{"id":1828,"date":"2026-08-22T18:28:46","date_gmt":"2026-08-22T17:28:46","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1828"},"modified":"2026-08-22T18:28:46","modified_gmt":"2026-08-22T17:28:46","slug":"ffair-arfau-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Ffair Arfau yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Cyhoeddwyd bod Ffair Arfau dan y teitl \u2018Amddiffyn Diogelwch Gwytnwch Cymru\u2019 i\u2019w chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd ar 3-4 Medi 2026.<\/strong><\/p>\n<p>Mae Cymdeithas y Cymod yn gwrthwynebu\u2019r digwyddiad yn llwyr, ac yn gresynu fod Cymru yn gartref i weithgaredd sy\u2019n hyrwyddo y gallu i ladd ar raddfa ddiwydiannol.\u00a0 Dylid canslo y ffieiddbeth hwn ar fyrder.\u00a0 Credwn mai dyna ddymuniad y Mudiad Heddwch yng Nghymru gyfan.<\/p>\n<p>Yn ddiamau, mae Cymru ar groesffordd foesol ac economaidd.<\/p>\n<p>Bellach, mae gennym Lywodraeth newydd yn y Senedd dan arweiniad Plaid Cymru, a chyfle i newid cyfeiriad oddi wrth Economi Ryfel tuag at Economi Gynaliadwy.\u00a0 Dengys y digwyddiad hwn, a gefnogwyd yn y lle cyntaf gan Lywodraeth Llafur Cymru, ein bod fel gwlad am barhau i fod yn weision bach ufudd i\u2019r diwydiant lladd.\u00a0 Nid diwydiant amddiffyn mo hwn, ond diwydiant ymosod.<\/p>\n<p>A ydym am wlad sydd o ddifri am greu Cenedl Heddwch?\u00a0 Neu ydym ni am ddal i gefnogi y\u00a0 -Cymhleth Milwrol Ddiwydiannol (Military Industrial Complex) fel y gwnaeth Llywodraeth Cymru o\u2019r blaen?\u00a0 Nid yw\u2019r hyn a wyddom hyd yma yn argoeli newid cyfeiriad o bwys gan y Llywodraeth newydd.<\/p>\n<p>Mae yna gwestiynau hollol sylfaenol yn wynebu Llywodraeth Cymru, a holl aelodau\u2019r Blaid, am sut fath o Gymru mae nhw am i ni fod.\u00a0 A yw gwaddol Gwynfor, un o Heddychwyr mawr Cymru, i gael ei anghofio?\u00a0 Onid yw condemnio rhwydd ar ryfeloedd dramor tra\u2019n hyrwyddo y dulliau o alluogi\u2019r rhyfeloedd hynny yn rhagrithiol?<\/p>\n<p>Gwrthwynebu Ffair Arfau yng Nghaerdydd yn 2018 wnaeth Cymdeithas y Cymod a llawer o fudiadau eraill.\u00a0 Y tro hwnnw, condemniwyd y Ffair gan Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, ac mae nifer o Aelodau Senedd Plaid Cymru hefyd wedi condemnio digwyddiadau o\u2019r fath ers hynny.<\/p>\n<p>Gresynwn fod ein Llywodraeth yn cael ei restru fel un o noddwyr y Ffair Arfau hon.\u00a0 Yn \u00f4l adroddiadau \u2018roedd Adam Price, Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, i fod i annerch yn y digwyddiad.\u00a0 Deallwn bellach fod hyn yn anghywir, a\u2019i fod wedi gwrthod gwahoddiad i siarad.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae digon o amser wedi mynd heibio ers yr etholiad i\u2019r Llywodraeth wneud penderfyniad i wneud popeth posib i atal eu cefnogaeth i\u2019r Ffair Arfau.\u00a0 Wedi\u2019r cyfan, un o\u2019r cyd-drefnwyr, heblaw y Llywodraeth, yw General Dynamics Land Systems.\u00a0 Mae hwn yn is-gwmni i General Dynamics \u2013 sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r lladdfa yn Gaza y mae\u2019r Blaid wedi ei gondemnio.\u00a0 Cyd-drefnydd arall yw Gr\u0175p ADS, sy\u2019n gorff yn cynrychioli cwmn\u00efau arfau.\u00a0 Y cyd-drefnydd arall yw Business in Focus, a dywed ei Prif Weithredwr ei fod yn croesawu y cyfle i fod yn rhan o\u2019r ymdrech \u2018genedlaethol\u2019 (sgwn i pa \u2018genedl\u2019 sy\u2019 dan sylw?), gan gynnwys cyfleon masnachol i Glwstwr Amddiffyn a Diogelwch Cymru.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019n argoeli\u2019n dda pan ddeallwn\u00a0 fod Adam Price wedi bod i Sioe Awyr Farnborough yn ddiweddar; Sioe sy\u2019n cael ei redeg gan gwmni dan berchnogaeth Gr\u0175p ADS.\u00a0 Deallwn i Mr Price gael trafodaethau efo Lee Bruce, person sy\u2019n uchel yn y Gr\u0175p ADS.