{"id":1446,"date":"2023-01-30T12:30:00","date_gmt":"2023-01-30T12:30:00","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1446"},"modified":"2023-01-30T12:56:56","modified_gmt":"2023-01-30T12:56:56","slug":"streic","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2023\/01\/30\/streic\/","title":{"rendered":"Streic! Mae dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar hyn"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2>Cyflwyniad<\/h2>\n<blockquote><p>\u201cNid yw gweithwyr y sector cyhoeddus ar streic oherwydd eu bod am dorri\u2019r system. Maen nhw ar streic oherwydd bod y system wedi torri.\u201d<\/p>\n<p>\u2013 Mick Lynch, arweinydd RMT, Aberd\u00e2r, 21-01-2023<\/p><\/blockquote>\n<p>Ambell dro, mae dweud dim a gwneud dim yn dangos pwy ydych chi. Yn dangos ar ba ochr ydych chi. Yn dangos os ydych chi yn deall beth yw argyfwng neu nad ydych chi ddim. \u2018Rydym yn byw mewn cyfnod felly ar hyn o bryd. Dyna pam mae\u2019n rhaid i ni gefnogi y gweithwyr hynny sydd ar streic. Achos yn y pendraw, mae dyfodol pob un ohonom ni yn dibynnu ar beth fydd canlyniad y frwydr dyngedfennol hon. Ydyn ni am i\u2019n pobl fyw heb fod tlodi, oerni, newyn a diweithdra neu waith di-urddas yn fygythiadau cyson? Ydyn ni am barhau i ddioddef dan ormes cyfalafiaeth sy\u2019n eiddo i\u2019r ychydig? Ydyn ni am weld ildio ein hawliau sylfaenol i streicio a phrotestio?<\/p>\n<p>Mae\u2019r streiciau presennol yn llawer mwy arwyddocaol na dim ond ceisio mwy o gyflog i weithwyr penodol. Mae nhw i gyd yn brwydro er budd i\u2019r gymdeithas ehangach, ac yn amddiffyn y gwasanaethau mae\u2019r cyhoedd yn eu trysori. Mae nhw\u2019n gri sy\u2019n atsain o\u2019r ysbytai a\u2019r ysgolion a\u2019r rheilffyrdd a\u2019r faniau post a\u2019r colegau sy\u2019n cyhoeddi yn hollol eglur: \u201cDigon yw digon\u201d. Mae\u2019r streicwyr yn gwybod yn iawn fod un o bob tri phlentyn yn byw mewn tlodi yng Nghymru, fod defnydd o fanciau bwyd ar gynnydd aruthrol, a fod tlodi tanwydd yn rhemp. Hyn i gyd yn dilyn dros ddegawd o lymder, gyda mwy i ddod. Mae\u2019r streicwyr yn gwybod nad yw cyflogau ddim yn cadw i fyny efo chwyddiant, yn enwedig yn y sector gyhoeddus \u2013 \u2018doedd hyn ddim yn wir pan welwyd chwyddiant o\u2019r fath yn 80\u2019au\u2019r 20fed ganrif.<\/p>\n<p>Ydyn ni am golli hyd yn oed y rhyddid rhannol sydd gennym? Dyna yw oblygiadau deddfwriaeth gwrth-streicio y Tor\u00efaid. Neu ydym ni am weithredu yn \u00f4l traddodiadau arwrol y gweithwyr a fu?<\/p>\n<h2>Cefndir hanesyddol<\/h2>\n<figure id=\"attachment_1452\" aria-describedby=\"caption-attachment-1452\" style=\"width: 2333px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1452 size-full\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/dic-penderyn-1.jpeg\" alt=\"Plac Dic Penderyn, Merthyr Tudful\" width=\"2333\" height=\"1750\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/dic-penderyn-1.jpeg 2333w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/dic-penderyn-1-300x225.jpeg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/dic-penderyn-1-1024x768.jpeg 1024w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/dic-penderyn-1-768x576.jpeg 768w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/dic-penderyn-1-1536x1152.jpeg 1536w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/dic-penderyn-1-2048x1536.jpeg 2048w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/dic-penderyn-1-1568x1176.jpeg 1568w\" sizes=\"auto, (max-width: 2333px) 100vw, 2333px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1452\" class=\"wp-caption-text\">Merthyr Tudful<\/figcaption><\/figure>\n<p>Cymru welodd y Faner Goch gyntaf ym Merthyr yn 1831, a dienyddio anghyfiawn Dic Penderyn \u2013 lladdwyd hyd at 24 o bobl yn ystod yr ymladd yn ogystal. \u201cCaws a bara\u201d ac \u201cI lawr a\u2019r Brenin\u201d oedd rhai o sloganau y gwrthryfel.