{"id":1282,"date":"2021-05-14T18:46:31","date_gmt":"2021-05-14T17:46:31","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1282"},"modified":"2021-05-14T18:46:41","modified_gmt":"2021-05-14T17:46:41","slug":"robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/","title":{"rendered":"Robert Owen ar ei Benblwydd yn 250 &#8211; Sosialydd Modern Iawn"},"content":{"rendered":"<p>Heddiw mae&#8217;n 250 mlynedd ers geni Robert Owen, yr arloeswr sosialaidd o&#8217;r Drenewydd a wnaeth gymaint &#8211; ynghyd \u00e2 ffigurau fel ei gydwladwr Richard Price, y ffeminist Mary Wollstonecraft, a&#8217;i gymheiriaid yn Ffrainc Charles Fourier a Henri de Saint-Simon &#8211; i sefydlu&#8217;r egwyddorion a&#8217;r cerrig sylfaen gwleidyddiaeth flaengar fodern, wrth i&#8217;r Chwyldro Ffrengig a&#8217;i ganlyniad atseinio trwy Ewrop.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l gadael Cymru yn 10 blwydd oed yn blentyn dawnus, ac yna sefydlu gyrfa lwyddiannus fel diwydiannwr ym Manceinion, symudodd i&#8217;r Alban lle trawsnewidiodd felin gotwm ei dad-yng-nghyfraith: arbrawf sosialaidd a newidiodd y byd, ac mae bellach yn sefyll fel Safle Treftadaeth UNESCO. Dangosodd New Lanark fod byd diwydiannol arall yn bosibl, un a wrthododd gyfalafiaeth, gan feithrin yn hytrach na dad-ddyneiddio ei weithwyr, ac yn anelu at fyd lle mae pobl a natur mewn cytgord. Darparodd y fenter gydweithredol, gomiwnyddol a ffeministaidd hon glasbrint sydd, yn ei uchelgais, yn fwy cyfoes nag erioed.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n bwysig nad ydym yn ymroi i hagiograffeg wrth gwrs; nid oedd beirniadaeth ddi-baid Owen o\u2019i gymdeithas gyfoes yn ymestyn yn ddigonol i\u2019r Ymerodraeth; mae cwestiynau yn codi am ddylanwad eang Owen ar y gymuned ddemocrataidd (mewn egwyddor) a sefydlodd; o ran ei ddadansoddiad a\u2019i ddull o danseilio y system gyfalafol, mae ei ffydd yng ngrym rheswm a gallu\u2019r elit i ddiwygio ei hun yn edrych yn na\u00eff wrth edrych yn \u00f4l.<\/p>\n<p>Yn yr un modd, fodd bynnag, rhaid inni beidio \u00e2 syrthio i fagl presenoliaeth (<i>presentism<\/i>) a barnu ei weithredoedd ar sail synnwyr trannoaeth, na chymharu ei ddadansoddiad academaidd \u00e2 ffigur fel Marx. Byddai hyn yn camgymryd pwysigrwydd Owen fel unigolyn, heb werthfawrogiad o&#8217;r byd y cafodd Owen ei eni ynddo, gan bwyso a mesur ei gyfraniad ar sail y camsyniad ei fod yn ddeallusyn. Yn wir, pe byddem am gynnig cymhariaeth \u00e2 heddiw, efallai y byddem yn meddwl amdano fel ffigur ochr yn ochr \u00e2 rhai o&#8217;r awduron-actifyddion cyfoes gwych fel Silvia Federici. Yr hyn a&#8217;i nodweddodd fwyaf oedd yr hyn a ddisgrifiodd Marx ei hun fel ei sosialaeth iwtopaidd.<\/p>\n<h4><b>Sosialydd<\/b><\/h4>\n<p>Prif fewnwelediad athronyddol Owen, a\u2019r egwyddor y seiliodd ei <i>New View of Society <\/i>arno, oedd ei ddehongliad o\u2019r natur ddynol &#8211; un nad oedd heb gynsail, ond a oedd yn chwyldroadol yn y modd y\u2019i datblygodd. Yn y b\u00f4n, roedd Owen o&#8217;r farn bod y natur ddynol i raddau helaeth, os nad yn gyfan gwbl, yn cael ei phennu gan amgylchedd person. Felly, nid oes gan y natur ddynol unrhyw ansawdd hanfodol. Yn sicr nid ydym yn cael ein geni&#8217;n ddrygionus fel y mae y prif athrawiaeth Gristnogol pechod gwreiddiol yn barnu; yn hytrach, mae drygioni yn agwedd ar gymdeithas sy&#8217;n trin ei phobl yn wael &#8211; rydym oll wedi\u2019u geni gyda\u2019r gallu i fod yn bobl dda.