{"id":1327,"date":"2021-09-03T00:05:25","date_gmt":"2021-09-02T23:05:25","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1327"},"modified":"2021-09-03T00:39:39","modified_gmt":"2021-09-02T23:39:39","slug":"prydau-ysgol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/","title":{"rendered":"Yr achos dros brydau bwyd ysgol am ddim yng Nghymru &#8211; YN AWR"},"content":{"rendered":"<p>Pan fu&#8217;n rhaid i&#8217;r rhan fwyaf o ysgolion gau eu drysau yng ngwanwyn 2020 o ganlyniad i&#8217;r pandemig, amlygwyd gwirionedd annymunol am ddifrifoldeb sefyllfa tlodi plant yng Nghymru. Daeth i&#8217;r amlwg yn syth fod ysgolion, yn ogystal \u00e2 darparu addysg i blant, yn rhan o rwydwaith cymdeithasol hanfodol sy&#8217;n atal plant rhag llwgu. Heb y ddarpariaeth o un pryd poeth y dydd, roedd degau ar filoedd o blant yng Nghymru mewn perygl o fod heb ddigon i&#8217;w fwyta yn ystod y cyfnod clo.<\/p>\n<p>Mewn gwlad lle <a href=\"https:\/\/www.endchildpoverty.org.uk\/\">mae bron i un ymhob tri phlentyn yn cael ei fagu o dan y ffin tlodi<\/a>, mae unrhyw gynnydd mewn costau byw yn rhoi pwysau anioddefol ar gyllideb y teuluoedd hynny. Mae polis\u00efau creulon sy&#8217;n <a href=\"https:\/\/www.complantcymru.org.uk\/2021\/05\/comisiynwyr-plant-y-gwledydd-datganoledig-yn-apelio-ar-lywodraeth-y-deyrnas-unedig-i-ddileur-terfyn-camwahaniaethol-o-ddau-blentyn-ar-fudd-daliadau\/\">fwriadol atal rhai plant rhag derbyn nawdd cymdeithasol<\/a> oherwydd y drefn y cawsant eu geni ynddi, yn ogystal ag effaith degawdau o doriadau i nawdd cymdeithasol, yn golygu bod <a href=\"https:\/\/www.equalityhumanrights.com\/cy\/cumulative-impact-tax-and-welfare-reforms\">dau draean o blant Cymru, a bron i hanner oedolion<\/a> Cymru, bellach yn byw mewn aelwydydd sydd ag incwm is na&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.lboro.ac.uk\/research\/crsp\/mis\/\">isafswm angenrheidiol<\/a> i allu mwynhau safon byw rhesymol.<\/p>\n<p>Yng nghyd-destun y tlodi eang yma, heb reolaeth dros y rhan fwyaf o elfennau nawdd cymdeithasol, prin yw&#8217;r opsiynau sydd gan Lywodraeth Cymru wrth helpu teuluoedd i ymdopi \u00e2&#8217;r caledi dydd i ddydd a brofir wrth fyw mewn tlodi. O dan y cytundeb datganoli presennol, ni all Llywodraeth Cymru greu budd-daliadau newydd na chwaith cynyddu&#8217;r budd-daliadau gwan presennol. Ymddengys fel pe bai hi&#8217;n gymharol fodlon \u00e2&#8217;r rhwystau yma, o ystyried ei amharodrwydd i alw am ddatganoli pellach yn y maes yma &#8211; heb s\u00f4n am annibyniaeth. Heb y pwerau angenrheidiol yma dros nawdd cymdeithasol, yr arf gorau sydd ganddi hi yw&#8217;r &#8216;<a href=\"https:\/\/www.bevanfoundation.org\/views\/solving-poverty-in-wales-party-candidate-special-with-mark-drakeford-am\/\">cyflog cymdeithasol<\/a>&#8216; &#8211; sef rhoi cymorthdaliadau er mwyn helpu gyda chostau byw dydd i ddydd, fel bod modd i bobl ymdopi o leiaf, er na fydd ganddyn nhw incwm gwario. Yn ymarferol, mae hyn yn cynnwys popeth o bresgripsiynau am ddim i fynediad am ddim i amgueddfeydd, i fowlen o rawnfwyd am ddim sy&#8217;n cael ei chynnig i blant cyn iddyn nhw ddechrau eu gwersi bob bore.<\/p>\n<p>Er gwaetha&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-46372451\">siarad parod<\/a> am &#8216;gyffredinoliaeth gynyddol&#8217;, mae sawl rhan o gyflog cymdeithasol y Blaid Lafur yn dibynnu ar brofion modd er mwyn eu cael, ac mae&#8217;r profion hynny&#8217;n aml yn llym. Mae hyn ar ei amlycaf yn achos y polisi Cinio Ysgol am Ddim. Yr wythnos yma, mae dadansoddiad newydd gan y Gr\u0175p Gweithredu ar Dlodi Plant wedi canfod nad yw <a href=\"https:\/\/cpag.org.uk\/sites\/default\/files\/files\/policypost\/Fixing_Lunch.pdf\">42% o&#8217;r plant sy&#8217;n byw mewn tlodi yng Nghymru yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim<\/a>. Tra bo&#8217;r ffaith yma&#8217;n ddigon cywilyddus ynddi&#8217;i hun, mae dadansoddiad pellach o&#8217;r sefyllfa mewn gwledydd eraill wedi dangos bod Cymru&#8217;n eithrio mwy o blant sy&#8217;n byw mewn tlodi rhag cael prydau ysgol am ddim nag unrhyw wlad arall ym Mhrydain, gan gynnwys Lloegr dan Lywodaeth Geidwadol.