{"id":257,"date":"2019-06-16T10:51:29","date_gmt":"2019-06-16T09:51:29","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=257"},"modified":"2019-06-16T11:08:42","modified_gmt":"2019-06-16T10:08:42","slug":"hil-ac-annibyniaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/","title":{"rendered":"Hil ac annibyniaeth"},"content":{"rendered":"<p>Fe gafodd yr orymdaith gyntaf dros annibyniaeth i Gymru ei chynnal ar 11 Mai 2019. Roedd bron i dair mil o bobl yn bresennol, a\u2019r dorf yn llifo drwy ganol y brifddinas cyn cyrraedd yr Aes.<\/p>\n<p>Penllanw\u2019r orymdaith oedd cyfres o areithiau byrion gan arweinydd Plaid Cymru Adam Price, Carys Eleri, Si\u00f4n Jobbins, Sandy Clubb, Ben Gwalchmai ac Ajit Cheviz \u2013 <a href=\"https:\/\/nation.cymru\/opinion\/audio-all-the-speeches-from-saturdays-march-for-independence\/\">gallwch wrando arnyn nhw ar-lein<\/a>. Ymhlith y siaradwyr roedd rhywun i gynrychioli siaradwyr Cymraeg, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, pobl LHDT a menywod gwynion: ond dim menywod croenliw. O ystyried y ffaith nad oes ganddon ni\u2019r un fenyw groenliw yn y Senedd, nac yn cynrychioli Cymru yn San Steffan, mae hyn yn rhan o batrwm ehangach. Mor agos at ganmlwyddiant dechrau Terfysgoedd Hil 1919, dyma golli cyfle da i hybu cydraddoldeb hiliol.<\/p>\n<p><strong>Rhowch y tegell i ferwi, mae\u2019n bryd siarad am hil yn y mudiad cenedlaethol.<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019n gyfnod o newid i\u2019n hunaniaeth genedlaethol. Pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yw bron i 20% o boblogaeth Caerdydd, ac mae hanner y bobl yma\u2019n fenywod ac yn bobl anneuaidd. Er hynny, ac er mai Caerdydd yw cartref y gymuned barhaus hynaf o bobl dduon yng ngwledydd Prydain, doedd dim menywod duon nac o leiafrifoedd ethnig yn siarad yn y digwyddiad.<\/p>\n<p>Mae cymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig ar groestoriad rhwng sawl mynegai o amddifadedd, yn enwedig menywod, pobl cwiyr, pobl draws a phobl nad ydyn nhw\u2019n cydymffurfio o ran rhywedd. Dangosodd ymchwil diweddar gan fudiad menywod Chwarae Teg fod canran y bobl ddi-waith yn rhai o\u2019n cymunedau o bobl ar wasgar mor uchel ag 80%. Ugain mlynedd ers datganoli, does dim un fenyw o\u2019r cymunedau yma wedi cael ei hethol i\u2019r Senedd nac i San Steffan.<\/p>\n<p>Yr ymgyrchydd du radical Claudia Jones fathodd y term \u201cgormes driphlyg\u201d, damcaniaeth sy\u2019n trafod perthynas gormes wrth edrych ar brofiad o hiliaeth, dosbarthiaeth a rhywiaeth ymhlith menywod duon. Mae gormes driphlyg yn fyw ac yn iach i fenywod duon Cymru, ac mae\u2019r bwlch cyflog yn ychwanegu at hynny eto.<\/p>\n<p>Gall y mudiad cenedlaethol fod yn ffeministaidd, yn wrth-imperialaidd ac yn wrth-gyfalafol \u2013 ond fydd dim o hyn yn bosib heb bobl groenliw. Angela Davis ddywedodd nad yw bod yn an-hiliol yn ddigon mewn cymdeithas hiliol \u2013 mae\u2019n rhaid mynd ati i fod yn wrth-hiliol. Dyma rai pethau y gall y mudiad cenedlaethol ei wneud er mwyn sicrhau ei fod yn fwy cynhwysol a hygyrch er mwyn rhoi diwedd ar y batriarchaeth gyfalafol sy\u2019n dyrchafu pobl wynion:<\/p>\n<h2>1. Dysgu ei hanes<\/h2>\n<p>Mae gan Gymru berthynas anghysurus gyda gwladychiaeth a\u2019r fasnach gaethwasiaeth. Mae\u2019r berthynas anghysurus yna yn amlwg heddiw yn y gwahanu hiliol sydd i\u2019w weld yn ein gwleidyddiaeth a\u2019n cymdeithas.