{"id":1645,"date":"2026-05-10T15:44:27","date_gmt":"2026-05-10T14:44:27","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1645"},"modified":"2026-05-10T20:49:12","modified_gmt":"2026-05-10T19:49:12","slug":"barod-i-ennill-y-chwyldro","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/","title":{"rendered":"Barod i Ennill y Chwyldro?"},"content":{"rendered":"<p>\u2018Nid da lle gellir gwell\u2019.\u00a0 Y dywediad yna bydd pob plentyn sydd wedi bod mewn Ysgol Gymraeg yn gyfarwydd ag ef, ac sy\u2019n danfon ias lawr fy nghefn, hyd yn oed yn fy nghanol oed.\u00a0 Wedi ymlafnio i greu rhyw ddarn o waith, byddai\u2019r geiriau yma\u2019n siwr o dynnu\u2019r gwynt o\u2019m hwyliau ac ennyn teimladau o anniddigrwydd tuag at ba bynnag athro oedd wedi methu dathlu\u2019r da, ond yn hytrach am dynnu sylw at y gwendidau.<\/p>\n<p>Yn hynny o beth rwy\u2019n gyndyn i gyfeirio\u2019r un sylw tuag at Plaid Cymru a\u2019u selogion, trannoeth y parti. Maen nhw\u2019n haeddu\u2019r dathliad o ddigwyddiad hanesyddol na fyddai nifer ohonynt, rwy\u2019n amau, wedi breuddwydio y byddai\u2019n cael ei wireddu.\u00a0 Roedd gweld Elfyn Llwyd dagreuol yn crynhoi\u2019r cyfan ar S4C ac yn gweud pob dim ynghylch y llwybr hir, anodd ac yn aml poenus y mae\u2019r pererinion yma wedi eu troedio. Da chi pob un ohonoch.<\/p>\n<p>A llongyfarchiadau arbennig i\u2019r genhedlaeth ddiweddaraf yma sydd wedi gorfod troedio\u2019n llawer bellach na\u2019r arfer yn yr etholaethau gorfawr newydd, ac sydd wedi gorfod wynebu\u2019r gwenwyn fwyaf afiach arlein.\u00a0 Fel un sydd wedi gwneud rhywfaint o ganfasio dwi ddim yn siwr bod gan y person arferol unrhyw amgyffred o ba mor flinedig y mae\u2019r gwaith o gnocio drysau\u2019n gallu bod.<\/p>\n<p>Ac yna, i orfod wynebu hyn tra wedyn dychwelyd i\u2019r erlid a chasineb yn y byd rhithiol, y mae\u2019r ymdrech wir yn arwrol (ni fydd fy merched innau yn mynd yn agos at wleidyddiaeth os yw\u2019n parhau fel y mae). Nid fy enwad i yw\u2019r bobl yma, fel petai, ond ceir yma pobl gwirioneddol neilltuol a dewr, ac rwyf ar ben fy nigon drostyn nhw.<\/p>\n<p><strong>A Oes Chwyldro?<\/strong><\/p>\n<p>Ond o ystyried yr holl rymoedd dieflig yna sydd ar waith, nid oes chwaith amser i\u2019w golli, oherwydd un frwydr yw hon mewn cyfres o wrthdrawiadau sydd am barhau. Yn wir, yn groes i\u2019r hyn mae <a href=\"https:\/\/www.newstatesman.com\/politics\/wales\/2026\/05\/nothing-suggests-plaid-cymru-can-save-wales\">ambell i ddoethyn<\/a> wedi bod yn awgrymu, rydym nawr yn nannedd y chwyldro, sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers pleidlais Brexit (ac ethol Trump).<\/p>\n<p><em>Ond beth am<\/em> <em>yr<\/em> <em>interregnum? <\/em>meddai chi ddisgyblion Gramsci &#8211; y cyfnod yna o wacter lle mae\u2019r hen drefn yn dadfeilio a\u2019r drefn newydd yn ceisio sefydlu ei hun \u2013 a sydd yn braenaru\u2019r tir ar gyfer y Chwyldro. Wel yr argyfwng a ddechreuodd y cyfnod hwnnw oedd y cwymp ariannol yn 2008, na welodd cwymp yr hen drefn (er ei fod yn ergyd lled-farwol) na chwaith cam blaengar ymlaen, tu hwnt i fudiad penagored <em>Occupy, <\/em>a oedd, gyda synnwyr trannoeth, yn gam i \u2018nunlle braidd.<\/p>\n<p>Ond ers 2016 rydym wedi bod ar faes y g\u00e2d go iawn, gyda grymoedd chwyldroadol a rhai adweithiol yn brwydro fyth ers hynny. Wedi blerwch Brexit, dyma\u2019r sefydliad wedyn yn llethu Corbyn, tra yng Nghymru taniodd y mudiad annibyniaeth ac yna ymffrwydro (er peidiwch a diystyrru dylanwad dirgel y sefydliad yn yr achos hwnnw chwaith). Yn y cyfnod mwy diweddar wrth gwrs, y grymoedd adweithiol sydd wedi bod \u00e2\u2019r gerdded eto, wrth geisio adfer Prydain imperialaidd eu hagwedd ond crachaidd eu hysbryd.<\/p>\n<p>Dyma ddramateiddio\u2019r sefyllfa\u2019n ormodol meddech chi.