{"id":1273,"date":"2021-05-08T17:46:54","date_gmt":"2021-05-08T16:46:54","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1273"},"modified":"2021-05-08T18:40:58","modified_gmt":"2021-05-08T17:40:58","slug":"beth-nawr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/","title":{"rendered":"Beth nawr?"},"content":{"rendered":"<p>Rywbryd hwyr y dydd ddoe, mae&#8217;n debyg i Vaughan Roderick wneud sylw mai Llafur Cymru yw un o&#8217;r ychydig lywodraethau democrataidd cymdeithasol sydd yn weddill yn Ewrop. Ar yr olwg gyntaf, debyg bod hwn yn ymddangos yn sylw digon amlwg, o ystyried pedigri&#8217;r Blaid Lafur &#8211; a&#8217;r ffaith mai cefnogwr Corbyn oedd yr arweinydd a ddaeth i rym ar sail ymgyrch dros Sosialaeth i\u2019r 21ain ganrif, gyda chefnogaeth Gwreiddiau Llafur Cymru, cartref Momentum yng Nghymru.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, gellid gofyn cyfres o gwestiynau mewn ymateb i&#8217;r datganiad diniwed hwn: Pa wledydd \u00e2 llywodraethau sosialaidd democrataidd go iawn sydd \u00e2 lefelau mor uchel o dlodi, fel bod bron i 40% o blant yn byw mewn tlodi? Pa fath o wlad sosialaidd democrataidd sy&#8217;n caniat\u00e1u i&#8217;w pobl byw heb gartref, drwy gael eu prisio allan o&#8217;r farchnad dai drwy fewnlifo cyfalaf, a diffyg tai cymdeithasol neu wirioneddol fforddadwy? Pa wlad wirioneddol sosialaidd democrataidd fyddai&#8217;n yn afradu miliynau ar gwmniau aml-wladol, yn hytrach na buddsoddi&#8217;r arian hwnnw yn ei phobl ei hun a\u2019i hisadeiledd?<\/p>\n<p>Gellir cynnig cwestiynau dirifedi o\u2019r fath, ond y ffaith plaen yw nad ydym yn byw mewn cymdeithas sosialaidd ddemocrataidd, er gwaethaf dros ugain mlynedd o lywodraeth Llafur. Mae&#8217;n werth nodi yr hyn sydd wedi bod yn destun craffu y tro hwn, sef bod rhaid cwestiynnu rhannu\u2019r ansoddair &#8216;democrataidd&#8217; yn achos etholiadau\u2019r Senedd. Mae gennym system bleidleisio sy\u2019n anesboniadwy, ac nad yw hyd yn oed yn caniat\u00e1upleidleisio tactegol gwirioneddol, oherwydd mympwyon y system gyfrifranbarthol. Yn fwy sylfaenol, rhaid cydnabod nifer druenus y pleidleiswyr a&#8217;rprinder addysg wleidyddol a ddarperir yn ein sefydliadau, a\u2019r ymdeimlad oddiffyg grym ymysg ein cymunedau, o Benll\u0177n i Butetown.<\/p>\n<p>O safbwynt unrhyw drefn sosialaidd honedig, mae&#8217;r brif broblem yn amlwg, wrth gwrs. Ni all gwlad obeithio datblygu ar hyd llwybr sosialaidd ddemocrataidd pan fydd ganddi bwerau datganoledig cyfyngedig, ac yn dioddef dan gloffrwm genedl-wladwriaeth sydd wedi dychwelyd fwyfwy i\u2019w thraddodiadau aristocratig, elitaidd a gwaharddol. Y Deyrnas Unedig yw un o&#8217;r cymdeithasau mwyaf anghyfartal yn y gorllewin, sy&#8217;n cael ei llywodraethu gan neoryddfrydiaeth strwythuredig, sy&#8217;n gweld llywodraeth yn gwasanaethu marchnadoedd ac nid pobl, ac sy&#8217;n gadael Cymru (drwy Fformiwla Barnett) yn brin o adnoddau. Nid oes yr un enghraifft amlycah na hyn na&#8217;r modd yr ydym wedi dioddef yn ystod y pandemig; cymharer llwyddiant cymdeithas sosialaidd democrataidd wirioneddol Seland Newydd gyda&#8217;r hyn a fu ar y gorau yn ymdrech amddiffynol yma yng Nghymru, yn wyneb arglwydd a oedd yn fodlon gweld y cyrff yn pentyrru.<\/p>\n<blockquote>\n<h4>&#8220;Mae yna broblem gyda Llafur Cymru ei hun: nid plaid sosialaidd democrataidd mohoni.&#8221;<\/h4>\n<\/blockquote>\n<p>Dyma un o&#8217;r rhesymau pam mae cynifer o bleidleiswyr Llafur yn cael eu denu at annibyniaeth. Maent yn gweld bod gwerthoedd cydraddoldeb, tegwch a chyfiawnder yn freuddwyd gwrach o fewn y Deyrnas Unedig. Ond nid agwedd ddiymadferth Llafur Cymru yn wyneb materion datganoledig a chyfansoddiadol yw&#8217;r unig broblem. <strong>Mae yna broblem gyda Llafur Cymru ei hun: nid plaid sosialaidd democrataidd mohoni.<\/strong><\/p>\n<p>Ni fyddai plaid sy&#8217; wir yn parchu democratiaeth yn llywyddu dros y system etholiadol sydd ohoni nac yn derbyn y lefelau isel o bleidleisio.<\/p>\n<p>Ymhellach, ni fyddai plaid o\u2019r chwith yn llywyddu dros bolis\u00efau a systemau sy&#8217;n blaenoriaethu&#8217;r breintiedig. Ystyriwch, er enghraifft, y ffordd y mae Landlordiaid wedi cael blaenoriaeth dros denantiaid, sefyllfa sydd wedi dwyshau yn ystod y pandemig. Meddyliwch am effaith ofnadwy ein system gyfiawnder a phlismona ar gymunedau lleiafrifol. Yn y cyd-destun hwn, mae Dan Evans, Kieron Smith a minnau wedi bod yn gweithio gyda chyfranwyr disglair ar gyfrol sydd yn edrych ar sut mae neoryddfrydiaeth wedi gweithio ei ffordd i mewn i&#8217;n gwleidyddiaeth mewn ffyrdd llechwraidd; mae&#8217;n syfrdanol gweld pa mor bell y mae ein gwleidyddiaeth o&#8217;r disgwrs flaengar, &#8216;radical&#8217; y mae&#8217;r Blaid Lafur yn defnyddio wrth fframio ei pholis\u00efau.