{"id":1549,"date":"2026-04-25T14:06:22","date_gmt":"2026-04-25T13:06:22","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1549"},"modified":"2026-04-25T14:09:30","modified_gmt":"2026-04-25T13:09:30","slug":"y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/","title":{"rendered":"&#8221;Y Gwir yn Erbyn y Byd&#8221; &#8211; Rhyddid Barn ac Etholiad y Senedd"},"content":{"rendered":"<p><em><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cDysgwn ein dyletswydd o weld ymddygiad gormeswyr y byd. Gwyddant bod y goleuni yn elyn iddynt, felly maent yn llafurio i gadw dynion yn y tywyllwch. Gyda&#8217;r bwriad hwn maent wedi penodi trwyddedwyr y wasg.\u201d<\/span><\/em><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn atsain s\u0175n diweddar Reform ynghylch amrywiol faterion o Ryddid Barn, mae fy meddwl wedi troi ar fwy nag un achlysur at yr Athronydd Cymreig <\/span><a href=\"https:\/\/aeon.co\/essays\/remembering-the-18th-century-radical-dissenter-richard-price\"><span style=\"font-weight: 400;\">Richard Price<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\"> a&#8217;i draethawd, <\/span><a href=\"https:\/\/oll.libertyfund.org\/titles\/price-a-discourse-on-the-love-of-our-country\"><span style=\"font-weight: 400;\">Caru Ein Gwlad<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">. Wedi&#8217;i gyhoeddi ym 1789 ar ddechrau&#8217;r Chwyldro Ffrengig, wrth i Ewrop rhefru yn erbyn rheolaeth awdurdodaidd eu Brenhinoedd, sbardunodd <\/span><a href=\"https:\/\/academic.oup.com\/book\/36674\/chapter-abstract\/321700770?redirectedFrom=fulltext&amp;login=false\"><span style=\"font-weight: 400;\">Cythrwfl y Chwyldro<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\"> trwy ysgogi&#8217;r Ceidwadwr Edmund Burke i ymateb, gyda&#8217;i enwog <\/span><i><span style=\"font-weight: 400;\">Reflections on the Revolution in France<\/span><\/i><span style=\"font-weight: 400;\">.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn ei fyfyrdodau ar seiliau gwladgarwch, mae Price (cyfaill mynwesol i Benjamin Franklin gyda llaw) yn datgan mai&#8217;r gwir yw&#8217;r cyntaf ymhlith ein \u201cbendithion pennaf\u201d. Mae&#8217;n egluro bod mynediad at wybodaeth a syniadau sy\u2019n cyfansoddi\u2019r gwir yn hanfodol i unrhyw wlad, er mwyn atal llywodraethau sy\u2019n ddim mwy \u201cna dyfeisiau i alluogi&#8217;r lleiafrif gorthrymu&#8217;r lliaws\u201d.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Trwy ysgrifau Price, fel cynifer o gyfnod yr Ymoleuad, cawn ein hatgoffa\u2019n glaer pam y daeth rhyddid barn i\u2019r amlwg fel un o feini prawf cymdeithas ddemocrataidd fodern. Ym myd y 17eg a\u2019r 18fed ganrif roedd sensoriaeth yn gyffredin, lle gallai coleddu rhai credoau crefyddol beryglu bywyd, a lle\u2019r oedd y dosbarthiadau llywodraethol yn gomedd anghydffurfio er mwyn cynnal eu hawdurdod.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Roedd y rhai fel Price a oedd yn ceisio cynnydd a rhyddid yn deall y byddai\u2019n amhosibl heb y cyfle i bobl ddysgu am bosibiliadau llywodraeth gyfansoddiadol a syniadau cysylltiedig. Roedd cynnydd yn gofyn rhyddid barn a rhyddid y wasg er mwyn i syniadau ymledu. \u201cAnwybodaeth yw tad pob rhagfarn, anoddefgarwch, erledigaeth a chaethwasiaeth\u201d meddai. \u201cHysbyswch a chyfarwyddwch y dynolryw; a bydd y drygioni hyn yn cael ei waredu.\u201d<\/span><\/p>\n<figure id=\"attachment_1551\" aria-describedby=\"caption-attachment-1551\" style=\"width: 300px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-1551\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/price-300x235.