etholiad yn nesau, rydym wedi cymryd y cyfle i holi ambell un o\u2019r ymgeiswyr. Yn gyntaf dyma Sioned Williams, aelod Undod ac ymgeisydd Plaid Cymru.<\/p>\n<p><strong>Shwmae Sioned. Hoffech chi ddweud ychydig eiriau am bwy ydych chi, a phaham rydych chi&#8217;n ymwneud gyda gwleidyddiaeth?<\/strong><\/p>\n<p>Cefais fy magu yng nghymoedd Gwent, ac rwy\u2019n byw nawr gyda \u2018ng\u0175r Daniel a dau o blant yn eu harddegau yn yr Alltwen yng Nghwm Tawe yn etholaeth Castell-nedd. Rwy\u2019n gyn-newyddiadurwraig BBC Cymru, yn gweithio ar hyn o bryd fel Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, canolfan ragoriaeth i hyrwyddo dysgu ac ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol a led led de-orllewin Cymru. Mae fy ngwaith yn cynnwys trefnu digwyddiadau cyhoeddus a chyrsiau cymunedol ar hanes a diwylliant Cymru, a rheoli T\u0177\u2019r Gwrhyd ym Mhontardawe, hwb cymunedol sydd yn cefnogi siaradwyr Cymraeg a dysgwyr o bob oed. Rwy\u2019n Gynghorydd Cymuned dros yr Alltwen ac yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll. Wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe am bum mlynedd, rwy\u2019 nawr yn llywodraethwr yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur. Rwy\u2019 hefyd yn cyfrannu adolygiadau ac yn sylwebu\u2019n rheolaidd ar y celfyddydau a\u2019r cyfryngau i deledu, radio a chylchgronau Cymraeg.<\/p>\n<p>Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi&#8217;n dod o deulu gwleidyddol. O oedran ifanc, fe wnaeth fy rhieni, a oedd yn blant i lowyr, ennyn diddordeb brwd ynof mewn newyddion, materion cyfoes a diwylliant, ac angerdd dros degwch a chyfiawnder cymdeithasol. Ar ddwy ochr y teulu, safodd fy nghyndeidiau dros hawliau gweithwyr, hawliau menywod, a thros warchod yr iaith Gymraeg a\u2019n diwylliant. Roeddent yn perthyn i adain genedlaetholgar Gymreig y Blaid Lafur, er yn edmygwyr mawr o Aneurin Bevan (yn wir, roedd fe hen ewythr David Evans yn asiant i Bevan yn ei ymgyrch gyntaf i fod yn aelod seneddol). Byddai fy mamgu, a orfodwyd gan dlodi i adael yr ysgol ramadeg, yn ysgrifennu llythyrau at yr awdurdodau ar gyfer y rhai yn y stryd a oedd angen help. Mae&#8217;r ethos hwnnw o helpu pobl, o eiriol dros bobl, o herio\u2019r drefn, yn sicr yn un o&#8217;r rhesymau roeddwn i eisiau ymwneud \u00e2 gwleidyddiaeth.<\/p>\n<p>Roeddwn yn fy arddegau yn yr 1980au ac roedd Streic y Glowyr, yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear a&#8217;r ymgyrch i sefydlu S4C yn sicr yn nodweddion ffurfiannol o\u2019m ieuenctid. Ymunais \u00e2 Phlaid Cymru, er taw Llafurwyr cadarn oedd y mwyafrif o\u2019r teulu (byddai Mam yn pleidleisio Plaid \u2018er mwyn eu hatgoffa ein bod ni yma\u2019), gan fy mod yn teimlo bod tra-arglwyddiaeth Llafur yng nghymoedd Gwent lle cefais fy magu wedi dod yn hegemoni niweidiol, a oedd wedi colli cysylltiad \u00e2&#8217;r diwylliant a&#8217;r bobl yr oedd unwaith yn eu cynrychioli a\u2019u hamddiffyn. Ysbrydolwyd fy ngyrfa mewn newyddiaduraeth gan fy niddordeb yng Nghymru, profiadau a straeon ein pobl, a bywyd ein cenedl yn ei holl ffurfiau. Yn amlwg doedd dim modd cymryd r\u00f4l weithredol mewn gwleidyddiaeth bryd hynny yn sgil rheolau llym y Gorfforaeth!