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n dyst i&#8217;w waith ef a gwaith eraill bod pwysigrwydd amgylchedd ar gymeriad bellach yn cael ei gydnabod fel gwireb (heblaw gan y ceidwadwyr mwyaf diedifar &#8211; fel y rhai sy&#8217;n rhedeg y DU). Fodd bynnag, os ydym yn meddwl am y byd y ganed Owen ynddo &#8211; roedd yn 18 oed pan dorrodd y Chwyldro Ffrengig &#8211; barn hierarchaidd am y natur ddynol oedd yn tra-arglwyddiaethu. Gan gychwyn lle roedd eraill wedi gorffen, roedd ei waith a&#8217;i ysgrifau yn ymosodiad uniongyrchol a di-ildio ar yr el\u00eet breintiedig, cyfundrefn gymdeithasol wedi&#8217;i seilio wrth gwrs ar y syniad bod rhagoriaeth yr uchelwyr wedi ei etifeddu.<\/p>\n<p>Pan safodd cydwladwr Owen, Richard Price, yn erbyn braint a Brenhiniaeth Prydain yn ei bregeth, <i>Caru Ein Gwlad<\/i>, roedd yn ymosod ar elit aristocrataidd yr eglwys a\u2019r wladwriaeth. Roedd ymateb enwog Edmund Burke yn ei Fyfyrdodau ar y Chwyldro yn Ffrainc &#8211; y testun elfennol Ceidwadol &#8211; yn taro ergyd ar ran y sefydliad Prydeinig, ond byddai&#8217;r testun hwnnw ei hun yn arwain at ymatebion gan enwogion fel Tom Paine a Mary Wollstonecraft, a fyddai ymhen amser yn hyrwyddo grymoedd blaengar na ellid eu dal yn \u00f4l.<\/p>\n<p>Yn wir roedd beirniadaeth Wollstonecraft o driniaeth cymdeithas o fenywod yn llawer rhy chwyldroadol ac fe\u2019i hanwybyddwyd i raddau helaeth nes bod cymdeithas wedi dal i fyny \u00e2 hi rhywfaint; gellir dadlau, fodd bynnag, bod ei dadansoddiad soffistigedig o sut y gwnaeth amgylchedd menyw danseilio unrhyw obaith o fywyd boddhaus a rhinweddol yn cynnig y syniadau allweddol a ddatblygodd Owen ei hun. Gellir awgrymu iddo gyffredinoli a radicaleiddio mewnwelediadau Wollstonecraft, trwy ddangos bod y mwyafrif yn rhwym o fod yn anllythrennog, o fyw mewn tlodi, ac yn debyg o droseddu oherwydd y strwythurau cymdeithas maent yn byw oddi fewn iddynt &#8211; a bod amgylchedd gofalgar ac addysgol yn sicrhau y gall unrhyw un datblygu fel person llewyrchus.<\/p>\n<p>Dyma&#8217;r hyn y mae&#8217;n ei ddadlau yn ei <i>New View of Society<\/i>, a dyma a ddangosodd yn New Lanark. Daeth hyd yn oed Tsar Rwseg i ymweld \u00e2\u2019r arbrawf a gychwynnodd addysg feithrin, addysg oedolion, diwrnod gwaith 8 diwrnod, isafswm oedran gweithio a gofal plant, wrth sicrhau tai gl\u00e2n a diogel mewn amgylchedd a oedd yn annog hamddena ac yn ceisio cytgord rhwng pobl a natur.<\/p>\n<p>Y tu hwnt i amgylchedd uniongyrchol New Lanark, ceisiodd Owen amcan llawer mwy eang ac uchelgeisiol. Gwelodd mai&#8217;r unig ffordd y gellid trefnu cymdeithas yn y fath fodd fel nad oedd y gweithwyr yn cael eu hecsbloetio a&#8217;u gormesu oedd goresgyn, neu tyfu tu hwnt i gyfalafiaeth. Roedd New Lanark yn seiliedig ar fodel cydweithredol lle roedd gweithwyr yn rhannol berchnogion, ac yng ngweledigaeth Owen, trwy sefydlu rhwydwaith o gymunedau cydweithredol, y gellid goresgyn system gyfalafol yn seiliedig ar ymelwa a chystadleuaeth ddi-baid.