{"id":1309,"date":"2021-07-11T06:05:57","date_gmt":"2021-07-11T05:05:57","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1309"},"modified":"2021-07-10T22:14:08","modified_gmt":"2021-07-10T21:14:08","slug":"hunan-dwyll-prydeinig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/","title":{"rendered":"&#8221;Diwrnod Rhyddid&#8221;: hunan-dwyll Prydeinig iawn"},"content":{"rendered":"<p>Mae Gweinidog Iechyd newydd Lloegr, Sajid Javid, wedi cyhoeddi y bydd Boris Johnson, ar 19 Gorffennaf, yn sefyll o flaen pobl Lloegr, yn ddifwgwd ac yn wynebgaled, ac yn datgan &#8220;rhyddid&#8221;. Bydd Lloegr yn dileu pob amddiffyniad rhag Covid-19 ac yn gadael i&#8217;r feirws gylchredeg yn wyllt ar lefelau uwch byth: mewn geiriau eraill mae &#8220;imiwnedd torfol&#8221; yn \u00f4l i&#8217;n taro eto. Y disgwyl yw y bydd nifer yr achosion yn <a href=\"https:\/\/www.newscientist.com\/article\/2237475-covid-19-news-japan-bars-spectators-from-tokyo-olympics\/\">cyrraedd 100,000 bob dydd<\/a>, gyda phlant yn wynebu risg arbennig a <a href=\"https:\/\/www.ft.com\/content\/3de1ed7a-db4e-4509-8767-9d7f92fe9042\">gwyddonwyr yn cyhuddo&#8217;r llywodraeth<\/a> o anwybyddu bygythiad Covid Hir ymysg plant. Efallai fod <a href=\"https:\/\/www.reuters.com\/world\/uk\/uk-coronavirus-vaccines-have-weakened-link-between-infections-death-says-2021-06-27\/\">y brechlyn<\/a> wedi &#8216;gwanhau&#8217;r cysylltiad&#8217; rhwng cyfraddau heintio, cyfraddau mynd i&#8217;r ysbyty a chyfraddau marwolaeth, ond bydd llawer gormod o hyd yn marw, yn mynd i&#8217;r ysbyty ac yn datblygu salwch cronig yn sgil agwedd esgeulus a dideimlad y Deyrnas Unedig at iechyd y cyhoedd. Mae yna <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2021\/jul\/05\/will-uk-rising-covid-cases-increase-risk-of-vaccine-evasive-variants\">risg<\/a> hefyd y bydd amrywiolyn arall eto&#8217;n esblygu, a hwnnw&#8217;n fwy marwol byth. Mae dadansoddiad yn dangos bod mwy na <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/politics\/live\/2021\/mar\/30\/uk-covid-live-news-johnson-and-world-leaders-say-next-pandemic-is-matter-of-not-if-but-when\">150,000 o bobl<\/a> wedi marw eisoes o Covid-19 yn y Deyrnas Unedig, yr oedd <a href=\"https:\/\/cy.ons.gov.uk\/peoplepopulationandcommunity\/birthsdeathsandmarriages\/deaths\/articles\/coronaviruscovid19relateddeathsbydisabilitystatusenglandandwales\/24januaryto20november2020\">60%<\/a> ohonynt yn bobl anabl, a bod <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/news\/new-research-shows-2-million-people-may-have-had-long-covid\">2,000,000<\/a> yn dweud eu bod wedi dioddef Covid Hir, hyd yn hyn.<\/p>\n<p>Mae yna fyth bod Mark Drakeford a Llywodraeth Cymru wedi&#8217;n gwarchod ni rhag y gwaethaf yng Nghymru. Ond, mae&#8217;r data&#8217;n awgrymu bod y gyfradd marwolaethau am bob pen yn debyg i&#8217;r gyfradd yn Lloegr, ac mae bron 6,000 o farwolaethau swyddogol wedi&#8217;u cofrestru hyd yn hyn. Y gwir amdani yw bod anghenion bywyd yng Nghymru wedi&#8217;u gosod yn is nag anghenion cyfalaf, fel yr <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/12\/09\/llywodraeth-ar-fai-gov-to-blame\/\">amlygodd Undod<\/a> yn \u00f4l ym mis Rhagfyr. Mae Eluned Morgan, fel y byddech chi&#8217;n disgwyl, eisoes yn <a href=\"https:\/\/www.bbc.com\/news\/uk-wales-politics-57722609\">atseinio San Steffan<\/a> gan ddweud bod angen i bobl &#8220;ddysgu byw&#8221; gyda&#8217;r feirws. Er hynny, mae rhai arwyddion na fyddan nhw&#8217;n cael gwared ar bob amddiffyniad eto, ac mae hynny i&#8217;w groesawu, er nad yw&#8217;r manylion wedi&#8217;u rhyddhau eto.