<\/p>\n<p>Ond ystyriwch wedyn yr hyn sydd ar ddod mewn cwta tair blynedd. Brwydr nesaf y chwyldro sef yr Etholiad Cyffredinol, ac un lle mae\u2019n bosib bydd y grym adweithiol yna\u2019n sofran dros yr ynys, ac fel mae sawl un wedi nodi, <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/02\/ein-pobl-yw-ein-cryfder-rhai-or-rhestrau-chris-evans\/\">yn fygythiad go iawn i fodolaeth ein Senedd<\/a> yn ogystal ag un yr Alban. Dyna fydd ergyd farwol, o bosib, i\u2019r grymoedd blaengar, wrth i\u2019r arferiad dangos eu grym.<\/p>\n<p>Ac hyd yn oed os na hoffech chi ddisgrifio hyn oll mewn termau chwyldro, yna mae\u2019n drosiad defnyddiol i ddefnyddio i ddehongli\u2019r hyn sydd ar droed, a deall y math o gamau sydd angen eu hystyried.<\/p>\n<p><strong>Peintio\u2019r Map yn Wyrdd<\/strong><\/p>\n<p>A dyma ni\u2019n cyrraedd y craidd.\u00a0 Oherwydd ni thal nawr i gymryd camau bychain.\u00a0 Nid nawr yw\u2019r amser i gloffi na chymryd anadl.\u00a0 Nid amser i\u2019r gwangalon mohoni.\u00a0 Oherwydd erbyn 2029 mae\u2019n gofyn bod y map gwleidyddol yn un nad sy\u2019n adlewyrchu Cymru\u2019r Normaniaid a\u2019r rhaniad rhwng y Mers a Pura Walia, ond ei fod yn gyfangwbl gwyrdd, fel yr oedd hi unwaith yn felen, ac unwaith yn goch.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-1648 aligncenter\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Wales-Map-2026-249x300.png\" alt=\"\" width=\"249\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Wales-Map-2026-249x300.png 249w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Wales-Map-2026.png 500w\" sizes=\"auto, (max-width: 249px) 100vw, 249px\" \/><\/p>\n<p>Oherwydd os am wrthsefyll yr adferiad bydd gofyn undod gwleidyddol ac ysbrydol ymhlith canrannau sylweddol o Gymru. A Phlaid Cymru yw\u2019r llestr bellach all gario\u2019r gobaith.<\/p>\n<p>Yn hynny o beth, fel y sylwodd Elfyn Llwyd trwy lygaid llaeth, y mae buddugoliaeth Plaid yn un hynod o fod wedi creu sail ledled Cymru, un y gall arwain at ganlyniad ysgubol o\u2019r fath.\u00a0 Ymhellach, fel y nododd yn graff, \u2018mae\u2019n rhaid adeiladu ar hynny, a mynd ati\u2019.\u00a0 Ac nid oes amser i\u2019w golli.<\/p>\n<p>Ac wrth edrych tua 2029, beth sydd gan Blaid i\u2019w ddysgu?\u00a0 Wel, dyma le mae angen elfen o onestrwydd arnynt, a pheidio a thwyllo\u2019u hunain. A mae hynny\u2019n anodd, oherwydd pwy byddai\u2019n gwarafun ennyd o falchder ag ymffrost i griw sydd wedi creu hanes?<\/p>\n<p><strong>Crochenwaith Nant Garw, nid y <em>Ming<\/em> <em>Vase<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Ond, er gymaint y mae yna bobl dda, sydd wedi gwneud pethau da, rhaid cydnabod mai amgylchiadau i raddau helaeth sydd wedi creu\u2019r cyfle i\u2019r Blaid. Dirywiad dramatig Llafur Cymru gyda help llaw farwaidd Starmer yn San Steffan, ac yna ymchwydd mewn grym dinistriol, sydd yn ddigon i hela crid ar niferoedd digonol, fel y byddan nhw\u2019n fodlon pleidleisio i ba bynnag bwer sydd am ei gadw mas o Gymru.<\/p>\n<p>Ac eto fe roedd digon o bobl wedi bodloni gyda \u2018chynnig\u2019 Plaid Cymru. Ac mae\u2019n wir i ddweud bod eu cynllun economaidd yn ddogfen o swmp sy\u2019n cynnig atebion gwirioneddol.\u00a0 Ond rhaid inni beidio a dallu\u2019n hunain gyda\u2019r syniad bod pobl rhywsut wedi\u2019u hysbrydoli, mwy nag oeddent ofn.<\/p>\n<p>Yn wir roedd yn berffaith amlwg taw rhyw gyfuniad o waeddu \u2018Stopiwch Reform\u2019 a chario\u2019r <em>ming vase <\/em>chwedl Llafur 2024, gyda mymryn o bolisiau <em>bumper plate<\/em> megis gofal plant, oedd sail llwyddiant yr ymgyrch. Ac i raddau helaeth iawn, roedd hyn yn llwyddiant.<\/p>\n<p>Ond yn yr adlais o lwyddiant Llafur Starmer y mae\u2019r perygl amlwg, wrth gwrs. Er mai pleidlais oedd honno yn erbyn y Ceidwadwyr ar y cyfan, ac ni addawyd fawr dim, wele yng ngweddillion Llafur Cymru canlyniad y ffaith na wnaethpwyd nemor dim o ran sylwedd na rhethreg gan Llywodraeth Starmer i wella bywyd pob dydd neu hyd yn oed addo gwelliannau i ddod.