<\/p>\n<h4><b>Iwtopiaeth<\/b><\/h4>\n<p>Er bod rhai ar y chwith wedi wfftio Owen oherwydd ei arddull ymddangosodiadol na\u00eff a diwygiadol, mae&#8217;r beirniadaethau hyn yn anwybyddu&#8217;r weledigaeth iwtopaidd a oedd ganddo i\u2019r byd. Fel damcaniaethwr, ni ellir cymharu ei ddadansoddiad o hanes, ei ddyfnder athronyddol na&#8217;i allu dadansoddol \u00e2 Marx &#8211; ychydig iawn sy\u2019n deilwng o hynny (rhaid ystyried Marx, cymaint \u00e2 damcaniaethwr cymdeithasol ac economaidd, fel y trydydd yn y drindod o athronwyr yr Almaen, sy\u2019n cynnwys Hegel a Kant, a gyrhaeddodd uchelfannau athronyddol heb eu hail). Fodd bynnag, nid yw hynny\u2019n tanseilio p\u0175er ac ap\u00eal ei ddelfrydau, yr oedd Marx ei hun yn ei edmygu gymaint, a\u2019r ffordd y gwnaeth esiampl Owen, trwy ymgyrchu ac ysgrifennu diflino, ysbrydoli mudiad sosialaidd ac undebau llafur.<\/p>\n<p>Ac er bod ei ffydd yn y rhai a oedd yn dal dylanwad wir yn fan gwan, mae ei ddadleuon dros sut y gallai cymdeithas wirioneddol sosialaidd ddim ond bwrw gwreiddiau dwfn trwy newid graddol dros genedlaethau, yn wrthbwynt pwysig i&#8217;r model chwyldroadol Marcsaidd &#8211; ac efallai y byddai rhywun hyd yn oed yn awgrymu yn rhagflaenu pwyslais Gramsci ar &#8216;ryfel safle&#8217; a newid sefydliadol graddol.<\/p>\n<p>Un agwedd arall ar weledigaeth iwtopaidd Owen sy\u2019n drawiadol, o ystyried ei fod yn un o\u2019r arloeswyr sosialaidd, oedd syniadau a gwerthoedd sy\u2019n ymddangos mor berthnasol i sefyllfa heddiw. Wrth i sosialaeth ddatblygu ochr yn ochr \u00e2 diwydiannu, bu tuedd dros amser i rai rhagdybiaethau ynghylch gwerth gwaith, a (diffyg) gwerth yr amgylchedd ymsefydlu yng ngolwg y byd sosialaidd. Mae&#8217;n boenus o glir nawr wrth gwrs beth yw&#8217;r gost o agwedd gwbl echdynnol tuag at natur, ond yng nghyd-destun diweithdra cyfoes a her awtomeiddio, mae llawer ar y chwith yn dal i lynu wrth bwysigrwydd neu werth cynhenid \u200b\u200bgwaith (yn rhannol efallai oherwydd camddealltwriaeth o bwyslais Marx ar ein natur gynhyrchiol, greadigol).<\/p>\n<p>Ni welir unrhyw ymrwymiadau o&#8217;r fath ym mydolwg Owen; fel y nodwyd, gwelodd bwysigrwydd parch at a chytgord \u00e2 natur, tra iddo ef roedd datblygu technoleg yn rhywbeth a allai ryddfreinio pobl o&#8217;r gwaith. Mewn byd sydd dan fygythiad gan yr argyfwng hinsawdd, ac mewn cymdeithas lle mae peiriannau&#8217;n cymryd mwy a mwy o lafur, a lle mae lleoliaeth a&#8217;r economi sylfaenol yn derbyn fwyfwy o sylw, dyma rai o&#8217;r rhesymau dros ddychwelyd i Owen fel ffigwr sosialaidd arloesol.<\/p>\n<h4><b>Tad Sosialaeth Gymreig?<\/b><\/h4>\n<p>Awgrymir statws Owen yn y gorffennol gydag un o\u2019r llysenwau a roddwyd iddo: \u2018the Father of English Socialism\u2019. Mae\u2019r ffaith iddo gael ei hawlio yn y fath fodd yn cynnig argraff o&#8217;i bwysigrwydd hanesyddol, ond mae hefyd, wrth gwrs, yn codi cwestiwn i ni yng Nghymru, ymysg y sawl sy\u2019n awyddus i hawlio Owen fel rhan o\u2019n etifeddiaeth. Gellir esbonio&#8217;r llysenw yn rhannol gan y drysu oesol rhwng &#8216;Saesneg&#8217; a &#8216;Prydeinig&#8217;, ac er tegwch gallem awgrymu ei fod yn fwy o Brydeiniwr na&#8217;r mwyafrif: wedi&#8217;i ffurfio yng Nghymru, gan wneud ei ffortiwn yn Lloegr, cyn newid y byd yn yr Alban.