{"id":476,"date":"2020-02-06T12:34:06","date_gmt":"2020-02-06T12:34:06","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=476"},"modified":"2020-02-06T13:36:31","modified_gmt":"2020-02-06T13:36:31","slug":"sail","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/06\/sail\/","title":{"rendered":"Cymunedau iach yw sail ein bywydau"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Cymunedau iach yw sail ein bywydau.<\/strong> Dyna gred gr\u0175p o bobl o Wynedd a M\u00f4n sy&#8217;n datblygu strategaeth amgen ar gyfer datblygu cymunedau. Mabwysiadwyd yr enw &#8220;SAIL&#8221; gan mai cymuned yw sail popeth.<\/em><\/p>\n<p><em><strong>Sail<\/strong> yr economi. <strong>Sail<\/strong> diwylliant. <strong>Sail<\/strong> iaith. <strong>Sail<\/strong> gwytnwch. <strong>Sail<\/strong> cyfartaledd. <strong>Sail<\/strong> plethu&#8217;r cenedlaethau. <strong>Sail<\/strong> celfyddyd. <strong>Sail<\/strong> y dyfodol. <strong>Sail<\/strong> Cymru.<\/em><\/p>\n<p><em>Fel rhagflas cyn cyhoeddi&#8217;r strategaeth yn llawn, dyma ddadansoddiad gan Robat Idris sy&#8217;n egluro diffygion cynlluniau swyddogol.<\/em><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-481\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/sail-logo-cy-740.png\" alt=\"\" width=\"740\" height=\"532\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/sail-logo-cy-740.png 740w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/sail-logo-cy-740-300x216.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 740px) 100vw, 740px\" \/><\/p>\n<h2>Diffygion y strategaeth swyddogol presennol yng Ngwynedd a M\u00f4n<\/h2>\n<p>Gwyddom fod Gwynedd a M\u00f4n ymhlith yr ardaloedd tlotaf o fewn y Deyrnas Gyfunol. Er enghraifft, yn 2017, Gwerth Ychwanegol Crynswth y Pen ym M\u00f4n oedd \u00a314,314 ac yng Ngwynedd \u00a319,969 (Cymru \u00a319,899, y DU \u00a327,298). <a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>1<\/sup><\/a> Cymru yw&#8217;r unig wlad o fewn y Deyrnas Gyfunol a welodd gynnydd yn nhlodi plant yn 2017 \u2013 2018 medd adroddiad diweddar a gomisynwyd gan Plant yng Nghymru ac eraill, gyda bron i dri phlentyn o bob deg yn byw mewn tlodi.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>2<\/sup><\/a><\/p>\n<p>Dydi cynlluniau mawr y gorffennol, megis Trawsfynydd, Wylfa A ac Alwminiwm M\u00f4n, ddim wedi datrys y broblem \u2013 byddai rhai yn dadlau eu bod wedi gwaethygu pethau. Y wers ydi fod cwmn\u00efau cyfalafol yn eu hanfod yn gwneud cymaint o elw ag y gallant drwy fanteisio ar adnoddau naturiol a dynol lleol, ac ar arian o&#8217;r pwrs cyhoeddus, cyn diflannu a gadael problemau ar eu holau.<\/p>\n<p>Anghydraddoldeb sy&#8217; wrth wraidd ein trafferthion, a chyfeiliornus yw meddwl y gallwn ddibynnu ar yr atebion a gynigir yn swyddogol. Yn y b\u00f4n, ailgylchu syniadau&#8217;r gorffennol mewn dillad newydd mae nhw. Mae&#8217;r economegydd o Ffrainc, Thomas Piketty, awdur &#8220;Capital in the Twenty-first Century&#8221; a werthodd dros 2.5 miliwn o gopiau, wedi rhoi ei fys ar y dolur yn ei gyfrol ddiweddaraf &#8220;Capital et Ideologie&#8221;.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>1<\/sup><\/a> Dyma gasgliad y gyfrol 1,232 tudalen:<\/p>\n<blockquote><p>Nid mater economaidd neu dechnolegol mo anghydraddoldeb: mater ideolegol a gwleidyddol ydyw&#8230;..Mewn geiriau eraill, nid yw&#8217;r farchnad a&#8217;r egwyddor o gystadleuaeth, elw a chyflog, cyfalaf a dyled, gweithwyr \u00e2 chymwysterau a gweithwyr digymhwyster, brodorion a thramorwyr, paradwysau ariannol a&#8217;r egwyddor o fod yn gystadleuol, yn bodoli ynddynt eu hunain.<\/p>\n<p>Nid yw&#8217;n syndod bod elit cymdeithas&#8230;.yn aml yn tueddu i roi gwedd naturiol ar anghydraddoldeb. Hynny yw, ceisir rhoi iddo sylfeini naturiol a gwrthrychol, i egluro bod y gwahaniaethau cymdeithasol sy&#8217;n bodoli ar y cyfan, yn bodoli er budd y tlotaf ac er budd cymdeithas yn ei chyfanrwydd, ac mai&#8217;r strwythur cyfredol yw&#8217;r unig un ymarferol, na ellir ei newid yn sylweddol heb achosi trallod dirfawr.<\/p><\/blockquote>\n<p>Dadleuwn fod ein cynrychiolwyr ar y Cynghorau Sir, yn Senedd Cymru ac yn Senedd San Steffan, yn gweithredu yn \u00f4l dymuniadau&#8217;r elit cymdeithasol. Efallai nad ydyn nhw yn gweld hynny, ac yn wir gallant gredu eu bod yn gweithredu er budd eu hetholwyr. Ond t\u0177 ar y tywod yw&#8217;r adeilad sy&#8217; ganddynt mewn golwg.