{"id":1534,"date":"2026-04-19T11:17:10","date_gmt":"2026-04-19T10:17:10","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1534"},"modified":"2026-04-19T17:44:11","modified_gmt":"2026-04-19T16:44:11","slug":"pam-reform-cipolwg-or-cymoedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/","title":{"rendered":"Pam Reform? Cipolwg o&#8217;r Cymoedd"},"content":{"rendered":"<p>Ym mis Hydref 2025 cynhaliwyd isetholiad yng Nghaerffili a gwyliwyd y canlyniadau dros Brydain. Yn \u00f4l pob s\u00f4n, byddai beth bynnag fyddai\u2019n digwydd yng Nghaerffili\u2019n arwydd o\u2019r hyn oedd ar gyrraedd saith mis yn ddiweddarach yn etholiadau\u2019r Senedd ym Mai 2026. O\u2019r cychwyn cyntaf, roedd yno ymdeimlad y byddai Llafur yn colli\u2019r sedd ac mai brwydr fyddai\u2019r isetholiad rhwng Reform a Phlaid Cymru. Yn y diwedd, Plaid Cymru oedd yn fuddugol. Codwyd gobeithion y chwith, ac mae yna ymdeimlad o hyd, efallai, bod yr hyn a ddigwyddodd yng Nghaerffili\u2019n arwydd gobeithiol o\u2019r canlyniadau ehangach yn dilyn yr etholiad mis nesaf.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Cymoedd yn ardal weddol fawr ac \u2013 <span data-olk-copy-source=\"MessageBody\">efallai am nad yw\u2019r bobl, fel y drafnidiaeth gyhoeddus, yn dueddol o groesi\u2019r Cymoedd <\/span> \u2013 nid yw natur pob cwm yr un peth. Er y tebygrwydd rhwng y gwahanol gymoedd, mae yno wahaniaethau mawr a arweiniodd at fuddugoliaeth Plaid Cymru ac, o ganlyniad, rhesymau i barhau i fod yn ansicr o ganlyniadau\u2019r etholiad yn yr hen faes glo ym mis Mai.<\/p>\n<p>Roedd gan Blaid Cymru hanes hir oes o ymgyrchu yng Nghaerffili, ac mae\u2019r cynnydd yn nifer yr ysgolion Cymraeg yn yr ardal dros y degawdau diwethaf yn brawf o waith caled aelodau lleol y blaid a rhieni dros y blynyddoedd. Yn ogystal, Plaid Cymru oedd \u00e2\u2019r mwyafrif yn y Cyngor ym 1999 ac roeddent yn gyfartal yn 2008, ac yn y cyfnod hwnnw Plaid oedd yn arwain y Cyngor. Mae\u2019r sefyllfa\u2019n dra gwahanol ym Merthyr Tudful, er enghraifft. Does yno ddim ysgol uwchradd Gymraeg ym Merthyr, gyda\u2019r disgyblion yn teithio i Hirwaun yn Rhondda Cynon Taf; does yno ddim cydymdeimlad gwirioneddol ymysg y cynghorwyr gyda galw\u2019r rhieni am ysgol uwchradd Gymraeg yn y fwrdeistref i\u2019w plant; a does yno ddim cynghorwyr Plaid Cymru wedi eistedd ar y Cyngor ers 1999. Mae yna gynrychiolaeth gan Blaid Cymru ar Gyngor Caerffili bob tro &#8211; hyd yn oed os nad ydynt yn dal mwyafrif. Rhywbeth sy\u2019n bwysig ei nodi efallai, yw nad oes un cynghorydd Reform yng Nghaerffili, tra bod un ar Gyngor Merthyr Tudful ac un hefyd ym Mlaenau Gwent.<\/p>\n<p>Hyd yn oed yng Nghaerffili, cynyddodd pleidlais Reform o 495 pleidlais yn 2021 i 12,113 pleidlais yn 2025. Mae\u2019r cynnydd yn un aruthrol ac er gwaethaf buddugoliaeth Plaid Cymru mae Reform yn gwneud yn dda.<\/p>\n<h4>&#8216;Pobl&#8217; Reform<\/h4>\n<p>Ond pwy yn union sy\u2019n pleidleisio dros Reform a beth sy\u2019n eu denu? Rwy\u2019n byw yn y Cymoedd fy hun ac mae nifer o bobl yr ardal yn cefnogi Reform ac yn bwriadu rhoi eu pleidlais iddynt ym mis Mai. Mae llawer o s\u00f4n yn y cyfryngau am effaith arian tramor ar Reform a\u2019r dylanwad a\u2019r gwaith marchnata a hyrwyddo gall arian a chysylltiadau o\u2019r fath brynu. Ond wrth sgyrsio gyda phobl, a chlywed ambell i sylw ar y stryd, daw\u2019n amlwg bod yna hefyd resymau lleol a hanesyddol dros gefnogaeth yr ardal i Reform.