{"id":1876,"date":"2026-11-06T00:36:22","date_gmt":"2026-11-06T00:36:22","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=1876"},"modified":"2026-11-06T00:45:16","modified_gmt":"2026-11-06T00:45:16","slug":"apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Ap\u00eal am Strategaeth Hirdymor i&#8217;r Chwith yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><em><span style=\"font-weight: 400;\">Rwy\u2019n ysgrifennu cwta pythefnos ar \u00f4l ymadael o&#8217;m swydd etholedig fel Dirprwy Arweinydd Plaid Werdd Cymru \u2013 plaid yr wyf wedi gweithio\u2019n galed drosti dros y 7 mlynedd diwethaf. Yn anorfod braidd, ceisiodd cyfryngau y DU ganolbwyntio ar y cynnig \u201cSeionyddiaeth yw Hiliaeth\u201d yn fy natganiad ymddiswyddo &#8211; ac i raddau helaeth anwybyddwyd neu lleihawyd pwysigrwydd y rhesymau llawer mwy sylweddol ynghylch pam yr adewais: diffyg parch at Blaid Werdd Cymru a\u2019i haelodau yng Nghymru, a diffyg strategaeth hirdymor. Mae\u2019r erthygl hon yn ap\u00eal gennyf i&#8217;r chwith ehangach yng Nghymru i ganolbwyntio eu hegni ar strategaeth hirdymor.\u00a0<\/span><\/em><\/p>\n<p><b>Fy Nhaith i Fyd Gwleidyddiaeth\u00a0<\/b><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Roedd fy nhaith i ymuno \u00e2 phlaid wleidyddol \u2013 heb s\u00f4n am gael fy ethol yn Ddirprwy Arweinydd \u2013 ychydig yn wahanol i\u2019r rhan fwyaf o bobl. Cefais fy magu yn ardal Oakfield yng Nghwmbr\u00e2n, ac rwy\u2019n dal i fyw yno. <\/span><\/p>\n<figure id=\"attachment_1878\" aria-describedby=\"caption-attachment-1878\" style=\"width: 225px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1878 size-medium\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/cwmbran-boating-lake-225x300.jpg\" alt=\"\" width=\"225\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/cwmbran-boating-lake-225x300.jpg 225w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/cwmbran-boating-lake.jpg 384w\" sizes=\"auto, (max-width: 225px) 100vw, 225px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1878\" class=\"wp-caption-text\">Llyn cychod Cwmbran<\/figcaption><\/figure>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Pan oeddwn i\u2019n tyfu lan, ni ddaeth neb o blaid wleidyddol i guro ar fy nrws. Fel llawer o Gymru, roedd hon yn diriogaeth i\u2019r Blaid Lafur, ac roedd nihiliaeth wleidyddol o fantais iddynt. Yn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2022, roedd gan ardal cyngor Torfaen \u2013 lle mae Cwmbr\u00e2n wedi\u2019i lleoli \u2013 y gyfradd bleidleisio isaf o\u2019r 22 awdurdodau lleol yng Nghymru. Yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf, fel llawer o etholaethau eraill yng Nghymru, roedd y gyfradd bleidleisio yno yn is na 50%.\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Daeth fy \u201cymgysylltiad\u201d gwirioneddol cyntaf \u00e2 gwleidyddiaeth ar lefel leol ym mis Ebrill 2010, pan oeddwn yn 15 oed. Roeddwn yn eistedd mewn ystafell ddosbarth orlawn mewn cragen o ysgol gyfun a oedd yn brysur dadfeilio, ychydig cyn etholiad cyffredinol y DU. Clywais fan yn gyrru heibio i\u2019r ysgol, gyda uchelseinydd yn annog pobl i bleidleisio dros y BNP er mwyn \u201cdiogelu ein hardal\u201d. Yn ffodus, nid oeddent yn agos at ennill y sedd, ond roedd eu haerllugrwydd wrth geisio beio \u201cdieithriaid\u201d am y problemau yr oedd fy ardal yn eu hwynebu (ac yn dal i\u2019w hwynebu hyd y dydd heddiw) yn fy digio\u2019n fawr. Yn debyg iawn i bobl sy\u2019n eistedd yn San Steffan neu yn y Senedd yn casglu eu cyflogau, nid oeddent yn gwybod dim am ardaloedd fel fy ardal i, ac nid oedd ots ganddynt chwaith.