{"id":1417,"date":"2022-04-27T11:43:44","date_gmt":"2022-04-27T10:43:44","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1417"},"modified":"2022-05-03T16:18:21","modified_gmt":"2022-05-03T15:18:21","slug":"russell-goodway-arena-caerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/","title":{"rendered":"Pwy yw Russell Goodway? &#8220;Awen&#8221; yr Arena a phypedfeistr Caerdydd"},"content":{"rendered":"<p>Os gofynnwch i ambell un o&#8217;r gwybodusion am Gyngor Caerdydd, ei gweithgaredd a&#8217;r cynllwynio, mae&#8217;n lled bosib y clywch geiriau megis &#8216;Nid Huw Thomas sy&#8217;n rhedeg y cyngor&#8217;. Ac os nad arweinydd y Cyngor sy&#8217;n ei arwain, pwy yn union, y mae&#8217;n debyg y gofynnwch, sydd wedi ymgymryd \u00e2&#8217;r r\u00f4l honno? A phwy gall y person yma bod, er gwaethaf ei rym, a ystyriwyd mor amhoblogaidd mae&#8217;n debyg, <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/local-news\/new-train-stations-1-bus-23525429\">fel nad oedd yno i&#8217;r &#8216;photo-op&#8217; yn lansiad maniffesto diweddar Llafur Caerdydd<\/a>? Wel, efallai bydd yr enw a gaiff ei adrodd, yn gynllwyngar o bosib, yn canu cloch; &#8220;Russell Goodway, wrth gwrs.&#8221;<\/p>\n<p>A&#8217;r cwestiwn dilynol amlwg bydd, pwy yn union yw Russell Goodway, a pham fe sydd \u00e2&#8217;r grym y tu \u00f4l i&#8217;r orsedd? I&#8217;r rhai o oedran penodol, bydd Goodway yn ffigwr adnabyddus a nodedig iawn, sef arweinydd blaenorol Cyngor Caerdydd cyn i Lafur golli grym yn 2004. Mae ei gefndir hefyd yn mynd beth o&#8217;r ffordd i esbonio gwleidyddiaeth leol Caerdydd heddiw.<\/p>\n<h2>Y dyn, y chwedl<\/h2>\n<p>Yn fab i swyddog undeb, mae Goodway wedi bod yn ymwneud \u00e2 gwleidyddiaeth ers ei gyfnod ym Mhrifysgol Abertawe. Daeth yn gynghorydd cymuned yn 19 oed, yn gynghorydd sir yn 28 oed, ac yr <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Russell_Goodway\">arweinydd cyngor ieuengaf ym Mhrydain yn 35 oed<\/a>. Erbyn iddo gael ei ddisodli fel arweinydd yn 2004 (gan Rodney Berman fel arweinydd llywodraeth leol Democratiaid Rhyddfrydol leiafrifol), roedd wedi bod yn y r\u00f4l am 12 mlynedd. Pardduwyd ei enw da gan gyfres o faterion dadleuol a sgandalau yn ystod ei gyfnod fel arweinydd Cyngor Caerdydd, ac mae&#8217;n mynd egluro rhywfaint pam nad oedd ymhlith y ffefrynnau i fod yn arweinydd ar \u00f4l i&#8217;w blaid ddychwelyd i rym yn 2012.<\/p>\n<p>Bydd y materion dadleuol hyn, er nad ydynt yn hysbys i bleidleiswyr iau, yn faich y mae Goodway yn eu cario i lawer un sydd \u00e2 chof hirach, a gellir dod o hyd i fanylion amdanynt yn y parth cyhoeddus o hyd. Maent yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\"><a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/echogate-scandal-rocked-cardiffs-county-2315571\">Llythyr ffug yn cael ei anfon at yr Echo i roi hwb i&#8217;w ddelwedd<\/a>, a elwir yn Echogate.<\/li>\n<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\"><a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/councillors-told-to-repay-150k-2375368\">Talu lwfansau chwyddedig i gynghorwyr yr honnwyd gan yr archwilydd dosbarth ar y pryd eu bod \u2013 yn groes i wrthwynebiadau chwyrn y cyngor &#8211; yn anghyfreithlon<\/a>. <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/council-agrees-not-pursue-payment-2326727\">Gwrthododd llawer\u00a0 ad-dalu&#8217;r gordaliad<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/council-agrees-not-pursue-payment-2326727\">gan gynnwys Goodway<\/a>. Ni chafwyd yr un erlyniad.<\/li>\n<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\">Ei <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/lord-mayor-plans-quit-role-2484589\">gyfnod dadleuol fel yr Arglwydd Faer ac arweinydd y cyngor ar yr un pryd<\/a>.