{"id":1525,"date":"2026-04-12T01:50:57","date_gmt":"2026-04-12T00:50:57","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1525"},"modified":"2026-04-12T02:29:23","modified_gmt":"2026-04-12T01:29:23","slug":"agor-y-drws-at-aber-henfelen","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/","title":{"rendered":"AGOR Y DRWS AT ABER HENFELEN"},"content":{"rendered":"<p><strong>\u201cGw\u00eal di acw,\u201d ebe Manawydan, \u201cy drws na ddylem ni ei agor.\u201d<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u2013 diweddariad Dafydd a Rhiannon Ifans o Branwen Ferch Ll\u0177r, sef ail gainc y Mabinogion<\/strong><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">A Chymru ar drothwy ethol gwleidyddion i\u2019n Senedd, pam ar wyneb y ddaear cyfeirio at chwedl ganoloesol?\u00a0 Beth yn y byd sydd a wnelo hyn \u00e2\u2019r Gymru gyfoes?\u00a0 Ar yr wyneb, dim o gwbl; ond mae\u2019n rhan o\u2019n hanes ni, ac er mai chwedl a nid hanes seiliedig ar ffeithiau pendant sydd yma, gallwn ddehongli peth o\u2019r chwedl yn nhermau heddiw, a gobeithio sylweddoli beth a ddaw o droi cefn ar realaeth.\u00a0 Mae\u2019n chwedl am greulondeb, am ddial, am drychinebau, ond hefyd yn s\u00f4n am gariad, am anrhydedd ac am gyfeillgarwch \u2013 er mai y pethau gwael sy\u2019n cael y prif bwyslais.\u00a0 Chwedl dywyll (gellir darllen crynodeb ohoni <a href=\"https:\/\/cy.wikisource.org\/wiki\/Cymru_Fu\/Branwen_Ferch_Llyr\">yma<\/a>), y clywir atseiniau ohoni heddiw.\u00a0 Chwedl sy\u2019n datgelu llawer am ein cyflwr anniddig fel dynoliaeth.\u00a0\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Gawn ni ystyried y rhan o\u2019r chwedl lle mae\u2019r ychydig o w\u0177r a oroesodd ryfel erchyll yn Iwerddon yn treulio 80 o flynyddoedd mewn Neuadd ar Ynys Gwales, pryd y maent yn anghofio popeth gwael a ddigwyddodd iddynt ynghynt?\u00a0 Mae Manawydan yn rhybuddio na ddylid agor y drws tuag Aber Henfelen, ond yn y diwedd agorir y drws gan Heilyn fab Gwyn.\u00a0 Yna daw pob atgof yn \u00f4l iddynt o\u2019r cyfeillion a pherthnasau a gollwyd, fel ymchwydd tonnau yn eu gorchuddio \u00e2 thristwch.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Beth am ystyried hyn yng ngoleuni ein profiad o hanes diweddar?\u00a0 Ydyn ni wedi treulio cyfnod tebyg yn anwybyddu realaeth?<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Tua pedwar ugain o flynyddoedd yn \u00f4l y daeth yr Ail Ryfel Byd i ben, ac yn fuan wedyn sefydlwyd gwladwriaeth Israel yn dilyn yr hil-laddiad o Iddewon a lleiafrifoedd eraill gan y Nats\u00efaid.\u00a0 Cafwyd heddwch cymharol yng Ngorllewin Ewrop am ddegawdau, cododd safonau byw, roedd digon o fwyd ar y bwrdd, tai ar gael yn weddol rhesymol, cafwyd gwyliau rhad ar y Cyfandir a thu hwnt, daeth yr Undeb Ewropeaidd i fodolaeth.\u00a0 Gwelsom ddatblygiadau technegol anhygoel fel ffonau symudol, y rhyngrwyd, cyfrifiaduron a nifer di-rif o bethau eraill.\u00a0 Daethom i dderbyn\u00a0 fod datblygiadau technegol i\u2019w croesawu .\u00a0 Roedd y Ddaear a\u2019r M\u00f4r yn adnoddau i\u2019w defnyddio ar gyfer y ddynoliaeth, ac ymddangosai\u2019r adnoddau hynny yn ddihysbydd.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Cawsom ni yn y Gorllewin hawddfyd y rhan fwyaf o\u2019r amser, gyda dim ond ambell i gysgod megis argyfwng taflegrau Ciwba.