\u00a0 Yn \u00f4l Mr Bruce bu Mr Price ac yntau yn trafod: \u201cparhau cydweithio rhwng Llywodraeth, y diwydiant ac ADS\u201d, gan gynnwys ar y Fargen Twf Amddiffyn Cymru, sy\u2019n werth \u00a350 miliwn.\u00a0 Bwriad y Fargen yw cynyddu y diwydiant arfau yng Nghymru, gan gynnwys dronau, a galluogi cwmn\u00efau llai i fanteisio ar gyfleon yn y diwydiant.<\/p>\n<p>Cofiwn yn ogystal fod yr arddangoswyr yn y Sioe yn cynnwys cwmn\u00efau arfau o Israel, sef Elbit Systems, Rafael Advanced Defense Systems a Israel Aerospace Industries, sy\u2019n golygu fod presenoldeb Mr Price yn hyd yn oed llai derbyniol.<\/p>\n<p>Ymateb llefarydd ar ran y Llywodraeth i bresenoldeb Mr Price yn Farnborough oedd hyn:<\/p>\n<p><em>\u201cByddwn yn parhau i gyfathrebu gyda\u2019r sectorau awyr-ofod, amddiffyn, diogelwch, a gwytnwch cenedlaethol i gefnogi y miloedd o swyddi uchel-dechnoleg sy\u2019n talu\u2019n dda yng Nghymru, tra\u2019n hyrwyddo parch at hawliau dynol a chyfraith ryngwladol.\u00a0 Mae fframwaith amddiffyn moesol yn cael ei ddatblygu, gyda chymorth trafodaethau gyda cymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, a bydd yn tywys cysylltiad gyda\u2019r sector yn y dyfodol.\u201d<\/em><\/p>\n<p>Anodd credu bod disgwyl i ni goelio y ffasiwn ddatganiad sydd i bob pwrpas yn dweud:<\/p>\n<p><em>\u201cMae swyddi yn y diwydiant arfau yn cyfri mwy nag unrhyw ystyriaeth arall.\u00a0 Gallwn guddio y tu \u00f4l i hawliau dynol a chyfraith ryngwladol, er bod y ddeubeth wedi colli llawer o\u2019u hystyron bellach.\u201d<\/em><\/p>\n<p>Oni fyddai\u2019n llawer gwell i Lywodraeth Cymru chwilio am ffyrdd gwell o greu swyddi nac yn y diwydiant lladd?\u00a0 Oni ddylid chwilio am ffyrdd i ddad-filitareiddio Cymru, yn lle bodloni fod yna tua 50 o safleoedd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ein gwlad?\u00a0 Oni ddylem holi pam fod lladrad tir Epynt yn dal yn ein creithio?\u00a0 Bod Aberporth a Llanbedr yn feysydd arbrofi efo dronau milwrol?\u00a0 Bod peilotiaid yr Awyrlu yn y Fali yn cael eu hyfforddi gan Elbit Systems?\u00a0 A bod y ddibyniaeth economaidd ar y diwydiant angheuol hwn yn creu hinsawdd o ryfelgarwch, ac o ofni codi llais i wrthwynebu?<\/p>\n<p>Pam na chawn ni drafodaeth go iawn ar gynigion ardderchog CND Cymru \u2013 \u201c<a href=\"https:\/\/www.cndcymru.org\/cy\/tu-hwnt-ir-economi-ryfel-cynnig-cynaliadwy-i-gymru\/\">Tu Hwnt i\u2019r Economi Ryfel<\/a>\u201d\u00a0 sy\u2019n dangos y posibiliadau i ni.\u00a0 Gall sgiliau gweithwyr y diwydiant arfau gael eu defnyddio er lles \u2013 ac wrth gwrs creu swyddi newydd.\u00a0 Meddyliwch am ddiwydiannau gwyrdd, am warchod cynefinoedd a thrwy hynny atal llifogydd a lleihau y perygl o dannau.<\/p>\n<p>Wedi\u2019r cyfan, beth yw\u2019r bygythiad mwyaf a wynebwn, ond newid hinsawdd?\u00a0 A bod rhyfeloedd yn creu allyriadau difrifol o garbon, heb s\u00f4n am ddistryw amgylcheddol. Ystyriwch hefyd cost economaidd rhyfel, megis y cannoedd o filoedd o swyddi caiff eu colli ym Mhrydain oherwydd cynnydd prisiau egni yn sgil y rhyfel yn Iran.<\/p>\n<p>Oni ddylem ystyried mai polisi bwriadol gan y Wladwriaeth Brydeinig yw creu Economi Rhyfel, un sydd o fudd i\u2019r lleiafrif dethol?\u00a0 Creu Economi Heddwch ddylai fod yn bolisi bwriadol i Lywodraeth Cymru.\u00a0 Mae digon o dysFfatiolaeth bod pob punt o fuddsoddiad cyhoeddus yn creu llai o swyddi yn y sector filitaraidd na mewn sectorau eraill.<\/p>\n<p>Bydd gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn dangos i ni pwy a beth fydd yn cael y flaenoriaeth.<\/p>\n<p>Yn y b\u00f4n, byddai parhau i gefnogi a hyrwyddo&#8217;r diwydiant arfau a militariaeth yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru am dorri cwys ei hun go iawn.\u00a0 Dyma gyfle i ddangos fod ein Cymru ni yn ymwrthod \u00e2\u2019r drefn sy wedi dod a ni at ddibyn difodiant.