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae yna rai agweddau gall ganiatau inni ystyried Owen yn Gymreig mewn modd ystyrolon, mewn perthynas \u00e2&#8217;i agwedd athronyddol (y tu hwnt i&#8217;r honiad bod ei weledigaeth o gymunedau cydweithredol wedi&#8217;i hysbrydoli gan gartref ei blentyndod, Y Drenewydd). Er enghraifft, gellir dehongli ei iwtopiaeth fel tueddiad sy&#8217;n ei osod o fewn &#8211; ac y gellir ei egluro o ran &#8211; traddodiad deallusol Cymreig. Yn wir os yw rhywun yn gosod iwtopiaeth Owen yng nghyd-destun meddwl Richard Price, ac ymhellach (o\u2019r traddodiad piwritanaidd y daeth Price allan ohono) cyfriniaeth radical Morgan Llwyd, gall rhywun ei ddarllen fel math o filflwyddiaeth seciwlar.<\/p>\n<p>Daw milflwyddiaeth ar sawl ffurf, ond mae&#8217;r syniad o ail ddyfodiad yr Iesu fel cychwyn ar gyfnod o heddwch a chyfiawnder ar y ddaear (sydd mor ganolog i feddwl Llwyd) wedi&#8217;i amlgyu&#8217;n helaeth ym marn byd gwleidyddol Price &#8211; un sy&#8217;n ystyried gwladwriaethau&#8217;r byd yn gweithio tuag at heddwch byd-eang i baratoi ar gyfer y mileniwm newydd. Gydag Owen, mae gennym fersiwn seciwlar wedi&#8217;i datblygu&#8217;n gyflawn. Mae uchelgais ddelfrydol, bondigrybwyll o&#8217;r fath yn batrwm o feddwl y gellir mapio yng Nghymru yn \u00f4l i&#8217;r Mabinogi a hyd yn oed y byd cyn-Rufeinig, gyda&#8217;i motiffau o frwydro arwrol yn erbyn ffawd a gweledigaethau iwtopaidd megis Ynys Afallon.<\/p>\n<p>Yn llai haniaethaol, ac yn gysylltiedig ag amodau materol hanesyddol, y mae gan y syniadau hyn ap\u00eal hanesyddol i gymunedau ymylol sy&#8217;n aros am ryw fath o iachawdwriaeth. Gwrthododd Owen ei hun grefydd y diwygiad Methodistaidd a oedd wedi ysgubo ei famwlad, ond roedd anian iwtopaidd wrth gwrs i genedlaethau diweddarach yng Nghymru wrth i Ymneilltuaeth ddatblygu mewn gwahanol ffurfiau gwleidyddol a radical, yn anad dim yn anghydffurfio\u2019r Undodiaid a fyddai\u2019n dylanwadu ar gymunedau megis Merthyr. Yn ddiweddarach wrth gwrs byddai ysbryd egalitaraidd, achubyddol gwleidyddiaeth Owen yn cael ei wireddu ar ffurf Gristnogol gyda lledaenu\u2019r efengyl gymdeithasol.<\/p>\n<p>Yn sicr ers ei farwolaeth &#8211; yr unig dro i Owen ddychwelyd i Gymru ar \u00f4l gadael yn blentyn &#8211; mae&#8217;r Cymry wedi gwneud ambell ymdrech wirioneddol i&#8217;w hawlio yn \u00f4l, ac efallai&#8217;r mwyaf diddorol o&#8217;r rheini yw ymdrechion RJ Derfel, a fyddai yn ei dro ysbrydoliaeth i&#8217;r sosialydd iwtopaidd Cymreig adnabyddus hwnnw Niclas y Glais. Cymerodd Derfel syniadau Owen fel man cychwyn ar gyfer datblygu\u2019r hyn yr oedd yn ei ystyried yn fath arbennig o sosialaeth Gymreig, gyda\u2019i dymer radical, gomiwnitaraidd a oedd arall na\u2019r Marcsiaeth faterol neu\u2019r Llafuriaeth Brydeinig brif ffrwd a ddechreuodd ddod i\u2019r amlwg ar ddechrau\u2019r 20fed ganrif.<\/p>\n<p>Yn wir dyma&#8217;r ffigurau y mae Martin Wright yn cyfeirio atynt wrth fapio traddodiad sosialaidd Cymreig ymneilltuol yn ei waith ar Gymru a sosialaeth cyn y Rhyfel Mawr. Gellid dadlau taw ffigur arall sy\u2019n cynrychioli\u2019r ffrwd honno oedd AS Merthyr SO Davies, a gyfunodd gefndir anghydffurfiol o Gymru ag agenda sosialaidd radical.