{"id":1518,"date":"2026-04-11T11:06:11","date_gmt":"2026-04-11T10:06:11","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1518"},"modified":"2026-04-11T11:14:34","modified_gmt":"2026-04-11T10:14:34","slug":"bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/","title":{"rendered":"Bydd trechu gwleidyddiaeth Reform yn frwydr hir a chaled, beth bynnag y canlyniad yn yr etholiad hwn"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h4><em>Yn rhan olaf ei <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/05\/cyflwr-gwael-y-genedl\/\">ddadansoddiad teiran<\/a> mae Gareth Leaman yn pwyso a mesur yr her sydd o&#8217;n blaenau.<\/em><\/h4>\n<blockquote>\n<h5><span style=\"font-weight: 400;\">&#8220;Nid oes llawer i awgrymu na fydd Plaid Cymru,\u00a0 o fewn tymor neu ddau, yn ffeindio\u2019u hunain yn yr un sefyllfa \u00e2 Llafur Cymru nawr.&#8221;<\/span><\/h5>\n<\/blockquote>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\"> Beth bynnag fo canlyniad etholiad y Senedd ym mis Mai, mae&#8217;n amlwg nad oes gan sefydliad gwleidyddol Cymru naill ai\u2019r dulliau na&#8217;r ddealltwriaeth angenrheidiol i atal y math o wleidyddiaeth y mae Reform yn ei chynrychioli. Drwy gydol rhwygiadau&#8217;r degawd diwethaf \u2013 o Brexit, i brif weinidogiaeth Boris Johnson, i esgyniad Nigel Farage \u2013 mae wedi ymateb gyda&#8217;r un hen g\u00e2n flinedig, gan gyfuno trefniadaeth di-rym a moesoldeb gwag.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae llywodraethiant rhyddfrydol yn parhau yng Nghymru, wedi\u2019i rhwymo i&#8217;r syniad bod y drefn economaidd bresennol yn ei hanfod yn un cadarn a hyfyw, a bod ansefydlogrwydd gwleidyddol yn ddim ond gwyriad o&#8217;r norm, yn hytrach na symptom o uniongrededd sy&#8217;n methu. Ni all cynnig diagnosis dilys o wleidyddiaeth Reform: dim ond ei gondemnio fel camsyniad, gan ganiatau\u2019r amodau materol i barhau; yr union amodau sy&#8217;n ei gwneud mor apelgar i&#8217;r bobl sy&#8217;n cael eu methu gan warcheidiad grym y presennol. Yn y b\u00f4n, mae&#8217;n anghymwys, mewn ystyr systemig a rhethregol, i wynebu mudiad asgell dde sy&#8217;n manteisio ar y setliad economaidd-gymdeithasol nychlyd y mae rhyddfrydiaeth yn parhau i&#8217;w amddiffyn.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae sylwebyddion a gwleidyddion fel ei gilydd yn parhau\u2019n hunanfodlon yn eu hargyhoeddiad y bydd Reform naill ai\u2019n gwywo o dan gyhuddiadau diddiwedd o ragrith, neu y gellir eu ceryddu a\u2019u cywilyddio \u2013 ynghyd \u00e2\u2019u darpar pleidleiswyr \u2013 yn \u00f4l i ebargofiant. Nid yw\u2019r naill strategaeth na\u2019r llall <\/span><a href=\"https:\/\/disposableeverything.com\/2024\/11\/21\/liberals-have-nothing-left\/\"><span style=\"font-weight: 400;\">erioed wedi gweithio<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">, ac ni fyddant yn gweithio yma chwaith. Yn waeth na hynny: mae ceryddu darpar etholwyr Reform ond yn cynyddu ap\u00eal eu rhinweddau \u2018gwrth-sefydliadol\u2019. Mae hunandwyll y garfan Rhyddfrydol ond yn gwthio\u2019r sawl maent wedi\u2019u bradychu ymhellach i goflaid croesawgar yr asgell dde eithafol.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Peidiwch \u00e2 gadael i\u2019r arolygon barn eich twyllo, i\u2019r naill gyfeiriad na\u2019r llall \u2013 pa sut bynnag ffordd mae\u2019r etholiad yma am fynd, byddwn ni wedi ein clymu mewn paradocs hirdymor, creulon. Y dulliau o drechu Reform go iawn \u2013 a\u2019r gwleidyddiaeth maen nhw\u2019n cynrychioli \u2013 yw\u2019r union bethau sydd wedi eu dinistrio ac sydd wedi arwain at gynnydd Reform yn y lle cyntaf. Mae\u2019r sylfeini cymdeithasol a wrthsafodd ton ar \u00f4l ton o boblyddiaeth asgell dde mewn oesoedd blaenorol \u2013 cymunedau clos, gweithleoedd trefnus, sefydliadau lleol \u2013 wedi\u2019u chwalu\u2019n ddeilchion ledled y wlad. Mae\u2019r wleidyddiaeth y mae Reform yn ymgorffori yn ymwela ar y dinistr hwn.