{"id":1596,"date":"2026-05-04T23:12:49","date_gmt":"2026-05-04T22:12:49","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1596"},"modified":"2026-05-05T01:31:24","modified_gmt":"2026-05-05T00:31:24","slug":"rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/","title":{"rendered":"&#8221;Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni&#8221; &#8211; Rhai o&#8217;r Rhestrau: Beca Brown"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h5>Yn ein gwibdaith o gwmpas Cymru i siarad gydag ambell ymgeisydd, trown am y gogledd eto y tro hwn, i gwrdd gyda Beca Brown.<\/h5>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-1597 aligncenter\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-1-211x300.jpg\" alt=\"\" width=\"211\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-1-211x300.jpg 211w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-1-719x1024.jpg 719w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-1-768x1093.jpg 768w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-1-1079x1536.jpg 1079w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-1.jpg 1128w\" sizes=\"auto, (max-width: 211px) 100vw, 211px\" \/><\/p>\n<blockquote>\n<p style=\"text-align: center;\">&#8220;Roedd gweithio fel cynhyrchydd yn gyfnod dylanwadol gan ofyn meithrin perthynas efo pobl o bob math ac ennill eu hymddiriedaeth<span style=\"font-weight: 400;\">. Dysgais rhoi llais i&#8217;r rhai a oedd yn aml yn teimlo wedi eu hanghofio.&#8221;<\/span><\/p>\n<\/blockquote>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\"><strong>U:<\/strong> Ble rydych chi&#8217;n sefyll a beth mae&#8217;r lle hwnnw&#8217;n ei olygu i chi, a sut mae&#8217;r etholaethau newydd yn cyflwyno her?<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\"><strong>BB:<\/strong> Dwi\u2019n ymgeisydd yn etholaeth anferth Gwynedd Maldwyn &#8211; ac yn falch iawn o hynny, gan fod llawer o\u2019i chymunedau wedi cynnig cyfleoedd a phrofiadau amhrisiadwy i mi. Ges i fy magu yn Ardudwy cyn symud i Arfon, a fel plentyn i rieni a fudodd yma o Loegr, bu\u2019r ardaloedd rheiny\u2019n gryn ddylanwad ar daith ein teulu ni tuag at Gymreictod a\u2019r Gymraeg.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Ydy, mae\u2019n etholaeth fawr. Ond un o bleserau mwyaf yr ymgyrch yma oedd gallu teithio ar hyd a lled yr ardal gan ailgynefino \u00e2 rhai ardaloedd, a dod i adnabod eraill am y tro cyntaf. Dwi\u2019n edrych ymlaen at yr her &#8211; a\u2019r fraint &#8211; o gael codi llais dros gymunedau mor arbennig, os byddaf yn ddigon ffodus i gael gwneud hynny.<\/span><\/p>\n<p><b>U:<\/b><span style=\"font-weight: 400;\"> Ym mha ffordd rydych chi wedi bod yn rhan o wleidyddiaeth &#8211; pleidiol neu fel arall &#8211; ac unrhyw gyflawniadau arbennig rydych chi&#8217;n falch ohonynt?<\/span><\/p>\n<p><b>BB:<\/b><span style=\"font-weight: 400;\"> Mae gwleidyddiaeth a chyfiawnder cymdeithasol wedi bod o ddiddordeb mawr imi ers canol fy arddegau. Mi wnes i ymuno efo Cymdeithas yr Iaith pan ro\u2019n i tua 15 oed, ble wnes i ddysgu am y mudiad iaith wrth gwrs, ond hefyd am y mudiad heddwch ac am heriau a brwydrau pobl a diwylliannau ar draws y byd.\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Pan roeddwn i ar fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol mi wnes i weithredu\u2019n uniongyrchol gyda\u2019r Gymdeithas fel rhan o\u2019u hymgyrch dros addysg Gymraeg. Mi wnes i a fy nghyfaill Olwen dreulio pythefnos dan glo o ganlyniad i hynny, ac roedd bod mewn carchar merched yn 21 oed yn agoriad llygad go iawn.\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn ystod y cyfnod yna sylweddolais pa mor erchyll o heriol ydi bywydau\u2019r rhai sydd ar waelod y doman gymdeithasol, a sut mae profiadau niweidiol cynnar yn gallu bwrw cysgod gydol oes dros ferched sydd wedi dioddef trawma a chamdriniaeth. Dwi\u2019n cyfri\u2019r bythefnos yna yng ngharchar Pucklechurch, Bryste, yn un sydd wedi ffurfio llawer o fy ngwerthoedd craidd o ran sut y dylem, fel pobl, ymdrin \u00e2\u2019n gilydd.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn naturiol roedd gofyn osgoi unrhyw weithgarwch pleidiol tra\u2019n gweithio fel newyddiadurwraig i\u2019r Western Mail ac yna i HTV Cymru, ond wedi hynny ymunais efo Plaid Cymru, a chael fy ethol yn gynghorydd sir bum mlynedd yn \u00f4l. Mae gwirfoddoli bob wythnos gyda\u2019r cynllun bwyd lleol wedi dod \u00e2\u2019r argyfwng costau byw yn fyw imi, ac mae\u2019n fy ngwylltio bod cyfraddau tlodi plant mor uchel yma yng Nghymru.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn ystod y pandemig wnes i fabwysiadu cyn-filgi rasio, a dod i ddysgu am erchyllterau creulon y diwydiant hwnnw. Arweiniodd hynny at fod yn ran o d\u00eem Achub Milgwn Cymru sydd wedi ymgyrchu\u2019n llwyddiannus dros wahardd rasio milgwn yng Nghymru.\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae gweld y diniwed a\u2019r bregus &#8211; waeth pwy neu beth ydyn nhw &#8211; yn cael eu hecsploetio er budd eraill, yn codi pwys arna\u2019i.\u00a0<\/span><\/p>\n<p><b>U:<\/b><span style=\"font-weight: 400;\"> Ble&#8217;r aethoch chi i&#8217;r ysgol? Unrhyw wersi bywyd rydych chi&#8217;n teimlo sy&#8217;n bwysig mewn gwleidyddiaeth?