<\/p>\n<p>Beth ddigwyddodd i&#8217;r traddodiad hwnnw? Rhaid gofyn y cwestiwn, oherwydd heddiw nid yn unig y mae&#8217;n amheus a oes unrhyw fath amlwg o wleidyddiaeth sosialaidd Cymreig, yn fwy sylfaenol rhaid gofyn beth yw ein ffurfiau o feddwl nodweddiadol, wrth inni gael ein cymhathu yn ddiwylliannol, yn ieithyddol ac yn ddeallusol. Yn yr oes seciwlar, \u00f4l-fodern, mae Robert Owen a&#8217;i sosialaeth yn cyflwyno sawl her inni, ynghylch yr hyn yr ydym yn credu yw sosialaeth, a bellach pwy ydym \u2018ni\u2019, y Chwith Gymreig.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Heddiw mae&#8217;n 250 mlynedd ers geni Robert Owen, yr arloeswr sosialaidd o&#8217;r Drenewydd a wnaeth gymaint &#8211; ynghyd \u00e2 ffigurau fel ei gydwladwr Richard Price, y ffeminist Mary Wollstonecraft, a&#8217;i &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Robert Owen ar ei Benblwydd yn 250 &#8211; Sosialydd Modern Iawn&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":1283,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1282","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Robert Owen ar ei Benblwydd yn 250 - Sosialydd Modern Iawn - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Robert Owen ar ei Benblwydd yn 250 - Sosialydd Modern Iawn - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Heddiw mae&#8217;n 250 mlynedd ers geni Robert Owen, yr arloeswr sosialaidd o&#8217;r Drenewydd a wnaeth gymaint &#8211; ynghyd \u00e2 ffigurau fel ei gydwladwr Richard Price, y ffeminist Mary Wollstonecraft, a&#8217;i &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Robert Owen ar ei Benblwydd yn 250 &#8211; Sosialydd Modern Iawn&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-05-14T17:46:31+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-05-14T17:46:41+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/The_Robert_Owen_memorial_Newtown_-_geograph.org_.uk_-_1274671.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"640\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"480\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Huw Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Huw Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"9 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/\"},\"author\":{\"name\":\"Huw Williams\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\"},\"headline\":\"Robert Owen ar ei Benblwydd yn 250 &#8211; Sosialydd Modern Iawn\",\"datePublished\":\"2021-05-14T17:46:31+00:00\",\"dateModified\":\"2021-05-14T17:46:41+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/\"},\"wordCount\":4006,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/The_Robert_Owen_memorial_Newtown_-_geograph.org_.uk_-_1274671.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/\",\"name\":\"Robert Owen ar ei Benblwydd yn 250 - Sosialydd Modern Iawn - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/The_Robert_Owen_memorial_Newtown_-_geograph.org_.uk_-_1274671.jpg\",\"datePublished\":\"2021-05-14T17:46:31+00:00\",\"dateModified\":\"2021-05-14T17:46:41+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/The_Robert_Owen_memorial_Newtown_-_geograph.org_.uk_-_1274671.