<\/p>\n<p>Yn 1839 Cymru oedd y lle y gwelwyd y Siartwyr yn ymladd dros hawliau, a lle y lladdwyd tua 20 o bobl gan yr awdurdodau yng Nghasnewydd.<\/p>\n<p>Cymru welodd y streic hiraf erioed, ac un o\u2019r chwerwaf, pan gododd chwarelwyr Bethesda yn erbyn amodau gwaith creulon Arglwydd Penrhyn, perchennog stad oedd wedi elwa yn anferthol o gaethwasiaeth yn Jamaica. Byddai\u2019r streicwyr yn arddangos posteri yn ffenestri eu tai efo\u2019r geiriau \u201cNid oes bradwr yn y t\u0177 hwn\u201d. Parhaodd y streic o 1900 hyd at 1903, a bu\u2019n rhaid i lawer symud i\u2019r Cymoedd i weithio yn y diwydiant glo.<\/p>\n<p>Y maes glo, wrth gwrs, fu crud cadernid y gweithwyr, a lle y gwelwyd anghydfod parhaus rhwng y meistri glo a\u2019r werin oedd yn colli eu hiechyd a weithiau eu bywydau yn y pyllau. Yn 1910 anfonodd Churchill y fyddin i Donypandy i roi terfyn ar ymdrechion y glowyr i sefyll yn erbyn y meistri. Mae enw Churchill yn dal yn ysgymun yn yr ardal. Yn nes at ein hamser ni, daeth streic fawr y glowyr yn 1984, a roddodd y cyfle i Thatcher i orchfygu ei phrif elynion \u2013 sef y glowyr \u2013 a newid cwrs gwleidyddol y Deyrnas Gyfunol i gyfeiriad hunaniaeth, preifateiddio, a gwasgu ar hawliau. Crewyd anialwch \u00f4l-ddiwydiannol yng Nghymoedd y De. Etifeddion Thatcher yw llywodraeth bresennol San Steffan, a pharhad o\u2019i rhyfel ideolegol hi yw\u2019r hyn a welwn y dyddiau hyn.<\/p>\n<figure id=\"attachment_1455\" aria-describedby=\"caption-attachment-1455\" style=\"width: 550px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1455 size-full\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Tonypandy.jpg\" alt=\"Tonypandy\" width=\"550\" height=\"338\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Tonypandy.jpg 550w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Tonypandy-300x184.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 550px) 100vw, 550px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1455\" class=\"wp-caption-text\">Tonypandy<\/figcaption><\/figure>\n<h2>Streicwyr heddiw<\/h2>\n<p>Pwy sy mewn anghydfod diwydiannol heddiw? Gweithwyr Ambiwlans, Nyrsus, Bydwragedd, Ffisiotherapyddion, Post Brenhinol, Athrawon, Rheilffyrdd, Gweision Sifil, Academyddion, Bysiau. Mae\u2019n bosib y bydd eraill megis gweithwyr t\u00e2n a meddygon iau yn streicio hefyd.<\/p>\n<p>Nid peth i\u2019w wneud yn ddifeddwl yw streicio. Daeth pobl i ben eu tennyn. Efallai mai\u2019r cyflogau sy heb symud rhyw lawer ers deng mlynedd, a felly yn tynnu mwy a mwy o bobl sy\u2019n gweithio llawn amser i bydew tlodi gan fod chwyddiant yn rhemp, sy wedi eu sbarduno i streicio ar yr olwg gyntaf. Ond mae llawer iawn mwy iddi na hyn. Dro ar \u00f4l tro dros y blynyddoedd diwethaf, clywsom am amodau gwaith annioddefol efo targedau yn cael eu dyrchafu uwchlaw gwasanaeth. Mewn gwahanol alwedigaethau, gwelwyd gweithwyr yn dioddef o afiechyd meddyliol a chorfforol, nes fod pobl yn diffygio yn llwyr ac yn gorfod gadael eu gwaith. Mae hyn yn wir am lawer maes heblaw meysydd y rhai sy\u2019n streicio.<\/p>\n<p>Nid am amddiffyn cyflogau yn unig mae\u2019r frwydr yn erbyn y cyflogwyr. Mae pob un o\u2019r streiciau hyn yn ymladd newidiadau sylfaenol i hawliau gwaith, megis gwyliau a salwch, a\u2019r telerau gwaeth a gynigir i staff newydd.