{"id":466,"date":"2020-01-20T00:31:07","date_gmt":"2020-01-20T00:31:07","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=466"},"modified":"2020-01-20T00:37:28","modified_gmt":"2020-01-20T00:37:28","slug":"eco","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/01\/20\/eco\/","title":{"rendered":"Problemau eco-gyfalafiaeth"},"content":{"rendered":"<p>Ynghanol ein hamryw argyfyngau cynigir addasiadau o gyfalafiaeth &#8211; fel arfer dan enw tebyg i Fargen Werdd Newydd. Mae canlyniadau peryglus i dynnu sylw oddi wrth ein problemau.<\/p>\n<h2>Cyflwyniad<\/h2>\n<p>Dim ond rhywun nad yw&#8217;n llawn llathen neu economegydd fyddai&#8217;n dadlau nad yw&#8217;r byd ynghanol cyfres o argyfyngau ecolegol, hinsoddol ac yn ymwneud \u00e2 chydraddoldeb, sydd oll yn gysylltiedig, a bod yr argyfyngau hynny o ganlyniad i weithredoedd pobl (ac yn fwy felly, dynion), bu ymateb llywodraethau ar draws y byd yn drychinebus. Wrth i mi ysgrifennu mae gwleidyddion yn amddiffyn y cloddio a llosgi glo sy&#8217;n digwydd mewn gwlad sydd ar d\u00e2n, yn llythrennol. Ymysg elfennau mwyaf radical y prif lif gwleidyddol, ar y chwith fwy na heb a phrin iawn mewn grym, mae awgrym y gallai&#8217;r model economaidd cyfredol ymateb i&#8217;r heriau hyn trwy addasu dulliau cynhyrchu a dosbarthu. Mae (rhai) Democratiaid yn yr UDA a&#8217;r pleidiau sydd fwyaf i&#8217;r chwith yn y DU er enghraifft yn pledio achos y &#8216;Bargeinion Gwyrdd Newydd&#8217; (BGN) yma gan fynnu mai dyna&#8217;r ateb &#8216;arall&#8217;; y gwrthbwynt i ddinistr pengaled a barus ein polis\u00efau presennol. Maent, er hynny, yn annhebygol o lwyddo.<\/p>\n<h2>Anawsterau eu gweithredu<\/h2>\n<p>Yn gyntaf, mae cyfres o faterion yn ymwneud \u00e2 gallu asiantiaid \u2013 boed nhw yn fusnesau neu lywodraethau &#8211; i weithredu mewn modd sy&#8217;n cyflawni&#8217;i amcanion angenrheidiol. Mae&#8217;n sobri rhywun o feddwl mai Capita, Openreach a Serco (oherwydd yr amserlen agos at amhosibl) fyddai&#8217;n gyfrifol am ail-greu ein rhwydweithiau trafnidiaeth, band llydan ac ynni, hyd yn oed dan reolaeth llywodraeth Gorbynaidd ddamcaniaethol. Mae HS2 a Heathrow yn brawf cyfredol, yn y DU o leiaf, fod polis\u00efau cyfarwyddol, parhaol ac effeithiol o&#8217;r math sydd eu hangen yn brin iawn &#8211; heb s\u00f4n am yn y ffordd gydberthynol, drawstoriadol sydd ei angen ar BGN. Yn ehangach, wrth ddefnyddio dulliau cyfalafol er lles ecolegol rhaid wynebu a chydnabod bod prif angen cyfalafiaeth breifat- nid creu elw yn unig, ond yr elw mwyaf ar fuddsoddiad &#8211; yn anghydnaws \u00e2 gweithredu mewn modd cynaliadwy. Enghraifft amlwg yw&#8217;r sector trafnidiaeth preifat, gwelwyd <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Volkswagen_Group\">sgandal Dieselgate<\/a>, twf anferthol gwerthiant cerbydau SUV <a href=\"https:\/\/www.iea.org\/commentaries\/growing-preference-for-suvs-challenges-emissions-reductions-in-passenger-car-market\">trwm, aneffeithiol sy&#8217;n achosi llygredd<\/a> (er eu bod yn broffidiol), a <a href=\"https:\/\/www.tesla.com\/en_GB\/model3\">cherbyd bateri trydan dros ddwy dunnell<\/a> yn arwain y farchnad yn ystod degawd pan oedd trychinebau eco-hinsoddol yn gwbl eglur ac yn fater brys. Waeth pa sector neu ddiwydiant sydd ynghlwm \u00e2 BGN, heb fod cyfan-werthiant dan berchnogaeth gyhoeddus neu yn gydfuddiannol mae hapchwarae, cyfyngu rheoliadau a methiant yn anorfod.