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"235\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/price-300x235.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/price-1024x802.jpg 1024w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/price-768x601.jpg 768w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/price-1536x1202.jpg 1536w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/price-1568x1227.jpg 1568w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/price.jpg 1680w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1551\" class=\"wp-caption-text\">Darlun o Richard Price gan yr artist Kevin Sinnott o Bontycymer<\/figcaption><\/figure>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Wrth olrhain y datblygiadau hanesyddol hwn, gall ymddangos yn groes i\u2019r disgwyl mai\u2019r Dde wleidyddol sydd wedi bod yn hyrwyddo\u2019r achos dros ryddid barn yn ddiweddar. Ar y cyfan, wrth gwrs, maent wedi bod yn cwyno am y gwrthwynebiad i\u2019w hiliaeth, anoddefgarwch a\u2019u hymlid o fewnfudwyr. Ac yn \u00f4l nifer o&#8217;r rhai sydd wedi hyrwyddo egwyddor rhyddid barn, maen nhw&#8217;n berffaith gywir i fynnu gwrandawiad.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn wir, roedd lladmerydd mwyaf adnabyddus rhyddid barn o&#8217;r 19eg ganrif, John Stuart Mill, yn dadlau na ddylai&#8217;r hyn y gallem ei alw bellach yn \u2018iaith casineb&#8217; &#8211; na safbwyntiau amhoblogaidd eraill &#8211; fod yn ddarostyngedig i&#8217;r gyfraith. Yn rhannol mae hyn oherwydd y posibiliad y gallai fod rhywfaint o wirionedd ynddynt, ond yn bwysicach fyth mae er mwyn datgelu anwiredd a herio&#8217;r gwirionedd.\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Roedd Mill yn ofni y byddai&#8217;r gwirionedd yn crebachu i &#8216;ddogma marwaidd\u2019 ac felly y dylid profi ac adnewyddu ei ysbryd a&#8217;i ystyr. Fodd bynnag, fe osododd ei &#8216;Egwyddor Niwed&#8217; ffin galed yn achos geiriau a allai achosi perygl corfforol uniongyrchol, megis trwy annog tyrfa ddig i ymosod ar werthwr \u0177d (neu, er enghraifft, gwesty llawn ceiswyr lloches).<\/span><\/p>\n<p><b>\u201cCefnogaeth\u201d Reform i Ryddid Barn yng Nghymru<\/b><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae\u2019r cyfnod cyn etholiad y Senedd wedi datgelu ymhellach rai o\u2019r tensiynau sydd ymhlyg yn Reform a\u2019r asgell dde caled a\u2019u coleddu honedig o ryddid barn. Yr enghraifft fwyaf amlwg oedd hanes Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, pan wrthododd cymdeithas ddadlau gais gan Reform i\u2019w hannerch.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Er bod Reform yn gyflym iawn i geisio ei fframio fel mater o\u2019r Brifysgol yn eu gwahardd o\u2019r campws, y gwir amdani oedd eu bod wedi gwahodd eu hunain, ac wedi cael eu gwrthod yn ddiserimoni &#8211; ac nad oeddent yn gwerthfawrogi gr\u0175p o fyfyrwyr yn mynegi eu barn ar y blaid. Ceision nhw nid yn unig ei ddarlunio fel achos o sensoriaeth, ond fe ddilynwyd yr honiad gan fygythiad i <\/span><a href=\"https:\/\/nation.cymru\/news\/uproar-as-reform-policy-chief-threatens-to-defund-welsh-university\/\"><span style=\"font-weight: 400;\">ddad-ariannu Bangor<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Efallai mai ymateb byrfyfyr oedd hwn ac yn ymgais nodweddiadol boblyddol i apelio at eu pleidleisiwyr craidd, ond mae eu greddf yn ddadlennol yn hyn o beth. Mae dileu&#8217;r ffiniau rhwng y wladwriaeth a sefydliadau cymdeithas sifil fel Prifysgolion