<\/p>\n<p>Ar yr un pryd gwelwn fod elw corfforaethol a thaliadau i uchel swyddogion a chyfarwyddwyr cwmn\u00efau yn codi a chodi i lefelau anhygoel.<\/p>\n<h3>Gwasanaeth iechyd<\/h3>\n<p>Hwre! \u2018Roedd y gweithwyr yma yn arwyr yn ystod Cofid! Haeddu cael eu clapio yn y stryd! Ond dydi clapio ddim yn prynu torth na chynhesu\u2019r t\u0177. Dydi o ddim yn cuddio cam-reoli\u2019r Gwasanaeth Iechyd sy wedi arwain ddibyn methiant. Ac yn sicr dydi o ddim wedi gwneud dim oll i\u2019n darbwyllo nad preifateiddio\u2019r Gwasanaeth yw n\u00f4d y Llywodraeth yn San Steffan.<\/p>\n<p>Felly mae\u2019r Llywodraeth yn ceisio rhoi bai am fethiannau\u2019r Gwasanaeth ar y gweithwyr arwrol ac ymroddedig sy\u2019n gwneud eu gorau glas i\u2019n hymgeleddu. Mae\u2019r Llywodraeth am basio deddfwriaeth gwrth-streicio er mwyn cadw \u201cisafswm o lefel gwasanaeth\u201d. Wrth gwrs dydyn nhw ddim yn cyrraedd y lefel isaf o wasanaeth pan nad oes yna streicio \u2013 \u2018roedd y gwasanaeth ar ei liniau ers talwm. Felly bwch dihangol yw\u2019r bai a roddir ar y nyrsus a\u2019r gweithiwyr ambiwlans.<\/p>\n<p>Gallai deddf newydd llym y Llywodraeth olygu fod nyrsus yn cael eu diswyddo. Fedrwn ni ddim derbyn hynny \u2013 yn enwedig o gofio y sgandalau am gyfeillion y Llywodraeth yn cael cytundebau gwerth miliynau adeg Cofid, ac yn darparu offer o safon annerbyniol, a heb neb yn cael eu galw i gyfrif.<\/p>\n<p>Ydyn ni eisiau i\u2019r Gwasanaeth Iechyd gael ei breifateiddio?<\/p>\n<p>Yng nghyd-destun Cymru, dywed ein Llywodraeth ni eu bod yn ddiolchgar i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd, ond na fedran nhw ddim talu mwy i\u2019r gweithwyr heb i lywodraeth Llundain roi cymorth ariannol. Bernwch chi os ydyw hynny\u2019n rheswm digonol. Gyda llaw, mae hyn hefyd yn greiddiol i\u2019r croes-ddweud sy\u2019n nodweddiadol o Lafur Cymru \u2013 ar y naill law, credu yn yr Undeb \u00e2 Lloegr; ond ar y llaw arall cwyno pan nad oes yna ddim digon arian na sylw digonol yn cael eu rhoi i Gymru. Ac yn ddiymwad, mae\u2019r Gwasanaeth Iechyd yn brif gonglfaen Llafur, ac eto fedran nhw ddim ei amddiffyn yn effeithiol.<\/p>\n<h3>Post Brenhinol<\/h3>\n<p>Mae\u2019r gwasanaeth yn 500 mlynedd o oed. Ers ei breifateiddio flynyddoedd yn \u00f4l, mae wedi bod dan warchae. \u201cCystadleuaeth\u201d yw un o eiriau sanctaidd cyfalafiaeth \u2013 a felly mae cystadleuaeth y farchnad rydd yn golygu fod llu o gwmn\u00efau yn danfon parseli i ni. Ymddengys fod gyrwyr faniau\u2019r cwmn\u00efau hyn yn dioddef amodau gwaith difrifol, efo targedau bron yn amhosib i\u2019w cyflawni. Diau fod hyn yn galluogi gwasanaeth rhatach, ond ar ba gost? Nid yn unig mewn termau dynol (ymosod ar amodau gwaith a chyflogau gweithwyr y Post Brenhinol, a manteisio ar weithwyr gan y cwmn\u00efau eraill), ond hefyd cost amgylcheddol \u2013 lle yr arferai un cerbyd ddod a nwyddau atom, erbyn hyn gall fod sawl un mewn diwrnod.<\/p>\n<h3>Athrawon a Chymorthyddion<\/h3>\n<p>Dyma weithwyr a gafodd amser anodd iawn yn ystod Cofid, gan gario cyfrifoldebau oedd bron yn amhosib ar brydiau. Cyfunwch hyn efo cynnydd yn eu baich gwaith, diffyg cefnogaeth ac adnoddau, problemau disgyblaeth, trefn ormesol o arolygu, yr ofn o golli eich swydd pan wneir cwyn amdanoch, a \u2018does ryfedd fod pethau wedi mynd i\u2019r pen. Gwyddom fod llawer yn gadael y proffesiwn am y rhesymau hyn.<\/p>\n<p>Ydan ni wir eisiau cymdeithas lle mae ein plant yn cael eu dysgu gan athrawon ac athrawesau sy wedi yml\u00e2dd, yn edrych ymlaen at ymddeol neu yn dyheu am adael dysgu am yrfa wahanol?