{"id":1397,"date":"2022-03-21T19:39:37","date_gmt":"2022-03-21T19:39:37","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1397"},"modified":"2022-03-21T19:52:57","modified_gmt":"2022-03-21T19:52:57","slug":"safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/","title":{"rendered":"Safbwynt heddychwr ar y rhyfel yn Wcr\u00e1in"},"content":{"rendered":"<p><i>Dyma araith y cyflwynodd Rhun Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod, i Senedd Undod yn rhoi ei fewnbwn fel heddychwr am y rhyfel yn Wcrain. Cyhoeddwyd gyntaf ar wefan Cymdeithas y Cymod ar 9fed o Fawrth 2022. Diolch am ganiat\u00e2d i\u2019w chyhoeddi ar flog Undod.<\/i><\/p>\n<p>Noswaith dda, dwi\u2019n meddwl yn gyntaf mae\u2019n rhaid i mi nodi na fyddwn yn hollol siwr sut fyddwn i yn ymateb pe bawn yn heddychwr yn yr Wcrain a Rwsia ar y funud. Mae eu safiad nhw\u2019n hynod o ddewr; rhywbeth rydym ond yn gallu dychmygu dygymod ag o. Mae\u2019n amlwg bod y sefyllfa yn Wcrain yn un hynod o bryderus ac ar adegau yn annelwig felly nid yw fy safbwynt yn dod fel arbenigwr gwleidyddol ond hytrach fel unigolyn sydd yn sefyll dros heddychiaeth a\u2019r llwybr di-drais.<\/p>\n<p>Mae\u2019r broses o gael heddwch a chymodi ynddo ei hun yn un llawer anoddach i\u2019w weithredu na thrais, ac yn debygol o fod y rheswm pam fod cymaint o ryfeloedd wedi digwydd yn y gorffennol. Mae\u2019r weithred o drais yn haws, boed hynny yn fewnol fel person, neu yn wleidyddol. Ond nid oes modd trechu unrhyw anghydfod gyda thrais \u2013 mae\u2019n rhaid cael bobl i wrando ar ei gilydd os ydym am weld unrhyw ganlyniad parhaol.<\/p>\n<p>O ran safbwynt Cymdeithas y Cymod yn gyffredinol, rydym yn grediniol taw cymodi yw\u2019r unig ateb i unrhyw anghydfod. Rydym yn condemnio pob math o rhyfel, ac mae\u2019r hyn sy\u2019n digwydd yn Wcrain yn ein gofidio. Cwestiwn o bosib ar gyfer rhywbryd arall yw sut mae ein naratif gorllewinol yn golygu ein bod yn talu mwy o sylw i\u2019r rhyfel yma o\u2019i gymharu \u00e2\u2019r rhyfeloedd yn Yemen a Somalia, lle mae arfau y Deyrnas Unedig yn cael eu defnyddio. Mae\u2019n rhaid cofio fod pob rhyfel yn ddrwg ac nid oes byth ochr dda i drais.<\/p>\n<p>Wrth edrych yn \u00f4l ar hanes rwyf yn grediniol bod rhyfel wastad yn gorffen gyda thrafodaeth, boed hynny o amgylch bwrdd o wleidyddion neu dribiwnlys, a hynny beth bynnag yw canlyniad y rhyfel ei hun. Felly yn y b\u00f4n mae rhyfel yn wastraff amser ac o fywydau pobl.<\/p>\n<p>Yma yng Nghymru ei hun rwyf yn poeni am y naratif a\u2019r eirfa dreisgar sy\u2019n cael ei ddefnyddio gan y cyfryngau a gwleidyddion o bob plaid. Nid wyf yn credu ei fod gwella\u2019r sefyllfa ond hytrach yn creu tensiynau a chasineb ac yn profi bod imperialaeth yn bodoli a\u2019r ddwy ochr y \u201cfrwydr\u201d. Dylem fel cenedl sydd \u00e2 hanes hir o heddychiaeth gondemnio\u2019r trais nid ei gefnogi.<\/p>\n<p>Er hyn mae\u2019n rhaid canmol Llywodraeth Cymru am ei pharodrwydd i groesawu ffoaduriaid o\u2019r Wcrain, sy\u2019n cael ei arwain gan fwriad a pholisi\u2019r Llywodraeth o greu Genedl Noddfa. Gobeithio y daw newid ym mholisi Llywodraeth San Steffan i\u2019n galluogi ni i ymgartrefu\u2019r ffoaduriaid.<\/p>\n<p>Er hyn gellir dadlau ei bod yn eironig fod y Llywodraeth am greu cenedl noddfa ond dal yn cefnogi a buddsoddi yn y diwydiant arfau sydd yn y b\u00f4n yn ffynhonnell sy\u2019n creu ffoaduriaid trwy eu gwthio allan o\u2019u cartrefi. Mae\u2019r diwydiant arfau yn chwarae r\u00f4l fawr yng nghynlluniau economaidd Cymru a\u2019r Deyrnas Unedig a dylai hyn roi cydwybod anesmwyth i chi. Byddai\u2019n fwy berthnasol pe bai Llywodraeth Cymru yn creu Cenedl Heddwch.<\/p>\n<p>Mae rhyfel yma cael ei yrru gan y trachwant am b\u0175er gwleidyddol. Mi fydd dyheadau ffantasi Putin yn arwain at hyd yn oed mwy o drais a dylwn gymryd ei fygythiadau o ddefnydd o arfau niwclear o ddifri. Nid hwn yw\u2019n golygu bod NATO ac arweinwyr y gorllewin yn dda i gyd. Pe na bai NATO ddim yn bodoli, mae\u2019n debyg na fyddai y sefyllfa mor drychinebus ag yw hi.<\/p>\n<p>Nid yw NATO chwaith gyda rhyw lawer o b\u0175er i ymateb i\u2019r fath fygythiad gan Putin. Mae grym NATO bellach yn ddibwys oherwydd bod y deterrents a\u2019r arfau rydym wedi helpu datblygu mor beryglus, fel nad yw\u2019r bobl mwyaf gwallgof yn fodlon eu defnyddio. Meddyliwch, gyda\u2019r holl arfau sydd o dan reolaeth NATO nid ydym yn medru gwneud dim i atal Putin. Nid yw\u2019r deterrent bellach yn gweithio. Ac felly sut yn union mae NATO yn ein hamddiffyn? Ydy mae\u2019r gorllewin wedi profocio Putin ond nid yw\u2019n golygu fod yr unben yn ddyn da o bell ffordd.