<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Ro\u2019n i\u2019n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Ardudwy ac yna yn Ysgol Syr Huw Owen, Caernarfon. Roedd ymgyrchu yn rhan bwysig o \u2018nghyfnod i yn yr ysgol uwchradd, a dwi\u2019n siwr \u2018mod i\u2019n dipyn o niwsans! Chwaraeais rhan flaenllaw yn yr ymgyrch lwyddiannus dros ennill yr hawl i ferched gael gwisgo trowsus i\u2019r ysgol, ac roedd gweld neu brofi anghyfiawnder yn dueddol o fy nhanio. Mae\u2019n bosib nad o\u2019n i\u2019n arbennig o dda am ddewis fy mrwydrau bryd hynny, ond dwi wedi gwella yn hynny o beth wrth fynd yn h\u0177n! Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni\u2026<\/span><\/p>\n<p><b>BB:<\/b><span style=\"font-weight: 400;\"> Beth am eich bywyd y tu allan i wleidyddiaeth, unrhyw brofiadau neu swyddi mawr sydd wedi&#8217;ch llunio? Profiadau\/mewnwelediad neu arbenigedd sydd o gymorth mawr ichi?<\/span><\/p>\n<p><b>U:<\/b><span style=\"font-weight: 400;\"> Roedd gweithio fel newyddiadurwraig ac yna fel cynhyrchydd rhaglenni dogfen yn gyfnod dylanwadol a phwysig, oherwydd bod gofyn meithrin perthynas efo pobl o bob math, ac ennill eu hymddiriedaeth. Dysgais i wrando, gwerthfawrogi a gweithredu, a rhoi llais i\u2019r rhai a oedd yn aml yn teimlo wedi eu hanghofio. Roedd llawer o\u2019r rhaglenni cynhyrchais i yn ymwneud \u00e2 materion fel tlodi, anabledd, iechyd a chyfiawnder cymdeithasol, ac ro\u2019n i\u2019n trio codi cwr y llen ar fywydau\u2019r bobl rheiny sydd yn aml yn anweledig.\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Roedd fy nghyfnod ar gabinet Cyngor Gwynedd yn un hynod o ffurfiannol, gan imi edrych ar \u00f4l y portffolio Addysg yn ystod amser digynsail o gythryblus ac anodd. Daeth fy nghyfnod ar y cabinet i ben yn gynt na\u2019r bwriad gan i mi a thri o \u2018nghyd-weithwyr gamu i lawr ar fater o egwyddor a oedd yn ymwneud ag achos y troseddwr rhyw, Neil Foden. Mi wnes i ddysgu pwy ydw i yn ystod y cyfnod yna.<\/span><\/p>\n<p><b>U:<\/b><span style=\"font-weight: 400;\"> Beth sydd bwysicaf am wleidyddiaeth yn eich barn chi, ac os cewch chi eich ethol beth fydd eich blaenoriaeth?<\/span><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-1598 aligncenter\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-2-300x224.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"224\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-2-300x224.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-2-1024x765.jpg 1024w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-2-768x574.jpg 768w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-2.jpg 1114w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p><b>BB: <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Petawn i\u2019n ddigon ffodus i gael fy ethol i\u2019r Senedd mi fyddwn i\u2019n mynd gyda mi yr holl hanesion, straeon a phrofiadau mae gwahanol bobl wedi eu rhannu gyda mi dros y blynyddoedd wrth imi gyflawni fy ngwahanol rolau. Merched Pucklechurch; hogia\u2019 Sgubor Goch; teuluoedd T\u0177 Gobaith, a phawb dwi wedi bod yn ddigon breintiedig i ddod ar eu traws nhw wrth fy ngwaith fel cynghorydd sir. Fy mlaenoriaeth fyddai ceisio creu newid go iawn, o sylwedd, i\u2019r bobl rheiny &#8211; ac i bawb sydd wedi aros mor hir am rywbeth gwell.<\/span><\/p>\n<p><b>U:<\/b><span style=\"font-weight: 400;\"> Fel ymgeisydd Plaid beth yw eich barn yn fras ar annibyniaeth i Gymru, sut y dylid mynd ati, sut mae&#8217;n ymwneud \u00e2 blaenoriaethau eraill ac ati?<\/span><\/p>\n<p><b>BB:<\/b><span style=\"font-weight: 400;\"> Mae annibyniaeth yn beth normal ar draws bedwar ban byd, ond mae\u2019n rhaid wrth hunan-hyder a hunan-gred i\u2019w gyrraedd. Helpu adeiladu\u2019r ffydd a\u2019r gobaith hwnnw ydi\u2019n gwaith ni fel gwleidyddion &#8211; ar y cyd gydag unrhywun sy\u2019n chwilfrydig am yr hyn all Cymru fod.<\/span><\/p>\n<p><b>U:<\/b><span style=\"font-weight: 400;\"> A phan nad ydych chi&#8217;n gwleidydda ble byddem ni\u2019n dod o hyd i chi, a beth byddech chi\u2019n debyg o fod yn gwneud?<\/span><\/p>\n<p><b>BB: <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Ar hyd llwybrau Llanrug yn cerdded y ci tra\u2019n gwrando ar bodlediad, neu yn mwydro efo \u2018mhlant, sef fy hoff bobl yn y byd i gyd.<\/span><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ein gwibdaith o gwmpas Cymru i siarad gydag ambell ymgeisydd, trown am y gogledd eto y tro hwn, i gwrdd gyda Beca Brown. &#8220;Roedd gweithio fel cynhyrchydd yn gyfnod &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;&#8221;Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni&#8221; &#8211; Rhai o&#8217;r Rhestrau: Beca Brown&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1602,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1596","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>&quot;Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni&quot; - Rhai o&#039;r Rhestrau: Beca Brown - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"&quot;Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni&quot; - Rhai o&#039;r Rhestrau: Beca Brown - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn ein gwibdaith o gwmpas Cymru i siarad gydag ambell ymgeisydd, trown am y gogledd eto y tro hwn, i gwrdd gyda Beca Brown. &#8220;Roedd gweithio fel cynhyrchydd yn gyfnod &hellip; Parhau i ddarllen &quot;&#8221;Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni&#8221; &#8211; Rhai o&#8217;r Rhestrau: Beca Brown&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-05-04T22:12:49+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-05-05T00:31:24+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-3.