yn nodweddiadol o or-ymestyn awdurdodaeth, ac mae unrhyw blismona ideolegol ynghylch materion &#8211; megis pwy y mae&#8217;n rhaid i gymdeithas ddadlau ei groesawu &#8211; yn ymyrraeth uniongyrchol \u00e2\u2019r rhyddid i ymgynnull a rhyddid mynegiant, ac yn arwydd i eraill yn y gymdeithas sifil am y gost posib o herio llywodraeth (nodwch hefyd eu cynnig arswydus i orfodi dehongliad penodol o<\/span><a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/articles\/ceqww40gv19o\"><span style=\"font-weight: 400;\"> hanes ar ein hamgueddfeydd<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">).<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae eu hymgais ymddangosiadol i hyrwyddo rhyddid barn a&#8217;u tuedd gyffredinol i&#8217;w danseilio yn drawiadol ar wedd arall. Arweiniodd eu hymgais i dywallt d\u0175r oer ar gwestiynau ynghylch lleoliad cartref Dan Thomas (yng Nghaerfaddon) at ddatganiad byddai ond yn ymgysylltu \u00e2&#8217;r cyfryngau cyfeillgar dros baned o de i egluro&#8217;r sefyllfa. Ni chafwyd unrhyw eglurhad o sylwedd, gan ein gadael i fyfyrio ar sut mae&#8217;r dull hwn o ymgysylltu \u00e2&#8217;r wasg rydd yn adlais o ochr draw yr Iwerydd.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">A dim ond yr wythnos hon, roedd eu prif ymgeisydd ar gyfer Caerdydd Ffynnon Taf yn creu ffys digon difyr, os braidd yn bryderus, am ei brosiect MA, ar allbwn gwefan newyddion nation.cymru. Er gwaethaf y ffaith mai\u2019r Daily Mail yw prif ffynhonnell newyddion yng Nghymru, mae&#8217;n ymddangos ei fod yn poeni gymaint am effaith pwyslais Nation ar Blaid Cymru a &#8216;thirwedd cyfryngau Cymru&#8217; fel ei fod yn argymell ymyrraeth y wladwriaeth trwy adolygiad o gyfryngau Cymru. Hir oes i ryddid y wasg, ynde.<\/span><\/p>\n<p><b>Trumpgar<\/b><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae bygwth Prifysgolion, difr\u00efo rhai newyddiaduwyr tra\u2019n closio ag eraill, a gwarafun ambell i ffynhonnell newyddion, yn atgoffa rhywun o Drumpiaeth, wrth gwrs. \u200b\u200bAc mae&#8217;n awgrymu\u2019r ymosodiad mwy parhaus, tywyllach a pheryg ar y gwirionedd, un sy&#8217;n ei gwneud hi&#8217;n llawer anoddach i ganfod y gwir, a\u2019r dde galed bellach yn cyflwyno eu hunain fel y sawl sy\u2019n cynrychioli\u2019r realiti gwleidyddol gwrth-sefydliadol, fel y mae hi <\/span><i><span style=\"font-weight: 400;\">go iawn<\/span><\/i><span style=\"font-weight: 400;\">.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Maen nhw yn hyrwyddo <\/span><i><span style=\"font-weight: 400;\">conspiracy theories<\/span><\/i><span style=\"font-weight: 400;\"> ac yn gweiddi \u201cnewyddion ffug\u201d tra\u2019n ymosod ar y gwirioneddau hynny a adeiladodd ddemocratiaeth gymdeithasol a rhyddfrydol fodern. Ymhellach, maent wedi creu ffurf ar ormes gymdeithasol trwy\u2019r cyfryngau cymdeithasol a&#8217;u\u00a0<em>bots<\/em> y byddai Mill ei hun wedi&#8217;i hystyried yn rym ormesol \u00e2\u2019r potensial o fod yn fwy pwerus nag unrhyw deyrn (ac sy\u2019n dangos terfynau ei ddelfryd ef o <\/span><a href=\"https:\/\/www.bostonreview.net\/articles\/jason-stanley-what-mill-got-wrong-about-freedom-of-speech\/\"><span style=\"font-weight: 400;\">farchnad syniadau<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\"> lle buasent yn derbyn gwrandawiad cyfartal o resymol fel ei gilydd).