<\/p>\n<h2>Nid damwain ydi tlodi ein hardaloedd<\/h2>\n<p>Mae Dr Dan Evans yn egluro fod cyfalafiaeth angen ardaloedd tlawd yn ei erthygl i&#8217;r Sefydliad Materion Cymreig o 2015, felly nid damwain ydi tlodi ein hardaloedd.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>3<\/sup><\/a><\/p>\n<blockquote><p>&#8230;capitalism in fact needs these depressed, undeveloped regions- they are not an accident, just like unemployment is not an accident&#8230;.FDI (Foreign Direct Investment) is a false idol. The decision to invest in Wales is not benevolent, as portrayed in the press, but driven solely by profit. It is parasitic: firms come in, make a profit, then leave.<\/p><\/blockquote>\n<p>Un o ganlyniadau anffodus hyn yw fod gwleidyddion yn dueddol o lyncu addewidion am rhyw Eldorado rhithiol fel ffordd o ddatrys problemau hirdymor.<\/p>\n<p>Gwelwyd enghraifft ym Mhenybont yn ne Cymru gyda chyhoeddiad cwmni Ford eu bod am gau eu ffatri yno gyda 1,700 o swyddi yn mynd.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>4<\/sup><\/a> Ac eto, cynigir yr un mathau o atebion i ni ar hyn o bryd. Cyhoeddwyd fod cwmni Ineos, sy wedi codi gwrychyn llawer oherwydd ei gefnogaeth i ffracio a&#8217;r diwydiant olew, am sefydlu ffatri yn agos i hen ffatri Ford, gyda 200 o swyddi i gychwyn ac addewid am 500 yn y pendraw. \u2018Does dim syndod yn y byd fod arian Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn cefnogi Ineos \u2013 er fod ei berchennog, Sir Jim Ratcliffe, yn cael ei gydnabod fel y dyn cyfoethocaf yn y DU gyda \u00a321biliwn i&#8217;w enw.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>5<\/sup><\/a> Ar ben hynny, mae&#8217;n byw ym Monaco er mwyn osgoi talu treth.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>6<\/sup><\/a> Mae hyn yn berthnasol i Wynedd a M\u00f4n am fod yr union feddylfryd gwleidyddol hwn yn bodoli yma hefyd.<\/p>\n<p>Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>7<\/sup><\/a> yn cefnogi Cais Cynllun Twf ar gyfer Gogledd Cymru<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>8<\/sup><\/a> <em>&#8220;ble bo ffocws y twf economaidd ar arloesedd mewn sectorau economaidd gwerth uchel&#8221;.<\/em><\/p>\n<p>Yr enghraifft amlycaf yw Wylfa B, sydd bellach wedi ei atal. Cefnogwyd Wylfa gan Lywodraeth Cymru<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>9<\/sup><\/a> , Llywodraeth y DU<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>10<\/sup><\/a>, a Phrifysgol Bangor.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>11<\/sup><\/a> Dyma oedd conglfaen economaidd Ynys M\u00f4n ac i raddau helaeth Gwynedd, a dyma gynsail y Cynllun Datblygu Lleol mae&#8217;r ddau Gyngor yn ei rannu. <a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>12<\/sup><\/a> Y gwir plaen yw fod dyfodol economaidd Ynys M\u00f4n a Gwynedd wedi cael ei osod yn ddi-gwestiwn yn nwylo ychydig o bobl mewn ystafell yn Tokyo \u2013 sef bwrdd Cwmni Hitachi.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>13<\/sup><\/a><\/p>\n<p>Treuliwyd dros ddeng mlynedd a gwariwyd arian<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>14<\/sup><\/a> ac amser swyddogion yn cefnogi&#8217;r atomfa ar draul syniadau economaidd eraill. Oes yna rhywrai am gael eu galw i gyfri am hyn? Oes yna ymddiheuriad am ddadrithiad y bobl ifanc oedd wedi disgwyl cael gwaith yno? Oes yna unrhyw ystyried o faint o swyddi fyddai wedi cael eu creu erbyn hyn, pe buasai&#8217;r arian a wariwyd i gefnogi Wylfa wedi ei wario i gefnogi mentrau cymunedol a busnesau lleol? Oes yna unrhyw ailfeddwl am ffolineb parhau efo&#8217;r freuddwyd niwclear am Wylfa a Thrawsfynydd? Breuddwyd sy&#8217;n fyw ac yn iach ym meddyliau gwleidyddion lleol ar Ynys M\u00f4n a Gwynedd, a Llywodraethau Cymru a&#8217;r Deyrnas Cyfunol.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>15<\/sup><\/a> <a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>16<\/sup><\/a> A breuddwyd sy&#8217;n anwybyddu yn llwyr y dystiolaeth gynyddol nad oes angen ynni niwclear i gyflenwi ein anghenion, ac yn ogystal nad oes modd adeiladu atomfeydd mewn pryd i ddadwneud effeithiau newid hinsawdd, fel y dywed y &#8220;World Nuclear Industry Status Report 2019&#8221;:<\/p>\n<blockquote><p>Stabilizing the climate is urgent, nuclear power is slow. It meets no technical or operational need that these low-carbon competitors cannot meet better, cheaper, and faster.<\/p><\/blockquote>\n<p>Ar ben hynny mae&#8217;r swigen niwclear yn dal i hybu Adweithyddion Modiwlaidd Bychan (Small Modular Reactors) ar waetha&#8217;r hyn a ddywed y World Nuclear Industry Status Report,<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>17<\/sup><\/a> sef:<\/p>\n<blockquote><p><strong>United Kingdom.