{"id":1578,"date":"2026-05-03T11:28:40","date_gmt":"2026-05-03T10:28:40","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1578"},"modified":"2026-05-03T11:34:00","modified_gmt":"2026-05-03T10:34:00","slug":"cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/","title":{"rendered":"Cam-bortreadu\u2019r Chwith Cymreig \u2013 a chynigion ynghylch sut i ymateb"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h5><em><strong>Dyma ran olaf erthygl teiran golygydd Planet, Emily Trahair, a hithau&#8217;n cynnig ffordd ymlaen i&#8217;r Chwith Cymreig. I&#8217;w werthfawrogi&#8217;n llawn, darllenwch rhan <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2026\/04\/25\/cyd-blethu-ymwybyddiaeth-newydd-dealltwriaeth-ol-woke-o-undod-mewn-amrywiaeth\/\">un<\/a> a <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2026\/04\/29\/undod-mewn-amrywiaeth-or-newydd-rhan-ii\/\">dau<\/a>.\u00a0<\/strong><\/em><\/h5>\n<p>Petai chi\u2019n darllen <a href=\"https:\/\/www.reformparty.uk\/welsh-manifesto-english.pdf\">maniffesto<\/a> Seneddol Reform yn unig, byddech yn credu mai dim ond canolbwyntio ar fenywod a lleiafrifoedd penodol a wna\u2019r pleidiau hynny sy\u2019n gogwyddo tua\u2019r chwith \u2013 ac mae\u2019r postiadau asgell dde ar y we sydd o darddiad aneglur yn adrodd yn union yr un stori. Ychydig iawn y mae maniffesto Reform yn ei gynnig i wella bywyd y mwyafrif (yn wir, wedi iddynt ymchwilio, daeth Canolfan Llywodraethiant Cymru i\u2019r <a href=\"https:\/\/nation.cymru\/news\/reform-and-tory-tax-cuts-would-require-deep-cuts-in-public-services-and-favour-higher-earners\/\">casgliad<\/a> y byddai toriadau treth Reform yn arwain at doriadau enbyd i wasanaethau cyhoeddus gan fuddio\u2019r mwyaf cyfoethog mewn ffordd anghymesur).<\/p>\n<p>Yn hytrach, cyflwyna eu maniffesto ryw gasineb gwyllt onanaidd (neu efallai mai achosi trawiad ar y galon y gwna) yn erbyn \u2018Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant\u2019, \u2018mewnfudwyr sy\u2019n neidio i flaen y ciw\u2019, \u2018gangiau sy\u2019n meithrin perthnasau amhriodol\u2019, \u2018ymdrwytho gwleidyddol\u2019, \u2018cipio ideolegol\u2019, ynni adnewyddadwy sy\u2019n \u2018difetha\u2019r\u2019 dirwedd, \u2018naratifau allg\u00e1u\u2019, \u2018gwleidyddiaeth hunaniaeth gynhennus\u2019 ac \u2018ideoleg rhywedd\u2019 sinistr&#8230;<\/p>\n<p>Ochr yn ochr ag ambell i gynnig arswydus i orfodi eu \u2018naratifau gwaharddol\u2019 eu hunain ar ysgolion, y cyfryngau a sefydliadau diwylliannol, mae yna ffars llwyr. Edrychwch ar dudalen 32 lle mae\u2019r cysyniad o amser, hyd yn oed, wedi cael ei filwrio&#8217;n rhan o\u2019r rhyfeloedd diwylliant, fel petai ideoleg \u2018woke\u2019 wedi gwyrdroi deddfau ffiseg. Mae yna ganu bib-bib ar gorn yn ein rhybuddio&#8217;n barhaol o fygythiadau ymledol, o Glwy Affricanaidd y Moch a Chlefyd y Croen Talpiog a ddaw o \u2018bell\u2019, mae yna ymosodiadau ar eich pentan eich hun gyda\u2019r \u2018gwaharddiad ar leoedd t\u00e2n\u2019\u2026 (Hefyd, \u2018naratifau gwaharddol? Mae\u2019n si\u0175r bod hynny briadd yn \u00f4l-fodern i fudiad sy\u2019n disgrifio\u2019r Chwith yn elitau sydd wedi derbyn gormod o addysg, eu meddyliau wedi eu llenwi \u00e2 phethau pwysicach na materion bara-menyn?). Un o\u2019r ffyrdd syml ymlaen i\u2019r chwith fyddai rhoi gwybod i bobl beth yn union sydd wedi cael ei ddweud ym maniffesto Reform.