{"id":1556,"date":"2026-04-25T17:15:28","date_gmt":"2026-04-25T16:15:28","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1556"},"modified":"2026-04-25T17:15:28","modified_gmt":"2026-04-25T16:15:28","slug":"cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/","title":{"rendered":"Cyd-blethu Ymwybyddiaeth Newydd: Dealltwriaeth \u2018\u00f4l-woke\u2019  o \u2018undod mewn amrywiaeth\u2019"},"content":{"rendered":"<p><em>Rydyn ni&#8217;n hynod gyffrous i gyflwyno traethawd 3-rhan arall, y tro hwn gan Olygydd Planet a&#8217;r awdur amheuthun Emily Trahair. Dyma hi&#8217;n edrych ymlaen at gorwelion newydd i&#8217;r chwith (yn arbennig o berthnasol i Undod) trwy edrych yn \u00f4l ar ei cholofn olygyddol proffwydol o 2018.<\/em><\/p>\n<p>Yn ddiweddar mewngofnodais i Twitter\/X Elon Musk, wedi amser hir i ffwrdd ohono. Roedd ffeindio fy ffordd drwy\u2019r ormodaeth o negeseuon a phostiadau\u2019n teimlo\u2019n iasol &#8211; fel petawn i ar faes y gad wedi i\u2019r rhyfel ddod i ben. Bu\u2019n frwydr o drafodaethau gwleidyddol Cymreig a welodd y chwith yn colli. Teimla\u2019n wag, bron, yr unig dyfiant yn ordyfiant o AI cellwyredig, y rhan fwyaf o ddilynwyr wedi eu halltudio i lwyfannau eraill neu\u2019n ceisio gwella drwy ddadwenwyno o\u2019r byd digidol yn gyfan gwbl.<\/p>\n<p>Cofiais yn sydyn am bostiadau o\u2019r gorffennol a\u2019r r\u00f4l bwysig chwaraewyd ganddynt yn rhyfeloedd diwylliant y Chwith\/Dde ond hefyd yn y brwydrau diffrwyth hynny a ddigwyddodd o fewn y chwith ei hun. Nawr ac yn y man gwelais ambell i ffasgydd neu wreig-gas\u00e4wr yn ystelcian o amgylch y dilynwyr oedd ar \u00f4l gen i, ond roedd fel petai\u2019r rhan fwyaf o\u2019r dilynwyr hyn nawr yn eu gwisgoedd sifil unwaith eto, yn postio diweddariadau diflas am gathod neu ddyrchafiad yn y gwaith. Efallai mai ceisio bod yn anweledig oeddent rhag denu sylw anfad y trolls a\u2019r bots.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, crwydrais ar hyd llwybr arall a glanio yn un o gadarnleoedd y partisaniaid \u2013 lle&#8217;r oedd barn ac ymatebion yr asgell chwith i ddigwyddiadau\u2019r byd yn cael eu cyfnewid yn rhwydd, fel petai ni n\u00f4l yn y flwyddyn 2018 unwaith eto.<\/p>\n<p>Teimla fel petai gan y tirlun digidol, dirlun cyfochrol yn y byd go iawn: ar yr arwyneb ymddengys fel petai bobl wedi rhoi\u2019r gorau i ymgyrchu, a hyd yn oed wedi stopio trafod gwleidyddiaeth gydag unrhyw un nad sy\u2019n rhannu\u2019r un farn \u00e2 nhw. Maent wedi gorflino o ganlyniad i\u2019r brwydro niweidiol o fewn mudiadau ymgyrchu, y cyfaddawd anniddig rhwng teulu a hen ffrindiau a\u2019r angen i dreulio\u2019r rhan fwyaf o\u2019u hamser yn talu biliau.<\/p>\n<p>Wedi dweud hynny, mae yno du arall i\u2019r tirlun hwn, un sy\u2019n ein hysbrydoli, lle mae pobl wrthi\u2019n curo drysau er mwyn paratoi i frwydro\u2019r dde eithafol a lle cynhelir sawl trafodaeth gydag anwylon ynghylch pam y byddai pleidlais adain chwith yn well na phleidlais i Reform o ran ymateb i anghenion cymunedol \u2013 bu effeithiau ymdrechion o\u2019r fath yn hynod o gadarnhaol yng Nghaerffili&#8217;r llynedd.<\/p>\n<p>Rydym yn sefyll ar erchwyn cyfnod rhyfedd, un sydd dan ei sang o beryg a gobaith ill dau: nid ydy\u2019r posibilrwydd o lywodraeth asgell dde eithafol yn y Senedd a San Steffan erioed wedi bod mor agos. Yn yr un modd, nid ers cyfnod Glynd\u0175r, si\u0175r o fod, ydy\u2019r mudiad annibyniaeth wedi bod mor agos at rym; ac nid yw\u2019r posibilrwydd o lywodraeth mor sylweddol o sosialaidd wedi bod mor debygol \u00e2 hyn yng Nghymru ddatganoledig (petai Blaid Cymru a\u2019r Gwyrddion yn llwyddo i greu llywodraeth ac iddi raglen radical). Dyma y mae nifer o ddarllenwyr y blog hwn wedi bod yn gobeithio amdano drwy gydol eu hoedolaeth.