<\/p>\n<p>Bydd pobl yng Nghymru yn deall i raddau na fydd gan y Blaid yr un gallu i greu newidiadau sylweddol dros nos, ond fyddan nhw ddim am dderbyn <em>stasis<\/em> barhaol, na chwaith diffyg gweledigaeth o gynnydd er mwyn cynnal ein gobeithion, ac inni weithio tuag ati yn y tymor canol. Rhaid wrth fwy o sylwedd, fwy o ysbrydoliaeth, a mwy o ddychymyg dros y tair blynedd nesaf, oherwydd yr hyn sydd ar ddod yn 2029.<\/p>\n<p><strong>Cymal Nesa\u2019r Chwyldro<\/strong><\/p>\n<p>Wrth gwrs, gyda\u2019r sustem etholiadol \u2018cyntaf i\u2019r felin\u2019 bydd hyn yn caniatau\u2019r un cyfosodiad o obaith yn erbyn rhaniadau a weithiodd cystal i Plaid Cymru tro hwn \u2013 ac os rhywbeth bydd y diffyg amwysedd system <em>D\u2019hondt<\/em> y Senedd yn ei gwneud hi\u2019n gliriach eto i\u2019r pleidleisiwyr Gwyrdd a Llafur yr hyn sydd yn y fantol.\u00a0 Ond bydd hi\u2019n dalcen caled yn erbyn ton <em>torquise, <\/em>bydd debycach i Tsunami y tro nesa, ac mewn sawl etholaeth na fydd unrhyw gynsail i Blaid Cymru ynddi o ran etholaethau San Steffan.<\/p>\n<p>Ymhellach, erbyn hynny mae\u2019n ddigon posib bydd sawl Cyngor arall dan arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi etholiadau lleol 2027, ac felly peryg bydd Plaid yn dioddef hefyd o fod y Blaid \u2018mewn grym\u2019.\u00a0 Ymysg eu tactegau bydd yr angen i osod to o gynghorwyr gweithgar yn eu lle, bydd yn meithrin ymgeiswyr o sylwedd a chyfarwydd ar gyfer 2029.\u00a0 Ond bydd hefyd gofyn i\u2019r ymgyrch honno digwydd mewn hinsawdd lle bydd y freuddwyd ynghyn, a rhywfaint o\u2019r egni a welwyd ar risiau\u2019r Senedd ddoe yn parhau.<\/p>\n<p>Oherwydd os bydd map etholiadol Cymru yn hanner las bydd y genedl, heb s\u00f4n am y Senedd, mewn peryg. Mae\u2019n wir i ddweud bod Farage wedi awgrymu y byddai croeso i\u2019r Albanwyr <a href=\"https:\/\/www.thenational.scot\/news\/26026259.indyref2-reasonable-becomes-relevant-future-says-farage\/\">cynnal refferendwm<\/a> arall pe bai\u2019n berthnasol, ac un ffordd teg o ddehongli hyn yw bod yntau, fel cenedlaetholwr Saesneg, ddim wir a gymaint o ots pe bai\u2019r Albanwyr am fynd ffordd ei hun.\u00a0 Byddan nhw\u2019n fwy o drafferth na\u2019u gwerth.<\/p>\n<p>Ond tebyg na fydd yr un agwedd yn ymestyn i\u2019r \u2018<a href=\"https:\/\/medium.com\/@huwl1oyd\/the-internal-other-englands-welsh-dependency-ce6c4eafb389\">arall mewnol<\/a>\u2019 y Cymry os bydd nifer o\u2019n hetholaethau yn dangos awydd i glosio at Reform a San Steffan.\u00a0 Mae goruchafiaeth dros y Cymry yn agwedd rhy hanfodol o seicoleg y Sais i adael iddi fynd heb frwydr.<\/p>\n<p><strong>Yr Ysbrydol a\u2019r Ymarferol<\/strong><\/p>\n<p>Mae dyfodol Cymru yn y fantol, heb os.\u00a0 Y newyddion da wrth gwrs yw\u2019r momentwm sydd yn barod cynyddu tu \u00f4l i gydweithio a chytgord y Cyrion Celtaidd a\u2019r synau sy\u2019n ein cyrraedd yn enwedig o\u2019r Ynys Werdd.\u00a0 Maen nhw yn barod wedi synhwyro\u2019r hyn sydd ar droed ochr draw m\u00f4r Iwerddon, a nad oes amser i\u2019w golli wrth i\u2019r chwyldro mynd rhagddi.\u00a0 Ond y peryg i Gymru, heb inni daenu map etholiadol 2029 yn wyrdd, yw y byddwn yn cael ein hamsugno nid i chwyldro Celtaidd ond i adferiad Seisnig.<\/p>\n<p>Felly y mae angen i\u2019r beirdd canu, ac yn wir mae angen i\u2019r cyfan o gymdeithas sifig Cymru a\u2019u cymuned creadigol i ymuno gyda\u2019r chwyldro a chario breuddwydion a dyheadau cenedl dros y cyfnod nesaf \u2013 yn enwedig yn absenoldeb y gallu i greu gwir newid o sylwedd i fywydau pobl mewn amser prin.\u00a0 Mae angen i\u2019r Blaid bod yn eofn, yn feiddgar, ac yn gyfrwys, gan atgyfnerthu eu henillion ac ymestyn allan i\u2019r gefnogaeth newydd <em>a thu hwnt.\u00a0\u00a0<\/em>Codi cenedl mewn gair, a&#8217;n digolledu am flynyddoedd coll datganoli.