{"id":265,"date":"2019-06-28T11:21:40","date_gmt":"2019-06-28T10:21:40","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=265"},"modified":"2019-06-28T15:52:43","modified_gmt":"2019-06-28T14:52:43","slug":"arfau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/28\/arfau\/","title":{"rendered":"Trwyddedau arfau i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon medd y Llys Ap\u00eal \u2013 be sydd wnelo hyn a Chymru?"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2>Be ydi&#8217;r stori?<\/h2>\n<p>Mae Undod yn croesawu&#8217;r newydd fod y Llys Ap\u00eal wedi barnu fod trwyddedu allforio arfau oddi yma i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon.<\/p>\n<p>Dywedodd y barnwyr ei fod yn \u201cafresymegol a felly yn anghyfreithlon\u201d bod Ysgrifennydd dros Fasnach Ryngwladol Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi awdurdodi trwyddedau am allforion arfau, heb asesu a oedd Sawdi Arabia wedi torri&#8217;r Gyfraith Ddyngarol Ryngwladol neu beidio.<a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>1<\/sup><\/a><\/p>\n<p>Bu llawer o adroddiadau o ffynonellau dibynadwy yn dweud fod torcyfraith o&#8217;r fath wedi digwydd yn ystod cyrchoedd bomio Lluoedd Arfog Sawdi Arabia ar Yemen. Dyna pam y daeth yr Ymgyrch yn Erbyn y Fasnach Arfau (Campaign Against Arms Trade &#8211; CAAT) a&#8217;r achos o flaen y llys.<\/p>\n<h2>Be ydi&#8217;r cefndir?<\/h2>\n<p>&#8216;Does dim syndod yn y byd fod rhyfelgwn ein Llywodraeth ddiegwyddor yn San Steffan am geisio gwyrdroi&#8217;r dyfarniad drwy apelio yn ei erbyn &#8211; anrheg fach gan May i&#8217;w holynydd.<a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>2<\/sup><\/a> Ond llathen o&#8217;r un brethyn ydyn nhw hefyd.<\/p>\n<p>Boris Johnson? Pan oedd o&#8217;n Weinidog Tramor yn 2016 cefnogodd werthu arfau yn nannedd tystiolaeth yn dangos fod targedau sifil yn cael eu bomio.<a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>3<\/sup><\/a><\/p>\n<p>Jeremy Hunt? Ceisiodd wyrdroi penderfyniad yr Almaen i beidio a gwerthu arfau i Sawdi.<a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>4<\/sup><\/a><\/p>\n<p>Ond mae sinigiaeth llwyr Llywodraethau y Deyrnas Gyfunol &#8211; Tori a Llafur &#8211; drwy werthu arfau i Sawdi yn amlwg ers degawdau. Yn 1985 y dechreuodd Thatcher a phrif gwmni arfau Prydain, BAE Systems, ar gytundebau a elwir &#8216;Al Yamamah&#8217;, sydd wedi roi elw o \u00a343 biliwn fan lleiaf i&#8217;r cwmni.<a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>5<\/sup><\/a> Gellid honni mai dyma oedd wedi cadw&#8217;r cwmni i fynd, gan nad oedd gan y wladwriaeth Brydeinig ddigon o arian ei hun i gynnal ei diwydiant arfau fel arall. Ac yn rhyfeddol i ni erbyn heddiw, llwyddodd Prydain gwerthu arfau iddynt oherwydd bod yr UDA yn gyndyn o wneud, rhag i&#8217;r arfau gael eu defnyddio yn erbyn Israel. Ymhen blynyddoedd daeth yn amlwg fod llwgrwobrwyo ar raddfa anhygoel wedi digwydd, ac yn y pendraw cynhaliodd y Serious Fraud Office ymchwiliad &#8211; ond yn dilyn pwysau gan Sawdi ataliwyd yr ymchwiliad gan Blair. Dyna hyd a lled moesol y ddau Brif Weinidog a ystyrir y mwyaf &#8216;llwyddiannus&#8217; yn y cyfnod diweddar.<\/p>\n<p>Amddiffyn buddiannau y fasnach arfau a&#8217;r peiriant milwrol ydi blaenoriaeth ein llywodraeth yn Llundain, nid arbed bywydau &#8211; sy&#8217;n digwydd bod yn fywydau pobl sy&#8217;n dywyllach eu croen na&#8217;r rhan mwyafrif ohonom ni.<\/p>\n<p>Heddiw, ein gwladwriaeth ni (gyda chymorth y Windsors) sy&#8217;n darparu mwy o arfau nac unrhyw wlad arall i Sawdi, heblaw am yr UDA. Nid yn unig hynny, ond maent hefyd yn hyfforddi lluoedd arfog y wlad honno ac yn cynnal a chadw eu hawyrennau.<a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>6<\/sup><\/a><\/p>\n<p>Rhyfel Yemen yw&#8217;r dolur sy&#8217;n dinistrio&#8217;r wlad honno, ac yn lladd ei phobl yn ddidrugaredd heb falio os ydi&#8217;r lladdedigedig yn filwyr ai peidio. Mae erchylltra mor gyffredin nes ei fod yn ffordd o fyw i ddwy ochr y gyflafan. Ac eto fyth, mae olion bysedd gwaedlyd y Brydain \u00f4l-imperialaidd ar gyrff diniwed. Y diniwed a leddir pan ymosodir ar ysgolion, ysbytai a phriodasau.