{"id":489,"date":"2020-02-09T03:40:24","date_gmt":"2020-02-09T03:40:24","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=489"},"modified":"2020-03-30T13:12:52","modified_gmt":"2020-03-30T12:12:52","slug":"felindre","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/","title":{"rendered":"Gwers galed Felindre: galw am gyfundrefn gadarn i warchod ysgolion Cymraeg gwledig"},"content":{"rendered":"<p><em>Cyfrannwyd y darn hwn gan Angharad Dafis, cynrychiolydd cefnogwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre.<\/em><\/p>\n<p>Croesewir dyfarniad pellgyrhaeddol Comisiynydd y Gymraeg fod Dinas a Sir Abertawe wedi methu cymryd y cam statudol hanfodol o gyflawni asesiad o&#8217;r effaith ar y Gymraeg yn y gymuned cyn mynd ati i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Dywed y Comisiynydd:<\/p>\n<blockquote><p>Yr unig gasgliad y gellir dod iddo yw y gallasai&#8217;r penderfyniad fod wedi bod yn wahanol i&#8217;r un a wnaed.<\/p><\/blockquote>\n<p>Hynny yw pe bai&#8217;r Cyngor wedi cyflawni&#8217;r asesiad yn gywir, gallasai drysau ysgol Felindre fod ar agor o hyd. Fel y saif, nid ydynt. Yn hytrach na dilyn argymhellion y Comisiynydd i ddefnyddio&#8217;r ysgol er lles y gymuned a&#8217;r Gymraeg, penderfyniad y Cyngor yw gwerthu&#8217;r ysgol mewn ocsiwn yn Llundain.<\/p>\n<p>Gobeithio y\u00a0bydd dyfarniad y Comisiynydd yn gweithredu fel rhybudd i awdurdodau lleol byrbwyll eraill ledled Cymru. Mae ysgolion Cymraeg gwledig yn sefydliadau cenedlaethol yn eu hawl eu hunain ac mae eu cynnal yn dyngedfennol i ddyfodol y Gymraeg yn enwedig pan fo grymoedd y farchnad yn gallu newid natur ieithyddol a chymdeithasol cymunedau dros nos.<\/p>\n<p>Gan na fedda&#8217;r Comisiynydd y grym i wyrdroi&#8217;r penderfyniad i gau&#8217;r ysgol, mae&#8217;r datganiad wedi dod yn rhy hwyr yn achos Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre\u00a0\u2013 ysgol a leolwyd yn y Parsel Mawr \u2013 y gymuned \u00e2&#8217;r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn Sir Abertawe oll, 38.% o&#8217;i chymharu ag 11% ledled y sir. Pentref Felindre yw&#8217;r Cymreiciaf erbyn hyn o bentrefi&#8217;r Parsel Mawr ac mae&#8217;r ganran yno felly yn uwch na&#8217;r 38%. Mae\u00a0cau&#8217;r ysgol wledig olaf Gymraeg yn y pentref Cymreiciaf yn sir Abertawe yn ddiamau yn mynd i newid natur y gymuned am byth.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-495 size-full\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/mawr-dyfan-lewis-llun-gan-esyllt-lewis2.jpg\" alt=\"\" width=\"640\" height=\"290\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/mawr-dyfan-lewis-llun-gan-esyllt-lewis2.jpg 640w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/mawr-dyfan-lewis-llun-gan-esyllt-lewis2-300x136.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 640px) 100vw, 640px\" \/><\/p>\n<p>Mewn deddfwriaeth yn ymwneud ag unrhyw beth heblaw&#8217;r iaith Gymraeg, mi fuasai&#8217;r Cyngor wedi gorfod talu am eu camwedd wrth ddewis mynd yn groes i&#8217;r canllawiau a&#8217;r rheolau. Nid oes cyfundrefn ddigon cadarn yn ei lle i atal cyrff fel hyn rhag gweithredu&#8217;n ddi-hid tuag at gymunedau Cymraeg.<\/p>\n<p>Gan mai&#8217;r unig beth oedd yn mennu ar y Cyngor oedd her yn y llysoedd a&#8217;u bod yn tybio nad oedd grymoedd y Comisiynydd yn rhai digon eang i fedru ymestyn i her o&#8217;r fath, bwrw mlaen yn ddidrugaredd \u00e2&#8217;r cau a wnaethant er pob ap\u00eal ar iddynt oedi nes bod y Comisiynydd wedi cyflawni ei ymchwiliad. Erbyn i&#8217;r Comisiynydd gyhoeddi ei adroddiad terfynol, aeth blwyddyn a mwy heibio ac mae&#8217;r ysgol eisoes wedi bod ar gau ers tymor ysgol cyfan.<\/p>\n<ul>\n<li>Dylai fod gan y Comisiynydd y grym i atal cau ysgolion gwledig Cymraeg nes bod yr ymchwiliad wedi ei gwblhau.<\/li>\n<li>Dylai fod ganddo hefyd y grym i wyrdroi&#8217;r penderfyniad oni ddilynwyd y broses yn gywir, (fel yn achos Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre lle bu&#8217;r methiannau addysgol a ieithyddol ar ran y Cyngor yn niferus).