\u00a0 Daeth argyfwng olew yn 1973 yn dilyn rhyfel Yom Kippur rhwng yr Aifft ac Israel, ac un arall yn 1979 yn dilyn y Chwyldro yn Iran.\u00a0 Ond buan yr aeth rhain yn angof, fel yn wir fesul tipyn anghofiwyd am erchyllterau y Natsiaid yn yr Ail Ryfel Byd, heb s\u00f4n am yr erchylltra o ddisgyn bomiau niwclear ar Hiroshima a Nagasaki gan yr Unol Daleithiau.\u00a0 Daeth yn gred fod \u201cbyth eto\u201d yn golygu hynny yn union, gan fod meddwl am Ryfel Byd a defnydd o arfau niwclear y tu hwnt i grebwyll pobl.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Ond gwelwn erbyn hyn ein bod wedi bod yn byw yn y neuadd ar Ynys Gwales.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Agorwyd ein llygaid i ddrygioni gan i\u2019r drws at Aber Henfelen gael ei agor gan Trump a Netanyahu a Putin.\u00a0 A methodd arweinwyr y Gorllewin yn llwyr yn eu hymatebion i\u2019r rhyfeloedd diangen yn Wcrain, Palesteina ac Iran.\u00a0 Heb s\u00f4n am beidio a rhoi fawr ddim sylw i sawl rhyfel a chyflafan arall megis yn Myanmar, Swdan, Ethiopia, Nigeria, Mecsico, Burkina Faso, Syria, Somalia, Mali, Libanus, Congo, Afghanistan, Pakistan, Haiti, Camer\u0175n.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Onid y gwirionedd yw fod holl hanes diweddar ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn croniclo awydd gwledydd pwerus i danseilio gwledydd eraill sydd yn berchen ar rhywbeth mae nhw ei angen?\u00a0 Olew yn amlwg, ond hefyd metalau a mwynau.\u00a0 Tan yn ddiweddar, roedd ymosodiad ar wlad arall gan y Gorllewin yn cael ei gyfiawnhau drwy fynnu eu bod am ddod a democratiaeth i wlad, dymchwel unben, a sefydlu gwladwriaeth oedd yn parchu \u2018gwerthoedd\u2019 Gorllewinol.\u00a0 Wrth gwrs y pris i\u2019w dalu yw fod cyfoeth y gwledydd ar gael i\u2019r Gorllewin, bod dyledion amhosib eu talu yn \u00f4l yn cael eu gosod ar wledydd, a bod llygredd gwleidyddol yn dderbyniol os yw Llywodraeth y wlad yn ein cefnogi ni.\u00a0 Rydym ni wedi bod yn gyfforddus ac yn medru bod yn \u2018Ryddfrydol\u2019 yma ar draul gwledydd eraill.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Ac onid yw agor y drws at Aber Henfelen wedi datgelu y llanast sydd ohoni?\u00a0 Yr ymhyfrydu mewn lladd a welwn gan Trump a Netanyahu a\u2019u tebyg, heb hyd yn oed smalio fod yna bwrpas aruchel.\u00a0 Y parodrwydd i beidio a chymryd dim sylw o gwbl o Gyfraith Rhyngwladol a\u2019r Cenhedloedd Unedig.\u00a0 Y distryw amgylcheddol sy\u2019n ganlyniad i\u2019n hawydd dibendraw am \u2018bethau\u2019, a hynny wedi arwain ein Planed glwyfedig at ddibyn difancoll.\u00a0 Chwant cyfalafiaeth sy wedi rhoi mwy a mwy o rym a chyfoeth i\u2019r biliwnyddion, a thynnu grym oddi wrth pobl gyffredin.\u00a0 Y chwalu ar gymdeithas w\u00e2r gan wleidyddiaeth casineb; yr awydd i greu gelyn o\u2019r \u2018arall\u2019; yr ymosod ar hawliau dynol; y normaleiddio o dargedu a lladd pobl gyffredin mewn rhyfel; y gwadu fod newid hinsawdd yn digwydd oherwydd effaith y ddynoliaeth; y ffaith fod tlodi plant a digartrefedd yn bodoli yma; y diffyg ffydd mewn gwleidyddion a\u2019r sinigiaeth nad ydi newid llywodraeth ddim yn newid y drefn.\u00a0 Gallwn edrych yn fwy manwl ar hyn rhywdro eto.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Ond, mae hyn i gyd yn berthnasol i ni ar drothwy Etholiad i\u2019n Senedd.\u00a0 Sut, gofynnwch?