<\/li>\n<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\">Brwydrau niweidiol gyda ffigyrau blaenllaw fel y diweddar Brif Weinidog Rhodri Morgan, a <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/cost-assembly-couldve-been-half-2398093\">chyn Ysgrifennydd Cymru Ron Davies, am leoli&#8217;r Cynulliad yn Neuadd y Ddinas<\/a>.<\/li>\n<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\"><a href=\"http:\/\/www.apple.com\/uk\">Cwestiynau yn y gorffennol ynghylch a yw&#8217;r Cynghorydd Goodway hyd yn oed yn byw yng Nghaerdydd<\/a>.<\/li>\n<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\"><a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/new-bid-oust-cardiff-leader-2464461\">Cynigion o ddiffyg hyder yn hydref 2003<\/a>, yn dilyn colled mewn isetholiad ym Mhentwyn, a delwedd gyhoeddus wael Goodway.<\/li>\n<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\">Ar \u00f4l colli ei swydd fel arweinydd y cyngor yn 2004, arhosodd yn gynghorydd dros Drel\u00e1i, ac ymgymerodd \u00e2 r\u00f4l Prif Swyddog Gweithredol Siambr Fasnach Caerdydd ddiwedd 2004. Ar ddechrau 2008, daeth y siambr i ben yn dilyn gordaliad grant hyfforddi gan ELWa a dyledion a amcangfrifwyd i fod yn \u00a31 miliwn. <a href=\"http:\/\/edgeofthecentre.blogspot.com\/2006\/02\/death-of-initiative.html\">Collodd 35 eu swyddi<\/a>, a chafodd y sefydliad ei ddiddymu. Nid yw&#8217;n glir pa union r\u00f4l a chwaraeodd Goodway yn nhranc y siambr, ond fel y Prif Swyddog Gweithredol ar y pryd, ni fydd ymhlith yr uchafbwyntiau ar ei CV.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Ffraeo<\/h2>\n<p>Yn ogystal ag isafbwyntiau a&#8217;r isafbwyntiau is yng nghyfnod Goodway wrth y llyw, roedd ei deyrnasiad fel arweinydd y Cyngor yn cynnwys ffraeo cyson o fewn y Blaid Lafur leol, a oedd yn effeithio ar wleidyddiaeth genedlaethol, yn enwedig gyda&#8217;r Prif Weinidog Rhodri Morgan. Fel yr adroddwyd yn Wales Online, roedd cecru rhyngddo a Goodway wedi ymledu i&#8217;r parth cyhoeddus, ar \u00f4l i Goodway gyhuddo&#8217;r Prif Weinidog o geisio manteisio ar etholiad o blaid ymgeisydd annibynnol \u2013 yn y b\u00f4n, yng ngolwg Goodway, yn creu sefyllfa lle byddai&#8217;n cael ei drechu yn etholiad y cyngor ym mis Mai 2004.<\/p>\n<p>Mewn sylwadau a wnaed ar <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/rhodris-shock-jibe-feud-boils-2433502\">15 Mehefin 2004<\/a>, dywedodd Rhodri Morgan ei fod yn falch iawn bod Mr Greg Owens wedi cymryd yr awenau fel arweinydd y gr\u0175p Llafur ar Gyngor Caerdydd.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n bwysig bod cysgod Russell Goodway yn cael ei godi oddi ar y gr\u0175p cyn gynted \u00e2 phosibl. Mae angen cael gwared \u00e2&#8217;r ymraniadau yn y gr\u0175p, fel nad yw pobl bellach yn cael eu hystyried o blaid Russell Goodway neu&#8217;n wrth-Russell Goodway, ond yn hytrach yn cael eu barnu ar eu gallu i wneud y gwaith. Mae Greg Owens yn ddyn rhesymol iawn a&#8217;r arweinydd gorau posibl i ddod \u00e2&#8217;r gwahanol garfannau at ei gilydd.&#8221;<\/p>\n<p>At hynny, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn credu y dylai Mr Goodway fod wedi sefyll yng Nghaerdydd yn etholiadau&#8217;r cyngor. &#8220;Roedd ei gysylltiad \u00e2&#8217;r ardal mor denau,&#8221; meddai. &#8220;Roedd ei gymwysterau&#8217;n ofnadwy o denau ac fe basiodd drwy&#8217;r Blaid Lafur a deddfwriaeth genedlaethol gan ffracsiwn bach iawn.&#8221; Roedd hefyd yn ymwneud \u00e2 sefyllfa chwerthinllyd o rentu hen d\u0177 cyngor yn Nhrel\u00e1i. &#8220;Rwy&#8217;n credu y byddai wedi bod yn well iddi sefyll ym Mro Morgannwg (lle mae ganddo <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/rhodris-shock-jibe-feud-boils-2433502\">gartref<\/a> hirsefydlog).