<\/li>\n<li>Caewyd ysgol Felindre dan gochl darparu cymharol ychydig o lefydd ychwanegol mewn ysgolion oedd eisoes yn bodoli. Nid yw&#8217;r ychydig lefydd ychwanegol hyn yn gwneud iawn am golli ysgol Gymraeg mewn pentre naturiol Gymraeg.<\/li>\n<li>Bu&#8217;r Cyngor ac eraill yn gibddall ers chwarter canrif a mwy wrth fethu gweld mor amhrisiadwy oedd yr adnodd yn Felindre ar gyfer twf addysg Gymraeg a hyfywedd yr iaith ledled y sir.<\/li>\n<li>Mae angen i Gomisiynydd y Gymraeg allu gosod cosbau o ddifri ar Gynghorau sy&#8217;n cyflawni&#8217;r fath gamweddau yn enwedig y rhai hynny lle ceir ymagweddu gwrthwynebus i&#8217;r iaith fel yn achos Cyngor Dinas a Sir Abertawe. Heblaw hynny parhau i weithio&#8217;r system ac i filwrio yn erbyn y Gymraeg a wn\u00e2nt. Nid cosb o ddifri yw cyhoeddi tor-safon, pa niferus bynnag y bo&#8217;r rheiny, wedi i&#8217;r ysgol gau. Does yna ddim ysgol Gymraeg wledig arall ar \u00f4l yn sir Abertawe gyfan i&#8217;r Cyngor ei chau.<\/li>\n<li>Mae&#8217;r Comisiynydd wedi awgrymu pwysigrwydd ystyried mesurau lleddfu y gellid eu cymryd gan gynnwys y canlynol:<\/li>\n<\/ul>\n<blockquote><p>Ariannu mentrau neu weithgareddau dan arweiniad y fenter iaith.<\/p>\n<p>Sicrhau fod cyfleusterau ac adnoddau&#8217;r ysgol yn parhau i fod ar gael i&#8217;r gymuned er mwyn, er enghraifft, fod yn fan cyfarfod neu&#8217;n ganolfan ar gyfer derbyn gwasanaethau lleol megis gwasanaeth llyfrgelloedd, mynediad i dechnoleg gwybodaeth ayb.<\/p>\n<p>Arweiniad neu gefnogaeth y Cyngor i&#8217;r gymuned er mwyn eu galluogi i sefydlu mentrau cymdeithasol er budd y gymuned.<\/p><\/blockquote>\n<p>Go brin fod bwriad Cyngor Dinas a Sir Abertawe i werthu&#8217;r ysgol mewn ocsiwn yn Llundain am ddeg o&#8217;r gloch y bore yn yr Intercontinental Hotel yn Park Lane ar 13eg Chwefror 2020 yn gydnaws \u00e2&#8217;r awgrym uchod. Gwerthu&#8217;r ysgol gan gwmni arwerthwyr Allsop, ym marn y Cyngor, fydd yn dod \u00e2&#8217;r gwerth gorau i drethdalwyr dinas a sir Abertawe. Dengys hyn gyn lleied y maent yn ei ddeall am werth cymunedau Cymraeg a chyn lleied o werth y maent yn ei osod arnynt. Yn y cyfamser mae&#8217;r Cyngor wedi ymrwymo i wario miliynau lawer ar greu rhagor o dyrau concrid yng nghanol dinas Abertawe. Prin y byddant yn ddigon haelfrydig i estyn ychydig geiniogau i gymuned wledig Felindre.<\/p>\n<figure id=\"attachment_493\" aria-describedby=\"caption-attachment-493\" style=\"width: 810px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-493 size-full\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/rob-stuart-o-flaen-poster.jpg\" alt=\"\" width=\"810\" height=\"539\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/rob-stuart-o-flaen-poster.jpg 810w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/rob-stuart-o-flaen-poster-300x200.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/rob-stuart-o-flaen-poster-768x511.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 810px) 100vw, 810px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-493\" class=\"wp-caption-text\">Rob Stuart<\/figcaption><\/figure>\n<p>Yn rhyfedd iawn y mae arweinydd y Cyngor Rob Stuart wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford i ofyn a fu cynnal ymchwiliad ar fethiannau Cyngor Dinas a Sir Abertawe i gydymffurfio \u00e2 Mesur y Gymraeg yn ddefnydd da o arian cyhoeddus. Pe na bai Dinas a Sir Abertawe wedi torri&#8217;r gyfraith yn y lle cyntaf, ni fuasai angen ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae fel pe na bai deddf gwlad rywsut yn rhywbeth y mae gofyn i Gyngor Dinas a Sir Abertawe, yn wahanol i&#8217;w threthdalwyr, gydymffurfio \u00e2 hi.<\/p>\n<p>Nid yw&#8217;r Cyngor wedi dysgu gwers. Fe ddylai fod wedi ymgynghori a chynnal asesiad o ba effaith ar y Gymraeg a g\u00e2i&#8217;r penderfyniad i werthu&#8217;r adeilad yn hytrach na&#8217;i ddefnyddio ar gyfer dibenion cymunedol. Ni wnaethant hynny, ac felly parhau i wawdio ac i sarhau&#8217;r Gymraeg a&#8217;i siaradwyr a wna&#8217;r Cyngor.