<\/p>\n<h3>Rheilffyrdd<\/h3>\n<p>Daeth Mick Lynch, arweinydd yr RMT, yn amlwg yn y cyfnod helbulus hwn. Arweiniodd ei undeb, ac i bob pwrpas y mudiad llafur yn absenoldeb llywaeth Starmer, arweinydd y Blaid Lafur \u00f4l sosialaidd (er fod yna nifer o sosialwyr da ymysg ei rhengoedd) a gondemniodd un o\u2019i gabinet cysgodol ei hun am feiddio mynd ar linell biced. Yn sicr mae Mick Lynch yn arbennig o effeithiol yn sefyll dros ei weithwyr ei hun, ac yn ogystal yn egluro y darlun ehangach. Peidiwch a synnu os y gwelwn ymosodiadau dibaid arno gan y Llywodraeth a bytheiaid y cyfryngau. Mae\u2019n werth darllen erthygl am ei ymweliad ag Aberd\u00e2r yn <a href=\"https:\/\/www.voice.wales\/trade-unions-respond-to-existential-threat-posed-by-anti-strike-bill\/\">Voice Wales<\/a>, a gwylio fideo o\u2019i araith yno.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Mick Lynch in South Wales - \u201cIt\u2019s time for a general strike\u201d\" width=\"640\" height=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/HVLHNc8nsaQ?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Mae\u2019r Llywodraeth wedi dangos yn glir ar ba ochr y mae nhw, drwy sicrhau nad ydi y cwmn\u00efau sy\u2019n rhedeg y rheilffyrdd wedi colli yr un ddimai goch ers i\u2019r anghydfod ddechrau \u2013 a mae wedi costio mwy i\u2019r wlad nag a fuasai setlo\u2019r anghydfod. Brwydr ideolegol yw hon.<\/p>\n<p>Fel yn achos gweithwyr eraill, amddiffyn defnyddwyr y gwasanaeth a\u2019u diogelwch yw un o\u2019r prif resymau dros streicio.<\/p>\n<p>Ydan ni eisiau gwasanaeth rheilffordd israddol gyda\u2019r perygl cynyddol o ddamweiniau?<\/p>\n<h3>Academyddion<\/h3>\n<p>Newidiodd byd y colegau y tu hwnt i bob dirnadaeth mewn cenhedlaeth. Lle gynt \u2018roedd myfyrwyr, heddiw mae yna \u201cgwsmeriaid\u201d sydd eisiau \u201cgwerth am arian\u201d am eu ffioedd. Trowyd sefydliadau dysg yn ffatr\u00efoedd creu elw drwy ehangu niferoedd y myfyrwyr y tu hwnt i allu y farchnad waith i\u2019w cyflogi yn eu priod feysydd. Newidiwyd darlithwyr ac ymchwilwyr i fod yn beiriannau i geisio plesio gweinyddwyr, ac is-raddwyd cytundebau gwaith i fod yn rhai ansicr a byr-dymor, yn ogystal \u00e2 newid pensiynau er gwaeth. Clywsom am rai darlithwyr yn cysgu ar loriau llyfrgelloedd, hyd yn oed.<\/p>\n<p>Ydan ni am barhau i amharchu dysg?<\/p>\n<h2>Gormes Llywodraeth San Steffan<\/h2>\n<p>Gwasgu hawliau i streicio a dychryn y gweithwyr yw pwrpas y Ddeddf sydd yn mynd drwy\u2019r broses seneddol ar hyn o bryd. Yr enw swyddogol yw \u201cMinimum Service Level Bill\u201d, ond yn answyddogol fe\u2019i gelwir yn \u201cBil Gwrth-Streicio\u201d. Yn \u00f4l y Llywodraeth, mae nhw am sicrhau lefel sylfaenol o wasanaeth yn y sector gyhoeddus, drwy orfodi pobl i weithio hyd yn oed os yw\u2019r undeb wedi ennill pleidlais i streicio. Os y bydd pobl yn streicio yn groes i\u2019r ddeddf, yna gallant wynebu colli eu swydd.<\/p>\n<p>Bygythiad hollol afresymol yw hyn, ac yn dangos diffyg amgyffred llwyr o bethau fel y mae nhw. Achos dyma yw\u2019r gwirionedd \u2013 nid oes yna lefel sylfaenol o wasanaeth yn y Gwasanaeth Iechyd pan nad oes yna streic o fath yn y byd. Mae helbulon y gwasanaeth ambiwlans, prinder staff nyrsus a meddygon, rhestrau aros, a diffyg gofal yn y gymdeithas oll yn tystio mai\u2019r Llywodraeth sy\u2019n euog. Ac yng Nghymru, mae ein Llywodraeth yn ddibynnol ar San Steffan am adnoddau.<\/p>\n<p>Ymgais sinigaidd sydd yma i bortreadu gwir arwyr a gweithwyr hanfodol ein cymdeithas fel pobl hunanol a diegwyddor. Y gwir yw mai am fod y Gwasanaeth Iechyd ar ei liniau mae\u2019r streicwyr yn gweithredu er mwyn ei amddiffyn, yn ogystal ag er eu lles eu hunain.