<\/p>\n<p>Dywed adroddiad diweddar fod agos at 100,000 o bobl wedi eu lladd yn y rhyfel yn Yemen.<a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>7<\/sup><\/a> Mae newyn yn rhemp yn y wlad ac mae colera wedi effeithio ar dros filiwn o bobl. Dywedir fod 80% (27 miliwn) o&#8217;r boblogaeth angen cymorth dyngarol, a bod tua 10 miliwn o bobl ar drothwy newyn.<a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>8<\/sup><\/a><\/p>\n<h2>Be sy gan hyn i wneud efo Cymru?<\/h2>\n<p>Defnyddir Cymru at ddibenion rhyfelgar, ac mae yna gysylltiad uniongyrchol efo&#8217;r hyn sy&#8217;n digwydd yn Yemen.<\/p>\n<p>Taniwyd y taflegrynau \u201cStorm Shadow\u201d a \u201cPaveway IV\u201dat Yemen. Profwyd rhain yn Aberporth gyda&#8217;r awyren Typhoon yn 2010 a 2015.<a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>9<\/sup><\/a><a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>10<\/sup><\/a> Mae werth cofio&#8217;r addewid o 1,000 o swyddi a wnaed, tra bod llai na 50 yno heddiw.<\/p>\n<p>Mae Maes Awyr Llanbedr ger Harlech i&#8217;w ddatblygu er mwyn profi adar angau (\u201cdrones\u201d). Cefnogir y datblygiad gan \u00a3500,000 o arian trethdalwyr a roddwyd gan Gyngor Gwynedd. Mae Llanbedr yn rhan o \u201cBarth Menter Eryri\u201d ynghyd a Thrawsfynydd, lle mae&#8217;r Cyngor, yr Aelod Cynulliad Dafydd Elis Thomas a&#8217;r Aelod Seneddol Liz Saville Roberts i gyd yn cefnogi datblygu Adweithydd Niwclear Bychan (SMR) sydd, fel y dengys ymchwil Prifysgol Sussex, yn bennaf er mwyn cadw sgiliau niwclear ym Mhrydain ar gyfer y llongau tanddwr Trident &#8211; a yrrir gan ynni niwclear.<a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>11<\/sup><\/a><\/p>\n<p>Yr ardal oddi ar arfordir gorllewin Cymru yw&#8217;r cyntaf i gael ei chlustnodi ar gyfer paratoi at ryfel a lladd o bell yn y dull hwn.<a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>12<\/sup><\/a> Mae ein Llywodraeth yng Nghaerdydd yn fodlon i hyn digwydd, ac ychydig o wleidyddion a glywir yn lleisio barn wahanol. Unwaith yn rhagor, fu yna fawr o drafod cyhoeddus am hyn &#8211; sy&#8217;n nodweddiadol o&#8217;r modd y militareiddiwyd Cymru dros y ganrif ddiwethaf.<\/p>\n<p>Hyfforddwyd peilotiaid o Sawdi Arabia yn RAF Fali ar Ynys M\u00f4n, lle y cynhaliodd nifer o fudiadau dyngarol wylnos o brotest llynedd.<a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>13<\/sup><\/a> Mae Awyrlu&#8217;r Fali wedi derbyn rhyddfraint Ynys M\u00f4n gan y Cyngor Sir, sy hefyd wedi penodi Pencampwr y Lluoedd Arfog.<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo y diwydiant arfau a rhyfel, fel y gwelir yn amlwg o&#8217;u datganiadau cefnogol a&#8217;u cyhoeddiadau.<a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>14<\/sup><\/a> Dyma i chi rai o&#8217;r cwmn\u00efau arfau a milwrol enfawr sy&#8217;n cael croeso gwasaidd a thaeog gan Lywodraeth Cymru: BAE Systems (2.6 biliwn o arfau i Sawdi llynedd); Raytheon (gwneuthurwyr Paveway IV); QinetiQ (profi adar angau).<\/p>\n<h2>Be sy gan hyn i wneud efo Cymru annibynnol?<\/h2>\n<p>Mae&#8217;r egwyddorion y dylai Cymru annibynnol eu coleddu yn gwbl groes i&#8217;r diffyg egwyddorion a weithredir gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ym maes arfau a militariaeth. Fedrwn ni ddim, mewn Cymru annibynnol, adael materion &#8216;amddiffyn&#8217; yn nwylo Llundain. Fedrwn ni ddim bod yn fodlon efo&#8217;r ffaith fod cymaint o&#8217;n gwlad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer paratoi at ryfel, fod ein pobl dlotaf yn cael eu targedu ar gyfer eu recriwtio i&#8217;r fyddin, a bod cymaint o&#8217;n swyddi yn dibynnu ar y peiriant dieflig o ddysgu sut i ladd pobl, a hynny yn y ffyrdd mwyaf didostur.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r ddibyniaeth ar y diwydiant arfau a rhyfel yma yn anfoesol, ac yn ein cadw yn ddibynnol ar San Steffan. Polisi San Steffan yw gwario ar arfau a militariaeth.<a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>15<\/sup><\/a> Polisi San Steffan yw llymder sy&#8217;n gwasgu ein cymunedau a&#8217;n Cynghorau Sir, ac yn ein gwneud yn ysglyfaeth i unrhyw addewid am &#8216;swyddi&#8217;, waeth pa mor annhebygol.