<\/strong> Rolls-Royce is the only company interested in participating in the government&#8217;s SMR competition but has requested significant subsidies that the government is apparently resisting. The Rolls-Royce design is at a very early stage but, at 450 MW, it is not really small.<\/p><\/blockquote>\n<p>Nodwn fod y Bwrdd Uchelgais yn dweud:<\/p>\n<blockquote><p>Gallai dros 5,000 o swyddi gael eu creu, yn ogystal \u00e2 busnesau a thai newydd (gan gynnwys tai fforddiadwy).<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae&#8217;r math yma o osodiad yn ein hatgoffa o&#8217;r ieithwedd a ddefnyddid pan gafwyd cyfle &#8220;unwaith mewn cenhedlaeth&#8221; a chafodd yr ardaloedd hyn chwistrelliad anferth o arian o Ewrop o dan raglen Amcan Un \u2013 ac eto chafodd yr economi ddim ei thrawsnewid, ac mae tlodi&#8217;r ardal dal i olygu ein bod yn gymwys i dderbyn arian o Ewrop.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>18<\/sup><\/a> Mae erthygl <a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>19<\/sup><\/a> yr Athro Calvin Jones, Prifysgol Caerdydd, yn &#8220;The Conversation&#8221; yn trafod mewn manylder agweddau o&#8217;r dull yma o ariannu, a sut y mae angen edrych o&#8217;r newydd ar broblemau ein hardaloedd tlotaf.<\/p>\n<p>Enghraifft arall o ailgylchu syniadau o&#8217;r ganrif o&#8217;r blaen yw Ardal Menter Eryri, sef safleoedd Maes Awyr Llanbedr ac atomfa Trawsfynydd.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>20<\/sup><\/a> Ymddengys fod aelodau&#8217;r Bwrdd Cynghori efo cysylltiadau efo&#8217;r diwydiannau niwclear a \/ neu hedfan milwrol,<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>21<\/sup><\/a> a \u2018does yna ddim cynrychiolaeth o fudiadau cymunedol. Credwn fod yna elfen anfoesol yn y datblygiadau a gefnogir. Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi \u00a3500,000 i gefnogi datblygiad Maes Awyr Llanbedr, sy&#8217;n gartref i Snowdonia Aerospace Ltd<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>22<\/sup><\/a> (cwsmeriaid yn cynnwys y cwmn\u00efau arfau Qinetiq, BAE a Thales) a lle y bydd adar angau (&#8220;drones&#8221;) yn cael eu datblygu.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>23<\/sup><\/a> Yn Nhrawsfynydd cefnogir Adweithyddion Modiwlar Bychan (SMR&#8217;s) gan Gyngor Gwynedd,<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>24<\/sup><\/a> Llywodraeth Cymru,<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>25<\/sup><\/a> yr Aelod Cynulliad lleol<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>26<\/sup><\/a> yr Aelod Seneddol lleol<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>27<\/sup><\/a> a&#8217;r Arglwydd Wigley.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>28<\/sup><\/a> Mae cyswllt milwrol rhwng niwclear sifil a niwclear milwrol,<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>29<\/sup><\/a> <a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>30<\/sup><\/a> felly anodd yw cysoni cefnogi Trawsfynydd tra&#8217;n gwrthwynebu Trident.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>31<\/sup><\/a> Anodd hefyd yw gweld sut y gellir ei gefnogi ar sail yr argyfwng hinsawdd, gan y byddai&#8217;n rhy hwyr yn dod i&#8217;r adwy,<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>32<\/sup><\/a> a \u2018does yna ddim sicrwydd o gwbl faint o swyddi fyddai i bobl leol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r syniad o drydedd pont dros y Fenai eto yn un a ddaeth yn dilyn y ragdybiaeth fod Wylfa B yn dod; daeth cyfaddefiad o hyn gan Ken Skates (Aelod Cabiet Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth).<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>33<\/sup><\/a> Ar waethaf hyn mae Llywodraeth Cymru am wario mwy o arian ar y prosiect.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>34<\/sup><\/a> Y gwir plaen yw nad ydi adeiladu mwy o ffyrdd yn datrys problemau trafnidiaeth, nac allyriadau carbon. Dylid edrych ar y broblem yn ehangach \u2013 sef sut i symud pobl a nwyddau yn y dull mwyaf effeithiol o un lle i&#8217;r llall, ac edrych eto ar batrymau teithio i&#8217;r gwaith ac ar gyfer hamdden. Gallwn ddweud fod yr un dadleuon yn berthnasol a&#8217;r rhai a roddwyd gan yr Athro Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, pan ganslwyd y bwriad i ddatblygu yr M4 yng nghyffiniau Casnewydd.