<\/p>\n<p>Mae gan Gymru hanes dwfn gyda gwladychiaeth sydd heb ei ddadansoddi a\u2019i astudio\u2019n llawn. Gellir dweud yr un peth am ein hanes diweddar gyda phobl groenliw. Mae treftadaeth a hanes pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig Cymru mewn mwy o berygl nag erioed. Yn 2016, caewyd Canolfan Hanes a Chelfyddydau Trebiwt, ac mae dyfodol yr archif o dan fygythiad. Mae\u2019r methiant i ariannu adnodd yn lle\u2019r ganolfan er mwyn diogelu\u2019r rhan hollbwysig yma o hanes Cymru yn dweud cyfrolau.<\/p>\n<p>Ein cyfrifoldeb ni fel pobl Cymru yw addysgu\u2019n hunain am y gymdeithas rydyn ni wedi\u2019i chael o fola\u2019r bwystfil \u2013 yr Ymerodraeth Brydeinig ei hunan \u2013 a bod yn llawer mwy beirniadol o\u2019n hymwneud ni gyda\u2019r Ymerodraeth honno (a\u2019r mawrygu yng nghyd-destun ein gwladychfa ni\u2019n hunain ym Mhatagonia). Mae rhestr ddarllen ar ddiwedd yr erthygl.<\/p>\n<h2>2. Trafod rhyngblethu<\/h2>\n<p>Fframwaith ar gyfer deall ein profiadau byw a\u2019r bywydau o\u2019n cwmpas yw rhyngblethni. Mae\u2019n tynnu ar athroniaeth Farcsaidd a Ffeministaidd Ddu, gan edrych ar y ffordd mae sawl matrics grym yn plethu gyda\u2019i gilydd.<\/p>\n<p>Flwyddyn neu ddwy yn \u00f4l, aeth stori ar led am fenyw mewn penwisg oedd yn siarad Cymraeg gyda\u2019i phlentyn ar fws rhwng Caerdydd a Chasnewydd. Ar \u00f4l i rywun ddweud wrthi y dylai \u201cSpeak English\u201d, fe gododd teithwraig arall i\u2019w hamddiffyn drwy ddatgan mai Cymraeg roedd hi\u2019n siarad gyda\u2019i phlentyn. Roedd hynny\u2019n ddigon i gau ceg y siaradwr Saesneg. Aeth y stori yma ar led er mwyn \u201cprofi\u201d pa mor oddefgar yw Cymru fel gwlad, anwybodaeth y dyn wnaeth ymyrryd, a\u2019r amrywiaeth sydd yng Nghymru. Mae\u2019r stori\u2019n adlewyrchu ein hanes trymlwythog. Rwy\u2019n hoffi meddwl, petai hi\u2019n siarad Iorwba neu Arabeg, y byddai\u2019r deithwraig arall ar y bws wedi herio\u2019r sylw hiliol beth bynnag, ond mae\u2019n bosib, o ystyried gwahanol statws grwpiau gwahanol, y byddai\u2019r deithwraig wedi bod yn llai tebygol o godi llais i amddiffyn iaith leiafrifol heblaw\u2019r Gymraeg. Faint o weithiau mae rhywun yn dweud wrth leiafrifoedd ethnig yng Nghymru y dylent \u2018speak English\u2019? A faint o weithiau mae hynny\u2019n digwydd heb i neb ei herio?<\/p>\n<p>Mae rhyngblethni yn ddefnyddiol er mwyn deall enghreifftiau fel y rhain lle mae sawl perthynas rym a sawl haen o ddiffyg braint yn cyd-daro.<\/p>\n<p>Mae\u2019n gallu bod yn ffr\u00e2m hefyd ar gyfer deall ein hanes diweddar a chynnig cipolwg ar gymhlethdodau presennol o ran hunaniaethau a pherthnasau cymdeithasol. Mae rhai materion wedi\u2019u clymu wrth ddeddfwriaeth: gweithredwyd y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol yn 1965, ond ni chafwyd Deddf Iaith o werth tan 1993. Am y 28 mlynedd yna, roedd llawer o ddrwgdybiaeth rhwng y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a grwpiau eraill: aelodau o gymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig ar lawr gwlad, ymgyrchwyr iaith, ac yn arbennig pobl o gefndiroedd lleiafrifol oedd hefyd yn siarad Cymraeg. Mae yna sylwebaeth ddifyr ar berthnasau strwythurol rhwng grwpiau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a grwpiau Cymraeg yn Gender and Social Justice in Wales a olygwyd gan Nickie Charles a Charlotte Aull Davies. Does dim amheuaeth bod y perthnasau hanesyddol yma wedi cael effaith arnon ni sy\u2019n byw yn y Gymru gyfoes, ac mae angen i ni ddeall gwaddol hyn a bod yn barod i\u2019w drafod. Ni allwn ddianc rhag hyn \u2013 ac mae mwy nag erioed o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sy\u2019n siarad Cymraeg.