<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn y lle cyntaf, beth am feddwl fod y Senedd fel y bu\u2019n gweithredu hyd yma yn debyg i Neuadd Ynys Gwales\u00a0 Lle mae criw o bobl yn ymateb i broblemau\u2019r dydd o fewn muriau cyfyngedig o ran gweledigaeth.\u00a0 Lle mae yna dderbyn yn fras mai cyfalafiaeth yw\u2019r ffordd ddoeth a chall o drefnu pethau.\u00a0 Lle mae ystrydebau yn britho datganiadau am \u2018Genedlaethau\u2019r Dyfodol\u2019.\u00a0 Lle mae unrhyw fath o swyddi yn dderbyniol mewn ardal dlawd a difreintiedig.\u00a0 Lle na chlywir lleisiau yn gwrthwynebu\u2019r diwydiant arfau ac yn cynnig gweledigaeth am swyddi sydd o les i\u2019r ddynoliaeth.\u00a0 Lle y cefnogir ynni niwclear ar waethaf ei holl beryglon a\u2019i gyswllt diymwad\u00a0 ag arfau niwclear.\u00a0 Lle na chlywir gair am beryglon Porthladdoedd Rhydd a Safleoedd Datblygu fel safleoedd i hwyluso cyfalafiaeth eithafol.\u00a0 Lle nad oes yna gwestiynu ar y cysyniadau o Ganolfannau Data a Deallusrwydd Artiffisial ar waethaf eu gofynion eithafol am drydan a d\u0175r.\u00a0 Lle mae rheoli dadfeiliad gwlad yn weddol drefnus yn cael ei gyfrif yn llwyddiant.\u00a0 Lle mae llaw farwol San Steffan yn gysgod dros weithredu dros bobl Cymru.\u00a0 Lle a ddiystyrir gan San Steffan pan fydd yna gytundeb trawsbleidiol mewn materion fel Stad y Goron, a Heddlu a Chyfiawnder.\u00a0 Lle mae yna ddeuoliaeth ryfedd wrth s\u00f4n am y wlad \u2013 ai Cymru sydd dan sylw, neu y Deyrnas Anunedig?\u00a0 Lle mae disgwyl i aelodau dyngu llw o ffyddlondeb i ffosil o\u2019r Oesoedd Canol.\u00a0 Lle mae dros chwarter canrif o ddatganoli heb lwyddo mynd i\u2019r afael a, heb son am ddatrys problemau tlodi, digartrefedd, iechyd ac addysg.\u00a0 Lle mae yna yn rhy aml olchi dwylo pan sonnir am faterion sydd heb eu datganoli &#8211; fel pe na bai gan Gymry yr hawl i fynegi barn ar faterion eraill.\u00a0 Lle mae muriau\u2019r adeilad ei hun yn wydr dryloyw, ond mae siambr y gwleidyddion tu \u00f4l i bared pren.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Ond lle sydd, ar waethaf ei ffaeleddau, yn sefydliad sydd gennym fel gwlad a phobl Cymru, ac y dylem ymestyn ei rymoedd, yn lle gweld y grymoedd hynny yn crebachu oherwydd diffyg cyllid, neu ymyrraeth gan San Steffan.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Felly rhaid agor y drws at Aber Henfelen a wynebu y byd fel ag y mae go iawn.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">O wneud hynny, gallwn weld fod angen cefnogi ymgeiswyr sydd yn fodlon gwthio ffiniau y posib y tu hwnt i\u2019r ffiniau cyfyng presennol.\u00a0 Cefnogwn ymgeiswyr sosialaidd a sy\u2019n gwrthwynebu y drefn gyfalafol bresennol, rhai sy\u2019n sefyll dros eu cymunedau a nid er budd personol.\u00a0 Er gwaethaf diffygion y drefn newydd (diwygiad arall sydd ei angen!) mae pobl fel hyn i\u2019w cael!\u00a0 Edrychwch ar restrau y pleidiau a gweld pwy sydd fwyaf tebygol o gael eu hethol.\u00a0 Edrychwch ar ymgeiswyr annibynnol sy\u2019n herio y drefn yn ei chyfanrwydd.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn sicr nid oes yna ddim lle o gwbl i gefnogi Reform UK Party Limited (neu efallai <\/span><a href=\"https:\/\/find-and-update.company-information.service.gov.uk\/officers\/tW56blTqOI_bXYCDkDghRy3LQtU\/appointments\"><span style=\"font-weight: 400;\">Reform 2025 Ltd<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">!), os nad ydych am gefnogi cyfoethogion a chyn-Doriaid sy\u2019n falch o fod yn gefnogol i Trump.