<\/p>\n<p>Mae rhyddid honedig &#8220;diwrnod rhyddid&#8221; mewn gwirionedd yn gam gwag plentynnaidd a fydd yn cyfyngu eu rhyddid i lawer. Mae&#8217;r rhethreg yn chwarae ar obsesiwn Johnson yngl\u0177n \u00e2 Churchill ac yn dibynnu ar wrthod realiti a derbyn ffantasi hunanol lle gallwch chi wneud fel y mynnoch, pryd y mynnoch a sut bynnag y mynnoch, a hynny heb ganlyniadau na chyfrifoldebau. Mae el\u00eet Eton wedi arfer cymaint \u00e2 chael eu pampro, ac mor gyfarwydd \u00e2 braint, nes bod rhywbeth mor syml \u00e2 gorchudd wyneb sy&#8217;n arbed bywydau yn cael ei weld fel sarhad ar eu hymdeimlad cynhenid o dduwdod. Mae eu rhyddid nhw&#8217;n dibynnu ar ddiffyg rhyddid pobl eraill \u2013 mae&#8217;n wrth-ryddhaol. Mae&#8217;n gyson, serch hynny, \u00e2 rhyddfrydoliaeth Brydeinig, sydd wedi adeiladu ei holl gyfoeth a ph\u0175er ar gefn pobl eraill, gan fynd ar \u00f4l rhyddid i rai, rhag y llawer. Fel y dywedodd Aurelien Mondon mewn <a href=\"https:\/\/twitter.com\/aurelmondon\/status\/1412335565446524928\">trydariad<\/a>: &#8220;You have to be a particular kind of &#8216;rebel&#8217; to celebrate our Etonian elite removing all safety measures for Covid including incredibly banal ones and stay silent about the protest bill&#8221;.<\/p>\n<p>Mae &#8220;diwrnod rhyddid&#8221; yn dibynnu ar negyddu rhyddid y rhai sydd heb eu brechu, y rhai sy&#8217;n agored i&#8217;r feirws a&#8217;r rhai sydd \u00e2&#8217;u himiwnedd wedi&#8217;i wanhau, gan y byddan nhw&#8217;n cael eu gorfodi i osgoi mannau cyhoeddus gorlawn \u2013 os gallan nhw, hynny yw. Mae&#8217;n gostwng eto fywydau gweithwyr y rheng flaen sy&#8217;n gorfod mentro&#8217;u hiechyd er mwyn ateb anghenion y rhai sy&#8217;n cael eu galw&#8217;n rhydd ac sy&#8217;n mynnu dychwelyd i&#8217;w ffantasi nhw o Brydain <i>Fawr<\/i>. I fod yn glir, dyw hi ddim wedi bod yn ddiogel i&#8217;r gweithwyr hyn drwyddi draw \u2013 boed gweithwyr iechyd heb PPE digonol, athrawon neu&#8217;n fwy diweddar gweithwyr mewn bariau, ond bydd dad-wneud yr amddiffyniadau Covid-19 sydd ar \u00f4l yn gwneud pethau hyd yn oed yn llai diogel nag ar hyn o bryd. Diffyg parch didostur i&#8217;r gweithwyr hyn sydd i&#8217;w weld yn Whitehall. Efallai y byddai Llywodraeth Cymru&#8217;n gwneud yn well pe bai ganddyn nhw&#8217;r modd i wneud, ond &#8216;petai&#8217; a &#8216;phetasai&#8217; yw hi o hyd, a gan eu bod i&#8217;w gweld yn ddigon bodlon cefnogi&#8217;r undeb, maen nhw hefyd yn euog.<\/p>\n<p>Mae &#8220;diwrnod rhyddid&#8221; wedi&#8217;i seilio ar gysyniad crebachlyd o ryddid sy&#8217;n credu bod rhai&#8217;n haeddu rhyddid yn fwy na&#8217;i gilydd. Wrth gwrs, hunan-dwyll yw hyn gan fod y rhai sydd wrthi&#8217;n cwyno fwyaf eisoes yn fwy rhydd na&#8217;r rhelyw. Mae arian yn prynu rhyddid. Maen nhw&#8217;n gwadu&#8217;n biwis y rhyddid go iawn sydd ganddyn nhw am for arnyn nhw eisiau mwy byth. Mae&#8217;r llacio ar amddiffyniadau Covid yn cael ei sbarduno gan brosiect neoryddfrydol gor-unigoleiddio lle mae iechyd yn cael ei leihau&#8217;n nodwedd bersonol, a honno&#8217;n nodwedd y mae&#8217;r unigolyn yn unig yn gyfrifol amdano. Mae&#8217;n barhad o brosiect Thatcher o ddinistrio cymdeithas a chymuned. Mae&#8217;n dweud mai &#8216;fy eiddo i yw fy rhyddid i&#8217;, gan gyson anwybyddu a chosbi&#8217;r cymundod sy&#8217;n eu cynnal. Mae&#8217;n rhith o unigoliaeth sy&#8217;n cael ei chynnal gan allu cyfalafiaeth i droi cysylltiadau cymdeithasol yn ddirgelwch. Mae&#8217;n esgeuluso cydsafiad ac yn esgor ar fleiddiaid unigol. Nid yw&#8217;r pandemig wedi effeithio ar bawb yn yr un ffordd, fel yr awgrymwyd ar un adeg gan y <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/commentisfree\/2020\/apr\/09\/coronavirus-inequality-managers-zoom-cleaners-offices\">cyfryngau<\/a> yn gynharach yn y pandemig. Mae anghydraddoldebau dosbarth ac anghydraddoldebau croestoriadol eraill yn golygu mai cymunedau BAME sydd wedi eu taro <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2020\/dec\/14\/bame-groups-hit-by-covid-triple-whammy-official-uk-study-finds\">waethaf<\/a>. Mae&#8217;n si\u0175r mai&#8217;r cymunedau hyn gaiff eu taro galetaf eto gan &#8220;ddiwrnod rhyddid&#8221;, a hynny o ganlyniad i hiliaeth strwythurol Prydain.