<\/p>\n<blockquote>\n<h4>&#8220;Mae&#8217;n syfrdanol gweld pa mor bell y mae ein gwleidyddiaeth o&#8217;r disgwrs flaengar, &#8216;radical&#8217; y mae&#8217;r Blaid Lafur yn defnyddio wrth fframio ei pholis\u00efau.&#8221;<\/h4>\n<\/blockquote>\n<p>Mae&#8217;n braf gweld Mark Drakeford, sosialydd difrifol, meddylgar yn cael ei wobrwyo am ei ymdrechion o&#8217;r argyfwng hwn; mae wedi gwneud llawer dros hygrededd y Senedd ac mae&#8217;n si\u0175r iddo gyfrannu at ddymchwel <i>Abolish<\/i> ac atal y Tor\u00efaid. Fodd bynnag, o ran ei uchelgais am sosialaeth I\u2019r 21ain ganrif, mae angen inni werthfawrogi&#8217;r rhwystrau y mae&#8217;n wynebu.<\/p>\n<p>Weithiau gall dull rheolaethol a diffyg uchelgais Llafur Cymru ymddangos megis grym anorchfygol yn debyg i\u2019r pandemig ei hun &#8211; yn enwedig oherwydd y ffordd y mae&#8217;r blaid ei hun yn ymddangos yn analluog o safbwynt hunanfyfyrio ar y pynciau yma. Mae yna gwestiynau am Drakeford ei hun, o ystyried y modd y mae ei weinyddiaeth wedi ymddangos fel parhad o\u2019r hyn a fu, yn hytrach na thro tuag at sosialaeth go iawn \u2013 heb fawr o newid personel naill ai yn y cabinet neu y tu \u00f4l i&#8217;r llenni.<\/p>\n<p>Daeth un enghraifft o hyn ar ddechrau&#8217;r argyfwng, pan mai greddf y sosialydd arferol oedd canslo digwyddiadau fel y rygbi a&#8217;r gigs Stereophonics, ond bu Vaughan Gething y gweinidog iechyd yn fodlon dilyn arweiniad San Steffan, nes iddynt ildio dan bwysau cyhoeddus enfawr, ar yr un digwyddiad o leiaf.<\/p>\n<blockquote>\n<h4>&#8220;Nid eironi bach yw\u2019r ffaith bod sosialydd mwyaf blaenllaw Cymru wedi\u2019i threchu a\u2019i lluchio o\u2019r Senedd, gyda&#8217;r fath sel a brwdfrydedd gan y Blaid Lafur&#8221;<\/h4>\n<\/blockquote>\n<p>Mae newid y diwylliant gwleidyddol hwn yn hanfodol, a rhaid wrth bwysau o&#8217;r tu allan i&#8217;r blaid hefyd. Nid eironi bach yw\u2019r ffaith bod sosialydd mwyaf blaenllaw Cymru wedi\u2019i threchu a\u2019i lluchio o\u2019r Senedd, gyda&#8217;r fath sel a brwdfrydedd gan y Blaid Lafur. Taflodd Llafur pob dim at y Rhondda, gan taw dyma&#8217;r cam amlwg, strategol. Mae hi\u2019n dangos gwendidau y blaid lafur, ac roedd hi wedi sicrhau troedle yn y cymoedd gallasai fod wedi arwain at newid gwirioneddol. Does dim dau, mae hyn yn newyddion drwg i&#8217;r wleidyddiaeth flaengar y mae Drakeford ei hun am ei gweld.<\/p>\n<p>Mae e wedi ennill y clod am y fuddugoliaeth hon, ac hynny&#8217;n haeddiannol. Mae wedi ennill llawer o galonnau a meddyliau \u2013 a llawer iawn o dir i\u2019r ymgyrch annibyniaeth \u2013 drwy ddangos sut y gall arfer hyd yn oed ein pwerau cyfyngedig wneud gwahaniaeth.<\/p>\n<p>Mae hwn felly&#8217;n fandad personol iddo symud Cymru ymlaen yn y ffordd y mae&#8217;n gweld yn dda. Cawn obeithio ei fod wedi magu\u2019r hyder i wneud yr hyn y mae&#8217;n ei wybod sy&#8217;n iawn: dau o&#8217;r polis\u00efau amlwg o ran democrateiddio ein cymdeithas yw newid y system bleidleisio a datganoli darlledu. Mae&#8217;r posibiliadau o safbwynt creu cymdeithas sosialaidd go iawn yn ddibendraw.<\/p>\n<p>Cawn wylio gyda diddordeb i weld yr hyn sy&#8217;n datblygu yn awr ei fod yn teyrnasu o fewn ei blaid ei hun, a phwy y mae&#8217;n ei ddwyn i mewn i&#8217;w gabinet, ac yn bwysicach na hynny, pwy fydd yn ei d\u00eem personol. Mae wedi treulio&#8217;r flwyddyn ddiwethaf yn ymladd grymoedd y tu hwnt i&#8217;w reolaeth, ond nawr y mae cyfle iddo ryddhau&#8217;r grymoedd o fewn ei blaid ei hun a all ddod \u00e2 newid gwirioneddol. Mae bywydau&#8217;n dibynnu arno.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rywbryd hwyr y dydd ddoe, mae&#8217;n debyg i Vaughan Roderick wneud sylw mai Llafur Cymru yw un o&#8217;r ychydig lywodraethau democrataidd cymdeithasol sydd yn weddill yn Ewrop. Ar yr olwg &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Beth nawr?&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":1274,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[84,87],"class_list":["post-1273","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-llafur-cymru","tag-mark-drakeford","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Beth nawr? - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Beth nawr? - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Rywbryd hwyr y dydd ddoe, mae&#8217;n debyg i Vaughan Roderick wneud sylw mai Llafur Cymru yw un o&#8217;r ychydig lywodraethau democrataidd cymdeithasol sydd yn weddill yn Ewrop. Ar yr olwg &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Beth nawr?