&#8221;<\/p>\n<h2><b>Yr ymerodraeth yn taro&#8217;n \u00f4l<\/b><\/h2>\n<p>Er gwaethaf y record frith a&#8217;r gorffennol tymhestlog hwn, arhosodd Goodway fel cynghorydd yn Nhrel\u00e1i, daeth yn brif swyddog gweithredol Fferylliaeth Gymunedol Cymru yn 2009 a dyfarnwyd OBE iddo o dan lywodraeth Geidwadol yn y DU yn <a href=\"https:\/\/www.thegazette.co.uk\/London\/issue\/62866\/supplement\/N12\">rhestr anrhydeddau&#8217;r flwyddyn newydd 2020<\/a> am wasanaethau i lywodraeth leol. Yn fwy perthnasol o ran cyflwr presennol Caerdydd, daeth yn \u00f4l i Gabinet Cyngor Caerdydd ar \u00f4l buddugoliaeth etholiadol Llafur yn 2012 fel yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd a Chyllid, dan arweinyddiaeth y &#8216;Supernan&#8217; Heather Joyce.<\/p>\n<p>Yn ystod y cyfnod hwn, penodwyd nifer o uwch swyddogion gweithredol gan y Cyngor a fyddai&#8217;n <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/local-news\/pwc-man-gets-top-job-2035441\">gwbl sylfaenol wrth ddatblygu teyrnasiad Llafur<\/a> dros y degawd nesaf, ond cafodd esgyniad Goodway ei dorri&#8217;n fyr gan ymddiswyddiad annhymig Joyce, oherwydd salwch ei g\u0175r. Yn yr etholiad dilynol ar gyfer arweinydd dewiswyd Phil Bale, a oedd yn mwynhau dylanwad cynyddol yn y cabinet, a chafwyd gwared \u00e2 Goodway a chynghreiriaid iddo fel Huw Thomas a Lynda Thorne.<\/p>\n<p>Ni wnaethant, wrth gwrs, dderbyn hyn yn ddidrafferth, ac yn ystod y tair blynedd nesaf buont yn ymdrechu i ddadsefydlogi&#8217;r blaid a thanseilio Bale, a nodweddwyd hyn <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/31692034\">gan bleidlais o ddiffyg hyder<\/a> yn 2015. Gwnaethant hefyd roi cynnig ar y syniad o greu Maer i Gaerdydd. Fe wnaeth eu gweithredoedd ddifrod yn y pen draw, ac er i Bale arwain y blaid i fuddugoliaeth yn 2017, cafwyd gwared ohono&#8217;n fuan wedyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r hyn a ddigwyddodd nesaf yn destun rhywfaint o ddyfalu, ond mae sibrydion bod yr etholiad wedi&#8217;i gynnal gyda&#8217;r bwriad o symud y tu hwnt i garfannau de a&#8217;r chwith. Fodd bynnag, yn \u00f4l un fersiwn o&#8217;r stori &#8216;breninorseddu&#8217;, camodd y rhai ar y dde i&#8217;r naill ochr i gronni&#8217;r bleidlais y tu cefn i Huw Thomas, gan adael llwybr clir iddo at yr arweinyddiaeth. Yn \u00f4l daeth Lynda Thorne i&#8217;r cabinet, ac yn \u00f4l daeth Russell Goodway, y tro hwn yn Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu.<\/p>\n<p>Y mae yna le i&#8217;r darllenydd ddyfalu pa ddylanwad y gallai&#8217;r penodiad hwn fod wedi&#8217;i gael ar &#8216;ddatblygiad&#8217; y ddinas dros y pum mlynedd diwethaf. Mae cefnogwyr y Cynghorydd Goodway yn aml yn amddiffyn ei ymddygiad drwy gyfeirio at ei record wrth \u201cgyflawni\u201d. Fodd bynnag, mae&#8217;n amlwg ei fod wedi methu \u00e2 darparu gorsaf fysiau nac arena yn ei gyfnod o bum mlynedd yn y swydd, <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/business\/business-news\/bus-station-indoor-arena-identified-13227120\">er iddo gyfeirio at y rhain fel ei flaenoriaethau yn 2017<\/a>. Ymhellach, byddai&#8217;n esgeulus inni beidio \u00e2&#8217;ch cyfeirio at y <a href=\"https:\/\/calamity-cardiff.blog\/\">wefan Calamity Cardiff<\/a> sy&#8217;n manylu ar rai o&#8217;r penderfyniadau mwyaf trychinebus gan Gyngor Caerdydd, sydd wedi arwain at brosiectau adeiladu truenus yng nghanol y ddinas, diffyg tai cyngor a thai fforddiadwy, dymchwel coed, mannau gwyrdd sy&#8217;n diflannu a diraddio treftadaeth y ddinas.