<\/p>\n<p>Sut allwn ymateb ymhellach? Camgymeriad fyddai i ymgyrchwyr y Chwith (yn cynnwys y sawl sy\u2019n gysylltiedig ag Undod) daflu\u2019r llo a chadw\u2019r brych mewn ymateb llawn panig i\u2019r Dde sy\u2019n ymddangos fel petai nhw\u2019n cael y gorau o\u2019r rhyfeloedd diwylliant: rhaid peidio gwahardd cynigion am bolis\u00efau sy\u2019n cefnogi menywod a lleiafrifoedd a hyrwyddo\u2019r polis\u00efau hynny sy\u2019n gyfanfydol <em>(universal)<\/em> neu\u2019n seiliedig ar ddosbarth yn unig.\u00a0 Byddai\u2019r model \u2018Llafur Glas\u2019 hwn yn troi cefn ar y sawl sydd fwyaf angen ein cydsafiad mewn cyfnod o wir beryg, gan gyfuno \u00e2 Starmeriaeth drwy normaleiddio byd mwy creulon a llai cyfartal. Fodd bynnag, ymateb cyfeiliornus arall fyddai i\u2019r Chwith ddatblygu meddylfryd gorchfygol drwy gadw a gwarchod naratifau a gwleidyddiaeth Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant (ATCh) yn union fel y maent, a chefnu ar y gwaith hanfodol o ddiwygio&#8217;r agenda ATCh honno\u00a0 a\u2019u troi yn rhywbeth fyddai nid yn unig yn fwy poblogaidd ond yn fwy moesol, ar y cyd \u00e2 chanolbwyntio ar anghydraddoldeb economaidd \u2013 yn rhannol mewn cydnabyddiaeth mai naratifau camsyniol gwleidyddiaeth hunaniaeth a gyfrannodd at gefnogaeth y Dde Eithafol yn y lle cyntaf.<\/p>\n<p>Wedi darllen maniffesto <a href=\"https:\/\/www.partyof.wales\/manifesto\">Plaid Cymru<\/a> a\u2019r <a href=\"https:\/\/wales.greenparty.org.uk\/wp-content\/uploads\/sites\/51\/2026\/04\/Senedd-Manifesto-2026-EN2.pdf\">Gwyrddion<\/a> ar gyfer 2026, byddwn yn dadlau bod y ddwy blaid, ar y cyfan, nid yn unig yn llwyddo osgoi\u2019r ymatebion problematig hyn ond yn aml yn datblygu ymhellach y weledigaeth amgen ar gyfer \u2018undod mewn amrywiaeth\u2019 a amlinellwyd gen i yn fy <a href=\"https:\/\/www.planetmagazine.org.uk\/planet-online\/231\/editorial\">llith olygyddol<\/a> yn 2018 (er eu bod weithiau\u2019n ymwahanu \u00e2\u2019r weledigaeth honno).<\/p>\n<p>Mewn gair, mae\u2019r rhan fwyaf o gynigion polisi Plaid Cymru a\u2019r Gwyrddion &#8211; a\u2019r mwyafrif llethol o wariant awgrymedig y ddwy blaid &#8211; yn ymwneud \u00e2 mesurau fyddai o fudd i\u2019r mwyafrif \u2013 neu grwpiau economaidd cenedliadol. Maent yn fesurau sy\u2019n mynd ymhellach na\u2019r Llywodraeth bresennol yng Nghymru. Mae\u2019r ddwy blaid yn addo gwneud mwy na Llafur Cymreig yn y frwydr am ariannu tecach a mwy o b\u0175er gan San Steffan. (Mae\u2019r Gwyrddion yn cymryd agwedd sy&#8217;n canolbwyntio&#8217;n fwy ar ailddosbarthu o fewn Cymru na Phlaid, gan ganolbwyntio ar herio landlordiaid a chorfforaethau). Petai\u2019n llwyddiannus, gallai hyn ynddo\u2019i hun <em>wneud ychydig o\u2019r gwaith<\/em> i leddfu gofidion y bobl hynny sy\u2019n teimlo bod rhai grwpiau\u2019n buddio\u2019n fwy nag eraill o ganlyniad i wleidyddiaeth y wladwriaeth a pholis\u00efau\u2019r gwahanol bleidiau.<\/p>\n<p>Rhoddwyd llawer llai o eiriau ac arian i ddarpariaeth benodol neu gydnabyddiaeth ddigamsyniol i fenywod a lleiafrifoedd yn y ddau faniffesto. Serch hynny, nid yn unig ydy\u2019r ddwy blaid wedi parhau\u2019n ddi-ildio wrth gadw a chyflwyno mesurau sy\u2019n gwarchod ac yn grymuso menywod a lleiafrifoedd (yn arbennig y Gwyrddion), ond mae Plaid Cymru, yn arbennig, wedi gwasgu\u2019r danadl er mwyn dadwreiddio camwybodaeth a\u2019r \u2018rhyfeloedd diwylliant cynhenid\u2019 sy\u2019n ymwneud \u00e2 pholis\u00efau\u2019r blaid (e.e. y rhaglen Cenedl Noddfa a hawliau LHDTC+) ac, yn yr un modd \u00e2\u2019r Gwyrddion, mae eu haddewid i gryfhau addysg ddinesig ac ystyriaeth feirniadol \u2013 critical thinking &#8211; yn cynnig gwella addysg wleidyddol a llythrennedd cyfryngol.