{"id":1665,"date":"2026-06-13T16:44:09","date_gmt":"2026-06-13T15:44:09","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1665"},"modified":"2026-06-13T16:44:09","modified_gmt":"2026-06-13T15:44:09","slug":"ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/","title":{"rendered":"Ai Reform yw\u2019r Ffasgwyr yn y Senedd \u2013 ac A Oes Ots?"},"content":{"rendered":"<p><em>\u201cAc y mae yma inni rybudd ofnadwy. Canys pan ddyfnha clwyf marwol y gyfundrefn elw hyd bwynt na ellir mo\u2019i doctora hi mwyach, fe eill yn hawdd ein bod ni\u2019n wynebu cyfnod newydd o wrthchwyldro ffasgaidd \u2013 ie hyd yn oed ym Mhrydain. Dan enwau a theitlau newydd wrth gwrs. Nid ffasgaeth Jordan na Oswald Mosley, canys adwaenom nodau hwnnw a ni\u2019n twyllir ganddi, ond rhyw fudiad newydd y bydd digon o gamouflage sosialaidd gwerin-ddyrchafol yn cuddio ei fileindra nes dallu\u2019r gwerinoedd unwaith eto.\u201d<\/em><\/p>\n<p>Dyma eiriau syfrdanol yr athronydd <a href=\"https:\/\/cy.wikipedia.org\/wiki\/J._R._Jones\">JR Jones<\/a>, mor bell nol ag 1963, yn ei glasur o draethawd Yr Argyfwng Gwacter Ystyr.\u00a0 Testun oedd hwn a oedd yn olrhain cwymp Anghydffurfiaeth Gymreig a myfyrio ar ei beryglon. Ei bryder oedd y byddai\u2019r dihysbyddu moesol a beirniadol yma\u2019n gadael y Cymry\u2019n ysglyfaeth i ffurf newydd ar ffasgiaeth. Gyda dyrchafu plaid Nigel Farage nawr yn wrthblaid y Senedd &#8211; a fynte yn hilgi poblyddol sydd wedi meithrin ei boblogrwydd trwy wleidyddiaeth senoffobig &#8211; rhaid wrth ofyn, a yw gwrthchwyldro JR wedi cyrraedd o ddifri?<\/p>\n<p><strong>Cordon Sanitaire<\/strong><\/p>\n<p>N\u00f4l yn 2017, a UKIP wedi ymgartrefu yn y Senedd, sgwennais <a href=\"https:\/\/ytwll.cymru\/2017\/02\/ydy-ukip-yn-ffasgwyr\/\">blog<\/a> ar y cwestiwn, a oedd UKIP yn ffasgwyr. Roedd hwn yn un o nifer o ddarnau yn ystod y cyfnod hwn yn ceisio rhybuddio yn erbyn bygythiad eu llwyddiant cynyddol.<\/p>\n<p>Ar yr un pryd roedd Simon Brooks a minnau yn ceisio darbwyllo\u2019r dosbarth gwleidyddol i ddilyn \u00f4l traed gwleidyddion blaengar y cyfandir oedd yn draddodiadol codi \u201c<a href=\"https:\/\/cordon.cymru\/cy\/\">cordon sanitaire<\/a>\u201d o gwmpas pleidiau\u2019r asgell dde eithafol.\u00a0 Yn fras dyma\u2019r syniad o beidio ymwneud gyda gwleidyddion o\u2019r fath ac eithrio\u2019r hyn oedd yn ofynnol o safbwynt cyflawni cyfrifoldebau democrataidd &#8211; yn rhannol gyda\u2019r bwriad o arddangos mewn modd symbolaidd nad yw eu hagweddau i\u2019w goddef oddi fewn i gymdeithas ddemocrataidd iach.<\/p>\n<p>Cafodd Simon rywfaint o wrandawiad oddi fewn i Blaid Cymru. O\u2019m rhan i, doedd yna ddim diddordeb oddi fewn i\u2019r gymuned llafuraidd. Peidied corddi\u2019r dyfroedd oedd yr agwedd, peidied ennyn gwrthwynebiad pellach drwy ymateb mor llawdrwm. Aros iddynt greu ffyliaid o\u2019u hunain ac mi eiff y broblem i ffwrdd. Ac o fewn dim roedd Hamilton a\u2019i glowns fel petaent yn rhan o\u2019r dodrefn, yn wleidyddion y sefydliad, os ychydig yn ddi-drefn a di-glem.<\/p>\n<p>Wrth gwrs fesul tipyn dechrau datod a wnaeth y criw hwnnw, ac rwy\u2019n siwr byddai nifer wedi teimlo bod y dacteg laissez-faire wedi gweithio &#8211; a bod y broblem wedi mynd. Ond wrth gwrs, roedd achosion y gefnogaeth i UKIP byth wedi pylu, ac yn wir gwaethygodd amodau byw a rhwystredigaeth y rhelyw dan y Tor\u00efaid, methiant Brexit a Llywodraeth Llafur di-ddim Keir Starmer. Ac yn eironig digon achosodd Brexit ymchwydd enfawr mewn mewnfudo\u2019r union bobl roedd Farage a\u2019i ddisgyblion am warafun.