<\/p>\n<h2>Anawsterau gyda&#8217;u hystod<\/h2>\n<p>Hyd yn oed o ddatrys yr anawsterau uchod mewn modd cyfamserol a holistaidd, ni fyddai Bargeinion Gwyrdd Newydd a gyflwynwyd ar ddiwedd y 2010au yn ddigon i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;n hargyfyngau naturiol. Mae ystod ein dadl gyfredol yn peri anhawster gan ei fod yn ffocysu ar ran diwydiant a chynhyrchu i newid i&#8217;n hamgylchiadau cyfyng, tra yn tanamcangyfrif y newidiadau radical angenrheidiol angenrheidiol i ddulliau o fyw ac ymddygiad yn ehangach. Prin iawn y bydd y rhai sy&#8217;n cynnig bod buddsoddi yn yr economi &#8216;werdd&#8217; yn tynnu sylw at yr angen i bobl brynu mewn modd llawer llai dinistriol, ac yn wir llawer yn llai yn gyfan gwbl (gweler er enghraifft dawelwch cymharol y Blaid Lafur yngl\u0177n ag ehangu Heathrow). Golyga y bydd <a href=\"http:\/\/www.inscc.utah.edu\/~tgarrett\/Economics\/Jevons_Paradox.html\">Paradocs Jevon<\/a> yn cael ei weithredu at ei eithaf: bydd arbedion a ddaw drwy dai ynni effeithiol yn arwain at ragor o bryniant a mwy o wyliau, a bydd gwella&#8217;r rhwydwaith drafnidiaeth yn arwain at dwf mwy byth dinasoedd sydd eisoes yn fawr, a thynnu mwy o bol i weithio yno (<a href=\"https:\/\/hungrycitybook.co.uk\/\">a mwy o fwyd ac ynni i&#8217;w cynnal<\/a>). Mae yna ddiffyg cyfaniaeth lwyr. A heb fframwaith werdd ehangach a dyfnach i gyfleu angenrheidrwydd BGN mae penderfynu ar newidiadau ehangach i ffordd o fyw yn anos.<\/p>\n<h2>Anawsterau&#8217;r model<\/h2>\n<p>Mae&#8217;r pwynt olaf yma&#8217;n egluro anhawster mwyaf sylfaenol datgan Bargeinion Gwyrdd Newydd neu gyfalafiaeth-wedi-ymyrryd-ag -e fel ateb i&#8217;n argyfyngau naturiol cydgysylltiol. Mae systemau cyfalafol yn ddibynnol ar sylfaen economaidd sy&#8217;n tyfu&#8217;n barhaol er mwyn gwobrwyo buddsoddwyr a&#8217;r rhai sy&#8217;n berchen ar gyfalaf (ac ydi, os oes gennych bensiwn, mae&#8217;n eich cynnwys chi). A rhaid i arian, ac felly&#8217;r adnoddau dan ei reolaeth, gynyddu, ac mae cynydd annigonol yn cael ei ystyried yn ddirwasgiad ac annhyfiant. Mae&#8217;r rhai sy&#8217;n dadlau achos BGN yn aml yn rhoi buddsoddiadau gwyrdd i&#8217;r neilltu pan ddaw hi at adfer twf economaidd diffygiol mewn democratiaethau Gorllewinol, gan argymell hwb Keynes-iaidd i mynd i&#8217;r afael ag annhyfiant oesol. Ond mae canolbwyntio ar &#8216;swyddi a thwf&#8217; yn anwybyddu natur anghydnaws economi sy&#8217;n tyfu&#8217;n barhaol a chyfyngiadau ecolegol. Mae&#8217;r hyn sy&#8217;n cael ei gyflwyno fel mwy o swyddi, gwell ffyniant, mewn gwirionedd yn trawsnewid adnoddau naturiol (yn bennaf) i wastraff diwerth fwyfwy a chyflymach, ac er gwaetha rhai gwelliannau i effeithlonrwydd cymharol defnydd adnoddau, bydd y byd wedi methu datgysylltu twf economaidd a <a href=\"https:\/\/storyofstuff.org\/\">thrwybwn adnoddau<\/a>. Disodlir ynni a arbedir wrth i econom\u00efau datblygedig symud oddi wrth gynhyrchu ac at wasanaethu gan gynhyrchiant nwyddau yn Asia, i&#8217;w danfon at brynwyr Gorllewinol, filoedd o filltiroedd i ffwrdd; disodlir simneoedd gan ffermydd gwasanaethol \u00e2 phythefnos yn Ninbych-y-Pysgod a gwyliau byr niferus i bob man, ac ar y cyfan bydd defnydd ynni a deunyddiau yn <a href=\"https:\/\/yearbook.enerdata.net\/total-energy\/world-consumption-statistics.html\">parhau i dyfu<\/a>. Dyma hafaliad nad oes ateb iddo \u2013 neu os gall, dim ond o fewn cyfnod amser hirach na&#8217;r hyn i ni ei osod i&#8217;n hunain drwy&#8217;r hyn a wnaed yn y gorffennol.<\/p>\n<h2>Beth ellir gwneud?<\/h2>\n<p>Mae dadleuon ynghylch gwyrddio cyfalafiaeth genedlaethol neu ryngwladol yn sylfaenol ddiffygiol. Maent yn mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r modd yr ydym yn gwneud pethau yn hytrach na beth neu pam yr ydym yn gwneud. Maent yn canolbwyntio ar ddwysedd ac effeithiolrwydd yn hytrach na graddfa absoliwt gweithgareddau&#8217;r gymdeithas a&#8217;r economi &#8211; ond yr olaf yw hanfod y broblem. Mae llawer gormod o bethau, ac maent wedi&#8217;u rhannu&#8217;n anghyfartal. Yr ateb mewn gwirionedd wrth gwrs yw ailstrwythuro&#8217;n heconom\u00efau er mwyn iddynt barchu cyfyngiadau byd-eang: i leihau yn sylweddol gynhyrchiant