{"id":433,"date":"2019-12-03T16:30:22","date_gmt":"2019-12-03T16:30:22","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=433"},"modified":"2019-12-03T16:34:23","modified_gmt":"2019-12-03T16:34:23","slug":"llofruddio-llywodraethu-democrataidd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/","title":{"rendered":"Llofruddio llywodraethu &#8220;democrataidd&#8221;"},"content":{"rendered":"<p>Yn \u00f4l ym mis Hydref, yn dilyn addoediad Senedd San Steffan, cawsom <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/09\/02\/dim-trwsio-prydain\/\">gyfrif cryno a brathog o derfynau democratiaeth Prydeinig ar y blog hwn<\/a> &#8211; a ddatgelodd y graddau y mae&#8217;n cwympo&#8217;n brin o&#8217;r ddelfryd, a pha mor agored yw hi i gam-driniaeth. Gydag ychydig dros wythnos i fynd tan yr Etholiad Cyffredinol, nid oes fawr o amheuaeth bellach ynghylch parodrwydd y Tor\u00efaid i nacau&#8217;r cysyniad o ddemocratiaeth o unrhyw ystyr gwirioneddol. Er bod yr etholiad blaenorol yn 2017 wedi dwyn bygythiad o ddifrod parhaol i&#8217;r Blaid Lafur, y tro hwn rhaid i&#8217;r etholwyr oll cydnabod y bygythiad o ddifrod ehangach, mwy cynhwysfawr a mwy parhaol sydd ymhlyg yn yr etholiad presennol. Y mae taer angen cydnabod bod y Tor\u00efaid yn lladd democratiaeth.<\/p>\n<p>Mae modd ategu&#8217;r honiad yma trwy gyfeirio at waith diweddar Levitsky a Zeblatt yn eu llyfr, <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/How_Democracies_Die\">How Democracies Die<\/a>, sydd, mewn ymateb i ethol Trump, yn dadlau mai erydu normau &#8211; rheolau a chonfensiynau beunyddiol gwleidyddol &#8211; sy&#8217;n achosi&#8217;r difrod mwyaf i ddiwylliant democrataidd, a&#8217;i bod yn berygl einioes. Yn benodol, &#8216;goddefgarwch cilyddol&#8217; a &#8216;maddeugarwch sefydliadol&#8217; (mutual tolerance and institutional forbearance) sy&#8217;n cael eu lluchio i&#8217;r neilltu gan wleidyddion fel Trump a Johnson. Dim ond mewn enw y ceir parch i&#8217;r cyfansoddiad, a&#8217;i gonfensiynau yn cael eu hanwybyddu&#8217;n gwbl agored; ymhellach, maent yn tanseilio&#8217;r arferion a&#8217;r ymrwymiadau cilyddol a fu erioed yn gynsail i ddemocratiaeth, gan wawdio eu gwrthwynebwyr yn ddidrugaredd, dangos dirmyg tuag at feirniaid, annog conspiracy theories a chwestiynu cyfreithlondeb pleidleisiau sydd yn mynd yn eu herbyn.<\/p>\n<h2>&#8216;Perfidious Albion&#8217;<\/h2>\n<p>Mewn gwirionedd, wrth gwrs, mae&#8217;r prosesau yma wedi bod ar y gweill ym Mhrydain ers cryn amser bellach, gyda gweinyddiaeth Theresa May yn chwyrn ei beirniadaeth o&#8217;r &#8216;bradwyr&#8217; a safodd yn ei ffordd, gan gwestiynu dilysrwydd Senedd San Steffan wrth ei dwyn hi i gyfrif. Fodd bynnag, er bod rhywun yn teimlo bod gan May ryw gweddillion o barch tuag at draddodiad, a rhyw synnwyr moesol (wedi&#8217;i gamgyfeirio wrth gwrs), mae Johnson yn fater arall. Mae ystyriaeth o gonfensiynau, moesoldeb a hyd yn oed y gwir yn ymddangos y tu hwnt i fusnes beunyddiol gwleidyddiaeth erbyn hyn.<\/p>\n<p>Mae dirmyg tuag at normau yn Rhif 10 Downing Street wedi amlygu ei hun byth ers i Johnson preswylio yno, a phenodi Dominic Cummings &#8211; un sy&#8217; fel pe bai&#8217;n barod i sathru dan draed unrhyw bersonau neu reolau sydd yn sefyll yn ei ffordd (yr enghraifft ddiweddaraf ohono&#8217;n gweithredu yn ol ei fympwy yw&#8217;r blog gwleidyddol a ysgrifennwyd ganddo yn ystod purdah). Roedd y bennod gyfan o addoediad y Senedd, eu hanghrediniaeth honedig yn wyneb gweithredoedd Ty&#8217;r Cyffredin, a&#8217;r agwedd llipa tuag at ddyfarniad yr Uchel Lys yn cyfleu eu difaterwch tuag at eu gwrthwynebwyr, a&#8217;r bwriad o danseilio cyfreithlondeb unrhyw benderfyniadau neu bleidlais oedd yn mynd yn eu herbyn. Yn hyn o beth, nid yw&#8217;n syndod bod dyfalu eisoes wedi bod yn y cyfryngau ynghylch y <a href=\"https:\/\/metro.co.uk\/2019\/11\/07\/will-boris-still-prime-Minister-loses-seat-11057766\/\">posibiliad<\/a> y bydd Johnson am wyrdroi pleidlais sydd yn ei ddiorseddu fel AS.