{"id":1861,"date":"2026-10-18T00:42:00","date_gmt":"2026-10-17T23:42:00","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1861"},"modified":"2026-10-18T00:42:00","modified_gmt":"2026-10-17T23:42:00","slug":"torrwn-y-maglau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/","title":{"rendered":"TORRWN Y MAGLAU!"},"content":{"rendered":"<p><strong>DALEN L\u00c2N \u2013 TYBED?<\/strong><\/p>\n<p>Am y tro cyntaf ers dechrau datganoli, daeth cyfle i Lywodraeth Cymru ddilyn trywydd gwahanol i\u2019r un a gafwyd dan y law farwaidd a lywiodd ein gwlad hyd yma.\u00a0 Dalen l\u00e2n o\u2019r diwedd!<\/p>\n<p>Mewn amgylchiadau a fyddai yn anodd i neb eu dirnad dim ond ychydig o flynyddoedd yn \u00f4l, daeth Plaid Cymru i rym ac arwain Llywodraeth leiafrifol yn y Senedd.\u00a0 Cyfuniad o ddadrithiad efo Starmer, twf Reform, a\u2019r diflastod efo Llafur Cymru wnaeth i ddigon o bobl droi at Blaid Cymru.\u00a0 Gellid dweud mai clymblaid answyddogol o gefnogwyr creiddiol Plaid Cymru, cyn-gefnogwyr Llafur Cymru, pobl oedd am bleidleisio dros blaid fwy blaengar, pobl oedd eisiau atal Reform, a phobl oedd eisiau newid yn dilyn degawdau o gael eu siomi, a roddodd grym yn nwylo Rhun ap Iorwerth a\u2019i blaid.<\/p>\n<p>Mae bydysawd o wahaniaeth rhwng Plaid Cymru a Reform, ond eto i gyd clywyd ar stepen y drws fod pobl yn pendroni pa un o\u2019r ddwy blaid yma i\u2019w cefnogi, cymaint oedd eu hawydd am newid.\u00a0 Cefnogaeth amodol, felly, sydd gan y Llywodraeth hon, ac i bob pwrpas bydd ar brawf drwy gydol y tymor seneddol hwn.<\/p>\n<p>Bydd un llygad bob tro ar baratoi at yr etholiad nesaf er mwyn ceisio cadw\u2019r gefnogaeth a gawsant ym mis Mai eleni.\u00a0 Dyna pam mae\u2019n greiddiol i ni sydd am weld sosialaeth yn dod yn ffordd o fyw ddal i bwyso dros orseddu cymuned uwchlaw cyllid.\u00a0 Fel arall welwn ni ddim mwy nag allanolion yn newid.<\/p>\n<p>A fydd y ddalen l\u00e2n wedi ei baeddu gan fysedd budron selogion twf, cyn i\u2019r Llywodraeth newydd afael yn yr ysgrifbin?<\/p>\n<p><strong>SOSIALAETH DAN LYWODRAETH PLAID CYMRU?<\/strong><\/p>\n<p>Gwyddom fod yna sosialwyr o argyhoeddiad o fewn rhengoedd Plaid Cymru, yn aelodau cyffredin ac yn\u00a0 Aelodau Senedd.\u00a0 Rhai sydd yn gweld mai cyfalafiaeth a militariaeth yw\u2019r melltithion sydd wedi esgor ar yr hunllefau sydd yn ein llethu ledled y byd, ac yn dangos eu dannedd yma yng Nghymru.\u00a0 Rhai sy\u2019n cydnabod mai gweithredoedd y ddynoliaeth sydd yn gyfrifol am yr argyfwng newid hinsawdd sydd yn ein goresgyn.\u00a0 Rhai sy\u2019n awchu am weld Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a fedr i gynnig ffordd arall o lywodraethu gwlad er lles ei phobl.<\/p>\n<p>Dyma\u2019r rhai y dylem eu cefnogi er mwyn creu amgylchiadau lle y gallwn fyw bywyd yn ei gyflawnder.\u00a0 Gwlad lle mae tlodi plant, tlodi tanwydd, tlodi bwyd, tlodi cartrefi yn diflannu.\u00a0 Gwlad lle mae cyfoeth mewn pobl, nid pethau.\u00a0 Gwlad lle mae cryfder mewn cymeriad, nid arfau.\u00a0 Gwlad lle mae cymdeithas yn drech nag unigoliaeth.\u00a0 Gwlad lle mae gofal am ein tiroedd, ein moroedd a\u2019n hawyr yn disodli echdynnu adnoddau.\u00a0 Gwlad sy\u2019n gwrthod militariaeth ac yn dewis heddwch.<\/p>\n<p>Pa mor debygol yw gwireddu sosialaeth?<\/p>\n<p>Pa mor anodd fydd torri\u2019n rhydd o lyffetheiriau San Steffan?<\/p>\n<p>Pa mor annibynnol fyddai Cymru \u2018annibynnol\u2019?<\/p>\n<p>Mae\u2019r disgwyliadau, a\u2019r anawsterau, yn fawr.\u00a0 Serch hynny, ar adeg lle mae yna gyfle i ail-gyfeirio dyheadau cenedl, byddai glynu at y ffordd \u2018arferol\u2019 o weinyddu gwlad yn golygu mai cyfalafiaeth fyddai\u2019n dal i gael y llaw uchaf, er efallai mewn gwisg a ieithwedd Gymreig a rhyw arlliw o flas cennin.