{"id":1819,"date":"2026-08-05T01:32:36","date_gmt":"2026-08-05T00:32:36","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1819"},"modified":"2026-08-05T02:01:44","modified_gmt":"2026-08-05T01:01:44","slug":"tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/","title":{"rendered":"Tu Hwnt i Blair: Cymru ac Argyfwng y Wladwriaeth Brydeinig"},"content":{"rendered":"<p><em>Drwy brism traethawd Tony Blair, mae&#8217;r beirniad diwylliannol, yr Athro Daniel G. Williams, yn myfyrio ar oblygiadau penodiad Stephen Kinnock yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.<\/em><\/p>\n<p>Yn ddiweddar, nododd Richard Wyn Jones y gwrthdywediad rhyfedd sydd wrth galon penodiadau cyfansoddiadol diweddaraf Andy Burnham. Ar yr union foment y daw Prif Weinidog i&#8217;r swydd sy&#8217;n derbyn bod datganoli wedi dod yn nodwedd sefydledig o dirwedd wleidyddol Prydain, mae dau amheuwr hirhoedlog o&#8217;r setliad datganoli &#8211; Stephen Kinnock fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Chris Bryant fel Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon &#8211; wedi cael eu penodi i\u2019r union adrannau sydd yn ymwneud \u00e2 rheoli cyfansoddiad datganoledig Prydain. Mae&#8217;r eironi yn anodd i\u2019w anwybyddu. Mae&#8217;r ddau ddyn yn perthyn i&#8217;r traddodiad Blairaidd o fewn Llafur: diwylliant gwleidyddol sydd yn aml wedi siarad iaith diwygio cyfansoddiadol, tra&#8217;n parhau i fod ynghlwm yn reddfol ag awdurdod canolog Prydain.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, mae hanes hir o ddefnyddio&#8217;r Swyddfa Gymreig &#8211; ac yn ddiweddarach Swyddfa Cymru &#8211; fel modd o gydbwyso carfannau mewnol. Ymddiried mewn ceidwadwyr Un Genedl fel Peter Walker oedd tuedd Margaret Thatcher; defnyddiodd Tony Blair y swydd er mwyn cynnig lle i fynegiant gweledigaeth gyfansoddiadol fwy radical Ron Davies. Ond mae penodiad Kinnock yn dod ar adeg eithaf gwahanol. Nid ar adeg penllanw Blairiaeth y mae&#8217;n cyrraedd, pan oedd ei hyder yng ngallu Prydain i hunan-adnewyddu yn ymddangos yn ddilys, ond ar \u00f4l i&#8217;r rhagdybiaethau y seiliwyd y prosiect hwnnw arnynt ddod o dan bwysau parhaus oherwydd argyfwng ariannol, Brexit, darnio cyfansoddiadol, argyfwng ecolegol ac, yn fwyaf diweddar, argyfwng moesol dwys Gaza. Felly mae traethawd diweddar Blair ar ddyfodol Prydain yn haeddu sylw nid oherwydd ei fod yn cynnig llwybr i\u2019w ganlyn, ond oherwydd ei fod yn datgelu &#8211; efallai&#8217;n gliriach nag unrhyw feirniadaeth &#8211; y rhagdybiaethau deallusol sy&#8217;n parhau\u2019n sail i&#8217;r asgell hon o&#8217;r Blaid Lafur. Er mwyn deall yr hyn mae Kinnock a Bryant yn ei gynrychioli&#8217;n gyfansoddiadol, mae&#8217;n werth dychwelyd at Blair ei hun.<\/p>\n<p>Rhaid wrth ddychwelyd at ei <u>draethawd <\/u>o fewn y cyd-destun hwn. Fe&#8217;i dehonglwyd i raddau helaeth drwy ystrydebau cyfarwydd y sylwebaeth ar San Steffan: cerydd i Keir Starmer, cyfiawnhad o foderneiddio Llafur Newydd, ac ymgais i adennill y &#8220;ganol radical&#8221; o wladwriaethiaeth [<em>statism<\/em>] Llafur a\u2019r gwrthryfel asgell dde-boblyddol. O&#8217;i ddarllen felly, ymddangosodd y darn fel pennod arall yn y ddadl ddiddiwedd dros ddyfodol Llafur. Ond mae&#8217;r fframio hwn yn methu&#8217;r hyn yr oedd y traethawd yn ei ddatgelu fwyaf. Mae ymyrraeth Blair yn llai pwysig am yr hyn y mae&#8217;n ei ddweud am Lafur nag am yr hyn y mae&#8217;n ei ddatgelu am ludded a llesgedd dychymyg gwleidyddol Prydain ei hun.