\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u00a0Euthum i Brifysgol Aberystwyth, lle astudiais radd israddedig mewn Seicoleg yn gyntaf, ac yna radd meistr mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae&#8217;r ffordd rydym yn ysgogi newid wastad wedi bod o\u2019r diddordeb eithaf imi, yn ogystal \u00e2&#8217;r diffyg dealltwriaeth ymysg pleidiau gwleidyddol o ardaloedd fel fy nhref enedigol. <\/span>Rwy&#8217;n cofio, yn y cyfnod yn arwain at Refferendwm yr UE yn 2016, ennill sawl peint yn rhad ac am ddim gan ffrindiau yn y brifysgol \u2013 a llawer ohonynt yn astudio Gwleidyddiaeth (yn wahanol i mi ar y pryd) \u2013 drwy fetio y byddai&#8217;r DU yn pleidleisio i adael. Roedd llawer yn chwerthin am fy mhen ar y pryd. Roedd y rhan fwyaf o&#8217;r bobl hyn yn dod o ddinasoedd mawr neu drefi a phentrefi braf, cefn gwlad yn Lloegr. Nid o leoedd fel fy un i, lle roedd pobl yn aml yn teimlo bod gwleidyddiaeth yn cael ei gorfodi arnynt, yn hytrach na&#8217;i gweithredu er eu lles.<\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Ymateb chwerthinllyd y pleidiau gwleidyddol ar yr asgell chwith ledled y DU i ganlyniad y refferendwm hwnnw \u2013 a&#8217;r ymdrechion i&#8217;w wrthdroi \u2013 a&#8217;m rhwystrodd rhag ymuno ag unrhyw un ohonynt tan ar \u00f4l etholiad 2019, pan ddaeth y ddadl honno i ben o&#8217;r diwedd. Fel rhywun sy&#8217;n credu mewn democratiaeth lawr gwlad, ac felly&#8217;n cefnogi annibyniaeth i Gymru, dim ond dwy blaid oedd \u00e2 gwir siawns y byddwn yn ymuno \u00e2 nhw: Plaid Werdd Cymru neu Blaid Cymru. Ar \u00f4l ystyried y mater, ymunais \u00e2&#8217;r Blaid Werdd, gan fod ganddynt bolis\u00efau mwy beiddgar oedd yn cyd-fynd yn well \u00e2&#8217;m barn fy hun.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Euthum ati o ddifri \u00e2&#8217;r blaid, gan ymgymryd \u00e2 rolau amrywiol ar lefel leol, gan gyrraedd y pwynt o fod yn Gadeirydd Plaid Werdd Gwent. Ar lefel ieuenctid, fe&#8217;m etholwyd yn Swyddog Ymgyrchoedd y &#8216;Gwyrddion Ifanc\u2019, ac yn ddiweddarach yn Swyddog Addysg Wleidyddol. Yn olaf, ar lefel Cymru, etholwyd fi&#8217;n Ddirprwy Arweinydd Plaid Werdd Cymru yn 2024. Yn ystod fy amser yn y blaid, sefais mewn etholiadau lleol, etholiadau&#8217;r DU ac etholiadau&#8217;r Senedd. Gweithiais i helpu ethol aelodau&#8217;r Blaid Werdd ledled Cymru a Lloegr, cymrais rhan mewn cyfarfodydd ar-lein oriau o hyd, deliais \u00e2&#8217;r wasg, ymwelais \u00e2 changhennau lleol i roi sgyrsiau, a llawer mwy.<\/span><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-1879 aligncenter\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/philip-davies-225x300.jpg\" alt=\"\" width=\"225\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/philip-davies-225x300.jpg 225w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/philip-davies.jpg 384w\" sizes=\"auto, (max-width: 225px) 100vw, 225px\" \/><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Po fwyaf a wneuthum, y lleiaf yr oeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi neu wrando arni gan y blaid. Roedd hyn, yn \u00f4l pob golwg, oherwydd fy mod yn aelod o Gymru, ac yn rhywun sy&#8217;n dod o ardal fel fy un i \u2013 ac sy&#8217;n dal i fyw yno. Roedd gen i bryderon ynghylch llawer o bethau ac nid oeddwn yn gallu amgyffred unrhyw strategaeth hirdymor ar gyfer ennill p\u0175er yng nghyd-destun y DU o fewn y blaid. Dechreuais deimlo fy mod yn cael fy defnyddio dim ond pan oedd o fudd iddynt fel llais Cymreig. Roedd y diffyg t\u00e2l i r\u00f4l Dirprwy Arweinwydd Cymru, er gwaethaf yr amser y mae&#8217;n ei gymryd &#8211; a&#8217;r swm o arian sydd ar gael i&#8217;r blaid nawr &#8211; o&#8217;i gymharu \u00e2&#8217;r arian ac amser staff y mae&#8217;r t\u00eem Arweinyddiaeth yn Lloegr yn ei dderbyn, yn fy ngadael i\u2019n arbennig o flin.