\u00a0 Nid yw eu syniadaeth yn dderbyniol yng Nghymru \u2013 ac os y bydd, yna y Cymry fydd yn talu\u2019r pris.\u00a0 Torri cyllidebau, gadael y gweithwyr i lawr, gwasgu mwy ar y tlawd a\u2019r anghenus, preifateiddio y Gwasanaeth Iechyd, difaterwch am y Gymraeg.\u00a0 Edrychwch ar beth sy\u2019n digwydd yn yr Unol Daleithiau os am weld Gweledigaeth Uffern heddiw, a chofiwch fod Farage yn gefnogwr i Trump ac yn cyfrif ei hun yn gyfaill iddo.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae\u2019r Etholiad yma yn bwysig am ei fod yn rhoi dewis clir i ni ar sut fath o wlad y dymunwn fod.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Gwlad sy\u2019n hyderus y gall ddatrys ei phroblemau os y caiff lonydd a grym i wneud hynny, gwlad sydd angen sbardun a chefnogaeth i greadigrwydd ei phobl, gwlad sy\u2019n gyforiog o adnoddau naturiol a gaiff eu datblygu\u2019n gyfrifol er budd ein pobl ni, gwlad sy\u2019n adeiladu ar y syniad o Genedl Noddfa i fod yn Genedl Gyfeillgar a Heddychlon.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Neu ydym ni am weld gwlad sy\u2019n cael ei rhannu ymhellach gan godi cynnen rhwng carfannau a\u2019i gilydd, gwlad sy\u2019n ymhyfrydu mewn militariaeth a grym gormesol, gwlad sy\u2019n fodlon cadw\u2019n dawel yng wyneb anghyfiawnderau.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae y dewis yn ein dwylo.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Ond cofiwn mai dim ond dechrau\u2019r daith yw yr etholiad yma.\u00a0 Rhaid newid y gyfundrefn israddol, echdynnol, uber-gyfalafol, di-ddychymyg \u2018rydym yn byw oddi tani.\u00a0 Os y bydd y Llywodraeth nesaf yn gogwyddo tua\u2019r chwith, yna bydd yna dalcen caled o\u2019i blaen.\u00a0 Bydd yn rhaid iddi gael gweledigaeth sy\u2019n bwrw ffiniau y posibl cysurus a wynebu na fydd gwelliant gwirioneddol yn digwydd heb i\u2019r holl amodau sy wedi ein harwain i\u2019r argyfwng gobaith presennol gael ei trawsnewid yn llwyr.\u00a0 Nid gwaith dros nos i\u2019w gyflawni drwy gyfryngau cymdeithasol yw hyn!<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">O gofio fod yr hualau ariannol yn nwylo San Steffan, heb s\u00f4n am y gallu i anwybyddu penderfyniadau y Senedd a hyd yn oedd ei thanseilio yn llwyr, tasg hynod o anodd fydd gan ein Llywodraeth newydd.\u00a0 A gan fod San Steffan ei hun wedi colli pob hygrededd ac yn ddarostyngedig i ofynion Arian Mawr yn ei holl agweddau dinistriol, bydd angen dewrder a gallu Houdini i ni ddianc o\u2019r presennol llwyd a diflas.\u00a0 Ond os na fyddwn yn feiddgar, yna buddugoliaeth byr dymor fydd ennill yr etholiad.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Ar ddiwedd y chwedl, mae\u2019r cwmni bach yn mynd a phen Bendigeidfran i\u2019w gladdu yn Llundain.\u00a0 Gweithred symbolaidd i warchod Ynys Prydain oedd hyn, wedi i\u2019r cwmni sylweddoli erchyllterau eu gorffennol ar \u00f4l agor y drws at Aber Henfelen.\u00a0 Wrth gwrs, gosodir y chwedl mewn cyfnod cyn i Ynys Prydain gael ei goresgyn gan Sacsoniaid, Llychlynwyr a Normaniaid, felly rhaid fod pen Bendigeidfran druan wedi colli ei rym!\u00a0 Ond gallwn ddweud yn hyderus y bydd angen mwy nag un pen \u2013 pennau gwlad gyfan yn wir \u2013 i fynd i\u2019r afael \u00e2 phroblemau dyrys Cymru, a ddaw yna ddim atebion o Lundain.