<\/p>\n<p>Y ddemograffeg dan sylw gen i yw pobl h\u0177n sydd dros eu hanner cant. Treuliodd dadau neu deidiau y rhan fwyaf ohonom eu bywyd gweithiol yn y pyllau glo, ac mae nifer o\u2019r cefnogwyr Reform rwy\u2019n eu hadnabod yn gyn-lowyr eu hunain er eu bod yn rhy ifanc i fod wedi ennill bywoliaeth gydol oes o\u2019r gwaith.<\/p>\n<p>Gwelodd y rhan fwyaf o\u2019r bobl hyn ddirywiad yn iechyd a gallu corffol eu tadau \u2013 sy\u2019n beth anodd iawn i\u2019w weld. Mae\u2019r pentref lle rwy\u2019n byw yn nodweddiadol o\u2019r Cymoedd: un bryn serth yn codi at y mynydd a\u2019r tai wedi adeiladu mewn terasau i\u2019r bryn. Yn y gorffennol, ar nos Sadwrn, byddai\u2019r gwragedd yn sboncio lan y bryn i\u2019r clwb i gadw bwrdd i\u2019r dynion oherwydd byddai\u2019r dynion, gyda dwst y glo yn llenwi eu bron, yn ymlwybro\u2019n araf, araf ac yn stopio ger bob polyn lamp i ddal eu gwynt. Mae plant y dynion hyn yn eu 60au cynnar erbyn hyn \u2013 ac maen nhw\u2019n grac. Roedd gweld eu tadau mor wan yn dor-calonnus iddynt. Yn ystod y 1990au cafwyd cyfle am iawndal. Agorwyd canolfannau dros dro lle gallai glowyr a chyn-lowyr gael eu profi i weld os oedd dwst o\u2019r gwaith glo ar eu bron. Yr ateb, bron yn ddi-ffael, oedd nad oedd yno ddwst. Y sigar\u00e9ts oedd ar fai am y diffyg anadl.<\/p>\n<p>Pan mae gl\u00f6wr yn marw, mae gan y teulu hawl i ofyn am bost-mortem. Mae\u2019r rhan fwyaf o deuluoedd yn bachu\u2019r cyfle. Gyda\u2019r glowyr gydol oes, pan fyddai\u2019r adroddiad yn dod yn \u00f4l o\u2019r crwner byddai\u2019r teulu\u2019n cael gwybod bod cyrff eu tadau, eu teidiau \u2013 er gwaethaf canlyniadau profion yr iawndal &#8211; yn hollol ddu y tu mewn.\u00a0 A byddai ffurflenni swmpus yr iawndal yn cael eu pasio at y gwragedd i\u2019w llenwi.<\/p>\n<p>Mae nifer o bobl yr ardal hon yn pleidleisio Reform oherwydd gwnaeth Nigel Farage ffws mawr o bensiwn y glowyr a\u2019r arian oedd yn ddyledus iddynt. Ymddangosodd ei addewid i drosglwyddo\u2019r pensiwn yn \u00f4l iddynt mewn maniffesto blaenorol hyd yn oed.<\/p>\n<p>Petai\u2019r pyllau glo wedi cau, ac ynni gwyrdd wedi dod i\u2019r fei, mae nifer o\u2019r dynion hyn yn dweud y byddant wedi derbyn y sefyllfa. Ond gan fod Prydain yn mewnforio glo o wledydd eraill er mwyn cynnal strwythur y wlad, maen nhw\u2019n grac iawn unwaith eto ac yn hoffi\u2019r ffordd mae Reform yn siarad am ail gyflwyno diwydiant i Gymru, megis y gweithfeydd dur.<\/p>\n<p>Maent hefyd yn rhannu amheuaeth Reform ynghylch ynni gwyrdd. Mae nifer o bobl yn yr ardal hon yn deall llawer am systemau ynni Prydain, y modd y mae\u2019r sector yn gweithio a\u2019r ffordd y caiff ei gyflenwi \u2013 mae\u2019n bwnc sydd o ddiddordeb iddynt oherwydd eu cefndir. Mae nifer o gefnogwyr Reform yn amheus o frwdfrydedd y chwith rhyddfrydol dros ynni gwyrdd. Maen nhw\u2019n ei weld fel ffordd i gwmn\u00efau mawr elwa o\u2019r syniad gwyrdd nesaf, heb fod unrhyw fuddiannau go iawn i\u2019r bobl gyffredin drwy gyfleoedd gwaith a chostau ynni is. Ceir enghreifftiau o ddiystyrwch llywodraethau wrth iddynt s\u00f4n am y newid i gerbydau electronig &#8211; mae meddyliau pobl yr ardal yn troi at y ceir sydd gennym yn barod ac yna at y cwmn\u00efau ceir, a\u2019r cwmn\u00efau sy\u2019n gyfrifol am isadeiledd y newid hwn, a\u2019r ffordd y byddant yn elwa. Ac er yr holl s\u00f4n gan lywodraethau dilynol am drafnidiaeth werdd does dim un ohonynt yn gwella strwythur ein trafnidiaeth gyhoeddus er pa mor barod ydynt i sicrhau elw i\u2019r cwmn\u00efau mawr. Mewn nifer o fannau yn y Cymoedd rydym yn hollol ddibynnol ar geir erbyn hyn ac yn y cyfamser gall corfforaethau mawr wneud beth a fynnent, dim ond eu bod yn plannu digon o goed i wneud yn iawn am y dinistr maent yn ei achosi.