{"id":314,"date":"2019-08-01T17:34:07","date_gmt":"2019-08-01T16:34:07","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=314"},"modified":"2019-08-01T17:35:51","modified_gmt":"2019-08-01T16:35:51","slug":"y-sioe","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/","title":{"rendered":"Y Sioe a&#8217;r Steddfod: bonedd a gwr\u00eang"},"content":{"rendered":"<p>Dwy o Wyliau mawr cenedlaethol sydd yna a sefydlwyd yn benodol ar gyfer pobl Cymru \u2013 Y Sioe Fawr (Roial Welsh yn Gymraeg) a&#8217;r Steddfod (Royal National Eisteddfod gynt). Heblaw am gemau rhyngwladol, dyma lle y gwelir y torfeydd mwyaf \u2013 tua 240,000 yn y Sioe dros 4 diwrnod, a tua 150,000 yn y Steddfod dros 9 diwrnod. Fel rheol mi fydda i&#8217;n un o&#8217;r miloedd rheiny sy&#8217;n mynd i&#8217;r ddwy Wyl, a mwynhau fy hun.<\/p>\n<p>Beth, tybed, mae&#8217;r gwyliau hyn yn ddweud wrthym ni am y Gymru gyfoes? I ba raddau mae nhw&#8217;n adlewyrchu ein cymdeithas? Ac uwchlaw dim, efallai, beth yw&#8217;r negeseuon sefydliadol sy&#8217;n atgyfnerthu&#8217;r \u201cdrefn\u201d ac yn llywio barn yn yr isymwybod? Negeseuon sy&#8217;n medru bod yn ddigon anghysurus ar adegau i rai fel fi sy&#8217;n arddel gweriniaeth sosialaidd werdd a chynhwysol.<\/p>\n<p>Felly ymgais sydd yma i dynnu sylw at ambell i beth sydd, yn fy ngolwg i beth bynnag, yn golygu nad ydi&#8217;r ddau sefydliad pwysig a llwyddiannus yma ddim yn llawn amgyffred sefyllfa gyfoes Cymru \u2013 er nad ydi&#8217;r diffyg amgyffred hwn o fwriad yn angenrheidiol.<br \/>\nDyma&#8217;r erthygl gyntaf yn dilyn Sioe 2019. Daw&#8217;r ail yn dilyn y Steddfod.<\/p>\n<h3>Y Sioe<\/h3>\n<p>Bochdew, blodau a buchod, mae nhw i gyd yma. Heblaw am gant a mil o bethau eraill. Dathliad o&#8217;r gorau o ffermio a bywyd gwledig, cyfle gwych i gael hwyl a chymdeithasu. Trafodaethau di-ri, gwleidydda, gwyliau blynyddol i lawer o ffermwyr a&#8217;u teuluoedd, a chyfle i fynd dros ben llestri!<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Sioe, i raddau, yr hyn ydych chi eisiau iddi fod \u2013 gallwch ddilyn eich maes arbenigol e.e. ceffylau; dilyn eich trwyn o gwmpas y stondinau; gwylio&#8217;r gweithgareddau amrywiol. Mae&#8217;r awyrgylch yn gyfeillgar, a mi fedrwch daro sgwrs efo pob math o bobl. Be na fedrwch chi ddim ei wneud ydi osgoi rhai o&#8217;r pethau sy&#8217;n cael lle amlwg yn y Sioe, ac yn fy nharo i&#8217;n chwithig iawn.<\/p>\n<h3>Militariaeth<\/h3>\n<p>Dyna i chi y \u201cRegimental Band and Corps of Drums of the Royal Welsh\u201d gyda&#8217;r carcharor rhyfel Shenkin IV, yr afr a herwgipiwyd o&#8217;r Gogarth uwchlaw Llandudno, sy&#8217;n chwarae miwsig yn y prif gylch bob blwyddyn.<\/p>\n<p>Stondin enfawr y Fyddin Brydeinig ac un llai yr Awyrlu yn ymyl y brif fynedfa. Dim syndod o gwbl fod arfau rhyfel ac awyren yno, a phlant yn cael eu hannog i chwarae sowldiwrs a dal y gynnau yn eu dwylo meddal tra&#8217;n cael caledu eu meddyliau.<\/p>\n<p>Llynedd &#8216;roedd yr Awyrlu yn dathlu ei ganfed penblwydd, a&#8217;r Sioe yn berffaith fodlon rhoi gofod i&#8217;r dathliad \u2013 parasiwtio i&#8217;r prif gylch ac awyrennau&#8217;n hedfan uwchben. Mwy siomedig i mi oedd y ffaith fod baner enfawr yr RAF ar do adeilad y Ffermwyr Ifanc. Ydi, mae o&#8217;n fudiad rhagorol \u2013 ond hogia bach, mi oeddach chi&#8217;n cefnogi sefydliad sy&#8217;n chwyrnellu drwy&#8217;r awyr uwchben eich ffermydd a dychryn eich hanifeiliaid, heb son am yr egwyddor o hyfforddi peilotiaid o dramor i fomio gwledydd fel Yemen. Dydi ffermio ddim yn bodoli mewn gwagle moesol.