{"id":1357,"date":"2021-12-06T16:34:30","date_gmt":"2021-12-06T16:34:30","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1357"},"modified":"2026-05-21T10:46:30","modified_gmt":"2026-05-21T09:46:30","slug":"y-gymru-wledig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/","title":{"rendered":"Beth yw problem y Gymru wledig?"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<p class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Mae\u2019r Gymru wledig mewn trafferth. Mwy o drafferth mae\u2019n debyg nag ers cyn cof, a hynny o du grymoedd a thueddiadau sy&#8217;n annhebygol o ddiflannu\u2019n fuan iawn. Hen stori yw camweithredu\u2019r economi yn y fan yma wrth gwrs. Mae&#8217;r problemau cymdeithasol sy&#8217;n deillio o gyflogau gwael, gwerth ychwanegol isel, diffyg cyfle economaidd ac incwm o\u2019r farchnad yn niferus ac yn hen. Mae&#8217;r rhain yn cynnwys tlodi, gwagio trefi, darpariaeth gwasanaethau gwael yng nghefn gwlad, ac allfudo ymysg yr ifanc. Felly mae ysgolion yn cau wrth i deuluoedd ifanc ymadael. Mae pentrefi pert ar lan m\u00f4r ac yn y mynyddoedd yn ymdrechu\u2019n fwyfwy i ymateb i ofynion economaidd cyfnewidiol, ond hanfodol, twristiaid. Mae polis\u00efau cynllunio\u2019n gwbl annigonol i ymdopi \u00e2&#8217;r duedd sy\u2019n gweld pobl gefnog o&#8217;r tu allan (ie, Cymry yn ogystal \u00e2 Saeson) yn cadw <i>pied-\u00e0-terre<\/i> gwledig sy&#8217;n sefyll yn wag, ac yn ddiwerth yn gymdeithasol ac yn economaidd, am naw o bob deuddeg mis.<\/p>\n<p class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Ac ar y dirwedd <i>ei hunan,<\/i> prin fod pethau&#8217;n well. Fel arfer, yr unig beth sy\u2019n torri ar draws hectarau di-rif o borfeydd defaid yw planhigfeydd conwydd, ambell fferm laeth, a ffermydd gwynt sy&#8217;n perthyn i gwmn\u00efau amlwladol. Ychydig iawn o hyn sy\u2019n <i>wirioneddol <\/i>hyfyw yn y &#8216;farchnad rydd&#8217;, ac mae&#8217;r rhan fwyaf ohono ar fin cael ei droi ar ei ben gan gyfuniad o liniaru ac addasu brys yn sgil newid hinsawdd, demograffeg y sector ffermio, a\u2019r canlyniadau niferus sy&#8217;n dal i ddatblygu yn sgil Brexit (Estynnwch at y cig oen o Awstralia!)<\/p>\n<p class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Mewn ymateb i&#8217;r heriau hyn, rydym yn wynebu&#8217;r posibilrwydd o bontio tameidiog, aneffeithiol a hyd yn oed di-drefn yng nghefn gwlad Cymru \u2013 a honno\u2019n broses bontio a allai roi lleisiau &#8216;lleol&#8217; a sefydliadau sydd wedi ennill eu plwyf dan ragor o anfantais. I sicrhau ymateb gwell a thecach, mae angen asesiad oer o beth yn union <i>yw <\/i>y broblem.<\/p>\n<h2 class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Y newydd drwg i ddechrau: Dyw Cymru ddim mor arbennig \u00e2 hynny<\/h2>\n<p class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Dim ond y bennod ddiweddaraf mewn cyfres o siomedigaethau a gafodd ardaloedd gwledig ledled y byd ers o leiaf chwe mil o flynyddoedd yw effeithiau negyddol y rhuthr ymysg perchnogion ail gartrefi a phobl ar eu gwyliau i gyrchu cefn gwlad. Fel mae Liverani yn nodi yn ei lyfr ar y Dwyrain Agos yn y hen fyd, o ddechrau cyntaf y chwyldro trefol aeth dinasoedd ati i gipio o&#8217;u cefnwlad amrywiaeth aruthrol o ddeunyddiau crai holl-bwysig, bwyd, ffynonellau ynni a gweithwyr, ac yn gyfnewid am y rhain rhoi dylanwad diwylliannol ac ideolegau \u2013 ideolegau a oedd, wrth gwrs, yn helpu i gyfiawnhau echdynnu adnoddau gwledig. Drwy gydol gweddill hanes dynol, mae&#8217;r un patrwm wedi\u2019i ailadrodd, boed yn Eidal y Rhufeiniaid, Lloegr yr Hanoferiaid, Ucheldiroedd yr Alban, neu Tsieina cyfnod Qing: mae adnoddau&#8217;n cael eu tynnu er mwyn tanio ffyrdd o fyw yn y dref sy\u2019n cynnig gwell llesiant, yn aml ar gais el\u00eet sy\u2019n uchel eu statws cymdeithasol (ac sy\u2019n creu\u2019r deddfau) \u2013 pobl sydd ar yr un pryd yn mwynhau bywyd y dref ac yn dirfeddiannwr a landlord gwledig absennol (ond dominyddol). Mewn cyfnodau o ryfel a newid economaidd, mae&#8217;r galw&#8217;n cynyddu, ac mae gwargedau cyfalaf a llafur cefn gwlad yn cael eu cyfeirio at ddiwydiannu a choncwest.