{"id":1374,"date":"2022-02-04T10:28:28","date_gmt":"2022-02-04T10:28:28","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1374"},"modified":"2022-02-04T10:29:08","modified_gmt":"2022-02-04T10:29:08","slug":"cipio-tir-argyfwng-tai","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/","title":{"rendered":"O gipio tir i&#8217;r argyfwng tai: Nid yw Cymru ar werth"},"content":{"rendered":"<p>Cyfarfu Real Wild Estates Company a L&#8217;Oreal Groupe o Ffrainc yn ddiweddar i drafod cynlluniau i brynu tir i&#8217;w ddad-ddofi. Maent yn ceisio\u00a0<a href=\"https:\/\/twitter.com\/Rebirding1\/status\/1454106593084256260\">gwneud elw<\/a> yn benodol drwy wahanol fathau o landlordiaeth, megis y farchnad tai preifat a thai gwyliau ar osod tra&#8217;n elwa o gymorthdaliadau cyhoeddus ar gyfer gweithgareddau fel plannu coed.<\/p>\n<p>Maent hefyd yn anelu at wneud elw o farchnadoedd carbon newydd, lle bydd carbon sy&#8217;n cael ei ddal ar ffurf coed, porfeydd a mawndir yn cael ei gyfnewid ar farchnad garbon newydd, fel y gall cwmn\u00efau trwm eu hallyriadau &#8220;wrthbwyso&#8221; eu hallyriadau carbon. Dyma sut y bydd gwledydd fel y DU yn cyrraedd &#8220;sero net&#8221; er gwaetha&#8217;r ffaith bod gr\u0175p o wyddonwyr hinsawdd yn galw arfer o&#8217;r fath yn beryglus. Mae&#8217;n fath o wyrddgalchu na fydd yn gwneud dim i atal newid trychinebus yn yr hinsawdd &#8211; ond bydd yn caniat\u00e1u i&#8217;r status quo barhau ychydig yn hirach.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r DU yn anelu at wneud ei hun yn ganolbwynt ariannol fyd-eang &#8220;twf gwyrdd&#8221;, sydd, yn ymarferol, yn golygu parhau \u00e2\u00a0 neowladychiaeth\u00a0 (yr arfer o barhau i fanteisio&#8217;n economaidd ar drefedigaethau blaenorol) tra bod y Gogledd Byd-eang yn parhau i osgoi ei gyfrifoldeb am achosi newid hinsawdd. Fel y dywedodd Tom Goldtooth, arweinydd y Rhwydwaith Amgylcheddol Brodorol\u00a0<a href=\"https:\/\/www.independent.co.uk\/climate-change\/news\/cop26-climate-summit-indigenous-offsetting-b1951289.html\">yn ystod COP26<\/a> mae&#8217;n &#8220;fath newydd wladychiaeth&#8221;.<\/p>\n<p>&#8220;Cyfalaf naturiol&#8221; yw&#8217;r ideoleg sy&#8217;n sail i&#8217;r ffantasi hwn sy&#8217;n dweud y gallwch roi gwerth ariannol ar &#8220;asedau naturiol&#8221; fel y&#8217;u gelwir. Mae hyn i fod i hwyluso &#8220;taliadau am wasanaethau ecosystem&#8221; (payments for ecosystem services) lle rydych yn talu am arfer da ac yn cosbi arfer drwg yn ariannol. Dros amser, eu nod yw gwella&#8217;r ffordd y caiff natur ei brisio&#8217;n ariannol, sydd i fod i ddangos cyflwr ecosystemau sy&#8217;n gwella. Dadleuir y bydd rhoi pris ar ecosystemau yn arwain at reoli adnoddau naturiol yn fwy rhesymegol ac effeithlon ac y byddai hyn yn atal eu dinistr.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n hawdd gweld pam bod hyn yn apelio at y Tor\u00efaid. Ond mae cymhlethdod ecosystemau, ynghyd \u00e2 gofynion ecolegol dirifedi bywyd dynol a holl fywyd arall, yn gwneud i&#8217;r cysyniad gor-syml hyn sy&#8217;n gosod elw uwchlaw popeth arall yn destun sbort.