\u00a0Bron gallech chi daeru bod hyn yn fwriadol o ran megino fflamau casineb.<\/p>\n<p>Roedd mwy nag un o\u2019r traethodau yma yn rhybuddio na fyddai\u2019r gwrthchwyldro\u2019n dod i ben, a bod peryg y byddai\u2019r grym hwn yn dod i rym, naill ai ar ffurf glymblaid gyda\u2019r Ceidwadwyr neu trwy gael eu normaleiddio oddi fewn i\u2019r pleidiau prif ffrwd.<\/p>\n<p>Ac wele heddiw, yn ei ffurf fwyaf diweddar o Reform UK, Farage a\u2019i wleidyddiaeth ffiaidd yn esgyn i\u2019r pwynt lle mae bron i 30% o\u2019r etholwyr yng Nghymru yn ei gefnogi &#8211; a lle mae\u2019r amddifadedd a rhwystredigaeth ar ei fwyaf o blith gwledydd a rhanbarthau Prydain (a\u2019r teyrngarwch i\u2019r Toris erioed wedi bod ar ei wannaf).<\/p>\n<p>Ac yn hyn oll, erys y cwestiwn, onid ffasgydd yw Farage?\u00a0Ac nid cwestiwn haniaethol mohono. Oblegid o safbwynt brwydro yn \u00f3l yn ei erbyn, a dwyn etholwyr yn \u00f4l, mae angen deall natur yr hyn rydym yn ei wrthwynebu.<\/p>\n<p><strong>Hanfodion Ffasgiaeth<\/strong><\/p>\n<p>Y mae\u2019r dadansoddiad a gynigais o 2017 yr un mor gyfredol oherwydd nid yw\u2019r ffurf o wleidyddiaeth wedi newid rhyw lawer rhwng yr UKIP a fu a Reform y Senedd, pleidiau Farage ill dau. Hanfod y ddadl yw bod digon o bwyntiau o gyswllt rhwng Ffasgiaeth draddodiadol a gwleidyddiaeth a\u2019r hyn a adwaenir yn gyffredinol (ac ar gam) fel y dde galed heddiw, i adnabod yr ail fel esblygiad o\u2019r cyntaf (fel yr oedd JR yn rhagdybio).<\/p>\n<p>Yn yr un modd rydym yn gyfarwydd gyda thermau megis <strong>neo<\/strong>-geidwadaeth a <strong>neo<\/strong>-ryddfrydiaeth er mwyn disgrifio fersiynau cyfredol o hen athrawiaethau, mae <strong>neo-<\/strong>ffasgiaeth yn derm addas i Farage, Trump a\u2019u tebyg.<\/p>\n<p>O fod yn edrych ar y diffiniadau llawlyfr o Ffasgiaeth (yn yr achos hwn Hoffman a Graham, 2006) y mae\u2019r cysondebau fel y cyfryw:<\/p>\n<ul>\n<li>Arddel ffurf ar arch-genedlaetholdeb sydd yn hawlio statws lled-dwyfol i\u2019r wladwriaeth ethnig fel craidd ein hunaniaeth, wedi\u2019i ategu gan senoffobia a hiliaeth tuag at yr \u201carall\u201d nad sy\u2019n cyrraedd meincnodau\u2019r hunaniaeth ethnic hwnnw (dyma o\u2019m rhan i yw\u2019r amodau angenrheidiol ar gyfer adnabod ideoleg fel un ffasgaidd neu lled-ffasgaidd)<\/li>\n<li>Ymosod ar werthoedd deallusol a gwleidyddol yr Oleuedigaeth gan danseilio deallusion, y gwirionedd a chysyniadau rhyddfrydol democrataidd megis iawnderau dynol<\/li>\n<li>Tueddiadau tuag at awdurdodaeth, os nad totalitariaeth, gan arddel ymyrraeth yn, a chymhathu o, y gymdeithas sifig a\u2019i sefydliadau ar ran y wladwriaeth.<\/li>\n<li>Manteisio ar amddifadedd economaidd er mwyn hyrwyddo gwleidyddiaeth boblyddol gydag arlliw sosialaidd, ond yn ymarferol gweithio law yn llaw gyda chyfalafiaeth<\/li>\n<li>Arddel trais ymosodol, yn erbyn y sawl sy\u2019n naill ai sefyll yn ffordd amcanion cenedlaetholgar tramor, neu sy\u2019n cynrychioli bygythiadau honedig mewnol (mewnfudwyr, ceisiwyr lloches, grwpiau lleiafrifol, yr elit, \u2018bradwyr\u201d).