{"id":133,"date":"2019-04-08T14:38:14","date_gmt":"2019-04-08T14:38:14","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=133"},"modified":"2020-06-17T16:06:36","modified_gmt":"2020-06-17T15:06:36","slug":"quebec-solidaire","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/","title":{"rendered":"Cyfweliad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, ymgyrchydd Qu\u00e9bec Solidaire"},"content":{"rendered":"<p><em>Adam Johannes o Gynulliad y Bobl Caerdydd sy&#8217;n siarad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, aelod o Qu\u00e9bec Solidaire (QS). Ym mis Hydref 2018, cafwyd etholiad hanesyddol yn Qu\u00e9bec, gyda&#8217;r ddwy blaid sydd yn hanesyddol wedi ymladd i lywodraethu ers cenhedloedd yn derbyn cweir gan etholwyr oedd yn awyddus i weld newid. Plaid adain dde Coalition Avenir Qu\u00e9bec (CAQ) fanteisiodd yn bennaf ar hyn, ond roedd yr etholiad hefyd yn llwyddiant i Queb\u00e9c Solidaire, plaid radical adain chwith sy&#8217;n cefnogi annibyniaeth. Daeth y llwyddiant hwn ar draul y Parti Qu\u00e9becois, y blaid sy&#8217;n draddodiadol wedi bod o blaid annibyniaeth, gyda QS yn sefyll ar blatfform gwyrdd gyda pholis\u00efau&#8217;n cynnwys rhoi&#8217;r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil, rhwystro adeiladu ffyrdd, lleihau pris teithio ar fws neu dr\u00ean, a chreu miloedd o swyddi er budd yr hinsawdd.<\/em><\/p>\n<p><strong>AJ: Beth yw Qu\u00e9bec Solidaire?<\/strong><\/p>\n<p>J-FJ: Qu\u00e9bec Solidaire, ym marn nifer, yw&#8217;r blaid sy&#8217;n poeni fwyaf am yr amgylchedd. Fyddwch chi ddim yn clywed QS yn dadlau bod rhaid blaenoriaethu swyddi dros faterion amgylcheddol &#8211; a hyd yn oed os ydynt yn cynnig mesurau i liniaru&#8217;r effeithiau, mae eu hamcanion yn glir. Eu bwriad yw cefnu ar economi sy&#8217;n seiliedig ar olew &#8211; a hynny yng Nghanada, lle mae gan lob\u00efwyr olew gryn b\u0175er!<\/p>\n<p>Maen nhw o blaid cyfiawnder cymdeithasol, cyfartaledd, ymyrraeth y wladwriaeth yn yr economi, ac ail-ddosbarthu cyfoeth. Maen nhw&#8217;n awgrymu eglurder ieithyddol &#8211; y Ffrangeg fel iaith gyffredin i bawb. Nid bwriad hyn yw codi ofn ar bobl &#8211; mae&#8217;n golygu bod pobl yn ddwyieithog yn hytrach na&#8217;n rhoi&#8217;r gorau i siarad eu mamiaith.<\/p>\n<p>Mae cynrychiolaeth gyfrannol yn uchel ar eu hagenda. Maen nhw&#8217;n blaid ffeministaidd, yn erbyn globaleiddio &#8211; neu&#8217;n hytrach, maen nhw&#8217;n cynnig math gwahanol o lobaleiddio sy&#8217;n rhoi pobl cyn cwmn\u00efau. Mae cynllun Qu\u00e9bec Solidaire am annibyniaeth yn cynnwys sicrhau bod 11 cenedl frodorol Qu\u00e9bec yn sefyll fel cenhedloedd annibynnol a chydnabyddedig gyda&#8217;u hieithoedd a&#8217;u diwylliannau eu hunain.<\/p>\n<p><strong>AJ: Beth yw hanes y blaid, a beth sydd wrth wraidd dirywiad y Parti Qu\u00e9b\u00e9cois (PQ), y blaid draddodiadol sydd dros annibyniaeth? <\/strong><\/p>\n<p>J-FJ: Sefydlwyd Qu\u00e9bec Solidaire yn 2006 ym Montr\u00e9al, wrth i blaid adain chwith yr Union des Forces Progressistes a&#8217;r mudiad alter-globaleiddio Option Citoyenne ddod at ei gilydd.<\/p>\n<p>Yn 2017, daeth Option Nationale, plaid oedd yn gryf o blaid annibyniaeth, a Qu\u00e9bec Solidaire, plaid oedd yn gryf o blaid yr amgylchedd, at ei gilydd. Yn sydyn, dyma bethau&#8217;n cwympo i&#8217;w lle, yr amgylchedd, yr iaith, diwylliant, a grymuso. Does dim angen i ni dderbyn llai o wasanaethau, mwy o blastig, ysgolion a moddion drud, na chuddio ein mamiaith er mwyn dod ymlaen yn ein bywydau. Roedd opsiynau amgen ar gael, ond nawr roedd popeth yn gwneud synnwyr, a hynny gydag ymdeimlad cynyddol o argyfwng.