{"id":1632,"date":"2026-05-07T14:48:04","date_gmt":"2026-05-07T13:48:04","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1632"},"modified":"2026-05-07T14:48:34","modified_gmt":"2026-05-07T13:48:34","slug":"wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Wynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h5><em>Wrth inni aros am ganlyniadau&#8217;r etholiad, mae Greg Davies yn ystyried y posibiliad o newid go iawn mewn un gweithgaredd economaidd sydd wedi bod a&#8217;i grafangau&#8217;n gynyddol o gwmpas Cymru yn oes datganoli.<\/em><\/h5>\n<p>Cyflwyna\u2019r etholiadau seneddol gyfle hanesyddol i herio <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2021\/02\/22\/militariaeth-yng-nghymru\/\">militariaeth Brydeinig<\/a> yng Nghymru. Dan stiwardiaeth y Deyrnas Unedig a\u2019r llywodraethau datganoledig, mae Cymru wedi datblygu rhwydwaith ddwys o filitariaeth wladwriaethol, gwneuthurwyr arfau a chwmn\u00efau seibr-ddiogelwch. Yn \u00f4l <a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/new-group-bring-together-organisations-wales-growing-defence-sector\">Llywodraeth Cymru<\/a> mae gan y diwydiant hwn drosiant gwerthu o \u00a33.7 biliwn ac mae\u2019n cyfrannu rhyw \u00a31.5 biliwn Gwerth Ychwanegol Gros i\u2019r economi Gymreig. Mae\u2019n amgynnwys tua 285 cwmni, yn eu mysg rhai o gwmn\u00efau arfau mwyaf y byd, ac o leiaf 16,000 o swyddi.<\/p>\n<p>Dros y tri degawd diwethaf, chwaraeodd llywodraeth Llafur Cymru ran bwysig yn y datblygiadau hyn. Cyn i\u2019r Senedd gael y p\u0175er i ddeddfwriaethu\u2019n ar liwt ei hyn hyd yn oed, roedd gweinyddiaeth Rhodri Morgan yn gwario <a href=\"https:\/\/www.researchgate.net\/publication\/248935885_Knowledge_for_what_Wales_militarisation_and_the_endless_promotion_of_the_knowledge_economy\">miliynau<\/a> er mwyn mynd ar drywydd cytundebau gwerth biliynau o bunnoedd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Ymddengys mai nod datganoli Cymreig oedd meithrin y diwydiant amddiffyn a medi\u2019r ffrwyth.<\/p>\n<p>Dim ond coethi\u2019r brwdfrydedd wnaeth y blynyddoedd rhwng y cyfnod hwnnw a\u2019r presennol. Er nad yw amddiffyn wedi ei ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei bwerau \u2018datblygiad economaidd\u2019 i gynnal ymgais y diwydiant arfau i ennill ei blwyf yng Nghymru, fel y cofnodwyd gan <a href=\"https:\/\/cymru.global\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Wales-as-a-Nation-of-Peace-report-AHC1.pdf\">Academi Heddwch<\/a>.<\/p>\n<p>Ers dros ddeng mlynedd, mynychwyd un o ffeiri arfau mwyaf a gwaetha\u2019r byd, Defence and Security Equipment International, gan Lywodraeth Cymru mewn ymgais i fuddsoddi ymhellach, gan wario <a href=\"https:\/\/nation.cymru\/news\/welsh-government-spends-hundreds-of-thousand-of-pounds-attending-arms-fairs\/\">cannoedd o filoedd o bunnoedd<\/a> yn y broses. Y mae wedi gwobrwyo miloedd mewn grantiau datblygu i gwmn\u00efau arfau mawr, megis RTX \/ Raytheon, Thales ac Airbus (er nid ar gyfer creu arfau).<\/p>\n<p>Y mae\u2019n parhau i gydweithio\u2019n frwdfrydig gyda metrau\u2019r Weinyddiaeth Amddiffyn, gan gynnwys cynlluniau cyfredol i <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/news\/wales-becomes-uk-launchpad-for-next-generation-autonomous-technology\">gynyddu cynhyrchiant dronau<\/a> yng Nghymru. Fel y dadleuwyd ers hir oed gan <a href=\"https:\/\/www.forceswatch.net\/wp-content\/uploads\/Recruitment-of-children-to-the-military-in-Welsh-schools-FINAL.pdf\">Gymdeithas y Cymod ac eraill<\/a>, y mae wedi bod yn frwd a hyderus ynghylch hyrwyddo militariaeth a recriwtio i\u2019r lluoedd arfog o fewn ysgolion Cymru. Yn y cyfamser, ni ddywedodd lawer o ddim yn erbyn <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/education\/2025\/oct\/08\/uk-universities-offered-to-monitor-student-social-media-for-arms-firms-emails-show\">gwyliadwraeth y protestiadau<\/a> yn erbyn gwneuthurwyr arfau mewn prifysgolion Cymreig.<\/p>\n<p><strong>Y Cymhleth Milwrol-Diwydiannol Cymreig?