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>35<\/sup><\/a><\/p>\n<p>Ofnwn hefyd fod yr awydd i fod yn rhan o&#8217;r <em>Northern Powerhouse<\/em><a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>36<\/sup><\/a> yn Lloegr yn debygol o arwain at wneud ein hardaloedd ni hyd yn oed fwy ymylol gan mai bychan fydd ein dylanwad ar strategaeth y corff hwnnw, ac yn debygol o wanhau ein cysylltiad economaidd efo rhannau eraill o Gymru. Ychwanegwyd at y canfyddiad fod Gwynedd a M\u00f4n yn ymylol gan Lywodraeth Cymru yn y ddogfen &#8220;Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020 \u2013 2040 (drafft)&#8221;.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>37<\/sup><\/a> Yma mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethau ardaloedd dinesig a threfol ar gyfer buddsoddiadau \u2013 yn y Gogledd, Wrecsam \u2013 a phwysleisir dro ar \u00f4l tro y pwysigrwydd o ddatblygu cysylltiadau rhwng Wrecsam a Gogledd Lloegr. Effaith hyn fyddai prysuro allfudo o Wynedd a M\u00f4n tua&#8217;r Dwyrain a Lloegr. Deallwn fod Cynghorau Sir Gwynedd ac Ynys M\u00f4n yn anfodlon efo&#8217;r weledigaeth hon hefyd.<\/p>\n<h2>Beth ydyn ni&#8217;n ei olygu wrth &#8220;fudd lleol&#8221;?<\/h2>\n<p>Wrth gwrs, mae rhai datblygiadau y gallwn eu cefnogi, fel cynllun ynni morol Morlais <a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>38<\/sup><\/a> oddi ar arfordir Ynys M\u00f4n. Mae&#8217;r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy ddefnyddio arian Ewropeaidd i ddatblygu ynni&#8217;r llanw&#8217;n fasnachol i&#8217;w groesawu.<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>39<\/sup><\/a> Dylai&#8217;r pwyslais fod, fel ymhob cynllun, ar gael y budd mwyaf i&#8217;r ardal leol, a da deall mai dyna yw bwriad Menter M\u00f4n, sydd y tu \u00f4l i Morlais. Cwestiwn creiddiol i&#8217;w ofyn yw hwn \u2013 beth ydyn ni&#8217;n ei olygu wrth &#8220;fudd lleol&#8221;? Ydi o&#8217;n golygu rhoi arian gan y cwmn\u00efau masnachol mewn cronfa debyg i Gymdeithas Elusennol Ynys M\u00f4n?<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>40<\/sup><\/a> Gwnaeth y gronfa honno, a sefydlwyd yn wreiddiol fel gwaddol gan gwmni olew Shell, waith rhagorol ers 30 mlynedd, a mae bellach yn werth \u00a322 miliwn, i&#8217;w ddosbarthu er lles &#8220;grwpiau gwirfoddol a chymunedol a phrosiectau adfywio&#8221;. Neu a ddylid bod yn fwy uchelgeisiol? A oes modd i&#8217;r bobl leol gael cyfran o berchnogaeth cwmn\u00efau sy&#8217;n manteisio ar ein hadnoddau naturiol a dynol? Yn y pendraw, byddai&#8217;n ddymunol cael perchnogaeth leol lle mae&#8217;n bosibl \u2013 hynny yw, anelu at fod yn berchen y deisen a nid y briwsion sydd dros ben. Pa hawl sy&#8217; gan bobl o&#8217;r tu allan i benderfynu beth sy&#8217;n dderbyniol i&#8217;r cymunedau am gael defnyddio eu hadnoddau naturiol a dynol? Ac ydi hi&#8217;n dderbyniol fod yr adnoddau yn cael eu defnyddio o gwbl heb gydsyniad y gymuned a effeithir? A gadael llanast ar eu holau yn aml.<\/p>\n<p>Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dod i&#8217;r fei sy&#8217;n dangos pa mor hen ffasiwn a sicr o fethu yw&#8217;r strategaeth bresennol. Bellach, nid pobl a mudiadau ymylol sy&#8217;n dweud hyn. Ceir gwaith academaidd adnabyddus o Brifysgolion Stanford a Berkeley yn UDA ac Aalborg yn Nenmarc sy&#8217;n modelu 100% o ynni glan, adnewyddol mewn 139 o wledydd. <a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>41<\/sup><\/a> Dywed adroddiad Global Energy Perspective 2019 gan y sefydliad byd-eang McKinsey <a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>42<\/sup><\/a>:<\/p>\n<blockquote><p>As the cost of renewables has come down further, many countries will reach a tipping point in the next five years where new-build solar or wind capacity is cost-competitive with the fuel cost of existing conventional plants. As a result we see a further acceleration of the ramp-up of renewables.<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae&#8217;n werth dyfynnu&#8217;n helaeth o adroddiad am gyfarfod (Ionawr 2020) y Royal Institution of International Affairs, Chatham House<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>43<\/sup><\/a> :<\/p>\n<blockquote><p>Far from tackling climate change, nuclear power is an expensive distraction.<\/p><\/blockquote>\n<blockquote><p>Nuclear power is in terminal decline worldwide and will never make a serious contribution to tackling climate change.<\/p><\/blockquote>\n<blockquote><p>Money used to improve energy efficiency saved four times as much carbon as that spent on nuclear power; wind saved three times as much, and solar double.