<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Nodweddion Neo-ffasgiaeth<\/strong><\/p>\n<p>Er y cysondeb o ran them\u00e2u, a hanfod estrongasol, hiliol y ffasgiaeth newydd, mae yna wahaniaethau amlwg, sylfaenol y mae gofyn cydnabod er mwyn ei deall yn iawn, ac er mwyn peidio cyffelybu\u2019r ddau \u2013 tueddiad sydd yn lleddfu erchyllterau\u2019r ffasgiaeth gynt ac sy\u2019n caniat\u00e1u yn rhy hawdd bod rhai yn wfftio\u2019r gymhariaeth yn gyfan gwbl.<\/p>\n<p>Ymddengys mai yn achos trais ac enwedig militariaeth y gw\u00eal y gwahaniaeth fwyaf sylfaenol. Y mae Farage a Trump ar y olwg cyntaf wedi bod ymhell o fod yn gymeriadau sydd yn ymddangos mewn lifrau milwr, yn clodfori rhyfel ac yn meithrin diwylliant o\u2019r fath trwy fudiadau arfog cydnabyddedig.\u00a0 A diolch i\u2019r drefn am hynny.\u00a0 Ond wrth gwrs, nid yw hynny\u2019n golygu nad oes yna islais o drais yn perthyn i\u2019w gwleidyddiaeth, sydd yn codi\u2019n uwch ac yn uwch fesul tipyn.<\/p>\n<p>Gellir awgrymu bod yr agwedd yma\u2019n cael eu mynegi mewn sawl ffordd fwy cuddiedig, trwy guddliw y gwr busnes, a chysylltiadau anffurfiol gyda grwpiau lled annibynnol \u2013 megis unigolion eithafol fel Tommy Robinson a chriw QAnon yn yr UDA a ymosododd ar Capitol Hill.\u00a0 Rhyw ymdeimlad sydd o <em>gangsters <\/em>gyda dilyniant haid dorfol, yno wrth law i achosi terfysg a dinistr pan fo\u2019r galw.<\/p>\n<p>Gyda Trump yn ennill grym, fodd bynnag, rydym wedi gweld amlygiad trais trwy law\u2019r wladwriaeth yn ffurf lluoedd ICE, sydd yn dwyn i gof heddluoedd totalitaraidd gynt. Ymhellach, lle\u2019r oedd gwrthwynebiad rhethregol i ryfel tramor gan y ddau, mae arlliw o\u2019r agwedd ffasgaidd draddodiadol ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol, a\u2019i agweddau lled-imperialaidd, wedi amlygu eu hunain yn achos yr Ynys Las ac Iran. Y pryder yw bod y cuddliw gwreiddiol yn cael eu diosg a bod y coesarn \u2013 <em>y jackboot <\/em>\u2013 yn dychwelyd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r elfen \u2018fusnes\u2019 hefyd yn cynnig ei hun fel y gwahaniaeth sylfaenol arall sy\u2019n arwain pobl i gamsynio nad ffurf ar ffasgiaeth sydd gennym.\u00a0 Oherwydd bod Farage a Trump yn cael eu gyrru gan ariangarwch, mae\u2019r agweddau cenedlaetholgar, lled-sanctaidd, proffwydol, oedd yn gyrru\u2019r ffasgiaeth wreiddiol wedi ei gyfyngu i hetiau MAGA gyda\u2019r siwt sgleiniog, a syniadau digon amwys am genedl a diwylliant.<\/p>\n<p>Ymhellach, mae\u2019r camouflage sosialaidd braidd i\u2019w weld yn eu hachos nhw.\u00a0 Ceir ambell i apel i\u2019r syniad bod yr elit (yr elit arall na nhw, hynny yw) yn gwneud bywyd y lliaws yn anodd, ond y gwir amdani yw nad ydynt yn gwneud llawer o ymdrech i gynnal rhyw arlliw o bolis\u00efau poblyddol economaidd. \u00a0Yn eu hachos nhw nid yw\u2019r cyswllt gwaelodol rhwng ffasgiaeth a chyfalafiaeth fyth ymhell o\u2019r golwg. Yn wir mae\u2019r symudiad at yr hyn a elwir <em>Corporatocracy <\/em>yn amlwg<em> \u2013 <\/em>sef llywodraethiant er lles y corfforaethau ac elit ariannog megis Musk a\u2019r sawl sy\u2019n ariannu Farage. Yn wir, yr hyn sydd yn drawiadol yw cyn lleied o gamouflage sydd angen, mae\u2019n debyg, i ddallu\u2019r gwerinoedd o safbwynt y diddordebau mae Farage a\u2019i debyg yn cynrychioli.