{"id":1265,"date":"2021-05-04T16:40:26","date_gmt":"2021-05-04T15:40:26","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1265"},"modified":"2021-05-04T23:11:02","modified_gmt":"2021-05-04T22:11:02","slug":"abolish","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/04\/abolish\/","title":{"rendered":"Y Trafferth gydag Abolish"},"content":{"rendered":"<p>Digwyddiad mwyaf digalon yr ymgyrch etholiadol i mi oedd derbyn darn o &#8216;lenyddiaeth&#8217; Abolish\u00a0drwy ein blwch post. Taflen oedd hi yn galw am ddiddymu&#8217;r Senedd ar sail y ffaith ei bod yn hyrwyddo addysg rhyw i blant.<\/p>\n<p>Yn ogystal ag amlygu hyblygrwydd ymgyrch &#8216;un pwnc&#8217; Abolish, cadarnhaodd bod eu gwleidyddiaeth o\u2019r math gwaethaf un o boblyddiaeth wenwynig, yr ydym wedi hen arfer a hi erbyn hyn. Wedi gwylio rhaglenni dogfen yn ddiweddar ar y sgandal cam-drin plant mewn p\u00eal-droed, a&#8217;r athro John Owen, rhywbeth arall a ddaeth i\u2019r meddwl oedd pwy yn union sy\u2019n gallu elwa o\u2019r math yna o ddiffyg addysg.<\/p>\n<p>Rhywbeth arall a ddaeth i\u2019r meddwl oedd yr <a href=\"https:\/\/twitter.com\/cwlcymro\/status\/1379547743199301636\">expose<\/a> ar Twitter\u00a0fis diwethaf gan un enaid dewr a oedd wedi carthu dyfnderoedd gr\u0175p facebook preifat y blaid. Islamoffobia, damcaniaethau lu o gynllwynio, a Cymroffobia hefyd, oll yn cadarnhau&#8217;r ffaith amlwg bod y blaid hon yn gyrchfan i lawer un a roddodd eu pleidlais i UKIP o&#8217;r blaen.<\/p>\n<p>Tystiolaeth digwestiwn o&#8217;r mudo hwn wrth gwrs oedd ymaelodi y cyn AS UKIP Mark Reckless gyda\u2019r blaid, a atododd ei hun megis gelen i&#8217;r corff hwnnw oedd fwyaf tebyg o gynnal bodolaeth barasitaidd yn y Senedd.<\/p>\n<p><strong>Gwrth-Senedd = Gwrth-Gymreig<\/strong><\/p>\n<p>Er mor hawdd yw deall sut gall plaid o&#8217;r fath ddenu cymeriad fel <a href=\"https:\/\/www.voice.wales\/slave-labour-church-rehab-programme-ran-by-brexit-party-candidate-victims-claim\/\">Richard Taylor<\/a>, anos ydyw ei gysylltu gyda\u2019u dau ymgeisydd sydd fwyaf tebygol o gael eu hethol all fod wedi cerdded oddi ar set Mary Poppins: eu harweinydd Richard Suchrzewski, &#8220;dyn busnes&#8221; os welwyd un erioed, a\u2019r famol <a href=\"https:\/\/youtu.be\/aWT4LjJoWGw\">Claire Mills<\/a>. Yn wir, wrth dreulio dim ond ychydig amser yn gwrando arnynt mae rhywun yn ymwybodol o\u2019r gwahaniaethau gyda rhannau eraill o&#8217;r dde galed, eu cymeriad pob dydd, a hefyd natur eu bygythiad.<\/p>\n<p>Yn benodol, maent yn canolbwyntio ar y syniad bod y Senedd ynddo&#8217;i hun yn wastraff arian ac yn haen diangen o ddemocratiaeth. Mae&#8217;r rhain yn negeseuon pragmatig sydd ag apel digon naturiol, er gwaethaf eu seiliau ffug (pam bo\u2019r Senedd yn ei hanfod yn fwy diangen, neu\u2019n fwy o wastraff arian na San Steffan neu&#8217;ch awdurdod lleol&#8230; ?), bydd yna atyniad greddfol i rai, a gallant ymddangos yn ddigon rhesymol \u2013 heb fod mewn unrhyw ffordd ynghlwm wrth ddadleuon o&#8217;r dde galed.<\/p>\n<p>Ac eithrio\u2019r ffaith, wrth gwrs, bod awgrymu bod Senedd i Gymru yn haen diangen o fiwrocratiaeth ynddo\u2019i hun yn safbwynt rhagfarnllyd a chul, gan ei fod yn awgrymu mai nid cenedl mo pobl Cymru, gyda mathau nodedig o fywyd: hynny yw, nad yw\u2019r sail traddodiadol er mwyn hawlio hunanlywodraeth yn perthyn inni. Beth fyddai ymateb Prydain wedi bod yng nghyd-destun dadl refferendwm yr UE, pe bai&#8217;r Almaenwyr wedi awgrymu mai biwrocratiaeth ddiangen yn unig oedd San Steffan?