<\/p>\n<p>&#8220;<i>To be free is not to have the power to do anything you like; it is to be able to surpass the given toward an open future; the existence of others as a freedom defines my situation and is even the condition of my own freedom.&#8221; <\/i><i>Simone de Beauvoir, yn The Ethics of Ambiguity<\/i><\/p>\n<p>Rydyn ni i gyd am fod yn rhydd rhag Covid-19: does neb ohonom am gael cyfnod clo hir arall yn y gaeaf fel y tro diwethaf, a dim ond pan fyddwn ni&#8217;n wynebu realiti fel y mae&#8217;n bodoli mewn gwirionedd y daw hynny, nid fel breuddwyd mewn twymyn. Pan sylweddolwn ni mai&#8217;r unig strategaeth i oresgyn y feirws yw pan fyddwn ni&#8217;n gosod gwerth ar fywyd <i>pawb<\/i>. Pan gaiff brechlyn byd-eang ei gyflwyno&#8217;n deg, yn hytrach na&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/commentisfree\/2021\/apr\/14\/rich-countries-surplus-covid-vaccines\">imperialaeth brechlyn<\/a> bresennol sydd wedi&#8217;i seilio ar ofynion cyfalafiaeth hiliol. Bod fy rhyddid i&#8217;n dibynnu ar eich rhyddid chi.<\/p>\n<p>Dull gweithredu&#8217;r Deyrnas Unedig hyd yn hyn yw hercio o&#8217;r naill gyfnod clo i&#8217;r llall gan anwybyddu&#8217;r gofynion sylfaenol yr oedd eu hangen er mwyn sicrhau ymateb cadarn, fel sicrhau t\u00e2l llawn i helpu unigolion sy&#8217;n ynysu, system tracio ac olrhain effeithiol a chamau cynnar a phendant i atal y feirws rhag lledaenu&#8217;n ormodol. Dyma&#8217;r gofynion sylfaenol mwyaf elfennol, os anwybyddwn ni am y tro gynigion mwy effeithiol fel incwm sylfaenol brys a gofynion eraill <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/\">a gynigiodd Undod<\/a> ar ddechrau&#8217;r pandemig. Ond byddai&#8217;r rhain yn golygu gosod anghenion pobl uwchlaw anghenion cyfalaf \u2013 credu mewn sancteiddrwydd bywyd, nid sancteiddrwydd cyfalaf.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r ymateb cyfalafol presennol yn golygu y byddwn yn ymladd Covid am gyfnod hir iawn. Yr unig gasgliad posibl yw nad oes awydd gwirioneddol i ddileu Covid-19 \u2013 mae popeth yn troi o gwmpas y gair teg erchyll: &#8220;byw gyda&#8217;r feirws&#8221;. Ond pwy sy&#8217;n byw gyda&#8217;r feirws? Nid y cyfoethog. A minnau newydd dreulio&#8217;r 15 mis diwethaf yn byw gyda Covid Hir, fe alla i dystio nad yw byw gyda&#8217;r feirws yn rhywbeth i&#8217;w groesawu. I&#8217;r rhai sydd wedi colli anwyliaid, fe fyddan nhw wastad yn byw gydag effeithiau&#8217;r feirws.<\/p>\n<p>I osod hyn mewn cyd-destun cyfredol llawnach, rhaid ychwanegu hyd a lled y dioddefaint sydd wedi&#8217;i achosi gan y wladwriaeth Brydeinig, gyda&#8217;r cyhoeddiad diweddar am <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/uk-news\/2021\/jul\/05\/priti-patel-to-reveal-proposals-for-offshore-centres-for-asylum-seekers\">gynlluniau mewnfudo newydd<\/a> a fydd yn arwain at adeiladu gwersylloedd ar y m\u00f4r i ffoaduriaid a&#8217;u troi&#8217;n fwy o droseddwyr, a phasio&#8217;r bil heddlu newydd sy&#8217;n targedu cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac sy&#8217;n ceisio gwahardd protest. Mae&#8217;r Deyrnas Unedig wedi symud i gyfnod newydd yn ei rhyddfrydoliaeth remp, dyma estyniad o&#8217;r &#8220;amgylchedd gelyniaethus&#8221; \u2013 parhau \u00e2&#8217;r broses o ddiogeleiddio&#8217;r gymdeithas er mwyn gwarchod eiddo&#8217;r cyfoethog, wrth i gyfalafiaeth chwalu ymhellach. Mae&#8217;n dweud &#8216;gallaf i fod yn rhydd&#8217; os nad ydych chi&#8217;n rhydd. Os caiff hyn ei oddef, bydd yn arwain at ragor o ddioddefaint a dinistr. Mae&#8217;r alwad i weithredu: &#8216;sosialaeth neu farbariaeth&#8217;, yr un mor berthnasol nawr ag erioed, ac mae yn wir yn alwad i weithredu. Rhaid i&#8217;r chwith beidio ag ymateb drwy blygu a derbyn y datganiadau marwol hyn; rhaid trefnu, ymladd, atal ac adeiladu dewis gwell.