\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Gadewais; roedd yn rhaid i mi er mwyn fy iechyd meddwl a&#8217;m hunan-barch. Mae&#8217;n teimlo&#8217;n yr un mor iachaol ac y mae\u2019n boenus. Rwy&#8217;n gobeithio y bydd Plaid Werdd Cymru yn pleidleisio i wahanu o\u2019r Blaid yn Lloegr a dod yn wirioneddol annibynnol, ond rwy&#8217;n ofni hyd yn oed os bydd yn gwneud hynny, y bydd yn cymryd blynyddoedd ac yn cael ei ohirio gan aelodau sy&#8217;n ofni&#8217;r etholiadau sydd ar ddod. Iddyn nhw, erfynaf, byddwch yn feiddgar a gwnewch hynny.<\/span><\/p>\n<p><b>Cyflwr Presennol Gwleidyddiaeth Cymru\u00a0<\/b><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn dilyn yr etholiad diweddar, rydym o\u2019r diwedd wedi dianc rhag goruchafiaeth Llafur Cymru yn y Senedd. Yn anffodus, nid yw\u2019r diffyg hunanfyfyrio gan Lafur, na\u2019r haerllugrwydd parhaus sy\u2019n nodweddiadol o\u2019u Haelodau Seneddol yn fy synnu o gwbl. Cymerant bleidleiswyr yn ganiataol, gan ystyried gwleidyddiaeth fel rhywbeth i\u2019w weithredu ar gymunedau, yn hytrach nag ymrafer ar y cyd \u00e2 nhw. Cadarnhawyd y farn hon ymhellach gan brofiad a gefais gyda Huw Irranca-Davies yn ystod ymddangosiad teledu cyn etholiad y Senedd. Yn ystod y sgwrs, anwybyddodd fy mhrofiad personol yn llwyr \u2013 sef tyfu i fyny o dan oruchafiaeth Llafur Cymru \u2013 a cheisiodd siarad \u00e2 mi mewn ffordd nawddoglyd. <\/span><span style=\"font-weight: 400;\">Mae Plaid Cymru nawr mewn grym, ond beth sydd wir wedi newid? Peidiwch \u00e2 chamddeall; mae llawer o bobl wych yn y Blaid yr wyf yn eu hystyried yn ffrindiau, gan gynnwys nifer o ASau. Ond os ydych chi wedi bod yn y gwrthbleidiau ers degawdau, dylech eisoes fod \u00e2 chynllun ar gyfer y camau i\u2019w cymryd ar \u00f4l ennill grym. Fodd bynnag, nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth o hyn. Nid yw hyd yn oed mesur mor syml \u00e2 rhoi diwedd ar hawl landloriad i droi allan yn ddifai yng Nghymru wedi\u2019i weithredu \u2013 yr unig wlad ym Mhrydain sy\u2019n dal i ganiat\u00e1u hyn.\u00a0\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn rhy aml, mae\u2019n ymddangos mai dim ond lle i bobl ennill cyflog heb gyflawni rhyw lawer yw\u2019r Senedd. Mae\u2019r system rhestrau caeedig \u2013 er ei bod yn welliant ar y system \u2018cyntaf i\u2019r felin\u2019 \u2013 yn golygu bod math o fanteisio gwleidyddol hunanol yn dal i ffynnu yng Nghymru. Mae\u2019r pleidiau wedi ei cael hi\u2019n hawdd, oherwydd diffyg craffu gwirioneddol gan y cyfryngau Cymreig \u2013 oedd yn rhy agos atynt o lawer o fewn \u2018swigen\u2019 y Senedd \u2013 a chan y cyfryngau yn y DU, sydd yn poeni dim am Gymru. Roeddwn i hyd yn oed wedi cellwair \u00e2 fy ffrind o\u2019r Blaid Werdd y byddai fy ymddiswyddiad wedi cyflawni un peth o leiaf: sicrhau bod Plaid Werdd Cymru yn cael ei chrybwyll yn adran y DU o raglen <\/span><i><span style=\"font-weight: 400;\">BBC Breakfast<\/span><\/i><span style=\"font-weight: 400;\">.\u00a0\u00a0<\/span><\/p>\n<p><b>Rhesymau dros Obeithio<\/b><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Felly, i ble rydym ni &#8211; fel yr asgell chwith ehangach yng Nghymru &#8211; am fynd o\u2019r fan hon? Dydw i ddim yn mynd i siarsio unrhyw un i adael plaid. Rwy\u2019n edmygu\u2019n fawr y bobl sy\u2019n gweithio\u2019n galed i geisio annog Plaid Cymru i fod yn fwy beiddgar, a\u2019r rhai yn y Blaid Werdd yng Nghymru sy\u2019n parhau i ymdrechu i\u2019w gwneud yn rym go iawn o fewn gwleidyddiaeth Cymru. Yr hyn yr hoffwn ei weld yw strategaeth hirdymor ehangach gan y ddwy blaid hyn.