<\/p>\n<p>Mynegir y rhagfarn hon yn aml gyda\u2019r enghraifft mae Suchorzewski yn cyfeirio ati fwyaf aml wrth gwyno am y Senedd afrad: sef y gwastraff a bwrn hwnnw, <a href=\"https:\/\/centrefor.wales\/2021\/03\/09\/richard-suchorzewski-i-call-on-all-the-people-of-wales-to-put-country-before-party\/\">y Gymraeg<\/a>. Y mae\u2019r iaith &#8211; a oedd yn sail sylfaenol yn ffurfiant y bobl y mae&#8217;n falch i fod yn un ohonynt &#8211; yn faich arno, rhywbeth na ddylai hyd yn oed gorfod ei weld.<\/p>\n<p>Dyma yn y pen draw mynegiant mewnol o&#8217;r hunaniaeth Eingl-Brydeinig, a fynegodd ei natur waharddol (exclusionary)\u00a0i&#8217;r byd y tu allan yn ystod refferendwm yr UE. Yn y cyd-destun hwnnw gwelwyd hiliaeth agored a senoffobia yn erbyn lleiafrifoedd a mewnfudwyr; yn y cyd-destun hwn mae&#8217;n gwadu bod hunaniaeth Gymreig yn unrhyw beth mwy na hunaniaeth ranbarthol, Eingl-Brydeinig.<\/p>\n<p>Gwaetha\u2019r modd, bydd yna wastad etholaeth y gellir apelio ati gyda\u2019r agwedd hon, ac ar ben hynny mae hinsawdd wleidyddol y degawd diwethaf wedi&#8217;i dilysu a&#8217;i chryfhau mewn ffordd sy&#8217;n ei gwneud yn hawdd i Abolish\u00a0fanteisio arno. Mae gwrth-Gymreictod yn un mynegiant o&#8217;r cenedlaetholdeb Prydeinig gwenwynig sydd wedi bwrw gwreiddiau gwydn, ac o weld y gefnogaeth sydd i&#8217;r Tor\u00efaid, y mae yma i aros.<\/p>\n<p><strong>Ymateb o&#8217;r Chwith<\/strong><\/p>\n<p>O ystyried hyn i gyd, ac wrth gwrs BBC a chyfryngau Prydeinig prif ffrwd sydd yn fwy na pharod i gofleidio gwleidyddiaeth Abolish, mae angen ymateb o ddifri. Mewn rhai ffyrdd, mae&#8217;r diffyg cydweithio ymddangosiadol rhwng Llafur, Plaid Cymru a&#8217;r Gwyrddion \u2013 y bydd pob un ohonynt ar eu colled os bydd ymgyrch Abolish yn tycio \u2013 yn ategu honiadau Reckless a\u2019r criw; nid yw ein gwleidyddion yn ymddangos yn abl i dderbyn yr her.<\/p>\n<p>Yn benodol, mater o anobaith yw&#8217;r methiant i ddwyn ynghyd ymgyrch buasai\u2019n fuddiol i\u2019r tair plaid (y gellid bod wedi&#8217;i rhedeg yn answyddogol yn weddol didrafferth) i warafun y cyfle i Abolish ennill sedd trwy\u2019r ail bleidlais. Rhaid i Lafur, fel y prif blaid, ysgwyddo&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;r bai, ond nid yw agwedd gwbl wrthwynebus Plaid Cymru &#8211; sy&#8217;n niweidiol i&#8217;w cyfleoedd nhw eu hun yn y pen draw &#8211; wedi bod yn rhyw lawer o help chwaith.<\/p>\n<p>Mae rhywun yn gobeithio bod llu o bleidleiswyr Llafur yn ddigon synhwyrol i <a href=\"https:\/\/nation.cymru\/opinion\/the-data-that-proves-that-a-list-vote-for-plaid-cymru-is-the-best-way-to-beat-abolish-in-every-region\/\">ddilyn y cyngor<\/a>, pwyso a mesur, a phleidleisio dros Blaid Cymru gyda&#8217;u hail bleidlais \u2013 neu&#8217;r Gwyrddion yng Nghanolbarth Cymru. Cyd-ddigwyddiad hapus yw hi bod niferoedd y dde galed yn y Senedd yn mynd i fod yn is y tro hwn oherwydd rhannu\u2019r bleidlais rhywfaint rhwng Abolish, Reform ac UKIP &#8211; yn hytrach nag unrhyw wleidydda deallus ar ran y chwith.<\/p>\n<p>A rhaid inni beidio \u00e2 bod yn na\u00eff; bydd y rhai a fydd yn cael eu hethol geffyl stelcio ar gyfer adain &#8216;diddymu&#8217; y blaid Dor\u00efaidd, un sy\u2019n cynnwys mwyafrif eu pleidleiswyr. Byddwn yn dilyn yr un patrwm ag UKIP a&#8217;r UE wrth gwrs, ac os oes unrhyw awgrym y gallai&#8217;r bolisi hon arwain at fwy o lwyddiant dros amser, bydd y Tor\u00efaid yn falch o&#8217;i chroesawu. Fel y mae&#8217;r ymchwydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth wedi dangos, nid yw\u2019r <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/politics\/senedd-election-abolish-assembly-wales-20333673\">19%<\/a>\u00a0sydd o blaid diddymu\u2019r Senedd yn sylfaen isel i ddechrau arni.