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, ydy\u2019r ddau faniffesto hyn yn ddigon radical i fynd i\u2019r afael ag anghyfartaledd economaidd? Ar ben hynny a fyddai gan y pleidiau hyn y pwerau gwleidyddol, y gallu a\u2019r arian i wireddu\u2019r cynigion a amlinellir yno a chaniat\u00e1u i fywyd y mwyafrif drawsnewid? Os nad ydynt yn llwyddo, i ba raddau y bydd yr etholaeth yn goddef y polis\u00efau sydd wedi eu hanelu at wella bywyd i\u2019r grwpiau penodol nad ydynt yn rhan ohonynt? Dyma\u2019r union fan y bydd gwaith yr etholaeth yn cychwyn wedi\u2019r 7fed o Fai petai\u2019r Chwith yn ennill, bydd yn rhaid i ni wthio\u2019r llywodraeth i fynd ym mhellach eto o ran anghydraddoldeb materol ac i barhau\u2019n rym gwrth-sefydliadol, gan sefyll yn fwy cadarn yn erbyn San Steffan, a\u2019r safiad hwnnw\u2019n un cyhoeddus.<\/p>\n<p>Byddai hwn yn r\u00f4l allweddol i Undod, yn benodol. Mewn <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2026\/04\/19\/pam-reform-cipolwg-or-cymoedd\/\">erthygl graff<\/a>, empathig ar y blog hwn, disgrifia Catrin Ashton yr hyn sy\u2019n denu nifer o bleidleiswyr y Cymoedd at Reform. O ran y pwyntiau mae hi\u2019n eu crybwyll, gallai darllenwyr y blog hwn \u2013 yn arbennig y sawl sydd wedi eu gwreiddio o fewn eu cymunedau \u2013 gychwyn sianeli newydd o drafodaethau trwy Undod (mewn cydweithrediad gyda\u2019r undebau) er mwyn rhoi pwysau ychwanegol ar wleidyddion i ddefnyddio polis\u00efau datganoledig neu flaenoriaethau ymgyrchoedd San Steffan sy\u2019n unioni anghyfiawnderau yn erbyn grwpiau galwedigaethol\/ dosbarth gweithiol penodol yn eu hardal megis cyn-lowyr a chyn-filwyr, yn ogystal \u00e2\u2019r rhai hynny sy\u2019n ymwneud \u00e2 grwpiau sy\u2019n seiliedig ar hunaniaeth, a pholis\u00efau cyfanfydol.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, biliwnyddion adain Dde yw perchnogion y rhan fwyaf o\u2019r llwyfannau ar-lein yn ogystal \u00e2 llawer o\u2019r hen gyfryngau print a darlledu sy\u2019n boblogaidd yng Nghymru, a\u2019r rhain yw lladmeryddion gwleidyddiaeth Reform. Trefnwyd algorhyddmau i dargedu\u2019n benodol y ddemograffeg h\u0177n, heb addysg brifysgol, gyda\u2019u propaganda, ac ychwanega hwn at y broblem hir oes sydd gennym yng Nghymru o gyfryngau Cymreig sy\u2019n dioddef o ddiffyg adnoddau.<\/p>\n<p>Mewn amgylchedd o\u2019r fath sut all yr etholaeth gael gafael ar wirionedd yr hyn y mae pob plaid yn ei addo? I ddychwelyd at y pwyntiau a wnaed gan Catrin yn ei herthygl a\u2019u defnyddio\u2019n enghreifftiau, pa mor amlwg oedd hi yng Nghymru yn 2024 nad Reform oedd yr unig blaid i fynnu yn eu maniffesto bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dychwelyd yr arian oedd yn ddyledus i\u2019r glowyr yn scandal eu pensiwn (nes i\u2019r llywodraeth ddatrys y sefyllfa yn hwyrach y flwyddyn honno)? R\u00f4l bwysig y mai ymgyrchwyr sy\u2019n gysylltiedig ag Undod yn barod yn ei wneud yn eu cymunedau yw ymateb i gam-wybodaeth a diffyg gwybodaeth ar fforymau lleol, pa un ai ydy hyn ar Facebook a grwpiau WhatsApp neu mewn cyfarfodydd cymunedol. Gellir gwneud mwy o\u2019r math hyn o waith.