<\/p>\n<p>Mae Qu\u00e9bec Solidaire yn gyfuniad o bobl dalentog, sydd wedi ennill y profiad o ymladd etholiadau ac wedi ennill 10 sedd, 2 o&#8217;r rhain yn ninas Qu\u00e9bec, sef cadarnle unoliaethwyr adain dde Canada.<\/p>\n<p>Dechreuodd Qu\u00e9bec Solidaire gyda llond llaw o bleidleisiau. Ddegawd yn ddiweddarach, roedd y blaid wedi ennill 650,000. Ond o ran strategaeth, roedd yn bwysig cael gwared \u00e2 siawns y PQ o ennill mwyafrif. Yn hynny o beth, mae hyn yn cynyddu dylanwad QS. Fel maen nhw&#8217;n dweud, This Town Ain&#8217;t Big Enough for Both of Us\u2026<\/p>\n<p>Mae&#8217;r PQ, sy&#8217;n draddodiadol o blaid annibyniaeth ac yn blaid adain chwith, wedi tyfu i fod yn gynghrair gwleidyddol ehangach ar \u00f4l dod mor agos i ennill refferendwm annibyniaeth 1995. Wedi hynny, efallai bod y PQ yn cael ei ystyried i fod yn blaid genedlaetholgar saff, heb wir bwrpas, yn ymbellhau oddi wrth eu syniadau ar annibyniaeth, gan golli ffocws o&#8217;r herwydd.<\/p>\n<p><strong>AJ: Fe gyfarf\u00fbm am y tro cyntaf wedi streic hir gan fudiad myfyrwyr Qu\u00e9bec yn erbyn codi ffioedd dysgu, oedd yn weithred o&#8217;r un anian ag Occupy yn erbyn llymder ac anghydraddoldeb.<\/strong><\/p>\n<p>Roedd y Printemps \u00c9rable, neu Wanwyn y Fasarnen, yn gynghrair unigryw. Ar y pryd, dydw i ddim yn credu y byddwn i wedi cytuno gyda llawer o&#8217;r syniadau oedd yn cael eu cyflwyno gan rai unigolion. Efallai dy fod ti&#8217;n cofio ei fod yn adeg wallgof, ond prydferth. Ond cytunodd pawb i roi eu gwahaniaethau i&#8217;r naill ochr er mwyn canolbwyntio ar un peth: gwrthod gwneud addysg yn fusnes.<\/p>\n<p>Chwaraeodd y cyfryngau cymdeithasol r\u00f4l ar y pryd. Roeddem fel petai ni&#8217;n gallu ymwneud ag amrywiaeth eang o bobl, o bob math, a cymaint mwy na heddiw. Dyna sut y des i gysylltiad gyda thi Adam, ond hefyd gyda phobl yn yr Alban, Catalonia, Ffrainc, Lloegr a hyd yn oed Pacistan!<\/p>\n<p><strong>AJ: Beth ddigwyddodd yn yr etholiad?<\/strong><\/p>\n<p>Mae gwleidyddiaeth yn Qu\u00e9bec yn rhanedig ar sail iaith. Mae gwirionedd i&#8217;r ystrydeb: mae&#8217;r rheini nad ydynt yn ystyried eu hunain i fod yn rhan o gymuned Qu\u00e9bec na&#8217;n siarad Ffrangeg yn cefnogi&#8217;r Blaid Ryddfrydol, a&#8217;r rheini sy&#8217;n siarad Ffrangeg yn tueddu i ffafrio cymysgedd o bleidiau ar y chwith ac ar y dde. Dros ugain mlynedd yn \u00f4l, arweiniodd y Parti Qu\u00e9becois refferendwm dros annibyniaeth gan greu cynghrair eang. Wedyn, aeth nifer o&#8217;r pleidiau hynny ar drywydd gwahanol.<\/p>\n<p>Y tro hyn, mae&#8217;n edrych fel petai&#8217;r ddwy hen blaid draddodiadol, sydd fel arfer yn llywodraethu yn eu tro, wedi colli allan i bleidiau newydd. Enillodd Rhyddfrydwyr Qu\u00e9bec 31\/125 o seddi gyda 1,001,037 o bleidleisiau, sy&#8217;n agos i&#8217;w sg\u00f4r isaf erioed. Enillodd y PQ 10\/125 o seddi, eu nifer isaf ers 40 mlynedd, gyda 687,995 o bleidleisiau, eu sg\u00f4r isaf erioed. Efallai mai dyma fydd etholiad olaf y PQ.