<\/p>\n<p>Llynedd hefyd un o brif atyniadau&#8217;r prif gylch oedd y King&#8217;s Troop efo eu harddangosfa o geffylau yn tynnu gynnau rhyfel a&#8217;u tanio. Golygfa wedi ei llunio i gynnal cefnogaeth i&#8217;r lluoedd arfog. Ac yn naturiol mae&#8217;r King&#8217;s Troop yn rhan greiddiol o&#8217;r sioeau brenhinol yn Llundain. Dwi&#8217;n eitha sicr fod yna gost enfawr i&#8217;r math yma o weithgaredd \u2013 go brin fod y Sioe yn talu&#8217;n gyfangwbl.<\/p>\n<p><em>Cwestiwn i&#8217;r Sioe<\/em><\/p>\n<blockquote><p><em>Pam nad ydych chi&#8217;n cwestiynu militariaeth, yn enwedig o gofio faint o&#8217;n tir sy wedi ei ddwyn gan y fyddin? (Dydi maes y Sioe ddim ond tafliad carreg o&#8217;r Epynt, lle boddwyd gwerinwyr o ffermwyr gan ddagrau hiraeth. Dagrau na fedr swn y gynnau eu dileu o&#8217;r cof).<\/em><\/p><\/blockquote>\n<h3>Windsoriaeth<\/h3>\n<p>&#8216;Doedd dim angen poeni y byddai&#8217;r Sioe yn anghofio&#8217;r Windsors a hithau&#8217;n hanner canrif ers i ni ddioddef Carlo yn cael ei hwrjio arnan ni gan wleidyddion y dydd. Do, mi gyrhaeddodd yng nghwmni Camilla, a mae&#8217;n si\u0175r gwneud y sylwadau \u201cdoniol\u201d arferol, mor ddoniol fel fod pobl ddylai wybod yn well yn chwerthin lond eu boliau. Mae o a&#8217;i dylwyth yn hen gyfarwydd a chael lle blaenllaw bob tro y byddan nhw yn y Sioe, ac yn atgyfnerthu&#8217;r drefn o foesymgrymu, plygu glin, a&#8217;r \u201cwen, lafoerwen, farwol\u201d.<\/p>\n<p>Yn yr oes sy ohoni pam rhoi cymaint o gyhoeddusrwydd i bobl sy&#8217;n cynrychioli annhegwch cymdeithas? Pobl sy&#8217;n falch o wisgo lifrai milwrol ar bob cyfle posib? Pobl sy&#8217;n gyfoethog y tu hwnt i amgyffred ac eto&#8217;n ddigon haerllug i dderbyn budd-daliadau dibendraw gennych chi a minnau?<\/p>\n<p><em>Cwestiwn i&#8217;r Sioe<\/em><\/p>\n<blockquote><p><em>Onid ydi hi&#8217;n hen bryd cael &#8216;madael a&#8217;r \u201cRoyal\u201d o&#8217;r \u201cRoyal Welsh Show \u2013 y teitl a&#8217;r bobl?<\/em><\/p><\/blockquote>\n<h3>Pwy sy&#8217;n rhedeg y Sioe?<\/h3>\n<p>Gweinyddir y Sioe yn rhagorol gan staff cyflogedig diflino a chydwybodol. Fedra i ddim dychmygu y byddai&#8217;r trafferthion a welir yn rheolaidd yn y Steddfod, megis maes parcio Bodedern neu safle Llanrwst, yn digwydd yn y Sioe.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Cyngor yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn gwneud y penderfyniadau pwysig. Mae&#8217;r aelodau yn dod o wahanol gefndiroedd, ac yn wirfoddolwyr. Mae nifer o Gymry da blaenllaw yn eu plith \u2013 er diau y gellid ceisio gwell cynrychiolaeth i adlewyrchu cymdeithas wledig, heb son am un drefol. Mae&#8217;r Cyngor wedi llywio&#8217;r Sioe drwy ambell i storm dros y blynyddoedd, fel ei bod bellach y Sioe fwyaf yng ngwledydd Prydain \u2013 cofiwn fod y Royal Show yn Lloegr wedi hen fynd a&#8217;i phen iddi.