{"id":1304,"date":"2021-07-02T18:17:07","date_gmt":"2021-07-02T17:17:07","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1304"},"modified":"2021-07-02T18:47:53","modified_gmt":"2021-07-02T17:47:53","slug":"traws-cyd-destun","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/","title":{"rendered":"Tu hwnt i&#8217;r &#8220;drafodaeth trans&#8221;: cyflwyniad i gyd-destun coll"},"content":{"rendered":"<p><em>Yn dilyn trawsffobia diweddar ym mudiad annibyniaeth Cymru a <a href=\"https:\/\/twitter.com\/thequeeremporiu\/status\/1406366582184595462#m\">Phrifysgol Caerdydd<\/a>, mae aelod o Ferched Undod yn rhoi cyd-destun i&#8217;r \u201cdrafodaeth trans\u201d, gormes pobl draws ac ideoleg Ffeminyddion Trawsffobaidd. <\/em><\/p>\n<p><em>Mae Undod yn sefyll mewn solidariaeth ddiamod \u00e2 phobl draws ac anneuaid yng Nghymru a thu hwnt.<br \/>\n<\/em><\/p>\n<p><em>Rhybudd cynnwys: Mae&#8217;r testun yn trafod trais yn erbyn pobl draws a chasineb atgas mewn manylder, ac yn cyfeirio at drais rhywiol a hunanladdiad.<\/em><\/p>\n<p>Mae pobl draws ac anneuaidd wedi darganfod eu bod yn destun trafodaeth. Mae gwirionedd eu profiadau, eu hanghenion iechyd a&#8217;u diogelwch sylfaenol \u2013 eu bodolaeth \u2013 bellach yn bwnc i&#8217;w drafod a&#8217;i gwestiynu mewn colofnau papur newydd ac ar raglennu newyddion. Mae eu bywydau preifat \u2013 am gyfnod hir yn weddol anweledig ac anghydnabyddedig, yn rhyfeddod prin neu efallai&#8217;n ergyd j\u00f4c \u2013 wedi&#8217;u troi dros y degawd diwethaf yn fater cyhoeddus a chontrofersial yn y &#8220;culture war&#8221; gwneuthuredig.<\/p>\n<p>Mae sylw sydyn y cyfryngau, llaw-yn-llaw \u00e2 chynnydd yr asgell-dde bell, wedi gadael nifer o bobl draws yn bryderus. Daeth y &#8220;drafodaeth&#8221; i boeni gwleidyddiaeth Gymreig, y Senedd a hyd yn oed y mudiad annibyniaeth. I&#8217;r sawl sydd yn newydd i&#8217;r anghytundebau hyn \u2013 efallai yn anghyfarwydd \u00e2&#8217;r termau a&#8217;r iaith a ddefnyddir \u2013 gallai ymddangos yn broblem gymhleth ac emosiynol, un lle ddylsai dinesydd da gymryd barn gytbwys o&#8217;r ddwy ochr. Yn y cyfamser, mae pobl draws ac anneuaidd yn dioddef gormes dreisgar a thrawsffobia yn eu bywydau beunyddiol. Cyn i ni edrych yn bellach ar natur y drafodaeth hon, mae&#8217;n werth i ni ystyried (am ennyd) ei chyd-destun coll: yr orthrymder a wynebir gan bobl draws ac anneuaidd yn y Gymru sydd ohoni.<\/p>\n<h2>Pa ffurfiau a gymerir gan drawsffobia heddiw?<\/h2>\n<p>Tra bo&#8217;r pyndits yn chwarae&#8217;r dadleuydd, cawn ein hymosod ar lafar ac yn ffisegol ar y stryd. Mae pobl draws fenywaidd yn enwedig yn wynebu trais gan ddwylo dynion \u2013 i bobl draws fenywaidd Ddu mae&#8217;r trais hwn ond yn fwy hyrad (ac yn nodedig o dreisgar o du&#8217;r heddlu). Erys gofal iechyd traws (hynny yw, ein hawl i ofalu am a newid ein cyrff ein hun) mewn dwylo porthorion nad ydynt yn draws eu hun, sydd, os ydym yn ffodus, yn barnu ein bywydau preifat ac yn patholegeiddio ein hunaniaethau. Mae rhestrau aros am wasanaethau rhywedd y Gwasanaeth Iechyd (a estynnwyd yn bellach fyth gan Covid) yn gadael pobl draws ddosbarth gweithiol mewn limbo pryderus am flynyddoedd, tra atalir mudwyr traws rhag derbyn iechyd fel rhan o bolisi &#8220;hostile environment&#8221; y llywodraeth. Mae dod allan i&#8217;n teuluoedd, ein cymunedau, ein hysgolion a&#8217;n gweithleoedd yn llawn risgiau ac