&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-05-08T16:46:54+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-05-08T17:40:58+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/118425209_gettyimages-1232748700.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"976\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"549\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Huw Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Huw Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/\"},\"author\":{\"name\":\"Huw Williams\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\"},\"headline\":\"Beth nawr?\",\"datePublished\":\"2021-05-08T16:46:54+00:00\",\"dateModified\":\"2021-05-08T17:40:58+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/\"},\"wordCount\":2382,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/118425209_gettyimages-1232748700.jpg\",\"keywords\":[\"Llafur Cymru\",\"Mark Drakeford\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/\",\"name\":\"Beth nawr? - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/118425209_gettyimages-1232748700.jpg\",\"datePublished\":\"2021-05-08T16:46:54+00:00\",\"dateModified\":\"2021-05-08T17:40:58+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/118425209_gettyimages-1232748700.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/118425209_gettyimages-1232748700.jpg\",\"width\":976,\"height\":549},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Beth nawr?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\",\"name\":\"Huw Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Huw Williams\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Beth nawr? - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Beth nawr? - undod","og_description":"Rywbryd hwyr y dydd ddoe, mae&#8217;n debyg i Vaughan Roderick wneud sylw mai Llafur Cymru yw un o&#8217;r ychydig lywodraethau democrataidd cymdeithasol sydd yn weddill yn Ewrop. Ar yr olwg &hellip; Parhau i ddarllen \"Beth nawr?\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2021-05-08T16:46:54+00:00","article_modified_time":"2021-05-08T17:40:58+00:00","og_image":[{"width":976,"height":549,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/118425209_gettyimages-1232748700.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Huw Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Huw Williams","Est. reading time":"5 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/"},"author":{"name":"Huw Williams","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b"},"headline":"Beth nawr?","datePublished":"2021-05-08T16:46:54+00:00","dateModified":"2021-05-08T17:40:58+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/"},"wordCount":2382,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/118425209_gettyimages-1232748700.jpg","keywords":["Llafur Cymru","Mark Drakeford"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/","name":"Beth nawr? - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/118425209_gettyimages-1232748700.jpg","datePublished":"2021-05-08T16:46:54+00:00","dateModified":"2021-05-08T17:40:58+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/118425209_gettyimages-1232748700.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/118425209_gettyimages-1232748700.jpg","width":976,"height":549},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/05\/08\/beth-nawr\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Beth nawr?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b","name":"Huw Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Huw Williams"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1273","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1273"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1273\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1279,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1273\/revisions\/1279"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1274"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1273"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1273"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1273"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}