{"id":523,"date":"2020-03-20T01:31:21","date_gmt":"2020-03-20T01:31:21","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=523"},"modified":"2020-03-22T00:39:02","modified_gmt":"2020-03-22T00:39:02","slug":"golau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/20\/golau\/","title":{"rendered":"Y golau a ddychwel"},"content":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r nos ar ei dywyllaf cyn ddaw&#8217;r wawr. Dyma eiriau i&#8217;w gofio yn nyfnderoedd argyfwng COVID-19. Wedi&#8217;r diwedd disymwth i Brexit a&#8217;r dilyw diweddar, mae ymadrodd arall yn neidio i&#8217;r meddwl &#8211; sef bod pethau drwg yn digwydd mewn trioedd. Mae&#8217;r digwyddiad diweddaraf yma, fodd bynnag, o fath arall &#8211; anhrefn, ar raddfa Feiblaidd.<\/p>\n<p>Cymorth o fath yw ceisio fframio&#8217;r digwyddiadau yma yn nhermau hanesyddol diweddar, yn enwedig mewn perthynas \u00e2 datgymalu graddol y wladwriaeth Brydeinig. Mae&#8217;r bennod bresennol yn un sy&#8217;n teimlo fel y weithred olaf ond un, mewn cyfres o hanesion trasig &#8211; ac mae&#8217;n briodol rhywsut bod y byd yn rhythu arnom mewn arswyd ac anghrediniaeth, wrth i&#8217;r llywodraeth pentyrru mwy o ddioddefaint ar ei phobl, trwy&#8217;r cyfuniad hwnnw o dwpdra ac anwiredd yr ydym bellach mor gyfarwydd ag ef. Gellir benthyca o <a href=\"https:\/\/www.opendemocracy.net\/en\/opendemocracyuk\/on-anthony-barnett-s-lure-of-greatness\/\">waith Anthony Barnett wrth olrhain yr hanesion yma<\/a>, gan ddechrau gydag ergydion drom Thatcheriaeth ar ein cymunedau dosbarth gweithiol, ac yna meddwl am drychineb polisi tramor Rhyfel Irac a fu mor niweidiol i hunanddelwedd Prydain, cyn troi at y trychineb ariannol a&#8217;r llymder dilynol, ac yna hanes y niferoedd sylweddol yna o&#8217;r cymunedau rheiny a ddioddefodd ers Thatcher, a ddefnyddiodd Brexit fel modd i daro&#8217;n \u00f4l. Mae anallu ein llywodraeth i ymdopi \u00e2&#8217;r trychineb sydd ar ddod &#8211; a ddallwyd gan yr obsesiwn \u00e2 Brexit ac sydd yn amlwg awyddus i arddangos eu &#8220;rhyddid&#8221; newydd trwy wneud pethau&#8217;n wahanol &#8211; yn crynhoi eironi trasig y Deyrnas Gyfunol erbyn heddiw. Hy, anwybodus ac afiach: hen ddyn dryslyd, s\u00e2l Ewrop.<\/p>\n<p>Rhaid cofio, wrth gwrs, fod rhan o&#8217;r awydd i wneud pethau&#8217;n wahanol ynghylch COVID-19 yn adlewyrchu ideoleg sydd yn dyrchafu&#8217;r farchnad; gellir ei ddisgrifio naill ai fel adlewyrchiad o&#8217;n diwylliant neoryddfrydol sydd wedi&#8217;i wreiddio&#8217;n ddwfn yn ein cymdeithas, ac sy&#8217;n rhoi elw o flaen pob dim arall, neu fynegiant efallai o ryddfrydiaeth <em>laissez-faire<\/em> mwy clasurol y gallai Boris Johnson fod eisiau uniaethu ag ef. Pa un bynnag, mae&#8217;r canlyniad yr un peth. Mae wedi cymryd embaras rhyngwladol, a&#8217;r sylweddoliad y gall 400,000 farw, er mwyn iddo newid ei gwrs. Ac efallai bydd yna dro yn y gynffon yma, o ystyried y <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2020\/mar\/18\/labour-mps-alarmed-covid-19-laws-being-passed-without-vote\">pwerau aruthrol<\/a> sydd newydd eu trosglwyddo i&#8217;r wladwriaeth yn sgil y crochlefau cyhoeddus i weithredu. Efallai y byddai Johnson wedi gobeithio &#8211; mewn amrant Churchillaidd &#8211; ysbrydoli&#8217;r boblogaeth i weithredu mewn ysbryd o undod cenedlaethol, ond ar \u00f4l gwneud gymaint a neb i ddileu unrhyw ymdeimlad gweddilliol o Brydeindod unedig, adeiladol, nid oedd hynny byth yn debygol o ddigwydd. Ac felly rhaid bod ar ein gwyliadwraeth nawr wrth roi sylw i sut y bydd Rhif 10 Downing Street yn ceisio defnyddio&#8217;r pwerau newydd hyn &#8211; dros bethau fel arestio, cadw a chwarant\u00een &#8211; at eu dibenion eu hunain.<\/p>\n<p>Felly ble mae hyn yn ein gadael ni yng Nghymru? Wel, un agwedd ar y stori na chyfeiriwyd ati uchod oedd digwyddiad seismig datganoli o dan Blair. Nid oedd bryd hynny, ac nid yw bellach yn cael ei ystyried felly (proses, cariad bach, nid digwyddiad). Fodd bynnag, wrth dystio i&#8217;r DU yn gwegian o dan straen y <a href=\"https:\/\/www.opendemocracy.net\/en\/opendemocracyuk\/on-anthony-barnett-s-lure-of-greatness\/\">datblygiadau y cyfeiriodd Barnett atynt<\/a>, anodd yw peidio casglu bod y penderfyniad hwn wedi creu&#8217;r amodau ar gyfer posibiliadau newydd, a allai, o dan yr amgylchiadau presennol, cynnig rhyw sail am obaith.