\u00a0Mae cwyn bellach wedi ei chyflwyno i&#8217;r Comisiynydd i&#8217;r perwyl hwn. Ond yr un fydd yr hanes. Araf iawn y mae&#8217;r olwynion yn symud er lles y Gymraeg. Os bydd y Comisiynydd yn penderfynu cynnal ymchwiliad i&#8217;r methiant diweddaraf hwn ar ran y Cyngor, erbyn i hynny ddod i fwcwl, bydd yr ysgol wedi ei hen werthu. Dengys hyn fod angen mynd i&#8217;r afael o ddifri \u00e2 diffygion enbyd Mesur y Gymraeg. Onid yw&#8217;n llwyddo i gyflawni&#8217;r hyn a ddywedir ar y tun, mae angen ei ddiwygio.<\/p>\n<p>Mae pob deddf, canllaw, c\u00f4d, Gweinidog Addysg a chorff wedi methu yn achos Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Mae&#8217;r Cyngor wedi cael trwydded i anwybyddu a mynd yn groes i&#8217;r cyfan. A&#8217;r\u00a0gymuned Gymraeg sydd ar ei cholled.<\/p>\n<p>Breuddwyd gwrach yw miliwn o siaradwyr pan fo cyfundrefnau megis Cyngor Abertawe yn cael rhwydd hynt i ddiystyru cyfoeth cenedlaethau o bobl ar ddarn arbennig o dir ar amrantiad.\u00a0 Fesul tiriogaeth y derfydd y Gymraeg. <strong>Rhaid i ni fod yn llafar.<\/strong><\/p>\n<p><em>Darlun gan Esyllt Lewis, o&#8217;r llyfryn Mawr a Cherddi Eraill gan Dyfan Lewis<\/em><\/p>\n<h2>Diweddariad 20 Mawrth 2020: Gwarchod ysgolion Cymraeg a&#8217;u cymunedau<\/h2>\n<p>Wythnos diwethaf, cafodd Comisiynydd y Gymraeg yr hawl i gyhoeddi ei ddyfarniad a&#8217;i adroddiad hirddisgwyliedig, lle canfyddodd fod Cyngor Abertawe wedi methu yn ei ddyletswydd statudol i ystyried ac asesu effaith cau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre ar y Gymraeg fel iaith gymunedol. Yng ngoleuni&#8217;r ffaith fod y dyfarniad a&#8217;r adroddiad wedi dod yn rhy hwyr i achub Ysgol Felindre, ac yn y pen draw y gymuned Gymraeg yr oedd wedi ei gwreiddio ynddi, rhaid gofyn a yw cyflwr presennol Mesur y Gymraeg a&#8217;i safonau yn addas i bwrpas?<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae cyfundrefn y safonau yn ffafrio hunan-les Cynghorau ar draul hawliau eu trethdalwyr. Caniateir amser afresymol o faith i Gynghorau i ymateb i gwynion ac i adroddiadau arfaethedig y Comisiynydd yn ogystal ag i apelio yn eu herbyn. Yn achos Dinas a Sir Abertawe, cyflwynwyd y gwyn i&#8217;r Comisiynydd yn Rhagfyr 2018 a derbyniodd y Cyngor adroddiad drafft cyntaf y Comisiynydd ym mis Awst 2019. Cyflwynodd y Comisiynydd ei adroddiad terfynol cyn diwedd Ionawr 2020 ond roedd raid iddo aros am chwe wythnos arall cyn medru gwneud cyhoeddiad swyddogol rhag ofn fod y Cyngor yn dewis apelio. Roedd y bwlch rhwng Ionawr a Mawrth yn caniat\u00e1u i&#8217;r Cyngor olchi eu dwylo&#8217;n derfynol o unrhyw gyfrifoldeb, beth bynnag am ddyfarniad y Comisiynydd, drwy werthu&#8217;r adeilad mewn ocsiwn yn Llundain.<\/p>\n<p>Nid yw safonau a Mesur sy&#8217;n golygu ei bod yn rhy hwyr i achub ysgol hyd yn oed pan fo&#8217;r Comisiynydd yn dyfarnu yn erbyn Cyngor Sir yn weithdrefn ystyrlon o gwbl. Ni ddylai hyd y broses danseilio&#8217;r egwyddor o gyfiawnder naturiol chwaith. Ar ben hynny, o benderfynu fod proses Cyngor Abertawe yn waelodol ddiffygiol, dylai&#8217;r Comisiynydd fod wedi cael y grym i wyrdroi&#8217;r penderfyniad i gau&#8217;r ysgol, yn enwedig a&#8217;r Cyngor yn llwyr ymwybodol o benderfyniad y Comisiynydd ac o gynnwys yr adroddiad ond eto&#8217;n mynd ati&#8217;n ddigywilydd ac yn benderfynol i waredu&#8217;r eiddo.<\/p>\n<p>Nid yw buddugoliaeth foesol fawr o gysur pan fo cymunedau bregus yn derbyn ergydion c\u00efaidd fel hyn.<\/p>\n<p>Sut felly y gellir gwella ar y sefyllfa bresennol a pha gamau y gellir eu cyflawni i sicrhau fod cymunedau Cymraeg eu hiaith yn cael eu trin \u00e2&#8217;r parch dyledus fel y buasent pe baent yn rhywogaeth brin?