<\/p>\n<p>Oblegid mae traethawd Blair wedi&#8217;i aflonyddu gan wrthddywediad a adlewyrchir ym mydolwg Kinnock a Bryant, ac mae&#8217;n cynnig y datganiad cliriaf o&#8217;i ramadeg deallusol parhaus. Fe\u2019i cyflwynir fel rhywbeth gwrth-hiraethus, sy&#8217;n canolbwyntio ar y dyfodol ac yn effro&#8217;n dechnolegol. Deallusrwydd artiffisial, ail-alinio geo-wleidyddol, cynnydd Tsieina ac India, darnio&#8217;r cyfryngau, cwymp strwythurau pleidiol traddodiadol: mae&#8217;r rhain yn ffurfio tirwedd benodol y ddadl. Mae Blair yn mynnu dro ar \u00f4l tro fod yn rhaid i wleidyddiaeth addasu i fyd wedi&#8217;i drawsnewid. Ac eto mae&#8217;r ffurf wleidyddol y mae&#8217;n dychmygu&#8217;r addasiad hwn drwyddi yn parhau i fod yn hynod gyfarwydd. Tu \u00f4l rethreg arloesedd mae ffantasi cyfarwydd yn llechu: Prydain fel actor strategol cydlynol, sy&#8217;n gallu adnewyddu o&#8217;r canol trwy ei gymhwysedd wrth reoli, cynghreiriau yr Iwerydd, twf economaidd a diwygio gwladwriaeth decnocrataidd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r ffaith bod Blair yn anwybyddu cenedlaetholdeb Cymru a&#8217;r Alban yn symptom o&#8217;r hyn y mae ei fydolwg yn ei fethu. Mae ef, a llawer o&#8217;r wasg fetropolitan Seisnig, yn parhau i feddwl yn nhermau &#8220;Brydain&#8221; ei hun fel goddrych gwleidyddol diamheuol sy&#8217;n gallu adnewyddu&#8217;n strategol. Ond mae&#8217;r pwysau allgyrchol o fewn yr Undeb bellach ymhlith ffeithiau anwadadwy bywyd gwleidyddol yr ynysoedd hyn. Mae&#8217;r Alban wedi gweld trawsnewidiad cyfansoddiadol dros y degawd diwethaf. Yng Nghymru, mae goruchafiaeth hanesyddol Llafur wedi hollti. Mae Gogledd Iwerddon yn gweithredu fwyfwy yn \u00f4l rhesymeg wleidyddol sy&#8217;n annealladwy i raddau helaeth o fewn fframweithiau Prydain. Efallai bod Reform yn mynegi hyder neo-ymerodrol yn y wladwriaeth Brydeinig, ond mewn gwirionedd mae&#8217;n symptom o ddiffyg ymddiriedaeth gynyddol tuag ati. Yr hyn na all Blair ei gydnabod yn llawn yw nad argyfwng polisi yn unig yw argyfwng Prydain mwyach. Mae&#8217;n argyfwng ffurfiant gwleidyddol.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1821 aligncenter\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/OIP-197x300.jpg\" alt=\"\" width=\"150\" height=\"228\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/OIP-197x300.jpg 197w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/OIP.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 150px) 100vw, 150px\" \/><\/p>\n<p>Cydnabu Tom Nairn hyn ddegawdau yn \u00f4l yn <em>The Break-Up of Britain<\/em>. Dadleuodd Nairn fod y wladwriaeth Brydeinig wedi goroesi moderniaeth nid trwy ddemocrateiddio ei hun ond trwy allanoli ei gwrthddywediadau trwy ymerodraeth.\u00a0 Y canlyniad oedd diwylliant gwleidyddol hynafol wedi ei or-ganoli, a fyddai&#8217;n methu \u00e2 chynhyrchu cyfreithlondeb democrataidd unwaith y byddai cydlyniant imperialaidd yn chwalu. Mae traethawd Blair, er gwaethaf ei holl iaith am ddeinameg a moderneiddio, yn parhau i fod yn gaeth o fewn yr union fframwaith \u00f4l-imperialaidd hwn. Rhaid i&#8217;r wladwriaeth datblygu\u2019n fwy effeithiol, yn fwy strategol, yn fwy ystwyth yn dechnolegol &#8211; ond mae strwythur cyfansoddiadol y wladwriaeth ei hun yn parhau, heb ei gwestiynu.<\/p>\n<p>Mae Blair yn trin &#8220;gallu&#8217;r wladwriaeth&#8221; fel pe bai&#8217;n amlwg gyfystyr ag adnewyddu democrataidd. Ond nid yw capasiti a chyfreithlondeb yr un peth. Gall gwladwriaeth ddod yn fwy effeithlon wrth ddod yn llai ystyrlon yn ddemocrataidd. Yn wir, mae gymaint o&#8217;r argyfwng presennol ar draws democratiaethau&#8217;r Gorllewin yn deillio&#8217;n union o&#8217;r bwlch cynyddol rhwng effeithiolrwydd tecnocrataidd a uniaethu ddemocrataidd ar ran yr etholwyr. Mae dinasyddion yn profi gwleidyddiaeth fwyfwy nid fel hunanlywodraeth ar-y-cyd, ond fel gweinyddiaeth reolaeth-o-bell.