<\/p>\n<p>Yr hyn sydd wedi bod yn fwyaf siomedig yn ymateb Llywodraeth Cymru hyd yn hyn yw nad yw wedi cyd-fynd \u00e2 rhagdybiaethau sylfaenol datganoli; nid dim ond y ffaith bod iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg wedi&#8217;u datganoli, ond bod y cysyniad o ddatganoli ei hun wedi&#8217;i seilio ar y syniad bod Cymru yn gyfundrefn unigryw gyda&#8217;i phobl a&#8217;i diwylliant gwleidyddol ei hun, sy&#8217;n ystyried y byd mewn modd gwahanol, ac sydd \u00e2 thraddodiadau a phrofiadau gwahanol i alw arnynt. Mae&#8217;n ddiawledig o drist bod yr wythnos ddiwethaf hon wedi datblygu gyda stori&#8217;r g\u00eam rygbi a&#8217;r gigs Stereophonics yn rhoi miloedd mewn perygl, gan adlewyrchu amharodrwydd ar ran y llywodraeth Lafur i <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/15\/iechyd\/\">gymryd yr awenau a diffinio ymateb a allai fod wedi bod mor wahanol<\/a>. Yn wahanol i Brydain fel gwladwriaeth, mae gan Gymru atgof byw iawn o undod, cydsefyll ac ysbryd cymunedol a all ein helpu ar adeg fel hon. O ystyried ein bod yn byw mewn byd cenedlaetholgar &#8211; hynny yw, un lle mae&#8217;r mwyafrif o bobl yn ystyried bod y genedl (neu genhedloedd) yn cynrychioli rhan o&#8217;u hunaniaethau cymhleth &#8211; onid bellach yw&#8217;r amser i ddefnyddio&#8217;r grym hwnnw er daioni, a manteisio ar ein hymdeimlad o berthyn er mwyn ymateb ar y cyd? Gall rhethreg o&#8217;r fath fod o gymorth wrth greu ewyllys ac ysbryd i&#8217;n helpu trwy&#8217;r amseroedd anodd hyn, ac annog y syniad o hunanaberth er budd pawb. Gadewch i ni ofalu amdanom ni&#8217;n hunain a&#8217;n gilydd, a gwneud yr hyn sy&#8217;n angenrheidiol i oroesi orau y gallwn, yn ystod yr amser hwn.<\/p>\n<p>Ac yn y modd yma, rhaid i ni ystyried ein hymateb nawr fel yr hyn bydd yn diffinio ein llwybr yn y dyfodol. Gall y modd yr ydym yn ymdopi \u00e2&#8217;r drychineb hon fod yn allweddol yn yr hyn sy&#8217;n digwydd wedyn. Dywedir yn aml am ryfel bod yn rhaid ei gynnal gyda&#8217;r bwriad o sicrhau heddwch cyfiawn, ac er nad yw&#8217;r gyfatebiaeth yn un hollol addas, mae&#8217;r un ymdeimlad yna, sef bod yn rhaid i ni edrych ar ein gweithredoedd nawr gyda golwg ar natur cymdeithas y dyfodol yr ydym ei eisiau. Oherwydd oddi fewn yr epidemig hwn y mae hanfod newid oesol, yn arbennig gan ei fod yn digwydd ar adeg pan mae angen byd o&#8217;r newydd, yn seiliedig ar werthoedd newydd, er mwyn amddiffyn ein hamgylchedd naturiol ac arbed ein hunain rhag gwleidyddiaeth casineb, rhagfarn a hiliaeth sydd wedi wedi lledu fel t\u00e2n yn y gwyllt.<\/p>\n<p>Ac os bydd rhywun yn edrych amdanynt mewn modd pendant a ffyddiog, mae&#8217;n posib dirnad yr arwyddion o&#8217;r drefn newydd yn amlygu eu hunain yma; cymunedau sy&#8217;n trefnu eto i ofalu am eu hunain, <a href=\"https:\/\/www.voice.wales\/\">cyfryngau annibynnol radical<\/a> yn ceisio codi llais, trafodaethau difrifol ynghylch y posibiliadau ar gyfer mesurau fel Incwm Sylfaenol Cyffredinol. Mae&#8217;r awr dywyll iawn hon yn rhybudd olaf na ellir cynnal ein ffordd o fyw hyper-gyfalafol, hyper-fyd-eang a hyper-brynwriol, ac o&#8217;r diwedd &#8211; i gofio <a href=\"https:\/\/www.versobooks.com\/books\/2937-the-old-is-dying-and-the-new-cannot-be-born\">geiriau<\/a> <a href=\"https:\/\/www.iwa.wales\/agenda\/2015\/10\/devolutions-passive-revolution\/\">Gramsci<\/a> &#8211; rhaid i&#8217;r newydd cael ei eni.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r nos ar ei dywyllaf cyn ddaw&#8217;r wawr. Dyma eiriau i&#8217;w gofio yn nyfnderoedd argyfwng COVID-19. Wedi&#8217;r diwedd disymwth i Brexit a&#8217;r dilyw diweddar, mae ymadrodd arall yn neidio i&#8217;r &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/20\/golau\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Y golau a ddychwel&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":526,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[86,83],"class_list":["post-523","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-coronafirws","tag-covid-19","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Y golau a ddychwel - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Y golau a ddychwel - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae&#8217;r nos ar ei dywyllaf cyn ddaw&#8217;r wawr. Dyma eiriau i&#8217;w gofio yn nyfnderoedd argyfwng COVID-19. Wedi&#8217;r diwedd disymwth i Brexit a&#8217;r dilyw diweddar, mae ymadrodd arall yn neidio i&#8217;r &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Y golau a ddychwel&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/20\/golau\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-03-20T01:31:21+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-03-22T00:39:02+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/ywawr.