<\/p>\n<p>Ac yn y tymor hir, os y byddai Cymru yn annibynnol (i\u2019r graddau y gall unrhyw wlad fod yn hollol annibynnol), llestr gwag fyddai\u2019r annibyniaeth hwnnw, heb chwyldro llwyr i\u2019r sefydliadau gwleidyddol sy\u2019n cynnal y drefn o gadw grym yn nwylo\u2019r cyfoethogion a gynrychiolir gan gorfforaethau rhyngwladol.<\/p>\n<p>Mae rhybudd clir i Gymru yn erthygl dreiddgar Owain Hanmer, <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/09\/27\/annibyniaeth-gymreig-a-swyn-iwerddon\/\">\u201cAnnibyniaeth Gymreig a\u2019r Swyn Gwyddelig\u201d<\/a>.\u00a0 Rhannol yw rhyddid pan mae eich economi wedi ei gwerthu i gorfforaethau anferthol o\u2019r Unol Daleithau.\u00a0 Mae\u2019r gwrthgyferbyniad rhwng gobeithion arwrol y weriniaeth sosialaidd a gefnogid gan James Connolly, a\u2019r presennol o fod yn llawforwyn i fwlturiaid cyfalafiaeth, yn un y dylai ein Llywodraeth bresennol ym Mae Caerdydd fod yn ymwybodol ohono.\u00a0 Dyma eiriau Connolly ei hun:<\/p>\n<p><em>\u201c<\/em><em>The Irishman frees himself from slavery when he realizes the truth that the capitalist system is the most foreign thing in Ireland. The Irish question is a social question. The whole age-long fight of the Irish people against their oppressors resolves itself in the last analysis into a fight for the mastery of the means of life, the sources of production, in Ireland\u201d.<\/em><\/p>\n<p>Ac eto:<\/p>\n<p><em>\u201cIf you remove the English Army tomorrow and hoist the green flag over Dublin Castle., unless you set about the organization of the Socialist Republic your efforts will be in vain. England will still rule you. She would rule you through her capitalists, through her landlords, through her financiers, through the whole array of commercial and individualist institutions she has planted in this country and watered with the tears of our mothers and the blood of our martyrs\u201d.<\/em><\/p>\n<p>Gellid honni mai rheoli dirywiad oedd swm a sylwedd Llywodraethau Llafur Cymru, tra\u2019n moesymgrymu yn amlach na pheidio i bolis\u00efau canolog o Lundain a grymoedd didostur cyfalafiaeth.\u00a0 Cafwyd beirniadaeth drylwyr o\u2019r Gymru neo-ryddfrydol yn y gyfrol <a href=\"https:\/\/www.parthianbooks.com\/products\/the-welsh-way-essays-on-neoliberalism-and-devolution\">\u201cThe Welsh Way\u201d<\/a> .<\/p>\n<p>Pa ryfedd i Lafur Cymru golli etholiad a\u2019r blaid wedi bod ynghlwm \u00e2 ffawd Keir Starmer?\u00a0 Polis\u00efau neo-ryddfrydol oedd yn blaenoriaethu corfforaethau, diwydiannau echdynnol a chefnogi y drefn sefydlog.\u00a0 Heb s\u00f4n am y distawrwydd llethol am y gyflafan yn Gaza.\u00a0 Go brin fod yna newidiadau go iawn wedi digwydd, ar waethaf geiriau gwych ond di-rym y gyfraith a ddyfynnir hyd syrffed, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol.\u00a0\u00a0 Os yw Cymru am gynnig esiampl o weinyddu gwlad yn dosturiol, bydd angen cryfhau y ddeddf a rhoi pwerau effeithiol iddi.\u00a0 Dylai fod wedi ei phlannu ymhob agwedd o Lywodraeth Cymru, ac yn wir y gymdeithas ehangach.<\/p>\n<p><strong>CYFALAFIAETH Y CENNIN?<\/strong><\/p>\n<p>Beth, felly, yw\u2019r arwyddion cynnar gan y Llywodraeth bresennol ei bod am dorri cwys newydd?\u00a0 Os collir y cyfle i wneud hynny o\u2019r dechrau, bydd yn anodd newid cyfeiriad wedyn.\u00a0 Er bod yna arwyddion calonogol mewn materion cymdeithasol a llesiant, ac y bydd yna sefyll llawer cadarnach yn erbyn San Steffan a phwyso am lawer mwy o bwerau, eto i gyd welwn i ddim llawer o arwyddion hyd yma fod yna stumog i wyrdroi y drefn gyfalafol yn ei holl fileindra barus a dinistriol.