<\/p>\n<p>Mae un dewis amgen yn lle ymdrech barhaus y dde o blaid rhyddid a diogelwch unigol i&#8217;w weld yn y <a href=\"https:\/\/aeon.co\/essays\/on-liberty-security-and-our-system-of-racial-capitalism\">darn rhagorol<\/a> hwn gan Olufemi Taiwo, lle mae&#8217;n trafod cysyniad &#8220;diogelwch cydweithredol&#8221; gan gysylltu hwnnw \u00e2&#8217;r ymdrech i <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/01\/18\/diddymu-a-disodli-heddlu-de-cymru-a-phob-heddlu-arall\/\">ddiddymu&#8217;r heddlu a&#8217;r carchar.<\/a> Dyma ddiogelwch <i>gyda<\/i>, nid diogelwch <i>rhag<\/i>. Fel mae&#8217;n ei ddweud: &#8220;The deciding aspect of politics over the coming century will be whether or not popular movements can challenge the current elite stranglehold on who and what is secured in society when crisis strikes.&#8221;<\/p>\n<p>Yng Nghymru, mae hi&#8217;n boenus o glir ers y dechrau fod Llywodraeth Cymru&#8217;n rhy wantan i helpu i warchod ei phobl rhag feirws marwol ac nad oes ganddi&#8217;r ysgogiadau angenrheidiol. Mae&#8217;n dod yn amlwg i bawb fod bod yn yr undeb hwn yn peryglu&#8217;n dyfodol. Fel y llwyddodd Gareth Leaman i <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/14\/feirws-prydeinig-british-virus\/\">ymhelaethu&#8217;n graff<\/a>, yn \u00f4l ar ddechrau&#8217;r pandemig, y feirws Prydeinig sy&#8217;n gorfod cael ei oresgyn: dim ond wedyn y gallwn ni hyd yn oed ddechrau ystyried adeiladu rhyddid.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Gweinidog Iechyd newydd Lloegr, Sajid Javid, wedi cyhoeddi y bydd Boris Johnson, ar 19 Gorffennaf, yn sefyll o flaen pobl Lloegr, yn ddifwgwd ac yn wynebgaled, ac yn datgan &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;&#8221;Diwrnod Rhyddid&#8221;: hunan-dwyll Prydeinig iawn&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":32,"featured_media":1311,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[66,86,83,132,55,87,164],"class_list":["post-1309","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-boris-johnson","tag-coronafirws","tag-covid-19","tag-eluned-morgan","tag-llywodraeth-cymru","tag-mark-drakeford","tag-sajid-javid","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>&quot;Diwrnod Rhyddid&quot;: hunan-dwyll Prydeinig iawn - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"&quot;Diwrnod Rhyddid&quot;: hunan-dwyll Prydeinig iawn - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae Gweinidog Iechyd newydd Lloegr, Sajid Javid, wedi cyhoeddi y bydd Boris Johnson, ar 19 Gorffennaf, yn sefyll o flaen pobl Lloegr, yn ddifwgwd ac yn wynebgaled, ac yn datgan &hellip; Parhau i ddarllen &quot;&#8221;Diwrnod Rhyddid&#8221;: hunan-dwyll Prydeinig iawn&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-07-11T05:05:57+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/javid.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1201\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Alex Heffron\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Alex Heffron\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/\"},\"author\":{\"name\":\"Alex Heffron\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fd3b299c67b7b28aaa24964d394ddb0c\"},\"headline\":\"&#8221;Diwrnod Rhyddid&#8221;: hunan-dwyll Prydeinig iawn\",\"datePublished\":\"2021-07-11T05:05:57+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/\"},\"wordCount\":3138,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/javid.jpg\",\"keywords\":[\"Boris Johnson\",\"coronafirws\",\"COVID-19\",\"Eluned Morgan\",\"Llywodraeth Cymru\",\"Mark Drakeford\",\"Sajid Javid\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/\",\"name\":\"\\\"Diwrnod Rhyddid\\\": hunan-dwyll Prydeinig iawn - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/javid.jpg\",\"datePublished\":\"2021-07-11T05:05:57+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/javid.