<\/p>\n<p>Gan ddefnyddio erthygl Catrin i ddangos nad oes yn rhaid i ni wneud hwn mewn ffordd \u2018ysgol feistres\u2019 y Chwith Ryddfrydol &#8211; gwawdlun nodweddiadol gan y Dde &#8211; nid cwestiwn yw hwn o hyrwyddo polis\u00efau\u2019r pleidiau blaengar o faniffesto Seneddol 2026 ynghylch perchnogaeth gymunedol o ynni gwyrdd a chynigion ynghylch sut i wella tomennu glo, gwaredu ar PFA ac ailddefnyddio\u2019r d\u0175r cynnes sydd wedi llenwi\u2019r pyllau glo i\u2019w defnyddio\u2019n ynni rhad i bobl leol. Gallwn yn hytrach osod y syniadau hyn ger bron y cymunedau hynny sydd, yng nghyd -destun y Cymoedd, fel noda Catrin, yn wybodus ynghylch systemau ynni a\u2019r tir oddi tanynt. Ar ben hynny, yn hytrach na gwarthnodi cefnogwyr Reform yn ffiaidd neu\u2019n dwp, gallwn fuddio drwy anelu ein dicter at bleidiau\u2019r Dde Eithafol, y cyfryngau a\u2019r sawl sy\u2019n eu noddi am dwyllo pobl h\u0177n ein cymunedau yn benodol.<\/p>\n<figure id=\"attachment_1579\" aria-describedby=\"caption-attachment-1579\" style=\"width: 300px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-1579\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Harlech_College_and_castle-300x215.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"215\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Harlech_College_and_castle-300x215.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Harlech_College_and_castle.jpg 640w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1579\" class=\"wp-caption-text\">Peter Humphreys \/ Coleg Harlech &#8211; Ymgorfforiad Addysg i&#8217;r Werin yn yr 20fed ganrif<\/figcaption><\/figure>\n<p><strong>Nerth mewn niferoedd: sut y gall ymgyrchoedd o fudd i&#8217;r 99% sefyll ochr yn ochr gyda&#8217;r rhai sy&#8217;n dyrchafu menywod a lleiafrifoedd<\/strong><\/p>\n<p>Wrth gwrs, nid yw dehongliadau o gymdeithas ar seiliau cyffredinol, hunaniaeth a dosbarth yn gategor\u00efau taclus ar wah\u00e2n, er cymaint y mae pobl fel Farage yn ceisio eu gosod mewn gwrthwynebiad i\u2019w gilydd.<\/p>\n<p>Un o&#8217;m cynigion yn 2018 oedd &#8216;Yn hytrach na&#8217;u hyrwyddo ar wahan, mae angen i bleidiau blaengar a mudiadau ymgyrchu cyffredinol cysylltu [er enghraifft] hawliau menywod a thrawsrywiol dro ar \u00f4l tro gydag egwyddorion cyffredinol cydraddoldeb a rhyddid; a hyrwyddo darpariaeth ychwanegol ar gyfer grwpiau gorthrymedig\/penodol <em>yn benodol ar y cyd<\/em> ag amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus cyffredinol yn erbyn toriadau dyfnach byth. Mae angen ailadrodd dro ar \u00f4l tro y manteision pendant <em>i\u2019r mwyafrif,<\/em> o ofal plant a gofal cymdeithasol am ddim, o fewnfudo, a pheidio \u00e2 chymryd rhan mewn rhyfeloedd hiliol, neo-ymerodrol.&#8217;<\/p>\n<p>Nid cwestiwn o &#8216;negesu&#8217; yn unig yw cyflwyno polis\u00efau &#8216;cyffredinol&#8217; a &#8216;phenodol&#8217; fel gludwaith, yn hytrach na gwneud mewn seilos; i\u2019r gwrthwyneb, mae rhywbeth moesegol cynhenid \u200b\u200b\u200b\u200bam y symbiosis hwn.<\/p>\n<p>Yn gyntaf, mae&#8217;n helpu ategu mai dim ond adeiladwaith yw &#8216;mwyafrifoedd&#8217; a &#8216;lleiafrifoedd&#8217; sy&#8217;n manteisio rhai ac yn anfanteisio eraill &#8211; er eu bod wedi&#8217;u gwreiddio&#8217;n ddwfn. Rydym oll yn groesiadau: nid yn unig y mae&#8217;r mwyafrif ohonom yn profi effeithiau anghydraddoldeb economaidd, ond mae&#8217;r mwyafrif ohonom yn perthyn i o leiaf un gr\u0175p arall sydd wedi&#8217;i wthio i&#8217;r ymylon mewn rhai cyd-destunau.