<\/p>\n<p>Mae gan y Sioe Gyfarwyddwr Anrhydeddus, sy hefyd yn Is-Gadeirydd y Bwrdd Cyfawyddwyr. Daeth cyfnod y Cyfarwyddwr presennol, Harry Fetherstonhaugh, i ben eleni. Mae&#8217;n dirfeddiannwr, cyn Arglwydd Raglaw Clwyd, ac aelod o deulu bonedd sy wedi rhoi 25 mlynedd o lafur diflino i&#8217;r Sioe. Bu ei dad hefyd yn y swydd hon. Bydd yn cael ei olynu gan Richard Price, sy hefyd yn dirfeddiannwr o un o hen deuluoedd bonedd y Gogledd sy&#8217;n olrhain ei linach i Rys Fawr, a ymladdodd efo Harri Tudur ar Faes Bosworth. Etholwyd Richard Price gan y Cyngor. Dwi&#8217;n barod iawn i gydnabod cyfraniad aruthrol Harry Fetherstonhaugh, a heb amau dim ar allu nac ymroddiad Richard Price, ond mae&#8217;n ymddangos o&#8217;r tu allan fod y swydd hollbwysig hon wedi ei chadw o fewn un haen cymdeithasol. Haen sy&#8217;n fwy tebyg nag eraill i gynnal y drefn. Os yw&#8217;r swydd wirfoddol hon yn gofyn llawer o ran amser a chost, yna dylid ystyried digolledu&#8217;r person sy&#8217;n gwneud y swydd.<\/p>\n<p><em>Cwestiynau i&#8217;r Sioe<\/em><\/p>\n<blockquote><p><em>Oni ddylid ystyried pobl o bob dosbarth cymdeithasol ar gyfer y swydd o Gyfarwyddwr Anrhydedus y Sioe yn y dyfodol? Onid ydi hi&#8217;n bwysig sicrhau fod y Sioe yn gynhwysol ar bob lefel o weithgaredd, cyn belled a sy&#8217;n bosib?<\/em><\/p><\/blockquote>\n<h3>Chris Davies<\/h3>\n<p>Mae yna nifer o Gyfarwyddwyr Cynorthwyol Anrhydeddus. Un ohonyn nhw yw Chris Davies, a gafwyd yn <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/47664686\">euog o gamarwain wrth hawlio treuliau tra yn Aelod Seneddol<\/a>. Ac yntau wedi ei gael yn euog yn ddiweddar mewn llys barn, ac yn wynebu is-etholiad wedi i ddeiseb gael ei harwyddo gan dros 10,000 o&#8217;i etholwyr, mae&#8217;n syndod deall ei fod yn dal yn y swydd uchel hon yn y Sioe, lle mae&#8217;n gyfrifol am adran y ceffylau, y prif gylch, arddangosfeydd a sylwebaeth. (Sgrifennwyd yr erthygl hon cyn yr is-etholiad).<\/p>\n<p><em>Cwestiwn i&#8217;r Sioe<\/em><\/p>\n<blockquote><p><em>A drafodwyd y priodoldeb o gadw Chris Davies yn y swydd o Gyfarwyddwr Cynorthwyol Anrhydeddus yn dilyn ei achos llys?<\/em><\/p><\/blockquote>\n<h3>Y Gymraeg<\/h3>\n<p>Clywir yr iaith yn ei holl amrywiaeth tafodieithol ar faes y Sioe, fel y gellid disgwyl. Mae&#8217;r iaith yn fwy amlwg ar arwyddion nag y bu, a mae yna sylwebyddion medrus sy&#8217;n ddeheuig yn y ddwy iaith. Mae&#8217;r Prif Weithredwr wedi dysgu&#8217;r Gymraeg yn rhugl ac yn fodlon cael ei gyfweld yn yr iaith. Tra bod yna rhywfaint o Gymraeg yn y catalog, pur arwynebol ydi o. Hyd y gwn i &#8216;does yna ddim rheidrwydd cael arwyddion Cymraeg ar stondinau masnachol. Felly o ran y Sioe, mae gwelliant wedi bod, ond byddai mwy o Gymraeg yn dda i&#8217;w gweld a&#8217;i chlywed.<\/p>\n<p><em>Cwestiwn i&#8217;r Sioe<\/em><\/p>\n<blockquote><p><em>A fedrwch chi wneud mwy i droi&#8217;r Sioe yn wirioneddol ddwyieithog?<\/em><\/p><\/blockquote>\n<h3>Casgliadau<\/h3>\n<p>Hoffwn weld y Sioe yn rhoi&#8217;r gorau i bethau sy&#8217;n rhoi llwyfan amlwg i bropaganda o blaid y Lluoedd Arfog a&#8217;r Windsors. Hoffwn weld adlewyrchiad llawer mwy cynhwysol o&#8217;r gymdeithas gyfoes ymhlith rhai o uchel swyddogion y Sioe. Hoffwn weld proses deg a thryloyw o ddelio efo unigolion mewn swyddi dylanwadol sydd, am ba reswm bynnag, yn gallu dwyn anfri ar y Sioe drwy eu hymddygiad. Hoffwn weld ymgais i wella&#8217;r ddarpariaeth yn yr iaith Gymraeg, er yn cydnabod fod llawer iawn wedi ei wneud yn barod.