<\/p>\n<p>Yn rhannol, mae hyn gan fod Llywodraeth Cymru wedi gosod trothwy chwerthinllyd o isel ar gyfer incwm a enillir, sy&#8217;n golygu nad yw teuluoedd yn gymwys i gael dim cymorth gyda phrydau bwyd nac unrhyw dreuliau sy&#8217;n gyslltiedig ag addysg pan fydd eu hincwm o&#8217;u gwaith yn <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/sites\/default\/files\/publications\/2019-03\/newidiadau-i-feini-prawf-cymhwysedd-ar-gyfer-prydau-ysgol-am-ddim-gwybodaeth-gyd-destunol.pdf\">uwch na \u00a37,400 y flwyddyn<\/a>. Mae&#8217;n amlwg bod teulu o bedwar sy&#8217;n byw ar incwm o \u00a38,000 yn bell islaw&#8217;r ffin dlodi gyffredinol, hyd yn oed os oes modd iddynt hawlio budd-daliadau a chredyd treth ar ben hynny. Mae tri chwarter o&#8217;r teuluoedd sy&#8217;n byw mewn tlodi yn gweithio, ond yn methu ag ennill digon o gyflog er mwyn cyrraedd safon byw resymol. Golyga hyn bod y rhan fwyaf o&#8217;r plant sy&#8217;n byw mewn tlodi yn cael eu hatal rhag cael prydau ysgol am ddim, ac nid yw eu hysgolion yn cael dim nawdd ychwanegol i helpu i oresgyn y rhwystrau difrifol mae tlodi&#8217;n eu achosi i blant sy&#8217;n ceisio cyflawni eu potensial addysgol.<\/p>\n<p>Ond y gwarth mwyaf yw na fyddai Cymru ar waelod unrhyw restr o ran prydau ysgol petai hi ond yn gweithredu&#8217;r un polisi sydd eisoes yn bodoli yn Lloegr a&#8217;r Alban, polisi y mae Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid canlyniadol ar ei gyfer. Methiant Cymru i ddarparu <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/universal-infant-free-school-meals-uifsm-2020-to-2021\">prydau ysgol am ddim i holl fabanod<\/a> Cymru yw&#8217;r rheswm pam fod nifer sylweddol uwch o blant sy&#8217;n byw mewn tlodi yn colli allan ar brydau bwyd yn yr ysgol mewn cymhariaeth \u00e2 Lloegr a&#8217;r Alban. Pan fydd plentyn pump oed yn Coventry neu Cumbernauld yn mynd i&#8217;r ysgol, maen nhw&#8217;n eistedd wrth eu cyd-ddisgyblion ac yn cael pryd o fwyd cynnes, am ddim, bob dydd. Ar yr un pryd, yn nhref Caernarfon a dinas Caerdydd, mae&#8217;n rhaid i rieni a gofalwyr dalu \u00a3450 y flwyddyn, ar gyfartaledd, er mwyn i&#8217;w plentyn 5 oed gael bwyta yn yr ysgol.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae 80,000 o blant yn y Cyfnod Sylfaen nad ydyn nhw&#8217;n gallu cael budd o&#8217;r polisi a fyddai&#8217;n darparu pryd o fwyd am ddim i holl blant y babanod. Cymru yw&#8217;r unig wlad ym Mhrydain sy&#8217;n gosod prawf modd ar bob plentyn ar gyfer prydau ysgol, waeth beth yw eu hoedran. Tra bod Yr Alban a Lloegr yn cydnabod y <a href=\"https:\/\/www.iser.essex.ac.uk\/files\/uifsm-impact.pdf\">manteision addysgol, economaidd ac i iechyd a ddaw wrth ddarparu prydau bwyd am ddim i fabanod<\/a>, mae Llywodraeth Cymru&#8217;n dewis rhoi prawf modd i&#8217;r plant bach ifancaf hyd yn oed. O ganlyniad i hyn, mae&#8217;r costau&#8217;n cael eu trosglwyddo at deuluoedd yr 80% o blant y Cyfnod Sylfaen sy&#8217;n disgyn ar ochr anghywir y meini prawf cymhwysedd.<\/p>\n<p>Yn dilyn ymgyrch gref gan gynghrair eang o fudiadau, yn cynnwys elusennau, Cynulliad y Bobl, undebau llafur a grwpiau llawr-gwlad ar draws Cymru, mae&#8217;r angen i wella cyrhaeddiad system prydau bwyd ysgol Cymru&#8217;n amlwg. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/56007918\">Plaid Cymru, y Blaid Dor\u00efaidd yng Nghymru, ac eraill wedi pleidleisio dro ar \u00f4l tro o blaid ymestyn y cymhwyster i gynnwys pob un plentyn sy&#8217;n byw mewn cartref sy&#8217;n derbyn Credyd Cynhwysol<\/a>. Awgrymodd <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/atisn14686\">adolygiad mewnol<\/a> Llywodraeth Cymru o&#8217;i gynulliau gwrth-dlodi bod angen codi&#8217;r trothwy ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim fel bod rhagor o deuluoedd yn gallu cael cefnogaeth gyda chostau bwyd yn yr ysgol. Serch hynny, mae diffyg prydau bwyd babanod Cymru wedi cael llai o sylw, ynghyd \u00e2 gwerth darparu prydau bwyd poeth am ddim i bob un plentyn, waeth beth yw incwm eu cartref.<\/p>\n<p>Tra bydd profion modd yn penderfynu pwy sy&#8217;n gallu cael prydau ysgol am ddim, bydd y stigma cysylltiedig yn parhau, a bydd rhai plant mewn angen yn colli allan. Dim ond agwedd hollol gynhwysol tuag at brydau ysgol sy&#8217;n gallu sicrhau&#8217;r iechyd gorau, yr addysg orau a&#8217;r canlyniadau gorau i bolis\u00efau gwrth-dlodi. Nid yw codi trothwy cymhwyster yn gwneud dim ond gwthio&#8217;r un problemau ymhellach i lawr y l\u00f4n. Waeth beth yw&#8217;r trothwy hwnnw, boed yn \u00a38,000, yn \u00a310,000 neu&#8217;n \u00a318,000, fe fydd yn dal i atal pobl rhag gwneud cais amdano, gan fod profion modd yn eu hanfod yn peri i bobl deimlo cywilydd, ac er y gallwn wadu faint fynnwn ni, mae \u201cPlant Cinio Ysgol am Ddim\u201d yn cael eu labeli, eu monitro, a&#8217;u trin yn wahanol yn ein system addysg.<\/p>\n<p>Credai Undod y dylai Llywodraeth Cymru weithredu ar eu geiriau o ran cyffredinoliaeth, a rhoi diwedd ar y defnydd o brofion modd er mwyn penderfynu pwy sy&#8217;n cael cinio ysgol am ddim.<\/p>\n<p>Mynnwn bod Llywodraeth Cymru yn:<\/p>\n<ul>\n<li>Cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant y Cyfnod Sylfaen ar unwaith, gan ddefnyddio&#8217;r cyllid canlyniadol maent eisoes yn ei dderbyn er mwyn gwneud hyn. Dylai fod yn ginio cytbwys a maethlon &#8211; nid yw&#8217;r cynnig brecwast yn ddigonol.<\/li>\n<li>Cael gwared \u00e2&#8217;r profion modd yn llwyr, er mwyn sicrhau bod pob disgybl ar bob cam o&#8217;u haddysg orfodol yn gallu cael prydau am ddim yn yr ysgol.<\/li>\n<li>Sicrhau bod pob pryd bwyd yn ysgolion Cymru wedi ei brynu mewn modd cynaliadwy, a sicrhau bod y cynhwysion a ddefnyddir yn cael eu cynhyrchu i&#8217;r safonau amgylcheddol a moesegol uchaf posib, tra&#8217;n sicrhau hawliau&#8217;r holl weithwyr sy&#8217;n rhan o&#8217;r broses o ddarparu&#8217;r prydau bwyd.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Cefnogwch<\/h2>\n<p>Cefnogwch y galwadau uchod drwy gysylltu \u00e2&#8217;ch <a href=\"https:\/\/www.writetothem.com\/?a=wac,wae\">aelodau Senedd<\/a> gan ddefnyddio&#8217;r templed isod.<\/p>\n<h2>E-bost templed<\/h2>\n<p>Annwyl _____<\/p>\n<p>Parthed: Cinio ysgol am ddim yn ysgolion Cymru<\/p>\n<p>Ysgrifennaf atoch er mwyn nodi fy mhryderon ynglyn \u00e2&#8217;r profion modd llym y mae Llywodraeth Cymru&#8217;n eu gosod ar deuluoedd er mwyn penderfynu pa ddisgyblion sy&#8217;n gymwys am ginio ysgol am ddim.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n peri pryder difrifol nad yw Llywodraeth Cymru&#8217;n llwyddo i ddarparu <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/universal-infant-free-school-meals-uifsm-2020-to-2021\">cinio ysgol am ddim i blant<\/a> y babanod, gan arwain at lefel sylweddol uwch o blant sy&#8217;n byw mewn tlodi yng Nghymru yn colli allan ar ginio ysgol o gymharu \u00e2 phlant sy&#8217;n byw mewn tlodi yn Lloegr a&#8217;r Alban.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae modd i blant pump oed sy&#8217;n mynd i&#8217;r ysgol yn Lloegr a&#8217;r Alban gael pryd o fwyd cynnes, am ddim, bob dydd. Ar yr un pryd, yng Nghymru, mae&#8217;n rhaid i rieni a gofalwyr dalu \u00a3450 y flwyddyn, ar gyfartaledd, er mwyn i&#8217;w plentyn 5 oed allu bwyta yn yr ysgol. Cymru yw&#8217;r unig wlad ym Mhrydain sy&#8217;n gosod prawf modd ar bob plentyn i gael prydau ysgol am ddim, waeth beth yw eu hoedran.