<\/p><\/blockquote>\n<blockquote><p>The fact is that nuclear power is in slow motion commercial collapse around the world. The idea that a new generation of small modular reactors would be built to replace them is not going to happen; it is just a distraction away from a climate solution<\/p><\/blockquote>\n<blockquote><p>One of the myths peddled was that nuclear was needed for &#8220;baseload&#8221; power because renewables were available only intermittently.<\/p><\/blockquote>\n<blockquote><p>Having large inflexible nuclear stations that could not be switched off was a serious handicap in a modern grid system where renewables could at times produce all the energy needed at much lower cost.<\/p><\/blockquote>\n<p>Diddorol hefyd yw sylw Dr Martin Edlund, Prif Weithredwr cwmni Minesto,<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>44<\/sup><\/a> sy&#8217;n treialu dyfais ynni llanw a cherrynt ger Caergybi:<a title=\"Cyfeiriadaeth ar ddiwedd yr erthygl\" href=\"#cyfeiriadaeth\"><sup>45<\/sup><\/a><\/p>\n<blockquote><p>The potential that we&#8217;ve seen so far is more than the whole nuclear capacity on Earth.<\/p><\/blockquote>\n<p>Y casgliad hollol amlwg gan unrhyw sylwedydd sy&#8217; heb fod a&#8217;i fys ym mrywes y cynlluniau presennol yw fod Gwynedd a M\u00f4n &#8211; fel gweddill Cymru &#8211; wedi eu dal mewn fersiwn ffosilaidd o ddatblygiad economaidd o&#8217;r chwedegau. Yn hen ffasiwn, yn ddinistriol, yn llygru &#8211; ac o ddim gwerth o gwbl i les cenedlaethau&#8217;r dyfodol.<\/p>\n<h2 id=\"cyfeiriadaeth\">Cyfeiriadaeth<\/h2>\n<p>[1] <a href=\"https:\/\/statscymru.llyw.cymru\/Catalogue\/Sustainable-Development\/Sustainable-Development-Indicators\/gva-by-measure-welsheconomicregion-year\">https:\/\/statscymru.llyw.cymru\/Catalogue\/Sustainable-Development\/Sustainable-Development-Indicators\/gva-by-measure-welsheconomicregion-year<\/a><\/p>\n<p>[2] <a href=\"http:\/\/www.childreninwales.org.uk\/news\/news-archive\/child-poverty-becoming-new-normal-many-parts-wales-150519-wenis\/\">http:\/\/www.childreninwales.org.uk\/news\/news-archive\/child-poverty-becoming-new-normal-many-parts-wales-150519-wenis\/<\/a><\/p>\n<p>[3] <a href=\"https:\/\/www.iwa.wales\/click\/2015\/04\/the-false-promises-of-fdi\/\">https:\/\/www.iwa.wales\/click\/2015\/04\/the-false-promises-of-fdi\/<\/a><\/p>\n<p>[4] <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-48572440\">https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-48572440<\/a><\/p>\n<p>[5] <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-49733291\">https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-49733291<\/a><\/p>\n<p>[6] <a href=\"https:\/\/www.offshore-technology.com\/comment\/ineos-future-challenges\/\">https:\/\/www.offshore-technology.com\/comment\/ineos-future-challenges\/<\/a><\/p>\n<p>[7] <a href=\"https:\/\/northwaleseab.co.uk\/cy\/adnoddau\/cais-twf-gogledd-cymru\">https:\/\/northwaleseab.co.uk\/cy\/adnoddau\/cais-twf-gogledd-cymru<\/a><\/p>\n<p>[8] <a href=\"https:\/\/northwaleseab.co.uk\/sites\/nweab\/files\/documents\/welsh_growth_plan_doc_v4_final.8.feb2018.cleaned.pdf\">https:\/\/northwaleseab.co.uk\/sites\/nweab\/files\/documents\/welsh_growth_plan_doc_v4_final.8.feb2018.cleaned.pdf<\/a><\/p>\n<p>[9] <a href=\"https:\/\/www.becbusinesscluster.co.uk\/images\/uploads\/event-docs\/BECBC_-_Member_Presentations_-_Welsh_Gov_-_1_Aug_2018.pdf\">https:\/\/www.becbusinesscluster.co.uk\/images\/uploads\/event-docs\/BECBC_-_Member_Presentations_-_Welsh_Gov_-_1_Aug_2018.pdf<\/a><\/p>\n<p>[10] <a href=\"https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/government\/uploads\/system\/uploads\/attachment_data\/file\/720405\/Final_Version_BEIS_Nuclear_SD.PDF\">https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/government\/uploads\/system\/uploads\/attachment_data\/file\/720405\/Final_Version_BEIS_Nuclear_SD.PDF<\/a><\/p>\n<p>[11] <a href=\"https:\/\/www.bangor.ac.uk\/energy\/newyddion-niwclear\/prifysgol-bangor-yn-agor-y-sefydliad-ymchwil-niwclear-cyntaf-yng-nghymru-34651\">https:\/\/www.bangor.ac.uk\/energy\/newyddion-niwclear\/prifysgol-bangor-yn-agor-y-sefydliad-ymchwil-niwclear-cyntaf-yng-nghymru-34651<\/a><\/p>\n<p>[12] <a