<\/p>\n<h2>Lefel arall<\/h2>\n<p>Mae&#8217;r dirmyg tuag at Corbyn a&#8217;r Blaid Lafur yn thema hirsefydlog wrth gwrs, ond mae criw Johnson wedi llwyddo ei droi i gyfeiriad lloerig braidd. Roedd y gymhariaeth o Corbyn a Stalin &#8211; i berson ag unrhyw crebwyll hanesyddol &#8211; yn chwerthinllyd ar y gorau, ond roedd y modd y bu&#8217;r Tor\u00efaid yn ei gyflwyno fel petai&#8217;n honiad difrifol yn anesmwytho rhywun. Mae hyn yn arbennig o wir o&#8217;i ystyried yng ngoleuni&#8217;r hyn sydd wedi bod fwyaf trawiadol yn ystod eu hymgyrch hyd yn hyd &#8211; sef y dirmyg tuag at eu beirniaid yn y cyfryngau, yn enwedig eu triniaeth o Channel 4. Roedd bygythiad gwbl agored i&#8217;r sianel &#8211; ar ol iddynt eilyddio Johnson am floc o ia wedi iddo wrthod cymryd rhan yn y ddadl ar newid hinsawdd &#8211; yn ymosodiad syfrdanol; dyma herio&#8217;n uniongyrchol un o&#8217;r ychydig bileri cadarn sydd yn parhau i sefyll yn y diwylliant &#8216;democrataidd&#8217; drylliedig sydd ohoni.<\/p>\n<p>Dim ond ymddygiad rhyfedd, ond bygythiol, Michael Gove sydd wedi rhagori ar y weithred hwn, wrth i yntau ymwneud \u00e2&#8217;r un sianel. Mae&#8217;r gaslighting yma wedi mynd \u00e2 ni i lefel arall o bropaganda, gydag arlliw Orwelaidd. Yn gyntaf bu&#8217;r ymdrech warthus i ddarlunio Ciaran Jenkins yn ei holi ar y ffeithiau fel ymgais i wthio &#8216;persbectif asgell chwith&#8217;; pwysleisiodd Gove hyn dro ar \u00f4l tro, fel pe bai&#8217;n ceisio goleuo&#8217;r gwyliwr diarwybod ynghylch dulliau tywyll y gwasanaeth newyddion, wedi&#8217;i gyflyrru gan ideoleg eithafol. Dilynwyd y perfformiad yma gan drip i lawr i&#8217;w stiwdios &#8211; gyda tad Johnson wrth ei gwt &#8211; ar noson y ddadl arweinyddion ar newid hinsawdd. Cyfunwyd hyn gydag ymosodiad ar Twitter yn honni mai&#8217;r sianel a&#8217;r gwleidyddion eraill oedd wedi gwrthod yr her.<\/p>\n<h2>Erydu&#8217;r gyhoeddfa<\/h2>\n<p>Cameos Gove yw&#8217;r enghreifftiau amlycaf o&#8217;r hyn a fyddai mewn unrhyw oes arall wedi cael ei ystyried yn berfformiad swrrealaidd, chwithig. Fodd bynnag, mae&#8217;r chwarae wic-wew yma bellach yn norm yn y &#8216;gyhoeddfa awtomataidd&#8217; (automated public sphere), un sy&#8217;n rhedeg ar lwyfannau digidol lle mai metrigau ac elw yn teyrnasu, gan gynnig &#8211; yng <a href=\"https:\/\/journals.sagepub.com\/doi\/abs\/10.1177\/1464884918809245\">ngeiriau Adrienne Russell<\/a> &#8211; &#8216;faes chwarae i actorion drwg, a meithrinfa ar gyfer gwybodaeth wael&#8217;. Yn dyst i hyn oedd cyfweliad Nicky Morgan, a wynebodd dirmyg Piers Morgan a Susanna Reid (a chyfranwyr Gogglebox) pan geisiodd dyfalbarhau gyda&#8217;r honiad bod 50,000 o nyrsys newydd yn gallu cynnwys 19,000 a gyflogwyd eisoes yn y GIG.<\/p>\n<p>Ac mae&#8217;n ymddangos bellach bod atebolrwydd cyhoeddus yn rhywbeth o&#8217;r gorffennol. Prawf diamheuol o hyn yw Prif Weinidog a all, yn \u00f4l pob golwg, ddweud unrhyw beth y mae moen, osgoi unrhyw ddadleuon y mae&#8217;n eu dewis, a hynny heb gael ei ddwyn i gyfrif. Mor ddigalon a pheryglus yn hyn o beth fu ildio&#8217;r BBC, yn enwedig y methiant i wireddu addewid Johnson i ymddangos o flaen Andrew Neil. Ble ar y ddaear y mae&#8217;r norm Prydeinig adnabyddus o chwarae teg bellach? Yma yng Nghymru, mae&#8217;r ffaith bod Alun Cairns dal yn ymgeisydd, er gwaethaf ei gefnogaeth i ddyn a ddrylliodd achos llys o drais, yn adrodd cyfrolau damniol o&#8217;r dyfnderoedd yr ydym wedi suddo iddynt.