<\/p>\n<p>Gwnewch ddefnydd o ryngblethni, estynnwch allan at wahanol grwpiau.<\/p>\n<p>Peidiwch \u00e2 gofyn \u201cSut mae cyrraedd \u2018cymunedau anodd eu cyrraedd?\u2019. Yn hytrach, gofynnwch \u201cBeth allwn ni wneud er mwyn gwneud y mudiad yn fwy hygyrch?\u201d neu \u201cBeth ydyn ni\u2019n ei wneud o\u2019i le?\u201d<\/p>\n<h2>3. Cofio am ryngblethu, cofio cyd-sefyll<\/h2>\n<p>Mae sawl ffordd o wneud eich digwyddiadau a\u2019ch cyfarfodydd yn hygyrch. Dyma ambell air o gyngor:<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\">1. Os mai cwrdd mewn tafarn rydych chi, ydych chi wedi ystyried peidio cwrdd mewn adeilad lle mae alcohol yn cael ei werthu \u2013 siop goffi, er enghraifft? Fe allai fod yn anodd i alcoholigion, alcoholigion sy\u2019n gwella, neu bobl o gefndiroedd ethnig neu ffydd lleiafrifol ddod i\u2019ch cyfarfod.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\">2. Ydy lleoliad eich cyfarfod yn golygu bod angen i bobl brynu rhywbeth er mwyn bod yno?<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\">3. Fe allai ble rydych chi\u2019n dewis cyfarfod fel grwpiau neu fel ffrindiau gael effaith ar bwy arall sy\u2019n debygol o ddod i\u2019ch digwyddiad neu\u2019ch cyfarfod. Mae trefnu digwyddiadau neu gyfarfodydd fel paratoi platiaid o frechdanau: mae rhai pobl yn chwilio am fwyd di-glwten, tra bod rhai yn chwilio am fwyd halal. Rhowch ystyriaeth i\u2019ch lleoliadau, ac ystyriwch pam mae rhai llefydd yn cael eu hawgrymu yn fwy nag eraill.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\">4. Mae calendrau gwahanol yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Mae Ramadan yn symud bob blwyddyn \u2013 felly hefyd Eid. Ond dydy\u2019r Nadolig ddim. Mae\u2019r Pasg yn enghraifft dda o\u2019r ffordd mae calendr y lleuad yn effeithio ar lawer ohonon ni yng Nghymru. Gwnewch yn si\u0175r nad ydych chi\u2019n gwrthdaro \u00e2 dim byd, fel Eid, Yom Kippur, neu unrhyw ddigwyddiadau eraill a allai rannu eich cynulleidfa.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 40px;\">5. Mae #CymryEwropeaidd yn dathlu hunaniaeth Gymreig ac Ewropeaidd. Mae\u2019n gwneud synnwyr creu cysylltiadau a chefnogi gwledydd bach eraill fel Catalwnia. Mae cysylltiad cl\u00f2s rhwng Cymru a Chatalwnia, yn ein dychymyg ac yn ddaearyddol. Aeth miloedd o Gymry i Sbaen i ymladd yn ystod yr ugeinfed ganrif, felly mae cysylltiad teuluol yno i lawer o bobl. Fodd bynnag, mae gwynder unffurf a hunaniaeth gorllewin Ewrop wedi cael effaith ddinistriol ar y byd. Dim ond dwy wlad yn y byd sydd heb eu gwladychu gan Orllewin Ewrop erioed. Fe gafodd y gwladychu yna gan orllewin Ewrop effaith drychinebus ar bobl sy\u2019n byw yng Nghymru heddiw. Mae angen i ni greu cysylltiadau (fel y rhai sydd ganddon ni gyda Chatalwnia) gyda gwledydd o gwmpas y byd. Mae angen i ni hefyd gwestiynu sut rydyn ni\u2019n penderfynu pwy i\u2019w cefnogi yng Nghymru, a sut rydyn ni\u2019n cyd-sefyll \u00e2 phobl. Mewn 24 awr yn ddiweddar, cafodd Swdan wared \u00e2 dau arweinydd, rhyddhau ei ffigurau gwleidyddol a sicrhau rhyddid y wasg. Mae\u2019n rhaid gofyn, beth oedd sylwedd ein hymateb ni?