<\/p>\n<p>Ac eto\u2026 mewn sawl poced fach o Gymru, mae\u2019r ymrafael \u00e2 gwleidyddiaeth adain chwith ac o blaid annibyniaeth yn ymddangos yn ddiegni iawn, ac yn wyneb y cawodydd o gamwybodaeth sy\u2019n hyrddio o bob cyfeiriad gan y dde eithafol, ymddengys yn gatatonig, braidd.<\/p>\n<p>Gyda\u2019r etholiad yn prysur nes\u00e1u, mae nifer ohonom yn ystyried pa fodd i wneud y gorau o\u2019r amser sydd ar \u00f4l gennym.<\/p>\n<p>O gadw hyn mewn cof, ces fy nennu at ailystyried llith olygyddol a ysgrifennais ar gyfer cylchgrawn <em>Planet: The Welsh Internationalist<\/em> n\u00f4l yn Hydref 2018. Trafoda sawl pwnc sy\u2019n parhau\u2019n berthnasol i\u2019r ymdrech i drechu\u2019r Dde Eithafol yng Nghymru ond sydd, serch hynny, wedi achosi gymaint o rwygiadau (a chamddehongliadau) nes bod nifer o sylwebwyr erbyn hyn yn gwrthod wynebu\u2019r pynciau hyn yn uniongyrchol. O ganlyniad, rwyf wedi trefnu bod y llith olygyddol hon ar gael am ddim i bobl ddarllen fel nad oes yn rhaid imi ailadrodd yr holl esboniadau a chafeatau yn eu llawnder.<\/p>\n<figure id=\"attachment_1557\" aria-describedby=\"caption-attachment-1557\" style=\"width: 228px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-1557\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/231_Cover_Internet-228x300.jpg\" alt=\"\" width=\"228\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/231_Cover_Internet-228x300.jpg 228w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/231_Cover_Internet.jpg 452w\" sizes=\"auto, (max-width: 228px) 100vw, 228px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1557\" class=\"wp-caption-text\">Llun clawr Planet, Rhifyn Hydref 2018<\/figcaption><\/figure>\n<p>Hoffwn ddistyllu\u2019r ddadl i\u2019w phrif bwyntiau: disgrifiodd y golofn ar yr un llaw&#8217;r angen brys i warchod a datblygu ymhellach yr ymdrechion i rymuso menywod a lleiafrifoedd yn wyneb y Dde Eithafol a oedd yn ailgyfodi ar y pwynt hwnnw; ac ail-adroddais pam bod yr ymdrechion hyn mor bwysig yn y lle cyntaf.<\/p>\n<p>Drwy ddefnyddio ffeminyddiaeth yn esiampl graidd, gofynnodd y darn ar yr un llaw, pam fod y cysyniad o wleidyddiaeth ar ran \u2018y mwyafrif\u2019 wedi dechrau ymddangos mor gamamserol o safbwynt adain chwith, pam bod hwn yn ei hanfod yn achosi gymaint o bryder, ac yn debygol o arwain at ddymchwel y Chwith. Rhoddodd y golofn olygyddol lais i\u2019r anniddigrwydd hwnnw, oedd yn anodd ei grybwyll, ac a oedd wedi ymddangos ymysg trafodaethau fy ffrindiau o wahanol gefndiroedd. Roedd yn ymwneud \u00e2\u2019r ffordd yr oedd egwyddorion penodol a oedd yn delio gydag amrywiaeth, cynrychiolaeth, braint ac ati &#8211; egwyddorion roeddem yn cytuno \u00e2 hwy yn gyffredinol &#8211; wedi caledi\u2019n ddogma. Ond, yn wahanol i ideolegau a chredoau\u2019r cenedlaethau cynt, nid oedd i\u2019r dogma hwn weledigaeth resymegol o\u2019r ffordd y gallai dynol ryw ryddhau ei hun a gwella bywyd i bawb.<\/p>\n<p>Amlinellodd y darn amryw broblemau moesegol, rhesymegol, athronyddol ac ymarferol roedd mudiadau adain chwith yn eu hwynebu (problemau a ddinistriodd, mewn sawl achos, y mudiadau hyn yn y pendraw). Roedd yn gyfnod pan drodd cysyniadau megis gwirio eich braint, \u2018ildio\u2019r llawr\u2019, ac enwi rhagfarnau yn weithredoedd\u00a0 gofynnol; a daeth y syniad o eiddilwch gwrywaidd, <em>mansplaning<\/em>, m\u00e2n-ymosodiadau ac ati yn rhesymau i gau pobl allan o\u2019r sgwrs yn hytrach na\u2019u gweld yn safbwyntiau dadleuol sy\u2019n gallu bod yn adeiladol mewn ambell i gyd-destun.