\u00a0 Mae gwleidyddiaeth yn sicr yn fwy o alwad na gyrfa i mi. Rwy\u2019 wedi cael gyrfa hir ac amrywiol yn barod ond yn gobeithio y bydd fy mhrofiadau bywyd a\u2019m sgiliau proffesiynol yn fy helpu i fod yn llais newydd cryf i Gastell-nedd yn lleol ac ar lwyfan cenedlaethol.<\/p>\n<p><strong>Ac allwch chi ddweud wrthym pam eich bod yn sefyll dros y Blaid? Yn eich barn chi, beth maen nhw&#8217;n ei gynnig i bobl yn eich cymuned chi?<\/strong><\/p>\n<p>Des i\u2019n aelod o Blaid Cymru ac yn ymgeisydd etholiad gan nad yw system wleidyddol bresennol y DG yn un sy&#8217;n sicrhau\u2019r dyfodol gorau &#8211; yn fwyaf teg a llewyrchus &#8211;\u00a0 i bobl Cymru. Bu Leanne Wood yn ddylanwad arnaf, o ran ei dycnwch a\u2019i chefnogaeth ymarferol. Yn lleol, Plaid Cymru yw\u2019r brif wrthblaid ar Gyngor Gastell-nedd Port Talbot ac mae\u2019r cynghorwyr yma yn gweithio\u2019n hynod o galed ac yn ymroddgar i\u2019w cymunedau. Mae esiampl rhai fel y Cynghorydd Alun Llewelyn, Ystalyfera ac arweinydd gr\u0175p Plaid Cymru ar y Cyngor, y Cynghorydd Linet Purcell, Pontardawe a\u2019r Cyngorydd Del Morgan, Glyn-nedd wedi fy ysbrydoli ers symud i\u2019r ardal hon.<\/p>\n<p>Mae\u2019r agwedd sydd wedi cael ei ddadlennu gan y recordiadau diweddar a ryddhawyd o gyn-arweinydd Llafur y Cyngor, Rob Jones, yn un sy\u2019n rhy gyffredin yn y Blaid Lafur yn anffodus &#8211; bod gwleidyddiaeth yn rhy aml am ddal gafael ar rym a thalu pwyth, yn hytrach na gwasanaethu pobl (er, nid trwyddi draw &#8211; \u2018mae rhai o fy nghyfeillion gorau\u2019 yn y Blaid Lafur!). Gan fod y Blaid Lafur mewn grym ar bob lefel &#8211; Cyngor Sir, Senedd a San Steffan &#8211; dros bobl fy nghymuned i,\u00a0 mae yna adegau pan fo diffyg her ac atebolrwydd yn broblem. Mae democratiaeth yn edwino yn y cymoedd, a\u2019r boblogaeth mewn peryg o symud at atebion y dde boblyddol. Dwi\u2019n credu bod dwy ysfa sylfaenol sy\u2019n gyrru ein gwleidyddiaeth ar hyn o bryd, yr hyn y mae Nancy Fraser yn eu disgrifio fel \u2018recognition\u2019 a \u2018redistribution\u2019. Yn ymarferol mae angen gweledigaeth a pholisiau wedi eu seilio ar degwch cymdeithasol, ac mae angen defnyddio awydd pobl i berthyn yn sail ar gyfer cryfhau ein cymunedau. Mae\u2019r adnoddau ar gyfer gwneud hyn yn y traddodiad radical Cymraeg, a Phlaid Cymru sydd yn cynrychioli y traddodiad hwnnw heddiw.<\/p>\n<p><strong>A oes unrhyw faterion penodol yr ydych yn angerddol iawn amdanynt, neu bolis\u00efau ym maniffesto&#8217;r Blaid yr ydych yn falch ohonynt ac a allai wneud gwahaniaeth penodol?<\/strong><\/p>\n<p>Fe gollais fy nhad chwe mlynedd yn \u00f4l i glefyd Alzheimer. Fe welais \u00e2\u2019m llygad fy hun pam fod cynllun Plaid Cymru i weithredu ar ddiwygio gofal cymdeithasol &#8211; wedi cyfnod llawer rhy hir o drafod &#8211; mor bwysig. Ni all neb ddadlau, yn sgil gwersi ofnadwy argyfwng Covid, yn erbyn cyfuno\u2019r gwasanaeth iechyd a gofal. Pan oedd fy nhad yn dioddef a\u2019m mam yn gofalu\u2019n llawn amser amdano, gwelais effaith gwasanaeth gofal cymdeithasol sydd wedi&#8217;i danariannu a\u2019i danbrisio ar fywydau a oedd eisoes mewn argyfwng, a sut y gwnaeth hynny ddwyshau gwewyr a phryder.<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Ni all neb ddadlau, yn sgil gwersi ofnadwy argyfwng Covid, yn erbyn cyfuno\u2019r gwasanaeth iechyd a gofal.