{"id":42,"date":"2019-01-14T18:10:21","date_gmt":"2019-01-14T18:10:21","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=42"},"modified":"2019-01-15T11:30:26","modified_gmt":"2019-01-15T11:30:26","slug":"radical-y-gymraeg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/","title":{"rendered":"Y Gymraeg a gwleidyddiaeth radical"},"content":{"rendered":"<p>Os oes gobaith o lwyddiant i&#8217;r mudiad annibyniaeth, mae yna angen dirfawr i sicrhau ymdeimlad o undod ymysg y sawl sy&#8217;n cyfrannu.<\/p>\n<p>Waeth inni ddechrau gydag un o&#8217;r pynciau yna sydd wedi creu hollt hanesyddol yng Nghymru \u2013 sef yr iaith. A gall rhywun gweld yng nghyswllt rhai digwyddiadau fwy diweddar bod anghytundeb, gwaetha&#8217;r modd, yn parhau i godi pen.<\/p>\n<p>Wele er enghraifft dau erthygl a gyhoeddwyd amser hyn flwyddyn ddiwethaf, gan aelodau o grwpiau ethnig lleiafrifol oedd yn honni bod y Gymraeg a&#8217;r sawl sy&#8217;n ymgyrchu drosti yn ei arallu ac yn tanseilio eu statws.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n wireb hefyd bod rhai ymysg y gymuned radical yng Nghymru sydd yn teimlo mai tynnu sylw y gwna&#8217;r Gymraeg oddi wrth bynciau pwysicach \u2013 dichon bod nifer ohonom wedi dod ar draws cymeriadau sy&#8217;n daer dros achosion lleiafrifol eraill, nad sydd yn gweld yr un dadleuon yn ymestyn i&#8217;r Gymraeg.<\/p>\n<p>Mae yna angen inni atgoffa&#8217;n hunain o bryd i&#8217;w gilydd felly bod y Gymraeg yn rhywbeth y mae&#8217;n rhaid inni gyd sefyll drosti, fel rhan o wleidyddiaeth radical yng Nghymru, pa ots beth yw ein perthynas \u00e2 hi.<\/p>\n<p>Hynny yw, nid ychwanegiad yw consyrn dros y Gymraeg, ond yn hytrach mae ei chefnogi yn ymrwymiad yr un mor annatod i fudiad o&#8217;r fath ag ymrwymiad, gweder, i warchod yr amgylchfyd.<\/p>\n<p>Yn hynny o beth mae angen ystyried a chanfod yr iaith trwy&#8217;r un prism a phynciau llosg eraill sydd yn ein herio ni yn y Gymru sydd ohoni.<\/p>\n<p>Nid problem ar wahan ydyw sydd yn wynebu problemau oherwydd set gwbl unigryw o amgylchiadau, ond yn hytrach mae cyflwr yr iaith yn symptom o broblemau sydd yn gyfrifol am ddirywiad a rhwystredigaeth yng nghyswllt achosion gwleidyddol eraill.<\/p>\n<p>Ymysg y ffactorau yma mae:<\/p>\n<ul>\n<li>diffyg gweithredu cadarnhaol, radical gan wleidyddion &#8211; fel yn achos y cynlluniau datblygu, sydd a goblygiadau ehangach na dim ond cynaladwyedd yr iaith<\/li>\n<li>y bwlch rhwng polisi ar un llaw a gweithred ar y llaw arall \u2013 gyda thargedau ac amcanion sydd mor bell o realiti pob dydd llywodraeth leol a chenedlaethol<\/li>\n<li>yr her o godi statws a rhoi bri ar bethau sydd yn arall na&#8217;r materol a&#8217;r cyfalafol \u2013 fe welwir yr agweddau yma yn y dibrisio cyson o&#8217;r iaith a&#8217;r cwestiynnu parhaol am eu gwerth economaidd &#8211; yn yr un modd y mae ein ysgolion a phrifysgolion yn cael eu coloneiddio gan safbwyntiau sydd yn rhoi gwerth yn unig ar sgiliau a chyflogadwyedd<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn syml, mae&#8217;r heriau a wynebir gan yr iaith yn rhai sydd yn ymestyn i bob cwr o&#8217;n cymdeithas. Yn hynny o beth, mae dirywiad yr iaith mewn unrhyw gyd-destun yn symptom o broblemau a thueddiadau strwythurol y gymdeithas rydym yn rhan ohoni.<\/p>\n<h2>Neo-Ryddfrydiaeth Brydeinig<\/h2>\n<p>Rhaid pwysleisio o ran y mudiad felly bod dirywiad yn y nifer o siaradwyr yn y cadarnleoedd traddodiadol yn ganlyniad i wendidau a drygioni neo-ryddfrydiaeth y gyfundrefn Brydeinig; yn yr un modd y mae&#8217;r heriau ar draws meysydd fel iechyd, cyflogaeth, ac addysg mewn ardaloedd eraill yn amlygu eu hunain oherwydd yr un ffactorau gwaelodol.<\/p>\n<p>Dyma, at ei gilydd, ideoleg economaidd sydd wedi trawsffurfio mewn i ffordd o fyw, neu safbwynt moesol hyd yn oed, sydd yn gosod elw, unigolyddiaeth a&#8217;r farchnad a&#8217;i gofynion uwchlaw pob dim arall.