<\/p>\n<p>Roedd y llith olygyddol yn ymgais i ddangos nad oedd gwleidyddiaeth hunaniaeth wedi mynd yn \u2018rhy bell\u2019, yn hytrach roedd wedi mynd i\u2019r cyfeiriad anghywir, ac yn wir roedd yno bellter i deithio eto petai ni am ennill cydraddoldeb a chyfiawnder gwirioneddol i fenywod a lleiafrifoedd.<\/p>\n<p>Ceisiodd y darn wahaniaethu rhwng problemau gwleidyddiaeth hunaniaeth gyfredol a oedd yn graidd i\u2019r wleidyddiaeth hon, a\u2019r materion hynny a oedd yn symptomau o anhwylder ehangach ac a oedd wedi troi\u2019n glymau ac a oedd wedi ei lygru gan wleidyddiaeth hunaniaeth.<\/p>\n<p>Gellir crynhoi\u2019r anhwylder cyntaf drwy ei alw\u2019n \u2018gynni neoryddfrydol\u2019. Dinistriodd neoryddfrydiaeth ein gallu i feddwl am ein hunain yn gyfangorff cymunedol, yn hytrach nag unigolion yn cystadlu ag eraill. Arweiniodd hefyd at anghydraddoldeb eithafol rhwng y 99% a\u2019r 1%, erydwyd gobeithion y rhan fwyaf o bobl a phlymiodd nifer i dlodi.<\/p>\n<p>Ar yr un pryd, cyfaddaswyd fersiwn o\u2019r agenda amrywiaeth gan reolwyr ac adrannau Adnoddau Dynol y sefydliadau sy\u2019n rheoli ein bywydau (sefydliadau a oedd erbyn hyn yn neoryddfrydol hyd yn oed os oeddent yn ymddangos yn flaengar ar yr arwyneb). Trodd hyn yn broblematig, yn y lle cyntaf oherwydd mae\u2019r un unigolion sy\u2019n ein gwneud yn dlawd ac yn cymryd y p\u0175er oddi wrthym hefyd yn gorfodi naratif Cydraddoldeb Arwahanrwydd a Chynhwysiant ar bawb, ac o ganlyniad yn tanseilio\u2019r naratif (a hefyd weithiau\u2019n ei ddefnyddio\u2019n dacteg i ymrannu a rheoli pan fod pobl yn ceisio gwella amodau i bawb).<\/p>\n<p>Mae\u2019r gobaith am fwyafrif blaengar a chefnogaeth i leiafrifoedd wedi cael eu tanseilio, ill dau, gan gynni. Cyflwynir darpariaeth wladwriaethol fel rhyw fath o sefyllfa ddigyfaddawd lle mae\u2019n rhaid i ni gyd frwydro dros friwsion \u2013 yn y blynyddoedd diweddar ffoaduriaid sydd wedi dioddef yn benodol o wael o sefyllfa o\u2019r fath.<\/p>\n<p>Yr ail anhwylder y mae gwleidyddiaeth hunaniaeth wedi mynd i drafferthion gydag ef yw\u2019r cyfryngau cymdeithasol gwenwynllyd sydd dan berchnogaeth oligarchiaid. Fel y soniais yn y llith olygyddol, \u2018mae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn golygu cynnal sgwrs sensitif sy\u2019n mynd at wraidd ein hunaniaeth. Pan mae llwyfannau\u2019r cyfryngau cymdeithasol \u2013 sydd wedi eu hamddifadu o ddynoliaeth &#8211; yn ganolwyr rhwng pobl, gall fod yn drychinebus i\u2019r math o gydymdrech sydd ei angen i feithrin undod o fewn amrywiaeth.\u00a0 Mae hwn oherwydd bod y llwyfannau hyn wedi eu dylunio i gynyddu hunan-ddyrchafiaeth o fewn yr economi \u2018dal sylw\u2019 (ac o ganlyniad cynyddu\u2019r elw drwy algorythms hysbysebion)&#8217;.<\/p>\n<p>Undod mewn amrywiaeth \u2013 dyma oedd wrth wraidd llith olygyddol 2018, ac y mae hefyd, byddaf yn dadlau, yn treiddio i galon yr hyn sy\u2019n bwysig yn ystod trafodaethau etholiadol y Senedd.<\/p>\n<p>Yn y ddwy ran nesaf o\u2019r erthygl hon, byddaf yn trafod yr egin gynlluniau a awgrymais yn y golofn olygyddol ynghylch gwahanol fath o wleidyddiaeth gyfanfydol \u2013 <em>universalist politics<\/em> &#8211; sydd yn gwasanaethu\u2019r mwyafrif ac sy\u2019n bosib i\u2019r mwyafrif ei gefnogi wrth hefyd rymuso menywod a lleiafrifoedd, a\u2019r modd y mae gwleidyddiaeth hunaniaeth amgen wedi cael ei goethi ers 2018, nes ei fod erbyn hyn yn beth cyffredin o fewn trafodaethau\u2019r chwaith. Byddaf yn cyflwyno fy syniadau ynghylch pam bod yn rhaid i ni ledaenu\u2019r weledigaeth hon ymhellach ac ar fyrder yn ystod y cyfnod cyn etholiad \u2013 a pha fodd allwn wneud hynny.