<\/p>\n<p>Er enghraifft, efallai y byddwch yn talu tirfeddiannwr yng Nghymru i ddal carbon ar ffurf plannu coed (sydd ynddo&#8217;i hun yn fwy cymhleth nag a sylweddolir yn aml), ac o ganlyniad mae&#8217;n gwthio cynhyrchu bwyd i ochr arall y byd, gan gyfrannu at ddatgoedwigo a dadfeddiannu pobloedd frodorol o&#8217;u tiroedd mewn mannau eraill. Mewn theori, cyn belled ag y gwneir yn iawn am y dinistr a&#8217;r farwolaeth hynny yn ariannol yn rhywle arall, yna mae&#8217;n bosibl priodoli budd net. Mae hyn yn amlwg yn hurt.\u00a0<\/p>\n<p>Math o &#8220;wrthbwyso bioamrywiaeth&#8221; sy&#8217;n caniat\u00e1u i farchnadoedd ariannol a chorfforaethau gael mwy o reolaeth fyth wrth reoli ecoleg y blaned mewn proses a elwir yn cipio tir neu <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/03066150.2012.671770\">wyrddgipio<\/a> yw hyn. Fodd bynnag, y model diffygiol hwn o gyfalaf naturiol yw&#8217;r union resymeg sy&#8217;n sail i&#8217;r Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd ar y gweill yng Nghymru.\u00a0 Fel y <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/12\/06\/y-gymru-wledig\/\">rhybuddiodd <\/a> Calvin Jones, &#8220;mae&#8217;r Gymru wledig mewn trafferth\u201d.<\/p>\n<p>Nid troi ecosystemau yn gynwyddau fwyfwy a cheisio cynyddu eu gwrth ariannol yw&#8217;r ateb i&#8217;r niwed ecolegol a&#8217;r anhrefn hinsoddol sydd eisoes yn deillio o gronni cyfalaf yn y lle cyntaf. Dyna pam mae cronfeydd rhagfantoli yn ceisio &#8220;buddsoddi&#8221; mewn tir. Mae&#8217;n ffordd hawdd o wneud elw o gynnydd mewn gwerth asedau, incwm rhentwr a thaliadau cyfnewid carbon a chymorthdaliadau sydd ar y gorwel.<\/p>\n<p>Mae Mark Redfern, o Voice.Wales, wedi\u00a0<a href=\"https:\/\/www.voice.wales\/how-taxpayer-funded-forests-in-mid-wales-inflate-carbon-targets-before-being-logged-for-profit-2\/\">datgelu<\/a> sut mae Foresight Group, cronfa fuddsoddi, wedi sefydlu <a href=\"https:\/\/fsfc.foresightgroup.eu\/\">Foresight Forestry Company PLC<\/a> yn benodol gyda&#8217;r prif nod o wneud elw o&#8217;r rhuthr carbon newydd hwn. Maent yn gobeithio gwerthu cyfranddaliadau ar Gyfnewidfa Stoc Llundain am gynnig cychwynnol o \u00a3200 miliwn ac maent y tu \u00f4l i rai o&#8217;r\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-58103603\">pryniannau tir diweddar<\/a> ledled Powys. Mae&#8217;n amlwg bod arian i&#8217;w wneud ar gyfer llond llaw o bobl, ond pa werth fydd hynny i gymunedau gwledig Cymru a Chymru gyfan?<\/p>\n<p>Nid oes dim i atal cwmn\u00efau rhag sefydlu planhigfeydd conwydd nad ydynt o fawr o werth ecolegol, a bydd y credydau carbon y byddant yn eu cronni yn debygol o gael eu defnyddio i wrthbwyso allyriadau tanwydd ffosil. Felly mae cymunedau lleol, ecoleg ehangach a&#8217;r hinsawdd i gyd yn colli, tra mae cronfeydd buddsoddi preifat yn ennill. A beth sydd i&#8217;w hatal rhag\u00a0<a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/full\/10.1080\/03066150.2012.671770\">ysbeilio ecosystemau o&#8217;u hasedau<\/a> ar \u00f4l meddu arnynt unwaith y byddant wedi cyflawni eu nod?\u00a0<\/p>\n<p>Mae tir yng Nghymru yn gymharol ratach nag yn rhannau eraill o&#8217;r DU, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer gwneud elw o&#8217;r fath. Dyma dir a fyddai wedi bod yn rhan o fferm fechan ar un adeg, ond wrth i ffermio fynd yn llai ac yn llai hyfyw, oherwydd yr economi fwyd gyfalafol sy&#8217;n gosod ffermwyr ar draws y byd yn erbyn ei gilydd mewn ras i&#8217;r gwaelod, mae&#8217;n mynd yn anos i ffermydd bach oroesi. Mae tir naill ai&#8217;n cael ei brynu gan ffermydd mwy, gan gyfuno tir, er mwyn cystadlu wrth gynhyrchu cynwyddau, neu mae bellach yn cael ei brynu fwyfwy gan gronfeydd buddsoddi i echdynnu gwerth ariannol, i gyd wedi&#8217;u gwyrddgalchu yng ngeirfa gwasanaethau ecosystem. Bydd y grwpiau hyn, fel Real Wild Estates Group, yn arddel ieithwedd adfywio cymunedol, ond mewn gwirionedd, d\u00f4nt ag ychydig iawn o&#8217;r fath beth.