\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Wrth gwrs, yn hyn o beth rhaid inni gydnabod tuedd y chwith hefyd i stigmateiddio, eithrio a chreu arferion despotig (a ddatgelwyd mewn ffurf digon ingol gan <a href=\"https:\/\/www.opendemocracy.net\/en\/opendemocracyuk\/exiting-vampire-castle\/\">Mark Fisher<\/a> mewn perthynas \u00e2\u2019r cyfryngau cymdeithasol) &#8211; sydd yn y pen draw yn tanseilio eu hymdrechion i wrthwynebu\u2019r dde caled.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Fodd bynnag, mae arwyddion bod y rhod yn dechrau troi o ran Trump a&#8217;i gyfeillion Prydeinig, a\u2019r ceiniog yn dechrau disgyn bod eu gwleidyddiaeth yn gyffredinol llawn y tensiynau sy&#8217;n amlwg yn eu safiad ar ryddid barn.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae ei ryfel yn erbyn Iran wedi eu dinoethi yn eu holl ffolineb, eu llygredigaeth a&#8217;u rhagrith narsisistaidd a threisgar. Mae imiwnedd ymddangosiadol Farage i feirniadaeth efallai\u2019n teneuo: mae\u2019r addewid o difidend economaidd Brexit yn ddeilchion; yn yr un modd mae\u2019r canlyniadau i\u2019r DU o ran yr ymchwydd mewn mewnfudo a\u2019r anallu i &#8216;anfon y cychod yn \u00f4l&#8217; yn hysbys; yn ogystal mae Farage bellach wedi rhwyfo&#8217;n \u00f4l ar ei honiadau hynod ynghylch ailagor y pyllau glo a&#8217;r ffwrnesi ym Mhort Talbot.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Rhaid cyfaddef, fodd bynnag, mewn ambell ystyr na ellir beio nifer sylweddol o&#8217;r etholwyr am gael eu camarwain, o ystyried eu bod wedi cael eu hanwybyddu mor gyson, a bod y dosbarth gwleidyddol ers Tony Blair wedi treulio gymaint o amser ac ymdrech yn curadu eu cyfathrebu cyhoeddus a&#8217;u negesu (a ffugio pethau fel arfau dinistr torfol) &#8211; cymaint felly fel ein bod ni bellach yn ei gymryd yn ganiataol mewn un ystyr bod gwleidyddiaeth yn ymgais i lurgunio realiti a gwadu deallusrwydd a phrofiad bob dydd y cyhoedd.<\/span><\/p>\n<p><b>Rhagolygon y Blaid<\/b><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae gan Blaid Cymru, prif wrthwynebiad Reform yng Nghymru, y cymeriadau a&#8217;r dilysrwydd i osgoi&#8217;r gwaethaf o hyn oll (ond a all rhywun egluro pam nad yw Lindsay Whittle, arwr Caerffili, ar bob fideo yn ei ymgyrch?) &#8211; ond dydyn nhw chwaith ddim yn ddiogel o\u2019r un duedd.\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u200b\u200bI ddewis un enghraifft leol i mi, mae cyngor Sir Gaerfyrddin &#8211; wedi arwain gan y Blaid &#8211; ar hyn o bryd yn ceisio cau ysgolion pentref yn un o\u2019u cadarnleoedd, a hynny dan faner yr hyn y maent yn ei alw&#8217;n &#8216;foderneiddio&#8217;. Gallai adeiladu ysgolion bro newydd, neu chwilio am ffyrdd newydd o drefnu darpariaeth ysgolion presennol fod yn &#8220;foderneiddio&#8221; &#8211; ond nid cau ysgolion ar y cyfle cynta a chludo plant bach filltiroedd i lawr y ffordd. Ac eto maent yn parhau \u00e2&#8217;r math o garbwl yr ydym i gyd wedi cael llond bol ohono, ac sydd wedi gyrru pobl i goflaid Reform. Pan fydd iaith yn colli ei hystyr, dylem oll pryderi.<\/span><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-1552 aligncenter\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/Taliesin-202x300.jpg\" alt=\"\" width=\"202\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/Taliesin-202x300.jpg 202w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/Taliesin.jpg 336w\" sizes=\"auto, (max-width: 202px) 100vw, 202px\" \/><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Wrth ymdrin \u00e2 hyn oll, gallai Plaid gwneud yn waeth na throi at arwr ychydig yn h\u0177n na Richard Price. Wrth i Reform barhau yn eu hymgais i ddatgysylltu gwirionedd gwleidyddol o&#8217;i angorfa, a chreu eu realiti dryslyd, paradocsaidd llawn casineb, gellid