<\/strong><\/p>\n<p>Daw arwyddion clir gan Lafur Cymru mai ehangu y dylai\u2019r diwydiant arfau ei wneud. Hoffai i ragor o gwmn\u00efau fuddsoddi yng Nghymru, a hoffai bod buddion y cynnydd mewn gwariant milwrol yn crynhoi mewn mwy o fentrau bach a chanolig. Drwy gyfuno aristocratiaeth Llafur gydag ansicrwydd y <em>petit-bourgeois<\/em> mae\u2019n weledigaeth lle mae\u2019n fwyfwy anodd gwahanu diogelwch economaidd boblogaeth Cymru oddi wrth ffolineb, rhyfeloedd a dinistr dramor Prydain.<\/p>\n<figure id=\"attachment_1633\" aria-describedby=\"caption-attachment-1633\" style=\"width: 300px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-1633\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Arfau-2-300x201.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"201\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Arfau-2-300x201.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Arfau-2-768x514.jpg 768w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Arfau-2.jpg 1000w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1633\" class=\"wp-caption-text\">&#8216;Cytundeb Cynnydd Amddiffyn Cymru&#8217; Llywodraeth Cymru &#8211; Gweinyddiaeth yr Amddiffyn<\/figcaption><\/figure>\n<p>Mae gweinidogion Llafur Cymru\u2019n cysuro eu hunain gyda\u2019r syniad nad ydynt yn ariannu cynhyrchiant arfau\u2019n uniongyrchol. Er bod hyn yn wir, amddiffyniad egwan ydyw o ystyried difrifoldeb y cyhuddiadau yn erbyn y cwmn\u00efau a fuddiodd o gefnogaeth Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Mae Thales, er enghraifft \u2013 cwmni y mae gan lywodraeth Cymru bartneriaeth gwerth miliynau o bunnoedd ag ef &#8211; wedi\u2019u cyhuddo o <a href=\"https:\/\/caat.org.uk\/news\/caat-calls-for-an-investigation-into-continuous-export-of-drone-components-to-israel-since-uks-2024-partial-arms-suspension\/\">elwa\u2019n uniongyrchol<\/a> o werthu arfau ac offer i Israel yn ystod ymosodiadau\u2019r hil-laddiad yn Gasa. Mae deiliaid grantiau eraill llywodraeth Cymru, megis <a href=\"https:\/\/caat.org.uk\/data\/companies\/airbus-group-eads\/\">Airbus<\/a> a <a href=\"https:\/\/caat.org.uk\/data\/companies\/rtx\/\">Raytheon \/ RTX<\/a>, wedi\u2019u cysylltu\u2019n uniongyrchol ag erchyllterau Sawdi a\u2019r Emiradau Arabaidd Unedig yn Yemen.<\/p>\n<p>Pa bynnag mor rhadlon ymddengys yr ymdrech ar dir Cymru, mae partneriaethau\u2019r llywodraeth gyda chwmn\u00efau o\u2019r fath yn hwyluso ymgais y cwmn\u00efau hyn i geisio cuddio\u2019u henwau drwg. Mae\u2019r parterniaethau\u2019n awgrymu bod y cwmn\u00efau hyn yn haeddu cefnogaeth foesol ac ariannol llywodraeth Cymru a etholwyd yn ddemocrataidd gan y bobl, beth bynnag eu camweddau mewn mannau eraill. Nid yw <a href=\"https:\/\/voice.cymru\/how-taxpayer-funded-forests-in-mid-wales-inflate-carbon-targets-before-being-logged-for-profit-2\/\">\u2018gwasanaethau gwyngalchu\u2019<\/a> Cymru Ddatganoledig dros gyfalaf byd-eang wedi ei gyfyngu at gwmn\u00efau arfau\u2019n unig, yn anffodus.<\/p>\n<p>Mae\u2019r awydd i ddatblygu\u2019r diwydiant amddiffyn, er nad oes cyfrifoldeb ffurfiol gan Gymru dros amddiffyn, yn nodweddiadol o\u2019r \u2018Welsh Way\u2019. Wyneb yn wyneb \u00e2 heriau strwythurol safle economaidd <a href=\"https:\/\/orca.cardiff.ac.uk\/id\/eprint\/171588\/1\/2024parrysiphd.pdf\">lled-ymylol<\/a> Cymru, mae\u2019r sefydliadau llywodraethol wedi seilio\u2019u ffydd ar fuddsoddiad uniongyrchol o dramor er mwyn gwella tynged \u00f4l-ddiwydiannol y wlad. Mae graddfa aruthrol y cyfalaf a&#8217;r adnoddau sydd ar gael i gwmn\u00efau amddiffyn byd-eang yn eu gwneud yn darged arbennig o ddeniadol ar gyfer yr ymdrechion hyn.<\/p>\n<p><strong>Gwaed ar ein Dwylo<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r ffordd y mae Cymru ddatganoledig wedi cofleidio militariaeth hefyd yn seiliedig ar gyfres o dybiaethau amheus. Yn union yn yr un modd a\u2019i mam-blaid, Llafur y Deyrnas Unedig, golwg anfeirniadol o\u2019r diwydiant amddiffyn sydd gan Lafur Cymru wrth iddi ei ystyried yn ddiwydiant sy\u2019n gweithredu er gwell gartref a thramor, a rhywbeth sy\u2019n greiddiol i ddiogelwch cenedlaethol a ffyniant economaidd.