<\/p>\n<p>Mae angen adferiad ecolegol ledled Cymru, ac ychydig iawn sy&#8217;n gwadu hynny, ond rhaid iddo gael ei arwain gan gymunedau Cymru ac ar eu cyfer. Mae angen democrateiddio pellach ar dir, nid rhagor o grynhoi tir sydd o fudd i gyfalafwyr ac elitau sy&#8217;n ffodus i gael eu geni i deulu a all olrhain ei linach yn \u00f4l i&#8217;r Normaniaid. Ni fydd y marchogion gwyn newydd hyn a addysgir mewn ysgolion preifat, yn eu Barbour, brethyn caerog a welingtons Le Chameau, yn achub ein cymunedau, hyd yn oed os nad yw&#8217;r syniad o gael ein &#8220;hachub&#8221; yn un cyfeiliornus a nawddoglyd.\u00a0<\/p>\n<p>Mae adferiad ecolegol gwirioneddol yn golygu peidio \u00e2 thrin bwyd, tir a llafur fel cynwyddau. Mae&#8217;n ei gwneud yn ofynnol inni gyfeirio ymdrech ddynol tuag at yr hyn y mae angen ei wneud ar frys yn wyneb niwed ecolegol a hinsoddol. Mae&#8217;r awydd a&#8217;r wybodaeth yno eisoes, ond mae&#8217;n eithriadol o anodd cyfeirio&#8217;r egni hwnnw at y tasgau sydd angen eu gwneud pan mae&#8217;n rhaid i&#8217;r rhan fwyaf o bobl weithio&#8217;n galed fel y mae er mwyn cynnal bywoliaeth.<\/p>\n<p>Mae\u00a0<a href=\"http:\/\/www.thegreenvalleys.org\/our-projects\/skyline\/\">Project Skyline<\/a>, yn y Cymoedd, yn un ymgais o&#8217;r fath i ail-ddychmygu defnydd tir mewn rhanbarthau \u00f4l-ddiwydiannol, mewn modd sy&#8217;n ail-rymuso pobl leol mewn prosiect adferiad ecolegol. Does bosib fod hyn yn well na warws Amazon arall neu unigolyn ddi-wyneb mewn siwt streip\u00efog yn Llundain yn rheoli materion Cymreig unwaith yn rhagor. Yn hytrach na chael ei werthu i&#8217;r cynigydd uchaf, mewn Cymru annibynnol, gallai tir gael ei brynu gan ein banc canolog ein hunain a&#8217;i ddefnyddio i ehangu yst\u00e2d ffermydd i&#8217;w gosod gan gynghorau sir. Mae ymddiriedolaethau tir cymunedol, a ariennir gan fenthyciadau hirdymor cost isel, yn cynnig opsiwn arall, a&#8217;r cysyniad newydd o &#8220;<a href=\"https:\/\/www.common-wealth.co.uk\/interactive-digital-projects\/a-new-model\">Bartneriaethau Cyhoeddus-Cyffredin<\/a>&#8221; Ond ni all Cymru wneud hyn heb ragor o bwerau cyllidol ac ni all wneud hyn os yw&#8217;n parhau i fod yn gaeth i gyfalaf. Fel y nododd Laurie Macfarlane, mae&#8217;r Alban hefyd yn gweld rownd newydd o gipio tir ar ffurf y<a href=\"https:\/\/www.opendemocracy.net\/en\/oureconomy\/scotland-is-on-the-global-frontlines-of-the-great-net-zero-land-grab\/\"> &#8220;lairdau gwyrdd&#8221;<\/a> &#8211; ond o leiaf mae gan yr Alban y dewis o brynu tir cymunedol, yn wahanol i Gymru.\u00a0 Fel y mae ar hyn o bryd, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymhorthdal i&#8217;r cronfeydd rhagfantoli (&#8220;hedge-funds\u201d) hyn, drwy daliadau Glastir, hyd at filiynau o bunnoedd. Arian y gellid yn hytrach ei ddefnyddio i ehangu yst\u00e2d fferm y sir\u2014yn lle ei rhedeg i lawr a&#8217;i gwerthu.