anawsterau o hyd, os nad peryglon a diweithdra. Mae diffyg goddefgarwch yn gorfodi nifer o bobl draws ifanc Cymraeg eu hiaith i adael y Fro Gymraeg am ddinasoedd lle gellid darganfod anhysbysrwydd a grwpiau cefnogi. Troir pobl draws fenywaidd yn ddelwedd egsotig yn y diwydiant pornograffi prif-ffrwd tra bod gweithwyr rhyw traws yn cael eu troi yn droseddwyr gan y gyfraith. Daliwyd carcharorion traws ac anneuaidd heb ofal iechyd ac heb urddas, dan fygythiad trais o warchodwyr a chyd-garcharorion. Mae plant a phobl draws ifanc (&#8220;panig moesol&#8221; diweddara&#8217;r wasg Brydeinig) yn wynebu sefydliad meddygol sy&#8217;n gwadu eu profiadau, ac yn aml yn dioddef bwlio gan eu cyfoedion, ymddygiad nawddoglyd o athrawon a diffyg dealltwriaeth neu waeth yn y gartref. Cawn ein camryweddu (misgendered) yn gyson \u2013 i bobl anneuaidd digwyddiff yn systematig. Troir pobl draws ffeminyddol, i&#8217;r rhan fwyaf, yn fregus o or-weladwy, a phobl draws wrywaidd yn orthrymol anweledig. Mae&#8217;r goddefgarwch prin yr ydym yn eu derbyn fel arfer yn ansicr ac yn amodol, ein hawliau cyfreithiol yn gyfyngedig ac yn sigledig (nid oes gan bobl anneuaidd braidd dim hawliau perthnasol). Yn aml mae gan y fath amodau bywyd canlyniadau iechyd meddwl difrifol, ac mae&#8217;n enbydus o ansyfrdanol fod cyfraddau hunanladdiad yn uchel.<\/p>\n<p>Dim ond rhai o&#8217;r esiamplau mwyaf amlwg yw&#8217;r rhain. Nid yw pobl draws ac anneuaidd i gyd yn wynebu&#8217;r un ormes \u2013 yn enwedig gan fod y gormesion hyn yn rhyngblethu ac yn ail-gyfuno \u00e2 hiliaeth, anableddiaeth, rhywiaeth, statws fisa, dosbarth \u2013 ond gall y rhan fwyaf rhoi esiamplau o brofiad sy&#8217;n debyg i&#8217;r uchod. Yr hyn sy&#8217;n brydferth o syndod yw bod bywyd traws yn llachar o fyw, ac mae diwylliant traws yn tyfu o hyd (mater o rwystredigaeth amlwg i&#8217;n casawyr!). Nid yw gormes yn cael ei dioddef yn unig: caiff ei gwrthsefyll mewn amryw ffyrdd, gan greu bydoedd byw o lawenydd a gofal.<\/p>\n<p>Ond anaml a welwch chi&#8217;r fath straeon ar drydar Cymreig neu <a href=\"https:\/\/www.pinknews.co.uk\/2020\/03\/03\/the-guardian-another-trans-person-quits-transphobia-coverage-row\/\" data-cke-saved-href=\"https:\/\/www.pinknews.co.uk\/2020\/03\/03\/the-guardian-another-trans-person-quits-transphobia-coverage-row\/\">golofnau&#8217;r Guardian<\/a>. Yn lle, mi gewch ddarllen dadleuon a siapiwyd gan ychydig o actifyddion gwrth-drawsryweddol, yn aml dan yr esgus eu bod yn &#8220;ffeminyddion&#8221;. Yn hytrach na ddechrau \u00e2 phrofiadau pobl draws o ormes, fel arfer mi ddechreuir a fframir iaith y ddadl gan yr actifyddion rhyfedd hyn.<\/p>\n<h2>Traethu&#8217;r TERFs<\/h2>\n<p>Mae trawsffobia yn cymryd sawl ffurf, ond mae&#8217;r ideoleg arbennig a elwir yn &#8220;Trans Exclusionary Radical Feminism&#8221; (TERF) neu&#8217;n &#8220;Gender Critical&#8221; *, i raddau helaeth yn ffenomen Saesneg ei hiaith. <a href=\"https:\/\/medium.com\/@faithwinship\/the-evolution-of-trans-exclusionary-feminism-3d1b9c5a6d45\" data-cke-saved-href=\"https:\/\/medium.com\/@faithwinship\/the-evolution-of-trans-exclusionary-feminism-3d1b9c5a6d45\">Datblygodd o rai grwpiau<\/a> o fewn y mudiad Ffeminyddol Radical, gan grisialu yn yr UDA yng nghanol a diwedd yr 1970au, yn enwedig \u00e2 chyhoeddiad Janice Raymond, &#8220;The Transexual Empire: Making of the She-male&#8221; (1979). Ysgrifennwyd y