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Dyna yw hanfod ein sosialaeth: cydweithio er lles pawb mewn ysbryd gostyngedig a chariadus.\u00a0 Y gwrthwyneb i hynny yw cymdeithas flin a wnaed yn rhanedig o bwrpas, a dlodwyd yn ystyron ysbrydol a materol y gair, ac yn ysglyfaeth parod i rymoedd gormesol.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Beth ydych chi am ddweud wrth eich wyrion am y dewis a wnewch yn awr?<\/span><\/p>\n<p>_______________________<\/p>\n<p><em>Mae Robat Idris, ymysg pethau eraill, yn Gadeirydd Cymdeithas y Cymod, Cyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ac yn aelod o PAWB (Pobol Atal Wylfa-B).<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cGw\u00eal di acw,\u201d ebe Manawydan, \u201cy drws na ddylem ni ei agor.\u201d \u2013 diweddariad Dafydd a Rhiannon Ifans o Branwen Ferch Ll\u0177r, sef ail gainc y Mabinogion &#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230; A Chymru &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;AGOR Y DRWS AT ABER HENFELEN&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":14,"featured_media":1526,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1525","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>AGOR Y DRWS AT ABER HENFELEN - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"AGOR Y DRWS AT ABER HENFELEN - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"\u201cGw\u00eal di acw,\u201d ebe Manawydan, \u201cy drws na ddylem ni ei agor.\u201d \u2013 diweddariad Dafydd a Rhiannon Ifans o Branwen Ferch Ll\u0177r, sef ail gainc y Mabinogion &#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230; A Chymru &hellip; Parhau i ddarllen &quot;AGOR Y DRWS AT ABER HENFELEN&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-04-12T00:50:57+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-04-12T01:29:23+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/330px-Y_ddau_frenin_-_The_two_kings_-_geograph.org_.uk_-_352120.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"330\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"221\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Robat Idris\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Robat Idris\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"11 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/\"},\"author\":{\"name\":\"Robat Idris\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\"},\"headline\":\"AGOR Y DRWS AT ABER HENFELEN\",\"datePublished\":\"2026-04-12T00:50:57+00:00\",\"dateModified\":\"2026-04-12T01:29:23+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/\"},\"wordCount\":4073,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/330px-Y_ddau_frenin_-_The_two_kings_-_geograph.org_.uk_-_352120.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/\",\"name\":\"AGOR Y DRWS AT ABER HENFELEN - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/330px-Y_ddau_frenin_-_The_two_kings_-_geograph.org_.uk_-_352120.jpg\",\"datePublished\":\"2026-04-12T00:50:57+00:00\",\"dateModified\":\"2026-04-12T01:29:23+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/330px-Y_ddau_frenin_-_The_two_kings_-_geograph.org_.uk_-_352120.