dadlau ei bod hi&#8217;n bryd i&#8217;r Blaid, ei chefnogwyr, a&#8217;i beirdd, sianelu ffigur Taliesin, a &#8220;chreu mythau&#8221; eu hunain, o fath <\/span><a href=\"https:\/\/huwl1oyd.medium.com\/matters-of-the-spirit-what-next-for-wales-4f98f326bec1\"><span style=\"font-weight: 400;\">cadarnhaol a rhyddfreiniol<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">. <\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yr iaith sydd ei angen yw\u2019r math sy\u2019n symud y tu hwnt i ddisgwrs afiach <\/span><i><span style=\"font-weight: 400;\">managerialism<\/span><\/i><span style=\"font-weight: 400;\">. Defnyddiwyd Taliesin gan y nofelydd Emyr Humphreys mewn modd cofiadwy yn ei hanes llenyddol o Gymru, fel ymgorfforiad o oroesiad Cymru \u00e2\u2019i allu i newid ffurf. Roedd yn cynrychioli\u2019r arfer, os nad yr anghenraid Cymreig o newid hunaniaeth yn barhaus, yn wyneb cymathu Seisnig, a hynny trwy gryfder a bywiogrwydd grym geiriau.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Os fuodd erioed amser i Gymru adeiladu gwirionedd newydd o\u2019i &#8216;ffwrnes awen&#8217;, rhyddhau ei hun o hualau\u2019r disgwrs cyfoes ac ailddiffinio iaith ei gwleidyddiaeth, dyma hi. Fel y dywedodd un o gyfoeswyr Price, a\u2019n pencampwr mythau llesol: \u201cy Gwir yn Erbyn y Byd\u201d.<\/span><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cDysgwn ein dyletswydd o weld ymddygiad gormeswyr y byd. Gwyddant bod y goleuni yn elyn iddynt, felly maent yn llafurio i gadw dynion yn y tywyllwch. Gyda&#8217;r bwriad hwn maent &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;&#8221;Y Gwir yn Erbyn y Byd&#8221; &#8211; Rhyddid Barn ac Etholiad y Senedd&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":1550,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1549","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>&quot;Y Gwir yn Erbyn y Byd&quot; - Rhyddid Barn ac Etholiad y Senedd - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"&quot;Y Gwir yn Erbyn y Byd&quot; - Rhyddid Barn ac Etholiad y Senedd - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"\u201cDysgwn ein dyletswydd o weld ymddygiad gormeswyr y byd. Gwyddant bod y goleuni yn elyn iddynt, felly maent yn llafurio i gadw dynion yn y tywyllwch. Gyda&#8217;r bwriad hwn maent &hellip; Parhau i ddarllen &quot;&#8221;Y Gwir yn Erbyn y Byd&#8221; &#8211; Rhyddid Barn ac Etholiad y Senedd&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-04-25T13:06:22+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-04-25T13:09:30+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/Freedom_of_Thought_Ben_Franklin.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"960\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"571\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Huw Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Huw Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"10 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/\"},\"author\":{\"name\":\"Huw Williams\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\"},\"headline\":\"&#8221;Y Gwir yn Erbyn y Byd&#8221; &#8211; Rhyddid Barn ac Etholiad y Senedd\",\"datePublished\":\"2026-04-25T13:06:22+00:00\",\"dateModified\":\"2026-04-25T13:09:30+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/\"},\"wordCount\":3444,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/Freedom_of_Thought_Ben_Franklin.