<\/p>\n<p>Rhaid mynegi pryder fod rhai o hen arferion Llywodraeth Llafur Cymru am barhau dan yr oruchwyliaeth newydd.<\/p>\n<p>Edrychwn ar yr hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar dan oruchwyliaeth Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni.<\/p>\n<p><strong>Y diwydiant arfau yng Nghymru<\/strong><\/p>\n<p>Yn ddiweddar bu protestio cydnerth yn erbyn y Ffair Arfau a gynhaliwyd yng Nghasnewydd.\u00a0 Cewch yr hanes <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/08\/22\/ffair-arfau-yng-nghymru\/\">yma<\/a>.\u00a0 Er tegwch, gwaddol y Llywodraeth flaenorol oedd hyn, a ni fu Mr Price ar gyfyl y ffair.\u00a0 Serch hynny, aeth i Sioe Awyr Farnborough, lle roedd cynrychiolwyr y diwydiant arfau yn bresennol, a deallwn fod Mr Price wedi trafod <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/grwp-newydd-i-ddod-sefydliadau-ynghyd-yn-sector-amddiffyn-cynyddol-cymru\">Bargen Twf Amddiffyn Cymru<\/a>, sy\u2019n hybu y sector arfau fel rhan o strategaeth Llywodraeth San Steffan i ruthro tuag at ryfela.\u00a0 Eto, er tegwch, Llywodraeth Lafur Cymru wnaeth y cytundeb hwn, ond hyd y gwyddom \u2018does yna ddim arwyddion fod y Llywodraeth bresennol yn wrthwynebus i\u2019r Cynllun.\u00a0 Yn wir, y ddeilen ffigys a ddefnyddir gan adran Mr Price i gyfiawnhau parhad y trafod efo\u2019r diwydiant arfau yw s\u00f4n am <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/datganiad-ysgrifenedig-fframwaith-moesegol-i-lywodraeth-cymru-wrth-ymgysylltu-ar-sector-amddiffyn\">Fframwaith Amddiffyn Moesol<\/a>.\u00a0 Ac fel arfer yn y math yma o gyfiawnhau safbwynt egwan, defnyddir y mantra \u201cgwaith\u201d.\u00a0 Ac o s\u00f4n am gefnogi swyddi, dengys ymchwil gan CND Cymru mai dyma faint o swyddi gaiff eu creu mewn gwahanol sectorau am bob \u00a31 miliwn a fuddsoddir: Caffael milwrol \u2013 9.4; Rheilffyrdd \u2013 12.2; Gofal Iechyd \u2013 13.4; Addysg \u2013 14.9; Gofal a Gwaith Cymdeithasol \u2013 19.8 Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd a gweithgareddau celfyddydol \u2013 25.5.<\/p>\n<p>Mae dadansoddiad ardderchog Greg Davies, sef <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/05\/07\/wynebur-diwydiant-amddiffyn-yng-nghymru\/\">\u201cWynebu\u2019r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru\u201d<\/a> yn egluro pa mor ddwfn y treiddiodd y fasnach arfau i\u2019n gwlad yng nghyfnod Llafur Cymru wrth y llyw.\u00a0 Daeth yn hen bryd rhoi terfyn ar hyn.<\/p>\n<p>Gwyddom fod Plaid Cymru wedi lleisio gwrthwynebiad cyson i&#8217;r hil-laddiad yn Gaza, yn fwyaf diweddar pan anerchodd y Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams, y rali i gefnogi Palestina y tu allan i Gynhadledd Plaid Cymru yn Llandudno. Mae Plaid Cymru hefyd wedi protestio yn erbyn y niwed a achosir gan allforion arfau. Nawr, mae gan y blaid gyfle i weithredu. Fan lleiaf, dylid gwahardd allforio arfau (yn uniongyrchol neu&#8217;n anuniongyrchol) i Wladwriaeth Israel, ac ni ddylai unrhyw gwmni sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;r hil-laddiad ym Palestina dderbyn unrhyw fath o gymorth gan Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Yn y b\u00f4n, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei olygu wrth \u2018Amddiffyn\u2019? Dylai olygu mwy na hwyluso&#8217;r diwydiant arfau.<\/p>\n<p>Oni fyddai&#8217;n wirioneddol flaengar pe gellid troi&#8217;r mater hwn yn gyfle i ymgysylltu \u00e2 mudiadau heddwch, grwpiau amgylcheddol, ymgyrchwyr cymunedol ac undebau llafur? Mae gan y mudiadau hyn i gyd ddiddordeb mewn amddiffyn yn yr ystyr ehangach o ddiogelu heddwch, yr amgylchedd a swyddi ystyrlon. Gall arallgyfeirio graddol i ffwrdd o&#8217;r diwydiant arfau fod yn uchelgais go iawn \u2013 ni ddylai&#8217;r gweithwyr yn y diwydiant fod y rhai sy&#8217;n ysgwyddo&#8217;r gost economaidd. Oni fyddai&#8217;n wych pe bai&#8217;r Fframwaith Amddiffyn Moesegol yn cynnwys y syniadau hyn?