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae llwybrau llygad (<em>short cuts<\/em>) Rhyddfrydol yn cynnig dim \u2013 ac, ymhellach, wedi cyfrannu\u2019n uniongyrchol at ein sefyllfa bresennol. Yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yn yr hirdymor yw ailadeiladu dulliau o\u2019r math hanesyddol sy\u2019n creu undod (rhai <\/span><a href=\"https:\/\/www.voice.wales\/inding-indywales-postcapitalist-desire-gareth-leaman\/\"><span style=\"font-weight: 400;\">gwrth-gyfalafol yn y b\u00f4n<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">) \u2013 neu&#8217;n fwy priodol, adeiladu o&#8217;r newydd, gan mai ychydig iawn sydd ar \u00f4l i adeiladu arni. Mae angen ailwampio llwyr ar Gymru o ran ein ffyrdd o fyw a&#8217;r strwythurau sy&#8217;n cefnogi hynny: o\u2019r isadeiledd i\u2019r ymwybyddiaeth, ac yn \u00f4l unwaith eto. Mae ei<\/span><a href=\"https:\/\/academic.oup.com\/book\/40603\"><span style=\"font-weight: 400;\"> nac\u00e2d wedi digwydd o&#8217;r blaen<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">; gall newid ar y fath raddfa ddigwydd eto. Mae&#8217;r her yn un o amser: bydd hyn yn cymryd degawdau; y perygl go iawn yw&#8217;r hyn y gall y dde ei gyflawni yn y bwlch rhwng cwymp rhyddfrydiaeth a\u2019r gobaith o adferiad sosialaidd.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Er bod polau piniwn ar y cyfan yn awgrymu nad yw\u2019n debygol, os bydd Reform yn ennill grym ym mis Mai, mae&#8217;n ymddangos taw methiant byddan nhw yn \u00f4l pob tebyg, yn wyneb gweithredoedd diflas llywodraethu beunyddiol. Rydym eisoes wedi gweld hyn mewn cynghorau yn Lloegr. Os digwyddith hyn, yr ymateb rhyddfrydol tybiedig bydd y rhagdybiaeth bod y gefnogaeth i&#8217;r dde am ddiflannu pan fydd pobl yn gweld eu methiant o ran cyflawni ei haddewidion. Mae hyn, unwaith eto, yn hollol na\u00eff a dyma lle mae&#8217;r perygl go iawn. Ni fydd Reform wedi dofi&#8217;r symudiadau a fydd yn codi eto fyth o rwystredigaeth yn wyneb methiant gwleidyddion i wella bywydau bob dydd pobl.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Os caiff Reform ei drechu\u2019n gyfan gwbl ym mis Mai, bydd unrhyw frolio buddugoliaethus o\u2019r chwith-canol yn rhy gynnar o lawer. Ceir ormodedd o obaith ofer, yn hytrach na dadansoddi pengaled o ran dehongli\u2019r cynnydd ymddangosiadol o\u2019r chwith-ryddfrydol \u00f4l-Llafur. Er bod pleidiau traddodiadol yn y broses o gael eu gwrthod gan yr etholwyr (a pha mor barhaol yw hyn cawn weld), mae\u2019n ymddangos bod <\/span><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/thinking-wales\/consolidation-not-conversion-understanding-waless-ongoing-realignment\/\"><span style=\"font-weight: 400;\">blociau pleidleisio hirhoedlog yn parhau i raddau helaeth yn eu cyfanrwydd<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae\u2019n werth cofio hyn oll wrth bwyso a mesur esgyniad ymddangosiadol Plaid Cymru i\u2019r statws o ddarpar-llywodraeth. Mae tueddiadau eithafol cenedlaetholdeb Prydeinig Reform wedi gwneud ymateb Plaid yn rhy hawdd: mae\u2019n wahoddiad i wrthwynebu gyda brand eu hunain o ddemocratiaeth gymdeithasol genedlaetholgar Gymreig, megis cyferbyniad syml \u00e2 Reform.\u00a0 A hynny heb orfod gwthio\u2019n galed am newid gwleidyddol ystyrlon a dadleuol ar delerau eu hunain. <\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Rydym wedi bod fan hyn o\u2019r blaen, pan syrthiodd ymaith yr her i genedlaetholdeb adweithiol Boris Johnson trwy <\/span><a href=\"https:\/\/disposableeverything.com\/2019\/04\/08\/review-adam-price-wales-the-first-and-final-colony-the-welsh-agenda\/\"><span style=\"font-weight: 400;\">ymffrostio arwynebol<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">, gan wastraffu unrhyw gyfle i greu <\/span><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/14\/feirws-prydeinig-british-virus\/\"><span style=\"font-weight: 400;\">rhwyg gwleidyddol gwirioneddol o fewn gwladwriaeth Prydain<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">. Gyda&#8217;r holl broblemau aml-genhedlaeth y bydd yn eu hwynebu, a namau anorchfygol datganoli, nid oes llawer i awgrymu na fydd Plaid Cymru,\u00a0 o fewn tymor neu ddau, yn ffeindio\u2019u hunain yn yr un sefyllfa \u00e2 Llafur Cymru nawr.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae&#8217;r problemau cymdeithasol a fanylir arnynt yma yn sustemig, hirhoedlog nad oes modd goresgyn yn glou, yn sicr nid dros nos trwy newid llywodraeth yn unig, waeth pa mor hanesyddol y mae cwymp Llafur yn ymddangos inni. Mewn gwirionedd, cymryd awenau y Senedd yw&#8217;r peth gwaethaf all digwydd i bleidiau asgell chwith feddal sy&#8217;n gobeithio cynnal rhywfaint o egni gwrthryfelgar neu drawsnewidiol &#8211; <em>oni bai bod modd iddynt fynegi hualau&#8217;r sefydliad i bleidleiswyr<\/em>. Os taw\u2019r canlyniad pennaf yw bod Plaid Cymru (a\u2019i his-bartneriaid posib y Blaid Werdd) yn troi mewn i sefydliad technocrataidd di-rym newydd llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, bydd dial gwleidyddiaeth Reform yn waeth fyth. Y risg tymor byr i&#8217;r asgell chwith sosialaidd go iawn yw bod eu cefnogaeth i&#8217;r llywodraeth newydd hon yn rhy croch, a&#8217;u bod yntau yn eu tro yn cael eu drwgdybio ymhellach o ganlyniad.