<\/p>\n<p>Yn fwy penodol mae&#8217;n cyfeirio at Arena Bae Caerdydd, sydd wedi bod yn destun y dadlau mwyaf diweddar i&#8217;r Cyngor, ar \u00f4l <a href=\"https:\/\/golwg.360.cymru\/newyddion\/cymru\/2093793-galw-gyngor-caerdydd-ddod-coed\">i&#8217;r gwaith clirio ddechrau ar Barc Silurian<\/a> a&#8217;r cyffiniau, bythefnos yn unig cyn yr etholiadau. Chwarae bach yw tarfu ar adar yn ystod y tymor nythu, fodd bynnag, yng ngoleuni nifer o gwestiynau &#8211; o dryloywder i gynaliadwyedd &#8211; sydd eisoes wedi&#8217;u codi, yn enwedig ynghylch ariannu&#8217;r prosiect gyda <a href=\"https:\/\/calamity-cardiff.blog\/2022\/03\/06\/risky-secret-deals-with-foreign-developer-with-over-200m-of-your-money\/\">gwerth \u00a3200 miliwn o arian cyhoeddus.<\/a> Fel prosiect mynwesol Goodway, sydd eisoes ychydig flynyddoedd ar ei h\u00f4l hi, bydd yn cymryd mwy nag ychydig o wyau i atal y datblygiad hwn.<\/p>\n<p>Gwaith dyfalu yw tybio&#8217;r hyn y gallai pum mlynedd arall o reolaeth Lafur arwain ato ar gyfer ein prifddinas, ond ar sail y sawl a&#8217;r hyn y mae Huw Thomas wedi&#8217;i alluogi hyd yn hyn, bydd angen i bleidleiswyr blaengar Caerdydd feddwl o ddifri am eu pleidlais. Tra bod Llafur Cymru yn y Senedd wedi ymrwymo i becyn o bolis\u00efau lled-radical yn eu cytundeb gyda Phlaid Cymru, mae Llafur Caerdydd yn Neuadd y Sir, ychydig lathenni i lawr y ffordd, eisoes wedi cychwyn ar lwybr tra gwahanol.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Os gofynnwch i ambell un o&#8217;r gwybodusion am Gyngor Caerdydd, ei gweithgaredd a&#8217;r cynllwynio, mae&#8217;n lled bosib y clywch geiriau megis &#8216;Nid Huw Thomas sy&#8217;n rhedeg y cyngor&#8217;. Ac os &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Pwy yw Russell Goodway? &#8220;Awen&#8221; yr Arena a phypedfeistr Caerdydd&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":1423,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[71,114,171,170,169],"class_list":["post-1417","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-caerdydd","tag-cyngor-caerdydd","tag-hustle-goodwage","tag-huw-thomas","tag-russell-goodway","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Pwy yw Russell Goodway? &quot;Awen&quot; yr Arena a phypedfeistr Caerdydd - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Pwy yw Russell Goodway? &quot;Awen&quot; yr Arena a phypedfeistr Caerdydd - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Os gofynnwch i ambell un o&#8217;r gwybodusion am Gyngor Caerdydd, ei gweithgaredd a&#8217;r cynllwynio, mae&#8217;n lled bosib y clywch geiriau megis &#8216;Nid Huw Thomas sy&#8217;n rhedeg y cyngor&#8217;. Ac os &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Pwy yw Russell Goodway? &#8220;Awen&#8221; yr Arena a phypedfeistr Caerdydd&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-04-27T10:43:44+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-05-03T15:18:21+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/goodway3.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1080\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Gohebydd\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Gohebydd\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"9 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/\"},\"author\":{\"name\":\"Gohebydd\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\"},\"headline\":\"Pwy yw Russell Goodway? &#8220;Awen&#8221; yr Arena a phypedfeistr Caerdydd\",\"datePublished\":\"2022-04-27T10:43:44+00:00\",\"dateModified\":\"2022-05-03T15:18:21+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/\"},\"wordCount\":2985,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/goodway3.jpg\",\"keywords\":[\"Caerdydd\",\"Cyngor Caerdydd\",\"Hustle Goodwage\",\"Huw Thomas\",\"Russell Goodway\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/\",\"name\":\"Pwy yw Russell Goodway? \\\"Awen\\\" yr Arena a phypedfeistr Caerdydd - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/goodway3.jpg\",\"datePublished\":\"2022-04-27T10:43:44+00:00\",\"dateModified\":\"2022-05-03T15:18:21+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/goodway3.