<\/p>\n<p>Gyda&#8217;n gilydd, gallwn wneud yn well na derbyn briwsion militariaeth y Wladwriaeth Brydeinig.<\/p>\n<p><strong>Asiantaeth Ddatblygu<\/strong><\/p>\n<p>Gwyddom bod diffyg gwaith yn fwrn ar gymaint o ardaloedd, o\u2019r Cymoedd i\u2019r cymunedau llechi ac yng nghefn gwlad.\u00a0 Gwyddom hefyd bod y gwaith sydd ar gael yn aml yn talu\u2019n wael, gan greu problemau pellach efo cartrefi, allfudo ieuenctid, tlodi, iechyd, a phoblogaeth sy\u2019n heneiddio, ymysg eraill.\u00a0 Gellid meddwl felly mai croeso digymysg ddylid ei roi i\u2019r cyhoeddiad fod <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/penodi-arbenigwyr-busnes-blaenllaw-i-greu-asiantaeth-ddatblygu-newydd-i-gymru\">Asiantaeth Ddatblygu<\/a> i\u2019w sefydlu.\u00a0 Yn \u00f4l y Llywodraeth:<\/p>\n<p><em>\u201cBydd yr asiantaeth yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i haneru\u2019r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU o fewn deng mlynedd.<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cDan arweiniad y Cadeirydd Jonathan Lewis, sydd \u00e2 phrofiad helaeth o fusnes ac arweinyddiaeth ledled y byd, bydd y panel yn cynghori Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, ar ffurf a swyddogaeth yr asiantaeth newydd.\u00a0\u201d.<\/em><\/p>\n<p>Onid ieithwedd economi gyfalafol sy wedi methu yw hyn?\u00a0 Diau bod bwriad yr Asiantaeth Datblygu yn dda, ond mae angen ailfeddwl sylfaenol ar beth yw seiliau economi.\u00a0 Beth sy\u2019n echdynnol?\u00a0 Beth sy\u2019n gynaliadwy?\u00a0 Beth sy\u2019n eiddo i bobl Cymru?\u00a0 Beth sy\u2019n ddiwydiant moesol?\u00a0 Beth yw diben gwaith os mai oriau meithion a chyflog gwael sydd ar gael?\u00a0 Beth, yn wir, yw dyfodol y cysyniad o \u2018waith\u2019 yn y dyfodol, a\u2019r dyfodol hwn yn prysur agos\u00e1u?\u00a0 Meddai\u2019r bardd Waldo Williams;<\/p>\n<p><em>\u201cBeth yw gweithio ond gwneud c\u00e2n<\/em><\/p>\n<p><em>O\u2019r coed a\u2019r gwenith?\u201d<\/em><\/p>\n<p>Ambell dro, gallwn ddysgu mwy gan fardd na gan economegydd!<\/p>\n<p>Os edrychwn ar yr 11 a benodwyd i\u2019r panel, gwelwn mai pobl sydd wedi treulio degawdau yn arwain ac yn gweithio i gorfforaethau byd-eang yw nifer, a rhai wedi eu harwain.<\/p>\n<p>Dyma <a href=\"https:\/\/www.bitc.org.uk\/jonathan-lewis\/\">wybodaeth<\/a> am y Cadeirydd, Jonathan Lewis, sydd wedi gweithio am ddegawdau yn y diwydiant olew a nwy. Beth am rai o\u2019r cwmn\u00efau y gweithiodd iddyn nhw?<\/p>\n<p>Capita: cwmni yn cyflogi degau o filoedd o bobl.\u00a0 Cafodd <a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/about-the-ico\/media-centre\/news-and-blogs\/2025\/10\/capita-fined-14m-for-data-breach-affecting-over-6m-people\/\">ddirwy o \u00a314 miliwn<\/a>\u00a0 yn 2025 am fethiannau diogelu data.\u00a0 Roedd y dirwy yn dilyn ymadawiad Mr Lewis o\u2019r cwmni, ond y drosedd yn dyddio yn \u00f4l i fis Mawrth 2023, pan oedd Mr Lewis yn Brif Weithredwr.\u00a0 Nid oes yna awgrym o gwbl fod Mr Lewis yn euog o drosedd.<\/p>\n<p>Halliburton: corfforaeth ryngwladol efo dau bencadlys yn Houston a Dubai, a\u2019r cwmni gwasanaethau olew ail mwyaf yn y byd.\u00a0 Mae ei enw\u2019n gyfystyr \u00e2 sawl sgandal fel y medrwch weld <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Halliburton\">yma <\/a>\u00a0.\u00a0 Nid oes gofod yn yr erthygl yma i restru pob sgandal yn ymwneud \u00e2 Halliburton, ond nodwn yn unig eu bod wedi ymelwa o gytundeb gwerth $7 biliwn ar \u00f4l Rhyfel Irac; cytundeb a ddyfarnwyd iddynt fel yr unig un i gael ymgeisio.