<\/p>\n<p>Tra bod yr Alban a Lloegr yn cydnabod y <a href=\"https:\/\/www.iser.essex.ac.uk\/files\/uifsm-impact.pdf\">buddion addysgol, economaidd ac i iechyd a ddaw drwy ddarparu prydau bwyd am ddim<\/a> i fabanod, mae Llywodraeth Cymru&#8217;n dewis rhoi prawf modd i&#8217;r plant ifancaf hyd yn oed. O ganlyniad i hyn, mae&#8217;r costau&#8217;n cael eu trosglwyddo at deuluoedd yr <a href=\"https:\/\/cpag.org.uk\/news-blogs\/news-listings\/wales-over-half-children-poverty-missing-out-free-school-meals\">80% o blant y Cyfnod Sylfaen sy&#8217;n disgyn ar ochr anghywir y meini prawf cymhwysedd<\/a>.<\/p>\n<p>Wrth i achosion o dlodi plant gynyddu, a gyda&#8217;r teuluoedd sydd \u00e2 phlant ifanc fwyaf tebygol o ddioddef, mae&#8217;n bryd i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn cymorth cynhwysol i helpu&#8217;r teuluoedd hynny ledled Cymru sy&#8217;n ei chael hi&#8217;n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Mae ein plant ni&#8217;n haeddu bwyd maethlon sy&#8217;n eu llenwi, sy&#8217;n eu cadw&#8217;n iach ac sy&#8217;n eu helpu i dyfu ac i ddysgu. Ni ddylai&#8217;r un plentyn orfod profi&#8217;r stigma a&#8217;r boen a ddaw wrth beidio \u00e2 gallu bwyta gyda&#8217;u ffrindiau oherwydd bod llai o arian gan eu rhieni.<\/p>\n<p>Gofynnaf i chi alw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant y Cyfnod Sylfaen ar unwaith, gan ddefnyddio&#8217;r cyllid canlyniadol maent esioes yn ei dderbyn, er mwyn gwneud hwn. Dylai fod yn ginio cytbwys a maethlon &#8211; nid yw&#8217;r cynnig brecwast yn ddigonol.<\/li>\n<li>Cael gwared \u00e2&#8217;r profion modd yn llwyr, er mwyn sicrhau bod pob disgybl ar bob cam o&#8217;u haddysg orfodol yn gallu cael prydau am ddim yn yr ysgol.<\/li>\n<li>Sicrhau bod pob pryd bwyd yn ysgolion Cymru wedi ei brynu mewn modd cynaliadwy, a sicrhau bod y cynhwysion a ddefnyddir yn cael eu cynhyrchu i&#8217;r safonau amgylcheddol a moesegol uchaf posib, tra&#8217;n sicrhau hawliau&#8217;r holl weithwyr sy&#8217;n rhan o&#8217;r broses o ddarparu&#8217;r prydau bwyd.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Cofion,<\/p>\n<p>_____<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pan fu&#8217;n rhaid i&#8217;r rhan fwyaf o ysgolion gau eu drysau yng ngwanwyn 2020 o ganlyniad i&#8217;r pandemig, amlygwyd gwirionedd annymunol am ddifrifoldeb sefyllfa tlodi plant yng Nghymru. Daeth i&#8217;r &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Yr achos dros brydau bwyd ysgol am ddim yng Nghymru &#8211; YN AWR&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":1328,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-1327","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Yr achos dros brydau bwyd ysgol am ddim yng Nghymru - YN AWR - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Yr achos dros brydau bwyd ysgol am ddim yng Nghymru - YN AWR - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Pan fu&#8217;n rhaid i&#8217;r rhan fwyaf o ysgolion gau eu drysau yng ngwanwyn 2020 o ganlyniad i&#8217;r pandemig, amlygwyd gwirionedd annymunol am ddifrifoldeb sefyllfa tlodi plant yng Nghymru. Daeth i&#8217;r &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Yr achos dros brydau bwyd ysgol am ddim yng Nghymru &#8211; YN AWR&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-09-02T23:05:25+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-09-02T23:39:39+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/prydau-bwyd-ysgol-am-ddim.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"501\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Gohebydd\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Gohebydd\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/\"},\"author\":{\"name\":\"Gohebydd\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\"},\"headline\":\"Yr achos dros brydau bwyd ysgol am ddim yng Nghymru &#8211; YN AWR\",\"datePublished\":\"2021-09-02T23:05:25+00:00\",\"dateModified\":\"2021-09-02T23:39:39+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/\"},\"wordCount\":3453,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/prydau-bwyd-ysgol-am-ddim.