<\/p>\n<p>Mae cymunedau ledled Cymru yn wynebu bygythiad gan farchnadoedd tai a thir cyfalafol sy&#8217;n cael eu gyrru gan elw. O ddegawdau o foneddigeiddio sy&#8217;n cynyddu costau rhent a chostau byw dosbarth gweithiol Caerdydd, i gartrefi gwledig sy&#8217;n cael eu prynu fel tai haf neu fel tai gwyliau i&#8217;w gosod, i&#8217;r tir sy&#8217;n cael ei brynu gan gronfeydd rhagfantoli, mae&#8217;n rhywbeth sy&#8217;n uno pawb, ac eithrio&#8217;r rhai sy&#8217;n gwneud elw. Mae hyn oll yn arwain at gynyddu mewn costau byw; yn gyrru pobl i ffwrdd o&#8217;u trefi, pentrefi a chymdogaethau genedigol; ac yn troi Cymru&#8217;n diroedd hamdden helaeth ar gyfer cyfoethogion.<\/p>\n<p>Gallwn weld yr effeithiau andwyol y caiff hyn ar y Gymraeg gyda thrasiedi cau\u00a0<a href=\"https:\/\/www.thenational.wales\/news\/19613751.closure-school-leave-abersoch-a-ghost-town\/\">Ysgol Abersoch<\/a>. Mae angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu gweithredoedd i atal difrod pellach, er enghraifft; deddfu rheolaethau rhent, atal prynu cartrefi ar gyfer eu gosod ar gyfer gwyliau neu ail gartrefi a rheoleiddio AirBnB, fel y galwodd\u00a0<a href=\"https:\/\/www.thenational.wales\/news\/19716068.housing-crisis-protest-attracts-hundreds-senedd\/\">Mabli Siriol<\/a> yn y rali Nid Yw Cymru Ar Werth diweddar yng Nghaerdydd. Rhaid iddynt hefyd atal buddsoddwyr, fel y&#8217;u gelwir, rhag prynu tir ac yn lle hynny dylent gyflwyno mesurau diwygio&#8217;r tir, fel y cynigiodd <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/\">Robat Idris<\/a> y llynedd. Mae&#8217;r\u00a0<a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/11\/23\/y-fargen-rhwng-llafur-a-plaid-ywr-amlinelliad-gwelwaf-o-gymru-y-tu-hwnt-i-neoryddfrydiaeth\/\">cytundeb Plaid-Llafur<\/a> newydd yn awgrymu y gallai ateb rhai o&#8217;r gofynion hyn, ond amser a ddengys.<\/p>\n<p>Pa mor hir y mae&#8217;n rhaid inni aros i Lywodraeth Cymru weithredu? Yn ei herthygl ar gyfer Undod mae\u00a0<a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/04\/07\/tai-i-gymru-nid-tai-haf\/\">Angharad Tomos<\/a> yn tynnu sylw&#8217;n gryno at y ffaith bod y difrod hwn wedi bod yn mynd rhagddo ers degawdau. Mewn rhai mannau ar arfordir Sir Benfro, mae\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-58789603\">40%<\/a> o dai yn dai haf, ac yn Abersoch, Gwynedd, mae&#8217;n\u00a0<a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/sites\/default\/files\/publications\/2021-03\/ail-gartrefi-datblygu-polis%C3%AFau-newydd-yng-nghymru_0.pdf\">46%<\/a>. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru\u00a0<a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/sites\/default\/files\/publications\/2021-03\/ail-gartrefi-datblygu-polis%C3%AFau-newydd-yng-nghymru_0.pdf\">adroddiad<\/a> yn edrych ar bolis\u00efau newydd er mwyn datrys yr argyfwng ail gartrefi, sy&#8217;n llawn argymhellion pwysig, ond yn bwysicaf oll mae angen inni weithredu nawr cyn ei bod yn rhy hwyr. Efallai mai un o&#8217;r rhwystrau sy&#8217;n atal Llywodraeth Cymru rhag cymryd camau effeithiol yw&#8217;r ffaith bod 28% o ASau yn landlordiaid eu hunain. Mae llesiant cenedlaethau&#8217;r dyfodol yn dibynnu ar hyn, ac mae angen inni atgyfodi ysbryd\u00a0<a href=\"https:\/\/soundcloud.com\/desolationradio\/rebecca-riots-with-rhian-e-jones\">Rebecca<\/a>.