<\/p>\n<p>Byddai Cymru annibynnol sy&#8217;n fodlon efo militariaeth yn atgynhyrchu&#8217;r un math o wladwriaeth anghyfiawn sy&#8217;n bodoli yma ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Dydw i ddim eisiau bod yn rhan o&#8217;r fath wladwriaeth.<\/p>\n<p>Dylai Cymru annibynnol ymgodymu go iawn gyda chyflogaeth wahanol ar gyfer y rhai sy&#8217;n gweithio yn y diwydiant arfau &#8211; mae&#8217;r New Lucas Plan a&#8217;r Shadow Defence Diversification Agency<a title=\"Cyfeiriadau ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadau\"><sup>16<\/sup><\/a> yn cynnig rhai atebion posib.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n rhaid gofyn pam bod cymaint o&#8217;n tir, a bellach ein moroedd a&#8217;n gofod awyr, o dan law farwaidd y Weinyddiaeth Amddiffyn. Beth ddylai Cymru annibynnol wneud am hynny? Meddyliwch am y peth o ddifri, a chymharwch faint o&#8217;n hardaloedd hanesyddol sy wedi eu trawsnewid er gwaeth. Dylai Epynt fod yr un mor bwysig i ni ag ydi Tryweryn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n hwyr glas i Gymru ddeffro i&#8217;r ffaith fod gweithgaredd milwrol yma yn arwain at ladd ar raddfa eang mewn rhyfeloedd tramor &#8211; ac yn aml iawn y diniwed a leddir. Codwn ein lleisiau yn erbyn y fath greulondeb anwar. Fel y dywed y gohebydd dyngarol Hisham al-Omeisy o&#8217;r Yemen: &#8216;Yr arch leiaf yw&#8217;r arch drymaf&#8217;.<\/p>\n<h2 id=\"cyfeiriadau\">Cyfeiriadau<\/h2>\n<ol type=\"1\">\n<li><a href=\"https:\/\/www.caat.org.uk\/resources\/countries\/saudi-arabia\/legal-2016\">https:\/\/www.caat.org.uk\/resources\/countries\/saudi-arabia\/legal-2016<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-48704596\">https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-48704596<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.independent.co.uk\/news\/uk\/politics\/boris-johnson-arms-sales-saudi-arabia-yemen-war-weapons-exports-a8955091.html\">https:\/\/www.independent.co.uk\/news\/uk\/politics\/boris-johnson-arms-sales-saudi-arabia-yemen-war-weapons-exports-a8955091.html<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2019\/feb\/20\/jeremy-hunt-urges-germany-to-rethink-saudi-arms-sales-ban\">https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2019\/feb\/20\/jeremy-hunt-urges-germany-to-rethink-saudi-arms-sales-ban<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.tufts.edu\/corruptarmsdeals\/the-al-yamamah-arms-deals\/\">https:\/\/sites.tufts.edu\/corruptarmsdeals\/the-al-yamamah-arms-deals\/<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2019\/jun\/18\/the-saudis-couldnt-do-it-without-us-the-uks-true-role-in-yemens-deadly-war\">https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2019\/jun\/18\/the-saudis-couldnt-do-it-without-us-the-uks-true-role-in-yemens-deadly-war<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.acleddata.com\/2019\/06\/18\/yemen-snapshots-2015-2019\/\">https:\/\/www.acleddata.com\/2019\/06\/18\/yemen-snapshots-2015-2019\/<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/scopeblog.stanford.edu\/2018\/12\/19\/cholera-and-starvation-in-yemen-is-preventable-stanford-pediatrician-says\/\">https:\/\/scopeblog.stanford.edu\/2018\/12\/19\/cholera-and-starvation-in-yemen-is-preventable-stanford-pediatrician-says\/<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.baesystems.com\/en\/article\/first-storm-shadow-missile-successfully-released-from-typhoon\">https:\/\/www.baesystems.com\/en\/article\/first-storm-shadow-missile-successfully-released-from-typhoon<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.baesystems.com\/en\/article\/paveway-iv-testing-on-typhoon-continues\">https:\/\/www.baesystems.com\/en\/article\/paveway-iv-testing-on-typhoon-continues<\/a><\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/www.sussex.ac.uk\/spru\/newsandevents\/2017\/findings\/nuclear\">http:\/\/www.sussex.ac.uk\/spru\/newsandevents\/2017\/findings\/nuclear<\/a><\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/www.fraw.org.uk\/