<\/p>\n<p>Yn ail, wrth greu model o\u2019r newydd ar gyfer mwyafrifiaeth &#8211; un sy&#8217;n <em>fontage<\/em> o undod mewn amrywiaeth &#8211; mae pawb sy&#8217;n rhan ohono yn teimlo bod ei lwyddiant yn gysylltiedig gyda\u2019u buddion nhw, ac y gellir gweithio tuag ato ar y cyd, a thrwy gryfder niferoedd, fel rhywbeth sy\u2019 bia ni gyda. Pob un yn dyrchafu&#8217;r llall. Mae&#8217;r Gwyrddion yn arbennig o gryf o ran yr ymwybyddiaeth gwmpasog hon o frwydrau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;i gilydd mewn ecoleg ehangach, fel y mae <a href=\"https:\/\/voice.cymru\/independent-socialist-republican-are-the-greens-about-to-seriously-shake-up-welsh-politics\/\">geiriau<\/a> Anthony Slaughter yn Voice.Cymru yn amlygu: &#8216;nad oes cyfiawnder hinsawdd heb gyfiawnder cymdeithasol, heb gyfiawnder economaidd, heb gyfiawnder hiliol. Maent i gyd yn gysylltiedig \u00e2&#8217;i gilydd&#8217;.<\/p>\n<p>Mae hyn oll yn helpu herio&#8217;r syniadau camarweiniol bod &#8216;gwleidyddiaeth hunaniaeth&#8217; yn gynhenid \u200b\u200b\u200b\u200bunigolyddol, yn gystadleuol, yn sinigaidd, wedi&#8217;i rhannu&#8217;n flychau bach i dicio\u2019n ddienaid, a lleiafrifoedd yn rhyw fath o elit anghysbell sy&#8217;n derbyn &#8216;triniaeth neilltuol&#8217;.<\/p>\n<p>Er bod cyd-destunau lle mae angen eu gofodau pwrpasol a&#8217;u llwyfannau unigryw ar grwpiau penodol, gall sefyll ochr yn ochr a\u2019i gilydd mewn ystyr trosiadol, a chyfleu eu brwydrau a&#8217;u hanghenion fel rhan o ddarlun gwmpasog yn y gyhoeddfa ehangach helpu amddiffyn menywod a lleiafrifoedd: pan fydd eu hachosion yn derbyn sylw mewn ffordd ynysig, maent yn aml yn fwy agored i ymosodiadau, ac yn fwy tebygol o gael eu cyflwyno fel yr &#8216;arall&#8217;.\u00a0 Yn y modd hwn, yn anfwriadol, y gellir gwadu eu dynoliaeth.<\/p>\n<p>Ceir ym maniffesto Plaid ymdrechion ymwybodol, ymddengys, i blethu eu haddewidion i fenywod a lleiafrifoedd \u00e2 mesurau mwy cyffredinol i bawb. Mae ei hadran cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb yn pwysleisio &#8216;cymunedau unedig&#8217; a rhai penodol, cyfiawnder economaidd a gwaith teg, yn ogystal \u00e2 lleiafrifoedd, ac mae ei Deddf Hawliau Dynol i Gymru yn <em>gollage<\/em> o hawliau cyffredinol a phenodol. Mae&#8217;r Gwyrddion yn arddel ymagwedd debyg, er yn pwysleisio ymyriadau ychydig yn fwy radical i rymuso grwpiau penodol.<\/p>\n<p><strong>Sut i gyfleu bod gan bawb hawl i ymdeimlad o falchder a hunanwerth?<\/strong><\/p>\n<p>Pwysleisiodd rhan arall o&#8217;r llith olygyddol yn 2018 sut y gellir \u2018hawlio n\u00f4l rhinweddau fel rhyddid, rhesymoldeb a balchder oddi wrth y Dde. Gellir dangos y gall unrhyw un deimlo&#8217;n falch o&#8217;u diwylliant, hyd yn oed dynion gwyn, gwahanrywiol\u2019. Awgrymodd \u2018harneisio\u2019 dimensiynau mwyaf \u2018creadigol\u2019 gwleidyddiaeth rhywedd i bawb: \u2018y rhyddid i ail-ddychmygu&#8217;ch hun, i deimlo&#8217;n llai dieithr o&#8217;r hunan y mae&#8217;n rhaid i chi ei gyflwyno i&#8217;r byd bob bore\u2019. Galwodd am gymryd ysbrydoliaeth o&#8217;r hyrwyddo diweddar o hanes menywod a lleiafrifoedd Cymru i \u2018helpu i ailgynnau diddordeb yn hanes pobl yn fwy cyffredinol\u2019 fel adnodd ar gyfer gwrthsefyll.<\/p>\n<p>Ymhellach, pa ffordd fwy effeithiol o ymladd yn erbyn camwybodaeth yr Asgell Dde Eithafol na chynnal ac adfywio traddodiadau balch Cymru a sefydliadau hunan-ddysg ar gyfer y dosbarth gweithiol, siaradwyr Cymraeg a menywod? Gallai hyn fod yn r\u00f4l hanfodol arall i Undod, er enghraifft.<\/p>\n<p>Er gwaetha\u2019r ymwybyddiaeth o&#8217;r ffaith bod Cymru wedi&#8217;i rhwydo oddi fewn i arferion gormesol ledled y byd, &#8216;dylid meithrin o hyd yr ymdeimlad torfol o falchder a pherchnogaeth ynghylch perthyn i ddiwylliant a allai unwaith eto cael ei nodweddi gan undod \u00e2&#8217;r rhai sy&#8217;n cael eu gorthrymu.