llyfr yn benodol i &#8220;owtio&#8221;, sarhau a siomi menyw draws o&#8217;r enw Sandy Stone. Mi wnaeth y gydweithfa record menywod lesbiaidd yr oedd Stone yn rhan ohoni ei hamddiffyn (eisoes yn ymwybodol ei bod hi&#8217;n fenyw draws), <a href=\"https:\/\/www.transadvocate.com\/terf-violence-and-sandy-stone_n_14360.htm\" data-cke-saved-href=\"https:\/\/www.transadvocate.com\/terf-violence-and-sandy-stone_n_14360.htm\">er gwaetha bygythiadau arfog i&#8217;w lladd<\/a>. Nid oedd y Ffeminyddion Radical i gyd yn rhannu syniadau Raymond \u2013 bu menywod traws yn rhan o&#8217;r mudiad o&#8217;r dechrau, roedd damcaniaethwyr allweddol megis Catharine MacKinnon a Andrea Dworkin yn gefnogol o&#8217;u brwydr, a chafwyd tipyn o groeso i ymateb Stone, &#8220;The Empire Strikes Back&#8221;. Eto i gyd, roedd llyfr Raymond a&#8217;r ymgyrchoedd erlid tebyg yn ymchwydd treisgar o dueddiad trawsffobaidd <a href=\"https:\/\/www.transadvocate.com\/that-time-terfs-beat-radfems-for-protecting-a-trans-woman-from-assault_n_14382.htm\" data-cke-saved-href=\"https:\/\/www.transadvocate.com\/that-time-terfs-beat-radfems-for-protecting-a-trans-woman-from-assault_n_14382.htm\">a fodolai eisoes yn y mudiad<\/a>. Mi roedd Ffeminyddiaeth Radical hefyd, i&#8217;r rhan fwyaf, yn gwrth-weithwyr rhyw, gwrth-ymbincio ac mewn anghytundeb \u00e2 ffeminyddiaethau Du a Marcsaidd. Yn fyr o dro mi gafodd ei thrawsnewid a&#8217;i goddiweddyd gan yr hyn a elwir yn &#8220;Drydedd Don&#8221; Ffeminyddiaeth yn y 1990au. I raddau helaeth mi ddiflannodd ei amrywiolyn gwrth-drawsryweddol, ond arhosodd yn gredo ymhlith ychydig o Eingl academyddion adnabyddus.<\/p>\n<p>Er bod ffeminyddion trawsffobaidd wedi profi atgyfodiad arbennig yn y Deyrnas Unedig, mae&#8217;n bwysig i gofio eu bod hyd yn oed fan hyn yn lleiafrif mewn gwrthgyferbyniad a&#8217;r mudiad ffeminyddol (a welai drawsffobia fel ffurf o batriarchaeth). Serch hyn mi roddwyd platfform a sylw anghyfartal iddynt gan y cyfryngau Prydeinig, cyfryngau sydd \u00e2 hanes hir <a href=\"https:\/\/hackinginquiry.org\/privacy-monstering-and-the-press-the-case-of-lucy-meadows\/\" data-cke-saved-href=\"https:\/\/hackinginquiry.org\/privacy-monstering-and-the-press-the-case-of-lucy-meadows\/\">o bortreadu menywod traws fel angenfilod<\/a>. Ac er bod ei syniadau yn eithafol, maent yn tynnu ar drawsffobia cyffredinnol cymdeithas \u2013 gan ddarganfod cynghanedd arbennig \u00e2&#8217;r asgell-dde bell.<\/p>\n<p>Beth yn union yw cynnwys eu syniadau? Yn eu hanfod, maent yn gwadu ein dilysrwydd, gan ddisgrifio trawsnewid &#8220;gwrywaidd i fenywaidd&#8221; fel cynllwyn gan ddynion i ysbeilio ar fenywod cydryweddol (cis). Mae eu testunau sylfaenol megis &#8220;A Transexual Empire&#8221; yn disgrifio menywod traws fel gwneuthuriad artiffisial y diwydiant pornograffi, gan honni fod trawsnewid i fod yn fenyw yn fath o &#8220;drais rhywiol&#8221; yn ei hun. O fan hyn maent yn cyhuddo menywod traws mewn gwagleoedd menywod o fod yn ysglyfaethwyr rhywiol o&#8217;u hanfod, gan ddathlu carcharu pobl draws fenywaidd mewn carchardai dynion lle maent yn wynebu lefelau uchel o drais ffisegol a rhywiol. (Yn y pen draw, math o ffeminyddiaeth garcharol yw Ffeminyddion Trawsffobaidd, sydd yn gweld mwy o garchardai a heddlu fel yr ateb i batriarchaeth.)