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae gweledigaeth Plaid Cymru o gynnig gofal rhad ac am ddim a chyfartal i bawb pan fo\u2019i angen gyda phwyslais ar ymyrraeth gynnar i sicrhau bod pobl yn medru aros yn eu cymunedau a gweithwyr gofal yn cael eu gwerthfawrogi, eu hyfforddi a&#8217;u talu&#8217;n gyfartal \u00e2 staff y GIG, yn gam hanfodol i sicrhau mwy Cymru gofalgar. Byddai wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau fy rhieni, a miloedd eraill sy\u2019n canfod eu hun yn yr un sefyllfa.<\/p>\n<p><strong>Yn ogystal a bod yn ymgeisydd i etholaeth Castell-Nedd rydych chi ar y rhestr i&#8217;r rhanbarth de-orllewin Cymru; a fyddai modd ichi esbonio&#8217;n sydyn y pwysigrwydd o&#8217;r ail bleidlais yna, nid yn unig o safbwynt chi fel ymgeisydd Plaid, ond wrth ystyried y posibiliad o weld gwleidyddion Abolish, UKIP neu Reform yn cymryd eu lle yn y Senedd.<\/strong><\/p>\n<p>Dwi\u2019n poeni bod y system rhestr ranbarthol yn aneglur iawn i fwyafrif o bleidleiswyr ac felly mae ceisio esbonio sut i ddefnyddio\u2019r bleidlais i geisio sicrhau nad yw pleidiau\u2019r asgell Dde adweithiol yn cael lle yn y Senedd yn her. Byddwn i\u2019n hoffi gweld system cwbl gynrychioladwy fel y bleidlais sengl drosglwyddadwy ac un papur pleidleisio. Mae erthyglau fel<a href=\"https:\/\/nation.cymru\/opinion\/the-data-that-proves-that-a-list-vote-for-plaid-cymru-is-the-best-way-to-beat-abolish-in-every-region\/\"> un Math Wiliam yn Nation Cymru<\/a> yn ddefnyddiol wrth esbonio i bleidleiswyr pam fod pleidleisio i Blaid Cymru yn bwysig, yn enwedig cefnogwyr Llafur.<\/p>\n<p>Yr ail bleidlais fydd yn penderfynu a fydd y Dde adweithiol yn ein Senedd, ac yn \u00f4l pob tebyg yn pennu cryfder ac felly dylanwad Plaid Cymru. Mae\u2019n allweddol bod y Chwith yn esbonio i\u2019w chefnogwyr fod pleidlais i Lafur i bob pwrpas yn wastraff pan ddaw at yr ail bleidlais. Hoffwn weld y Gwyrddion yn cael cynrychiolaeth yn ein Senedd. Ond mae\u2019n anodd gweld ar hyn o bryd sut y gellir gwneud hynny heb effeithio yn negyddol ar Blaid Cymru. Felly \u2018dwy groes\u2019 i\u2019r Blaid yw fy annogaeth y tro hwn.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-1258\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/sioned-williams2.jpg\" alt=\"\" width=\"1076\" height=\"559\" \/><\/p>\n<p><strong>I ba raddau ydych chi&#8217;n meddwl bod mater annibyniaeth yn un sy&#8217;n dal dychymyg y pleidleiswyr rydych chi wedi bod yn siarad \u00e2 nhw? A ydych o dan yr argraff bod hyn yn rhywbeth a allai ddylanwadu ar eu pleidlais neu a ydych o&#8217;r farn bod pobl yn meddwl am faterion mwy traddodiadol, neu fod y pandemig yn cymryd sylw pawb?<\/strong><\/p>\n<p>Does dim dwywaith bod pleidleiswyr yn cytuno bod Cymru wedi delio gyda&#8217;r pandemig mewn ffordd fwy effeithiol na Llywodraeth San Steffan, ac mae nifer wedi s\u00f4n wrtha i ar y stepyn drws, gan gynnwys pleidleiswyr Llafur, bod annibynniaeth i Gymru nawr yn opsiwn credadwy, ac mewn barn nifer, yn ddeniadol,\u00a0 gan ei fod yn gliriach i lawer o bobl nawr mai pedair cenedl, gyda natur ac anghenion gwahanol, yw\u2019r Deyrnas Gyfunol, nid un.<\/p>\n<blockquote><p>\u201cMae nifer wedi s\u00f4n wrtha i ar y stepyn drws, gan gynnwys pleidleiswyr Llafur, bod annibynniaeth i Gymru nawr yn opsiwn credadwy.