<\/p>\n<p class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Yn wir, creodd concwest oblygiadau mawr i ardaloedd gwledig Ewrop, ac yn enwedig mewn gwledydd ymerodrol fel Prydain. Daeth camfanteisio&#8217;n g\u00eam fyd-eang, gyda nwyddau gwerthfawr o\u2019r byd newydd fel tybaco a siwgr yn denu sylw ac incwm i\u2019w wario, ac i ryw raddau yn disodli cynhyrchion domestig \u2013 a oedd wedyn yn gorfod cystadlu benben \u00e2 gwenith o America a hanfodion eraill yn sgil diddymu&#8217;r deddfau <span style=\"font-family: Calibri, serif;\">\u0177<\/span>d. Bu\u2019r datblygiad olaf hwn, wrth gwrs, o fudd i&#8217;r tlodion llwglyd ym Mhrydain (ond yn rhy hwyr i&#8217;r Gwyddelod newynog), ond hefyd fe leihaodd b\u0175er a phwysigrwydd y gwledig, o&#8217;i gymharu \u00e2&#8217;r trefol. Yn yr un modd, gwnaeth datblygiad tanwydd ffosil \u2013 glo Prydain yn gyntaf ac wedyn olew cludadwy\u2019r Dwyrain Canol \u2013 leihau ymhellach ar bwysigrwydd adnoddau cefn gwlad (er enghraifft, p\u0175er d\u0175r ar gyfer melinau), oedd yn golygu bod unrhyw &#8216;werth ychwanegol\u2019 gwledig yn mynd yn fwyfwy prin. Ar \u00f4l yr Ail Ryfel Byd, cafwyd ffocws newydd ar amaethyddiaeth yn Ewrop, wrth i&#8217;r cyfandir symud i sicrhau cyflenwadau bwyd digonol yn wyneb aflonyddwch posibl yn y dyfodol, heb rag-weld y Chwyldro Gwyrdd a fyddai&#8217;n gweld cynhyrchiant yn tyfu\u2019n aruthrol ac yn dinistrio&#8217;r cydbwysedd rhwng galw a chyflenwad. I Gymru, mae Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE wedi parhau traddodiad o gynhyrchu amaethyddol sydd wedi\u2019i seilio ar lond llaw o nwyddau i&#8217;w hallforio a sector yn cael ei siapio gan fuddiannau allanol sydd wedi parhau\u2019n ddigyfnewid i raddau helaeth ers oes y Tuduriaid, neu hyd yn oed y Normaniaid.<\/p>\n<h2 class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Cymru: Anhapus yn ei ffordd ei hun?<\/h2>\n<p class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Mae\u2019r stori drist ym maes datblygu lle mae cefn gwlad yn canolbwyntio ar allforio nifer fach o nwyddau (ac yn fwy diweddar ar dwristiaeth) yn cael ei hadrodd am lawer o leoedd yn y De Byd-eang \u2013 a hynny gyda chanlyniadau llawer mwy trawiadol fel arfer nag yng Nghymru, sydd ers canrifoedd wedi&#8217;i hintegreiddio&#8217;n wleidyddol ac yn economaidd \u00e2&#8217;i chymydog pwerus a&#8217;i phrif farchnad. Er bod adnoddau ansymudol yng Nghymru yn gymharol gynhyrchiol neu ddeniadol, rydyn ni\u2019n gweld (fel yn y De byd-eang) mai perchnogaeth a rheolaeth sydd heb fod yn lleol sydd amlycaf \u2013 y sectorau ynni a\u2019r rhannau o dwristiaeth sydd o werth uchel \u2013 mae gweithgareddau lle mae busnesau lleol yn amlwg hefyd yn cynnwys adnoddau ymylol, cwmn\u00efau bach iawn, diffyg cyfalaf, prisiau cyfnewidiol a phendilio tymhorol, a rhychwant cyfyngedig. Mae&#8217;r &#8216;aneffeithlonrwydd&#8217; economaidd sy&#8217;n deillio o hyn yn llyffetheirio\u2019r Gymru wledig, sy\u2019n methu \u00e2 symud tuag at batrymau cynhyrchu mwy gwerthfawr neu gynaliadwy (yn economaidd neu\u2019n holistig).