\u00a0 Gallwn gael ein hysbrydoli gan wrthsafiad parhaol a welir yn yr ymyrch i <a href=\"https:\/\/savethenorthernmeadows.wales\/\">Achub Dolydd y Gogledd<\/a>. \u00a0<\/p>\n<p>Fel y <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2021\/07\/28\/nid-yw-cymru-ar-werth\/\">dywedodd Cian Ireland<\/a> mewn araith yn ddiweddar ar gyfer rali Nid\u00a0 Yw\u00a0 Cymru\u00a0 Ar\u00a0 Werth, wrth sefyll ger Tryweryn:<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Yn lle fod ein cymunedau&#8217;n gwynebu cael ei boddi gyda d\u0175r, maent yn gwynebu gael eu boddi dan &#8216;fflyd&#8217; o brynwyr efo cyfoeth, yn allan gystadlu pobl lleol ar farchnad preifat sy&#8217;n blaenoriaethu cyfoeth o &#8216;flaen anghenion pobl ac ein cymunedau. Mae&#8217;n ymosodiad gan y farchnad tai cyfalafeithol ar ein gymunedau.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyfarfu Real Wild Estates Company a L&#8217;Oreal Groupe o Ffrainc yn ddiweddar i drafod cynlluniau i brynu tir i&#8217;w ddad-ddofi. Maent yn ceisio\u00a0gwneud elw yn benodol drwy wahanol fathau o &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;O gipio tir i&#8217;r argyfwng tai: Nid yw Cymru ar werth&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":32,"featured_media":1376,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[111,55,7],"class_list":["post-1374","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-amaeth","tag-llywodraeth-cymru","tag-y-gymraeg","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>O gipio tir i&#039;r argyfwng tai: Nid yw Cymru ar werth - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"O gipio tir i&#039;r argyfwng tai: Nid yw Cymru ar werth - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cyfarfu Real Wild Estates Company a L&#8217;Oreal Groupe o Ffrainc yn ddiweddar i drafod cynlluniau i brynu tir i&#8217;w ddad-ddofi. Maent yn ceisio\u00a0gwneud elw yn benodol drwy wahanol fathau o &hellip; Parhau i ddarllen &quot;O gipio tir i&#8217;r argyfwng tai: Nid yw Cymru ar werth&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-02-04T10:28:28+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-02-04T10:29:08+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/rebecca.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1186\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"821\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Alex Heffron\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Alex Heffron\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"9 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/\"},\"author\":{\"name\":\"Alex Heffron\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fd3b299c67b7b28aaa24964d394ddb0c\"},\"headline\":\"O gipio tir i&#8217;r argyfwng tai: Nid yw Cymru ar werth\",\"datePublished\":\"2022-02-04T10:28:28+00:00\",\"dateModified\":\"2022-02-04T10:29:08+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/\"},\"wordCount\":3371,\"commentCount\":2,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/rebecca.jpg\",\"keywords\":[\"amaeth\",\"Llywodraeth Cymru\",\"Y Gymraeg\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/\",\"name\":\"O gipio tir i'r argyfwng tai: Nid yw Cymru ar werth - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/rebecca.jpg\",\"datePublished\":\"2022-02-04T10:28:28+00:00\",\"dateModified\":\"2022-02-04T10:29:08+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/rebecca.