<\/p>\n<p>Yn bennaf, gadewch i&#8217;r Sioe adlewyrchu&#8217;r gorau o&#8217;r Gymru wledig; a bod yn un o&#8217;r sefydliadau fedr arwain ar faterion megis tlodi cefn gwlad; olyniaeth mewn ffermydd teuluol; cefnogi newydd-ddyfodiaid i&#8217;r diwydiant; bod yn flaengar wrth drafod dyfodol cefn gwlad yn ei amryfal agweddau; gweithio i wyrdroi y llif ieuenctid i&#8217;r dinasoedd; a dangos yn eglur sut y gall y diwydiant creiddiol yma fod yn rhan o ddyfodol llewyrchus i Gymru.<\/p>\n<p><em>Rhan 2 i&#8217;w chyhoeddi yn fuan<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dwy o Wyliau mawr cenedlaethol sydd yna a sefydlwyd yn benodol ar gyfer pobl Cymru \u2013 Y Sioe Fawr (Roial Welsh yn Gymraeg) a&#8217;r Steddfod (Royal National Eisteddfod gynt). Heblaw &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Y Sioe a&#8217;r Steddfod: bonedd a gwr\u00eang&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":14,"featured_media":316,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[10,60,58,59,57],"class_list":["post-314","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-brenhiniaeth","tag-chris-davies","tag-llanelwedd","tag-militariaeth","tag-y-sioe","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Y Sioe a&#039;r Steddfod: bonedd a gwr\u00eang - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Y Sioe a&#039;r Steddfod: bonedd a gwr\u00eang - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dwy o Wyliau mawr cenedlaethol sydd yna a sefydlwyd yn benodol ar gyfer pobl Cymru \u2013 Y Sioe Fawr (Roial Welsh yn Gymraeg) a&#8217;r Steddfod (Royal National Eisteddfod gynt). Heblaw &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Y Sioe a&#8217;r Steddfod: bonedd a gwr\u00eang&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2019-08-01T16:34:07+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2019-08-01T16:35:51+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/08\/Sioe-Llanelwedd-gan-Eirian-Evans.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"640\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"479\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Robat Idris\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Robat Idris\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/\"},\"author\":{\"name\":\"Robat Idris\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\"},\"headline\":\"Y Sioe a&#8217;r Steddfod: bonedd a gwr\u00eang\",\"datePublished\":\"2019-08-01T16:34:07+00:00\",\"dateModified\":\"2019-08-01T16:35:51+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/\"},\"wordCount\":1601,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/08\/Sioe-Llanelwedd-gan-Eirian-Evans.jpg\",\"keywords\":[\"brenhiniaeth\",\"Chris Davies\",\"Llanelwedd\",\"militariaeth\",\"Y Sioe\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/\",\"name\":\"Y Sioe a'r Steddfod: bonedd a gwr\u00eang - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/08\/Sioe-Llanelwedd-gan-Eirian-Evans.jpg\",\"datePublished\":\"2019-08-01T16:34:07+00:00\",\"dateModified\":\"2019-08-01T16:35:51+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/08\/Sioe-Llanelwedd-gan-Eirian-Evans.