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/The_Robert_Owen_memorial_Newtown_-_geograph.org_.uk_-_1274671.jpg\",\"width\":640,\"height\":480,\"caption\":\"Statue of Robert Owen\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Robert Owen ar ei Benblwydd yn 250 &#8211; Sosialydd Modern Iawn\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\",\"name\":\"Huw Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Huw Williams\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Robert Owen ar ei Benblwydd yn 250 - Sosialydd Modern Iawn - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Robert Owen ar ei Benblwydd yn 250 - Sosialydd Modern Iawn - undod","og_description":"Heddiw mae&#8217;n 250 mlynedd ers geni Robert Owen, yr arloeswr sosialaidd o&#8217;r Drenewydd a wnaeth gymaint &#8211; ynghyd \u00e2 ffigurau fel ei gydwladwr Richard Price, y ffeminist Mary Wollstonecraft, a&#8217;i &hellip; Parhau i ddarllen \"Robert Owen ar ei Benblwydd yn 250 &#8211; Sosialydd Modern Iawn\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2021-05-14T17:46:31+00:00","article_modified_time":"2021-05-14T17:46:41+00:00","og_image":[{"width":640,"height":480,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/The_Robert_Owen_memorial_Newtown_-_geograph.org_.uk_-_1274671.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Huw Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Huw Williams","Est. reading time":"9 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/"},"author":{"name":"Huw Williams","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b"},"headline":"Robert Owen ar ei Benblwydd yn 250 &#8211; Sosialydd Modern Iawn","datePublished":"2021-05-14T17:46:31+00:00","dateModified":"2021-05-14T17:46:41+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/"},"wordCount":4006,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/The_Robert_Owen_memorial_Newtown_-_geograph.org_.uk_-_1274671.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/","name":"Robert Owen ar ei Benblwydd yn 250 - Sosialydd Modern Iawn - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/The_Robert_Owen_memorial_Newtown_-_geograph.org_.uk_-_1274671.jpg","datePublished":"2021-05-14T17:46:31+00:00","dateModified":"2021-05-14T17:46:41+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/The_Robert_Owen_memorial_Newtown_-_geograph.org_.uk_-_1274671.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/The_Robert_Owen_memorial_Newtown_-_geograph.org_.uk_-_1274671.jpg","width":640,"height":480,"caption":"Statue of Robert Owen"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/05\/14\/robert-owen-ar-ei-benblwydd-yn-250-sosialydd-modern-iawn\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Robert Owen ar ei Benblwydd yn 250 &#8211; Sosialydd Modern Iawn"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b","name":"Huw Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Huw Williams"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1282","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1282"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1282\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1286,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1282\/revisions\/1286"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1283"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1282"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1282"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1282"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}