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae nifer hefyd yn mynegi pryderon am yr hyn y maen nhw\u2019n meddwl fydd yn digwydd, y bydd annibynniaeth yn digwydd yfory os bydd Plaid Cymru yn cael ei hethol i lywodraeth ar 6 Mai. Mae yna rannau o etholaeth Castell-nedd sy\u2019n hanfodol Doriaidd ond yn cefnogi Plaid Cymru ar lefel cyngor. Mae annibyniaeth yn eu gyrru oddi wrthym ni, ond credaf fod modd cynnal ein hap\u00eal i&#8217;r etholaeth honno drwy apelio at hunan-ddibyniaeth unigol a chymunedol. Ar yr un pryd mae wedi tanio\u2019r ifanc, ac o ran creu mudiad radical a pholisiau blaengar, mae\u2019r to newydd yn rhoi sail llawer cryfach i\u2019m math i o wleiddyddiaeth.<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;[Mae] ymddygiad Boris Johnson a\u2019i lywodraeth wedi profi nad yw Cymru yn flaenoriaeth i San Steffan. Does dim angen i fi wneud y ddadl honno bellach.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae yna gytundeb ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn yr etholaeth bod ymddygiad Boris Johnson a\u2019i lywodraeth wedi profi nad yw Cymru yn flaenoriaeth i San Steffan. Does dim angen i fi wneud y ddadl honno bellach. Mae pobl hefyd yn deall bod y status quo yn anfoddhaol ac yn gweld bod yr Alban yn debygol o fynd yn annibynnol o fewn y pum mlynedd nesaf, felly\u2019n gweld bod angen i ni ddechrau ystyried pa fath o ffr\u00e2m wladwriaethol fyddai\u2019n elwa Cymru orau. Mae cefnogwyr Llafur fel pe baent yn gynyddol ymwybodol o hyn, ac yn ystyried cefnogi Plaid Cymru o\u2019r herwydd.\u00a0 Er bod yna werthfawrogiad o\u2019r ffaith i Gymru ddilyn trywydd mwy gofalus o ran delio gyda Covid, rhaid cofio hefyd bod Castell-nedd Port Talbot yn un o&#8217;r pum sir yng Nghymru sydd yn y chwe ardal o\u2019r DG a welodd y cyfraddau marwolaeth uchaf. Mae arbenigwyr a newyddiadurwyr fel Will Hayward wedi dweud mai lefelau annerbyniol o dlodi, lefelau uchel o afiechydion, a rhai o gamgymeriadau Llywodraeth Cymru a arweiniodd at hyn.\u00a0 Byddwn yn tynnu sylw yn benodol at y taliad annigonol a gynnigwyd i gefnogi\u2019r rhai a oedd angen hunan-ynysu.<\/p>\n<p>Felly, er taw\u2019r economi yn sicr yw\u2019r prif destun trafod, a chymunedau sydd wedi gweld dirywiad cyson a diffyg gofal dros y degawdau ers Datganoli yn pryderu\u2019n fawr am sut y bydd effaith economaidd Covid yn eu hamddifadu ymhellach, mae yna gyswllt pendant rhwng anghyfartaledd cymdeithasol ac effaith andwyol y pandemig. Ac yn hynny o beth mae trafod beth all ddatrys y lefelau annerbyniol o dlodi a diffyg cyfleon economaidd yn gwbl gysylltiedig \u00e2 thrafod annibyniaeth. Fel ymgeisydd yng Nghastell-nedd does dim amheuaeth gen i y gall adfywiad economaidd a diwylliannol ein hardaloedd \u00f4l-ddiwydiannol ond ddigwydd pan feddyliwn o fewn ffr\u00e2m Gymreig ac o fewn prosiect adfywio a grymuso cenedlaethol. Wrth drafod posibiliadau annibynniaeth, mae Plaid Cymru yn llunio gwrth-naratif pwerus i&#8217;r pleidiau Unoliaethol, ac nid syllu ar ein bogel yw hyn ar gyfnod o argyfwng ond cyflwyno gweledigaeth sy&#8217;n grymuso ein cymunedau ar adeg pan fo hynny\u2019n gwbl allweddol\u00a0 &#8211; yn fater o fywyd neu farwolaeth &#8211; ac yn agor Cymru i&#8217;r byd. Mae\u2019r mantra ynghylch gweithredu yn lleol tra\u2019n meddwl yn ryng-genedlaethol dal i fod yn hollol berthnasol. Gallaf argymell cyfrol Anatol Lieven, <i>Climate Change and the Nation State<\/i> i aelodau Undod gan ei fod yn cysylltu\u2019r ddadl dros annibyniaeth gwledydd bychan gyda\u2019r ymgyrch amgylcheddol i achub ein planed.