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/330px-Y_ddau_frenin_-_The_two_kings_-_geograph.org_.uk_-_352120.jpg\",\"width\":330,\"height\":221,\"caption\":\"Alan Fryer\u00a0\/\u00a0Y ddau frenin - The two kings (Bendigeidfran a chorff ei nai Gwern)\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"AGOR Y DRWS AT ABER HENFELEN\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\",\"name\":\"Robat Idris\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Robat Idris\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"AGOR Y DRWS AT ABER HENFELEN - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"AGOR Y DRWS AT ABER HENFELEN - undod","og_description":"\u201cGw\u00eal di acw,\u201d ebe Manawydan, \u201cy drws na ddylem ni ei agor.\u201d \u2013 diweddariad Dafydd a Rhiannon Ifans o Branwen Ferch Ll\u0177r, sef ail gainc y Mabinogion &#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230; A Chymru &hellip; Parhau i ddarllen \"AGOR Y DRWS AT ABER HENFELEN\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2026-04-12T00:50:57+00:00","article_modified_time":"2026-04-12T01:29:23+00:00","og_image":[{"width":330,"height":221,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/330px-Y_ddau_frenin_-_The_two_kings_-_geograph.org_.uk_-_352120.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Robat Idris","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Robat Idris","Est. reading time":"11 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/"},"author":{"name":"Robat Idris","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91"},"headline":"AGOR Y DRWS AT ABER HENFELEN","datePublished":"2026-04-12T00:50:57+00:00","dateModified":"2026-04-12T01:29:23+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/"},"wordCount":4073,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/330px-Y_ddau_frenin_-_The_two_kings_-_geograph.org_.uk_-_352120.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/","name":"AGOR Y DRWS AT ABER HENFELEN - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/330px-Y_ddau_frenin_-_The_two_kings_-_geograph.org_.uk_-_352120.jpg","datePublished":"2026-04-12T00:50:57+00:00","dateModified":"2026-04-12T01:29:23+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/330px-Y_ddau_frenin_-_The_two_kings_-_geograph.org_.uk_-_352120.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/330px-Y_ddau_frenin_-_The_two_kings_-_geograph.org_.uk_-_352120.jpg","width":330,"height":221,"caption":"Alan Fryer\u00a0\/\u00a0Y ddau frenin - The two kings (Bendigeidfran a chorff ei nai Gwern)"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/12\/agor-y-drws-at-aber-henfelen\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"AGOR Y DRWS AT ABER HENFELEN"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91","name":"Robat Idris","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","caption":"Robat Idris"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1525","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/14"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1525"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1525\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1531,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1525\/revisions\/1531"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1526"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1525"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1525"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1525"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}