\u00a0 Nhw hefyd oedd yn gyfrifol am ddarparu sment i BP, a honnid fod y sment hwnnw\u2019n ddiffygiol, felly roedd y cwmni yn rhan o\u2019r llygredd olew echrydus Deep Water Horizon yn 2010.\u00a0 Mae\u2019n debyg fod y cwmni wedi dileu cofnodion perthnasol i\u2019r ymchwiliad, a thalodd $1.1 biliwn mewn iawndal yn 2014.\u00a0 Wrth gwrs, does dim honiad yn erbyn Mr Lewis yn y naill achos na\u2019r llall.<\/p>\n<p>Os mai\u2019r n\u00f2d yw denu corfforaethau o dramor i fuddsoddi yng Nghymru, gwyddom o brofiad beth sy\u2019n digwydd pan fydd cwmni yn penderfynu gadael, gan fynd a\u2019r elw efo nhw, a gadael y problemau cymdeithasol, amgylcheddol ac o bosib iechyd ar eu holau.<\/p>\n<p><strong>Ffyrdd<\/strong><\/p>\n<p>Cyhoeddodd Mark Hooper, yr Is-Weinidog dros Drafnidiaeth, fod y cynllun i godi <a href=\"https:\/\/nation.cymru\/news\/third-menai-crossing-plans-revived-as-ministers-announce-study-into-m4-road-options\/\">trydydd pont dros y Fenai<\/a> i\u2019w adfer.\u00a0 Gwyddom fod Mr Hooper yn flaengar yn ei holl ymwneud gwleidyddol, felly efallai ei fod wedi bod dan bwysau i wneud y cyhoeddiad hwn, sydd, ar yr wyneb, yn un i\u2019w groesawu \u2013 os edrychir ar y broblem drwy lens moduro yn unig.\u00a0 Y broblem greiddiol yw ein gor-ddibyniaeth ar foduron, a diffyg sustem gludiant gyhoeddus addas.\u00a0 Mae ein modur yn gyffur sydd wedi creu dibyniaeth ynom!\u00a0 Mae ein heconomi \u2018ceir-a-loris\u2019 wedi ei datblygu mewn oes pan oedd olew yn rhad.\u00a0 Nid felly mae hi bellach.<\/p>\n<p>Tybed faint o ffactor yn y cyhoeddiad yw\u2019r gefnogaeth gan Blaid Cymru ym M\u00f4n i\u2019r cynllun uber-gyfalafol i forgeisio dyfodol ein plant \u2013 a gwir annibyniaeth Cymru \u2013 i adeiladu atomfa, a allai hefyd fod yn darged milwrol &#8211; yn Wylfa?\u00a0 Ydi\u2019r canfyddiad fod hyn yn llai o faen tramgwydd gwleidyddol nac adeiladu gwelliant i\u2019r M4?<\/p>\n<p>Byddai sicrhau fod ffyrdd presennol yn ein trefi ac yng nghefn gwlad yn cael eu cyllido i\u2019w cynnal a\u2019u cadw yn rheolaidd yn gwneud mwy o synnwyr.\u00a0 Mae angen \u00a3953.7 miliwn i ddal i fyny efo <a href=\"https:\/\/www.deeside.com\/welsh-councils-face-near-1-billion-road-repair-backlog-report-finds\/\">trwsio ffyrdd<\/a> yng Nghymru!\u00a0 A gallai gymryd 13 mlynedd i wneud hyn.\u00a0 Ar gyfartaledd, unwaith bob 108 blwyddyn y bydd wyneb newydd yn cael ei roi ar ffordd!!!<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>MENTRAU CYMUNEDOL \u2013 BYGYTHIAD I\u2019R DREFN, NEU GOBAITH I\u2019R DYFODOL?\u00a0 <\/strong><\/p>\n<p>Chafwyd fawr iawn o sylw i fentrau cymunedol a chydweithredol hyd yma gan Mr Price, er rhaid cydnabod fod y Prif Weinidog wedi eu cymeradwyo yng Nghynhadledd Flynyddol Plaid Cymru.\u00a0 Gwyddom fod mentrau cymunedol wedi tyfu dros y ddegawd a mwy ddiwethaf.\u00a0 Daeth y term \u2018Cymunedoli\u2019, a fathwyd gan y diweddar Sel Wilias o Lan Ffestiniog, yn rhan o eirfa gyfoes.\u00a0 Dyma eiriau Sel:<\/p>\n<p><em>\u201cI raddau helaeth mae\u2019r cyfrifoldeb am ein dyfodol yn ein dwylo ni.\u00a0 Mae cyfle yn yr ardal hon i ni greu dyfodol amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol yn codi o\u2019r gorau yn ein traddodiad diwylliannol.\u00a0 Rydym wedi dechrau arloesi, a r\u0175an mae angen gweithredu.\u201d<\/em><\/p>\n<p>Fel sawl syniad arloesol mae\u2019n bygwth y drefn sydd ohoni.<\/p>\n<p>Cafwyd erthygl yn Golwg 360 yn mynegi pryderon yr economegydd Dr Edward T Jones o Brifysgol Bangor, dan y pennawd: <a href=\"https:\/\/golwg.360.cymru\/newyddion\/2207232-angen-sicrhau-mentrau-cymunedol-llesteirio\">\u201cAngen sicrhau nad yw mentrau cymunedol yn llesteirio cynlluniau twf Llywodraeth Cymru\u201d<\/a>.