<\/p>\n<p>Yn olaf mae eu deisyfion o blaid rhyddid yr unigolyn, neu benrhyddid libertaraidd a bod yn fanwl gywir (a\u2019r hawl i ddihysbyddu\u2019r ddaear neu anelu casineb at rai) yn gallu creu\u2019r argraff o agwedd gwrth-awdurdodaidd,\u00a0 Ond yn ymarferol rydym yn gweld ar hyn o bryd rhyw awdurdodaeth ysbeidiol sy\u2019n eu siwtio, yn wyneb heriau\u2019r wasg neu\u2019r <em>intelligensia<\/em> fel arfer, neu yn enghraifft cynnig Reform yng Nghymru i ymyrryd gyda\u2019n hamgueddfeydd. Eto, rhaid bod yn glir, er mor bryderus yw\u2019r datblygiadau yma, eu bod ymhell ar hyn o bryd o\u2019r agweddau totalitariaeth yr 20fed ganrif a welodd cymhathu\u2019r gymdeithas (dan Hitler a Stalin) yn gyfan gwbl gan lywodraeth a\u2019u heddluoedd cudd.<\/p>\n<p>At ei gilydd, felly, ymddengys yn amlwg i ddweud nid ffasgiaeth Hitler na Mussolini &#8211; na Jordan na Moseley yn hynny o beth \u2013 a welwn yn ffigwr Farage na Thrump heddiw.\u00a0 Fodd bynnag mae\u2019r pwyntiau cyswllt a nodweddion hanfodol yn ddigonol i ddweud ein bod ni\u2019n wynebu mae\u2019n addas i\u2019w adnabod fel gwrthchwyldro neoffasgaidd ar ffurf mudiad gwerin-ddyrchafol newydd, llai eithafol.<\/p>\n<p><strong>Lladd yn llariaidd<\/strong><\/p>\n<p>I droi at y cwestiwn pwysicaf, felly, beth yw goblygiadau ymarferol hyn oll? Wel, yn gyntaf dydw i ddim yn arddel bloeddio yn ddiddiwedd bod Reform yn neoffasgwyr.\u00a0 Erbyn hyn dydw i ddim yn gweld bod hynny\u2019n dacteg effeithiol,\u00a0 Ond eto gyd mae\u2019n bwysig cofio \u00e2 pha fath o blaid rydym yn ymgiprys, o ran bod yn gadarn yn ein hegwyddorion, ac yn ein dealltwriaeth o natur y bygythiad.<\/p>\n<p>Yn hynny o beth gall cydnabod Farage fel neo-ffasgydd a bod yn llafar am y ffaith o bryd i\u2019w gilydd fod yn bwysig, a pheidio \u00e2 gadael ei gefnogwyr i wadu hyn (na chwaith y sefydliadau sy\u2019n cynnig platfform iddo). Yn ail, rhaid derbyn, yn enwedig o ystyried ei sefyllfa fel unben i Reform (sydd yn gwmni heb unrhyw strwythurau mewnol democrataidd, ymddengys), bod y Blaid felly, o ran ei phersonoliaeth gorfforaethol a\u2019i brand, o anghenraid yn neoffasgaidd. Mae hyn oll yn ddigon clir.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, ym mae ychydig yn fwy cymhleth o safbwynt deall sefyllfa aelodau Senedd a chyffredin y Blaid, a\u2019i chefnogwyr. Y pwynt pwysig, syml, yw y byddant oll yn amrywio. Bydd rhai fydd eu hunain yn neoffasgaidd eu safbwynt &#8211; os nad yn fwy traddodiadol ffasgaidd &#8211; ond bydd y rheiny yn y lleiafrif, ac mae\u2019n hynod bwysig cofio hynny er mwyn osgoi bardduo pawb. Er enghraifft, mae\u2019n berffaith glir o ran ei gefndir a\u2019i ieithwedd nad yw Dan Thomas yn neoffasgydd wrth reddf. Ac eto mae rhaid hefyd pwysleisio yn ei achos ef a phawb arall nad sy\u2019n ymlynu at y duedd yma, eu bod o anghenraid yn cyfrannu at barhad a lledaenu gwleidyddiaeth o\u2019r fath, yn enwedig trwy\u2019r pwyslais di-baid ar droi mewnfudwyr mewn i\u2019r bwch dihangol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r amwysedd hwn o safbwynt daliadau yn ystyriaeth dactegol o ran eu gwrthwynebu, yn enwedig am eu bod mor niferus.\u00a0 Oherwydd lle mae yn wahaniaeth barn mae yna wastad cyfleoedd i greu rhaniadau, enwedig ymhlith endid cymharol newydd heb diwylliant nac ideoleg sefydlog ac sy\u2019n ymddangos fel criw brith sy\u2019n amrywio o ffrindiau i eithafwyr i gyn-dor\u00efaid parchus gydag addysg Caergrawnt tu cefn iddynt (ac un ohonynt yn Sarah Cooper-Lesadd i weld yn alluog).