<\/p>\n<p>Nid gor-ddweud yw bod gan TERFs obsesiwn hynod \u00e2 menywod traws. Yn lle frwydro patriarchaeth ac adeiladu mudiadau cymdeithasol, maent yn ffocysu eu hamser a&#8217;u hegni ar dargedu, enwi yn gyhoeddus, siomi a lobio yn erbyn pobl draws ffeminyddol. Mae ein hawl i ddefnyddio toiledau cyhoeddus heb gael ein reportio neu ein cam-drin yn darget hynod o ryfedd, yr un peth a&#8217;u hofn o &#8220;agenda traws&#8221; yn niweidio meddyliau plant ysgol. (Mae&#8217;r rhain ill dau yn ailadroddiadau amlwg o homoffobia&#8217;r 1980au, pan gyhuddir dynion hoyw a lesbiaid o fod yn ysglyfaethwyr mewn toiledau cyhoeddus a deddf Adran 28 Thatcher.)<\/p>\n<p>Mae TERFs fel arfer yn ymosod ar bobl anneuaidd mewn ffyrdd tebyg (os dryslyd), neu yn gwadu eu bodolaeth yn llwyr, ac yn disgrifio dynion traws fel anffurfiadau gwyddonol, &#8220;bradwyr&#8221; neu ddioddefwyr anghenus o ideoleg draws. Er iddynt honni bod ei theor\u00efau wedi&#8217;u seilio mewn &#8220;rhyw&#8221; a &#8220;bioleg&#8221;, maent fel arfer yn gwadu <a href=\"https:\/\/www.transadvocate.com\/an-intersex-perspective-on-the-trans-intersex-and-terf-communities_n_14539.htm\" data-cke-saved-href=\"https:\/\/www.transadvocate.com\/an-intersex-perspective-on-the-trans-intersex-and-terf-communities_n_14539.htm\">bodolaeth pobl intersex<\/a> (neu yn atal awtonomi i bobl intersex sydd am ddewis triniaeth cydsyniol i&#8217;w horganau rhywiol yn hwyrach yn eu bywyd). Elfen a roddwyd llai o sylw iddi yw bod eu syniadau wedi&#8217;u trwytho mewn meddylfryd gwladychol, un sydd yn gorfodi eu gweledigaeth (Gorllewinol) o ddeuoliaeth rywedd cydryweddol ar yr holl fyd. Mae sawl ddiwylliant a hunaniaeth gynhenid yn gwrthod y model hwn; mae Ffeminyddion Trawsffobaidd yn cyfrannu i&#8217;r hiliaeth sydd yn dileu ffyrdd o fyw&#8217;r bobloedd hyn. Maent yn rhan o etifeddiaeth yr ymerodraeth Brydeinig, ymerodraeth a geisiodd ddileu&#8217;r boblogaeth Hijra yn De Asia ac a weithredodd trais tebyg ar draws y byd.<\/p>\n<h2>Pam fod hyn o bwys?<\/h2>\n<p>Mewn tro diweddar i&#8217;r stori ryfedd, mae lleiafrif o genedlaetholwyr Cymreig wedi troi i&#8217;r ideoleg Seisnigaidd hon, naill ai yn rhannol neu yn llawn. Mae&#8217;r fath unigolion wedi ymuno yn llon a&#8217;u gelynion arferol \u2013 popiwlyddion o Dor\u00efaid, UKIP ac adweithwyr eraill \u2013 i ymosod ar yr hawliau sifil prin sydd gan bobl draws. Mae grwpiau megis A Woman&#8217;s Place, Transgender Trend a&#8217;r brodorol Lleisiau Menywod Cymru yn parhau i <a href=\"https:\/\/twitter.com\/joss_prior\/status\/1047072595068235778#m\" data-cke-saved-href=\"https:\/\/twitter.com\/joss_prior\/status\/1047072595068235778#m\">ddefnyddio&#8217;r un iaith<\/a> \u00e2 Janice Raymond, gan labelu pobl draws yn ysglyfaethwyr. Mae cynghreiriau rhwng grwpiau TERF newydd, yr asgell-dde bell ac Efengylwyr ceidwadol yn barhau i esblygu \u2013 tueddiad sydd ond <a href=\"https:\/\/freedomnews.org.uk\/2021\/03\/20\/alert-transphobic-feminism-and-far-right-activism-rapidly-converging\/\" data-cke-saved-href=\"https:\/\/freedomnews.org.uk\/2021\/03\/20\/alert-transphobic-feminism-and-far-right-activism-rapidly-converging\/\">wedi cyflymu yn ystod y pandemig<\/a>.