<\/p>\n<p>Prif bwynt sylwadau Dr Jones yw fod perygl y gall perchnogaeth a mentrau cymunedol danseilio y sector breifat.\u00a0 Meddai<em>: <\/em><em>\u201cMae\u2019n rhaid i ni sicrhau nad yw mentrau cymunedol yn allgau arloesedd preifat.\u00a0 Mae mentrau cymunedol yn derbyn buddiannau penodol sy\u2019n golygu eu bod nhw\u2019n medru cystadlu\u2019n haws na\u2019r sector breifat\u201d.<\/em><\/p>\n<p>Tra mae Dr Jones yn cyfeirio at gaffis lleol yn cael trafferth cystadlu yn erbyn rhai cymunedol, gallwn ni gyfeirio at y rhwystrau a gaiff cynlluniau ynni cymunedol pan fyddant yn cystadlu yn erbyn corfforaethau sydd wedi eu cyllido gan arian sy\u2019n deillio yn aml o\u2019r ddinas yn Llundain, neu o sefydliadau ariannol yr Unol Daleithiau.<\/p>\n<p>Beth sy\u2019n hollol eglur i fwy a mwy o bobl yw fod twf economaidd yn syniad y mae gofyn ei gwestiynu yn ei hanfod.\u00a0 Beth yw meini sylfaen llewyrch gwlad?\u00a0 Pobl, cymuned, amgylchedd, cytgord gymdeithasol \u2013 a does yna ddim affliw o beryg mai y pethau hyn sy\u2019n bwysig dan y drefn gyfalafol.\u00a0 I\u2019r gwrthwyneb, gwelwn elw fel Duw y cyfoethog cadwedig.\u00a0 Yr union rai sy\u2019n gweiddi\u2019n groch yn erbyn \u2018sosialaeth\u2019 pan mae hynny\u2019n golygu rhoi arian a chymorth i bobl gyffredin, ond yn hollol fud pan mae <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/2008_United_Kingdom_bank_rescue_package\">symiau enfawr o arian cyhoeddus ar gael i\u2019w hachub nhw eu hunain.<\/a>\u00a0 Mae\u2019r math yna o \u2018sosialaeth\u2019 yn dderbyniol i\u2019r goludog!<\/p>\n<p>A rhaid i ni wahaniaethu rhwng mentrau bach preifat, sydd angen cymorth; a chorfforaethau mawrion didostur ynghyd \u00e2\u2019r sefydliadau ariannol sy\u2019n eu galluogi.<\/p>\n<p>Bellach, mae&#8217;r syniad o Gymunedoli wedi gafael mewn sawl ardal yng Nghymru.\u00a0 Gallwn gyfeirio at y dechreuad yn ardal llechi <a href=\"http:\/\/cwmnibro.cymru\/\">Blaenau Ffestiniog<\/a> , ei ymlediad i <a href=\"https:\/\/planed.org.uk\/cy\/ein-gwaith\/\">Orllewin Cymru<\/a> , a\u2019r ail-afael yn ysbryd cydweithredol cymunedau glofaol y <a href=\"https:\/\/www.ambobdim.cymru\/profile-content\/valleys-cymunedoli-cymoedd-stori-or-cymoedd\/\">Cymoedd<\/a>.<\/p>\n<p>Craidd Cymunedoli yw rhoi grym economaidd i gymunedau \u2013 a thrwy hynny roi gwrthbwynt cryf i ap\u00eal y dde eithafol yng nghymunedau dolurus ein gwlad, fel yr eglura <a href=\"https:\/\/www.redpepper.org.uk\/economics-unions-work\/alternative-economies\/cymunedoli-the-glue-that-binds\/\">Beth Winter a Leanne Wood<\/a>.<\/p>\n<p>Hyd yma, enghreifftiol yw y mentrau cymunedol, yn yr ystyr na chawsant gefnogaeth lwyr gan Lywodraeth Llafur Cymru.\u00a0 Dychmygwch beth fyddai\u2019n bosibl os y byddai perchnogaeth yn lleol, yn rhanbarthol a thrwy Gymru gyfan yn bodoli yn ein gwahanol sectorau.\u00a0 Ac os na fedrwch chi ddychmygu, ewch i <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Mondragon_Corporation\">Wlad y Basg<\/a> lle mae ffyniant economaidd drwy fentrau cydweithredol wedi llwyddo ers 50au yr 20fed ganrif. Mae hyd yn oed y <a href=\"https:\/\/www.mondragon.edu\/en\/meet-mu\/cooperative-university?_gl=1*ap6vlc*_up*MQ..*_ga*ODgzMjg5NzM3LjE3OTE1NjQ4NjQ.*_ga_D44GN625HL*czE3OTE1NjQ4NjMkbzEkZzAkdDE3OTE1NjQ4NjMkajYwJGwwJGgw*_ga_JBMPCPQCMG*czE3OTE1NjQ4NjMkbzEkZzAkdDE3OTE1NjQ4NjMkajYwJGwwJGgw\">Brifysgol<\/a> yn Arrasate yn gydweithredol!