<\/p>\n<p><strong>A oes pobl benodol, enwog neu fel arall, sydd wedi eich ysbrydoli yn eich ymgyrchu gwleidyddol hyd yn hyn, a pham?<\/strong><\/p>\n<p>Wnes i ddim dod yn weithgar yn y Blaid mewn gwirionedd nes i Leanne Wood ddod yn arweinydd &#8211; mae ei gweledigaeth wleidyddol o ymgyrchu llawr gwlad a gwleidyddiaeth gymunedol yn cydseinio gyda\u2019m gweledigaeth i, a\u2019i hesiampl fel lladmerydd diflino dros ei chymuned yn un a wnaeth fy ysbrydoli.\u00a0 Ar \u00f4l i Leanne gael ei hethol yn arweinydd y dechreuais wir symud o fod yn aelod ac yn gefnogwr i fod yn actifydd ac yn ymgyrchydd. Mae Alexandria Ocasio-Cortez hefyd yn arwr. Rwy\u2019n cytuno gyda hi nad yw gwleidyddiaeth y canol yn ddigonol bellach ac rwy\u2019n rhannu ei barn bod sosialaeth ddemocrataidd &#8211; sydd wrth wraidd gweledigaeth Plaid Cymru &#8211; yn ymwneud \u00e2 gwarantu lefel o urddas. O s\u00f4n am y canol, roedd fy mab Dewi yn ffrindiau a mab y gwleidydd Americanaidd Juliette Kayyem tra roeddem yn byw am chwe mis yn Boston (2012). Fe fu hi yn \u2018U.S. Assistant Secretary of Homeland Security for Intergovernmemntal Affairs\u2019 yn llywodraeth Barack Obama, ac er nad ydw i\u2019n cytuno \u00e2\u2019i barn ar bolisi tramor a\u2019r fyddin, mae\u2019n fenyw ryfeddol y cefais y pleser o\u2019i chwmni sawl tro, gan gynnwys cyfweliad i gylchgrawn <i>Barn<\/i>.<\/p>\n<p>I fi yn bersonol, polis\u00efau uchelgeisiol Plaid Cymru i greu Cymru mwy cyfartal, mwy cyfiawn yw\u2019r rheswm pam fy mod i&#8217;n ymgeisydd. Rwy\u2019n gobeithio bod yn rhan o genhedlaeth o fenywod o fewn y mudiad celedaethol\u00a0 &#8211; Leanne, Carrie Harper, Delyth Jewell, Heledd Fychan \u2013 a fydd yn bywiogi ein gwleidyddiaeth ac yn dyfnhau democratiaeth Cymru.<\/p>\n<p><strong>Beth yw eich hoff ddigwyddiad neu ddigwyddiad mwyaf cofiadwy yn ystod yr ymgyrch mor belled?<\/strong><\/p>\n<p>Yn anffodus, gwta tair wythnos o ymgyrch \u2018byw\u2019 sydd wedi bod yn sgil y cyfyngiadau Covid, ac elfennau arferol yr ymgyrch\u00a0 &#8211; cyfarfodydd cyhoeddus, digwyddiadau codi arian, misoedd o gnociau drysau a stondinau canol tref heb fedru digwydd yn anffodus. Ond digwyddiad mwyaf cofiadwy yr ymgyrch heb os oedd hystings rhithiol gyda disgyblion y Chweched yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur. Rwy\u2019n riant-lywodraethwr yn yr ysgol ac roeddwn mor falch o\u2019r cwestiynau treiddgar a gyflwynwyd gan y disgyblion a\u2019r modd y llwyddon nhw ddatod dadl ambell un ar y panel &#8211; yn enwedig ar bwnc Annibyniaeth i Gymru!<\/p>\n<p><strong><i>Mae Undod wedi gwahodd nifer o ymgeiswyr sosialaidd o sawl plaid sydd yn sefyll yn yr etholiad i gymryd rhan yn y fformat cyfweliad hwn, ac bydd mwy yn cael eu cyhoeddi yn y dyddiad nesaf.<\/i><\/strong><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cMae\u2019n allweddol bod y Chwith yn esbonio i\u2019w chefnogwyr fod pleidlais i Lafur i bob pwrpas yn wastraff pan ddaw at yr ail bleidlais.