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/goodway3.jpg\",\"width\":1920,\"height\":1080},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Pwy yw Russell Goodway? &#8220;Awen&#8221; yr Arena a phypedfeistr Caerdydd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\",\"name\":\"Gohebydd\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Gohebydd\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Pwy yw Russell Goodway? \"Awen\" yr Arena a phypedfeistr Caerdydd - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Pwy yw Russell Goodway? \"Awen\" yr Arena a phypedfeistr Caerdydd - undod","og_description":"Os gofynnwch i ambell un o&#8217;r gwybodusion am Gyngor Caerdydd, ei gweithgaredd a&#8217;r cynllwynio, mae&#8217;n lled bosib y clywch geiriau megis &#8216;Nid Huw Thomas sy&#8217;n rhedeg y cyngor&#8217;. Ac os &hellip; Parhau i ddarllen \"Pwy yw Russell Goodway? &#8220;Awen&#8221; yr Arena a phypedfeistr Caerdydd\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2022-04-27T10:43:44+00:00","article_modified_time":"2022-05-03T15:18:21+00:00","og_image":[{"width":1920,"height":1080,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/goodway3.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Gohebydd","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Gohebydd","Est. reading time":"9 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/"},"author":{"name":"Gohebydd","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538"},"headline":"Pwy yw Russell Goodway? &#8220;Awen&#8221; yr Arena a phypedfeistr Caerdydd","datePublished":"2022-04-27T10:43:44+00:00","dateModified":"2022-05-03T15:18:21+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/"},"wordCount":2985,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/goodway3.jpg","keywords":["Caerdydd","Cyngor Caerdydd","Hustle Goodwage","Huw Thomas","Russell Goodway"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/","name":"Pwy yw Russell Goodway? \"Awen\" yr Arena a phypedfeistr Caerdydd - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/goodway3.jpg","datePublished":"2022-04-27T10:43:44+00:00","dateModified":"2022-05-03T15:18:21+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/goodway3.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/goodway3.jpg","width":1920,"height":1080},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2022\/04\/27\/russell-goodway-arena-caerdydd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Pwy yw Russell Goodway? &#8220;Awen&#8221; yr Arena a phypedfeistr Caerdydd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538","name":"Gohebydd","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","caption":"Gohebydd"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1417","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1417"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1417\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1426,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1417\/revisions\/1426"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1423"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1417"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1417"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1417"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}