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n debyg bod y newid hwn yn gysylltiedig \u00e2 niferoedd isel yn pleidleisio, diffyg ffydd etholwyr o achos sgandalau llygredd a pholis\u00efau annigonol o ran cynnig gwir newid, yn ogystal \u00e2 diffyg cyfeiriad\/arweiniad oddi wrth y ddwy brif blaid.<\/p>\n<p>Enillodd plaid newydd Coalition Avenir Qu\u00e9bec (CAQ) yr etholiadau, gyda 74\/125 o&#8217;r seddi (1,509455 o bleidleisiau), gyda Qu\u00e9bec Solidaire yn synnu pawb gan ennill 10 o seddi a 649,503 o bleidleisiau, eu sg\u00f4r orau erioed.<\/p>\n<p><strong>AJ: Elli di ddisgrifio&#8217;r sefyllfa ieithyddol?<\/strong><\/p>\n<p>JF-J: Mae Canada wedi&#8217;i rhannu mewn i gymunedau Ffrangeg a Saesneg eu hiaith, yn enwedig yn Qu\u00e9bec, Ond a bod yn onest, o ran ystadegau yn y gorffennol, mae&#8217;r gwir raniad yn bodoli rhwng y \u2018rheini fyddai ddim yn mynd yn agos i&#8217;r Ffrangeg&#8217; a phobl amlieithog.<\/p>\n<p>Mae pobl amlieithog yn debygol o gefnogi annibyniaeth i&#8217;r un graddau \u00e2 phobl Ffrangeg eu hiaith, ac mae hyn hefyd yn gallu bod yn amlwg mewn cymunedau brodorol.<\/p>\n<p>Yn ddaearyddol, mae rhaniad rhwng y dwyrain a&#8217;r gorllewin. Yn Qu\u00e9bec, mae siaradwyr Ffrangeg yn tueddu i fyw yn y dwyrain a siaradwyr Saesneg mwy diweddar yn debygol o fod yn y gorllewin.<\/p>\n<p>Nid yr un yw&#8217;r frwydr dros ennill cydnabyddiaeth i&#8217;r Ffrangeg yng Nghanada ag ennill cydnabyddiaeth i Qu\u00e9bec yng Nghanada, gan mai Qu\u00e9bec yw&#8217;r unig le yng Nghanada heddiw lle mae&#8217;r Ffrangeg yn iaith y mwyafrif. Felly pan fo pobl Qu\u00e9bec yn anfon eu trethi i helpu gr\u0175p bach o siaradwyr Ffrangeg yn Toronto, dinas fwyaf Canada sydd hefyd yn Saesneg ei hiaith, rhaid meddwl ai \u2018helpu Canadiaid Ffrangeg eu hiaith&#8217; yw hyn, neu wastraffu adnoddau prin. Unwaith i ni dalu ein trethi, rydyn ni&#8217;n colli rheolaeth ar yr arian. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio at ddibenion Canada. Yn fy marn i, dydy darparu gwasanaethau cyfieithu i&#8217;r Ffrangeg ar gyfer diwydiannau niwclear a thar ddim yn llawer o gysur.<\/p>\n<p>Cytunodd y llywodraeth geidwadol i gydnabod Qu\u00e9bec fel cenedl gyflawn n\u00f4l yn 2006, gyda&#8217;r amod na fyddai goblygiadau gwleidyddol na chyfreithiol i hyn; dyma enghraifft nodweddiadol o agwedd Canada! Ac mae wyth miliwn ohonom ni yn Qu\u00e9bec, dychmygwch sut mae hi i gymunedau brodorol!<\/p>\n<p><strong>AJ: Beth am Coalition Avenir Qu\u00e9bec? Ydy&#8217;r blaid yn eithaf adain dde?<\/strong><\/p>\n<p>JF-J: Mae CAQ yn eithaf agos i boblyddiaeth adain dde, er, yn \u2018arddull Qu\u00e9bec&#8217;, sy&#8217;n golygu nad ydyn nhw wedi cyrraedd lefelau echrydus Trump eto.<\/p>\n<p>Dydy CAQ ddim yn cwestiynu lle Qu\u00e9bec yn Ffederasiwn Canada, maen nhw&#8217;n croesawu tyngu llw i&#8217;r Frenhines (sy&#8217;n orfodol), maen nhw eisiau gostwng trethi, lleihau gwasanaethau, ac mae&#8217;n edrych yn debyg eu bod nhw&#8217;n ystyried preifateiddio asedau sy&#8217;n berchen i&#8217;r llywodraeth.<\/p>\n<p>Ymysg eu blaenoriaethau, mae cefnogaeth i&#8217;r lobi tar o Orllewin Canada, ac felly maen nhw&#8217;n cefnogi gosod pibellau olew mewn i&#8217;r Unol Daleithiau a thrwy ffordd forol Saint Laurent at Ewrop. Efallai mai dyma fydd sail y gwrthwynebiad mwyaf iddynt oddi wrth y bobl. Mae&#8217;r amgylchedd yn uchel o ran blaenoriaethau&#8217;r rhan fwyaf, ond hyd yn hyn, mae&#8217;r galw i weithredu wedi bod ar goll.