<\/p>\n<p>Y canlyniad mewn ardaloedd gwledig o Wynedd, Ceredigion a Sir Gar felly yw tai anfforddadwy, economiau lleol sy&#8217;n ddibynnol ar ddiwydiannau anwadal, cronni cyfoeth mewn canolfannau dinesig sydd yn tynnu&#8217;r ieuenctid o&#8217;r cyrion, a diffyg gweledigaeth neu ymrwymiad i herio&#8217;r tueddiadau yma, fel petai pobl yn ofni cael eu cystwyo am heresi.<\/p>\n<p>Ac mae&#8217;n aruthrol bwysig ein bod ni&#8217;n cydnabod bod yr union ffactorau gwaelodol, economaidd yma wrth waith pan yn ystyried tranc ein cymunedau \u00f4l-diwydiannol.<\/p>\n<p>Mae diweithdra, diffyg cyfleoedd a thlodi&#8217;r ardaloedd yma wedi treiddio&#8217;n ddwfn yma oherwydd yr ideoleg hon, yn gyntaf, wrth gwrs, gyda dinistr y diwydiannau mawrion oherwydd eu \u2018aneffeithlonrwydd&#8217; (er bod sawl diwydiant arall, yn enwedig yr un ariannol, wedi dangos eu hunan llawn mor aneffeithlon ac eto&#8217;n derbyn help di-ddiwedd).<\/p>\n<p>Yna, yn dilyn y rhaib hwnnw ni welwyd unrhyw ymgais strwythuredig, pellgyrhaeddol i drawsnewid ffawd y cymunedau yma, dim ond atebion gweigion, dros dro, megis denu diwydiannau oedd yn chwilio am ardaloedd rhatach i ecsploetio bron cyn i&#8217;w ffatrioedd cael eu codi.<\/p>\n<p>Does yna ddim rhyw lawer mwy wedi digwydd ers datganoli, gwaetha&#8217;r modd \u2013 a hynny eto&#8217;n sgileffaith tra-arglwyddiaeth neo-ryddfrydiaeth yn ystod blynyddoedd New Labour nad oedd yn mynnu&#8217;r newidiadau strwythurol i&#8217;r drefn byddai wedi gwneud gwahaniaeth i&#8217;r cymunedau yma.<\/p>\n<h2>Arallu<\/h2>\n<p>Ydynt, mae&#8217;r symptomau yn rhai gwahanol \u2013 colli iaith, pobl ifanc, a chymunedau yw ffawd ein ardaloedd cefn gwlad \u2013 dioddefaint, tlodi ac iselder yw ffawd ardaleodd ol-diwydiannol \u2013 ond rhaid inni weld ein hunan fel rhan o&#8217;r un frwydr.<\/p>\n<p>Dywed y sosialydd traddodiadol yn aml: does yna ddim gwahaniaeth rhwng y gweithiwr yng Nghymru, gogledd Lloegr na&#8217;r Alban. Ond eto mae fel petawn ni yng Nghymru ddigon hapus derbyn y syniad bod yna rywbeth sylfaenol gwahanol am y gweithiwr o Flaenau Ffestiniog a Ferndale.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cymunedau yma&#8217;n cael eu gwahanu o&#8217;i gilydd yn ymarferol ac yn seicolegol gan bolisi gwael sydd yn diethrio rhannau o Gymru o&#8217;i gilydd, a gan y broses ddrygionus o \u2018arallu&#8217; un o&#8217;r llall &#8211; trwy ddefnydd, wrth gwrs, yr iaith.<\/p>\n<p>Rydym yn annog y syniad o Gymru ryngwladol lle rydym yn hyddysg i fod yn rhan o gymuned fawr y byd, ond yn methu hyd yn oed bod yn gymuned gydlynnol o fewn ffiniau cenedl ein hunain.<\/p>\n<p>Rhaid inni wrthwynebu&#8217;r modd y mae&#8217;r iaith yn cael ei droi&#8217;n arf gan y sawl sydd heb uchelgais i&#8217;n pobl a&#8217;n gwlad.<\/p>\n<p>Mae hyn wrth gwrs yn cael eu hategu gan bolisi addysg nad sydd wedi dod yn agos at wireddu&#8217;r twf sydd angen er mwyn ymateb i&#8217;r gofyn am addysg Gymraeg na chwaith sicrhau mwy o gydraddoldeb ar draws y gwastad ieithyddol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r drwgdeimlad at yr iaith mewn ardaloedd tu allan i&#8217;r fro yn codi&#8217;n aml o&#8217;r ffaith bod pobl yn teimlo&#8217;r anghyfiawnder o beidio a siarad yr iaith, tra&#8217;n gweld y manteision sy&#8217;n codi o&#8217;r gallu hwnnw.<\/p>\n<p>Dim ond ewyllys ac ymdrech gwirioneddol i wthio ymlaen agenda&#8217;r miliwn o siaradwyr all fynd i&#8217;r afael a hyn.<\/p>\n<h2>Y ffordd ymlaen<\/h2>\n<p>Rhaid gofyn felly, beth sydd angen inni wneud. Ac o safbwynt y Cymry Cymraeg mae angen inni gydnabod y braint sydd gennym o siarad yr iaith.<\/p>\n<p>Braint o safbwynt cael mynediad at ran sylweddol o&#8217;n treftadaeth, braint o ran manteision cyffredinol dwyieithrwydd, a braint o safbwynt cyfleoedd.<\/p>\n<p>Heb gydnabod hynny mae&#8217;n anodd meithrin y cydymdeimlad sydd angen gyda&#8217;r sawl nad sydd yn medru&#8217;r iaith ac yn gweld ac yn teimlo&#8217;r rhwystrau o&#8217;r herwydd.<\/p>\n<p>Llaw yn llaw a hynny, wrth gwrs, mae eisiau gwneud gwaith gwell o fynegi natur ddeuol, amwys y fraint yma hefyd, er mwyn amlygu pam rydym ni yn aml yn teimlo dan warchae yn ein profiadau beunyddiol.