mei\/musings\/2014\/20140318-west_wales_drones-ecologist.html\">http:\/\/www.fraw.org.uk\/mei\/musings\/2014\/20140318-west_wales_drones-ecologist.html<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/nation.cymru\/opinion\/a-supine-welsh-government-cant-turn-a-blind-eye-to-training-saudi-pilots-at-raf-valley\/\">https:\/\/nation.cymru\/opinion\/a-supine-welsh-government-cant-turn-a-blind-eye-to-training-saudi-pilots-at-raf-valley\/<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/tradeandinvest.wales\/advanced-materials-manufacturing\/aerospace\">https:\/\/tradeandinvest.wales\/advanced-materials-manufacturing\/aerospace<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/government\/uploads\/system\/uploads\/attachment_data\/file\/652915\/UK_Defence_in_Numbers_2017_-_Update_17_Oct.pdf\">https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/government\/uploads\/system\/uploads\/attachment_data\/file\/652915\/UK_Defence_in_Numbers_2017_-_Update_17_Oct.pdf<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.caat.org.uk\/get-involved\/unions\/shadow-dda-motion\">https:\/\/www.caat.org.uk\/get-involved\/unions\/shadow-dda-motion<\/a><\/li>\n<\/ol>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Be ydi&#8217;r stori? Mae Undod yn croesawu&#8217;r newydd fod y Llys Ap\u00eal wedi barnu fod trwyddedu allforio arfau oddi yma i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon. Dywedodd y barnwyr ei fod &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/28\/arfau\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Trwyddedau arfau i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon medd y Llys Ap\u00eal \u2013 be sydd wnelo hyn a Chymru?&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":14,"featured_media":269,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[55,54],"class_list":["post-265","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-llywodraeth-cymru","tag-sawdi-arabia","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Trwyddedau arfau i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon medd y Llys Ap\u00eal \u2013 be sydd wnelo hyn a Chymru? - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Trwyddedau arfau i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon medd y Llys Ap\u00eal \u2013 be sydd wnelo hyn a Chymru? - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Be ydi&#8217;r stori? Mae Undod yn croesawu&#8217;r newydd fod y Llys Ap\u00eal wedi barnu fod trwyddedu allforio arfau oddi yma i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon. Dywedodd y barnwyr ei fod &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Trwyddedau arfau i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon medd y Llys Ap\u00eal \u2013 be sydd wnelo hyn a Chymru?&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/28\/arfau\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2019-06-28T10:21:40+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2019-06-28T14:52:43+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/raf-fali-ynys-mon.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1455\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1198\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Robat Idris\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Robat Idris\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"13 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/\"},\"author\":{\"name\":\"Robat Idris\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\"},\"headline\":\"Trwyddedau arfau i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon medd y Llys Ap\u00eal \u2013 be sydd wnelo hyn a Chymru?\",\"datePublished\":\"2019-06-28T10:21:40+00:00\",\"dateModified\":\"2019-06-28T14:52:43+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/\"},\"wordCount\":2766,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/raf-fali-ynys-mon.jpg\",\"keywords\":[\"Llywodraeth Cymru\",\"Sawdi Arabia\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/\",\"name\":\"Trwyddedau arfau i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon medd y Llys Ap\u00eal \u2013 be sydd wnelo hyn a Chymru? - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/raf-fali-ynys-mon.jpg\",\"datePublished\":\"2019-06-28T10:21:40+00:00\",\"dateModified\":\"2019-06-28T14:52:43+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/raf-fali-ynys-mon.