<\/p>\n<figure id=\"attachment_1647\" aria-describedby=\"caption-attachment-1647\" style=\"width: 300px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1647 size-medium\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/eddie-butler-300x202.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"202\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/eddie-butler-300x202.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/eddie-butler.jpg 330w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1647\" class=\"wp-caption-text\">Eddie Butler yn annerch y dorf yn rali Annibyniaeth Merthyr Tudfil &#8211; Llywelyn2000, CC BY-SA 4.0<\/figcaption><\/figure>\n<p>Ar yr un pryd Cymru mae gofyn dangos bod gwelliannau ar ddod ac yn digwydd fesul tipyn, ac hyd yn oed er mwyn sicrhau buddugoliaethau bach o\u2019r fath bydd gofyn ymdrech radical.<\/p>\n<p>I\u2019r perwyl yna, byddai myfyrio ar <a href=\"https:\/\/nation.cymru\/opinion\/the-campaign-is-over-now-comes-the-hard-part-a-former-minister-on-what-governing-wales-really-takes\/\">rhybuddion a myfyrdodau Lee Waters<\/a> yn gall o safbwynt deall sut y mae delio gyda heriau llywodraethu, gan gynnwys gwasanaeth sifil bydd o\u2019i natur yn wrthwynebus i newid. \u00a0Bydd angen iddynt herio a mynnu gonestrwydd o\u2019i gilydd, gan beidio credu rhethreg nhw eu hunain yn y modd yr oedd eu rhagflaenyddion.<\/p>\n<p>A bydd gofyn bod yn ddewr \u2013 ac mae hynny\u2019n cychwyn gyda Rhun (a rhaid wrth ddefnyddio ei enw cyntaf yn unig, megis Rhodri a Carwyn), a&#8217;i benderfyniadau ar gyfer ei gabinet, a\u2019r bobl eraill caiff gwahoddiad i\u2019r cylch mewnol, megis y SpAds bondigrybwyll a chynghorwyr arbenigol.<\/p>\n<p>Yn ysbryd chwyldro, tra\u2019n cydnabod yr angen am ambell i hen law, bydd rhaid osgoi\u2019r temtasiwn i wobrwyo gwasanaeth ac ymgrymu i hierarchaethau, ac yn hytrach cynnwys y sawl sydd \u00e2\u2019r crebwyll, y talent a\u2019r profiad \u2018byd go iawn\u2019 er mwyn eu gyrru ymlaen. A chyda niferoedd a chapasiti craffu newydd y Senedd, beth am greu cabinet mwy gyda briffiau mwy arbenigol, gyda chyfleoedd ar gyfer wynebau newydd? Mae fy sector fy hun, Addysg Uwch &#8211; mewn argyfwng fel cynifer o rai eraill &#8211; yn crefu am ei Weinidog ei hun yn y cabinet, nid rhyw r\u00f4l is, ceiniog a dime, heb le wrth y bwrdd. Lleisiau angerddol a radical sydd angen, a gorau oll os bydd y criw mwyaf gweledol yma\u2019n cynrychioli Cymru drwyddi draw o ran rhanbarthau \u2013 yn enwedig y rhai sydd ar y cyffindir etholiadol.<\/p>\n<p>Rhaid dangos i\u2019r sawl nad sydd wedi pleidleisio iddynt y tro hwn, beth gall Plaid gwneud drostyn nhw.<\/p>\n<p>Ymlaen felly.<\/p>\n<p>Ymlaen \u00e2\u2019r chwyldro.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u2018Nid da lle gellir gwell\u2019.\u00a0 Y dywediad yna bydd pob plentyn sydd wedi bod mewn Ysgol Gymraeg yn gyfarwydd ag ef, ac sy\u2019n danfon ias lawr fy nghefn, hyd yn &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Barod i Ennill y Chwyldro?&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":1650,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1645","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Barod i Ennill y Chwyldro? - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Barod i Ennill y Chwyldro? - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"\u2018Nid da lle gellir gwell\u2019.\u00a0 Y dywediad yna bydd pob plentyn sydd wedi bod mewn Ysgol Gymraeg yn gyfarwydd ag ef, ac sy\u2019n danfon ias lawr fy nghefn, hyd yn &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Barod i Ennill y Chwyldro?&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-05-10T14:44:27+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-05-10T19:49:12+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Yes-CYmru-merthy.