<\/p>\n<p>Mewn rhai cymunedau mae&#8217;n anodd gweld y gymuned Gymraeg fel un sy&#8217;n dioddef, pan mae rhannau helaeth o&#8217;r gymuned honno yn byw bywydau cymharol llewyrchus (ac un eironi o&#8217;r prosesau rydym yn trafod yw&#8217;r ffaith bod nifer o&#8217;r sawl sy&#8217;n gadael eu cymunedau yn y gogledd a&#8217;r gorllewin yn ymgatrefu mewn ardaloedd o Gaerdydd, gan godi prisiau tai sydd wedyn yn gorfodi pobl i adael eu cymunedau nhw).<\/p>\n<p>O ran y di-Gymraeg, beth sy&#8217;n rhesymol i ofyn? Gellid gofyn iddynt \u2018hawlio&#8217;r&#8217; Gymraeg i&#8217;w hunain i raddau, ond nid oes modd i hynny gofyn caffael yr iaith o reidrwydd.<\/p>\n<p>Rhaid derbyn yn y lle cyntaf bod dysgu iaith fel oedolyn nad sy&#8217;n iaith gymunedol yn her enfawr nad sy&#8217;n o fewn cyrraedd i nifer o bobl am wahanol resymau.<\/p>\n<p>A&#8217;r gwir amdani yw, nad yw&#8217;r iaith yn gonsyrn arbennig i nifer fawr o bobl, ac nid oes modd newid hynny.<\/p>\n<p>Ond wedi dweud hynny, gallwn obeithio a disgwyl bod y di-Gymraeg yr un mor barod i sefyll lan dros yr iaith a&#8217;r Cymunedau Cymraeg pan maent dan warchae, a&#8217;r hyn fyddan nhw wrth amddiffyn achosion eraill.<\/p>\n<p>I&#8217;r perwyl yma mae yna waith i wneud er mwyn ehangu ymwybyddiaeth o&#8217;r iaith, ei rol hanesyddol wrth i&#8217;r Genedl Gymreig ffurfio, ac wrth gwrs yr anghyfiawnderau hanesyddol yn eu herbyn.<\/p>\n<p>Felly mae angen magu mwy o gydymdeimlad a ddealltwriaeth, ac yn b\u00f4n, dangos bod ymgyrchu dros yr iaith yn un enghraifft arall o&#8217;r agenda radical sydd angen arnom yng Nghymru er mwyn sefyll lan dros gymuned, cydraddoldeb a chyfiawnder \u2013 achosion sydd yn rhai byd-eang wrth gwrs, a sydd angen cysylltu ni yn ein tro gyda phobloedd ledled y byd, o wledydd lleiafrifol Ewrop i bobl frodorol yr Americas, yr Affrig, ac Asia.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Os oes gobaith o lwyddiant i&#8217;r mudiad annibyniaeth, mae yna angen dirfawr i sicrhau ymdeimlad o undod ymysg y sawl sy&#8217;n cyfrannu. Waeth inni ddechrau gydag un o&#8217;r pynciau yna &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Y Gymraeg a gwleidyddiaeth radical&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":46,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[7],"class_list":["post-42","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-y-gymraeg","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Y Gymraeg a gwleidyddiaeth radical - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Y Gymraeg a gwleidyddiaeth radical - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Os oes gobaith o lwyddiant i&#8217;r mudiad annibyniaeth, mae yna angen dirfawr i sicrhau ymdeimlad o undod ymysg y sawl sy&#8217;n cyfrannu. Waeth inni ddechrau gydag un o&#8217;r pynciau yna &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Y Gymraeg a gwleidyddiaeth radical&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2019-01-14T18:10:21+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2019-01-15T11:30:26+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/01\/llyn2.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"500\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"375\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"A Owen\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"A Owen\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"15 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/\"},\"author\":{\"name\":\"A Owen\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/1e18179b75f53b7123941306f9804e5b\"},\"headline\":\"Y Gymraeg a gwleidyddiaeth radical\",\"datePublished\":\"2019-01-14T18:10:21+00:00\",\"dateModified\":\"2019-01-15T11:30:26+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/\"},\"wordCount\":3120,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/01\/llyn2.jpg\",\"keywords\":[\"Y Gymraeg\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/\",\"name\":\"Y Gymraeg a gwleidyddiaeth radical - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/01\/llyn2.jpg\",\"datePublished\":\"2019-01-14T18:10:21+00:00\",\"dateModified\":\"2019-01-15T11:30:26+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/01\/llyn2.