<\/p>\n<p>Dwi\u2019n meddwl bod angen rhoi mwy o gapasiti i\u2019r UN i sicrhau mwy o lais heddwch a mynd n\u00f4l at wreiddiau gwreiddiol y mudiad.<\/p>\n<p>O ran y sefyllfa yn Wcrain ar hyn y bryd, mae lluniau yn dangos bod pethau yn newid yn ddyddiol a thaw pobl gyffredin sy\u2019n dioddef fwyaf, fel ym mhob rhyfel. Dwi\u2019n llawn edmygedd o nifer o drigolion y wlad sy\u2019n sefyll i fyny ar sawl achlysur yn ddiarfog yn erbyn p\u0175er treisgar Rwsia. Gwelwyd sawl achos o filwyr Rwsia yn cael eu croesawu gan gymunedau gyda diod a bwyd. Mae\u2019n dangos bod cariad wastad yn medru trechu unrhyw casineb.<\/p>\n<p>A beth am bobl cyffredin Rwsia? Mae 13,000 o bobl wedi cael eu harestio hyd yn hyn tra\u2019n gwrthdystio yn erbyn y rhyfel ac mae eu safiad dros heddwch yn anhygoel. Dyma neges dderbyniais gan Friends House Moscow, sefydliad a gymerodd rhan yn ein digwyddiad ar lein \u2018Heddwch yn Wcrain\u2019 wythnos diwethaf:<\/p>\n<p>\u201c<i>No to War,\u201d write great and small. Since the massive demonstrations on Thursday, Russians have continued to protest the invasion of Ukraine. Demonstrations have been held daily; arrests have been made daily. On Saturday, almost 1000 were arrested, on Sunday, 2000. Demonstrators have developed new tactics. In St. Petersburg, they gathered on Nevsky Prospect without signs, in a silent, slow-moving crowd. There is also the art of the \u201c\u0442\u0438\u0445\u0438\u0439 \u043f\u0438\u043a\u0435\u0442\u201d or \u201csoft-spoken picket,\u201d now trending on Twitter. Demonstrators wear blue and yellow clothing or make-up, carry a sunflower, accessorize purses, backpacks and face masks.<\/i><\/p>\n<p>Dyma sut i wrthdystio yn effeithlon yn erbyn gwladwriaeth sy\u2019n barod i gosbi pobl ei hun.<\/p>\n<p>Mae\u2019r sancsiynau mae gwledydd Ewrop yn eu gosod yn bwysig er mwyn pwyso ar Putin, ond mae angen ystyried a ydynt yn gweithio ac yn fwy penodol ar bwy y maent yn cael effaith. Mae prisiau nwyddau arferol yn Rwsia wedi codi\u2019n aruthrol gyda unigolyn o\u2019n digwyddiad nos Iau diwethaf yn nodi bod y sancsiynau wedi creu Wal Berlin newydd i bobl gyffredin y wlad.<\/p>\n<p>O weld beth sy\u2019n digwydd ar hyn o bryd mae\u2019n debygol y bydd y terfysg yn Wcrain yn datblygu yn debycach i ryfel guerrilla ond mae\u2019n rhaid dal i edrych ar yr holl beth mewn goleuni positif a gobeithio y daw cadoediad a heddwch.<\/p>\n<p>Fe allwn ni helpu i gefnogi\u2019r pobl yma sy\u2019n cael ei effeithio gan ryfel trwy bwyso ar y llywodraeth i ddechrau dderbyn mwy o ffoaduriaid. Mae Moldova wedi derbyn nifer sy\u2019n cyfateb i 10% o\u2019i phoblogaeth yn barod. Ond hefyd mae angen parhau i rannu\u2019r neges dros gymodi. Boed hynny gyda\u2019ch cymdogion, gwleidyddion neu ar y cyfryngau. Mae\u2019n rhaid canolbwyntio ar be sy\u2019n gyffredin rhyngom a chadw ffydd mewn dynoliaeth.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma araith y cyflwynodd Rhun Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod, i Senedd Undod yn rhoi ei fewnbwn fel heddychwr am y rhyfel yn Wcrain. Cyhoeddwyd gyntaf ar wefan Cymdeithas y &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Safbwynt heddychwr ar y rhyfel yn Wcr\u00e1in&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1412,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3,6,1],"tags":[],"class_list":["post-1397","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-digwyddiadau-events","category-erthyglau","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Safbwynt heddychwr ar y rhyfel yn Wcr\u00e1in - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Safbwynt heddychwr ar y rhyfel yn Wcr\u00e1in - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dyma araith y cyflwynodd Rhun Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod, i Senedd Undod yn rhoi ei fewnbwn fel heddychwr am y rhyfel yn Wcrain. Cyhoeddwyd gyntaf ar wefan Cymdeithas y &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Safbwynt heddychwr ar y rhyfel yn Wcr\u00e1in&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-03-21T19:39:37+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-03-21T19:52:57+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Protest_against_the_Russian_invasion_of_Ukraine_in_2022_in_Helsinki_Finland-3-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1440\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Undod\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Undod\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"10 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/\"},\"author\":{\"name\":\"Undod\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e\"},\"headline\":\"Safbwynt