<\/p>\n<p>Mae Blair yn amgyffred yr argyfwng hwn yn ddigon clir o ran ei symptomau. Mae&#8217;n cydnabod cwymp ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth gonfensiynol. Mae&#8217;n deall nad yw hen strwythurau&#8217;r pleidiol bellach yn ennyn teyrngarwch emosiynol. Mae&#8217;n gweld bod ap\u00eal ffigurau fel Donald Trump, Giorgia Meloni neu Javier Milei yn deillio&#8217;n rhannol o&#8217;u parodrwydd ymddangosiadol i anwybyddu cyfyngiadau sefydliadol. Ac eto mae&#8217;n parhau i ddehongli&#8217;r datblygiadau hyn yn bennaf trwy lens effeithiolrwydd llywodraethol. Mae poblyddiaeth yn dod i&#8217;r amlwg, yn ei gyfrif ef, oherwydd bod gwleidyddion confensiynol yn &#8220;siglo yn yr awel,&#8221; yn methu \u00e2 datrys problemau gyda phendantrwydd digonol.<\/p>\n<p>Ond efallai nad gwendid llywodraethol yn unig yw&#8217;r mater dyfnach. Efallai mai cwymp ymlyniad democrataidd i&#8217;r canol gwleidyddol ei hun ydyw.<\/p>\n<p>Yma, mae sylw Blair am etholiad America 2024 yn ddadlennol. &#8220;Pe bai&#8217;r Democratiaid wedi dewis ymgeisydd canol cryf,&#8221; ysgrifennodd, &#8220;byddai wedi bod yn llawer agosach.&#8221; Ac eto roedd Kamala Harris, yn \u00f4l unrhyw fesur hanesyddol adnabyddadwy, eisoes yn ymgeisydd canol rhyddfrydol. Yn gymedrol yn economaidd, yn uniongred yn sefydliadol, a&#8217;i golygon polisi tramor tua&#8217;r Iwerydd, yn agos at America gorfforaethol, ac yn ofalus mewn perthynas ag ailddosbarthu strwythurol, prin fod Harris yn cynrychioli&#8217;r chwith gwrthryfelgar. Felly mae sylw Blair yn codi cwestiwn anochel: beth yn union mae&#8217;n ei olygu wrth &#8220;ganol&#8221;?<\/p>\n<blockquote>\n<p style=\"text-align: center;\"><em>Fodd bynnag, yr hyn sy&#8217;n drawiadol ac yn ddamniol yw absenoldeb geirfa foesol wrth drafod trais y Gorllewin ei hun.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n<p>Ni all yr ateb fod yn bolisi cymedrol yn unig. Yn hytrach, mae &#8220;canol&#8221; Blair yn ymddangos fwyfwy fel categori diwylliannol a sefydliadol: rheolaethol, gweithredol, <em>Atlanticist<\/em>, tecnocrataidd, yn cynffonna i gyfalaf, wedi&#8217;i gyfyngu&#8217;n emosiynol, ac yn amgyffredadwy i rym y sefydliad. A bod braidd yn angharedig: gwrywaidd a gwyn. Mae&#8217;r categori yn cyflwyno ei hun fel rhesymoliaeth gyffredinol, wrth gario rhagdybiaethau penodol yn hanesyddol ynghylch pwy sy&#8217;n ymddangos yn gredadwy o fewn systemau a luniwyd gan hierarchaeth dosbarth, cof imperialaidd a pharhad sefydliadol yr elit. Dyma un rheswm pam mae&#8217;r canol cyfoes yn aml yn ei chael hi&#8217;n anodd deall ei argyfwng cyfreithlondeb ei hun. Mae&#8217;n camgymryd yr hyn sydd adnabyddus yn sefydliadol am gyffredinolrwydd gwleidyddol.<\/p>\n<p>Nid oes yr un enghraifft o le mae&#8217;r llesgedd moesol hwn yn gliriach nag yn nhriniaeth Blair o bolisi tramor. Drwy gydol y traethawd, mae iaith realaeth, angenrheidrwydd strategol a rheoli cynghreiriau yn drech. Rhaid i Brydain aros yn agos at yr Unol Daleithiau. Rhaid iddi gadw cydlyniant NATO. Rhaid iddi ymddwyn fel p\u0175er canol cyfrifol o fewn trefn geo-wleidyddol ansefydlog. Mae hyd yn oed cenedlaetholdeb cymhellol Donald Trump yn cael ei ddehongli llai fel \u2018rhwyg\u2019 na rhyw fath o ymateb i ddydd y farn. Mae&#8217;r pwyslais yn disgyn yn gyson ar b\u0175er a lleoliad.