\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">I mi, mae\u2019n parhau i fod yn amlwg bod dyfodol Cymru yn gorwedd y tu allan i system San Steffan \u2013 system nad oes ganddi unrhyw ddiddordeb ynom ni. Fodd bynnag, byddai\u2019n debygol o gymryd degawdau lawer i adeiladu hyn, ac mae angen i bobl yng Nghymru deimlo bod y pleidiau yn y Senedd wir yn gweithio drostynt \u2013 yn wahanol i\u2019r pleidiau yn San Steffan.\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae\u2019n fy nghysuro bod poblogrwydd Reform yn parhau i ddirywio yng Nghymru. Yn anffodus, rwy\u2019n byw yn y ward gyngor lle gwelwyd y symudiad cyntaf o blaid Reform yng Nghymru, pan welodd fy nhri chynghorydd lleol \u201cannibynnol\u201d y cyfle i gael eu dwylo ar arian drwy ymuno \u00e2 Reform. <\/span><\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-1877\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/cwmbran-300x212.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"212\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/cwmbran-300x212.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/cwmbran.jpg 512w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Nid ydym ni yng Nghymru yn hoff o gael ein gorchymyn gan bobl mewn siwtiau sydd yn malio dim am ein hardaloedd; yn ffodus, mae\u2019r syniad y gallai Reform, neu unrhyw rym asgell dde arall, ennill mwyafrif yn y Senedd, yn ymddangos yn amhosibl i mi.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Unwaith y bydd pleidiau\u2019r chwith yng Nghymru yn dechrau gwrando ar gymunedau fel yr un rwy\u2019n hannu ohoni, bydd cyfle i sicrhau newid gwirioneddol. Fel y nodais yn fy fideo ymddiswyddo, y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o etholaethau gwleidyddol yn y DU ac yng Nghymru yn cynnwys casgliad o drefi neu ddinasoedd bach \u2013 yn debyg iawn i\u2019r lle rwy\u2019n dod ohono. Byddai\u2019n dda i wleidyddion yng Nghymru gofio hyn, a dechrau rhoi llais i bobl o\u2019r cymunedau hyn.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">I bawb sydd am weld Cymru well a byd gwell: parhewch i wneud yr hyn y gallwch yn eich cymunedau, a pharhewch i roi pwysau ar ein cynrychiolwyr etholedig. Mae gennym y p\u0175er o hyd i greu\u2019r newid rydym am ei weld. Gorffennaf gyda geiriau pwerus y bardd R.S. Thomas, o\u2019i gerdd <\/span><i><span style=\"font-weight: 400;\">Welsh History<\/span><\/i><span style=\"font-weight: 400;\">:<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">\u201cWhen we have finished quarrelling for crumbs <\/span><span style=\"font-weight: 400;\"><br \/>\n<\/span><span style=\"font-weight: 400;\">Under the table, or gnawing the bones <\/span><span style=\"font-weight: 400;\"><br \/>\n<\/span><span style=\"font-weight: 400;\">Of a dead culture, we will arise <\/span><span style=\"font-weight: 400;\"><br \/>\n<\/span><span style=\"font-weight: 400;\">And greet each other in a new dawn.\u201d\u00a0<\/span><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rwy\u2019n ysgrifennu cwta pythefnos ar \u00f4l ymadael o&#8217;m swydd etholedig fel Dirprwy Arweinydd Plaid Werdd Cymru \u2013 plaid yr wyf wedi gweithio\u2019n galed drosti dros y 7 mlynedd diwethaf. Yn &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Ap\u00eal am Strategaeth Hirdymor i&#8217;r Chwith yng Nghymru&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":75,"featured_media":1882,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1876","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v28.6 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Ap\u00eal am Strategaeth Hirdymor i&#039;r Chwith yng Nghymru - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ap\u00eal am