<\/p>\n<p class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Mewn cyferbyniad ag econom\u00efau ymylol eraill sy&#8217;n ddwys o ran adnoddau, mae Cymru&#8217;n profi ymyrraeth dwys ar sawl lefel yn y sector cyhoeddus gan weithredwyr lleol a chenedlaethol, ac yn y Deyrnas Unedig a (tan yn ddiweddar) yr Undeb Ewropeaidd. Ar y cyfan, nid yw&#8217;r ymyriadau hyn wedi&#8217;u teilwra i&#8217;r cyd-destun Cymreig eithaf penodol, ac anaml y maen nhw\u2019n codi o drafodaethau a phenderfyniadau gwirioneddol leol. Hyd yn oed lle bydd ymdrech yn cael ei wneud i leoleiddio \u2013 er enghraifft, yng Nghynlluniau Datblygu&#8217;r UE gynt \u2013 mae\u2019r ymdrech yn cael ei llethu gan fiwrocratiaeth a diffyg cyfranogiad gan rai sydd heb ddiddordeb ac sy\u2019n amheus. Mae syniadau lleol yn gwywo yn wyneb realiti caled Contractau Gwahaniaeth Ynni Adnewyddadwy&#8217;r Deyrnas Unedig, sector cyhoeddus anghysbell a rhagfarnllyd, y Taliad Sengl, a <i>phrisiau gwirioneddol<\/i> y nwyddau sy\u2019n cael eu hallforio.<\/p>\n<p class=\"western\" lang=\"cy-GB\">O safbwynt gwleidyddol, nid yn unig y mae\u2019r Gymru wledig yn anghyffredin, yn fach ac yn anodd, ond nid yw&#8217;n <i>bwysig<\/i> i unrhyw blaid mewn gwirionedd, heblaw\u2019r rhai lleiaf sy\u2019n awchu am y sedd neu ddwy a fydd yn fuddugoliaeth fawr iddyn nhw, ac yn anaml felly i\u2019r rhai sydd mewn llywodraeth. Cwbl drefol yw\u2019r naratif gwleidyddol <i>ac<\/i> economaidd yng Nghymru a&#8217;r Deyrnas Unedig, ac mae&#8217;r elfennau economaidd sy\u2019n sbarduno polis\u00efau \u2013 seilwaith mawr, arloesi ac ymchwilio a datblygu, diwydiannu creadigol \u2013 wedi&#8217;u plannu\u2019n gadarn mewn dinasoedd a rhyngddyn nhw. Mae yna ddiffyg cyfatebiaeth enfawr yma, fel y gwelir wrth wylio S4C bron bob nos: mae&#8217;r economi gwledig yn hanfodol bwysig am resymau iaith a diwylliant, ac i nifer fawr o drefi a phentrefi y tu allan i&#8217;r De-ddwyrain. Eto i gyd, mae\u2019r pwysigrwydd cymhleth hwn wedi\u2019i weld yng Nghaerdydd fel rheswm dros adael i gefn gwlad fod (ar y cyfan). Mae&#8217;r amser hwnnw bellach ar ben.<\/p>\n<h2 class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Y Gymru wledig yng ngweddill yr 21ain\u00a0ganrif<\/h2>\n<p class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Fel llawer o leoedd gwledig eraill, mae\u2019r Gymru wledig mewn sefyllfa od a deuol. Lle sydd heb fod o ddiddordeb gwleidyddol ers tro byd, sy&#8217;n ymddangos ar y newyddion yn bennaf fel problem economaidd neu broblem cynaliadwyedd, ac sy\u2019n cynhyrchu pethau sydd (gydag eithriadau nodedig) yn cael eu gwerthu am brisiau nad ydyn nhw\u2019n agos at dalu\u2019r costau. Ac eto, ar yr un pryd, mae\u2019n tirwedd wledig o werth mwyfwy eglur i boblogaethau trefol Prydain fel lle i enaid gael llonydd, fel cyflenwr ynni carbon isel, ac yng Nghymru fel lle diwylliannol. Yn y cyfamser, mae&#8217;n ddigon clir na allwn ni gyflawni ymrwymiad carbon sero net, na pharchu ac atgyweirio ecosystemau a bioamrywiaeth, heb weddnewidiad dwfn mewn dulliau cynhyrchu gwledig a defnydd tir. Mae&#8217;r gwledig yn bendant yn dod yn nes at adref.<\/p>\n<p class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Mae yna ddau bosibiliad yma. Fe <i>allai<\/i> Cymru wledig fwy amrywiol ac annibynnol ddod i&#8217;r amlwg, gan adeiladu ar amcanion lleol i gyflawni llesiant, natur a systemau cynhyrchu a defnyddio sy&#8217;n gwella&#8217;r hinsawdd, sy&#8217;n fwy hunan-gynhaliol ac yn gyfiawn ar lefel fyd-eang. Ond, mae hanes yn dweud wrthon ni mai dyma&#8217;r opsiwn lleiaf tebygol o lawer, yn enwedig mewn cyd-destunau sy&#8217;n gyfeillgar i&#8217;r farchnad lle mae dinasyddion wedi cael eu hisraddio&#8217;n ddefnyddwyr ers tro byd. Rhywbeth mwy tebygol yw cyfnod pontio ar \u00f4l Brexit-argyfwng-hinsawdd-COVID sydd heb ei gynllunio neu sydd wedi&#8217;i gynllunio&#8217;n wael ac sy&#8217;n gweld r\u00f4l gynyddol i fuddiannau allanol sydd ag adnoddau da (corfforaethau, llywodraethau a phobl) a fydd yn prynu asedau at ddibenion eithriadol o benodol \u2013 gwrthbwyso carbon, cynhyrchu ynni, arbedion treth, gwyliau achlysurol, ymddeoliad ffordd o fyw \u2013 a\u2019r rheiny heb gysylltiad o gwbl \u00e2\u2019r cymunedau lle maen nhw wedi\u2019u lleoli, ac a allai hyd yn oed dorri ar draws amcanion a gwerthoedd y cymunedau hynny.