<\/p>\n<h2>4. Dadwladychu<\/h2>\n<p>Rhaid trosi dadwladychu yn weithredu yn y byd go iawn. Mae\u2019n amser dad-ddysgu pob ymddygiad gwenwynig sydd wedi\u2019u pasio i lawr i ni. Mae angen hyfforddiant gwrth-hiliol sy\u2019n benodol i Gymru ddatganoledig, sy\u2019n cwestiynu pam mae cymaint o bobl yn teimlo bod rhaid gofyn \u201cOnd o ble wyt ti\u2019n dod go iawn?\u201d ac sy\u2019n myfyrio ar y berthynas anghysurus rhwng pobl groenliw a gwahanol grwpiau, gan ofyn i bobl groenliw sut i fynd at bobl groenliw a\u2019u denu i ddigwyddiadau. Nid un garfan unffurf yw pobl groenliw, ddim mwy nag y mae siaradwyr Cymraeg yn un garfan unffurf, ac mae cwestiynau sy\u2019n trin pobl groenliw fel un garfan ar y sail nad ydyn nhw\u2019n wyn yn atgyfnerthu\u2019r ddeuoliaeth yna yn anfwriadol. Cadwch lygad allan am grwpiau gwleidyddol a chymunedol yn eich ardal chi, ac ewch allan am baned o de neu goffi. Mae\u2019n haws na feddyliech chi \u2013 yr hyn sydd angen ei wneud yw codi pontydd lle maen nhw ar goll (ar hyn o bryd).<\/p>\n<p>Mewn <a href=\"https:\/\/files.eric.ed.gov\/fulltext\/EJ899418.pdf\">darn difyr tu hwnt ar y berthynas rhwng rhywedd a hil<\/a>, mae Mamta Motwani Accapadi yn dadlau bod \u201cdeall hil a mendio hiliaeth yn ddau gysyniad \u00e2 chysylltiadau dyfnion, er eu bod nhw\u2019n hollol wahanol. Mae angen creu gofod i gael sgyrsiau o ddifri er mwyn dod i ddeall y gwahaniaethau a\u2019r cysylltiadau rhwng y cysyniadau yma. Mae angen i bobl wynion hefyd fynd ati o ddifri gael sgyrsiau am hiliaeth wyn mewn gofod diogel ar wah\u00e2n, er mwyn herio eu hunain, eu cyfoedion a\/neu eu staff. Mae angen seilio\u2019r broses yma ar rymuso pobl, nid ar euogrwydd.\u201d Allwn i ddim fod wedi\u2019i ddweud yn well fy hunan.<\/p>\n<h2>5. Gwneud lle i ni wrth y bwrdd<\/h2>\n<p>Os nad ydyn ni wrth y bwrdd, mae\u2019n debyg ein bod ni ar y fwydlen. Gwnewch y lle\u2019n groesawgar hefyd. Peidiwch \u00e2\u2019n gwahodd ni i eistedd wrth eich bwrdd a gofyn i ni gadw\u2019n dawel. Gwnewch le i ni: yn eich digwyddiadau ac yn eich sgyrsiau.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/libjournal.uncg.edu\/ijcp\/article\/viewFile\/249\/116\">breuder gwyn<\/a> yn bod. Dyma derm a fathwyd gan yr academydd Robin DiAngelo i gyfeirio at ymateb gwyllt pobl sy\u2019n cael ei achosi gan brofiadau o straen hiliol \u2013 yn y b\u00f4n, pan fydd braint gwyn yn cael ei gwestiynu neu ei herio. Mae\u2019r rhan fwyaf o bobl wynion yn byw mewn byd o gysur hiliol sy\u2019n eu hynysu rhag y straen hiliol sy\u2019n wynebu pobl groenliw bob dydd. Breuder gwyn yw pobl wynion yn crio, yn gofyn cwestiynau amheus neu\u2019n ymateb yn wael iawn, iawn i gwestiynau am hil a gwladychiaeth; a breuder gwyn yw rhes o siaradwyr gwynion mewn digwyddiad. Mae breuder gwyn yn llawn euogrwydd ac yn beryglus \u2013 fe allai ddinistrio\u2019r mudiad cenedlaethol.<\/p>\n<p>Mae gorfod cerdded i mewn i\u2019r un gofodau a wynebu\u2019r un m\u00e2n ymosodiadau flwyddyn ar \u00f4l blwyddyn yn ein blino ni. Mae ein cynghreiriaid yn gweld yr hiliaeth rydyn ni\u2019n ei wynebu ac yn teimlo\u2019n anghyfforddus hefyd.