<\/p>\n<p>Yn y cyfnod yn arwain at yr etholiad diweddar, gwelwyd ffrwydrad o agweddau gwrth-drawsryweddol ar-lein yn y mudiad annibyniaeth. Cafwyd sarhadau trawsffobaidd, targedu atgas a chamryweddu pwrpasol &#8216;oll yn enw Cymru. Mae eraill a aeth trwy&#8217;r trwch wedi siarad yn huawdl am ddigwyddiadau penodol, ac rydym yn eich annog <a href=\"https:\/\/itsshash.com\/posts\/llais-fanc-hustings-silenced-2021\/\" data-cke-saved-href=\"https:\/\/itsshash.com\/posts\/llais-fanc-hustings-silenced-2021\/\">i ddarllen<\/a> eu <a href=\"https:\/\/twitter.com\/OwenJHurcum\/status\/1367156095815454726#m\" data-cke-saved-href=\"https:\/\/twitter.com\/OwenJHurcum\/status\/1367156095815454726#m\">datganiadau<\/a>. Ers y digwyddiadau hyn, mae trawsffobiaid amlycaf y Senedd \u2013 <a href=\"https:\/\/twitter.com\/ShartiTheClown\/status\/1367500735089414144#m\" data-cke-saved-href=\"https:\/\/twitter.com\/ShartiTheClown\/status\/1367500735089414144#m\">Helen Mary Jones<\/a>, <a href=\"https:\/\/golwg.360.cymru\/newyddion\/cymru\/528398-sylwadau-neil-mcevoy-doiledau-menywod-corddir\" data-cke-saved-href=\"https:\/\/golwg.360.cymru\/newyddion\/cymru\/528398-sylwadau-neil-mcevoy-doiledau-menywod-corddir\">Neil McEvoy<\/a>, UKIP a&#8217;u plant \u2013 wedi colli eu seddi, tra profodd Alba (a&#8217;i bopiwlyddiaeth gwrth-drawsryweddol) chwalfa etholiadol. Ymddengys hefyd fod YesCymru yn dechrau cymryd trawsffobia (a gormesion eraill) o ddifrif. Ond cyn belled ag y mae trawsffobia yn rhan strwythurol o gymdeithas Cymru, mi fydd ei ideoleg gyfatebol yn parhau i boeni ein mudiadau.<\/p>\n<p>Mae rhai yn barnu bod gormes pobl draws ac anneuaidd yn amherthnasol, yn fater ymylol i&#8217;r cwestiwn o annibyniaeth i Gymru. I&#8217;r gwrthwyneb \u2013 gweithredoedd ychydig o actifyddion gwrth-drawsryweddol sydd wedi bygwth chwalu&#8217;r mudiad. Ymhellach, mi fydd Cymru ond yn rhydd os daw newid ystyrlon i&#8217;r sawl a wthiwyd i&#8217;r ymylon gan gymdeithas Prydain. Mae neges Undod yn glir: ni ellid adeiladu&#8217;r rhyddid hwn ar sail gorthrwm. Mae unrhyw fudiad sy&#8217;n methu \u00e2 sylweddoli hyn yn torri ei fedd ei hunain.<\/p>\n<p>Pe lwydda&#8217;r mudiad annibyniaeth i ddelio a&#8217;i broblemau neu beidio, ni fydd pobl draws ac anneuaidd yn ildio. Mae&#8217;r esiamplau a ddisgrifiwyd uchod yn rhai llwydlwm a&#8217;r awyrgylch gwleidyddol yn wenwynig, heb os, ond nid yw bywydau traws yn drasiedi i&#8217;w thrugarhau &#8211; na chwaith ydynt yn fygythiad i&#8217;w hofni. Rydym yn parhau nid yn unig i oroesi ond i ddarganfod ystyr, llawenydd a dyfalbarhad, tra blodeua grwpiau o ofal, solidariaeth a brwydro yn wyneb y pandemig Covid. Ni ddiffiniwyd pobl draws ac anneuaidd gan y trawsffobia yr ydym yn ei wynebu, ond gan y gorlifiad o fywyd yr ydym yn ddyddiol gadarnhau.<\/p>\n<hr \/>\n<p>* Defnyddiwyd \u201cTrans Exclusionary Radical Feminism\u201d a&#8217;i acronym <a href=\"https:\/\/www.transadvocate.com\/terf-what-it-means-and-where-it-came-from_n_13066.htm\" data-cke-saved-href=\"https:\/\/www.transadvocate.com\/terf-what-it-means-and-where-it-came-from_n_13066.htm\">yn gyntaf yn 2008<\/a> gan ffeminyddion (cydryweddol) fel label niwtral i ddisgrifio&#8217;r gwahaniaeth rhwng y garfan honno \u00e2 Ffeminyddiaeth Radical\u00a0 sy&#8217;n cynnwys pobl draws. Mae ffeminyddion gwrth-drawsryweddol fel arfer yn gwrthod y label, gan gyfeirio at ei hun fel Ffeminyddion Radical yn unig (er gwaetha&#8217;r ffaith fod nifer cynyddol ohonynt mewn gwirionedd yn perthyn i draddodiad ffeminyddiaeth ddiwygiadol). Yn wreiddiol, mi roedd &#8220;Gender Critical&#8221; yn cyfeirio at &#8220;ddadansoddiad cw\u00eear ffeminyddol a chefnogol o bobl draws, a oedd yn