<\/p>\n<p><strong>Os yw Cymunedoli yn gweithio yng Ngwlad y Basg, gall weithio yma. <\/strong><\/p>\n<p>Galwn felly ar i\u2019r syniad o Gymunedoli fod yn brif gonglfaen cynllunio economaidd, fel y gallwn luosogi y bendithion er lles ein dinasyddion i gyd.\u00a0 Mae hyn yn golygu rhoi lle blaenllaw i gynrychiolwyr y mudiad cydweithredol ac i undebau llafur ar gyrff y Llywodraeth.\u00a0 Gallesid fod wedi dechrau efo yr Asiantaeth Ddatblygu, ond collwyd cyfle.<\/p>\n<p>I blaid sydd am weld Cymru annibynnol yn y pendraw, mae cael gafael ar wir rym economaidd ein gwlad yn anhepgor.\u00a0 P\u2019run sydd fwyaf tebygol o roi hynny i ni: corfforaethau rhyngwladol neu ein datblygiadau cynhenid?<\/p>\n<p>Beth amdani, Mr Price?\u00a0 Pwy sydd eich angen fwyaf \u2013 Mrs Jones o Llanrug; Mr Watkins o\u2019r Rhondda, Ms Phillips o Geredigion \u2013 neu Cyfalafiaeth Inc.?<\/p>\n<p><strong>TORRWN Y MAGLAU! <\/strong><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>DALEN L\u00c2N \u2013 TYBED? Am y tro cyntaf ers dechrau datganoli, daeth cyfle i Lywodraeth Cymru ddilyn trywydd gwahanol i\u2019r un a gafwyd dan y law farwaidd a lywiodd ein &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;TORRWN Y MAGLAU!&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":14,"featured_media":1862,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1861","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v28.6 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>TORRWN Y MAGLAU! - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"TORRWN Y MAGLAU! - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"DALEN L\u00c2N \u2013 TYBED? Am y tro cyntaf ers dechrau datganoli, daeth cyfle i Lywodraeth Cymru ddilyn trywydd gwahanol i\u2019r un a gafwyd dan y law farwaidd a lywiodd ein &hellip; Parhau i ddarllen &quot;TORRWN Y MAGLAU!&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-10-17T23:42:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/maglau.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"620\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"346\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Robat Idris\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Robat Idris\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"17 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/10\\\/18\\\/torrwn-y-maglau\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/10\\\/18\\\/torrwn-y-maglau\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Robat Idris\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/6f551a946edcb8a4af226174050305f3\"},\"headline\":\"TORRWN Y MAGLAU!\",\"datePublished\":\"2026-10-17T23:42:00+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/10\\\/18\\\/torrwn-y-maglau\\\/\"},\"wordCount\":6022,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/10\\\/18\\\/torrwn-y-maglau\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/10\\\/maglau.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/10\\\/18\\\/torrwn-y-maglau\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/10\\\/18\\\/torrwn-y-maglau\\\/\",\"name\":\"TORRWN Y MAGLAU! - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/10\\\/18\\\/torrwn-y-maglau\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/10\\\/18\\\/torrwn-y-maglau\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/10\\\/maglau.jpg\",\"datePublished\":\"2026-10-17T23:42:00+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/10\\\/18\\\/torrwn-y-maglau\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/10\\\/18\\\/torrwn-y-maglau\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/10\\\/18\\\/torrwn-y-maglau\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/10\\\/maglau.