href=\"https:\/\/www.gwynedd.llyw.cymru\/cy\/Cyngor\/Dogfennau-Cyngor\/Strategaethau-a-pholisiau\/Cynllunio-ac-amgylchedd\/Polisi-cynllunio\/Cynllun-Datblygu-Lleol-ar-y-Cyd-Gwynedd-a-M%C3%B4n-Datganiad-Ysgrifenedig.pdf\">https:\/\/www.gwynedd.llyw.cymru\/cy\/Cyngor\/Dogfennau-Cyngor\/Strategaethau-a-pholisiau\/Cynllunio-ac-amgylchedd\/Polisi-cynllunio\/Cynllun-Datblygu-Lleol-ar-y-Cyd-Gwynedd-a-M%C3%B4n-Datganiad-Ysgrifenedig.pdf<\/a><\/p>\n<p>[13] <a href=\"https:\/\/www.hitachi.com\/New\/cnews\/month\/2019\/01\/f_190117.pdf\">https:\/\/www.hitachi.com\/New\/cnews\/month\/2019\/01\/f_190117.pdf<\/a><\/p>\n<p>[14] <a href=\"https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/revealed-councils-spent-combined-total-15079393\">https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/revealed-councils-spent-combined-total-15079393<\/a><\/p>\n<p>[15] <a href=\"https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/boris-majority-could-revive-hopes-17488753\">https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/boris-majority-could-revive-hopes-17488753<\/a><\/p>\n<p>[16] <a href=\"https:\/\/hansard.parliament.uk\/lords\/2019-06-10\/debates\/7BB816E9-6D3F-40B5-8666-239573C7C118\/NuclearEnergySmallModularReactors\">https:\/\/hansard.parliament.uk\/lords\/2019-06-10\/debates\/7BB816E9-6D3F-40B5-8666-239573C7C118\/NuclearEnergySmallModularReactors<\/a><\/p>\n<p>[17] <a href=\"https:\/\/www.worldnuclearreport.org\/The-World-Nuclear-Industry-Status-Report-2019-HTML.html#_idTextAnchor004\">https:\/\/www.worldnuclearreport.org\/The-World-Nuclear-Industry-Status-Report-2019-HTML.html#_idTextAnchor004<\/a><\/p>\n<p>[18] <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/fact-wales-poorest-communities-still-8022249\">https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/fact-wales-poorest-communities-still-8022249<\/a><\/p>\n<p>[19] <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/is-theresa-mays-1-6-billion-fund-for-english-towns-enough-to-rebalance-britains-skewed-economy-110554?utm_source=twitter&amp;utm_medium=twitterbutton\">https:\/\/theconversation.com\/is-theresa-mays-1-6-billion-fund-for-english-towns-enough-to-rebalance-britains-skewed-economy-110554?utm_source=twitter&amp;utm_medium=twitterbutton<\/a><\/p>\n<p>[20] <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/enterprisezones\/cy\/ardaloedd-menter-yng-nghymru\/eryri\/amdano-parth-eryri\">https:\/\/businesswales.gov.wales\/enterprisezones\/cy\/ardaloedd-menter-yng-nghymru\/eryri\/amdano-parth-eryri<\/a><\/p>\n<p>[21] <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/bwrdd-cynghori-ardal-fenter-eryri\/aelodau\">https:\/\/llyw.cymru\/bwrdd-cynghori-ardal-fenter-eryri\/aelodau<\/a><\/p>\n<p>[22] <a href=\"http:\/\/www.aerospacewalesforum.com\/item\/snowdonia-aerospace-llp\/\">http:\/\/www.aerospacewalesforum.com\/item\/snowdonia-aerospace-llp\/<\/a><\/p>\n<p>[23] <a href=\"https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/peace-protesters-llanbedr-airfield-500k-14022166\">https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/peace-protesters-llanbedr-airfield-500k-14022166<\/a><\/p>\n<p>[24] <a href=\"https:\/\/democratiaeth.cyngor.gwynedd.gov.uk\/mgconvert2pdf.aspx?id=19684&amp;\">https:\/\/democratiaeth.cyngor.gwynedd.gov.uk\/mgconvert2pdf.aspx?id=19684&amp;<\/a><\/p>\n<p>[25] <a href=\"https:\/\/gov.wales\/written-statement-uk-government-visit-trawsfynydd-smr-and-launch-nuclear-sector-deal\">https:\/\/gov.wales\/written-statement-uk-government-visit-trawsfynydd-smr-and-launch-nuclear-sector-deal<\/a><\/p>\n<p>[26] <a href=\"http:\/\/www.cambrian-news.co.uk\/article.cfm?id=102925&amp;headline=Calls%20to%20reintroduce%20nuclear%20power%20to%20the%20region&amp;sectionIs=news&amp;searchyear=2016\">http:\/\/www.cambrian-news.co.uk\/article.cfm?id=102925&amp;headline=Calls%20to%20reintroduce%20nuclear%20power%20to%20the%20region&amp;sectionIs=news&amp;searchyear=2016<\/a><\/p>\n<p>[27] <a href=\"https:\/\/www.theyworkforyou.com\/whall\/?id=2019-02-20a.609.1\">https:\/\/www.theyworkforyou.com\/whall\/?id=2019-02-20a.609.1<\/a><\/p>\n<p>[28] <a href=\"https:\/\/hansard.parliament.uk\/lords\/2019-06-10\/debates\/7BB816E9-6D3F-40B5-8666-239573C7C118\/NuclearEnergySmallModularReactors\">https:\/\/hansard.parliament.uk\/lords\/2019-06-10\/debates\/7BB816E9-6D3F-40B5-8666-239573C7C118\/NuclearEnergySmallModularReactors<\/a><\/p>\n<p>[29] <a href=\"https:\/\/theecologist.org\/2019\/mar\/11\/obituary-small-modular-reactors\">https:\/\/theecologist.org\/2019\/mar\/11\/obituary-small-modular-reactors<\/a><\/p>\n<p>[30] <a