Strategaeth Hirdymor i&#039;r Chwith yng Nghymru - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Rwy\u2019n ysgrifennu cwta pythefnos ar \u00f4l ymadael o&#8217;m swydd etholedig fel Dirprwy Arweinydd Plaid Werdd Cymru \u2013 plaid yr wyf wedi gweithio\u2019n galed drosti dros y 7 mlynedd diwethaf. Yn &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Ap\u00eal am Strategaeth Hirdymor i&#8217;r Chwith yng Nghymru&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-11-06T00:36:22+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-11-06T00:45:16+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/philip-davies-2-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"384\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"203\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Philip Davies\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Philip Davies\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"11 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/11\\\/06\\\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/11\\\/06\\\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Philip Davies\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/e2757c2c582f3324ad0351541761fcd9\"},\"headline\":\"Ap\u00eal am Strategaeth Hirdymor i&#8217;r Chwith yng Nghymru\",\"datePublished\":\"2026-11-06T00:36:22+00:00\",\"dateModified\":\"2026-11-06T00:45:16+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/11\\\/06\\\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\\\/\"},\"wordCount\":3347,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/11\\\/06\\\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/11\\\/philip-davies-2-1.jpg\",\"articleSection\":[\"Heb gategori\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/11\\\/06\\\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/11\\\/06\\\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\\\/\",\"name\":\"Ap\u00eal am Strategaeth Hirdymor i'r Chwith yng Nghymru - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/11\\\/06\\\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/11\\\/06\\\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/11\\\/philip-davies-2-1.jpg\",\"datePublished\":\"2026-11-06T00:36:22+00:00\",\"dateModified\":\"2026-11-06T00:45:16+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/11\\\/06\\\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/11\\\/06\\\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/11\\\/06\\\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/11\\\/philip-davies-2-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/11\\\/philip-davies-2-1.jpg\",\"width\":384,\"height\":203},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/2026\\\/11\\\/06\\\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Ap\u00eal am Strategaeth Hirdymor i&#8217;r Chwith yng Nghymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Sosialaidd i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/07\\\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/07\\\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/undodcymru\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/undodcymru\",\"https:\\\/\\\/www.instagram.com\\\/undodcymru\\\/\",\"https:\\\/\\\/www.youtube.com\\\/channel\\\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/e2757c2c582f3324ad0351541761fcd9\",\"name\":\"Philip Davies\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/e3fac637540a8f275a6b3f51e45a4be73654da33636b4189d4ba82746249fc16?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/e3fac637540a8f275a6b3f51e45a4be73654da33636b4189d4ba82746249fc16?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/e3fac637540a8f275a6b3f51e45a4be73654da33636b4189d4ba82746249fc16?