<\/p>\n<p class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Dros filenia, mae creiddiau trefol wedi siapio\u2019u cefnwledydd a gwledigrwydd pell drwy gymysgedd o bersw\u00e2d diwylliannol, gorfodaeth, gosod (neu gyfethol) elitau ac, yn olaf, datblygu strwythurau prisio a masnachu sy&#8217;n anwybyddu gwerth ehangach (a breuder) natur, gan ddibrisio gwerth bwyd, ynni a deunyddiau crai o&#8217;u gymharu \u00e2 nwyddau sgleiniog wedi\u2019u gweithgynhyrchu a gwasanaethau trefol. Yng Nghymru, mae datganoli (hyd yn hyn) wedi bod yn gwbl annigonol (neu heb ei gyfeirio&#8217;n ddigon da) i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r problemau dilynol ac i sicrhau Cymru wledig wedi&#8217;i hadfywio \u2013 ond mae ail-enedigaeth o&#8217;r fath yn fwyfwy hanfodol.<\/p>\n<p class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Rhaid i unrhyw gynllun ar gyfer Cymru sy&#8217;n cyflawni pethau yngl<span style=\"font-family: Calibri, serif;\">\u0177<\/span>n \u00e2\u2019r argyfyngau hinsawdd a natur ac ar yr un pryd yn gwrth-droi dirywiad cymdeithasol ac yn diogelu diwylliant lleol fod yn glir ynghylch achosion camweithredu. Yn benodol, rhaid iddo gydnabod ac ymateb i economi gwleidyddol lle sy&#8217;n caniat\u00e1u i ddymuniadau&#8217;r rhai a gafodd lwyddiant yn yr hen econom\u00efau trefol, ynni-uchel, gwamal, afreal ac anghyfartal drechu&#8217;r rhai sydd wedi&#8217;u gwreiddio ers tro byd yn eu lleoedd gwledig. Mae gan hyd yn oed gorff mor gyfyngedig \u00e2&#8217;r Senedd ddigon y gall ei wneud ym meysydd polisi cynllunio, strwythurau treth, rheoleiddio a chymorth busnes. Ac yn hyn o beth mae gennyn ni achos o &#8216;y meddyg, iach\u00e2 dy hun&#8217;: yn ogystal \u00e2 dathlu ac annog y lleol, mae\u2019n <i>rhaid<\/i> i bolisi Llywodraeth Cymru ganiat\u00e1u ac adnoddi atebion lleol pwrpasol, syniadau lleol a gweledigaethau lleol. Rhaid i gyfnod rheoli bryniau Conwy a Cheredigion o Gaerdydd ddod i ben.<\/p>\n<p class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Symud locws penderfyniadau pwysig \u2013 a rhoi blaenoriaeth <i>wirioneddol<\/i> i berchnogaeth leol ar asedau \u2013 yw&#8217;r unig ffordd o droi gwleidyddiaeth leol yn weithgaredd gwerth chweil, ac felly ysgogi ymgysylltiad ehangach a chynnwys ystod ehangach o leisiau. Wrth gwrs, nid yw hyn yn ddigon ynddo\u2019i hun i droi\u2019r Gymru wledig yn gyfres amrywiol o econom\u00efau eang sy&#8217;n gweithio&#8217;n dda ac sy&#8217;n sicrhau llesiant i drigolion, ac amddiffyniad i natur a&#8217;r hinsawdd. Nid yw sicrhau bod Bae Caerdydd yn rhoi p\u0175er i ffwrdd yn awgrymu y dylai gefnu ar ei gyfrifoldeb. Mae angen o hyd i sefydliadau ar lefel Cymru ddarparu &#8216;llinellau coch&#8217; polisi (yn bennaf drwy Ddeddf Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol), a chyngor gwyddonol o safon (er enghraifft drwy Gyfoeth Naturiol Cymru sydd ag adnoddau gwell, sy\u2019n fwy datganoledig ac sy&#8217;n atebol yn lleol); datblygu seilwaith strategol; a sicrhau nad yw camau lleol yn awgrymu canlyniadau afresymol i leoedd a phobl eraill.