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/08\/Sioe-Llanelwedd-gan-Eirian-Evans.jpg\",\"width\":640,\"height\":479,\"caption\":\"OLYMPUS DIGITAL CAMERA\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Y Sioe a&#8217;r Steddfod: bonedd a gwr\u00eang\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\",\"name\":\"Robat Idris\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Robat Idris\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Y Sioe a'r Steddfod: bonedd a gwr\u00eang - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Y Sioe a'r Steddfod: bonedd a gwr\u00eang - undod","og_description":"Dwy o Wyliau mawr cenedlaethol sydd yna a sefydlwyd yn benodol ar gyfer pobl Cymru \u2013 Y Sioe Fawr (Roial Welsh yn Gymraeg) a&#8217;r Steddfod (Royal National Eisteddfod gynt). Heblaw &hellip; Parhau i ddarllen \"Y Sioe a&#8217;r Steddfod: bonedd a gwr\u00eang\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2019-08-01T16:34:07+00:00","article_modified_time":"2019-08-01T16:35:51+00:00","og_image":[{"width":640,"height":479,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/08\/Sioe-Llanelwedd-gan-Eirian-Evans.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Robat Idris","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Robat Idris","Est. reading time":"7 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/"},"author":{"name":"Robat Idris","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91"},"headline":"Y Sioe a&#8217;r Steddfod: bonedd a gwr\u00eang","datePublished":"2019-08-01T16:34:07+00:00","dateModified":"2019-08-01T16:35:51+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/"},"wordCount":1601,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/08\/Sioe-Llanelwedd-gan-Eirian-Evans.jpg","keywords":["brenhiniaeth","Chris Davies","Llanelwedd","militariaeth","Y Sioe"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/","name":"Y Sioe a'r Steddfod: bonedd a gwr\u00eang - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/08\/Sioe-Llanelwedd-gan-Eirian-Evans.jpg","datePublished":"2019-08-01T16:34:07+00:00","dateModified":"2019-08-01T16:35:51+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/08\/Sioe-Llanelwedd-gan-Eirian-Evans.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/08\/Sioe-Llanelwedd-gan-Eirian-Evans.jpg","width":640,"height":479,"caption":"OLYMPUS DIGITAL CAMERA"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/08\/01\/y-sioe\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Y Sioe a&#8217;r Steddfod: bonedd a gwr\u00eang"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91","name":"Robat Idris","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","caption":"Robat Idris"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/314","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/14"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=314"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/314\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":318,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/314\/revisions\/318"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/316"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=314"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=314"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=314"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}