<\/p>\n<p>Un agwedd ddiddorol ar y ffigur hwnnw yw sut y mae&#8217;n gwahaniaethu yn \u00f4l dosbarth cymdeithasol a rhyw, gyda dim ond 1 o bob 6 menyw ac 1 o bob 6 o&#8217;r dosbarthiadau cymdeithasol llai llewyrchus (C2DEs) yn cefnogi &#8216;diddymu&#8217;, o&#8217;i gymharu \u00e2 bron i 1 o bob 4 dyn ac 1 o bob 4 o&#8217;r ABC1s mwy llewyrchus. Mae hyn yn awgrymu bod ap\u00eal y Senedd yn fwy greddfol ymysg y rhai sy&#8217;n draddodiadol ochri gyda chwith y sbectrwm gwleidyddol, a dylai cynnig anogaeth i bleidiau&#8217;r dosbarthiadau gweithiol.<\/p>\n<p>Ac eto, o safbwynt y Senedd mae\u2019n ddilys gofyn, a oes yna blaid o&#8217;r fath yn bodoli yno erbyn hyn. Mae Llafur wedi dangos nad ydynt yn deilwng o chwifio&#8217;r faner dros y sefydliad, yn anad dim am nad ydynt wedi gwneud fawr o ddim i\u2019w hyrwyddo a mynd \u00a0i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r diffyg gwybodaeth sy&#8217;n wynebu&#8217;r etholwyr, ond yn fwy cyffredinol oherwydd eu bod yn gweinyddu llymder a neoryddfrydiaeth ar lefel genedlaethol a lleol.<\/p>\n<p>Gallasai Plaid Cymru, wrth gwrs, datblygu i fod yn blaid i\u2019r bobl, yn gyfrwng i fudiad cenedlaethol sy&#8217;n gwasanaethu&#8217;r dosbarthiadau gweithiol ac yn sicrhau bodolaeth y Senedd am byth, gan ddisodli cenedlaetholdeb meddal, dau-wynebog Llafur, gyda hunaniaeth Gymreig flaengar sy&#8217;n wirioneddol eangfrydig.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae hyn yn gofyn am fath newydd o wleidyddiaeth, un sydd yno yn ein traddodiadau gorau, ond nad sydd eto wedi dod i&#8217;r amlwg. Dyma, wrth gwrs, y mae&#8217;n rhaid i&#8217;r sawl sy\u2019n ymwrthod yn erbyn gwleidyddiaeth bleidiol ei adeiladu yn awr.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Digwyddiad mwyaf digalon yr ymgyrch etholiadol i mi oedd derbyn darn o &#8216;lenyddiaeth&#8217; Abolish\u00a0drwy ein blwch post. Taflen oedd hi yn galw am ddiddymu&#8217;r Senedd ar sail y ffaith ei &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/04\/abolish\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Y Trafferth gydag Abolish&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":840,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[154],"class_list":["post-1265","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-senedd2021","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Y Trafferth gydag Abolish - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Y Trafferth gydag Abolish - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Digwyddiad mwyaf digalon yr ymgyrch etholiadol i mi oedd derbyn darn o &#8216;lenyddiaeth&#8217; Abolish\u00a0drwy ein blwch post. Taflen oedd hi yn galw am ddiddymu&#8217;r Senedd ar sail y ffaith ei &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Y Trafferth gydag Abolish&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/04\/abolish\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-05-04T15:40:26+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-05-04T22:11:02+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/cymru-nasa.