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/javid.jpg\",\"width\":1600,\"height\":1201},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"&#8220;Diwrnod Rhyddid&#8221;: hunan-dwyll Prydeinig iawn\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fd3b299c67b7b28aaa24964d394ddb0c\",\"name\":\"Alex Heffron\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Alex Heffron\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/alexheffron\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"\"Diwrnod Rhyddid\": hunan-dwyll Prydeinig iawn - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"\"Diwrnod Rhyddid\": hunan-dwyll Prydeinig iawn - undod","og_description":"Mae Gweinidog Iechyd newydd Lloegr, Sajid Javid, wedi cyhoeddi y bydd Boris Johnson, ar 19 Gorffennaf, yn sefyll o flaen pobl Lloegr, yn ddifwgwd ac yn wynebgaled, ac yn datgan &hellip; Parhau i ddarllen \"&#8221;Diwrnod Rhyddid&#8221;: hunan-dwyll Prydeinig iawn\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2021-07-11T05:05:57+00:00","og_image":[{"width":1600,"height":1201,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/javid.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Alex Heffron","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Alex Heffron","Est. reading time":"7 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/"},"author":{"name":"Alex Heffron","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fd3b299c67b7b28aaa24964d394ddb0c"},"headline":"&#8221;Diwrnod Rhyddid&#8221;: hunan-dwyll Prydeinig iawn","datePublished":"2021-07-11T05:05:57+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/"},"wordCount":3138,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/javid.jpg","keywords":["Boris Johnson","coronafirws","COVID-19","Eluned Morgan","Llywodraeth Cymru","Mark Drakeford","Sajid Javid"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/","name":"\"Diwrnod Rhyddid\": hunan-dwyll Prydeinig iawn - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/javid.jpg","datePublished":"2021-07-11T05:05:57+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/javid.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/javid.jpg","width":1600,"height":1201},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/07\/11\/hunan-dwyll-prydeinig\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"&#8220;Diwrnod Rhyddid&#8221;: hunan-dwyll Prydeinig iawn"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fd3b299c67b7b28aaa24964d394ddb0c","name":"Alex Heffron","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g","caption":"Alex Heffron"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/alexheffron\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1309","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/32"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1309"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1309\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1314,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1309\/revisions\/1314"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1311"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1309"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1309"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1309"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}