<\/p>\n<h2>I&#8217;r diffeithwch<\/h2>\n<p>Yr hyn y mae&#8217;n rhaid i ni ei ofni, wrth gwrs, yw&#8217;r hyn sy&#8217;n dilyn os yw&#8217;r Tor\u00efaid yn ennill mwyafrif ar sail y ffas\u00e2d hwn. Mae&#8217;n anodd dychmygu na fyddant yn dehongli buddugoliaeth o&#8217;r fath megis carte blanche, i wneud beth bynnag a fynnant. Bydd bwgan y Brexit caled yn dychwelyd o&#8217;r cysgodion, a phwy a \u0175yr i ble y byddwn yn mynd o fan yna. Blaen y gyllell yn unig fydd dyfnhau anghydraddoldeb. Mae&#8217;r trafodaethau gyda Trump yn ddigon i hela crid ar rywun. Efallai ei bod yn besimistaidd i dybio y bydd y casineb, y trais a&#8217;r tlodi sy&#8217;n nodweddiadol o&#8217;r gymdeithas heddiw yn dyfnhau, ond dan yr amodau, synnwyr cyffredin yw realaeth arw o&#8217;r fath.<\/p>\n<p>Efallai y bydd rhai yn gweld hyn fel cyfle i gyflymu&#8217;r broses o chwalu&#8217;r DU, ond mae angen bod yn ofalus. A yw plaid Dor\u00efaidd ddilyffethair, o dan arweinyddiaeth teyrn posib, y tu allan i&#8217;r UE, yn debygol o gynnig refferendwm arall i&#8217;r Alban, heb s\u00f4n am Ogledd Iwerddon a Chymru? Os yw llywodraeth PSOE asgell chwith yn Sbaen wedi gweithredu yn y fath modd yn erbyn Catalunya, o fewn yr UE, oni ddylem ystyried ymddygiad posibl llywodraeth Brydeinig dde caled, y tu allan i&#8217;r strwythurau trawswladol sydd wedi gweithredu fel rhwystr normadol? Gan ffansio ei hunan yn etifedd i Churchill, nid anodd yw dychmygu Johnson yn penderfynu &#8216;anfon y milwyr i mewn&#8217; os yw&#8217;n gweld mantais yn hynny. Os na all ymladd rhyfel yn rhywle arall, beth am greu brwydr ar y ffrynt cartref, yn enw Prydain?<\/p>\n<p>Rhaid i&#8217;r wythnos olaf o ymgyrchu adlewyrchu&#8217;r amseroedd enbyd yr ydym yn byw ynddynt, a rhaid i feddyliau&#8217;r etholwyr cael eu canolbwyntio ar y boen y byddwn yn eu hwynebu. Er na chyflawnwyd clymblaid wrth-Dor\u00efaidd ffurfiol, mae&#8217;n rhaid i ymgyrchu lleol gofleidio realiti pleidleisio tactegol a chynnig y gobaith o sicrhau senedd grog, a fydd \u00e2 photensial llawer mwy radical o safbwynt newid cadarnhaol ac adnewyddu ein gwleidyddiaeth. Ac yn y cyd-destun hwn wrth gwrs, gallai&#8217;r seddi ymylol hynny yng Nghymru fod y rhai sy&#8217;n ein gwaredu rhag y posibilrwydd o drychineb. Nid yw hyn bellach yn ymwneud \u00e2 chlymblaid dros aros yn yr UE, mae&#8217;n glymblaid dros fywyd gw\u00e2r ar yr ynysoedd yma. Ar wah\u00e2n i lond llaw o gyfalafwyr a&#8217;u cynffonwyr, ni fydd buddugoliaeth i blaid Dor\u00efaidd &#8211; un sydd am ladd democratiaeth &#8211; yn dod ag unrhyw gysur i&#8217;r un ohonom.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn \u00f4l ym mis Hydref, yn dilyn addoediad Senedd San Steffan, cawsom gyfrif cryno a brathog o derfynau democratiaeth Prydeinig ar y blog hwn &#8211; a ddatgelodd y graddau y &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Llofruddio llywodraethu &#8220;democrataidd&#8221;&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":434,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[79,66],"class_list":["post-433","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-alun-cairns","tag-boris-johnson","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Llofruddio llywodraethu &quot;democrataidd&quot; - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Llofruddio llywodraethu &quot;democrataidd&quot; - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn \u00f4l ym mis Hydref, yn dilyn addoediad Senedd San Steffan, cawsom gyfrif cryno a brathog o derfynau democratiaeth Prydeinig ar y blog hwn &#8211; a ddatgelodd y graddau y &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Llofruddio llywodraethu &#8220;democrataidd&#8221;&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2019-12-03T16:30:22+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2019-12-03T16:34:23+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/alun-cairns-boris-johnson2.