<\/p>\n<p class=\"western\" lang=\"cy-GB\">Dros arc hir hanes pobl, mae&#8217;r gwledig wedi&#8217;i ddatblygu, wedi\u2019i ecsbloetio ac wedi&#8217;i waredu ar fympwy&#8217;r trefol, gyda\u2019r gobaith y byddai manteision \u2013 technoleg, lles, cymudwyr neu dwristiaid \u2013 yn diferynnu allan i roi eli ar y briw. Efallai mai disgwyl gormod yw disgwyl i hyn newid yn sylfaenol. Ond <i>mae<\/i> hwn yn gyfnod unigryw mewn hanes dynol. Wrth inni gydnabod yn fwyfwy (ac o\u2019r diwedd) r\u00f4l allweddol adnoddau naturiol wrth ganiat\u00e1u cymdeithas ddynol gymhleth, gallwn ni naill ai parhau ar hyd llwybr defnydd diwydiannol, canoledig a byrdymor ar leoedd er mwyn bodloni nodau cul, gan ddyfeisio atebion &#8216;marchnad&#8217; mwyfwy artiffisial i greu rhith o barchusrwydd, neu gallwn geisio torri\u2019n rhydd o&#8217;r gorffennol a gadael i&#8217;r lleoedd hyn eu hunain benderfynu ar y ffordd orau i reoli adnoddau er lles pawb. Mae lleoedd gwledig, nid lleiaf yng Nghymru, mewn trafferth am nad yw&#8217;r bobl sy&#8217;n gwneud penderfyniadau ar eu rhan yn <i>byw<\/i> yno. Mae&#8217;n hen bryd i hynny newid.<\/p>\n<p class=\"western\" lang=\"cy-GB\"><i>Mae Calvin Jones yn Athro mewn Economeg yn Ysgol Fusnes Caerdydd. Nid yw&#8217;n byw yn y Gymru wledig.<\/i><\/p>\n<p lang=\"cy-GB\"><em>Llun gan <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Agriculture_in_Wales#\/media\/File:Draenogan_Farm_-_geograph.org.uk_-_398054.jpg\">David Saunders<\/a><\/em><\/p>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r Gymru wledig mewn trafferth. Mwy o drafferth mae\u2019n debyg nag ers cyn cof, a hynny o du grymoedd a thueddiadau sy&#8217;n annhebygol o ddiflannu\u2019n fuan iawn. Hen stori yw &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Beth yw problem y Gymru wledig?&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":19,"featured_media":1358,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[111,86,83,55],"class_list":["post-1357","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-amaeth","tag-coronafirws","tag-covid-19","tag-llywodraeth-cymru","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Beth yw problem y Gymru wledig? - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Beth yw problem y Gymru wledig? - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae\u2019r Gymru wledig mewn trafferth. Mwy o drafferth mae\u2019n debyg nag ers cyn cof, a hynny o du grymoedd a thueddiadau sy&#8217;n annhebygol o ddiflannu\u2019n fuan iawn. Hen stori yw &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Beth yw problem y Gymru wledig?&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-12-06T16:34:30+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-05-21T09:46:30+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Draenogan_Farm_-_geograph.org_.uk_-_398054.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"640\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"480\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Calvin Jones\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Calvin Jones\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"10 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/\"},\"author\":{\"name\":\"Calvin Jones\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fdafd990bc43a36f84d7975c15a80f1e\"},\"headline\":\"Beth yw problem y Gymru wledig?\",\"datePublished\":\"2021-12-06T16:34:30+00:00\",\"dateModified\":\"2026-05-21T09:46:30+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/\"},\"wordCount\":4117,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Draenogan_Farm_-_geograph.org_.uk_-_398054.jpg\",\"keywords\":[\"amaeth\",\"coronafirws\",\"COVID-19\",\"Llywodraeth Cymru\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/\",\"name\":\"Beth yw problem y Gymru wledig? - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Draenogan_Farm_-_geograph.org_.uk_-_398054.jpg\",\"datePublished\":\"2021-12-06T16:34:30+00:00\",\"dateModified\":\"2026-05-21T09:46:30+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Draenogan_Farm_-_geograph.org_.uk_-_398054.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Draenogan_Farm_-_geograph.org_.uk_-_398054.jpg\",\"width\":640,\"height\":480},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Beth yw problem y Gymru wledig?