\u201d Gyda\u2019r etholiad yn nesau, rydym wedi &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Sgwrs gyda Sioned Williams &#8211; &#8220;Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi&#8217;n dod o deulu gwleidyddol.&#8221;&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":1257,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[119,6],"tags":[76,154],"class_list":["post-1253","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyfweliadau","category-erthyglau","tag-plaid-cymru","tag-senedd2021","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Sgwrs gyda Sioned Williams - &quot;Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi&#039;n dod o deulu gwleidyddol.&quot; - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Sgwrs gyda Sioned Williams - &quot;Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi&#039;n dod o deulu gwleidyddol.&quot; - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"\u201cMae\u2019n allweddol bod y Chwith yn esbonio i\u2019w chefnogwyr fod pleidlais i Lafur i bob pwrpas yn wastraff pan ddaw at yr ail bleidlais.\u201d Gyda\u2019r etholiad yn nesau, rydym wedi &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Sgwrs gyda Sioned Williams &#8211; &#8220;Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi&#8217;n dod o deulu gwleidyddol.&#8221;&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-05-03T15:10:03+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-05-03T15:37:19+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/sioned-williams1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1280\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"853\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Gohebydd\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Gohebydd\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"11 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/\"},\"author\":{\"name\":\"Gohebydd\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\"},\"headline\":\"Sgwrs gyda Sioned Williams &#8211; &#8220;Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi&#8217;n dod o deulu gwleidyddol.&#8221;\",\"datePublished\":\"2021-05-03T15:10:03+00:00\",\"dateModified\":\"2021-05-03T15:37:19+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/\"},\"wordCount\":5078,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/sioned-williams1.jpg\",\"keywords\":[\"Plaid Cymru\",\"Senedd2021\"],\"articleSection\":[\"Cyfweliadau\",\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/\",\"name\":\"Sgwrs gyda Sioned Williams - \\\"Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi'n dod o deulu gwleidyddol.\\\" - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/sioned-williams1.jpg\",\"datePublished\":\"2021-05-03T15:10:03+00:00\",\"dateModified\":\"2021-05-03T15:37:19+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/sioned-williams1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/sioned-williams1.jpg\",\"width\":1280,\"height\":853},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Sgwrs gyda Sioned Williams &#8211; &#8220;Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi&#8217;n dod o deulu gwleidyddol.