href=\"http:\/\/www.sussex.ac.uk\/spru\/newsandevents\/2017\/findings\/nuclear\">http:\/\/www.sussex.ac.uk\/spru\/newsandevents\/2017\/findings\/nuclear<\/a><\/p>\n<p>[31] <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=vuQjtHKBU58\">https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=vuQjtHKBU58<\/a><\/p>\n<p>[32] <a href=\"https:\/\/www.newcivilengineer.com\/latest\/caution-urged-over-modular-nuclear-reactors\/10042995.article\">https:\/\/www.newcivilengineer.com\/latest\/caution-urged-over-modular-nuclear-reactors\/10042995.article<\/a><\/p>\n<p>[33] <a href=\"https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/plan-third-menai-bridge-now-17261324\">https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/plan-third-menai-bridge-now-17261324<\/a><\/p>\n<p>[34] <a href=\"https:\/\/gov.wales\/a55-3rd-menai-crossing-overview\">https:\/\/gov.wales\/a55-3rd-menai-crossing-overview<\/a><\/p>\n<p>[35] <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/m4-y-coridor-o-amgylch-casnewydd-trosolwg\">https:\/\/llyw.cymru\/m4-y-coridor-o-amgylch-casnewydd-trosolwg<\/a><\/p>\n<p>[36] <a href=\"https:\/\/northernpowerhouse.gov.uk\/about-us\/\">https:\/\/northernpowerhouse.gov.uk\/about-us\/<\/a><\/p>\n<p>[37] <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/sites\/default\/files\/consultations\/2019-08\/Drafft%20y%20Fframwaith%20Datblygu%20Cenedlaethol.pdf\">https:\/\/llyw.cymru\/sites\/default\/files\/consultations\/2019-08\/Drafft%20y%20Fframwaith%20Datblygu%20Cenedlaethol.pdf<\/a><\/p>\n<p>[38] <a href=\"http:\/\/www.morlaisenergy.com\/cy\/\">http:\/\/www.morlaisenergy.com\/cy\/<\/a><\/p>\n<p>[39] <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/diwydiant-ynnir-llanw-yn-y-gogledd-i-gael-o-fuddsoddiad-gan-yr-ue\">https:\/\/llyw.cymru\/diwydiant-ynnir-llanw-yn-y-gogledd-i-gael-o-fuddsoddiad-gan-yr-ue<\/a><\/p>\n<p>[40] <a href=\"https:\/\/www.ynysmon.gov.uk\/cy\/newyddion\/newyddion\/cymdeithas-elusennol-newydd-i-reoli-cronfa-waddol\">https:\/\/www.ynysmon.gov.uk\/cy\/newyddion\/newyddion\/cymdeithas-elusennol-newydd-i-reoli-cronfa-waddol<\/a><\/p>\n<p>[41] <a href=\"https:\/\/www.cell.com\/one-earth\/fulltext\/S2590-3322(19)30225-8?_returnURL=https%3A%2F%2Flinkinghub.elsevier.com%2Fretrieve%2Fpii%2FS2590332219302258%3Fshowall%3Dtrue\">https:\/\/www.cell.com\/one-earth\/fulltext\/S2590-3322(19)30225-8?_returnURL=https%3A%2F%2Flinkinghub.elsevier.com%2Fretrieve%2Fpii%2FS2590332219302258%3Fshowall%3Dtrue<\/a><\/p>\n<p>[42] <a href=\"https:\/\/www.mckinsey.com\/~\/media\/McKinsey\/Industries\/Oil%20and%20Gas\/Our%20Insights\/Global%20Energy%20Perspective%202019\/McKinsey-Energy-Insights-Global-Energy-Perspective-2019_Reference-Case-Summary.ashx\">https:\/\/www.mckinsey.com\/~\/media\/McKinsey\/Industries\/Oil%20and%20Gas\/Our%20Insights\/Global%20Energy%20Perspective%202019\/McKinsey-Energy-Insights-Global-Energy-Perspective-2019_Reference-Case-Summary.ashx<\/a><\/p>\n<p>[43] <a href=\"https:\/\/climatenewsnetwork.net\/nuclear-power-cannot-rival-renewable-energy\/\">https:\/\/climatenewsnetwork.net\/nuclear-power-cannot-rival-renewable-energy\/<\/a><\/p>\n<p>[44] <a href=\"https:\/\/minesto.com\/\">https:\/\/minesto.com\/<\/a><\/p>\n<p>[45] <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=8e1I7CtZQHY\">https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=8e1I7CtZQHY<\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cymunedau iach yw sail ein bywydau. Dyna gred gr\u0175p o bobl o Wynedd a M\u00f4n sy&#8217;n datblygu strategaeth amgen ar gyfer datblygu cymunedau. Mabwysiadwyd yr enw &#8220;SAIL&#8221; gan mai cymuned &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/06\/sail\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Cymunedau iach yw sail ein bywydau&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":14,"featured_media":485,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[49,75,72,73,82],"class_list":["post-476","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-economi","tag-gwynedd","tag-niwclear","tag-ynni","tag-ynys-mon","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cymunedau iach yw sail ein bywydau - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cymunedau iach yw sail ein bywydau - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cymunedau iach yw sail ein bywydau. Dyna gred gr\u0175p o bobl o Wynedd a M\u00f4n sy&#8217;n datblygu strategaeth amgen ar gyfer datblygu cymunedau. Mabwysiadwyd yr enw &#8220;SAIL&#8221; gan mai cymuned &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Cymunedau iach yw sail ein bywydau&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/06\/sail\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-02-06T12:34:06+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-02-06T13:36:31+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/gwynedd-mon.