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, yr hyn sy&#8217;n drawiadol ac yn ddamniol yw absenoldeb geirfa foesol wrth drafod trais y Gorllewin ei hun. Dim ond yn anuniongyrchol y mae Gaza yn ymddangos drwy amddiffyniad Blair o gynghreiriau strategol a&#8217;i feirniadaeth o betruster Prydain ynghylch gweithredu milwrol America yn erbyn Iran. Prin y mae dinistr sifil, trychineb dyngarol ac erydiad cyfraith ryngwladol yn hysbys fel cwestiynau gwleidyddol canolog. Yma amlygir rhesymeg ddyfnach Blairiaeth. Mae hawliadau moesegol yn parhau i fod yn israddol yn y pen draw i gydlynu geo-wleidyddol a swyddogaeth y wladwriaeth.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r culhau moesol hwn yn un rheswm pam mae cenedlaethau iau yn amau&#8217;r ganol ryddfrydol fwyfwy. Ymddengys bod egwyddorion dyngarol yn cael eu cymhwyso&#8217;n ddetholus yn \u00f4l cyfleustra strategol. Mae iaith gwerthoedd cyffredinol yn goroesi&#8217;n rhethregol o fewn strwythurau anghyfartal iawn o b\u0175er byd-eang. Mae&#8217;r gwrthddywediadau moesol a ddatgelwyd gyntaf gan Irac yn cyrraedd eu ffurf derfynol yn Gaza, lle mae iaith ymyrraeth ddyngarol a rhyngwladoliaeth ryddfrydol Blairiaeth yn cwympo i <em>apologia<\/em> agored dros b\u0175er y Gorllewin.<\/p>\n<p>Mae gwrthddywediad cyfochrog oddi fewn i economeg ddomestig Blair. Dro ar \u00f4l tro yn ei draethawd, mae&#8217;n trin twf economaidd fel pe bai&#8217;n rhesymegol blaenori cyfiawnder cymdeithasol: twf yn gyntaf, ailddosbarthu yn ddiweddarach. Dyma oedd rhagdybiaeth sylfaenol Llafur Newydd. Byddai deinameg y farchnad yn cynhyrchu&#8217;r cyfoeth y gellid ariannu cynhwysiant cymdeithasol drwyddo. Ac eto ar \u00f4l yr argyfwng ariannol, cyni, Brexit, chwalfa ecolegol, dad-ddiwydiannu, cwymp rhanbarthol a&#8217;r argyfwng tai, mae llai a llai o bobl yn credu bod twf o anghenraid am gynhyrchu cyfreithlondeb democrataidd neu gydlyniant moesol.<\/p>\n<blockquote>\n<p style=\"text-align: center;\"><em>[Mae] cenedlaetholdeb dinesig Cymru a&#8217;r Alban, ar eu ffurfiau deallusol mwyaf sylweddol yn cynrychioli ymdrechion i ddychmygu ffurfiau democrataidd \u00f4l-ymerodrol sy&#8217;n ddigonol ar gyfer cymdeithasau rhyngwladol, sydd yn fregus yn ecolegol ac anghyfartal yn economaidd. <\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n<p>Felly, byddai beirniadaeth gyfoes &#8211; o safbwynt a wnaed yn bosibl gan ymddangosiad Plaid Cymru mewn Llywodraeth &#8211; yn mynnu nad y cwestiwn bellach yw a yw Prydain yn cynhyrchu digon o dwf yn unig. Mae&#8217;r cwestiwn dyfnach yn ymwneud \u00e2 rheolaeth: pwy sy&#8217;n rheoli cyfoeth, seilwaith, tai, ynni, tir a ph\u0175er democrataidd ei hun? Mae traethawd Blair yn parhau i fod yn rhyfedd dawel ar berchnogaeth. Mae&#8217;n dathlu marchnadoedd, entrepreneuriaid, trawsnewid technolegol a chystadleuaeth wrth osgoi i raddau helaeth y cronni strwythurol o b\u0175er economaidd sydd wedi cyd-fynd \u00e2 globaleiddio neo-ryddfrydol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r distawrwydd hwn yn arbennig o ddifrifol o amgylch ecoleg. Mae Blair yn gwrthod ymrwymiadau hinsawdd gref i bob pwrpas ar y sail bod allyriadau Prydain yn gymharol fach a bod rhaid blaenoriaethu bod yn gystadleuol o safbwynt ynni. Ond mae&#8217;r ddadl hon, wedi&#8217;i chyffredinoli, yn drychinebus. Gall pob cenedl honni bod ei hallyriadau wedi&#8217;u cyfyngu&#8217;n gymesur. Dim ond trwy gyfrifoldeb rhyngwladol cyfunol y mae gwleidyddiaeth hinsawdd yn gweithredu. Y rhesymeg y mae Blair yn ei defnyddio yw&#8217;r union resymeg sy&#8217;n gwneud gweithredu ecolegol ar y cyd yn amhosibl: pob gwladwriaeth yn eithrio ei hun yn enw realaeth tra bod y canlyniad cyfansawdd yn golygu dinistr planed.