<\/p>\n<p><strong>AJ: Sut mae neo-ryddfrydiaeth yn effeithio ar Qu\u00e9bec a Chanada?<\/strong><\/p>\n<p>JF-J: Mae Queb\u00e9c fwy neu lai wedi cael ein hamddiffyn oddi wrth y neo-ryddfrydiaeth mwyaf llawdrwm a llymdra, efallai gan ein bod bron wedi ennill annibyniaeth yn 1995 gyda 49.42% o&#8217;r bleidlais.<\/p>\n<p>Ond heddiw, mae hyn yn newid yn gyflym. Mae materion amgylcheddol yn dod yn fwy ac yn fwy amlwg, ac mae&#8217;r CAQ yn awyddus iawn i breifateiddio.<\/p>\n<p>Rhaid rhoi hyn i gyd mewn i&#8217;r persbectif cywir, fodd bynnag. Mae Gorllewin Canada yn cynnwys adnoddau tar sylweddol all ddarparu&#8217;r byd cyfan gydag olew am y 200 mlynedd nesaf. O bosib, bydd hyn yn creu trychineb amgylcheddol sylweddol.<\/p>\n<p>Roedd y Ceidwadwr Stephen Harper arfer cynnal cyfarfodydd ar lefel uchel gyda gwleidyddion yn y DU; roedd dod o hyd i gwsmeriaid ar gyfer yr olew hwn yn un o&#8217;i flaenoriaethau. Mae Justin Truedau, Prif Weinidog Rhyddfrydol Canada hefyd yn cynnal cyfarfodydd lefel uchel gyda gwleidyddion y DU i ddod o hyd i farchnadoedd ar gyfer olew&#8217;r tiroedd tar. Pan roedd y blaid canol chwith, y Democratiaid Newydd, yn agos yn y polau piniwn, doedd dim dewis gan eu harweinydd ond cefnogi economi&#8217;r tiroedd tar, er bod eu harweinydd yn cael ei ystyried i fod yn amgylcheddwr. Ar y chwith ac ar y dde, mae popeth yng Nghanada nawr am y tiroedd tar, am bibellau olew, ac am allforio.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae gan Qu\u00e9bec adnoddau p\u0175er trydan d\u0175r sylweddol. Mae&#8217;r 11 cenedl arall yn Qu\u00e9bec, sy&#8217;n cynnwys yr Innu, Atikamek, Mohawk a&#8217;r Cree wedi&#8217;u rhannu mewn i nifer sylweddol o gymunedau ac felly heb lawer o ddylanwad gwleidyddol. Fodd bynnag, rydym oll yn rhannu pryderon ynghylch y diriogaeth.<\/p>\n<p>Pan fyddwn ni&#8217;n annibynnol, gallwn oll rwystro prosiectau pibellau olew ar ein tiriogaeth, neu fuddsoddi&#8217;r arian mewn ffordd wahanol. Heddiw, mae pawb yng Nghanada yn ariannu&#8217;r tiroedd tar a&#8217;r diwydiant niwclear trwy ein trethi, er enghraifft. Byddai annibyniaeth oddi wrth Ganada yn galluogi Qu\u00e9bec i ffurfio cytundeb newydd yn seiliedig ar wladoli adnoddau naturiol, fydd yn ein galluogi i ailddosbarthu&#8217;r cyfoeth yn fwy hafal, yn ogystal \u00e2 heddlua&#8217;r diriogaeth yn fwy priodol. Gall yr argae p\u0175er trydan d\u0175r barhau i ddarparu trydan am genedlaethau. Ar hyn o bryd, y diwydiant olew sy&#8217;n deall y cyfle hwn orau, ond pan fydd pawb wedi deall hwn gallwn sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed yn y byd, a rhoi tro ar awgrymu agenda gwahanol.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Adam Johannes o Gynulliad y Bobl Caerdydd sy&#8217;n siarad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, aelod o Qu\u00e9bec Solidaire (QS). Ym mis Hydref 2018, cafwyd etholiad hanesyddol yn Qu\u00e9bec, gyda&#8217;r ddwy blaid sydd &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Cyfweliad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, ymgyrchydd Qu\u00e9bec Solidaire&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":12,"featured_media":140,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[119],"tags":[41,42,39,40],"class_list":["post-133","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyfweliadau","tag-amgylchedd","tag-newid-hinsawdd","tag-quebec","tag-quebec-solidaire","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cyfweliad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, ymgyrchydd