&#8221;\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\",\"name\":\"Gohebydd\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Gohebydd\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Sgwrs gyda Sioned Williams - \"Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi'n dod o deulu gwleidyddol.\" - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Sgwrs gyda Sioned Williams - \"Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi'n dod o deulu gwleidyddol.\" - undod","og_description":"\u201cMae\u2019n allweddol bod y Chwith yn esbonio i\u2019w chefnogwyr fod pleidlais i Lafur i bob pwrpas yn wastraff pan ddaw at yr ail bleidlais.\u201d Gyda\u2019r etholiad yn nesau, rydym wedi &hellip; Parhau i ddarllen \"Sgwrs gyda Sioned Williams &#8211; &#8220;Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi&#8217;n dod o deulu gwleidyddol.&#8221;\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2021-05-03T15:10:03+00:00","article_modified_time":"2021-05-03T15:37:19+00:00","og_image":[{"width":1280,"height":853,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/sioned-williams1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Gohebydd","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Gohebydd","Est. reading time":"11 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/"},"author":{"name":"Gohebydd","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538"},"headline":"Sgwrs gyda Sioned Williams &#8211; &#8220;Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi&#8217;n dod o deulu gwleidyddol.&#8221;","datePublished":"2021-05-03T15:10:03+00:00","dateModified":"2021-05-03T15:37:19+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/"},"wordCount":5078,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/sioned-williams1.jpg","keywords":["Plaid Cymru","Senedd2021"],"articleSection":["Cyfweliadau","Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/","name":"Sgwrs gyda Sioned Williams - \"Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi'n dod o deulu gwleidyddol.\" - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/sioned-williams1.jpg","datePublished":"2021-05-03T15:10:03+00:00","dateModified":"2021-05-03T15:37:19+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/sioned-williams1.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/sioned-williams1.jpg","width":1280,"height":853},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/03\/sioned-williams\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Sgwrs gyda Sioned Williams &#8211; &#8220;Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi&#8217;n dod o deulu gwleidyddol.&#8221;"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538","name":"Gohebydd","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","caption":"Gohebydd"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1253","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1253"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1253\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1264,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1253\/revisions\/1264"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1257"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1253"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1253"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1253"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}