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1024\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"726\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Huw Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Huw Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"14 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/\"},\"author\":{\"name\":\"Huw Williams\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\"},\"headline\":\"Llofruddio llywodraethu &#8220;democrataidd&#8221;\",\"datePublished\":\"2019-12-03T16:30:22+00:00\",\"dateModified\":\"2019-12-03T16:34:23+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/\"},\"wordCount\":2898,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/alun-cairns-boris-johnson2.jpg\",\"keywords\":[\"Alun Cairns\",\"Boris Johnson\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/\",\"name\":\"Llofruddio llywodraethu \\\"democrataidd\\\" - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/alun-cairns-boris-johnson2.jpg\",\"datePublished\":\"2019-12-03T16:30:22+00:00\",\"dateModified\":\"2019-12-03T16:34:23+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/alun-cairns-boris-johnson2.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/alun-cairns-boris-johnson2.jpg\",\"width\":1024,\"height\":726},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Llofruddio llywodraethu &#8220;democrataidd&#8221;\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\",\"name\":\"Huw Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Huw Williams\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Llofruddio llywodraethu \"democrataidd\" - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Llofruddio llywodraethu \"democrataidd\" - undod","og_description":"Yn \u00f4l ym mis Hydref, yn dilyn addoediad Senedd San Steffan, cawsom gyfrif cryno a brathog o derfynau democratiaeth Prydeinig ar y blog hwn &#8211; a ddatgelodd y graddau y &hellip; Parhau i ddarllen \"Llofruddio llywodraethu &#8220;democrataidd&#8221;\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2019-12-03T16:30:22+00:00","article_modified_time":"2019-12-03T16:34:23+00:00","og_image":[{"width":1024,"height":726,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/alun-cairns-boris-johnson2.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Huw Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Huw Williams","Est. reading time":"14 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/"},"author":{"name":"Huw Williams","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b"},"headline":"Llofruddio llywodraethu &#8220;democrataidd&#8221;","datePublished":"2019-12-03T16:30:22+00:00","dateModified":"2019-12-03T16:34:23+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/"},"wordCount":2898,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/alun-cairns-boris-johnson2.jpg","keywords":["Alun Cairns","Boris Johnson"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/","name":"Llofruddio llywodraethu \"democrataidd\" - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/alun-cairns-boris-johnson2.jpg","datePublished":"2019-12-03T16:30:22+00:00","dateModified":"2019-12-03T16:34:23+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/alun-cairns-boris-johnson2.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/alun-cairns-boris-johnson2.jpg","width":1024,"height":726},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2019\/12\/03\/llofruddio-llywodraethu-democrataidd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Llofruddio llywodraethu &#8220;democrataidd&#8221;"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b","name":"Huw Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Huw Williams"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/433","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=433"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/433\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":436,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/433\/revisions\/436"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/434"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=433"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=433"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=433"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}