beirniadu agweddau rhywiaethol o rywedd megis ystrydebau rhywedd, roliau rhywedd a hierarchaethau rhywedd&#8221; (Cristan Williams, <em>The SAGE Encyclopedia of Trans Studies<\/em>, 2021). Serch hynny, mi hyrwyddwyd gan Elizabeth Hungerford yn 2013 fel hunaniaeth am ffeminyddion gwrth-drawsryweddol, ac yn y blynyddoedd wedyn mi fachwyd y term ganddynt yn llwyr. Mae &#8220;beirniadu rhywedd&#8221; yn yr ystyr newydd hwn yn guddwisg tennau am hanfodaeth o ran rhyw deuaidd ac yn fwythair am feirniadaeth o bobl <em>draws<\/em>ryweddol.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn dilyn trawsffobia diweddar ym mudiad annibyniaeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd, mae aelod o Ferched Undod yn rhoi cyd-destun i&#8217;r \u201cdrafodaeth trans\u201d, gormes pobl draws ac ideoleg Ffeminyddion Trawsffobaidd. Mae &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Tu hwnt i&#8217;r &#8220;drafodaeth trans&#8221;: cyflwyniad i gyd-destun coll&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":1305,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6,158,159],"tags":[163,161,123,162],"class_list":["post-1304","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","category-g","category-merched-undod","tag-anneuaidd","tag-ffeministiaeth","tag-menywod","tag-traws","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Tu hwnt i&#039;r &quot;drafodaeth trans&quot;: cyflwyniad i gyd-destun coll - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Tu hwnt i&#039;r &quot;drafodaeth trans&quot;: cyflwyniad i gyd-destun coll - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn dilyn trawsffobia diweddar ym mudiad annibyniaeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd, mae aelod o Ferched Undod yn rhoi cyd-destun i&#8217;r \u201cdrafodaeth trans\u201d, gormes pobl draws ac ideoleg Ffeminyddion Trawsffobaidd. Mae &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Tu hwnt i&#8217;r &#8220;drafodaeth trans&#8221;: cyflwyniad i gyd-destun coll&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-07-02T17:17:07+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-07-02T17:47:53+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/traws-trans.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1152\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Gohebydd\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Gohebydd\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"10 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/\"},\"author\":{\"name\":\"Gohebydd\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\"},\"headline\":\"Tu hwnt i&#8217;r &#8220;drafodaeth trans&#8221;: cyflwyniad i gyd-destun coll\",\"datePublished\":\"2021-07-02T17:17:07+00:00\",\"dateModified\":\"2021-07-02T17:47:53+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/\"},\"wordCount\":4097,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/traws-trans.png\",\"keywords\":[\"anneuaidd\",\"ffeministiaeth\",\"menywod\",\"traws\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\",\"Gweithredu\",\"Merched Undod\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/\",\"name\":\"Tu hwnt i'r \\\"drafodaeth trans\\\": cyflwyniad i gyd-destun coll - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/traws-trans.png\",\"datePublished\":\"2021-07-02T17:17:07+00:00\",\"dateModified\":\"2021-07-02T17:47:53+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/traws-trans.