<\/p>\n<p>Petai glowyr wedi cael y cyfle i fod ar flaen y gad gydag ynni gwyrdd a bod Cymru a meysydd glo eraill Prydain wedi gallu dangos i\u2019r byd sut gallem gyflawni dyfodol gwyrdd a sut byddai dyfodol o\u2019r fath yn edrych, gallai\u2019r stori wedi bod yn un wahanol. Ond gan eu bod yn ymwybodol iawn o\u2019r ffordd y gall lywodraethau ddweud celwyddau, dydyn nhw ddim yn ymddiried yn y syniad o ynni gwyrdd fel rhywbeth cynhenid dda.<\/p>\n<p>Maent yn\u00a0 teimlo, unwaith eto, mai Reform sy\u2019n lleisio\u2019r ansicrwydd a deimlir ganddynt \u2013 pryderon nad sydd o unrhyw ddiddordeb i\u2019r dosbarth sy\u2019n rheoli na dosbarth canol y chwith ryddfrydol. Ac eto, wedi iddynt weld dirywiad eu tadau dydyn nhw ddim chwaith yn diddori mewn dychwelyd at yr amodau gwaith hynny.<\/p>\n<h4>Pam ddim Plaid?<\/h4>\n<p>Codwyd y cwestiwn gan rai, os mai bwriad pleidleiswyr Reform yw codi dau fys i\u2019r status quo, pam na fyddent efallai yn pleidleisio dros Blaid Cymru \u2013 er mwyn rhoi diwedd ar y wladwriaeth Brydeinig unwaith ac am byth? Ond mae hynny\u2019n broblem yn y Cymoedd. Mae nifer o deuluoedd ynghlwm \u00e2\u2019r fyddin, un ffordd neu\u2019r llall, ac yn falch iawn o\u2019r lluoedd arfog ac o aelodau eu teulu sydd wedi bod yn rhan ohonynt. Maen nhw\u2019n teimlo\u2019r angen i warchod Prydain hyd yn oed, yn erbyn Mwslemiaid ar hyn o bryd, ac i nifer yn y Cymoedd, er cryfder eu Cymreictod, mae Prydain yn wlad iddynt hefyd.<\/p>\n<p>Ceir llawer o s\u00f4n gan yr adain dde eithafol am Fwslemiaid yn paratoi i gipio grym ym Mhrydain. Yn y Cymoedd, pan gaewyd y pyllau glo daeth byd cyfan i ben. Os ydych chi wedi profi diwedd un byd, hawdd yw dychmygu y gall y byd nesaf ddod i ben hefyd. Ac maen nhw\u2019n fodlon gweithredu i gadw gweddillion y byd cyntaf hwnnw a gollwyd ganddynt a\u2019r tameidiau ohono sy\u2019n dal i fod ar wasgar.<\/p>\n<p>Pan ofynnais i nifer ohonynt sut oeddent yn teimlo am ganlyniadau isetholiad Caerffili&#8217;r bore hwnnw pan gyhoeddwyd y newyddion, \u201cYes, great!\u201d oedd yr ymateb: \u201cAnything to get Labour out!\u201d. Yn s\u00f4n am etholiadau\u2019r Senedd mis Mai mae nifer wedi siarad yn frwdfrydig am eu cefnogaeth i Reform. Pan rwy\u2019n ateb drwy s\u00f4n am fy nghefnogaeth i\u2019r Comiwnyddion mae\u2019r hyn a ddaw yn \u00f4l ganddynt yn gadarnhaol ac yn gefnogol, bob tro.<\/p>\n<p>Mae sosialaeth a chomiwnyddiaeth yn gyfarwydd iddynt, ac nid yw\u2019r bobl hyn yn erbyn cysyniadau o\u2019r fath. Maen nhw\u2019n aml yn falch iawn o waith eu tadau dros yr undebau llafur, yn falch o\u2019r frwydr galed yn ystod streic y glowyr ac yn gandryll yn dal i fod, gyda Thatcher a\u2019i llywodraeth. Ond dydyn nhw ddim yn gweld arwydd o\u2019r cysyniadau sosialaidd hyn yng ngwleidyddiaeth y Blaid Lafur na Phlaid Cymru chwaith. Ac o leiaf gyda Reform maen nhw\u2019n teimlo bod Farage wedi siarad am yr hyn sydd wedi eu cythruddo pan nad oes unrhyw un arall wedi gwneud.