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"960\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"584\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Huw Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Huw Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"13 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/\"},\"author\":{\"name\":\"Huw Williams\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\"},\"headline\":\"Barod i Ennill y Chwyldro?\",\"datePublished\":\"2026-05-10T14:44:27+00:00\",\"dateModified\":\"2026-05-10T19:49:12+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/\"},\"wordCount\":4187,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Yes-CYmru-merthy.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/\",\"name\":\"Barod i Ennill y Chwyldro? - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Yes-CYmru-merthy.jpg\",\"datePublished\":\"2026-05-10T14:44:27+00:00\",\"dateModified\":\"2026-05-10T19:49:12+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Yes-CYmru-merthy.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Yes-CYmru-merthy.jpg\",\"width\":960,\"height\":584},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Barod i Ennill y Chwyldro?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\",\"name\":\"Huw Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Huw Williams\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Barod i Ennill y Chwyldro? - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Barod i Ennill y Chwyldro? - undod","og_description":"\u2018Nid da lle gellir gwell\u2019.\u00a0 Y dywediad yna bydd pob plentyn sydd wedi bod mewn Ysgol Gymraeg yn gyfarwydd ag ef, ac sy\u2019n danfon ias lawr fy nghefn, hyd yn &hellip; Parhau i ddarllen \"Barod i Ennill y Chwyldro?\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2026-05-10T14:44:27+00:00","article_modified_time":"2026-05-10T19:49:12+00:00","og_image":[{"width":960,"height":584,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Yes-CYmru-merthy.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Huw Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Huw Williams","Est. reading time":"13 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/"},"author":{"name":"Huw Williams","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b"},"headline":"Barod i Ennill y Chwyldro?","datePublished":"2026-05-10T14:44:27+00:00","dateModified":"2026-05-10T19:49:12+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/"},"wordCount":4187,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Yes-CYmru-merthy.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/","name":"Barod i Ennill y Chwyldro? - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Yes-CYmru-merthy.jpg","datePublished":"2026-05-10T14:44:27+00:00","dateModified":"2026-05-10T19:49:12+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Yes-CYmru-merthy.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Yes-CYmru-merthy.jpg","width":960,"height":584},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/05\/10\/barod-i-ennill-y-chwyldro\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Barod i Ennill y Chwyldro?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b","name":"Huw Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Huw Williams"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1645","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1645"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1645\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1661,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1645\/revisions\/1661"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1650"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1645"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1645"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1645"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}