<\/p>\n<p>Fe ysgrifennodd Audre Lorde nad ein gwahaniaethau sy\u2019n ein gwahanu, ond ein hanallu i weld, derbyn a dathlu\u2019r gwahaniaethau yna. Beth am ddysgu derbyn a dathlu\u2019r gwahaniaethau, fel bod y mudiad cenedlaethol yn gallu cynrychioli pob un o\u2019n cymunedau?<\/p>\n<h2>Rhestr ddarllen (llyfrau)<\/h2>\n<ul>\n<li>A Tolerant Wales? \u2013 Golygwyd gan Charlotte Williams<\/li>\n<li>Decolonising the Mind \u2013 Ng\u0169g\u0129 wa Thiong&#8217;o<\/li>\n<li>Postcolonial Wales \u2013 Golygwyd gan Jane Aaron a Chris Williams<\/li>\n<li>Slave Wales \u2013 Chris Evans<\/li>\n<li>Sugar and Slate \u2013 Charlotte Williams<\/li>\n<li>Women, Race, Class \u2013 Angela Davis<\/li>\n<li>Wretched of the Earth \u2013 Frantz Fanon<\/li>\n<\/ul>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fe gafodd yr orymdaith gyntaf dros annibyniaeth i Gymru ei chynnal ar 11 Mai 2019. Roedd bron i dair mil o bobl yn bresennol, a\u2019r dorf yn llifo drwy ganol &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Hil ac annibyniaeth&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":260,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[53,52],"class_list":["post-257","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-intersectionality","tag-race","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Hil ac annibyniaeth - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Hil ac annibyniaeth - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Fe gafodd yr orymdaith gyntaf dros annibyniaeth i Gymru ei chynnal ar 11 Mai 2019. Roedd bron i dair mil o bobl yn bresennol, a\u2019r dorf yn llifo drwy ganol &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Hil ac annibyniaeth&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2019-06-16T09:51:29+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2019-06-16T10:08:42+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/caerdydd.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"615\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"344\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Di-enw\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Di-enw\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"20 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/\"},\"author\":{\"name\":\"Di-enw\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb8e39ad8fc03facea239cfd0d6fce1b\"},\"headline\":\"Hil ac annibyniaeth\",\"datePublished\":\"2019-06-16T09:51:29+00:00\",\"dateModified\":\"2019-06-16T10:08:42+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/\"},\"wordCount\":3918,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/caerdydd.jpg\",\"keywords\":[\"intersectionality\",\"race\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/\",\"name\":\"Hil ac annibyniaeth - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/caerdydd.jpg\",\"datePublished\":\"2019-06-16T09:51:29+00:00\",\"dateModified\":\"2019-06-16T10:08:42+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/caerdydd.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/caerdydd.jpg\",\"width\":615,\"height\":344},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Hil ac annibyniaeth\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb8e39ad8fc03facea239cfd0d6fce1b\",\"name\":\"Di-enw\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/28307571cbc6e46b0b7cbf3e97f467b438f7d308b1c06bcf5266e80fc46c59a1?