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fdafd990bc43a36f84d7975c15a80f1e\",\"name\":\"Calvin Jones\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb41075192e0c37f99884c3443e675e9e2a0e31e949971fc4b198455e6f81d88?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb41075192e0c37f99884c3443e675e9e2a0e31e949971fc4b198455e6f81d88?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb41075192e0c37f99884c3443e675e9e2a0e31e949971fc4b198455e6f81d88?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Calvin Jones\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/calvinjones\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Beth yw problem y Gymru wledig? - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Beth yw problem y Gymru wledig? - undod","og_description":"Mae\u2019r Gymru wledig mewn trafferth. Mwy o drafferth mae\u2019n debyg nag ers cyn cof, a hynny o du grymoedd a thueddiadau sy&#8217;n annhebygol o ddiflannu\u2019n fuan iawn. Hen stori yw &hellip; Parhau i ddarllen \"Beth yw problem y Gymru wledig?\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2021-12-06T16:34:30+00:00","article_modified_time":"2026-05-21T09:46:30+00:00","og_image":[{"width":640,"height":480,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Draenogan_Farm_-_geograph.org_.uk_-_398054.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Calvin Jones","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Calvin Jones","Est. reading time":"10 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/"},"author":{"name":"Calvin Jones","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fdafd990bc43a36f84d7975c15a80f1e"},"headline":"Beth yw problem y Gymru wledig?","datePublished":"2021-12-06T16:34:30+00:00","dateModified":"2026-05-21T09:46:30+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/"},"wordCount":4117,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Draenogan_Farm_-_geograph.org_.uk_-_398054.jpg","keywords":["amaeth","coronafirws","COVID-19","Llywodraeth Cymru"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/","name":"Beth yw problem y Gymru wledig? - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Draenogan_Farm_-_geograph.org_.uk_-_398054.jpg","datePublished":"2021-12-06T16:34:30+00:00","dateModified":"2026-05-21T09:46:30+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Draenogan_Farm_-_geograph.org_.uk_-_398054.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Draenogan_Farm_-_geograph.org_.uk_-_398054.jpg","width":640,"height":480},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Beth yw problem y Gymru wledig?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fdafd990bc43a36f84d7975c15a80f1e","name":"Calvin Jones","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb41075192e0c37f99884c3443e675e9e2a0e31e949971fc4b198455e6f81d88?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb41075192e0c37f99884c3443e675e9e2a0e31e949971fc4b198455e6f81d88?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb41075192e0c37f99884c3443e675e9e2a0e31e949971fc4b198455e6f81d88?s=96&d=mm&r=g","caption":"Calvin Jones"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/calvinjones\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1357","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/19"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1357"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1357\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1359,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1357\/revisions\/1359"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1358"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1357"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1357"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1357"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}