<\/p>\n<p>Gallwn ddweud yr un peth yn union am y gweithwyr sector cyhoeddus eraill sydd ar streic.<\/p>\n<p>Erfyn brwnt yn llaw y cyfoethog fydd y ddeddf hon. Y bwriad yw cadw\u2019r gweithiwr yn ei le, sef yn ufudd, yn dawel, yn ddigwyno. Bydd y peiriant cyhoeddusrwydd yn ceisio rhannu\u2019r streicwyr, yn ceisio troi y cyhoedd yn erbyn y streicwyr, ac yn paratoi\u2019r ffordd at hyd yn oed mwy o breifateiddio a llacio rheolau diogelwch yn ogystal \u00e2 dychwelyd y gweithiwr i ansicrwydd, tlodi ac afiechyd.<\/p>\n<p>Cyplyswch y ddeddf hon efo\u2019r \u201cPolice, Crime, Sentencing and Courts Act\u201d neu y Ddeddf Plismona fel y\u2019i gelwir, a mae yna ymgais wirioneddol i ymosod ar ein hawliau democrataidd mwyaf sylfaenol. Dydi hi ddim yn amhosib dychmygu amgylchiadau lle y byddai\u2019r ddwy ddeddf yn cael eu gweithredu ar yr un pryd.<\/p>\n<p>Ai Streic Gyffredinol yw\u2019r unig ffordd i gael y Llywodraeth wrthnysig hon i wrando?<\/p>\n<h2>Cefnogaeth<\/h2>\n<p>Mae modd i ni ddangos ein cefnogaeth mewn sawl ffordd.<\/p>\n<ul>\n<li>Ymuno ag Undeb yn eich gweithle.<\/li>\n<li>Mynd ar linell biced.<\/li>\n<li>Holi pobl fel eich postmon neu nyrs, neu unrhyw un arall sydd ar streic sut y gallwch helpu.<\/li>\n<li>Cymryd rhan mewn protest leol.<\/li>\n<li>Ymuno \u00e2 phrotest fawr os trefnir un.<\/li>\n<li>Sgwennu at eich Aelod Seneddol ac Aelod Senedd Cymru (ella fod hynny yn gofyn gormod!).<\/li>\n<li>Cefnogi y streicwyr ar Chwefror 1af pan mae sawl undeb yn cydweithio i streicio ar yr un diwrnod.<\/li>\n<li>Dal i gefnogi drwy gydol y cyfnod streiciau.<\/li>\n<\/ul>\n<figure id=\"attachment_1453\" aria-describedby=\"caption-attachment-1453\" style=\"width: 1200px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Streic-y-Glowyr.jpg\" alt=\"Streic y Glowyr\" width=\"1200\" height=\"1200\" class=\"size-full wp-image-1453\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Streic-y-Glowyr.jpg 1200w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Streic-y-Glowyr-300x300.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Streic-y-Glowyr-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Streic-y-Glowyr-150x150.jpg 150w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Streic-y-Glowyr-768x768.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1453\" class=\"wp-caption-text\">Streic y Glowyr<\/figcaption><\/figure>\n<h2>Casgliad<\/h2>\n<p>Cwestiynau sylfaenol am natur gwaith, rhannu y wobr am ein llafur, a pherthynas rhwng cyflogwr a gweithiwr sy\u2019n gyrru y streiciau hyn. Cyfalafiaeth ddidostur sydd y tu \u00f4l i\u2019r cyfan, ac agenda ideolegol sy\u2019n cael ei yrru gan Lywodraeth sydd yn nwylo carfan fechan o eithafwyr adain dde.<\/p>\n<p>Felly rhaid gofyn y cwestiwn \u2013 ai Streic Gyffredinol yw\u2019r ffordd i orfodi Llywodraeth San Steffan i wrando? Bydd ymarferoldeb gweithredu torfol o\u2019r fath yn dibynnu ar allu ac awydd yr holl undebau i gydweithio. Yn sicr byddai\u2019n gam mawr i\u2019w gymryd. Ond tybed beth yw\u2019r dewis arall? Gwylio\u2019r cyflogwyr a\u2019r llywodraeth yn rhannu\u2019r mudiad llafur. Y streicwyr yn ildio fesul tipyn, fesul undeb, fel bod anghydfod unigol yn cael ei wahanu oddi wrth y lleill, gan sigo nerth yr ymdrech gyfan? Os digwydd hynny, nid y streicwyr yn unig fydd yn colli, ond pob haen o gymdeithas heblaw y cyfoethog.<\/p>\n<p>Mae yna gymaint o wersi i\u2019w dysgu drwy edrych ar y sefyllfa fel y mae hi ac edrych ar hanes twf ffasgaeth yn y gorffennol, fel ei bod yn frawychus. Dyna pam na fedrwn ni fod yn dawel, a pheidio a dweud na gwneud dim.