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1128\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"876\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Undod\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Undod\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/\"},\"author\":{\"name\":\"Undod\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e\"},\"headline\":\"&#8221;Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni&#8221; &#8211; Rhai o&#8217;r Rhestrau: Beca Brown\",\"datePublished\":\"2026-05-04T22:12:49+00:00\",\"dateModified\":\"2026-05-05T00:31:24+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/\"},\"wordCount\":2258,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-3.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/\",\"name\":\"\\\"Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni\\\" - Rhai o'r Rhestrau: Beca Brown - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-3.jpg\",\"datePublished\":\"2026-05-04T22:12:49+00:00\",\"dateModified\":\"2026-05-05T00:31:24+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-3.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-3.jpg\",\"width\":1128,\"height\":876},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"&#8220;Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni&#8221; &#8211; Rhai o&#8217;r Rhestrau: Beca Brown\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e\",\"name\":\"Undod\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Undod\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/undod\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"\"Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni\" - Rhai o'r Rhestrau: Beca Brown - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"\"Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni\" - Rhai o'r Rhestrau: Beca Brown - undod","og_description":"Yn ein gwibdaith o gwmpas Cymru i siarad gydag ambell ymgeisydd, trown am y gogledd eto y tro hwn, i gwrdd gyda Beca Brown. &#8220;Roedd gweithio fel cynhyrchydd yn gyfnod &hellip; Parhau i ddarllen \"&#8221;Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni&#8221; &#8211; Rhai o&#8217;r Rhestrau: Beca Brown\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2026-05-04T22:12:49+00:00","article_modified_time":"2026-05-05T00:31:24+00:00","og_image":[{"width":1128,"height":876,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-3.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Undod","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Undod","Est. reading time":"7 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/"},"author":{"name":"Undod","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e"},"headline":"&#8221;Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni&#8221; &#8211; Rhai o&#8217;r Rhestrau: Beca Brown","datePublished":"2026-05-04T22:12:49+00:00","dateModified":"2026-05-05T00:31:24+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/"},"wordCount":2258,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-3.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/","name":"\"Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni\" - Rhai o'r Rhestrau: Beca Brown - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-3.jpg","datePublished":"2026-05-04T22:12:49+00:00","dateModified":"2026-05-05T00:31:24+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-3.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Beca-3.jpg","width":1128,"height":876},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/04\/rhaid-blaenoriaethu-os-am-gyflawni-rhai-or-rhestrau-beca-brown\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"&#8220;Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni&#8221; &#8211; Rhai o&#8217;r Rhestrau: Beca Brown"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e","name":"Undod","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g","caption":"Undod"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/undod\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1596","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1596"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1596\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1609,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1596\/revisions\/1609"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1602"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1596"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1596"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1596"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}