<\/p>\n<p>Mae dirfawr angen diwygio&#8217;r gyfraith fel na bo&#8217;n bosib cychwyn ar y broses o ymgynghori am gau ysgol Gymraeg oni bai fod effaith hynny ar y Gymraeg fel iaith gymunedol wedi ei hystyried yn drwyadl a bod y Comisiynydd yn fodlon i&#8217;r broses fynd yn ei blaen. Byddai dyletswydd ar y Cyngor Sir i gynnal ymgynghoriad ac archwiliad o&#8217;r effaith honno, a chyhoeddi adroddiad manwl yn sgil hynny. Dim ond os yw&#8217;r Comisiynydd o&#8217;r farn na fyddai&#8217;r cau arfaethedig yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg fel iaith gymunedol y byddai hawl gan y Cyngor Sir i fwrw mlaen \u00e2 \u2018r broses. Byddai grym gan y Comisiynydd i wneud argymhellion am ddiogelu&#8217;r Gymraeg yn y gymuned boed yn sgil unrhyw benderfyniad i gau neu yn gyffredinol, a byddai dyletswydd ar y Cyngor i gydfynd ag argymhellion y Comisiynydd pa un a fyddai&#8217;r broses yn parhau ai peidio. Nid yw Mesur y Gymraeg a safonau&#8217;n addas ar gyfer y drefn hon. Mae angen ei gwneud yn rhan ragarweiniol statudol o unrhyw gynnig i ad-drefnu a chau ysgolion drwy ddiwygio&#8217;r ddeddfwriaeth addysg.<\/p>\n<p>Fe fyddwn yn galw ar bawb sy&#8217;n ewyllysio dyfodol y Gymraeg fel iaith hyfyw yn ein cymunedau i fynnu gweld grymuso ar y gyfraith ac ar rymoedd y Comisiynydd ar frys er mwyn rhoi gwarchodaeth go iawn i&#8217;r Gymraeg a hawliau gwirioneddol i siaradwyr, nid rhai ar bapur yn unig.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyfrannwyd y darn hwn gan Angharad Dafis, cynrychiolydd cefnogwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Croesewir dyfarniad pellgyrhaeddol Comisiynydd y Gymraeg fod Dinas a Sir Abertawe wedi methu cymryd y cam statudol &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Gwers galed Felindre: galw am gyfundrefn gadarn i warchod ysgolion Cymraeg gwledig&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":20,"featured_media":490,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[55,7],"class_list":["post-489","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-llywodraeth-cymru","tag-y-gymraeg","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Gwers galed Felindre: galw am gyfundrefn gadarn i warchod ysgolion Cymraeg gwledig - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Gwers galed Felindre: galw am gyfundrefn gadarn i warchod ysgolion Cymraeg gwledig - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cyfrannwyd y darn hwn gan Angharad Dafis, cynrychiolydd cefnogwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Croesewir dyfarniad pellgyrhaeddol Comisiynydd y Gymraeg fod Dinas a Sir Abertawe wedi methu cymryd y cam statudol &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Gwers galed Felindre: galw am gyfundrefn gadarn i warchod ysgolion Cymraeg gwledig&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-02-09T03:40:24+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-03-30T12:12:52+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/mawr-dyfan-lewis-llun-gan-esyllt-lewis.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"640\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"426\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Angharad Dafis\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Angharad Dafis\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"18 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/\"},\"author\":{\"name\":\"Angharad Dafis\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9f76923ccbc42eba4a81dc6fa789ac2a\"},\"headline\":\"Gwers galed Felindre: galw am gyfundrefn gadarn i warchod ysgolion Cymraeg gwledig\",\"datePublished\":\"2020-02-09T03:40:24+00:00\",\"dateModified\":\"2020-03-30T12:12:52+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/\"},\"wordCount\":3798,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/mawr-dyfan-lewis-llun-gan-esyllt-lewis.jpg\",\"keywords\":[\"Llywodraeth Cymru\",\"Y Gymraeg\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/\",\"name\":\"Gwers galed Felindre: galw am gyfundrefn gadarn i warchod ysgolion Cymraeg gwledig - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/mawr-dyfan-lewis-llun-gan-esyllt-lewis.jpg\",\"datePublished\":\"2020-02-09T03:40:24+00:00\",\"dateModified\":\"2020-03-30T12:12:52+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/mawr-dyfan-lewis-llun-gan-esyllt-lewis.