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"641\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"495\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Robat Idris\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Robat Idris\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"27 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/\"},\"author\":{\"name\":\"Robat Idris\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\"},\"headline\":\"Cymunedau iach yw sail ein bywydau\",\"datePublished\":\"2020-02-06T12:34:06+00:00\",\"dateModified\":\"2020-02-06T13:36:31+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/\"},\"wordCount\":5517,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/gwynedd-mon.jpg\",\"keywords\":[\"economi\",\"Gwynedd\",\"niwclear\",\"ynni\",\"Ynys M\u00f4n\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/\",\"name\":\"Cymunedau iach yw sail ein bywydau - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/gwynedd-mon.jpg\",\"datePublished\":\"2020-02-06T12:34:06+00:00\",\"dateModified\":\"2020-02-06T13:36:31+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/gwynedd-mon.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/gwynedd-mon.jpg\",\"width\":641,\"height\":495},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cymunedau iach yw sail ein bywydau\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\",\"name\":\"Robat Idris\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Robat Idris\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cymunedau iach yw sail ein bywydau - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Cymunedau iach yw sail ein bywydau - undod","og_description":"Cymunedau iach yw sail ein bywydau. Dyna gred gr\u0175p o bobl o Wynedd a M\u00f4n sy&#8217;n datblygu strategaeth amgen ar gyfer datblygu cymunedau. Mabwysiadwyd yr enw &#8220;SAIL&#8221; gan mai cymuned &hellip; Parhau i ddarllen \"Cymunedau iach yw sail ein bywydau\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/06\/sail\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-02-06T12:34:06+00:00","article_modified_time":"2020-02-06T13:36:31+00:00","og_image":[{"width":641,"height":495,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/gwynedd-mon.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Robat Idris","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Robat Idris","Est. reading time":"27 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/"},"author":{"name":"Robat Idris","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91"},"headline":"Cymunedau iach yw sail ein bywydau","datePublished":"2020-02-06T12:34:06+00:00","dateModified":"2020-02-06T13:36:31+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/"},"wordCount":5517,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/gwynedd-mon.jpg","keywords":["economi","Gwynedd","niwclear","ynni","Ynys M\u00f4n"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/","name":"Cymunedau iach yw sail ein bywydau - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/gwynedd-mon.jpg","datePublished":"2020-02-06T12:34:06+00:00","dateModified":"2020-02-06T13:36:31+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/gwynedd-mon.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/gwynedd-mon.jpg","width":641,"height":495},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/02\/06\/sail\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cymunedau iach yw sail ein bywydau"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91","name":"Robat Idris","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","caption":"Robat Idris"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/476","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/14"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=476"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/476\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":488,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/476\/revisions\/488"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/485"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=476"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=476"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=476"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}