<\/p>\n<p>Eto fyth, cred y gall ddewis a dethol pa elfennau o\u2019r diwydiant i feithrin yng Nghymru ac felly cyfyngu ar gysylltiad \u00e2 <a href=\"https:\/\/caat.org.uk\/data\/companies\/rtx\/\">\u2018diwedd eithaf gwaedlyd yr holl fusnes\u2019<\/a>. Mae gweinidogion Cymreig hefyd yn credu\u2019n ddi-gwestiwn yn uniondeb eu prosesau gwirio ar gyfer grantiau\u2019r llywodraeth.<\/p>\n<p>Mae pob un o\u2019r tybiaethau hyn yn gyfeiliornus. Mae cadwyni cyflenwai\u2019r diwydiant amddiffyn yn gynyddol gymhleth a chydgysylltiol. Mae nifer o gwmn\u00efau amddiffyn hefyd yn ymwneud ag ystod eang o weithgareddau masnachol, ac nid ydynt i gyd yn ymwneud ag \u2018amddiffyn\u2019.<\/p>\n<p>Golyga hyn bod y posibilrwydd o ariannu cwmn\u00efau sydd wedi chwarae rhan mewn gweithredoedd erchyll dramor trwy amryfusedd yn anodd iawn gwaredu arno\u2019n gyfan gwbl. Ers 2023, mae pob un o lywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig wedi gorfod wynebu\u2019r posibilrwydd eu bod wedi cynorthwyo dirywiad Gasa o ganlyniad i\u2019w cefnogaeth ariannol i gwmn\u00efau amddiffyn sy\u2019n gysylltiedig ag Israel.<\/p>\n<p>Y llynedd, <a href=\"https:\/\/www.amnesty.org.uk\/latest\/wales-welsh-government-accused-funding-companies-exporting-arms-israel-despite\/\">datgelodd<\/a> Amnest Cydwladol bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant \u00a3500,000 i Senior, cwmni sydd yn darparu offer milwrol i Luoedd Amddiffyn Israel. Er na roddwyd yr arian ar gyfer y gweithredoedd hynny, tanseiliwyd addewidion Llywodraeth Cymru o ran pwy a beth roedd yn ei gefnogi.<\/p>\n<p>Nid digwyddiad ar wah\u00e2n oedd hwn. Cafodd weinidogion Cymreig ei dal yn ddisymwth gan ddatguddiadau yn 2018 bod Raytheon \/ RTX, cwmni arall a oedd wedi derbyn arian datganoledig, yn cyflenwi offer militaraidd i Sawdi-Arabia yn ystod ei ymgyrch ciaidd yn Yemen. Fel y mae penodau o\u2019r fath yn dangos, nid oes gan lywodraeth Cymru oruchwyliaeth gyflawn o weithgareddau\u2019r holl gwmn\u00efau amddiffyn mae\u2019n eu cefnogi gydag arian cyhoeddus.<\/p>\n<p><strong>Dianc rhag Corwynt C\u00efaidd<\/strong><\/p>\n<p>Mae coleddu un rhan o\u2019r sector amddiffyn hefyd yn cryfhau\u2019r dynfa tuag at fentrau milwrol eraill. Mae personau deallus milwrol Prydain yn nodi bod gallu syber-ddiogelwch \u2013 un o hoff bethau Llywodraeth Cymru \u2013 ynddo\u2019i hun yn ffynhonnell bwysig i allu taflunio grym, ac mae\u2019n sail ddeniadol i\u2019r diwydiant amddiffyn ehangu yn y tiriogaethau hynny sy\u2019n berchen arno.<\/p>\n<p>Mae unrhyw gysylltiad \u00e2\u2019r sector, mewn geiriau eraill, yn gyrru&#8217;r system ei hun tuag at glymau pellach. Dilynwyd y llwybr hwn yn barod, yn yr Alban y llynedd, pan roddodd llywodraeth yr SNP y gorau i safiad egwyddorol, hir oes i beidio ag ariannu cynhyrchiant arfau.<\/p>\n<p>Mae etholiadau\u2019r Senedd yn gyfle i newid cyfeiriad. Bydd maint a lledaeniad y sector amddiffyn yng Nghymru\u2019n creu awydd cryf i barhau, hyd oed petai gennym glymblaid dan arweinyddiaeth Plaid Cymru. Ac eto, mae\u2019n hanfodol ein bod yn ymwrthod \u00e2\u2019r demtasiwn.<\/p>\n<p>Ers tri degawd, mae Llafur Cymru wedi pregethu efengyl swyddi a buddsoddiad. Wedi\u2019r etholiad, cyfrifoldeb cyntaf unrhyw glymblaid flaengar bydd gofyn: beth fydd y gost? Gall Blaid Cymru fod yn falch o\u2019i hanes gwrthwynebol. Heriodd yn llwyddiannus amwysedd Llafur dros ffieidd-dra Israel, ac arweiniodd bleidlais y Senedd i gefnogi\u2019r cadoediad yn Gasa yn 2023, ac amlygodd oddefgarwch Llywodraeth Cymru o filitariaeth.\u00a0 Os yw\u2019n llwyddo yn yr etholiadau, mae\u2019n rhaid i\u2019r safiadau pwysig hyn droi\u2019n weithredoedd cadarn.