<\/p>\n<p>Mae pobl yn gymhleth ac yn aml mae ein gobeithion, ein hofnau a\u2019r hyn rydym yn falch ohono yn ddryslyd ac yn groes i\u2019w gilydd. Does yno ddim un o\u2019r pleidiau brif ffrwd, mewn gwirionedd, yn cynrychioli nifer yn yr ardal hon. Felly pam na fyddent yn pleidleisio dros Reform? Does dim byd yn newid, ta beth.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ym mis Hydref 2025 cynhaliwyd isetholiad yng Nghaerffili a gwyliwyd y canlyniadau dros Brydain. Yn \u00f4l pob s\u00f4n, byddai beth bynnag fyddai\u2019n digwydd yng Nghaerffili\u2019n arwydd o\u2019r hyn oedd ar &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Pam Reform? Cipolwg o&#8217;r Cymoedd&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":42,"featured_media":1535,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1534","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Pam Reform? Cipolwg o&#039;r Cymoedd - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Pam Reform? Cipolwg o&#039;r Cymoedd - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Ym mis Hydref 2025 cynhaliwyd isetholiad yng Nghaerffili a gwyliwyd y canlyniadau dros Brydain. Yn \u00f4l pob s\u00f4n, byddai beth bynnag fyddai\u2019n digwydd yng Nghaerffili\u2019n arwydd o\u2019r hyn oedd ar &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Pam Reform? Cipolwg o&#8217;r Cymoedd&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-04-19T10:17:10+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-04-19T16:44:11+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Nigel_Farage__throng_1_27333372331.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"960\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"640\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Catrin Ashton\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Catrin Ashton\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"10 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/\"},\"author\":{\"name\":\"Catrin Ashton\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/4dd7378a29b6c86cb33c969147c06190\"},\"headline\":\"Pam Reform? Cipolwg o&#8217;r Cymoedd\",\"datePublished\":\"2026-04-19T10:17:10+00:00\",\"dateModified\":\"2026-04-19T16:44:11+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/\"},\"wordCount\":3333,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Nigel_Farage__throng_1_27333372331.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/\",\"name\":\"Pam Reform? Cipolwg o'r Cymoedd - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Nigel_Farage__throng_1_27333372331.jpg\",\"datePublished\":\"2026-04-19T10:17:10+00:00\",\"dateModified\":\"2026-04-19T16:44:11+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Nigel_Farage__throng_1_27333372331.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Nigel_Farage__throng_1_27333372331.jpg\",\"width\":960,\"height\":640,\"caption\":\"Derek Bennett, CC BY 2.0 , via Wikimedia Commons\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Pam Reform? Cipolwg o&#8217;r Cymoedd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/4dd7378a29b6c86cb33c969147c06190\",\"name\":\"Catrin Ashton\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/51fc74b8adbb44b01d4b948229e33a3c08e8faa1b0872a68c0dae3ab3ff7707e?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/51fc74b8adbb44b01d4b948229e33a3c08e8faa1b0872a68c0dae3ab3ff7707e?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/51fc74b8adbb44b01d4b948229e33a3c08e8faa1b0872a68c0dae3ab3ff7707e?