heddychwr ar y rhyfel yn Wcr\u00e1in\",\"datePublished\":\"2022-03-21T19:39:37+00:00\",\"dateModified\":\"2022-03-21T19:52:57+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/\"},\"wordCount\":2342,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Protest_against_the_Russian_invasion_of_Ukraine_in_2022_in_Helsinki_Finland-3-scaled.jpg\",\"articleSection\":[\"Digwyddiadau\",\"Erthyglau\",\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/\",\"name\":\"Safbwynt heddychwr ar y rhyfel yn Wcr\u00e1in - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Protest_against_the_Russian_invasion_of_Ukraine_in_2022_in_Helsinki_Finland-3-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2022-03-21T19:39:37+00:00\",\"dateModified\":\"2022-03-21T19:52:57+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Protest_against_the_Russian_invasion_of_Ukraine_in_2022_in_Helsinki_Finland-3-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Protest_against_the_Russian_invasion_of_Ukraine_in_2022_in_Helsinki_Finland-3-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1440},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"A pacifist&#8217;s perspective on the war in Ukraine\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e\",\"name\":\"Undod\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Undod\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/undod\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Safbwynt heddychwr ar y rhyfel yn Wcr\u00e1in - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Safbwynt heddychwr ar y rhyfel yn Wcr\u00e1in - undod","og_description":"Dyma araith y cyflwynodd Rhun Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod, i Senedd Undod yn rhoi ei fewnbwn fel heddychwr am y rhyfel yn Wcrain. Cyhoeddwyd gyntaf ar wefan Cymdeithas y &hellip; Parhau i ddarllen \"Safbwynt heddychwr ar y rhyfel yn Wcr\u00e1in\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2022-03-21T19:39:37+00:00","article_modified_time":"2022-03-21T19:52:57+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1440,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Protest_against_the_Russian_invasion_of_Ukraine_in_2022_in_Helsinki_Finland-3-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Undod","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Undod","Est. reading time":"10 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/"},"author":{"name":"Undod","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e"},"headline":"Safbwynt heddychwr ar y rhyfel yn Wcr\u00e1in","datePublished":"2022-03-21T19:39:37+00:00","dateModified":"2022-03-21T19:52:57+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/"},"wordCount":2342,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Protest_against_the_Russian_invasion_of_Ukraine_in_2022_in_Helsinki_Finland-3-scaled.jpg","articleSection":["Digwyddiadau","Erthyglau","Heb gategori"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/","name":"Safbwynt heddychwr ar y rhyfel yn Wcr\u00e1in - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Protest_against_the_Russian_invasion_of_Ukraine_in_2022_in_Helsinki_Finland-3-scaled.jpg","datePublished":"2022-03-21T19:39:37+00:00","dateModified":"2022-03-21T19:52:57+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Protest_against_the_Russian_invasion_of_Ukraine_in_2022_in_Helsinki_Finland-3-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Protest_against_the_Russian_invasion_of_Ukraine_in_2022_in_Helsinki_Finland-3-scaled.jpg","width":2560,"height":1440},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/03\/21\/safbwynt-heddychwr-ar-y-rhyfel-yn-wcrain\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"A pacifist&#8217;s perspective on the war in Ukraine"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e","name":"Undod","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g","caption":"Undod"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/undod\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1397","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1397"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1397\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1413,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1397\/revisions\/1413"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1412"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1397"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1397"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1397"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}