<\/p>\n<p>Dylai\u2019r llywodraeth Gymreig nesaf stopio ymwneud \u00e2 phob un ffair arfau yn gyfan gwbl. Dylai roi diwedd ar ariannu cwmn\u00efau sy\u2019n elwa o ryfel a hil-laddiad ac, yn lle, dylai flaenoriaethu mentrau sy\u2019n <a href=\"https:\/\/nation.cymru\/opinion\/creating-a-community-of-communities-in-the-south-wales-valleys\/\">cynyddu cyfoeth cymunedau<\/a>. Dylai ymwrthod ag atyniad cytundebau\u2019r Weinyddiaeth Amddiffyn a gwahardd defnydd <a href=\"https:\/\/pembrokeshire-herald.com\/119732\/revealed-west-wales-drone-test-sites-linked-to-israeli-weapons-firms\/\">tir<\/a> Llywodraeth Cymru ar gyfer arbrofion milwrol. Dylai gefnogi\u2019r mudiad boicot, dad-fuddsoddi a sancsiynau sydd wedi ennill tir ar lefel <a href=\"https:\/\/nation.cymru\/news\/councillors-back-calls-for-pension-fund-to-divest-from-companies-linked-with-israel\/\">awdurdodau lleol<\/a>, yn ei lawnder, a dylai <a href=\"https:\/\/commonslibrary.parliament.uk\/research-briefings\/cbp-9822\/\">ymwrthod<\/a> ag unrhyw geisiadau pellach gan lywodraethau San Steffan i roi pen ar unrhyw fynegiant o gydsafiad gydag achos y Palestiniaid.<\/p>\n<p>Yn y tymor hirach, yr her fydd trawsnewid Cymru\u2019n wlad nad sy\u2019n ddibynnol bellach ar filitariaeth. Yn amlwg, mae yno gyfyngiadau i\u2019r hyn y gellir ei gyflawni tra bod Cymru\u2019n parhau\u2019n rhan o wladwriaeth y Deyrnas Unedig, ac yn benodol gwladwriaeth sy\u2019n ymwneud \u00e2 phrosiect <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/politics\/2025\/jun\/01\/labour-pushes-military-keynesianism-to-win-support-for-defence-spending\">Keynsaidd filwrol<\/a>.<\/p>\n<p>Serch hynny, fel y mae CAAT yn <a href=\"https:\/\/caat.org.uk\/alternatives\/arms-to-renewables\/\">dadlau<\/a>, dylem anelu at nod terfynol fyddai\u2019n troi cyfleusterau arfau\u2019r presennol yn gyfleusterau fydd yn creu ac yn cynnal y technolegau hynny sy\u2019n gwella bywydau a llesiant pobl. Wrth i lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig hwyluso rhyfel treisgar gan yr Unol Daleithiau ac Israel yn erbyn Iran a Lebanon, mae herio diwylliant gynyddol filwrol gartref yn argyfyngus ac yn hanfodol ill dau.<\/p>\n<p>Nid oes yn rhaid i Gymru aros am refferendwm annibyniaeth er mwyn troedio llwybr gwahanol o fewn gwleidyddiaeth fyd-eang; dylai\u2019r gwaith hwnnw ddechrau nawr.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth inni aros am ganlyniadau&#8217;r etholiad, mae Greg Davies yn ystyried y posibiliad o newid go iawn mewn un gweithgaredd economaidd sydd wedi bod a&#8217;i grafangau&#8217;n gynyddol o gwmpas Cymru &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Wynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":40,"featured_media":1634,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1632","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Wynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Wynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Wrth inni aros am ganlyniadau&#8217;r etholiad, mae Greg Davies yn ystyried y posibiliad o newid go iawn mewn un gweithgaredd economaidd sydd wedi bod a&#8217;i grafangau&#8217;n gynyddol o gwmpas Cymru &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Wynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-05-07T13:48:04+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-05-07T13:48:34+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Arfau-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1067\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Greg Davies\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Greg Davies\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"9 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/\"},\"author\":{\"name\":\"Greg Davies\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/f24cc1cf840e70d7bb06872c0aa4c809\"},\"headline\":\"Wynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru\",\"datePublished\":\"2026-05-07T13:48:04+00:00\",\"dateModified\":\"2026-05-07T13:48:34+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/\"},\"wordCount\":3017,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Arfau-1.