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/traws-trans.png\",\"width\":1920,\"height\":1152},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Tu hwnt i&#8217;r &#8220;drafodaeth trans&#8221;: cyflwyniad i gyd-destun coll\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\",\"name\":\"Gohebydd\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Gohebydd\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Tu hwnt i'r \"drafodaeth trans\": cyflwyniad i gyd-destun coll - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Tu hwnt i'r \"drafodaeth trans\": cyflwyniad i gyd-destun coll - undod","og_description":"Yn dilyn trawsffobia diweddar ym mudiad annibyniaeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd, mae aelod o Ferched Undod yn rhoi cyd-destun i&#8217;r \u201cdrafodaeth trans\u201d, gormes pobl draws ac ideoleg Ffeminyddion Trawsffobaidd. Mae &hellip; Parhau i ddarllen \"Tu hwnt i&#8217;r &#8220;drafodaeth trans&#8221;: cyflwyniad i gyd-destun coll\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2021-07-02T17:17:07+00:00","article_modified_time":"2021-07-02T17:47:53+00:00","og_image":[{"width":1920,"height":1152,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/traws-trans.png","type":"image\/png"}],"author":"Gohebydd","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Gohebydd","Est. reading time":"10 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/"},"author":{"name":"Gohebydd","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538"},"headline":"Tu hwnt i&#8217;r &#8220;drafodaeth trans&#8221;: cyflwyniad i gyd-destun coll","datePublished":"2021-07-02T17:17:07+00:00","dateModified":"2021-07-02T17:47:53+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/"},"wordCount":4097,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/traws-trans.png","keywords":["anneuaidd","ffeministiaeth","menywod","traws"],"articleSection":["Erthyglau","Gweithredu","Merched Undod"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/","name":"Tu hwnt i'r \"drafodaeth trans\": cyflwyniad i gyd-destun coll - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/traws-trans.png","datePublished":"2021-07-02T17:17:07+00:00","dateModified":"2021-07-02T17:47:53+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/traws-trans.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/traws-trans.png","width":1920,"height":1152},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/02\/traws-cyd-destun\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Tu hwnt i&#8217;r &#8220;drafodaeth trans&#8221;: cyflwyniad i gyd-destun coll"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538","name":"Gohebydd","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","caption":"Gohebydd"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1304","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1304"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1304\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1306,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1304\/revisions\/1306"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1305"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1304"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1304"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1304"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}