<\/p>\n<p>***<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydyn ni&#8217;n hynod gyffrous i gyflwyno traethawd 3-rhan arall, y tro hwn gan Olygydd Planet a&#8217;r awdur amheuthun Emily Trahair. Dyma hi&#8217;n edrych ymlaen at gorwelion newydd i&#8217;r chwith (yn &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Cyd-blethu Ymwybyddiaeth Newydd: Dealltwriaeth \u2018\u00f4l-woke\u2019  o \u2018undod mewn amrywiaeth\u2019&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":47,"featured_media":1557,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1556","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cyd-blethu Ymwybyddiaeth Newydd: Dealltwriaeth \u2018\u00f4l-woke\u2019 o \u2018undod mewn amrywiaeth\u2019 - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cyd-blethu Ymwybyddiaeth Newydd: Dealltwriaeth \u2018\u00f4l-woke\u2019 o \u2018undod mewn amrywiaeth\u2019 - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Rydyn ni&#8217;n hynod gyffrous i gyflwyno traethawd 3-rhan arall, y tro hwn gan Olygydd Planet a&#8217;r awdur amheuthun Emily Trahair. Dyma hi&#8217;n edrych ymlaen at gorwelion newydd i&#8217;r chwith (yn &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Cyd-blethu Ymwybyddiaeth Newydd: Dealltwriaeth \u2018\u00f4l-woke\u2019 o \u2018undod mewn amrywiaeth\u2019&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-04-25T16:15:28+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/231_Cover_Internet.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"452\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"594\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Emily Trahair\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Emily Trahair\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"9 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/\"},\"author\":{\"name\":\"Emily Trahair\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9fbc5fd524eae4f353f8d3d770686403\"},\"headline\":\"Cyd-blethu Ymwybyddiaeth Newydd: Dealltwriaeth \u2018\u00f4l-woke\u2019 o \u2018undod mewn amrywiaeth\u2019\",\"datePublished\":\"2026-04-25T16:15:28+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/\"},\"wordCount\":2841,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/231_Cover_Internet.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/\",\"name\":\"Cyd-blethu Ymwybyddiaeth Newydd: Dealltwriaeth \u2018\u00f4l-woke\u2019 o \u2018undod mewn amrywiaeth\u2019 - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/231_Cover_Internet.jpg\",\"datePublished\":\"2026-04-25T16:15:28+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/231_Cover_Internet.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/231_Cover_Internet.jpg\",\"width\":452,\"height\":594,\"caption\":\"Llun clawr Planet, Rhifyn Hydref 2018\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cyd-blethu Ymwybyddiaeth Newydd: Dealltwriaeth \u2018\u00f4l-woke\u2019 o \u2018undod mewn amrywiaeth\u2019\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9fbc5fd524eae4f353f8d3d770686403\",\"name\":\"Emily Trahair\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9bb0fdf3af9ad30fba2ed501b41646bb61da397df058cc8a02cb7627c6b41951?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9bb0fdf3af9ad30fba2ed501b41646bb61da397df058cc8a02cb7627c6b41951?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9bb0fdf3af9ad30fba2ed501b41646bb61da397df058cc8a02cb7627c6b41951?