<\/p>\n<p>Yn lle hynny, yr hyn sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg o\u2019r &#8220;cyrion&#8221; y mae Blair yn eu hesgeuluso yw nid encilio o foderniaeth, ond amlinelliad o foderniaeth hollol wahanol. Nid yw cenedlaetholdeb dinesig Cymru a&#8217;r Alban, ar eu ffurfiau deallusol mwyaf sylweddol, yn ddadleuon dros ddatganoli gweinyddol neu gydnabyddiaeth ddiwylliannol. Maent yn cynrychioli ymdrechion i ddychmygu ffurfiau democrataidd \u00f4l-ymerodrol sy&#8217;n ddigonol ar gyfer cymdeithasau rhyngwladol, sydd yn fregus yn ecolegol ac anghyfartal yn economaidd. Mae eu pwysigrwydd yn benodol gorwedd yn eu harwahanrwydd o dybiaethau blinedig y canol gwladwriaethol Prydain.<\/p>\n<p>Dyma pam mae gwleidyddiaeth Plaid Cymru yn bwysig y tu hwnt i Gymru ei hun. O fewn trafodaeth San Steffan, mae gwleidyddiaeth Cymru yn aml yn cael ei thrin fel rhywbeth ymylol, taleithiol neu eilradd i wleidyddiaeth &#8220;real&#8221; honedig Prydain. Ond efallai\u2019n benodol ar ymylon gwladwriaeth Prydain y mae ffurfiau democrataidd newydd yn dod i\u2019r amlwg gyntaf. Mae Cymru&#8217;n mynegi gwleidyddiaeth sy&#8217;n llai ynghlwm wrth fri milwrol, yn buddsoddi llai mewn hiraeth imperialaidd, yn fwy ymrwymedig i les cymdeithasol, yn fwy amheus o uniongrededd yr Iwerydd ac yn fwy agored i ffurfiau o gydweithrediad Ewropeaidd nad ydynt yn gyfyngedig i integreiddio\u2019r farchnad yn unig.<\/p>\n<p>Mae Blair yn dal i ddychmygu Ewrop yn bennaf trwy fframwaith cystadleuaeth strategol a chydlynu economaidd. Ond mae Ewropeaeth \u00f4l-sofran yn golygu rhywbeth gwahanol o safbwynt cenhedloedd llai. Mae&#8217;n golygu cydweithrediad heb hierarchaeth imperialaidd; rhyngddibyniaeth ddemocrataidd yn hytrach na sofraniaeth ganolog; undod cymdeithasol y tu hwnt i&#8217;r wladwriaeth. Nid y cwestiwn sylfaenol yw sut mae Prydain yn ailymuno ag Ewrop fel p\u0175er o\u2019r canol wedi&#8217;i adfer. Y cwestiwn yw a yw cyfreithlondeb democrataidd yn yr ynysoedd hyn bellach yn dibynnu&#8217;n union ar lacio gafael cyfansoddiadol ac ideolegol y canol Prydeinig ei hun.<\/p>\n<p>Dyma&#8217;r rhaniad gwleidyddol dyfnach y mae traethawd Blair yn ei ddatgelu&#8217;n anfwriadol. Mae ei gwestiwn canolog yn parhau: sut gall Prydain adfer effeithiolrwydd o fewn trefn fyd-eang wedi&#8217;i thrawsnewid? Ond i lawer yng Nghymru a&#8217;r Alban, y cwestiwn brys yw: pa ffurfiau gwleidyddol sy&#8217;n gallu nid yn unig gynhyrchu twf neu daflunio p\u0175er, ond cynnal cyfreithlondeb democrataidd, lleddfu tlodi, ymgorffori cyfrifoldeb ecolegol a gosod egwyddor ddyngarol yng nghanol polisi tramor o fewn archipelago \u00f4l-ymerodrol? Mae penodiadau Stephen Kinnock a Chris Bryant i swyddogaethau Cymru a Gogledd Iwerddon yn dangos bod y tensiwn hwn yn parhau i fod yn arwyddocaol, oherwydd ei fod yn datgelu \u2013 er gwaethaf geiriau Burnham &#8211; dychymyg cyfansoddiadol neo-ymerodrol sy&#8217;n ymddangos fel petai\u2019n parhau i lywio dealltwriaeth Llafur o&#8217;r wladwriaeth amlwladol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Drwy brism traethawd Tony Blair, mae&#8217;r beirniad diwylliannol, yr Athro Daniel G. Williams, yn myfyrio ar oblygiadau penodiad Stephen Kinnock yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yn ddiweddar, nododd Richard Wyn Jones &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Tu Hwnt i Blair: Cymru ac Argyfwng y Wladwriaeth Brydeinig&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":74,"featured_media":1820,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1819","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v28.1 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Tu Hwnt i Blair: Cymru ac Argyfwng y Wladwriaeth Brydeinig - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Tu Hwnt i Blair: Cymru ac Argyfwng y Wladwriaeth Brydeinig - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Drwy brism traethawd Tony Blair, mae&#8217;r beirniad diwylliannol, yr Athro Daniel G. Williams, yn myfyrio ar oblygiadau penodiad Stephen Kinnock yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yn ddiweddar, nododd Richard Wyn Jones &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Tu Hwnt i Blair: Cymru ac Argyfwng y Wladwriaeth Brydeinig&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-08-05T00:32:36+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-08-05T01:01:44+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Neil_Kinnock_and_Tony_Blair_3-e1785890315385.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"806\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"642\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Daniel Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Daniel Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"13 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/05\\\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/05\\\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Daniel Williams\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/903e732917af212586ea576b7ef4bea2\"},\"headline\":\"Tu Hwnt i Blair: Cymru ac Argyfwng y Wladwriaeth Brydeinig\",\"datePublished\":\"2026-08-05T00:32:36+00:00\",\"dateModified\":\"2026-08-05T01:01:44+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/05\\\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\\\/\"},\"wordCount\":4401,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/05\\\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/08\\\/Neil_Kinnock_and_Tony_Blair_3-e1785890315385.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/05\\\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/05\\\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\\\/\",\"name\":\"Tu Hwnt i Blair: Cymru ac Argyfwng y Wladwriaeth Brydeinig - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/05\\\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/05\\\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/08\\\/Neil_Kinnock_and_Tony_Blair_3-e1785890315385.jpg\",\"datePublished\":\"2026-08-05T00:32:36+00:00\",\"dateModified\":\"2026-08-05T01:01:44+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/05\\\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/05\\\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/05\\\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/08\\\/Neil_Kinnock_and_Tony_Blair_3-e1785890315385.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/08\\\/Neil_Kinnock_and_Tony_Blair_3-e1785890315385.jpg\",\"width\":806,\"height\":642},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/05\\\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Tu Hwnt i Blair: Cymru ac Argyfwng y Wladwriaeth Brydeinig\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/07\\\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/07\\\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/undodcymru\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/undodcymru\",\"https:\\\/\\\/www.instagram.com\\\/undodcymru\\\/\",\"https:\\\/\\\/www.youtube.com\\\/channel\\\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/903e732917af212586ea576b7ef4bea2\",\"name\":\"Daniel Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/853f3f6b9a5e85ece99c11b7eb4c3bb9ca650347f4d46727777bf6e9658ee4e4?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/853f3f6b9a5e85ece99c11b7eb4c3bb9ca650347f4d46727777bf6e9658ee4e4?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/853f3f6b9a5e85ece99c11b7eb4c3bb9ca650347f4d46727777bf6e9658ee4e4?