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/\",\"name\":\"Yr achos dros brydau bwyd ysgol am ddim yng Nghymru - YN AWR - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/prydau-bwyd-ysgol-am-ddim.jpg\",\"datePublished\":\"2021-09-02T23:05:25+00:00\",\"dateModified\":\"2021-09-02T23:39:39+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/prydau-bwyd-ysgol-am-ddim.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/prydau-bwyd-ysgol-am-ddim.jpg\",\"width\":800,\"height\":501},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Yr achos dros brydau bwyd ysgol am ddim yng Nghymru &#8211; YN AWR\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\",\"name\":\"Gohebydd\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Gohebydd\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Yr achos dros brydau bwyd ysgol am ddim yng Nghymru - YN AWR - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Yr achos dros brydau bwyd ysgol am ddim yng Nghymru - YN AWR - undod","og_description":"Pan fu&#8217;n rhaid i&#8217;r rhan fwyaf o ysgolion gau eu drysau yng ngwanwyn 2020 o ganlyniad i&#8217;r pandemig, amlygwyd gwirionedd annymunol am ddifrifoldeb sefyllfa tlodi plant yng Nghymru. Daeth i&#8217;r &hellip; Parhau i ddarllen \"Yr achos dros brydau bwyd ysgol am ddim yng Nghymru &#8211; YN AWR\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2021-09-02T23:05:25+00:00","article_modified_time":"2021-09-02T23:39:39+00:00","og_image":[{"width":800,"height":501,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/prydau-bwyd-ysgol-am-ddim.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Gohebydd","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Gohebydd","Est. reading time":"7 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/"},"author":{"name":"Gohebydd","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538"},"headline":"Yr achos dros brydau bwyd ysgol am ddim yng Nghymru &#8211; YN AWR","datePublished":"2021-09-02T23:05:25+00:00","dateModified":"2021-09-02T23:39:39+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/"},"wordCount":3453,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/prydau-bwyd-ysgol-am-ddim.jpg","articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/","name":"Yr achos dros brydau bwyd ysgol am ddim yng Nghymru - YN AWR - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/prydau-bwyd-ysgol-am-ddim.jpg","datePublished":"2021-09-02T23:05:25+00:00","dateModified":"2021-09-02T23:39:39+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/prydau-bwyd-ysgol-am-ddim.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/prydau-bwyd-ysgol-am-ddim.jpg","width":800,"height":501},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/09\/03\/prydau-ysgol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Yr achos dros brydau bwyd ysgol am ddim yng Nghymru &#8211; YN AWR"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538","name":"Gohebydd","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","caption":"Gohebydd"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1327","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1327"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1327\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1333,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1327\/revisions\/1333"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1328"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1327"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1327"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1327"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}