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/mawr-dyfan-lewis-llun-gan-esyllt-lewis.jpg\",\"width\":640,\"height\":426},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Gwers galed Felindre: galw am gyfundrefn gadarn i warchod ysgolion Cymraeg gwledig\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9f76923ccbc42eba4a81dc6fa789ac2a\",\"name\":\"Angharad Dafis\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Angharad Dafis\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/angharaddafis\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Gwers galed Felindre: galw am gyfundrefn gadarn i warchod ysgolion Cymraeg gwledig - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Gwers galed Felindre: galw am gyfundrefn gadarn i warchod ysgolion Cymraeg gwledig - undod","og_description":"Cyfrannwyd y darn hwn gan Angharad Dafis, cynrychiolydd cefnogwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Croesewir dyfarniad pellgyrhaeddol Comisiynydd y Gymraeg fod Dinas a Sir Abertawe wedi methu cymryd y cam statudol &hellip; Parhau i ddarllen \"Gwers galed Felindre: galw am gyfundrefn gadarn i warchod ysgolion Cymraeg gwledig\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-02-09T03:40:24+00:00","article_modified_time":"2020-03-30T12:12:52+00:00","og_image":[{"width":640,"height":426,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/mawr-dyfan-lewis-llun-gan-esyllt-lewis.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Angharad Dafis","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Angharad Dafis","Est. reading time":"18 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/"},"author":{"name":"Angharad Dafis","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9f76923ccbc42eba4a81dc6fa789ac2a"},"headline":"Gwers galed Felindre: galw am gyfundrefn gadarn i warchod ysgolion Cymraeg gwledig","datePublished":"2020-02-09T03:40:24+00:00","dateModified":"2020-03-30T12:12:52+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/"},"wordCount":3798,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/mawr-dyfan-lewis-llun-gan-esyllt-lewis.jpg","keywords":["Llywodraeth Cymru","Y Gymraeg"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/","name":"Gwers galed Felindre: galw am gyfundrefn gadarn i warchod ysgolion Cymraeg gwledig - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/mawr-dyfan-lewis-llun-gan-esyllt-lewis.jpg","datePublished":"2020-02-09T03:40:24+00:00","dateModified":"2020-03-30T12:12:52+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/mawr-dyfan-lewis-llun-gan-esyllt-lewis.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/mawr-dyfan-lewis-llun-gan-esyllt-lewis.jpg","width":640,"height":426},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/02\/09\/felindre\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Gwers galed Felindre: galw am gyfundrefn gadarn i warchod ysgolion Cymraeg gwledig"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9f76923ccbc42eba4a81dc6fa789ac2a","name":"Angharad Dafis","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9d78acfa05b988ad4eb1689fcb95f74d2fac4f81473871a557b8fa0f24d91575?s=96&d=mm&r=g","caption":"Angharad Dafis"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/angharaddafis\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/489","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/20"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=489"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/489\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":552,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/489\/revisions\/552"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/490"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=489"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=489"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=489"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}