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"900\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Huw Williams\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Huw Williams\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"10 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/\"},\"author\":{\"name\":\"Huw Williams\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\"},\"headline\":\"Y golau a ddychwel\",\"datePublished\":\"2020-03-20T01:31:21+00:00\",\"dateModified\":\"2020-03-22T00:39:02+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/\"},\"wordCount\":2077,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/ywawr.jpg\",\"keywords\":[\"coronafirws\",\"COVID-19\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/\",\"name\":\"Y golau a ddychwel - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/ywawr.jpg\",\"datePublished\":\"2020-03-20T01:31:21+00:00\",\"dateModified\":\"2020-03-22T00:39:02+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/ywawr.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/ywawr.jpg\",\"width\":1200,\"height\":900},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Y golau a ddychwel\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b\",\"name\":\"Huw Williams\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Huw Williams\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Y golau a ddychwel - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Y golau a ddychwel - undod","og_description":"Mae&#8217;r nos ar ei dywyllaf cyn ddaw&#8217;r wawr. Dyma eiriau i&#8217;w gofio yn nyfnderoedd argyfwng COVID-19. Wedi&#8217;r diwedd disymwth i Brexit a&#8217;r dilyw diweddar, mae ymadrodd arall yn neidio i&#8217;r &hellip; Parhau i ddarllen \"Y golau a ddychwel\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/20\/golau\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-03-20T01:31:21+00:00","article_modified_time":"2020-03-22T00:39:02+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":900,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/ywawr.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Huw Williams","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Huw Williams","Est. reading time":"10 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/"},"author":{"name":"Huw Williams","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b"},"headline":"Y golau a ddychwel","datePublished":"2020-03-20T01:31:21+00:00","dateModified":"2020-03-22T00:39:02+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/"},"wordCount":2077,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/ywawr.jpg","keywords":["coronafirws","COVID-19"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/","name":"Y golau a ddychwel - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/ywawr.jpg","datePublished":"2020-03-20T01:31:21+00:00","dateModified":"2020-03-22T00:39:02+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/ywawr.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/ywawr.jpg","width":1200,"height":900},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/20\/golau\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Y golau a ddychwel"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/ef8132aa81918de0ed30a2338e57553b","name":"Huw Williams","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ff32e517a77c32796beb8ce32e56d113e7b0f2ec1b1551d5582d6dddf126547c?s=96&d=mm&r=g","caption":"Huw Williams"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/huwlloydwilliams\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/523","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=523"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/523\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":527,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/523\/revisions\/527"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/526"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=523"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=523"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=523"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}