<\/p>\n<p>Credwn fod Mererid Hopwood wedi siarad drosom fel Cymry pan gyhoeddodd o\u2019r Maen Llog yn Eisteddfod y Garreg Las:<\/p>\n<p><em>\u201cYm mhob man, mae s\u00f4n am brinder arian i dynnu plant o dlodi, i ofalu am yr henoed, i roi addysg a chyfle i brofi\u2019r celfyddydau, i\u2019r diwydiant llyfrau a cherddoriaeth, a\u2019r esgid fach yn gwasgu, gwasgu.<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cAc eto, mae arian i fwydo\u2019r gyfundrefn filwrol.\u00a0 Oherwydd dyna\u2019r synnwyr cyffredin \u2013 ymarfogi hyd at dlodi i\u2019n cadw ni\u2019n saff.<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cO blaid beth y\u2019n ni?\u00a0 Porthi\u2019r peiriant milwrol neu atgyfnerthu harddwch bro: daear a phobl yn cyd-dynnu\u2019n dangnefeddus?\u00a0 Dim ond gofyn.\u201d<\/em><\/p>\n<p>&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;&#8230;<\/p>\n<p>Cafodd yr erthygl yma ei gyhoeddi yn gyntaf ar wefan <a href=\"https:\/\/www.cymdeithasycymod.cymru\/News\">Cymdeithas y Cymod<\/a>.\u00a0 Am gefndir darllenwch erthygl Greg Davies <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/\">\u201cWynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru\u201d.<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyhoeddwyd bod Ffair Arfau dan y teitl \u2018Amddiffyn Diogelwch Gwytnwch Cymru\u2019 i\u2019w chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd ar 3-4 Medi 2026. Mae Cymdeithas y Cymod yn gwrthwynebu\u2019r digwyddiad &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Ffair Arfau yng Nghymru&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":14,"featured_media":1829,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1828","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v28.1 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Ffair Arfau yng Nghymru - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ffair Arfau yng Nghymru - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cyhoeddwyd bod Ffair Arfau dan y teitl \u2018Amddiffyn Diogelwch Gwytnwch Cymru\u2019 i\u2019w chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd ar 3-4 Medi 2026. Mae Cymdeithas y Cymod yn gwrthwynebu\u2019r digwyddiad &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Ffair Arfau yng Nghymru&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-08-22T17:28:46+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Bydded-Heddwch-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1190\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Robat Idris\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Robat Idris\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/22\\\/ffair-arfau-yng-nghymru\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/22\\\/ffair-arfau-yng-nghymru\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Robat Idris\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/6f551a946edcb8a4af226174050305f3\"},\"headline\":\"Ffair Arfau yng Nghymru\",\"datePublished\":\"2026-08-22T17:28:46+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/22\\\/ffair-arfau-yng-nghymru\\\/\"},\"wordCount\":2457,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/22\\\/ffair-arfau-yng-nghymru\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/08\\\/Bydded-Heddwch-scaled.