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/01\/llyn2.jpg\",\"width\":500,\"height\":375},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Y Gymraeg a gwleidyddiaeth radical\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/1e18179b75f53b7123941306f9804e5b\",\"name\":\"A Owen\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/388b28dd2575469fad264300be32fbd02703c17d9a983d21547562a284b384e6?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/388b28dd2575469fad264300be32fbd02703c17d9a983d21547562a284b384e6?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/388b28dd2575469fad264300be32fbd02703c17d9a983d21547562a284b384e6?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"A Owen\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/aowen\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Y Gymraeg a gwleidyddiaeth radical - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Y Gymraeg a gwleidyddiaeth radical - undod","og_description":"Os oes gobaith o lwyddiant i&#8217;r mudiad annibyniaeth, mae yna angen dirfawr i sicrhau ymdeimlad o undod ymysg y sawl sy&#8217;n cyfrannu. Waeth inni ddechrau gydag un o&#8217;r pynciau yna &hellip; Parhau i ddarllen \"Y Gymraeg a gwleidyddiaeth radical\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2019-01-14T18:10:21+00:00","article_modified_time":"2019-01-15T11:30:26+00:00","og_image":[{"width":500,"height":375,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/01\/llyn2.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"A Owen","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"A Owen","Est. reading time":"15 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/"},"author":{"name":"A Owen","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/1e18179b75f53b7123941306f9804e5b"},"headline":"Y Gymraeg a gwleidyddiaeth radical","datePublished":"2019-01-14T18:10:21+00:00","dateModified":"2019-01-15T11:30:26+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/"},"wordCount":3120,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/01\/llyn2.jpg","keywords":["Y Gymraeg"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/","name":"Y Gymraeg a gwleidyddiaeth radical - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/01\/llyn2.jpg","datePublished":"2019-01-14T18:10:21+00:00","dateModified":"2019-01-15T11:30:26+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/01\/llyn2.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/01\/llyn2.jpg","width":500,"height":375},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/01\/14\/radical-y-gymraeg\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Y Gymraeg a gwleidyddiaeth radical"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/1e18179b75f53b7123941306f9804e5b","name":"A Owen","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/388b28dd2575469fad264300be32fbd02703c17d9a983d21547562a284b384e6?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/388b28dd2575469fad264300be32fbd02703c17d9a983d21547562a284b384e6?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/388b28dd2575469fad264300be32fbd02703c17d9a983d21547562a284b384e6?s=96&d=mm&r=g","caption":"A Owen"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/aowen\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/42","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=42"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/42\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":57,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/42\/revisions\/57"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/46"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=42"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=42"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=42"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}