&#8217; Mae Plaid yn mynegi hyn yn benodol, gyda&#8217;u cyfeiriadau at draddodiadau radical Cymru o &#8216;undod&#8217; a &#8216;chwarae teg&#8217;, a&#8217;u galwad bod hanes, celfyddydau a diwylliant Cymru yn rhannau craidd o gwricwlwm yr ysgol. Mae&#8217;r Gwyrddion, er enghraifft, yn galw am \u0175yl banc Dydd G\u0175yl Dewi. (Fodd bynnag, fel y mae Adam Johannes wedi <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/adam.johannes.75\">dadlau<\/a> ar Facebook, mewn sylw o Ebrill 10fed, nid yw&#8217;r maniffestos yn mynd yn ddigon pell wrth gynnig mesurau rhyngwladol, gwrth-imperialaidd y gellid eu gweithredu hyd yn oed o dan y setliad datganoli presennol).<\/p>\n<p>Dylai gwleidyddion ac ymgyrchwyr asgell chwith geisio osgoi siarad am ddemograffeg benodol (fel menywod a dynion) fel rhai sy&#8217;n gynhenid \u200b\u200buwchraddol\/blaengar neu israddol\/adweithiol, hyd yn oed wrth gellwair neu oherwydd dicter yn sgil camdriniaeth rhagfarnllyd. Awgrymaf ei bod yn llawer mwy adeiladol mynegi sut mae problemau&#8217;n gynhenid \u200b\u200bi strwythurau fel patriarchaeth, cyfalafiaeth ac imperialaeth, sy&#8217;n effeithio ar rai grwpiau yn llawer gwaeth nag eraill, ond sydd fel arfer yn ddrwg i bawb mewn un ffordd neu&#8217;r llall.<\/p>\n<p>Fel y dywedais yn 2018, &#8216;ni ddylai gwleidyddiaeth flaengar yn y pen draw fod am ymostwng i hanfodion, ond am werthoedd trawsnewidiol y gall unrhyw un eu mabwysiadu&#8217;. Yn ei hanfod, dylai bod ar y Chwith parhau\u2019n fater o fod yn caru\u2019r ddynoliaeth gyfan, er ei fod yn ddyneiddiaeth bengaled, fydol-ddoeth, nad yw&#8217;n tanbrisio pa mor enfawr o frwydr fydd hi i sicrhau hyd yn oed enillion cymedrol yn erbyn rhagfarn ac anghydraddoldeb.<\/p>\n<p>Gyda&#8217;r chwith bellach yn ystrydeb o\u2019r pedant surbwch ar ei flwch sebon yn chwifio\u2019i fys, mae weithiau&#8217;n fuddiol i&#8217;r rhai y tu allan y swigen gweld ymgyrchwyr sosialaidd a gwleidyddion yn cyfaddef eu methiannau, newid meddwl, neu\u2019n chwerthin ar ben eu hunain.<\/p>\n<p><strong>(Gwrth-)gasgliad<\/strong><\/p>\n<p>Fodd bynnag, wedi rhefru rhyw ychydig yma yngl\u0177n \u00e2 sut i gyfathrebu \u00e2 chyd-ddinasyddion, byddwn hefyd yn arddel yr olaf o Chwe Rheol Orwell ar gyfer Ysgrifennu: &#8216;Torrwch unrhyw un o&#8217;r rheolau hyn cyn dweud unrhyw beth gwbl anwaraidd&#8217;. Ar wah\u00e2n i lleferydd casineb diamheuol tuag at nodweddion gwarchodedig, siawns na ddylai fod rheolau cysygredig yngl\u0177n \u00e2 sut y dylem ymwneud \u00e2&#8217;n gilydd. Mae\u2019r hunaniaeth ddynol a chreadigrwydd yn rhy ddiderfyn, yn rhy ddadleuol ac yn anrhaethol ar gyfer hynny. Mae&#8217;r bygythiadau a&#8217;r posibiliadau sy&#8217;n ein hwynebu yn esblygu&#8217;n rhy gyflym i ni ymateb dim ond trwy orchmynion a bennwyd ymlaen llaw neu gynlluniau pum mlynedd sefydliadol\u2026 Nid oes modd llunio fframweithiau rheoleiddio i\u2019r enaid seciwlar fel y byddai rhywun yn rheoli safonau ansawdd d\u0175r. Awgrymiadau yn unig yw fy nadleuon fan hyn. Er ei bod yn hanfodol bod maniffestos pleidiau asgell chwith yn mynd i&#8217;r afael \u00e2 materion anghydraddoldeb, yn y pen draw, bydd &#8216;undod mewn amrywiaeth&#8217; yn gofyn am rywbeth mwy na&#8217;r hyn y gellir ei gwmpasu mewn pwyntiau bwled: saernio ymwybyddiaeth ehangach, mwy empathig trwy&#8217;r annibendod bob dydd o siarad, byw a bod a gweithio gyda&#8217;n gilydd, a brwydro dros ein dyheadau cyffredin.