<\/p>\n<p>Yn hynny o beth difyr iawn oedd gweld Gwyn Williams yr Aelod Plaid Cymru dros G\u0175yr Abertawe yn <a href=\"https:\/\/nation.cymru\/news\/call-made-for-mss-to-publicly-denounce-far-right-group-voice-of-wales\/\">cynnig sefyll ochr yn ochr \u00e2 Francesca O\u2019Brien<\/a> Reform yn wyneb unrhyw ganlyniadau gwenwynig o ymddihatru \u00e2\u2019i chysylltiadau gyda <em>Voice of Wales. <\/em>Does dim lle imi gwestiynu diffuantrwydd y cynnig, ond ganddo\u2019r canlyniad effeithiol o naill ai gweld Reform yn ymbellhau o\u2019r math o gysylltiad sydd yn llygaid nifer yn eu gwneud yn ddeniadol a mwy gwrth-sefydliadol, neu ar y llaw arall yn atgyfnerthu perthynas sydd yn mynd i fod yn achos anesmwythodd os nad aflonyddu ymysg cyd-aelodau.<\/p>\n<p>Wele yn y weithred hon felly clem ynghylch sut i amlygu a manteisio ar y tensiwn elfennol hwn (yn yr un modd y mae pob un blaid fawr gyda\u2019u croestyniadau mewnol, yn achos Plaid Cymru rhwng y chwith, canol a\u2019r de) gall mewn amser creu trafferthion ymysg eu cefnogwyr ond yn fwy na hynny gorfodi chwalfa fewnol.\u00a0 Yn hytrach felly na rhyw ddilorni a chollfarnu, mater o geisio lladd yn llariaidd yw hyn trwy eu gorfodi i feddalu i\u2019r graddau eu bod yn esblygu tu hwnt i\u2019r tueddiadau neoffasgaidd, troi\u2019n geidwadwyr mwy traddodiadol, a thrwy hynny mae\u2019n debyg colli nifer o\u2019r aelodau mwy eithafol.<\/p>\n<p><strong>Adfer Sosialaeth, Nid Prydain<\/strong><\/p>\n<p>Wrth gwrs, mae\u2019n bosib bydd ffactor allanol arall yn gorfodi\u2019r mater tipyn yn gynt nag unrhyw dacteg o\u2019r fath.\u00a0 S\u00f4n yr wyf am Restore Britain. Eisoes rydym wedi clywed si gan yr <a href=\"https:\/\/nation.cymru\/news\/rupert-lowe-confirms-nation-cymru-story-about-reform-mss-wanting-to-defect-to-his-restore-britain-party\/\">arweinydd Rupert Lowe<\/a> bod o leiaf 5 o aelodau Senedd Reform wedi bod yn chwarae gyda\u2019r syniad o wrthgilio i\u2019w blaid ef (sydd mwy neu lai, mewn ffordd anuniongyrchol, yn bosib o dan y rheolau newydd).<\/p>\n<p>Ar yr olwg gyntaf gall hwn fod yn ganlyniad dymunol iawn i Blaid Cymru a\u2019r sawl sy\u2019n gwrthwynebu Reform.\u00a0 Fodd bynnag, rhaid pwyso a mesur hyn yn erbyn effaith criw bach o neoffasgwyr dilyffethair yn cael platfform yn y Senedd i dynnu\u2019r disgwrs ymhellach tuag at neoffasgiaeth, ac o edrych ymlaen at yr etholiad nesaf, y posibiliad o ymchwydd pellach i\u2019r dde eithafol os bydd modd i\u2019r ddwy blaid rywsut dod i delerau digonol i beidio \u00e2 chwalu ei gilydd. Nid yw clymblaid ddieflig o\u2019r fath yn Llywodraethu tu hwnt i reswm, gwaetha\u2019r modd.<\/p>\n<p>Bydd y posibiliad hynny, wrth gwrs, yn dibynnu i raddau ar lwyddiant Plaid yn y pedair blynedd nesaf.\u00a0 Sydd yn ein dychwelyd at y pwynt sylfaenol sef nad yw bygythiad neoffasgiaeth am gilio nes bod y gyfundrefn elw wedi dofi eto\u2019n ddigonol i gynnig cysur digonol i\u2019n cymunedau.\u00a0 Er mwyn gwneud hynny mae gofyn gwella amgylchiadau\u2019r tlotaf yn ymarferol tra hefyd creu gweledigaeth drawsnewidiol o sosialaeth gymunedolaidd sydd yn cydio\u2019n ddigonol yn nhrwch y boblogaeth, fel eu bod wedi argyhoeddi nad lladd ar yr \u2018arall\u2019 yw\u2019r ateb amlwg i\u2019n problemau.