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"615\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"927\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Huw Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Huw Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/\"},\"author\":{\"name\":\"Huw Williams\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\"},\"headline\":\"Y Trafferth gydag Abolish\",\"datePublished\":\"2021-05-04T15:40:26+00:00\",\"dateModified\":\"2021-05-04T22:11:02+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/\"},\"wordCount\":2441,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/cymru-nasa.jpg\",\"keywords\":[\"Senedd2021\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/\",\"name\":\"Y Trafferth gydag Abolish - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/cymru-nasa.jpg\",\"datePublished\":\"2021-05-04T15:40:26+00:00\",\"dateModified\":\"2021-05-04T22:11:02+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/cymru-nasa.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/cymru-nasa.jpg\",\"width\":615,\"height\":927},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"A Problem called Abolish\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\",\"name\":\"Huw Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Huw Williams\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Y Trafferth gydag Abolish - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Y Trafferth gydag Abolish - undod","og_description":"Digwyddiad mwyaf digalon yr ymgyrch etholiadol i mi oedd derbyn darn o &#8216;lenyddiaeth&#8217; Abolish\u00a0drwy ein blwch post. Taflen oedd hi yn galw am ddiddymu&#8217;r Senedd ar sail y ffaith ei &hellip; Parhau i ddarllen \"Y Trafferth gydag Abolish\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/04\/abolish\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2021-05-04T15:40:26+00:00","article_modified_time":"2021-05-04T22:11:02+00:00","og_image":[{"width":615,"height":927,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/cymru-nasa.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Huw Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Huw Williams","Est. reading time":"6 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/"},"author":{"name":"Huw Williams","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b"},"headline":"Y Trafferth gydag Abolish","datePublished":"2021-05-04T15:40:26+00:00","dateModified":"2021-05-04T22:11:02+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/"},"wordCount":2441,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/cymru-nasa.jpg","keywords":["Senedd2021"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/","name":"Y Trafferth gydag Abolish - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/cymru-nasa.jpg","datePublished":"2021-05-04T15:40:26+00:00","dateModified":"2021-05-04T22:11:02+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/cymru-nasa.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/cymru-nasa.jpg","width":615,"height":927},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/04\/abolish\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"A Problem called Abolish"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b","name":"Huw Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Huw Williams"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1265","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1265"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1265\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1272,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1265\/revisions\/1272"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/840"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1265"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1265"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1265"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}