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/\",\"name\":\"\\\"Y Gwir yn Erbyn y Byd\\\" - Rhyddid Barn ac Etholiad y Senedd - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/Freedom_of_Thought_Ben_Franklin.jpg\",\"datePublished\":\"2026-04-25T13:06:22+00:00\",\"dateModified\":\"2026-04-25T13:09:30+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/Freedom_of_Thought_Ben_Franklin.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/Freedom_of_Thought_Ben_Franklin.jpg\",\"width\":960,\"height\":571},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"&#8220;Y Gwir yn Erbyn y Byd&#8221; &#8211; Rhyddid Barn ac Etholiad y Senedd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\",\"name\":\"Huw Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Huw Williams\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"\"Y Gwir yn Erbyn y Byd\" - Rhyddid Barn ac Etholiad y Senedd - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"\"Y Gwir yn Erbyn y Byd\" - Rhyddid Barn ac Etholiad y Senedd - undod","og_description":"\u201cDysgwn ein dyletswydd o weld ymddygiad gormeswyr y byd. Gwyddant bod y goleuni yn elyn iddynt, felly maent yn llafurio i gadw dynion yn y tywyllwch. Gyda&#8217;r bwriad hwn maent &hellip; Parhau i ddarllen \"&#8221;Y Gwir yn Erbyn y Byd&#8221; &#8211; Rhyddid Barn ac Etholiad y Senedd\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2026-04-25T13:06:22+00:00","article_modified_time":"2026-04-25T13:09:30+00:00","og_image":[{"width":960,"height":571,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/Freedom_of_Thought_Ben_Franklin.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Huw Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Huw Williams","Est. reading time":"10 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/"},"author":{"name":"Huw Williams","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b"},"headline":"&#8221;Y Gwir yn Erbyn y Byd&#8221; &#8211; Rhyddid Barn ac Etholiad y Senedd","datePublished":"2026-04-25T13:06:22+00:00","dateModified":"2026-04-25T13:09:30+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/"},"wordCount":3444,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/Freedom_of_Thought_Ben_Franklin.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/","name":"\"Y Gwir yn Erbyn y Byd\" - Rhyddid Barn ac Etholiad y Senedd - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/Freedom_of_Thought_Ben_Franklin.jpg","datePublished":"2026-04-25T13:06:22+00:00","dateModified":"2026-04-25T13:09:30+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/Freedom_of_Thought_Ben_Franklin.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/Freedom_of_Thought_Ben_Franklin.jpg","width":960,"height":571},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/y-gwir-yn-erbyn-y-byd-rhyddid-barn-ac-etholiad-y-senedd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"&#8220;Y Gwir yn Erbyn y Byd&#8221; &#8211; Rhyddid Barn ac Etholiad y Senedd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b","name":"Huw Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Huw Williams"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1549","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1549"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1549\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1555,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1549\/revisions\/1555"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1550"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1549"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1549"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1549"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}