nwyddau, i fwyta&#8217;n fwy lleol a chynnil (ac yn fwy llysieuol mae&#8217;n si\u0175r); i ffafrio strwythurau presennol sy&#8217;n addasu i&#8217;r hinsawdd yn hytrach na buddsoddiadau corfforol newydd; i roi&#8217;r gorau i&#8217;n ffordd gorsymudol o fyw ar gyfer gwaith a hamdden; ac i\u2026 gymeryd hoe ac ymlacio dipyn yn fwy. Wrth gwrs ni fydd hyn, neu ni all, ddigwydd o&#8217;r top i lawr. Dyna pam i mi fod yn llafar ers blynyddoedd am osod ein cyfeiriad economaidd ar <a href=\"https:\/\/nation.cymru\/news\/audio-devolution-creating-a-mini-uk-in-wales-says-economist\/\">raddfa dipyn yn fwy lleol<\/a>, byddai datrysiadau radical ac wedi&#8217;i deilwra ond wedi&#8217;i wreiddio &#8211; sy&#8217;n cynnwys dad-dyfu &#8211; yn dod i&#8217;r amlwg, wedi&#8217;u cyllido&#8217;n dorfol a gyda chefnogaeth eang. Mae Cymru &#8211; \u00e2&#8217;i gwaddol naturiol, amrywiaeth (ond \u00e2 gweledigaeth gyffredin ar gyfer y genhedlaeth i ddod) ac, i ddweud yn blaen, yn gachu pan daw hi at gyfalafiaeth ta beth &#8211; felly yn lle da i ddechrau.<\/p>\n<p><em>Delwedd gan <a href=\"http:\/\/gunshowcomic.com\/648\">KC Green<\/a><\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ynghanol ein hamryw argyfyngau cynigir addasiadau o gyfalafiaeth &#8211; fel arfer dan enw tebyg i Fargen Werdd Newydd. Mae canlyniadau peryglus i dynnu sylw oddi wrth ein problemau. Cyflwyniad Dim &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/01\/20\/eco\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Problemau eco-gyfalafiaeth&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":19,"featured_media":467,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[80,81,49],"class_list":["post-466","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-cyfalafiaeth","tag-ecoleg","tag-economi","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Problemau eco-gyfalafiaeth - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Problemau eco-gyfalafiaeth - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Ynghanol ein hamryw argyfyngau cynigir addasiadau o gyfalafiaeth &#8211; fel arfer dan enw tebyg i Fargen Werdd Newydd. Mae canlyniadau peryglus i dynnu sylw oddi wrth ein problemau. Cyflwyniad Dim &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Problemau eco-gyfalafiaeth&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/01\/20\/eco\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-01-20T00:31:07+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-01-20T00:37:28+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/01\/pyi.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"309\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Calvin Jones\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Calvin Jones\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"11 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/\"},\"author\":{\"name\":\"Calvin Jones\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fdafd990bc43a36f84d7975c15a80f1e\"},\"headline\":\"Problemau eco-gyfalafiaeth\",\"datePublished\":\"2020-01-20T00:31:07+00:00\",\"dateModified\":\"2020-01-20T00:37:28+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/\"},\"wordCount\":2247,\"commentCount\":2,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/01\/pyi.jpg\",\"keywords\":[\"cyfalafiaeth\",\"ecoleg\",\"economi\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/\",\"name\":\"Problemau eco-gyfalafiaeth - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/01\/pyi.jpg\",\"datePublished\":\"2020-01-20T00:31:07+00:00\",\"dateModified\":\"2020-01-20T00:37:28+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/01\/pyi.