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Catrin Ashton\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/catrin-ashton\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Pam Reform? Cipolwg o'r Cymoedd - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Pam Reform? Cipolwg o'r Cymoedd - undod","og_description":"Ym mis Hydref 2025 cynhaliwyd isetholiad yng Nghaerffili a gwyliwyd y canlyniadau dros Brydain. Yn \u00f4l pob s\u00f4n, byddai beth bynnag fyddai\u2019n digwydd yng Nghaerffili\u2019n arwydd o\u2019r hyn oedd ar &hellip; Parhau i ddarllen \"Pam Reform? Cipolwg o&#8217;r Cymoedd\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2026-04-19T10:17:10+00:00","article_modified_time":"2026-04-19T16:44:11+00:00","og_image":[{"width":960,"height":640,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Nigel_Farage__throng_1_27333372331.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Catrin Ashton","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Catrin Ashton","Est. reading time":"10 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/"},"author":{"name":"Catrin Ashton","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/4dd7378a29b6c86cb33c969147c06190"},"headline":"Pam Reform? Cipolwg o&#8217;r Cymoedd","datePublished":"2026-04-19T10:17:10+00:00","dateModified":"2026-04-19T16:44:11+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/"},"wordCount":3333,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Nigel_Farage__throng_1_27333372331.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/","name":"Pam Reform? Cipolwg o'r Cymoedd - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Nigel_Farage__throng_1_27333372331.jpg","datePublished":"2026-04-19T10:17:10+00:00","dateModified":"2026-04-19T16:44:11+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Nigel_Farage__throng_1_27333372331.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/960px-Nigel_Farage__throng_1_27333372331.jpg","width":960,"height":640,"caption":"Derek Bennett, CC BY 2.0 , via Wikimedia Commons"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Pam Reform? Cipolwg o&#8217;r Cymoedd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/4dd7378a29b6c86cb33c969147c06190","name":"Catrin Ashton","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/51fc74b8adbb44b01d4b948229e33a3c08e8faa1b0872a68c0dae3ab3ff7707e?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/51fc74b8adbb44b01d4b948229e33a3c08e8faa1b0872a68c0dae3ab3ff7707e?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/51fc74b8adbb44b01d4b948229e33a3c08e8faa1b0872a68c0dae3ab3ff7707e?s=96&d=mm&r=g","caption":"Catrin Ashton"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/catrin-ashton\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1534","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/42"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1534"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1534\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1545,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1534\/revisions\/1545"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1535"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1534"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1534"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1534"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}