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/\",\"name\":\"Wynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Arfau-1.jpg\",\"datePublished\":\"2026-05-07T13:48:04+00:00\",\"dateModified\":\"2026-05-07T13:48:34+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Arfau-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Arfau-1.jpg\",\"width\":800,\"height\":1067},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Wynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/f24cc1cf840e70d7bb06872c0aa4c809\",\"name\":\"Greg Davies\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5b9799f75bbc69ad14ae16fd5994a939629728d21f2881e14bac7cc770a53b2c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5b9799f75bbc69ad14ae16fd5994a939629728d21f2881e14bac7cc770a53b2c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5b9799f75bbc69ad14ae16fd5994a939629728d21f2881e14bac7cc770a53b2c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Greg Davies\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gregdavies\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Wynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Wynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru - undod","og_description":"Wrth inni aros am ganlyniadau&#8217;r etholiad, mae Greg Davies yn ystyried y posibiliad o newid go iawn mewn un gweithgaredd economaidd sydd wedi bod a&#8217;i grafangau&#8217;n gynyddol o gwmpas Cymru &hellip; Parhau i ddarllen \"Wynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2026-05-07T13:48:04+00:00","article_modified_time":"2026-05-07T13:48:34+00:00","og_image":[{"width":800,"height":1067,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Arfau-1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Greg Davies","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Greg Davies","Est. reading time":"9 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/"},"author":{"name":"Greg Davies","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/f24cc1cf840e70d7bb06872c0aa4c809"},"headline":"Wynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru","datePublished":"2026-05-07T13:48:04+00:00","dateModified":"2026-05-07T13:48:34+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/"},"wordCount":3017,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Arfau-1.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/","name":"Wynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Arfau-1.jpg","datePublished":"2026-05-07T13:48:04+00:00","dateModified":"2026-05-07T13:48:34+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Arfau-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Arfau-1.jpg","width":800,"height":1067},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Wynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/f24cc1cf840e70d7bb06872c0aa4c809","name":"Greg Davies","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5b9799f75bbc69ad14ae16fd5994a939629728d21f2881e14bac7cc770a53b2c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5b9799f75bbc69ad14ae16fd5994a939629728d21f2881e14bac7cc770a53b2c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5b9799f75bbc69ad14ae16fd5994a939629728d21f2881e14bac7cc770a53b2c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Greg Davies"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gregdavies\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1632","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/40"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1632"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1632\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1638,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1632\/revisions\/1638"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1634"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1632"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1632"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1632"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}