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Daniel Williams\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/cy\\\/author\\\/daniel-williams\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Tu Hwnt i Blair: Cymru ac Argyfwng y Wladwriaeth Brydeinig - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Tu Hwnt i Blair: Cymru ac Argyfwng y Wladwriaeth Brydeinig - undod","og_description":"Drwy brism traethawd Tony Blair, mae&#8217;r beirniad diwylliannol, yr Athro Daniel G. Williams, yn myfyrio ar oblygiadau penodiad Stephen Kinnock yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yn ddiweddar, nododd Richard Wyn Jones &hellip; Parhau i ddarllen \"Tu Hwnt i Blair: Cymru ac Argyfwng y Wladwriaeth Brydeinig\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2026-08-05T00:32:36+00:00","article_modified_time":"2026-08-05T01:01:44+00:00","og_image":[{"width":806,"height":642,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Neil_Kinnock_and_Tony_Blair_3-e1785890315385.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Daniel Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Daniel Williams","Est. reading time":"13 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/"},"author":{"name":"Daniel Williams","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/903e732917af212586ea576b7ef4bea2"},"headline":"Tu Hwnt i Blair: Cymru ac Argyfwng y Wladwriaeth Brydeinig","datePublished":"2026-08-05T00:32:36+00:00","dateModified":"2026-08-05T01:01:44+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/"},"wordCount":4401,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Neil_Kinnock_and_Tony_Blair_3-e1785890315385.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/","name":"Tu Hwnt i Blair: Cymru ac Argyfwng y Wladwriaeth Brydeinig - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Neil_Kinnock_and_Tony_Blair_3-e1785890315385.jpg","datePublished":"2026-08-05T00:32:36+00:00","dateModified":"2026-08-05T01:01:44+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Neil_Kinnock_and_Tony_Blair_3-e1785890315385.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Neil_Kinnock_and_Tony_Blair_3-e1785890315385.jpg","width":806,"height":642},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/05\/tu-hwnt-i-blair-cymru-ac-argyfwng-y-wladwriaeth-brydeinig\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Tu Hwnt i Blair: Cymru ac Argyfwng y Wladwriaeth Brydeinig"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/903e732917af212586ea576b7ef4bea2","name":"Daniel Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/853f3f6b9a5e85ece99c11b7eb4c3bb9ca650347f4d46727777bf6e9658ee4e4?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/853f3f6b9a5e85ece99c11b7eb4c3bb9ca650347f4d46727777bf6e9658ee4e4?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/853f3f6b9a5e85ece99c11b7eb4c3bb9ca650347f4d46727777bf6e9658ee4e4?s=96&d=mm&r=g","caption":"Daniel Williams"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/daniel-williams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1819","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/74"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1819"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1819\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1826,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1819\/revisions\/1826"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1820"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1819"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1819"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1819"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}