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/rebecca.jpg\",\"width\":1186,\"height\":821},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"O gipio tir i&#8217;r argyfwng tai: Nid yw Cymru ar werth\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fd3b299c67b7b28aaa24964d394ddb0c\",\"name\":\"Alex Heffron\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Alex Heffron\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/alexheffron\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"O gipio tir i'r argyfwng tai: Nid yw Cymru ar werth - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"O gipio tir i'r argyfwng tai: Nid yw Cymru ar werth - undod","og_description":"Cyfarfu Real Wild Estates Company a L&#8217;Oreal Groupe o Ffrainc yn ddiweddar i drafod cynlluniau i brynu tir i&#8217;w ddad-ddofi. Maent yn ceisio\u00a0gwneud elw yn benodol drwy wahanol fathau o &hellip; Parhau i ddarllen \"O gipio tir i&#8217;r argyfwng tai: Nid yw Cymru ar werth\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2022-02-04T10:28:28+00:00","article_modified_time":"2022-02-04T10:29:08+00:00","og_image":[{"width":1186,"height":821,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/rebecca.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Alex Heffron","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Alex Heffron","Est. reading time":"9 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/"},"author":{"name":"Alex Heffron","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fd3b299c67b7b28aaa24964d394ddb0c"},"headline":"O gipio tir i&#8217;r argyfwng tai: Nid yw Cymru ar werth","datePublished":"2022-02-04T10:28:28+00:00","dateModified":"2022-02-04T10:29:08+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/"},"wordCount":3371,"commentCount":2,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/rebecca.jpg","keywords":["amaeth","Llywodraeth Cymru","Y Gymraeg"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/","name":"O gipio tir i'r argyfwng tai: Nid yw Cymru ar werth - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/rebecca.jpg","datePublished":"2022-02-04T10:28:28+00:00","dateModified":"2022-02-04T10:29:08+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/rebecca.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/rebecca.jpg","width":1186,"height":821},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/02\/04\/cipio-tir-argyfwng-tai\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"O gipio tir i&#8217;r argyfwng tai: Nid yw Cymru ar werth"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fd3b299c67b7b28aaa24964d394ddb0c","name":"Alex Heffron","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g","caption":"Alex Heffron"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/alexheffron\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1374","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/32"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1374"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1374\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1377,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1374\/revisions\/1377"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1376"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1374"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1374"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1374"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}