<\/p>\n<p>Yn hynny o beth, mae\u2019n werth cofio pan yr oedd J.R. Jones yn rhagweld y gwrthchwyldro fel ymateb i argyfwng y gyfundrefn elw (h.y. cyfalafiaeth), roedd yn ategu sawl esboniad o wleidyddiaeth ffasgaidd fel amddiffynfa yn erbyn methiannau\u2019r system honno.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l yr esboniadau yma, mae Ffasgiaeth yn ffordd i\u2019r dosbarth ariannog ddatrys yr argyfwng: mae\u2019n \u2018falf ollwng\u2019 sydd yn arallgyfeirio llid y bobl tuag at y bwch dihangol gan gynnig chwedl yr hunaniaeth genedlaethol yn hytrach na\u2019r freuddwyd gyfalafol o gyfoeth; trwy ei chefnogi gall yr elit cyfalafol dofi undebau, rhewi tal, a defnyddio trais (neu\u2019r bygythiad o drais) i gynnal y system yn wyneb protest; mae\u2019n diogelu elw\u2019r corfforaethau trwy ymyrraeth y wladwriaeth a chwalu agweddau democrataidd rhyddfrydol y drefn gyfalafol; ac yn \u00f4l rhai megis y meddyliwr gwrthdrefedigaethol Aim\u00e9 Cesaire, mater o droi\u2019r trais, hiliaeth, dwyn ac echdynnu trefedigaethol yn fewnol ydyw pan mae tiriogaethau a marchnadoedd rhyngwladol wedi\u2019u dihysbyddu neu ddymchwel.<\/p>\n<p>Does dim gofyn sylw pellach er mwyn amlygu perthnasedd hyn oll i\u2019n sefyllfa gyfredol \u00a0(er mae\u2019n ormod o demtasiwn peidio gofyn onid yw\u2019r pwynt olaf yn canu clychau Brexit?). Yn hynny o beth, daw\u2019r hyn sydd ei angen heddiw yn amlycach fyth.<\/p>\n<p>I\u2019n gosod ar y llwybr i waredigaeth, bydd rhaid i Blaid Cymru bod yn barod i ymgiprys gyda\u2019u rhaniadau mewnol eu hunain, a bod y mwy gofalus yn eu plith yn derbyn mewn cyfnod o\u2019r fath bod y gwrthchwyldro Ffasgaidd J.R. Jones yn mynd a ni ar garlam tuag at farbariaeth, oni roddir yr awenau i sosialaeth, a grym ei gweledigaeth.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cAc y mae yma inni rybudd ofnadwy. Canys pan ddyfnha clwyf marwol y gyfundrefn elw hyd bwynt na ellir mo\u2019i doctora hi mwyach, fe eill yn hawdd ein bod ni\u2019n &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Ai Reform yw\u2019r Ffasgwyr yn y Senedd \u2013 ac A Oes Ots?&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":1666,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1665","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Ai Reform yw\u2019r Ffasgwyr yn y Senedd \u2013 ac A Oes Ots? - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ai Reform yw\u2019r Ffasgwyr yn y Senedd \u2013 ac A Oes Ots? - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"\u201cAc y mae yma inni rybudd ofnadwy. Canys pan ddyfnha clwyf marwol y gyfundrefn elw hyd bwynt na ellir mo\u2019i doctora hi mwyach, fe eill yn hawdd ein bod ni\u2019n &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Ai Reform yw\u2019r Ffasgwyr yn y Senedd \u2013 ac A Oes Ots?&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-06-13T15:44:09+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Senedd.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"960\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"638\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Huw Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Huw Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"15 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/\"},\"author\":{\"name\":\"Huw Williams\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\"},\"headline\":\"Ai Reform yw\u2019r Ffasgwyr yn y Senedd \u2013 ac A Oes Ots?