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma ran olaf erthygl teiran golygydd Planet, Emily Trahair, a hithau&#8217;n cynnig ffordd ymlaen i&#8217;r Chwith Cymreig. I&#8217;w werthfawrogi&#8217;n llawn, darllenwch rhan un a dau.\u00a0 Petai chi\u2019n darllen maniffesto Seneddol &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Cam-bortreadu\u2019r Chwith Cymreig \u2013 a chynigion ynghylch sut i ymateb&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":47,"featured_media":1560,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1578","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cam-bortreadu\u2019r Chwith Cymreig \u2013 a chynigion ynghylch sut i ymateb - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cam-bortreadu\u2019r Chwith Cymreig \u2013 a chynigion ynghylch sut i ymateb - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dyma ran olaf erthygl teiran golygydd Planet, Emily Trahair, a hithau&#8217;n cynnig ffordd ymlaen i&#8217;r Chwith Cymreig. I&#8217;w werthfawrogi&#8217;n llawn, darllenwch rhan un a dau.\u00a0 Petai chi\u2019n darllen maniffesto Seneddol &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Cam-bortreadu\u2019r Chwith Cymreig \u2013 a chynigion ynghylch sut i ymateb&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-05-03T10:28:40+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-05-03T10:34:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/2022_Planet50th_Fan.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"359\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Emily Trahair\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Emily Trahair\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"15 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/\"},\"author\":{\"name\":\"Emily Trahair\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9fbc5fd524eae4f353f8d3d770686403\"},\"headline\":\"Cam-bortreadu\u2019r Chwith Cymreig \u2013 a chynigion ynghylch sut i ymateb\",\"datePublished\":\"2026-05-03T10:28:40+00:00\",\"dateModified\":\"2026-05-03T10:34:00+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/\"},\"wordCount\":5207,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/2022_Planet50th_Fan.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/\",\"name\":\"Cam-bortreadu\u2019r Chwith Cymreig \u2013 a chynigion ynghylch sut i ymateb - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/2022_Planet50th_Fan.jpg\",\"datePublished\":\"2026-05-03T10:28:40+00:00\",\"dateModified\":\"2026-05-03T10:34:00+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/2022_Planet50th_Fan.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/2022_Planet50th_Fan.jpg\",\"width\":1000,\"height\":359},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cam-bortreadu\u2019r Chwith Cymreig \u2013 a chynigion ynghylch sut i ymateb\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9fbc5fd524eae4f353f8d3d770686403\",\"name\":\"Emily Trahair\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9bb0fdf3af9ad30fba2ed501b41646bb61da397df058cc8a02cb7627c6b41951?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9bb0fdf3af9ad30fba2ed501b41646bb61da397df058cc8a02cb7627c6b41951?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9bb0fdf3af9ad30fba2ed501b41646bb61da397df058cc8a02cb7627c6b41951?