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Emily Trahair\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/emilytrahair\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cyd-blethu Ymwybyddiaeth Newydd: Dealltwriaeth \u2018\u00f4l-woke\u2019 o \u2018undod mewn amrywiaeth\u2019 - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Cyd-blethu Ymwybyddiaeth Newydd: Dealltwriaeth \u2018\u00f4l-woke\u2019 o \u2018undod mewn amrywiaeth\u2019 - undod","og_description":"Rydyn ni&#8217;n hynod gyffrous i gyflwyno traethawd 3-rhan arall, y tro hwn gan Olygydd Planet a&#8217;r awdur amheuthun Emily Trahair. Dyma hi&#8217;n edrych ymlaen at gorwelion newydd i&#8217;r chwith (yn &hellip; Parhau i ddarllen \"Cyd-blethu Ymwybyddiaeth Newydd: Dealltwriaeth \u2018\u00f4l-woke\u2019 o \u2018undod mewn amrywiaeth\u2019\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2026-04-25T16:15:28+00:00","og_image":[{"width":452,"height":594,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/231_Cover_Internet.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Emily Trahair","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Emily Trahair","Est. reading time":"9 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/"},"author":{"name":"Emily Trahair","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9fbc5fd524eae4f353f8d3d770686403"},"headline":"Cyd-blethu Ymwybyddiaeth Newydd: Dealltwriaeth \u2018\u00f4l-woke\u2019 o \u2018undod mewn amrywiaeth\u2019","datePublished":"2026-04-25T16:15:28+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/"},"wordCount":2841,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/231_Cover_Internet.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/","name":"Cyd-blethu Ymwybyddiaeth Newydd: Dealltwriaeth \u2018\u00f4l-woke\u2019 o \u2018undod mewn amrywiaeth\u2019 - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/231_Cover_Internet.jpg","datePublished":"2026-04-25T16:15:28+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/231_Cover_Internet.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/231_Cover_Internet.jpg","width":452,"height":594,"caption":"Llun clawr Planet, Rhifyn Hydref 2018"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cyd-blethu Ymwybyddiaeth Newydd: Dealltwriaeth \u2018\u00f4l-woke\u2019 o \u2018undod mewn amrywiaeth\u2019"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9fbc5fd524eae4f353f8d3d770686403","name":"Emily Trahair","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9bb0fdf3af9ad30fba2ed501b41646bb61da397df058cc8a02cb7627c6b41951?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9bb0fdf3af9ad30fba2ed501b41646bb61da397df058cc8a02cb7627c6b41951?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9bb0fdf3af9ad30fba2ed501b41646bb61da397df058cc8a02cb7627c6b41951?s=96&d=mm&r=g","caption":"Emily Trahair"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/emilytrahair\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1556","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/47"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1556"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1556\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1559,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1556\/revisions\/1559"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1557"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1556"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1556"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1556"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}