\",\"datePublished\":\"2026-06-13T15:44:09+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/\"},\"wordCount\":5640,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Senedd.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/\",\"name\":\"Ai Reform yw\u2019r Ffasgwyr yn y Senedd \u2013 ac A Oes Ots? - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Senedd.jpg\",\"datePublished\":\"2026-06-13T15:44:09+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Senedd.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Senedd.jpg\",\"width\":960,\"height\":638},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Ai Reform yw\u2019r Ffasgwyr yn y Senedd \u2013 ac A Oes Ots?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\",\"name\":\"Huw Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Huw Williams\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ai Reform yw\u2019r Ffasgwyr yn y Senedd \u2013 ac A Oes Ots? - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Ai Reform yw\u2019r Ffasgwyr yn y Senedd \u2013 ac A Oes Ots? - undod","og_description":"\u201cAc y mae yma inni rybudd ofnadwy. Canys pan ddyfnha clwyf marwol y gyfundrefn elw hyd bwynt na ellir mo\u2019i doctora hi mwyach, fe eill yn hawdd ein bod ni\u2019n &hellip; Parhau i ddarllen \"Ai Reform yw\u2019r Ffasgwyr yn y Senedd \u2013 ac A Oes Ots?\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2026-06-13T15:44:09+00:00","og_image":[{"width":960,"height":638,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Senedd.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Huw Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Huw Williams","Est. reading time":"15 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/"},"author":{"name":"Huw Williams","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b"},"headline":"Ai Reform yw\u2019r Ffasgwyr yn y Senedd \u2013 ac A Oes Ots?","datePublished":"2026-06-13T15:44:09+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/"},"wordCount":5640,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Senedd.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/","name":"Ai Reform yw\u2019r Ffasgwyr yn y Senedd \u2013 ac A Oes Ots? - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Senedd.jpg","datePublished":"2026-06-13T15:44:09+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Senedd.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Senedd.jpg","width":960,"height":638},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/06\/13\/ai-reform-ywr-ffasgwyr-yn-y-senedd-ac-a-oes-ots\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Ai Reform yw\u2019r Ffasgwyr yn y Senedd \u2013 ac A Oes Ots?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b","name":"Huw Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Huw Williams"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1665","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1665"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1665\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1668,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1665\/revisions\/1668"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1666"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1665"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1665"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1665"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}