Qu\u00e9bec Solidaire - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cyfweliad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, ymgyrchydd Qu\u00e9bec Solidaire - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Adam Johannes o Gynulliad y Bobl Caerdydd sy&#8217;n siarad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, aelod o Qu\u00e9bec Solidaire (QS). Ym mis Hydref 2018, cafwyd etholiad hanesyddol yn Qu\u00e9bec, gyda&#8217;r ddwy blaid sydd &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Cyfweliad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, ymgyrchydd Qu\u00e9bec Solidaire&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2019-04-08T14:38:14+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-06-17T15:06:36+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/quebec.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1145\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"450\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Adam Johannes\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Adam Johannes\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"18 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/\"},\"author\":{\"name\":\"Adam Johannes\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ddb57a9168f3cf6011f710420f451c7b\"},\"headline\":\"Cyfweliad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, ymgyrchydd Qu\u00e9bec Solidaire\",\"datePublished\":\"2019-04-08T14:38:14+00:00\",\"dateModified\":\"2020-06-17T15:06:36+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/\"},\"wordCount\":3723,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/quebec.jpg\",\"keywords\":[\"amgylchedd\",\"newid hinsawdd\",\"Qu\u00e9bec\",\"Qu\u00e9bec Solidaire\"],\"articleSection\":[\"Cyfweliadau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/\",\"name\":\"Cyfweliad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, ymgyrchydd Qu\u00e9bec Solidaire - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/quebec.jpg\",\"datePublished\":\"2019-04-08T14:38:14+00:00\",\"dateModified\":\"2020-06-17T15:06:36+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/quebec.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/quebec.jpg\",\"width\":1145,\"height\":450},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cyfweliad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, ymgyrchydd Qu\u00e9bec Solidaire\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ddb57a9168f3cf6011f710420f451c7b\",\"name\":\"Adam Johannes\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fcd7fe987db2d8991d6e4d70fb3df8a7140a366e4a40a29ea4fcd0c293a99f40?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fcd7fe987db2d8991d6e4d70fb3df8a7140a366e4a40a29ea4fcd0c293a99f40?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fcd7fe987db2d8991d6e4d70fb3df8a7140a366e4a40a29ea4fcd0c293a99f40?