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Philip Davies\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/undod.cymru\\\/cy\\\/author\\\/philip-davies\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ap\u00eal am Strategaeth Hirdymor i'r Chwith yng Nghymru - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Ap\u00eal am Strategaeth Hirdymor i'r Chwith yng Nghymru - undod","og_description":"Rwy\u2019n ysgrifennu cwta pythefnos ar \u00f4l ymadael o&#8217;m swydd etholedig fel Dirprwy Arweinydd Plaid Werdd Cymru \u2013 plaid yr wyf wedi gweithio\u2019n galed drosti dros y 7 mlynedd diwethaf. Yn &hellip; Parhau i ddarllen \"Ap\u00eal am Strategaeth Hirdymor i&#8217;r Chwith yng Nghymru\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2026-11-06T00:36:22+00:00","article_modified_time":"2026-11-06T00:45:16+00:00","og_image":[{"width":384,"height":203,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/philip-davies-2-1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Philip Davies","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Philip Davies","Est. reading time":"11 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/"},"author":{"name":"Philip Davies","@id":"https:\/\/undod.cymru\/#\/schema\/person\/e2757c2c582f3324ad0351541761fcd9"},"headline":"Ap\u00eal am Strategaeth Hirdymor i&#8217;r Chwith yng Nghymru","datePublished":"2026-11-06T00:36:22+00:00","dateModified":"2026-11-06T00:45:16+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/"},"wordCount":3347,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/philip-davies-2-1.jpg","articleSection":["Heb gategori"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/","name":"Ap\u00eal am Strategaeth Hirdymor i'r Chwith yng Nghymru - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/philip-davies-2-1.jpg","datePublished":"2026-11-06T00:36:22+00:00","dateModified":"2026-11-06T00:45:16+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/philip-davies-2-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/11\/philip-davies-2-1.jpg","width":384,"height":203},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2026\/11\/06\/apel-am-strategaeth-hirdymor-ir-chwith-yng-nghymru\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Ap\u00eal am Strategaeth Hirdymor i&#8217;r Chwith yng Nghymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Sosialaidd i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/#\/schema\/person\/e2757c2c582f3324ad0351541761fcd9","name":"Philip Davies","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/e3fac637540a8f275a6b3f51e45a4be73654da33636b4189d4ba82746249fc16?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/e3fac637540a8f275a6b3f51e45a4be73654da33636b4189d4ba82746249fc16?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/e3fac637540a8f275a6b3f51e45a4be73654da33636b4189d4ba82746249fc16?s=96&d=mm&r=g","caption":"Philip Davies"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/philip-davies\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1876","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/75"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1876"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1876\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1883,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1876\/revisions\/1883"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1882"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1876"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1876"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1876"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}