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/28307571cbc6e46b0b7cbf3e97f467b438f7d308b1c06bcf5266e80fc46c59a1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/28307571cbc6e46b0b7cbf3e97f467b438f7d308b1c06bcf5266e80fc46c59a1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Di-enw\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/di-enw\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Hil ac annibyniaeth - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Hil ac annibyniaeth - undod","og_description":"Fe gafodd yr orymdaith gyntaf dros annibyniaeth i Gymru ei chynnal ar 11 Mai 2019. Roedd bron i dair mil o bobl yn bresennol, a\u2019r dorf yn llifo drwy ganol &hellip; Parhau i ddarllen \"Hil ac annibyniaeth\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2019-06-16T09:51:29+00:00","article_modified_time":"2019-06-16T10:08:42+00:00","og_image":[{"width":615,"height":344,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/caerdydd.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Di-enw","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Di-enw","Est. reading time":"20 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/"},"author":{"name":"Di-enw","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb8e39ad8fc03facea239cfd0d6fce1b"},"headline":"Hil ac annibyniaeth","datePublished":"2019-06-16T09:51:29+00:00","dateModified":"2019-06-16T10:08:42+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/"},"wordCount":3918,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/caerdydd.jpg","keywords":["intersectionality","race"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/","name":"Hil ac annibyniaeth - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/caerdydd.jpg","datePublished":"2019-06-16T09:51:29+00:00","dateModified":"2019-06-16T10:08:42+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/caerdydd.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/caerdydd.jpg","width":615,"height":344},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/16\/hil-ac-annibyniaeth\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Hil ac annibyniaeth"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb8e39ad8fc03facea239cfd0d6fce1b","name":"Di-enw","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/28307571cbc6e46b0b7cbf3e97f467b438f7d308b1c06bcf5266e80fc46c59a1?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/28307571cbc6e46b0b7cbf3e97f467b438f7d308b1c06bcf5266e80fc46c59a1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/28307571cbc6e46b0b7cbf3e97f467b438f7d308b1c06bcf5266e80fc46c59a1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Di-enw"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/di-enw\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/257","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=257"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/257\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":258,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/257\/revisions\/258"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/260"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=257"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=257"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=257"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}