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Adam Johannes\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/adamjohannes\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cyfweliad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, ymgyrchydd Qu\u00e9bec Solidaire - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Cyfweliad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, ymgyrchydd Qu\u00e9bec Solidaire - undod","og_description":"Adam Johannes o Gynulliad y Bobl Caerdydd sy&#8217;n siarad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, aelod o Qu\u00e9bec Solidaire (QS). Ym mis Hydref 2018, cafwyd etholiad hanesyddol yn Qu\u00e9bec, gyda&#8217;r ddwy blaid sydd &hellip; Parhau i ddarllen \"Cyfweliad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, ymgyrchydd Qu\u00e9bec Solidaire\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2019-04-08T14:38:14+00:00","article_modified_time":"2020-06-17T15:06:36+00:00","og_image":[{"width":1145,"height":450,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/quebec.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Adam Johannes","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Adam Johannes","Est. reading time":"18 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/"},"author":{"name":"Adam Johannes","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ddb57a9168f3cf6011f710420f451c7b"},"headline":"Cyfweliad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, ymgyrchydd Qu\u00e9bec Solidaire","datePublished":"2019-04-08T14:38:14+00:00","dateModified":"2020-06-17T15:06:36+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/"},"wordCount":3723,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/quebec.jpg","keywords":["amgylchedd","newid hinsawdd","Qu\u00e9bec","Qu\u00e9bec Solidaire"],"articleSection":["Cyfweliadau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/","name":"Cyfweliad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, ymgyrchydd Qu\u00e9bec Solidaire - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/quebec.jpg","datePublished":"2019-04-08T14:38:14+00:00","dateModified":"2020-06-17T15:06:36+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/quebec.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/quebec.jpg","width":1145,"height":450},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/04\/08\/quebec-solidaire\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cyfweliad \u00e2 Jean-Fran\u00e7ois Joubert, ymgyrchydd Qu\u00e9bec Solidaire"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ddb57a9168f3cf6011f710420f451c7b","name":"Adam Johannes","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fcd7fe987db2d8991d6e4d70fb3df8a7140a366e4a40a29ea4fcd0c293a99f40?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fcd7fe987db2d8991d6e4d70fb3df8a7140a366e4a40a29ea4fcd0c293a99f40?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fcd7fe987db2d8991d6e4d70fb3df8a7140a366e4a40a29ea4fcd0c293a99f40?s=96&d=mm&r=g","caption":"Adam Johannes"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/adamjohannes\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/133","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/12"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=133"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/133\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":139,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/133\/revisions\/139"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/140"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=133"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=133"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=133"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}