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/22\\\/ffair-arfau-yng-nghymru\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/22\\\/ffair-arfau-yng-nghymru\\\/\",\"name\":\"Ffair Arfau yng Nghymru - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/22\\\/ffair-arfau-yng-nghymru\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/22\\\/ffair-arfau-yng-nghymru\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/08\\\/Bydded-Heddwch-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2026-08-22T17:28:46+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/22\\\/ffair-arfau-yng-nghymru\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/22\\\/ffair-arfau-yng-nghymru\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/22\\\/ffair-arfau-yng-nghymru\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/08\\\/Bydded-Heddwch-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/08\\\/Bydded-Heddwch-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1190},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/08\\\/22\\\/ffair-arfau-yng-nghymru\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Ffair Arfau yng Nghymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/07\\\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/07\\\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/undodcymru\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/undodcymru\",\"https:\\\/\\\/www.instagram.com\\\/undodcymru\\\/\",\"https:\\\/\\\/www.youtube.com\\\/channel\\\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/en\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/6f551a946edcb8a4af226174050305f3\",\"name\":\"Robat Idris\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Robat Idris\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/cy\\\/author\\\/robatidris\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ffair Arfau yng Nghymru - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Ffair Arfau yng Nghymru - undod","og_description":"Cyhoeddwyd bod Ffair Arfau dan y teitl \u2018Amddiffyn Diogelwch Gwytnwch Cymru\u2019 i\u2019w chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd ar 3-4 Medi 2026. Mae Cymdeithas y Cymod yn gwrthwynebu\u2019r digwyddiad &hellip; Parhau i ddarllen \"Ffair Arfau yng Nghymru\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2026-08-22T17:28:46+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1190,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Bydded-Heddwch-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Robat Idris","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Robat Idris","Est. reading time":"7 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/"},"author":{"name":"Robat Idris","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6f551a946edcb8a4af226174050305f3"},"headline":"Ffair Arfau yng Nghymru","datePublished":"2026-08-22T17:28:46+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/"},"wordCount":2457,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Bydded-Heddwch-scaled.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/","name":"Ffair Arfau yng Nghymru - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Bydded-Heddwch-scaled.jpg","datePublished":"2026-08-22T17:28:46+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Bydded-Heddwch-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Bydded-Heddwch-scaled.jpg","width":2560,"height":1190},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Ffair Arfau yng Nghymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6f551a946edcb8a4af226174050305f3","name":"Robat Idris","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","caption":"Robat Idris"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1828","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/14"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1828"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1828\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1841,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1828\/revisions\/1841"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1829"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1828"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1828"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1828"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}