<\/p>\n<p>Os y trefnir Streic Gyffredinol yna hoffwn feddwl y bydd aelodau Undod yn cefnogi ym mha ffordd bynnag sy\u2019n ymarferol iddyn nhw. Ni all aelodau mudiad sy\u2019n ymgyrchu dros ddyfodol radical i\u2019n gwlad osgoi dangos eu hochr. Mae\u2019r argyfwng hwn mor ddifrifol fel na allwn disgwyl ennill heb ymladd i\u2019r eithaf.<\/p>\n<p>Mae\u2019r wlad wedi blino. Mae\u2019r bobl wedi diflasu. Mae tlodi a chyni yn rhemp. Dechreuwn, r\u0175an hyn, i adfer urddas, i godi ysbryd, i frwydro dros degwch a chyfiawnder, a gorchfygu lluoedd trachwant a gormes.<\/p>\n<p>Mae cyfiawnder o blaid y gweithwyr! Trech Gwlad nac Arglwydd!<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyflwyniad \u201cNid yw gweithwyr y sector cyhoeddus ar streic oherwydd eu bod am dorri\u2019r system. Maen nhw ar streic oherwydd bod y system wedi torri.\u201d \u2013 Mick Lynch, arweinydd RMT, &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2023\/01\/30\/streic\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Streic! Mae dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar hyn&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":14,"featured_media":1449,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[55,174,172,175,173],"class_list":["post-1446","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-llywodraeth-cymru","tag-llywodraeth-san-steffan","tag-streiciau","tag-toriaid","tag-undebau-llafur","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Streic! Mae dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar hyn - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Streic! Mae dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar hyn - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cyflwyniad \u201cNid yw gweithwyr y sector cyhoeddus ar streic oherwydd eu bod am dorri\u2019r system. Maen nhw ar streic oherwydd bod y system wedi torri.\u201d \u2013 Mick Lynch, arweinydd RMT, &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Streic! Mae dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar hyn&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2023\/01\/30\/streic\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-01-30T12:30:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-01-30T12:56:56+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/nid-oes-bradwr-yn-y-ty-hwn.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"850\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"504\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Robat Idris\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Robat Idris\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"28 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/\"},\"author\":{\"name\":\"Robat Idris\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\"},\"headline\":\"Streic! Mae dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar hyn\",\"datePublished\":\"2023-01-30T12:30:00+00:00\",\"dateModified\":\"2023-01-30T12:56:56+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/\"},\"wordCount\":5079,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/nid-oes-bradwr-yn-y-ty-hwn.jpg\",\"keywords\":[\"Llywodraeth Cymru\",\"Llywodraeth San Steffan\",\"streiciau\",\"Tor\u00efaid\",\"undebau llafur\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/\",\"name\":\"Streic! Mae dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar hyn - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/nid-oes-bradwr-yn-y-ty-hwn.jpg\",\"datePublished\":\"2023-01-30T12:30:00+00:00\",\"dateModified\":\"2023-01-30T12:56:56+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/nid-oes-bradwr-yn-y-ty-hwn.