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Ac yna, wrth gwrs, mae bwgan San Steffan. Beth bynnag a ddaw ym mis Mai, mae Cymru\u2019n parhau ar drugaredd yr Etholiad Cyffredinol Prydeinig nesaf, lle mae\u2019n ymddangos yn llawer mwy tebygol y gallai Reform ennill p\u0175er. Ar hyn o bryd, mae\u2019r potenstial o allu diddymu pob gwrthwynebiad \u2013 a phob wedd ar yr hyn y mae pobl yn hoff o ystyried yn \u2018Gymreictod\u2019 \u2013 yn dod yn fwy tebygol. Byddaf yn ysgrifennu yn fanylach am hyn wedi\u2019r etholiad.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Felly, beth bynnag fydd canlyniad yr etholiad Senedd hwn, mae\u2019r amodau sy\u2019n gyrru dyrchafu grym yr asgell dde am barhau\u2019n anochel. Mae\u2019r trybini yma yn fwy na Reform, ac yn sicr yn broblem fwy nag y gall eu gwrthwynebwyr etholiadol goresgyn. Os bydd pobl yn parhau i fethu \u00e2 deall amodau&#8217;r llithro yma tua\u2019r dde &#8211; a sut i\u2019w atal &#8211; ein ffawd bydd gwylio\u2019n ddiymadferth wrth iddo drawsnewid Cymru ar ei ddelw ei hun.<\/span><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn rhan olaf ei ddadansoddiad teiran mae Gareth Leaman yn pwyso a mesur yr her sydd o&#8217;n blaenau. &#8220;Nid oes llawer i awgrymu na fydd Plaid Cymru,\u00a0 o fewn tymor &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Bydd trechu gwleidyddiaeth Reform yn frwydr hir a chaled, beth bynnag y canlyniad yn yr etholiad hwn&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":10,"featured_media":1519,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1518","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Bydd trechu gwleidyddiaeth Reform yn frwydr hir a chaled, beth bynnag y canlyniad yn yr etholiad hwn - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Bydd trechu gwleidyddiaeth Reform yn frwydr hir a chaled, beth bynnag y canlyniad yn yr etholiad hwn - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn rhan olaf ei ddadansoddiad teiran mae Gareth Leaman yn pwyso a mesur yr her sydd o&#8217;n blaenau. &#8220;Nid oes llawer i awgrymu na fydd Plaid Cymru,\u00a0 o fewn tymor &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Bydd trechu gwleidyddiaeth Reform yn frwydr hir a chaled, beth bynnag y canlyniad yn yr etholiad hwn&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-04-11T10:06:11+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-04-11T10:14:34+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Rhun_ap_Iorwerth_MS_AS_53908305135.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"960\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"639\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Gareth Leaman\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Gareth Leaman\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/\"},\"author\":{\"name\":\"Gareth Leaman\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/31e0997c167a83676386bd50477db11d\"},\"headline\":\"Bydd trechu gwleidyddiaeth Reform yn frwydr hir a chaled, beth bynnag y canlyniad yn yr etholiad hwn\",\"datePublished\":\"2026-04-11T10:06:11+00:00\",\"dateModified\":\"2026-04-11T10:14:34+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/\"},\"wordCount\":2360,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Rhun_ap_Iorwerth_MS_AS_53908305135.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/\",\"name\":\"Bydd trechu gwleidyddiaeth Reform yn frwydr hir a chaled, beth bynnag y canlyniad yn yr etholiad hwn - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Rhun_ap_Iorwerth_MS_AS_53908305135.jpg\",\"datePublished\":\"2026-04-11T10:06:11+00:00\",\"dateModified\":\"2026-04-11T10:14:34+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Rhun_ap_Iorwerth_MS_AS_53908305135.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Rhun_ap_Iorwerth_MS_AS_53908305135.jpg\",\"width\":960,\"height\":639,\"caption\":\"Senedd Cymru \/ Welsh Parliament, CC BY 2.0 , via Wikimedia Commons\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Bydd trechu gwleidyddiaeth Reform yn frwydr hir a chaled, beth bynnag y canlyniad yn yr etholiad hwn\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/31e0997c167a83676386bd50477db11d\",\"name\":\"Gareth Leaman\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a613bbbb58c6573e4b7ac569aa3070fa0cad47912923b28adb6e10dfdc3d8604?