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/raf-fali-ynys-mon.jpg\",\"width\":1455,\"height\":1198},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Trwyddedau arfau i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon medd y Llys Ap\u00eal \u2013 be sydd wnelo hyn a Chymru?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\",\"name\":\"Robat Idris\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Robat Idris\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Trwyddedau arfau i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon medd y Llys Ap\u00eal \u2013 be sydd wnelo hyn a Chymru? - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Trwyddedau arfau i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon medd y Llys Ap\u00eal \u2013 be sydd wnelo hyn a Chymru? - undod","og_description":"Be ydi&#8217;r stori? Mae Undod yn croesawu&#8217;r newydd fod y Llys Ap\u00eal wedi barnu fod trwyddedu allforio arfau oddi yma i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon. Dywedodd y barnwyr ei fod &hellip; Parhau i ddarllen \"Trwyddedau arfau i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon medd y Llys Ap\u00eal \u2013 be sydd wnelo hyn a Chymru?\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/06\/28\/arfau\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2019-06-28T10:21:40+00:00","article_modified_time":"2019-06-28T14:52:43+00:00","og_image":[{"width":1455,"height":1198,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/raf-fali-ynys-mon.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Robat Idris","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Robat Idris","Est. reading time":"13 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/"},"author":{"name":"Robat Idris","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91"},"headline":"Trwyddedau arfau i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon medd y Llys Ap\u00eal \u2013 be sydd wnelo hyn a Chymru?","datePublished":"2019-06-28T10:21:40+00:00","dateModified":"2019-06-28T14:52:43+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/"},"wordCount":2766,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/raf-fali-ynys-mon.jpg","keywords":["Llywodraeth Cymru","Sawdi Arabia"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/","name":"Trwyddedau arfau i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon medd y Llys Ap\u00eal \u2013 be sydd wnelo hyn a Chymru? - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/raf-fali-ynys-mon.jpg","datePublished":"2019-06-28T10:21:40+00:00","dateModified":"2019-06-28T14:52:43+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/raf-fali-ynys-mon.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/06\/raf-fali-ynys-mon.jpg","width":1455,"height":1198},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/06\/28\/arfau\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Trwyddedau arfau i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon medd y Llys Ap\u00eal \u2013 be sydd wnelo hyn a Chymru?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91","name":"Robat Idris","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","caption":"Robat Idris"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/265","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/14"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=265"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/265\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":271,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/265\/revisions\/271"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/269"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=265"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=265"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=265"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}