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/nid-oes-bradwr-yn-y-ty-hwn.jpg\",\"width\":850,\"height\":504},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Streic! Mae dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar hyn\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\",\"name\":\"Robat Idris\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Robat Idris\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Streic! Mae dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar hyn - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Streic! Mae dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar hyn - undod","og_description":"Cyflwyniad \u201cNid yw gweithwyr y sector cyhoeddus ar streic oherwydd eu bod am dorri\u2019r system. Maen nhw ar streic oherwydd bod y system wedi torri.\u201d \u2013 Mick Lynch, arweinydd RMT, &hellip; Parhau i ddarllen \"Streic! Mae dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar hyn\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2023\/01\/30\/streic\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2023-01-30T12:30:00+00:00","article_modified_time":"2023-01-30T12:56:56+00:00","og_image":[{"width":850,"height":504,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/nid-oes-bradwr-yn-y-ty-hwn.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Robat Idris","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Robat Idris","Est. reading time":"28 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/"},"author":{"name":"Robat Idris","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91"},"headline":"Streic! Mae dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar hyn","datePublished":"2023-01-30T12:30:00+00:00","dateModified":"2023-01-30T12:56:56+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/"},"wordCount":5079,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/nid-oes-bradwr-yn-y-ty-hwn.jpg","keywords":["Llywodraeth Cymru","Llywodraeth San Steffan","streiciau","Tor\u00efaid","undebau llafur"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/","name":"Streic! Mae dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar hyn - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/nid-oes-bradwr-yn-y-ty-hwn.jpg","datePublished":"2023-01-30T12:30:00+00:00","dateModified":"2023-01-30T12:56:56+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/nid-oes-bradwr-yn-y-ty-hwn.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/nid-oes-bradwr-yn-y-ty-hwn.jpg","width":850,"height":504},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2023\/01\/30\/streic\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Streic! Mae dyfodol pob un ohonom yn dibynnu ar hyn"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91","name":"Robat Idris","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","caption":"Robat Idris"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1446","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/14"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1446"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1446\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1461,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1446\/revisions\/1461"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1449"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1446"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1446"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1446"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}