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/01\/pyi.jpg\",\"width\":600,\"height\":309},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Problemau eco-gyfalafiaeth\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fdafd990bc43a36f84d7975c15a80f1e\",\"name\":\"Calvin Jones\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb41075192e0c37f99884c3443e675e9e2a0e31e949971fc4b198455e6f81d88?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb41075192e0c37f99884c3443e675e9e2a0e31e949971fc4b198455e6f81d88?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb41075192e0c37f99884c3443e675e9e2a0e31e949971fc4b198455e6f81d88?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Calvin Jones\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/calvinjones\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Problemau eco-gyfalafiaeth - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Problemau eco-gyfalafiaeth - undod","og_description":"Ynghanol ein hamryw argyfyngau cynigir addasiadau o gyfalafiaeth &#8211; fel arfer dan enw tebyg i Fargen Werdd Newydd. Mae canlyniadau peryglus i dynnu sylw oddi wrth ein problemau. Cyflwyniad Dim &hellip; Parhau i ddarllen \"Problemau eco-gyfalafiaeth\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/01\/20\/eco\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-01-20T00:31:07+00:00","article_modified_time":"2020-01-20T00:37:28+00:00","og_image":[{"width":600,"height":309,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/01\/pyi.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Calvin Jones","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Calvin Jones","Est. reading time":"11 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/"},"author":{"name":"Calvin Jones","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fdafd990bc43a36f84d7975c15a80f1e"},"headline":"Problemau eco-gyfalafiaeth","datePublished":"2020-01-20T00:31:07+00:00","dateModified":"2020-01-20T00:37:28+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/"},"wordCount":2247,"commentCount":2,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/01\/pyi.jpg","keywords":["cyfalafiaeth","ecoleg","economi"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/","name":"Problemau eco-gyfalafiaeth - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/01\/pyi.jpg","datePublished":"2020-01-20T00:31:07+00:00","dateModified":"2020-01-20T00:37:28+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/01\/pyi.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/01\/pyi.jpg","width":600,"height":309},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/01\/20\/eco\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Problemau eco-gyfalafiaeth"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fdafd990bc43a36f84d7975c15a80f1e","name":"Calvin Jones","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb41075192e0c37f99884c3443e675e9e2a0e31e949971fc4b198455e6f81d88?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb41075192e0c37f99884c3443e675e9e2a0e31e949971fc4b198455e6f81d88?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb41075192e0c37f99884c3443e675e9e2a0e31e949971fc4b198455e6f81d88?s=96&d=mm&r=g","caption":"Calvin Jones"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/calvinjones\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/466","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/19"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=466"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/466\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":470,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/466\/revisions\/470"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/467"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=466"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=466"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=466"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}