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/10\\\/maglau.jpg\",\"width\":620,\"height\":346,\"caption\":\"Cadwyn caethion o'r cyfnod cyn-Rufeinig a ddarganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach, Ynys Mon.\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/10\\\/18\\\/torrwn-y-maglau\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"TORRWN Y MAGLAU!\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Sosialaidd i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/07\\\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/07\\\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/undodcymru\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/undodcymru\",\"https:\\\/\\\/www.instagram.com\\\/undodcymru\\\/\",\"https:\\\/\\\/www.youtube.com\\\/channel\\\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/6f551a946edcb8a4af226174050305f3\",\"name\":\"Robat Idris\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Robat Idris\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/cy\\\/author\\\/robatidris\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"TORRWN Y MAGLAU! - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"TORRWN Y MAGLAU! - undod","og_description":"DALEN L\u00c2N \u2013 TYBED? Am y tro cyntaf ers dechrau datganoli, daeth cyfle i Lywodraeth Cymru ddilyn trywydd gwahanol i\u2019r un a gafwyd dan y law farwaidd a lywiodd ein &hellip; Parhau i ddarllen \"TORRWN Y MAGLAU!\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2026-10-17T23:42:00+00:00","og_image":[{"width":620,"height":346,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/maglau.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Robat Idris","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Robat Idris","Est. reading time":"17 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/"},"author":{"name":"Robat Idris","@id":"https:\/\/undod.cymru\/#\/schema\/person\/6f551a946edcb8a4af226174050305f3"},"headline":"TORRWN Y MAGLAU!","datePublished":"2026-10-17T23:42:00+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/"},"wordCount":6022,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/maglau.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/","name":"TORRWN Y MAGLAU! - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/maglau.jpg","datePublished":"2026-10-17T23:42:00+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/maglau.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/maglau.jpg","width":620,"height":346,"caption":"Cadwyn caethion o'r cyfnod cyn-Rufeinig a ddarganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach, Ynys Mon."},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/10\/18\/torrwn-y-maglau\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"TORRWN Y MAGLAU!"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Sosialaidd i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/#\/schema\/person\/6f551a946edcb8a4af226174050305f3","name":"Robat Idris","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","caption":"Robat Idris"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1861","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/14"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1861"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1861\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1863,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1861\/revisions\/1863"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1862"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1861"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1861"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1861"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}