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a613bbbb58c6573e4b7ac569aa3070fa0cad47912923b28adb6e10dfdc3d8604?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a613bbbb58c6573e4b7ac569aa3070fa0cad47912923b28adb6e10dfdc3d8604?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Gareth Leaman\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/garethleaman\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Bydd trechu gwleidyddiaeth Reform yn frwydr hir a chaled, beth bynnag y canlyniad yn yr etholiad hwn - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Bydd trechu gwleidyddiaeth Reform yn frwydr hir a chaled, beth bynnag y canlyniad yn yr etholiad hwn - undod","og_description":"Yn rhan olaf ei ddadansoddiad teiran mae Gareth Leaman yn pwyso a mesur yr her sydd o&#8217;n blaenau. &#8220;Nid oes llawer i awgrymu na fydd Plaid Cymru,\u00a0 o fewn tymor &hellip; Parhau i ddarllen \"Bydd trechu gwleidyddiaeth Reform yn frwydr hir a chaled, beth bynnag y canlyniad yn yr etholiad hwn\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2026-04-11T10:06:11+00:00","article_modified_time":"2026-04-11T10:14:34+00:00","og_image":[{"width":960,"height":639,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Rhun_ap_Iorwerth_MS_AS_53908305135.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Gareth Leaman","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Gareth Leaman","Est. reading time":"7 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/"},"author":{"name":"Gareth Leaman","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/31e0997c167a83676386bd50477db11d"},"headline":"Bydd trechu gwleidyddiaeth Reform yn frwydr hir a chaled, beth bynnag y canlyniad yn yr etholiad hwn","datePublished":"2026-04-11T10:06:11+00:00","dateModified":"2026-04-11T10:14:34+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/"},"wordCount":2360,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Rhun_ap_Iorwerth_MS_AS_53908305135.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/","name":"Bydd trechu gwleidyddiaeth Reform yn frwydr hir a chaled, beth bynnag y canlyniad yn yr etholiad hwn - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Rhun_ap_Iorwerth_MS_AS_53908305135.jpg","datePublished":"2026-04-11T10:06:11+00:00","dateModified":"2026-04-11T10:14:34+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Rhun_ap_Iorwerth_MS_AS_53908305135.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Rhun_ap_Iorwerth_MS_AS_53908305135.jpg","width":960,"height":639,"caption":"Senedd Cymru \/ Welsh Parliament, CC BY 2.0 , via Wikimedia Commons"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/11\/bydd-trechu-gwleidyddiaeth-reform-yn-frwydr-hir-a-chaled-beth-bynnag-y-canlyniad-yn-yr-etholiad-hwn\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Bydd trechu gwleidyddiaeth Reform yn frwydr hir a chaled, beth bynnag y canlyniad yn yr etholiad hwn"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/31e0997c167a83676386bd50477db11d","name":"Gareth Leaman","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a613bbbb58c6573e4b7ac569aa3070fa0cad47912923b28adb6e10dfdc3d8604?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a613bbbb58c6573e4b7ac569aa3070fa0cad47912923b28adb6e10dfdc3d8604?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a613bbbb58c6573e4b7ac569aa3070fa0cad47912923b28adb6e10dfdc3d8604?s=96&d=mm&r=g","caption":"Gareth Leaman"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/garethleaman\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1518","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/10"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1518"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1518\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1523,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1518\/revisions\/1523"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1519"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1518"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1518"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1518"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}