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Emily Trahair\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/emilytrahair\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cam-bortreadu\u2019r Chwith Cymreig \u2013 a chynigion ynghylch sut i ymateb - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Cam-bortreadu\u2019r Chwith Cymreig \u2013 a chynigion ynghylch sut i ymateb - undod","og_description":"Dyma ran olaf erthygl teiran golygydd Planet, Emily Trahair, a hithau&#8217;n cynnig ffordd ymlaen i&#8217;r Chwith Cymreig. I&#8217;w werthfawrogi&#8217;n llawn, darllenwch rhan un a dau.\u00a0 Petai chi\u2019n darllen maniffesto Seneddol &hellip; Parhau i ddarllen \"Cam-bortreadu\u2019r Chwith Cymreig \u2013 a chynigion ynghylch sut i ymateb\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2026-05-03T10:28:40+00:00","article_modified_time":"2026-05-03T10:34:00+00:00","og_image":[{"width":1000,"height":359,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/2022_Planet50th_Fan.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Emily Trahair","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Emily Trahair","Est. reading time":"15 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/"},"author":{"name":"Emily Trahair","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9fbc5fd524eae4f353f8d3d770686403"},"headline":"Cam-bortreadu\u2019r Chwith Cymreig \u2013 a chynigion ynghylch sut i ymateb","datePublished":"2026-05-03T10:28:40+00:00","dateModified":"2026-05-03T10:34:00+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/"},"wordCount":5207,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/2022_Planet50th_Fan.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/","name":"Cam-bortreadu\u2019r Chwith Cymreig \u2013 a chynigion ynghylch sut i ymateb - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/2022_Planet50th_Fan.jpg","datePublished":"2026-05-03T10:28:40+00:00","dateModified":"2026-05-03T10:34:00+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/2022_Planet50th_Fan.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/2022_Planet50th_Fan.jpg","width":1000,"height":359},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/03\/cam-bortreadur-chwith-cymreig-a-chynigion-ynghylch-sut-i-ymateb\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cam-bortreadu\u2019r Chwith Cymreig \u2013 a chynigion ynghylch sut i ymateb"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9fbc5fd524eae4f353f8d3d770686403","name":"Emily Trahair","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9bb0fdf3af9ad30fba2ed501b41646bb61da397df058cc8a02cb7627c6b41951?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9bb0fdf3af9ad30fba2ed501b41646bb61da397df058cc8a02cb7627c6b41951?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9bb0fdf3af9ad30fba2ed501b41646bb61da397df058cc8a02cb7627c6b41951?s=96&d=mm&r=g","caption":"Emily Trahair"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/emilytrahair\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1578","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/47"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1578"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1578\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1583,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1578\/revisions\/1583"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1560"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1578"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1578"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1578"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}